Comisiynwyd adolygiad o Wasanaethau Cynghori Dielw gan fod mwy o bwysau ar y gwasanaethau hyn nag a welwyd erioed o’r blaen
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cyfyngwyd cwmpas yr adolygiad i ddarpariaeth cyngor sylfaenol gan y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, gan ystyried darpariaeth y sector preifat a sefydliadau sy'n cynnig cyngor fel rhan eilaidd o'u nodau, er mwyn ystyried y darlun cyflawn mewn perthynas â darparu cyngor yng Nghymru.
Roedd yr adolygiad yn cynnwys pedwar:
- Cam 1: Adolygiad o lenyddiaeth - adolygiad desg o lenyddiaeth gyhoeddedig ar wasanaeth cynghori
- Cam 2: Ymarfer mapio yn cwmpasu darparwyr cyngor awdurdodau lleol a rhai di-elw
- Cam 3: Ymgynghoriad rhanddeiliaid o gyfraniadau ar lafar ac ysgrifenedig o dros 160 o ffynonellau
- Cam 4: Adroddiad terfynol sy'n ystyried ac yn cyflwyno'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr adolygiad ac yn gwneud argymhellion.
