Adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru: cylch gorchwyl
Rôl Grŵp cyfeirio corff llywodraethu ysgolion yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben
Mae gan gyrff llywodraethu yng Nghymru ystod eang ac amrywiol o gyfrifoldebau sy'n cael eu nodi mewn deddfwriaeth ac yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru. Maent yn chwarae rhan ganolog yn y system ysgol, gan gefnogi dysgwyr a staff ysgolion. Mae'r system ysgolion yng Nghymru wedi gweld newidiadau enfawr dros y degawd diwethaf, gyda dyletswyddau ychwanegol neu ddiwygiedig yn cael eu gosod ar gyrff llywodraethu, ond nid yw rôl cyrff llywodraethu ysgolion wedi newid mewn unrhyw ffordd sylfaenol.
Mae awdurdodau lleol a Chomisiynydd Plant Cymru wedi galw am adolygiad o gyrff llywodraethu yng Nghymru.
Bydd adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru yn cael ei gynnal gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Bydd yr adolygiad yn cael ei gefnogi gan grŵp cyfeirio i ddarparu gwybodaeth, barn a chyngor. Bydd yn:
- ystyried canfyddiadau ac argymhellion gwaith blaenorol a wnaed yn y maes hwn, gan gynnwys adolygiad thematig Estyn yn 2023
- darparu cyngor a her ar gwmpas, methodoleg a chanfyddiadau ac opsiynau sy'n dod i'r amlwg
- gweithredu fel ffrind beirniadol, gan sicrhau bod yr adolygiad yn gytbwys, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn adlewyrchu safbwyntiau rhanddeiliaid allweddol
- sicrhau bod aelodau'n cynrychioli safbwyntiau eu sector a sefydliad ac yn cyfrannu at gonsensws
- cefnogi cydlyniant a hygrededd argymhellion, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â diwygiadau addysg ehangach
- cyfrannu at nodi risgiau, cyfleoedd a goblygiadau ymarferol ar gyfer gweithredu
Bydd y grŵp cyfeirio yn gynrychioliadol o'r sector ysgolion yng Nghymru ac ni fydd yn gwneud penderfyniadau neu argymhellion polisi, ond bydd yn darparu mewnbwn i lywio opsiynau a chamau gweithredu posibl ar gyfer y gwaith.
Cwmpas
Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio'n bennaf ar effeithiolrwydd, atebolrwydd, priodoldeb a mecanweithiau cymorth cyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys sut mae hyn wedi'i nodi mewn deddfwriaeth.
Wrth wneud hynny, ac wrth edrych ar yr ystod lawn o gyfrifoldebau a roddir i gyrff llywodraethu, bydd y themâu canlynol yn cael eu trafod:
- Strwythur a rolau
- Cyfansoddiad y cyrff llywodraethu (cynrychiolaeth rhieni, staff, cymuned, enwebai o'r awdurdod lleol)
- Eglurder a phriodoldeb rolau a chyfrifoldebau rhwng llywodraethwyr, penaethiaid ac awdurdodau lleol
- Effeithiolrwydd ac effaith
- Sut mae cyrff llywodraethu yn cyfrannu at godi safonau addysgol
- Ansawdd yr her a'r gefnogaeth a ddarperir i arweinwyr ysgol
- Effaith ar welliant ysgolion a chanlyniadau dysgwyr
- Cymorth a hyfforddiant
- Argaeledd, hygyrchedd ac effeithiolrwydd hyfforddiant a chanllawiau i lywodraethwyr
- Ansawdd y clercio a'r cymorth gweinyddol
- Cysondeb y cymorth ar draws gwahanol awdurdodau lleol a rhanbarthau
- Atebolrwydd a goruchwylio
- Cydymffurfio â dyletswyddau statudol (diogelu, cyllid, cwricwlwm, cynhwysiant)
- Sut mae cyrff llywodraethu yn cael eu dal i gyfrif gan awdurdodau lleol, Estyn a Llywodraeth Cymru
- Recriwtio a chadw staff
- Y broses ar gyfer recriwtio llywodraethwyr (gan gynnwys amrywiaeth a chynrychiolaeth)
- Cadw staff, llwyth gwaith a rhwystrau i gyfranogiad effeithiol
- Arferion gorau ac arloesedd
- Enghreifftiau o gyrff llywodraethu perfformiad uchel ac arferion arloesol
- Cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng ysgolion a chyrff llywodraethu
Yr amserlen
Rhagwelir y bydd yr adolygiad yn cymryd tua 6 i 9 mis gyda'r nod o ddarparu adroddiad i Weinidogion Cymru erbyn haf 2026.
