Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Comisiynwyd Ymchwil OB3 gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o Raglen Plant Iach Cymru.

Rhaglen Plant Iach Cymru (y rhaglen) yw'r fframwaith cenedlaethol sy'n amlinellu'r cynnig cyffredinol o gysylltiadau iechyd plant, gwasanaethau sgrinio, cadw gwyliadwriaeth a hybu iechyd i bob plentyn a theulu yng Nghymru. Cafodd ei lansio yn 2016 ac mae'n cwmpasu'r cyfnod sy'n ymestyn o bontio o wasanaethau mamolaeth i fabandod, plentyndod cynnar a'r blynyddoedd ysgol cynnar, gan sefydlu amserlen sylfaenol o gysylltiadau wedi'u cynllunio a ddarperir yn bennaf gan wasanaethau ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol.

Nodau'r adolygiad oedd asesu effaith ganfyddedig Rhaglen Plant Iach Cymru ac archwilio a yw'r ffordd y caiff ei darparu ar hyn o bryd yn addas at y diben ac yn cefnogi amcanion y rhaglen.

Roedd y rhaglen waith ar gyfer yr ymchwil yn cwmpasu'r canlynol:

  • cam cychwynnol
  • adolygiad desg o bolisïau iechyd plant perthnasol, rhaglenni rhyngwladol tebyg ar gyfer iechyd plant a data cyhoeddedig Rhaglen Plant Iach Cymru
  • datblygu offer ymchwil, gan gynnwys arolygon a chanllawiau trafod
  • gwaith maes gyda rhanddeiliaid strategol, ymwelwyr iechyd arweiniol, staff gwasanaethau ymwelwyr iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n ymwneud â Rhaglen Plant Iach Cymru, rhieni a gwarcheidwaid

Canfyddiadau

Nodir ein casgliadau isod mewn perthynas â'r 8 amcan a nodwyd ar gyfer yr adolygiad o Raglen Plant Iach Cymru.

Adolygu nodau ac amcanion gwreiddiol Rhaglen Plant Iach Cymru

Mae amcanion gwreiddiol Rhaglen Plant Iach Cymru yn parhau i fod yn briodol a cheir cefnogaeth eang iddynt. Mae'r rhaglen yn parhau i ddarparu fframwaith cenedlaethol, cyffredinol sy'n sefydlu disgwyliadau clir ar gyfer cysylltiadau gan wasanaethau ymwelwyr iechyd o'r adeg pan gaiff plentyn ei eni hyd at 3.5 mlwydd oed. Caiff y cysondeb y mae'n ei ddarparu ei werthfawrogi ar draws y meysydd polisi, rheoli a darpariaeth rheng flaen ac ystyrir bod hyn yn ganolog i sicrhau mynediad teg i deuluoedd ledled Cymru.

Mae nodau gwreiddiol Rhaglen Plant Iach Cymru, sef cymorth cyffredinol yn y blynyddoedd cynnar, adnabod ac ymyrryd yn gynnar, a lleihau anghydraddoldebau yn parhau i fod yn ddilys ac yn berthnasol, ac fe'u cefnogir yn gryf gan randdeiliaid. Ystyrir bod y rhaglen yn fframwaith blaenllaw sy'n darparu rhwyd ddiogelwch a chynnig cyson, ac mae'r cysylltiadau cynnar (10 i 14 diwrnod a 6 wythnos) yn cael eu cyflawni'n dda ac yn cael eu gwerthfawrogi.

Dengys y dystiolaeth fod diffyg cyfatebiaeth cynyddol rhwng amcanion ffurfiol Rhaglen Plant Iach Cymru a realiti ymarfer ymwelwyr iechyd. Mae ymwelwyr iechyd yn adrodd yn gyson mai dim ond cyfran o'u llwyth gwaith y mae'r rhaglen yn ei gwmpasu a bod llawer o'u hamser yn cael ei neilltuo i waith cymhleth, heb ei drefnu sy'n aml yn waith dwys y tu allan i strwythur ffurfiol y rhaglen. O ganlyniad, gall y rhaglen deimlo fel pe bai'n canolbwyntio'n ormodol ar dasgau ac nid yw'n adlewyrchu ehangder a chymhlethdod rôl gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn fanwl gywir. Y canlyniad yw bod gweithwyr proffesiynol yn teimlo bod hyn yn ormod o faich a chaiff hyn ei waethygu ymhellach gan gyfyngiadau ar gapasiti'r gweithlu, cymhlethdod teuluol cynyddol, a phwysau anhyblyg i sicrhau cydymffurfiaeth.

Capasiti'r gweithlu yw'r cyfyngiad unigol mwyaf a nodwyd yn yr adolygiad. Disgrifiodd ymwelwyr iechyd gynnydd mewn llwythi achosion, baich gweinyddol, a straen emosiynol, a bod risgiau i forâl a chynaliadwyedd. Ystyriwyd bod anhyblygrwydd cynyddol y rhaglen yn erydu barn broffesiynol ac yn lleihau ei heffeithiolrwydd. Heb fynd i'r afael â'r pwysau ar y gweithlu, mae perygl y bydd ehangu disgwyliadau Rhaglen Plant Iach Cymru ymhellach (gan gynnwys offer neu asesiadau newydd) yn tanseilio ansawdd a pharhad y rhaglen.

Mae perygl nad yw metrigau a disgwyliadau'r rhaglen yn cynrychioli'n gywir y gwasanaethau a ddarperir neu'r mannau ble mae'r pwysau ar ei waethaf. Er enghraifft, nid yw gwaith allweddol ar atal, diogelu ac iechyd meddwl yn ymddangos mewn data cenedlaethol.

