Neidio i'r prif gynnwy

Ein hymateb i adolygiad o gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru, a gynhaliwyd gan ein Rhaglen Ymchwil Mewnol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Argymhelliad 1

Argymhellir y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cymorth a chanllawiau pellach i awdurdodau lleol wrth weinyddu Cynllun y Bathodyn Glas.

Dylai’r canllawiau fynd i’r afael â’r canlynol: 

  • hyfforddi staff awdurdodau lleol sy'n asesu ceisiadau am fathodynnau glas. Dylai hyfforddiant gefnogi staff awdurdodau lleol i ddeall sut y dylid dehongli'r meini prawf cymhwysedd a'u cymhwyso. Byddai hyn yn mynd rhywfaint o’r ffordd i sicrhau bod ceisiadau’n cael eu hasesu gan awdurdodau lleol mor gyson â phosibl.
  • diben a swyddogaeth pecyn cymorth bathodyn glas Llywodraeth Cymru a’i ddefnydd bwriadedig gan awdurdodau lleol gan gynnwys sicrhau bod adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal.
  • pryd a pham y dylid cyfeirio achosion cymhleth at y Gwasanaeth Cynghori Annibynnol (IAS).
  • prosesau a’r amserlen i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ychwanegol i gefnogi eu cais.
  • prosesau ar gyfer ymdrin â cheisiadau aflwyddiannus.
  • cofnodi a storio data bathodyn glas gan sicrhau bod data'n cael ei gasglu'n fwy cyson er mwyn gwella ei ansawdd. Gallai hyn gynnwys cadw pob cais am fathodyn glas yn electronig, neu drosi’r holl gofnodion anelectronig i gofnod electronig sydd wedyn yn cael ei lanlwytho i’r BBDS.
  • cydweithredu i hwyluso cyhoeddi ystadegau ar Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru, gan adlewyrchu'r trefniadau sydd gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) ag awdurdodau lleol yn Lloegr.
  • cymryd rhan mewn gweithgorau i rannu arferion gorau ledled Cymru.

Ymateb: derbyn

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cymorth pellach i gefnogi awdurdodau lleol ac yn cryfhau deunyddiau canllaw cyfredol i awdurdodau lleol ar y Cynllun Bathodyn Glas. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy barhau i weithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn sicrhau dull gweithredu mwy cyson o ran darparu’r gwasanaeth a chanlyniadau penderfyniadau leded Cymru.

Argymhelliad 2

Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn parhau i archwilio cyfleoedd i leihau’r baich ar ymgeiswyr bathodyn glas.

Er enghraifft, efallai y bydd angen i rai ymgeiswyr sy’n cael eu hasesu ymhellach gyflwyno gwybodaeth ddyblyg ar draws gwahanol ffurfiau, gan weithio mewn partneriaeth â’i Gwasanaeth Cynghori Annibynnol, yr awdurdodau lleol, yr Adran Drafnidiaeth a chontractwr Gwasanaeth Digidol y Bathodyn Glas.

Ymateb: derbyn

Bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio cyfleoedd i adnewyddu’r ffurflenni cais yn unol yn y man cyntaf â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Cynghori Annibynnol er mwyn osgoi unrhyw ddyblygu.  Byddwn hefyd yn sicrhau bod y cwestiynau yn galluogi ymgeiswyr i roi digon o wybodaeth i gefnogi eu cais am fathodyn glas o dan y maen prawf. 

Yn ail, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Adran Drafnidiaeth, Lloegr, a’u contractwr sy’n darparu Gwasanaeth Digidol Bathodyn Glas y DU i bob gwlad, i ddiweddaru’r ceisiadau ar-lein. 

Fodd bynnag, wrth wneud y gwelliant hwn bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried deddfwriaeth diogelu data wrth gyrchu data personol a’u rhannu.

Argymhelliad 3

Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno proses gyflym o wneud cais ar gyfer ymgeiswyr cymwys sydd â diagnosis niwroddirywiol sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n achosi anhawster sylweddol iawn i gerdded.

Ymateb: derbyn

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn hyrwyddo proses gyflym o wneud cais i awdurdodau lleol ar gyfer ‘achosion arbennig’ ar gyfer pobl sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n profi amhariad symudedd. Fodd bynnag, byddwn yn edrych ar hyn â’r nod o gryfhau’r canllawiau cyfredol i awdurdodau lleol ar y rhai sy’n cael eu categoreiddio fel ‘achosion arbennig’.

Argymhelliad 4

Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn cychwyn deialog gyda swyddogion Llywodraeth yr Alban i fesur i ba raddau y mae ymestyn y meini prawf cymhwysedd yn yr Alban i gynnwys Clefyd Niwronau Motor wedi effeithio ar gapasiti gweinyddol a chapasiti seilwaith.

Ymateb: derbyn

Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod gyda swyddogion polisi Llywodraeth yr Alban i ystyried cymhwysedd bathodyn glas o safbwynt pobl sy’n cael diagnosis o glefyd Motor Neurone. 

Argymhelliad 5

Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn cysylltu ag awdurdodau lleol i gael gwell dealltwriaeth o gapasiti’r seilwaith parcio bathodyn glas ac effaith bosibl ymestyn y meini prawf.

Ymateb:derbyn

Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod â swyddogion CLlLC ar y mater hwn.