Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr adolygiad hwn oedd nodi ac asesu ffynonellau presennol a bylchau tystiolaeth ar draws sectorau Amgueddfeydd, y Celfyddydau, Llyfrgelloedd, Archifau a Threftadaeth.

Roedd yr adolygiad yn cynnwys dau gyfnod ymchwil. Nododd Cam 1 ddata presennol sydd ar gael i'r cyhoedd ac sy'n ymwneud â'r sector diwylliant yng Nghymru.

Yn gyffredinol, nodwyd 39 o ffynonellau data a oedd yn bodloni'r meini prawf chwilio.

Roedd Cam 2 yn cynnwys dadansoddiad ac ymarfer mapio o'r ffynonellau a nodwyd.

Daw'r adolygiad i ben gyda chrynodeb o fylchau a chyfyngiadau data perthnasol a ganfyddwyd yn y data sydd ar gael.

Ar draws y pum is-sector, mae amrywiaeth yn y ffordd y caiff data eu hadrodd a'u casglu.

Lle mae data'n bodoli ar lefel y DU, nid yw bob amser yn bosibl eu dadgyfuno ar lefel Cymru.

Mae llawer iawn o ddata'n bodoli sy'n ymwneud â gweithlu'r sector diwylliant. Fodd bynnag, nid yw’r holl dystiolaeth sydd ar gael yn dystiolaeth o safon

Mae'r pum is-sector yn darparu data ar lefel ymgysylltiad aelodau'r cyhoedd mewn gweithgareddau diwylliannol . Darperir rhywfaint o fanylion o ran nodweddion gwarchodedig a phroffil demograffig ymwelwyr a defnyddwyr.

Adroddiadau

Adolygiad o sail dystiolaeth y sector diwylliant yng Nghymru: Adroddiad cam 1 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 591 KB

PDF
591 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adolygiad o sail dystiolaeth y sector diwylliant yng Nghymru: Adroddiad cam 2 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Emma Sullivan

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.