Er mai Rhaglen Plant Iach Cymru yw'r fframwaith cywir o hyd, a bod ganddi amcanion cadarn, cyffredinol, mae angen ei moderneiddio er mwyn adlewyrchu cyflymder y newid ac er mwyn sicrhau bod modd ei chyflawni'n ymarferol. Yn benodol, mae angen mynegi'n gliriach sut y mae cysylltiadau cyffredinol y rhaglen yn cyd-fynd â gweithgaredd ehangach gwasanaethau ymwelwyr iechyd. Heb hyn, mae perygl y bydd goruchwyliaeth genedlaethol yn canolbwyntio ar gwblhau cysylltiadau yn hytrach nag ystyried a yw anghenion teuluoedd yn cael eu diwallu'n effeithiol, gan gyfyngu ar allu'r rhaglen i ysgogi gwelliannau ystyrlon.

Mae angen i Raglen Plant Iach Cymru gyflwyno mwy o hyblygrwydd mewn perthynas ag amseriad a chynnwys y cysylltiadau er mwyn cael barn broffesiynol ac ymateb cymesur. Mae angen adolygu ei chwmpas hefyd er mwyn adlewyrchu blaenoriaethau cyfoes fel iechyd meddwl, pwysau iach, anghenion dysgu ychwanegol a cham-drin domestig a rhoi mwy o ffocws ar ganlyniadau (yr hyn sy'n newid o ganlyniad i gysylltiadau) yn hytrach na chyfrif cysylltiadau fel ymarfer 'ticio blychau'.

Cymharu Rhaglen Plant Iach Cymru â rhaglenni rhyngwladol tebyg

Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn cyd-fynd yn fras â rhaglenni iechyd cyhoeddus y blynyddoedd cynnar mewn gwledydd tebyg. Fel llawer o fodelau rhyngwladol, mae'n cyfuno darpariaeth gyffredinol ag ymatebion wedi'u targedu tuag at anghenion ychwanegol, ac mae'n seiliedig ar ethos ataliol ar ffurf ymyrraeth gynnar. Ar yr un pryd, mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos bod gwahanol ddewisiadau polisi yn bosibl. Mae rhai gwledydd yn rhoi mwy o bwyslais ar hawliau statudol neu led-statudol, safonau gofynnol cliriach ar gyfer cyflawni rhaglenni, neu gyswllt mwy dwys yn ystod blynyddoedd cynharaf bywyd. Mae eraill yn strwythuro eu cysylltiadau craidd o amgylch llai o adolygiadau ond rhai sy'n canolbwyntio mwy ar ddatblygiad, wedi'u hategu gan drefniadau integreiddio amlddisgyblaethol cryfach.

Nid yw Rhaglen Plant Iach Cymru yn fodel sefydlog nac anorfod. Mae gan Gymru gyfle i addasu sut y mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno heb danseilio ei hegwyddorion craidd. Awgryma'r dystiolaeth ryngwladol y gallai gwneud newidiadau i amseriad y cysylltiadau a'u hintegreiddio â gwasanaethau eraill gryfhau effaith y rhaglen, ond mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod newidiadau o'r fath yn gofyn am ystyriaeth ofalus o gapasiti'r gweithlu a pharodrwydd y system. Yr awgrym yw y dylid ystyried unrhyw ddiwygiad i'r rhaglen yn y dyfodol fel dewis polisi strategol, yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na rhywbeth sy'n cael ei gyfyngu gan y model presennol.

Hefyd, nid yw rhai o'r materion a godwyd yn ystod yr adolygiad hwn, megis yr heriau o briodoli canlyniadau, casglu data cywir a rhannu cofnodion ar draws timau amlddisgyblaethol, yn unigryw i Raglen Plant Iach Cymru.

O ran y meysydd ble mae'r rhaglen yn wahanol, mae'r rhan fwyaf yn ymwneud ag amseriad a nifer y cysylltiadau a chryfder yr integreiddio â gwasanaethau blynyddoedd cynnar cyfagos (bydwreigiaeth, addysg gynnar, therapi lleferydd ac iaith, pediatreg). Mae gan y gwledydd Nordig rai enghreifftiau sy'n ddefnyddiol i Gymru o sut y gellid cryfhau hyn mewn model cymunedol yn unol ag ethos Cymru Iachach. Ceir hefyd rywfaint o dystiolaeth yn y gymhariaeth ryngwladol bod Cymru'n fwy dibynnol ar fonitro perfformiad mewn perthynas â chwblhau cysylltiadau, a bod cysylltiadau gwannach rhwng data a gwelliant parhaus, lleol.

Archwilio canfyddiadau pobl o effaith Rhaglen Plant Iach Cymru

Mae'n bwysig amlygu'r her o briodoli unrhyw effeithiau a welwyd i Raglen Plant Iach Cymru yn unig, o ystyried bod llawer o agweddau gwerthfawr yn adlewyrchu ymarfer sefydledig gwasanaethau ymwelwyr iechyd; o ganlyniad, mae'n well dehongli'r canfyddiadau fel rhai sy'n dangos lle mae'r rhaglen wedi ychwanegu gwerth at ymarfer presennol gwasanaethau ymwelwyr iechyd yn hytrach na phriodoli effeithiau i'r rhaglen yn unig.

