Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru
  • Lisa Taylor, yr Eglwys yng Nghymru
  • Dr Lowri Jones, Estyn
  • Jeff Fish, ALl Abertawe / Cadeirydd Grŵp Swyddogion Cefnogi Llywodraethwyr
  • Trystan Edwards, Pennaeth, Ysgol Garth Olwg / Y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid
  • Sue Walker, Cyfarwyddwr Addysg, Awdurdod Lleol Merthyr Tudful / Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
  • Angela Keller, Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig
  • Emyr Harries, Seilwaith, Llywodraethiant a Chyllid Addysg, Llywodraeth Cymru (Cadeirydd)
  • Claire Horton, Llywodraethiant, Trefniadaeth a Derbyniadau i Ysgolion, Llywodraeth Cymru
  • Paul Jones, Llywodraethiant, Trefniadaeth a Derbyniadau Ysgolion, Llywodraeth Cymru
  • Sian Jones, Diogelu mewn Addysg, Llywodraeth Cymru
  • Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (bore yn unig)

Cafwyd ymddiheuriadau gan Cerys Furlong, Cadeirydd y Llywodraethwyr, Ysgol Uwchradd Fitzalan.

Diweddariad gan dîm adolygu cyrff llywodraethu

Cafodd y Grŵp ddiweddariad ar yr trafodaethau parhaus â rhanddeiliaid ers y cyfarfod diwethaf. Mae 50 o drafodaethau eraill wedi digwydd neu yn y dyddiadur dros yr wythnosau nesaf, gyda phwyslais ar lywodraethwyr, rhieni, dysgwyr a staff, a chymysgedd o weithdai wedi'u hwyluso, trafodaethau gydag unigolion a sesiynau ar agendâu penodol y grŵp. Mae'r sector cyfrwng Cymraeg hefyd wedi bod yn ffocws yn ddiweddar, ac mae arolwg i ddysgwyr a gynhaliwyd drwy Gymru Ifanc i fod i adrodd yn ôl ddiwedd mis Mai.

Diweddariad ar yr adolygiad diogelu

Derbyniodd y Grŵp ddiweddariad ar yr adolygiad diogelu cysylltiedig, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cadw cysondeb rhwng y ddau adolygiad a chadw diogelu yn ganolog i drafodaethau. Mae'r Llywodraeth newydd wedi nodi ei disgwyliadau ynghylch diogelu ac mae swyddogion yn gweithio ar hyn. Mae cynlluniau pellach ar gyfer yr adolygiad diogelu mewn addysg yn amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidogion newydd.

Cwynion am ysgolion

Cafodd y grŵp sesiwn benodol ar gwynion am ysgolion gyda chyflwyniadau gan y Comisiynydd Plant, Jeff Fish a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, a chawsant eu hatgoffa o'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau cyfredol gan y tîm adolygu.

Rhannodd pob un eu safbwynt a'u profiad o ran cwynion am ysgolion a lle roedd angen gwelliannau. Clywodd y grŵp fod cynnydd sylweddol wedi bod mewn cwynion, gyda chynnydd yn nifer y cwynion hir a chymhleth iawn a gynhyrchwyd gan DdeaIlusrwydd Artiffisial. Roedd hyn yn cael ei adlewyrchu ar draws yr holl sector cyhoeddus.

Mewn rhai achosion, nid yw'r achwynwyr yn teimlo eu bod yn cael gwasanaeth digon da gan gyrff llywodraethu ac maent yn teimlo nad oes digon o annibyniaeth yn y system i gael canlyniad boddhaol. Nid yw hefyd yn glir pa rôl sydd gan y Comisiynydd Plant a rhai sefydliadau eraill fel Estyn a CGA yn y broses.

Mae'r Ombwdsmon wrthi'n gwneud rhywfaint o waith archwilio i weld a ddylid ymestyn eu cylch gwaith i gynnwys cwynion am ysgolion. Mae'r sesiwn adrodd yn ôl i'r Senedd ar y gwaith hwn yn yr hydref ac felly mae'n amserol ar gyfer yr adolygiad o gyrff llywodraethu.

Mae'n amlwg bod angen rhywfaint o waith adolygu pellach ar ganllawiau presennol Llywodraeth Cymru, a chynnwys canllawiau i achwynwyr.

Y model "Cyfleoedd+"

Cyflwynwyd gwybodaeth i'r grŵp am fodel Cyfleoedd+ sy'n enghraifft o gydweithio rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg. Roedd yn amlwg bod manteision gwirioneddol i'r model cynaliadwy hwn, gan gynnwys rhannu arferion gorau, codi safonau a chynyddu capasiti o fewn y system ysgolion.

Gwahoddwyd y grŵp i ystyried sut y gellid defnyddio'r model hwn yn ehangach.

Adolygiad tâl a llenyddiaeth

Rhoddodd y tîm adolygu ddiweddariad ar y gwaith cwmpasu sydd wedi'i wneud i ddeall cydraddoldeb i lywodraethwyr ag aelodau eraill o fyrddau cyrff cyhoeddus, gan gynnwys tâl yn y system bresennol ar gyfer cyrff llywodraethu.

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru wedi nodi llenyddiaeth am gyrff llywodraethu a gyhoeddwyd dros y 10 mlynedd diwethaf. Canfuwyd 57 canlyniad i gyd; roedd 23 ohonynt yn canolbwyntio ar Gymru ac roedd 34 yn rhyngwladol. Mae'r canlyniadau wedi'u rhannu gyda'r grŵp a wahoddwyd i wneud sylwadau ar ba wersi y gellir eu dysgu o'r adroddiadau.

Y camau nesaf

Bydd cam ymgysylltu cychwynnol yr adolygiad wedi cael ei gwblhau i raddau helaeth erbyn diwedd mis Mehefin. Bydd y tîm adolygu yn darparu adroddiad interim i Weinidogion yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd hyn hefyd yn cael ei rannu gyda'r grŵp. Bydd cyfarfod nesaf y grŵp cyfeirio yn cael ei drefnu unwaith y bydd trafodaethau cychwynnol gyda'r Gweinidogion wedi digwydd a bydd yn canolbwyntio ar y cam nesaf o brofi argymhellion ar gyfer newid.