Neidio i'r prif gynnwy

Ym mis Hydref 2011, cyflwynwyd taliad o 5c ar Fagiau Siopa Untro yng Nghymru, er mwyn lleihau’r defnydd ohonynt a’r effeithiau amgylcheddol cysylltiedig.

Amcanion y prosiect oedd asesu’r canlynol:

  • yr effaith y mae’r tâl wedi’i chael ar ddefnyddio bagiau siopa untro ac ymddygiad cysylltiedig defnyddwyr yng Nghymru
  • yr effaith y mae’r tâl wedi’i chael ar fusnesau yng Nghymru
  • i ba raddau y mae’r cytundeb gwirfoddol â manwerthwyr wedi llwyddo i annog rhoi derbyniadau net y tâl i achosion da
  • i ba raddau y mae’r tâl wedi lleihau taflu bagiau siopa untro.

Roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys arfarniad economaidd, adolygu llenyddiaeth a’r darnau canlynol o ymchwil sylfaenol:

  • arolwg dros y ffôn gyda defnyddwyr
  • arolwg dros y ffôn, trafodaethau lled-strwythuredig a grŵp ffocws gyda manwerthwyr
  • thrafodaethau lled-strwythuredig gyda chyflenwyr bagiau siopa untro.

Adroddiadau

Adolygiad ôl-weithredu codi tâl ar fagiau siopa untro yng Nghymru: adroddiad terfynol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
Saesneg yn unig
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adolygiad ôl-weithredu codi tâl ar fagiau siopa untro yng Nghymru: adroddiad terfynol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 378 KB

PDF
378 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.