Gall Rhaglen Plant Iach Cymru gael effaith ystyrlon a chadarnhaol ar deuluoedd pan gaiff ei chyflawni yn unol â'r bwriad. Mae adborth gan rieni yn dangos eu bod yn gwerthfawrogi ymweliadau cartref cynnar, perthynas barhaus ag ymwelydd iechyd enwebedig, a mynediad at gyngor proffesiynol a sicrwydd. Mae ymwelwyr iechyd yn disgrifio'r rôl bwysig y mae'r rhaglen yn ei chwarae o ran galluogi'r ymgysylltiad cynnar hwn, meithrin perthnasoedd y mae pobl yn ymddiried ynddynt a nodi pryderon a allai fel yn guddiedig fel arall.

Mae rhieni'n gwerthfawrogi Rhaglen Plant Iach Cymru pan mae'n gweithio'n dda ond adroddwyd am rywfaint o ddryswch ynghylch cysylltiadau diweddarach, cyfathrebu anghyson a phrofiad amrywiol o'r ddarpariaeth yn dibynnu ar yr ardal. Byddai rhieni’n elwa o gael gwell dealltwriaeth o’r rhaglen a chynnig mwy hyblyg, gan y byddai’r newidiadau hyn yn arwain at fwy o ymgysylltiad a llai o apwyntiadau’n cael eu methu.

Ystyrir bod Rhaglen Plant Iach Cymru yn effeithiol o ran adnabod anghenion yn gynnar, amddiffyn plant, cefnogi iechyd meddwl rhieni, a darparu cyngor iechyd ataliol. Mae'r effaith ar ei gryfaf lle mae cysylltiadau'n cael eu cyflwyno mewn ffordd hyblyg ac yn cael eu teilwra i gyd-fynd ag anghenion ond yn wannach lle mae'r ddarpariaeth yn seiliedig ar gydymffurfiaeth.

Mae'r effaith yn anghyson ac yn ddibynnol iawn ar ddarpariaeth leol a chapasiti'r system. Mae profiadau teuluoedd yn amrywio rhwng ardaloedd, gyda rhai yn nodi llai o gyswllt neu gyswllt dilynol cyfyngedig. Thema sy'n codi dro ar ôl tro yn y dystiolaeth yw'r bwlch rhwng adnabod anghenion a darparu cymorth amserol. Mewn llawer o achosion, mae cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru yn llwyddo i nodi pryderon, ond yn aml nid oes mynediad at asesiad neu ymyrraeth, nid ydynt ar gael neu cânt eu gohirio, gan leihau'r budd ymarferol o adnabod anghenion yn gynnar.

Nid yw Rhaglen Plant Iach Cymru yn cyflawni ei heffaith fwriadedig mewn ffordd gyson ar gyfer rhai grwpiau penodol o blant a theuluoedd, yn enwedig plant â lefelau uwch o anghenion sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, teuluoedd sy'n profi ansefydlogrwydd o ran tai neu sy'n symud yn aml, a phlant ag anghenion ychwanegol neu anghenion sy'n dod i'r amlwg fel y rhai sy'n derbyn gofal neu sydd ag anghenion niwroddatblygiadol neu anghenion dysgu ychwanegol posibl. I'r grwpiau hyn, mae cysylltiadau cyfyngedig a rhwystrau o ran cael mynediad at gymorth amserol yn cyfyngu ar werth ataliol y rhaglen.

Tynnwyd sylw droeon at y ffaith bod y rhaglen yn debygol o gael llai o effaith ar blant a chanddynt fwy o anghenion ond sy'n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan y rhaglen Dechrau'n Deg. Dengys y dystiolaeth fod Dechrau'n Deg yn gwella ymgysylltiad ac ymyriadau amserol, yn enwedig mewn cymunedau o amddifadedd, ond mae cymhwystra sy'n seiliedig ar godau post yn creu annhegwch. Yn aml, nid oedd plant sy'n derbyn gofal, a'r rhai ag anghenion niwroddatblygiadol neu anghenion dysgu ychwanegol posibl, yn cael y cymorth ychwanegol yr oedd ei angen arnynt neu nid oedd y broses o adnabod eu hanghenion yn cyd-fynd yn dda ag amserlen Rhaglen Plant Iach Cymru. Roedd llawer o randdeiliaid yn ffafrio model sy'n cael ei arwain gan anghenion sy'n adeiladu ar gysylltiadau cyffredinol y rhaglen ac yn caniatáu i gymorth ychwanegol gael ei ddarparu ar sail barn broffesiynol a phrofiad. Byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael ag annhegwch i deuluoedd â llawer o anghenion y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg gan ddiogelu natur ddistigma darpariaeth gyffredinol.

Nododd ymwelwyr iechyd fod symudedd ac ansefydlogrwydd o ran tai yn rhwystrau mawr i ymgysylltiad parhaus. Roedd teuluoedd a oedd yn symud yn aml rhwng byrddau iechyd, llety dros dro neu ar draws ffiniau yn fwy tebygol o golli cysylltiadau lluosog, o lithro drwy'r rhwyd, ac o brofi oedi cyn cael eu hatgyfeirio.

Hefyd, nid oedd rhieni (mamau a thadau fel ei gilydd) yn cael y cymorth dilynol sydd ei angen arnynt ar gyfer anghenion iechyd meddwl amenedigol neu faterion eraill a nodwyd gan ymwelwyr iechyd.

