Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais am gyngor yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog Addysg at Estyn ar gyfer 2021-2022, a gomisiynodd Estyn i ystyried hygyrchedd ac effeithiolrwydd y cynnig cwricwlwm presennol ar gyfer dysgwyr rhwng 16 ac 19 mlwydd oed.

Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynnig cwricwlwm presennol ar gyfer dysgwyr rhwng 16 ac 19 mlwydd oed ac yn ystyried pa mor effeithiol y mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd yn galluogi pobl ifanc mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 i wella’r ffordd y maent yn cynllunio gyrfa.

Mae'r adroddiad yn eang, ac yn adeiladu ar ganfyddiadau sawl adolygiad thematig blaenorol sydd wedi canolbwyntio ar agweddau cysylltiedig ar addysg ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 19 oed, neu gyngor ac arweiniad i bobl ifanc. Mae hefyd yn cyfeirio at sawl polisi a rhaglen gysylltiedig sy'n cefnogi dysgwyr ifanc, gan gynnwys rhai sy'n berthnasol i ddysgwyr o dan 16 oed fel rhaglen Seren, ac argaeledd cyngor, arweiniad a gwybodaeth diduedd am yrfaoedd, gan roi sylwadau ar eu heffaith.

Mae'r adroddiad yn cydnabod yn llawn uchelgais Llywodraeth Cymru o ran diwygio'r sector ôl-16 yng Nghymru a chynlluniau i greu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (y Comisiwn)). Mae'n cyfeirio at dystiolaeth o ymweliadau ar-lein i amrywiaeth o ddarparwyr ôl-16 mewn wyth ardal awdurdod lleol gwahanol, gan adlewyrchu'r cyd-destun daearyddol, ieithyddol, ac economaidd-gymdeithasol ledled Cymru. Gofynnwyd am farn gan staff a dysgwyr mewn ysgolion, colegau addysg bellach, prentisiaethau a darparwyr hyfforddeiaeth. Siaradodd awduron yr adroddiad ag arweinwyr mewn awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill hefyd.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Canfu Estyn bod opsiynau dysgwr i barhau i ddysgu yn 16 oed yn amrywio’n sylweddol gan ddibynnu ble yng Nghymru mae’n byw, pa iaith y mae’n dymuno dysgu ynddi, a beth oedd ei gyrhaeddiad addysgol yn 16 oed. At ei gilydd, nid yw’r strwythurau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i ddod â cydlyniad a chefnogi gwelliannau yn y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr rhwng 16 ac 19 mlwydd oed yng Nghymru yn gweithio’n ddigon da. Caiff ysgolion, colegau, darparwyr dysgu yn y gwaith, ynghyd ag awdurdodau lleol, eu dylanwadu gan wahanol adrannau yn Llywodraeth Cymru, ac ar hyn o bryd mae ganddynt drefniadau ariannu gwahanol ac nid ydynt yn destun yr un dyletswyddau neu ganllawiau.  

Mae Estyn yn cydnabod y bydd rhaglen ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodolAHO Llywodraeth Cymru a'r cynlluniau i greu’r Comisiwn yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn. Canfu bod darpariaeth 16-19 ledled Cymru yn amrywiol. Mae darparwyr ac awdurdodau lleol mewn ychydig o ardaloedd lleol yn gweithio’n dda yn strategol i oresgyn rhai o’r rhwystrau ac yn darparu cynnig cwricwlwm eang a pherthnasol sy’n diwallu anghenion dysgwyr ar bob lefel, ac yn ymateb i anghenion medrau cyflogwyr.

Er bod bron pob dysgwr yn trosglwyddo i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 16 oed, mae nifer sylweddol o ddysgwyr yn methu parhau tuag at y nod cychwynnol hwn. Roedd tua 11% o bobl ifanc (tua 11,300 o bobl ifanc) 16-18 oed yng Nghymru heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn 2020 (Llywodraeth Cymru, 2022e).

Cafodd Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 ddylanwad cadarnhaol ar ystod y rhaglenni dysgu a’r dewisiadau pwnc sydd ar gael yn lleol i bobl ifanc rhwng 16 ac 19 oed yng Nghymru. Fodd bynnag, mae ehangder y dewisiadau a ddatblygodd o ganlyniad i’r Mesur wedi lleihau mewn rhai rhannau o Gymru yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig lle mae cydweithio wedi gostwng. Mewn ychydig o achosion, er bod nifer y pynciau sydd ar gael yn y cynnig cwricwlwm lleol yn bodloni gofynion y Mesur, ni fyddai hyn yn wir pe bai opsiynau pwnc na chânt eu cynnal yn cael eu heithrio. Effaith hyn yw bod dysgwyr yn y darparwyr hyn i bob pwrpas yn cael ystod fwy cyfyngedig o opsiynau na’r hyn sy’n ofynnol gan y Mesur.

