Neidio i'r prif gynnwy

Comisiynwyd y Rhaglen Ymchwil Fewnol (Llywodraeth Cymru) gan y Gangen Gofal Sylfaenol i gynnal adolygiad o rolau Arweinydd Cydweithio Fferylliaeth Gymunedol (CPCL) ar draws pob clwstwr ledled Cymru.

Roedd angen adolygiad o'r cynllun i ddeall profiadau'r arweinwyr yn eu 12 mis cyntaf ac asesu'r broses o recriwtio i'r rôl. Gofynnwyd i'r Rhaglen Ymchwil Fewnol (IRP), uned ymchwil a gwerthuso fewnol, gyflawni'r gwaith hwn. Gan weithio gyda chydweithwyr y Gangen Fferylliaeth a Phresgripsiynu (Llywodraeth Cymru), roedd yr adolygiad yn archwilio'r canlynol:

  • Y broses o recriwtio'r arweinwyr yn y rôl a deall pwrpas a chylch gwaith y rôl.
  • Beth yw’r rhwystrau a’r sbardunau i feithrin perthynas â rhanddeiliaid o fewn y clwstwr.
  • Pa agweddau ar y rôl a'r cymorth a ddarparwyd i'r arweinwyr oedd yn hwyluso cysylltiadau da â rhanddeiliaid eraill o fewn y clwstwr gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol.
  • Sut mae'r rôl wedi datblygu dros amser e.e. beth oedd wedi gwella a beth nad oedd mor effeithiol, a’i heffeithiolrwydd.
  • Y broses wrth feithrin perthynas ag Arweinwyr Fferylliaeth eraill a rhanddeiliaid allweddol eraill.
  • Canlyniadau 12 mis cyntaf y swyddi Arweinydd Fferylliaeth, pa ganlyniadau posibl y dylid eu hystyried ar gyfer y rolau a sut y gellir mesur canlyniadau gan ddefnyddio data monitro.

Adroddiadau

Adolygiad o rolau Arweinydd Cydweithio Fferylliaeth Gymunedol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 770 KB

PDF
Saesneg yn unig
770 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adolygiad o rolau Arweinydd Cydweithio Fferylliaeth Gymunedol: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 299 KB

PDF
299 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Dr Jo Coates

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.