Adroddodd rhieni sy'n gweithio rwystrau ymarferol o ran mynychu cysylltiadau diweddarach, yn enwedig yr adolygiadau 27-mis a 3.5 mlwydd oed, gan arwain at golli cyfleoedd i adnabod anghenion yn gynnar. Ystyriwyd hefyd bod teuluoedd â gwybodaeth gyfyngedig am ddatblygiad plant neu allu cyfyngedig i eirioli drostynt eu hunain yn fwy tebygol o ymddieithrio neu o gael eu hanwybyddu heb ymgysylltiad hyblyg a chyson. Gofynnodd rhieni’n gyson am gyfathrebu cliriach ynghylch yr hyn y mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn ei gynnig a phryd y bydd y cysylltiadau'n digwydd.

Caiff effaith Rhaglen Plant Iach Cymru ei chyfyngu nid gan ei gallu i adnabod anghenion, ond gan gapasiti'r system ehangach i ymateb iddynt. Mae adnabod anghenion heb ymyrraeth yn cynyddu'r risg o orbryder ymysg rhieni a rhwystredigaeth broffesiynol heb wella canlyniadau. Felly, er mwyn cryfhau'r rhaglen mae angen gwell cyfatebiaeth rhwng y rhaglen a'r gwasanaethau y mae'n atgyfeirio pobl atynt, yn hytrach na rhoi rhagor o bwyslais ar adnabod anghenion yn unig.

Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at y ffaith bod trefniadau pontio (o wasanaethau mamolaeth neu i wasanaeth nyrsys ysgol) yn allweddol ond yn cael eu gweithredu'n anghyson, a bod hyn yn creu risg y bydd plant ag anghenion sy'n dod i'r amlwg neu anghenion lefel is gael eu gadael ar ôl. Mae integreiddio ar ei gryfaf lle mae perthnasoedd a chydleoli yn bodoli ond mae'n parhau i fod yn fregus mewn mannau eraill oherwydd systemau tameidiog ac atebolrwydd aneglur. Byddai gwella eglurder a'r ffordd y caiff y newidiadau hyn eu cyflawni yn lleihau dyblygu ymdrech, yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo rhwng gwasanaethau ac yn gwella profiad teuluoedd.

Nid yw'r canlyniadau a gyflawnwyd gan Raglen Plant Iach Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn data cenedlaethol ar hyn o bryd gan fod y trefniadau adrodd yn canolbwyntio ar p'un a ddigwyddodd y cysylltiadau, yn hytrach nag ar yr hyn a ddigwyddodd neu a newidiodd o ganlyniad iddynt. Mae gweithgaredd allweddol ynghylch diogelu, iechyd meddwl amenedigol, cymorth ychwanegol, a gwaith amlasianataethol oll yn cael eu tanadrodd. Byddai'r rhaglen yn elwa o gael dangosyddion canlyniadau ac ansawdd cyffyrddiad ysgafn (yn ymwneud â'r camau a gymerwyd, yr anghenion a nodwyd, atgyfeiriadau, cyswllt dilynol a datrysiad), a galluogi dolenni adborth lleol fel y gall timau weld a defnyddio eu data yn fwy effeithiol.

Adolygu cynnwys ac amseriad cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru

Mae Rhaglen Plant Iach Cymru ar ei mwyaf effeithiol yn y cyfnod ôl-enedigol cynnar. Mae'r cyfraddau cwblhau ar eu huchaf ar gyfer y cysylltiadau cynharaf, ac mae'r ymweliadau hyn yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan deuluoedd ac ymarferwyr. Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, mae'r cyfraddau cwblhau yn gostwng ar gyfer cysylltiadau diweddarach.

Dengys y dystiolaeth yn gyson fod y cyfnod rhwng 15 a 27 mis yn gyfnod bregus. Mae hwn yn gyfnod o newid datblygiadol cyflym, ond mae'r bwlch hir rhwng y cysylltiadau yn cynyddu'r risg y bydd pryderon sy'n dod i'r amlwg ynghylch lleferydd, iaith, ymddygiad neu sgiliau cymdeithasol yn cael eu hadnabod yn hwyrach nag sy'n ddelfrydol. Y cyswllt cyffredinol yn 3.5 mlwydd oed yw'r elfen fwyaf dadleuol o'r rhaglen, a cheir pryderon cyffredinol ynghylch pa mor ymarferol yw hyn i'w gyflawni, y cyfraddau mynychu a'i werth ychwanegol i deuluoedd nad oes ganddynt unrhyw anghenion a nodwyd.

Yr awgrym yw nad yw'r amserlen gyswllt bresennol bob amser yn cyd-fynd ag anghenion datblygiadol na realiti gwasanaethau. Mae parhau â'r amserlen bresennol heb ei haddasu yn creu risg o golli cyfleoedd i ymyrryd yn gynharach a pharhau i fuddsoddi adnoddau mewn cysylltiadau sy'n ychwanegu llai o werth. Felly, mae adolygu ac addasu amseriad y cysylltiadau yn un o'r cyfleoedd cliriaf i gynyddu effeithiolrwydd Rhaglen Plant Iach Cymru heb ehangu maint cyffredinol y rhaglen. Felly, er bod y rhesymeg gyffredinol yn dal i fod yn gadarn, mae angen ail-gydbwyso’r amserlen o amgylch y cyfnodau cyswllt canlynol:

Y cyfnod cynenedigol a'r cyfnod ôl-enedigol cynnar

Mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw cysylltiadau cynenedigol, er eu bod yn rhan o Raglen Plant Iach Cymru, yn cael eu darparu'n gyson; gallai cryfhau'r ymgysylltiad hwn, lleihau dyblygu gyda chysylltiadau bydwreigiaeth ar ôl 10-14 diwrnod, a pharhau â'r cyswllt 6 wythnos gyda disgresiwn a gwell cyfatebiaeth â gwasanaethau eraill wella effeithiolrwydd.