Mae effaith y Mesur yn fwyaf cadarnhaol ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n ennill o leiaf 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu’n uwch. Mae effaith y Mesur yn llai amlwg o lawer ar gyfer dysgwyr eraill gan fod y Mesur yn canolbwyntio gormod ar gymwysterau lefel 3.

Bydd goblygiadau i’r cwricwlwm a chymwysterau yn y sector ôl-16 yn sgil y Cwricwlwm i Gymru a newidiadau i gymwysterau ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 mlwydd oed. Mae darparwyr yn y ddau sector hyn yn awyddus i gael sicrwydd am gymwysterau, i gefnogi’r ffordd y maent yn cynllunio eu cwricwlwm.

Mae cyfleoedd gwerth chweil ar gael i ddysgwyr pan gaiff Bagloriaeth Cymru ei chynllunio, ei hintegreiddio a’i chyflwyno’n llwyddiannus gan ddarparu pecyn dysgu ychwanegol i ymestyn eu profiad ôl-16. Mae llawer o ddarparwyr yn ei gwneud yn ofynnol i’w dysgwyr ymgymryd â Bagloriaeth Cymru ochr yn ochr â’u dewisiadau opsiwn eraill. Fodd bynnag, mewn achosion eraill, mae’n ddewisol ac nid yw dysgwyr bob amser yn glir ynglŷn â’r rhesymeg ar gyfer y gwahaniaethau hyn.

Mae darpariaeth Seren ar gyfer dysgwyr â chyrhaeddiad uchel yn darparu gweithgareddau cyfoethogi diddorol ar gyfer dysgwyr a allai gefnogi eu hastudiaethau a rhagolygon addysg uwch yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’n anodd dod i gasgliad ar yr effaith gyffredinol a gaiff Seren yn genedlaethol ar gyrchfannau dysgwyr yn y dyfodol, am nad yw cyrchfannau addysg uwch ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau Seren yn cael eu gwerthuso’n systematig. Nid yw rhaglen Seren yn canolbwyntio’n ddigon da ar gynorthwyo dysgwyr â chyrhaeddiad uchel sy’n astudio cymwysterau galwedigaethol.

Caiff dysgwyr ledled Cymru ddilyn ystod eang o gyrsiau Safon Uwch trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae cyfleoedd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyrsiau galwedigaethol a dysgu yn y gwaith yn fwy cyfyngedig o lawer.

Mae gwahaniaethau sylweddol yn y graddau y mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu ag ystod lawn y darparwyr addysg a hyfforddiant yn eu hardal. Mewn ychydig o achosion, mae awdurdodau lleol yn darparu cydlynu strategol effeithiol ar gyfer y cwricwlwm lleol, ac yn monitro cyflwyno darpariaeth yn briodol. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion, ni roddir ystyriaeth ddigonol i opsiynau strategol ar gyfer darpariaeth gydweithredol neu gyfunol.

Lle ceir cynllunio tryloyw, effeithiol a strategol yn y perthnasoedd a’r cydweithio rhwng ysgolion a darparwyr eraill, mae cynnig cwricwlwm ôl-16 eang a chytbwys ar gael i ddysgwyr. Er enghraifft, mae’r Consortiwm Addysg Ôl-16 ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn yn darparu set gydlynus o opsiynau ôl-16 cydweithredol ar gyfer yr holl ddarparwyr.

Mae ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach yn rhoi cyfle i ddysgwyr fanteisio ar ystod o wasanaethau cymorth, gan gynnwys hyfforddi ar gyfer dysgu, cymorth personol, a gwybodaeth ac arweiniad gyrfaoedd. Bwriad y gwasanaethau hyn yw cynorthwyo dysgwyr i oresgyn eu rhwystrau rhag dysgu, gwneud dewisiadau gwybodus a realistig, a chyflawni eu potensial a’u huchelgeisiau, ond mae argaeledd ac ansawdd y gwasanaethau yn amrywiol.

