Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o'r cymorth gofal plant sydd ar gael yng Nghymru i rieni mewn addysg, hyfforddiant neu wrth ddychwelyd i'r gwaith, sy’n canolbwyntio ar nodi bylchau mewn cymorth.

Mae'r adolygiad yn archwilio pa fathau o gymorth sydd ar gael; pa fylchau, os o gwbl, sydd yn y cymorth hwnnw; a yw'r cymorth sydd ar gael yn ddigonol i ddileu'r rhwystrau rhag addysg a gwaith i'r rhieni hyn a pha newidiadau, os o gwbl, y byddai eu hangen i leihau'r rhwystrau i rieni mewn addysg neu hyfforddiant neu sy’n ceisio dychwelyd i'r gwaith.

Dylai cymorth gofal plant hyblyg a chynhwysfawr fod yn rhan annatod o systemau cymorth i alluogi rhieni i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Er gwaethaf effaith gadarnhaol cymorth gofal plant, mae grwpiau o bosibl yn colli'r cyfle i ddychwelyd i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, yn ogystal â heriau ychwanegol sy'n creu rhwystrau i rieni.

Er bod angen ymchwilio ymhellach i sut y gellid cefnogi'r rhai sy'n colli allan ar gymorth ariannol ar gyfer gofal plant, nid argymhellir y dylid ailgynllunio'r Cynnig Gofal Plant i gynnwys myfyrwyr a'r rhai sydd fin mentro i fyd cyflogaeth. Fel dewis arall, dylid mynd i'r afael â'r bylchau mewn cymorth drwy adolygu cwmpas y rhaglenni presennol a chreu gwell cysylltiadau rhyngddynt.

Mae angen cymryd camau i leihau cymhlethdod cynlluniau cymorth gofal plant a gofynion cymhwysedd. Dylid adolygu'r dulliau a ddefnyddir i gyfathrebu â dysgwyr er mwyn hyrwyddo'r pecyn cymorth i'r grwpiau targed hyn ac egluro'r cymorth sydd ar gael.

Cyswllt

Roisin O’Brien

Rhif ffôn: 0300 025 5381

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.