8, 12, 16 wythnos, 6 mis

Mae cyfle i fod yn fwy hyblyg a symleiddio'r ymweliadau 8, 12, ac 16 wythnos a/neu ddefnyddio cymysgedd o sgiliau ar gyfer teuluoedd risg is, gwahanu cymorth cynnar ar gyfer bwydo oddi wrth asesiad datblygiadol diweddarach a chau'r bwlch hir canfyddedig rhwng 6 a 15 mis gydag adolygiad ychwanegol wedi'i amseru'n dda.

15 a 27 mis

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod awydd i ddisodli'r cyswllt 15 mis gyda phwynt gwirio datblygiad sydd wedi'i amseru'n well (tua 18 mis) a chadw'r adolygiad 27 mis oherwydd ei werth clinigol uchel ond caniatáu mwy o hyblygrwydd o ran yr amseriad neu ychwanegu adolygiad interim i osgoi colli cyfle am ymyrraeth gynnar.

3.5 mlwydd oed

Ystyriwyd yn gyffredinol mai gwerth bach sydd i hyn a'i fod yn dyblygu'r hyn a wneir mewn meithrinfeydd/ysgolion ac y byddai'n well ei gynnal pan fydd plant yn dechrau'r ysgol drwy drefniadau pontio strwythuredig i'r gwasanaeth nyrsys ysgol.

Asesu newidiadau sy'n effeithio ar berthnasedd Rhaglen Plant Iach Cymru

Mae tueddiadau presennol o ran y boblogaeth a pholisi yn gwneud Rhaglen Plant Iach Cymru yn fwy perthnasol yn hytrach na llai perthnasol. Mae'r cynnydd mewn anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, cydnabyddiaeth gynyddol o broblemau iechyd meddwl amenedigol ac ymysg rhieni, cynnydd mewn materion diogelu mwy difrifol, ac anghydraddoldebau parhaus mewn canlyniadau iechyd plant oll yn atgyfnerthu pwysigrwydd cynnig blynyddoedd cynnar cyffredinol cryf.

Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn parhau i gyd-fynd â blaenoriaethau polisi Cymru (atal, ymyrraeth gynnar, tegwch, ADY ac iechyd meddwl). Fodd bynnag, mae disgwyliadau polisi ychwanegol ers sefydlu'r rhaglen wedi cynyddu'n gyflymach na'i gallu i'w cyflawni. Mae'r dystiolaeth hefyd yn dangos nad yw canllawiau'r rhaglen wedi cael eu diweddaru'n gyson i adlewyrchu'r heriau sy'n dod i'r amlwg. Mae blaenoriaethau allweddol fel iechyd meddwl amenedigol, ymgysylltiad tadau, datblygiad iaith cynnar, pwysau iach, a hyfforddiant i ddefnyddio'r toiled yn cael eu trin yn anghyfartal ar draws gwahanol feysydd ac nid ydynt bob amser wedi'u hymgorffori'n glir yng nghanllawiau na hyfforddiant y rhaglen. Mae hyn yn ei dro yn cyfrannu at amrywiad mewn ymarfer ac yn lleihau gallu'r rhaglen i ymateb yn systematig i risgiau cyfoes.

Heb gyfatebiaeth gliriach a mwy penodol â blaenoriaethau presennol, gallai Rhaglen Plant Iach Cymru ddod yn llai effeithiol dros amser, hyd yn oed wrth i'r angen am ymyrraeth gynnar gynyddu. Byddai adolygu a diwygio canllawiau'r rhaglen i adlewyrchu'r heriau hyn yn cryfhau eu perthnasedd a'u cysondeb ond rhaid ystyried capasiti'r gweithlu a llwybrau atgyfeirio hefyd.

Ymchwilio i fynediad at dechnoleg ddigidol a data, a'r defnydd ohonynt

Mae gwendidau mawr yn y systemau data sy'n sail i Raglen Plant Iach Cymru. Mae dibyniaeth ar ffurflenni papur a mewnbynnu data â llaw yn arwain at dangofnodi, oedi ac anghysondebau. Mae hyn yn ei dro yn tanseilio hyder yn y cyfraddau cwblhau a adroddir ac yn cyfyngu ar ddefnyddioldeb y data at ddibenion rheoli perfformiad neu wella gwasanaethau. Mae'r amrywiad mewn arferion cofnodi ar draws ardaloedd yn cymhlethu dehongli data cenedlaethol ymhellach.

Y canlyniad ymarferol yw bod y broses o wneud penderfyniadau cenedlaethol a lleol yn cael ei chyfyngu gan wybodaeth anghyflawn neu annibynadwy. Nid oes gan reolwyr fynediad at ddata amserol a chywir i dargedu gweithgaredd gwella, ac mae staff rheng flaen yn cael adborth cyfyngedig ar sut mae'r holl ddata y maent yn eu casglu yn cael eu defnyddio neu sut y mae eu gwasanaeth yn cymharu ag eraill, sy'n lleihau'r cyfleoedd i ddysgu a gwella.

Felly, yn ogystal â'r ffaith bod gwella ansawdd a defnyddioldeb y data yn fater technegol, mae hefyd yn ofyniad sylfaenol ar gyfer llywodraethu effeithiol ac atebolrwydd o fewn Rhaglen Plant Iach Cymru. Mae'r seilwaith digidol yn gyfyngiad difrifol ac nid yw'n addas at y diben. Mae prosesau papur a hybrid, arferion amrywiol, a systemau nad ydynt yn integredig yn arwain at dangofnodi a dyblygu ymdrech. Yn aml, ystyrir mai offeryn adrodd yw CYPrIS, yn hytrach na system gymorth glinigol, ac ni all ddarparu'r math o ddata sydd eu hangen ar reolwyr lleol ac ymwelwyr iechyd.