O dan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, nid oes gan ddarparwyr dysgu yn y gwaith ddyletswydd statudol i roi cyfle i ddysgwyr fanteisio ar hyfforddi ar gyfer dysgu, cymorth personol, a gwybodaeth ac arweiniad gyrfaoedd. Gallai dysgwyr mewn dysgu yn y gwaith golli allan ar gyfleoedd tebyg ar gyfer cymorth fel dysgwyr sydd yn yr ysgol neu’r coleg.

Mae pob ysgol a choleg yn darparu cymorth tiwtorial. Mae’r sesiynau hyn yn tueddu i gael eu defnyddio ar gyfer rhaglen Bagloriaeth Cymru, ceisiadau UCAS a chymorth gyrfaoedd, yn ogystal â sesiynau sy’n cefnogi datblygiad personol a chymdeithasol dysgwyr. Pan fydd gan unigolion anghenion penodol, mae’r cymorth personol hwn yn aml wedi’i deilwra ac mae cymorth mwy arbenigol, fel cwnsela, ar gael.

Caiff yr hyn y mae dysgwyr yn dewis ei ddysgu yn 16 oed, a gyda pha ddarparwr, ei ddylanwadu gan ansawdd y wybodaeth, y cyngor a’r arweiniad a gânt am yr opsiynau yn eu hardal leol, a’r llwybrau mae’r rhain yn eu darparu ar gyfer addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Mae gormod o amrywiad o hyd yn ansawdd addysg gyrfaoedd ac addysg yn gysylltiedig â gwaith, a chyngor ac arweiniad diduedd i gynorthwyo’r holl ddysgwyr mewn ysgolion yn llawn wrth wneud dewisiadau am eu hopsiynau addysg a hyfforddiant yn y sector ôl-16. Nid yw’r lleiafrif o ddysgwyr a ymatebodd i arolwg Estyn a fu’n astudio mewn ysgolion gyda’u dosbarthiadau chweched yn teimlo bod y cyngor a’r arweiniad a gawsant am opsiynau ôl-16 yn ddigon cynhwysfawr neu’n ddigon diduedd.

Mae mwyafrif o ddysgwyr yn teimlo na roddir digon o wybodaeth iddynt am lwybrau dysgu yn y gwaith, gan gynnwys prentisiaethau. Er bod cyngor ac arweiniad ar-lein wedi llwyddo i raddau yn ystod y pandemig, ni chafodd dysgwyr gyfle i fanteisio ar yr un ystod o brofiadau yn gysylltiedig â gwaith, sesiynau rhagflas neu siaradwyr gwadd i’w helpu i ddeall ystod lawn yr opsiynau ôl-16.

Mae gormod o amrywiad rhwng awdurdodau lleol mewn trefniadau rhannu gwybodaeth i gefnogi cyfnod pontio rhwng ysgolion a darparwyr eraill. Mewn ychydig o ddarparwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu gwaith i wella pontio o ysgolion i ddarparwyr ôl-16, sy’n dechrau cael effaith gadarnhaol ym mhob un o’r meysydd peilot hyn. Byddai dysgwyr sy’n trosglwyddo i ddarparwyr eraill yn elwa ar rannu ystod ehangach o lawer o wybodaeth, nid dim ond eu cyrhaeddiad academaidd, er mwyn llywio a chynnig darpariaeth effeithiol yn y dyfodol.

Mae trefniadau rhannu gwybodaeth i gefnogi cyfnod pontio dysgwyr ag ADY rhwng ysgolion a darparwyr eraill yn gryf. Mae cymorth ac arweiniad addas yn sicrhau bod dysgwyr ag ADY yn meddu ar ddealltwriaeth fuddiol o’r opsiynau a’r llwybrau 14-19. Mae’r CydADY, staff bugeiliol a chynghorwyr gyrfaoedd arbenigol yn gweithio gyda’i gilydd yn dda i helpu dysgwyr i drosglwyddo’n esmwyth.

Nid oes data ar gael yn rhwydd i gefnogi dadansoddiad cynhwysfawr o gyrchfannau a chynnydd dysgwyr yn y sector ôl-16, gan gynnwys dadansoddi yn ôl nodweddion dysgwyr. Nid yw’r data sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael ei gasglu na’i ddefnyddio’n ddigon da ar lefel darparwr, lefel leol, ranbarthol na chenedlaethol i werthuso darpariaeth a chynllunio ar gyfer gwelliannau ac anghenion yn y dyfodol.