Mae angen dybryd am blatfform digidol integredig ag un pwynt mynediad ledled Cymru sy'n cyd-fynd â llif gwaith clinigol ac sy'n gallu rhyngweithredu â gwasanaethau bydwreigiaeth, meddygon teulu, therapi lleferydd ac iaith a systemau pediatrig. Byddai ychwanegu meysydd sy'n glinigol ddefnyddiol (yn ymwneud â chamau gweithredu, anghenion a chanlyniadau) yn darparu dangosfyrddau rheng flaen a allai gefnogi penderfyniadau lleol ymhellach, nid dim ond adroddiadau cenedlaethol.

Ymchwilio i ymarferoldeb gweithredu offer Prosiect Pengwin

Mae Prosiect Pengwin (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) yn cyd-fynd yn dda ag amcanion a phwyntiau cyswllt Rhaglen Plant Iach Cymru ac mae llawer o randdeiliaid strategol a gweithredol yn ei ystyried mewn goleuni cadarnhaol. Cydnabyddir y gallai offer gwell ar gyfer adnabod anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ychwanegu gwerth, yn enwedig o ystyried y pwysau presennol yn y maes hwn.

Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth o'r prosiect ymhlith staff rheng flaen yn gyfyngedig iawn, ac mae cwestiynau heb eu hateb ynghylch gofynion hyfforddi, y goblygiadau i lwyth gwaith ymwelwyr iechyd a chapasiti gwasanaethau atgyfeirio. Mae'r farn a gasglwyd ar ei ddichonoldeb hefyd yn amrywio, yn enwedig mewn perthynas â'r oedrannau pan fyddai'r offer yn cael eu defnyddio (ac mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach os caiff adborth am newidiadau a ffefrir i rai pwyntiau cyswllt eu gweithredu).

Er bod gan Brosiect Pengwin botensial i gyfoethogi Rhaglen Plant Iach Cymru, dim ond os caiff ei weithredu'n ofalus y gellir cyflawni hyn. Argymhellir cynnal cynllun peilot cychwynnol, a fydd wedyn yn cael ei gyflwyno'n raddol, er mwyn sicrhau bod manteision yn cael eu gwireddu heb greu pwysau ychwanegol ar y gweithlu nac ar wasanaethau lleferydd ac iaith sydd eisoes dan bwysau.

Crynhoi cryfderau, gwendidau, a goblygiadau cyffredinol y rhaglen

Mae gan Raglen Plant Iach Cymru sylfaen gadarn: mae'n gyffredinol, yn cael ei chefnogi'n eang, ac yn effeithiol o ran cyrraedd teuluoedd ac ymgysylltu â nhw yn gynnar. Mae'n meithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth â theuluoedd ac yn cyflawni rôl ataliol bwysig ym maes iechyd cyhoeddus ac mae ganddi'r gallu i adnabod ac uwchgyfeirio pryderon ac anghenion.

Nid cysyniad craidd y rhaglen sydd i'w gyfrif am ei chyfyngiadau, ond yn hytrach y ffordd y mae'n gweithio'n weithredol o fewn system gyfyngedig. Mae'r amrywioldeb yn y ffordd y caiff ei chyflwyno, y pwysau ar y gweithlu ymwelwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol allweddol eraill o'u cwmpas (bydwragedd, nyrsys ysgol, staff lleferydd ac iaith), amseriad llai na delfrydol y cysylltiadau, seilwaith data gwan ac integreiddio anghyson â gwasanaethau ehangach i gyd yn cyfyngu ar effaith y rhaglen.

Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn rhaglen werthfawr sy'n darparu llwyfan defnyddiol i'w addasu a'i wella. Gallai gwneud diwygiadau wedi'u targedu sy'n canolbwyntio ar amseru, data, trefniadau llywodraethu ac integreiddio systemau arwain at welliannau ystyrlon, ac yn y pen draw at ganlyniadau gwell i'r plant ifanc y mae'r rhaglen yn ceisio eu gwasanaethu. I’r gwrthwyneb, mae parhau â'r rhaglen ar ei ffurf bresennol heb ei haddasu yn creu risg o gynyddu canlyniadau anghyson a cholli cyfleoedd ar gyfer ymyrraeth gynnar ar adeg pan fo pwysau ar deuluoedd a gwasanaethau’n cynyddu’n barhaus.

Os caiff yr amserlen gysylltiadau ei haddasu i gyd-fynd ag anghenion datblygiadol plant, a'i chynllunio gyda mwy o hyblygrwydd, bydd Rhaglen Plant Iach Cymru mewn sefyllfa well i gyrraedd ei nodau. Mae cryfhau gallu'r gweithlu a phartneriaid hefyd yn hanfodol fel y gellir darparu cymorth amserol ar ôl adnabod anghenion yn gynnar. Gyda systemau digidol modern, gan gynnwys un platfform integredig sy'n casglu data sy'n glinigol ddefnyddiol, gallai'r rhaglen ddod yn enghraifft flaenllaw o ymrwymiad Cymru i gefnogi cenedlaethau'r dyfodol.

Argymhellion

Rydym yn gwneud yr argymhellion canlynol i Lywodraeth Cymru eu hystyried.

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru ail-gadarnhau Rhaglen Plant Iach Cymru fel fframwaith gwasanaethau ymwelwyr iechyd blynyddoedd cynnar cyffredinol a blaengar Cymru, ynghyd ag arwain rhaglen foderneiddio i adlewyrchu capasiti presennol y gweithlu, cymhlethdod cynyddol teuluoedd a blaenoriaethau polisi cyfoes. Dylid cadw natur gyffredinol Rhaglen Plant Iach Cymru fel sylfaen ar gyfer mynediad teg, ond dylid diwygio'r rhaglen fel ei bod yn gweithredu fel fframwaith mwy hyblyg yn hytrach nag amserlen anhyblyg o gysylltiadau. Dylai'r broses foderneiddio hon gydnabod yn benodol ehangder ymarfer ymwelwyr iechyd, gan gynnwys gwaith heb ei gynllunio a gwaith cymhleth, a sicrhau bod modd parhau i gyflawni Rhaglen Plant Iach Cymru.

Argymhelliad 2

Gan weithio gyda byrddau iechyd a rhanddeiliaid proffesiynol, dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad cenedlaethol o amserlen gysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru. Dylai hyn anelu at leihau dyblygu â gwasanaethau eraill, cau bylchau datblygiadol a sicrhau cyfatebiaeth agosach â chyfnodau allweddol yn natblygiad plant. Dylai gynnwys adfer a chydnabod yn ffurfiol gysylltiadau cynenedigol gan wasanaethau ymwelwyr iechyd, symleiddio cysylltiadau cynnar yn ystod babandod lle ceir dyblygu â gwasanaethau eraill, cyflwyno adolygiad mwy ystyrlon o ddatblygiad plant bach pan fyddant tua 18 i 24 mis oed, a lleihau, disodli neu ailgynllunio'r cyswllt cyffredinol yn 3.5 mlwydd oed fel cynnig wedi'i dargedu'n fwy neu sy'n canolbwyntio ar gyfnod pontio sy'n cyd-daro â'r adeg y byddant yn dechrau'r ysgol. Dylai'r canlyniad arwain at lunio amserlen genedlaethol wedi'i mireinio gydag amcan cliriach ar gyfer pob cyswllt, mwy o hyblygrwydd o ran yr amseru a chanllawiau penodol ar pryd a sut y dylid dwysáu mewnbwn ar gyfer teuluoedd â mwy o anghenion.

Argymhelliad 3

Dylai Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd geisio sicrhau bod mewnbwn ychwanegol yn cael ei seilio'n fwy cyson gan anghenion a aseswyd yn hytrach nag ar ddaearyddiaeth yn unig. Dylai hyn gynnwys adolygu sut y mae cymhwystra ar gyfer cymorth ychwanegol yn cael ei weithredu'n ymarferol, lleihau dibyniaeth ar feini prawf sy'n seiliedig ar godau post lle bo modd, a chefnogi ymwelwyr iechyd i arfer eu barn broffesiynol wrth ddyrannu mewnbwn ychwanegol. Byddai cryfhau darpariaeth sy'n cael ei harwain gan asesiadau yn y ffordd hon yn lleihau annhegwch rhwng ardaloedd ac yn sicrhau bod teuluoedd â lefelau tebyg o angen yn cael lefelau tebyg o gymorth.

Argymhelliad 4

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, dylai byrddau iechyd fabwysiadu dull cenedlaethol strategol o gynnal gweithlu'r gwasanaethau ymwelwyr iechyd. Dylai hyn:

  • gefnogi recriwtio, cadw staff a chapasiti staff banc, gan leihau dibyniaeth ar ewyllys da
  • lleihau'r baich gweinyddol er mwyn cynyddu amser clinigol i'r eithaf
  • hyrwyddo modelau cymysgedd sgiliau lle maent yn gwella'r ddarpariaeth, heb ddisodli ymwelwyr iechyd cymwys mewn gwaith cymhleth
  • sicrhau bod canllawiau'n diogelu annibyniaeth broffesiynol yn benodol ac yn atgyfnerthu cyffredinoliaeth flaengar yn seiliedig ar anghenion a aseswyd
  • anelu at ddarparu digon o adnoddau ar gyfer llwybrau amlasiantaeth fel y gellir gweithredu ar yr anghenion a nodir drwy Raglen Plant Iach Cymru

Argymhelliad 5

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu strwythur llywodraethu cenedlaethol clir ar gyfer Rhaglen Plant Iach Cymru gan gynnwys grŵp llywio ar gyfer y rhaglen ac arweinwyr enwebedig ar gyfer meysydd penodol sydd angen sylw, megis data a'r gweithlu. Dylid egluro rolau a chyfrifoldebau Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, a nodi'n glir y disgwyliadau o ran adrodd ac uwchgyfeirio pryderon ynghylch perfformiad. Byddai trefniadau llywodraethu clir yn lleihau amwysedd, yn cefnogi gwneud penderfyniadau lleol cyson, ac yn sicrhau bod newidiadau polisi yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd gydlynol. Dylid creu pecyn cyfathrebu byr i gyd-fynd â gweithredu'r rhaglen er mwyn sicrhau dealltwriaeth gyffredin ymhlith byrddau iechyd a sefydliadau partner a lleihau dryswch ynghylch gweithredu.

Argymhelliad 6

Gan weithio gyda byrddau iechyd, dylai Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru, drawsnewid seilwaith data a digidol Rhaglen Plant Iach Cymru i sicrhau ei fod yn cefnogi ymarfer yn ogystal â gwella trefniadau adrodd. Dylai hyn gynnwys datblygu un system ddigidol integredig, ledled Cymru ar gyfer gwasanaethau ymwelwyr iechyd sy'n cyd-fynd â llifau gwaith clinigol ac sy'n gallu rhyngweithredu â systemau mamolaeth, gofal sylfaenol, addysg a gofal cymdeithasol. Dylai'r system alluogi i wybodaeth gael ei chofnodi'n ddigidol yn y man lle y darperir y gofal, dylai leihau dyblygu a'r angen i fewnbynnu data â llaw, dylai gofnodi gweithgaredd ychwanegol gan gynnwys gwaith diogelu ac iechyd meddwl, a chefnogi symudiad tuag at ddata sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac ansawdd. Dylid cyflwyno trawsnewid digidol fesul cam, dylid ei gydgynllunio â defnyddwyr, a'i ategu gan hyfforddiant er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei fabwysiadu a'i fod yn gynaliadwy.

Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cymru ail-gydbwyso’r ffordd y caiff perfformiad Rhaglen Plant Iach Cymru ei fonitro'n genedlaethol er mwyn sicrhau bod cwblhau cysylltiadau yn parhau i fod yn bwysig ond yn cael ei ategu gan fesurau cyffyrddiad ysgafn o'r canlyniadau a gyflawnir. Dylai fframweithiau perfformiad symud y tu hwnt i gyfrif cysylltiadau yn unig tuag at gynnwys dangosyddion sy'n adlewyrchu effeithiolrwydd cysylltiadau a chyfraniad Rhaglen Plant Iach Cymru at ganlyniadau gwell i blant a theuluoedd. Dylid rhoi’r gorau i gasglu data diangen nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn adroddiadau na dadansoddiadau, er enghraifft, data ar anffurfio organau cenhedlu benywaidd, oedran babanod pan roddwyd y gorau i fwydo ar y fron, oedran cyflwyno bwydydd solet, a chwblhau amserlen sgiliau tyfu, nad ydynt yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd oherwydd ansawdd gwael y data, er mwyn lleihau'r baich gweinyddol ar ymwelwyr iechyd. Dylid hefyd ystyried defnyddio astudiaethau achos ansoddol i roi darlun cyfoethocach o sut y mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn cyfrannu at ganlyniadau, gan helpu i adlewyrchu a phriodoli effaith y rhaglen yn fwy cywir.

Argymhelliad 8

Dylai Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, a phartneriaid awdurdodau lleol gryfhau rôl Rhaglen Plant Iach Cymru fel rhaglen ganolog ar gyfer y blynyddoedd cynnar drwy wella integreiddio, trefniadau pontio, a llwybrau amlasiantaeth. Dylai hyn gynnwys trefniadau pontio cynenedigol ac ôl-enedigol cliriach a mwy cyson o wasanaethau bydwreigiaeth i wasanaethau ymwelwyr iechyd, trefniadau cryfach a safonedig ar gyfer trosglwyddo o ymwelwyr iechyd i nyrsys ysgol, a gwell eglurder a chysondeb o ran llwybrau atgyfeirio at therapi iaith a lleferydd, pediatreg, a gwasanaethau blynyddoedd cynnar. Dylai Rhaglen Plant Iach Cymru hefyd gael ei chysoni'n fwy penodol â fframweithiau a rhaglenni cenedlaethol perthnasol, gan gynnwys rhaglenni imiwneiddio, y 1,000 Diwrnod Cyntaf a Siarad Gyda Fi, i gefnogi darpariaeth gydlynol ar draws system y blynyddoedd cynnar.

Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen yn ochelgar â Phrosiect Pengwin a pheidio â'i gyflwyno'n genedlaethol fel rhan o Raglen Plant Iach Cymru nes bod amodau galluogi allweddol yn bodoli. Yn hytrach, dylid mabwysiadu dull gweithredu graddol a fydd yn cael ei werthuso, a dylai hynny gynnwys cynllun peilot cychwynnol mewn un ardal, yn amodol ar gapasiti'r gweithlu ac amser gwarchodedig, ffiniau clir ar gyfer rolau a hyfforddiant i ymwelwyr iechyd, digon o gapasiti therapi iaith a lleferydd i ymateb i'r cynnydd mewn anghenion a gaiff eu hadnabod, pwyntiau asesu sy'n briodol i ddatblygiad, a systemau cofnodi digidol gwell. Dylai penderfyniadau ynghylch cyflwyno'r prosiect yn ehangach fod yn seiliedig ar dystiolaeth werthuso sy'n dangos pa mor ymarferol a derbyniol yw'r prosiect a'i effaith dros amser.

Argymhelliad 10

Dylai byrddau iechyd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wella sut y maent yn cyfathrebu â rhieni a theuluoedd ynghylch Rhaglen Plant Iach Cymru. Dylai hyn gynnwys darparu gwybodaeth glir a hygyrch am bwrpas ac amseriad y cysylltiadau, nodiadau atgoffa gwell ac apwyntiadau hyblyg, a hyrwyddo mwy o barhad yn y berthynas ag ymwelydd iechyd lle bo modd.

Manylion cyswllt

Awduron: Heledd Bebb, Nia Bryer, Heledd Bebb, Myfanwy Davies a Tanwen Grover

Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy'n cael eu mynegi yn yr adroddiad hwn ac nid o reidrwydd safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cangen Ymchwil Iechyd
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Ymchwil.IechydAGwasanaethauCymdeithasol@llyw.cymru 

Rhif ymchwil gymdeithasol: 66/2026
ISBN digidol: 978-1-83745-688-8

GSR logo