Argymhellion

Caiff cyfanswm o un ar ddeg o argymhellion eu cyflwyno yn yr adroddiad, ac mae wyth ohonynt ar gyfer Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, unwaith y caiff ei sefydlu, a gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cymwysterau Cymru a Gyrfa Cymru. Mae tri o'r argymhellion ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Comisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil a chyrff eraill fel Cymwysterau Cymru a Gyrfa Cymru i:

Argymhelliad 1: Adolygu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, gan ystyried materion a godwyd yn yr adroddiad hwn ac adroddiadau eraill diweddar Estyn ar ddysgu 14-19, a darparu cymorth cydlynus a strategol ar gyfer gwelliannau yn y cynnig cwricwlwm ar gyfer yr holl ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru.

Argymhelliad 2: Sicrhau bod parthau meysydd dysgu a’r cyfeiriadur rhaglenni dysgu yn adeiladu ar y Cwricwlwm i Gymru.

Argymhelliad 3: Sicrhau bod pob cynnig cwricwlwm lleol yn cynnwys nifer ac amrywiaeth addas o gyrsiau galwedigaethol a chyffredinol, a bod yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yn nodi gweledigaeth glir a dealltwriaeth ar y cyd am lwybrau cymwysterau galwedigaethol.

Argymhelliad 4: Gwneud defnydd gwell o’r data sydd ar gael i gynllunio ac ariannu darpariaeth wedi’i seilio ar anghenion sy’n dod i’r amlwg.

Argymhelliad 5: Sicrhau bod darparwyr yn cydweithio mwy i gynnig cyfle i ddysgwyr ddilyn ystod ehangach o gyrsiau na’r hyn y mae darparwyr unigol naill ai ddim yn ei gynnig, neu yn ei gynnig, ond nad ydynt yn cael eu cynnal oherwydd niferoedd isel (gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg).

Argymhelliad 6: Datblygu cyfres gydlynus o gymwysterau i gefnogi cynnydd ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 19 mlwydd oed sy’n rhoi ystyriaeth ddigonol i’r angen am gyfleoedd dilyniant o lefel mynediad i’r tu hwnt i lefel 3.

Argymhelliad 7: Lleihau cyfran y bobl ifanc 16-25 oed yng Nghymru nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Argymhelliad 8: Gwella ansawdd y data sy’n cael ei gasglu a’i rannu er mwyn gallu dadansoddi cyrchfannau dysgwyr yn llawn yn 16 oed a thu hwnt, a’u deilliannau, gan gynnwys yn ôl nodweddion gwarchodedig ac anghenion dysgu ychwanegol dysgwr, yr iaith ddysgu sy’n cael ei ffafrio ac ymgysylltiad â mentrau allweddol fel rhaglen Seren.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 1-8:

Derbyn argymhellion 1-7. Mae'r rhain yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru eu gweithredu a rhai ar gyfer y Comisiwn unwaith y caiff ei sefydlu. Mae hyn yn cynnwys gwaith datblygu polisi i’w gyflawni gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi’r Comisiwn i gyflawni ei swyddogaethau statudol.

Cafodd y Cwricwlwm i Gymru newydd ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2022 a bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol i flynyddoedd hŷn, gyda'r cymwysterau newydd cyntaf yn cael eu haddysgu yn 2025 a'r ardystiad cyntaf yn 2027. Mae'r pwyslais yn y cwricwlwm newydd ar sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni'r pedwar diben. Mae'n eu cefnogi i symud yn hyderus tuag at gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant drwy ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys sy'n rhoi gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau iddynt. Mae chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y cwricwlwm newydd ac mae cyfle cadarnhaol i gysoni ein cefnogaeth i ddysgwyr cyn ac ar ôl 16 oed gyda set gyson o ddisgwyliadau a dulliau gweithredu, wedi'u hategu gan set gydlynol o gymwysterau cyffredinol a galwedigaethol o 14-16 oed yn arbennig. Bydd y cynnig ehangach sy'n cael ei ddatblygu i gefnogi cymwysterau rhwng 14 ac 16 oed yn galluogi dysgwyr i gadw set ehangach o sgiliau a phrofiadau hyd yn oed wrth iddynt ganolbwyntio ar gymwysterau.

Mae pandemig Covid wedi ei gwneud yn ofynnol i ysgolion, colegau, prifysgolion a phartneriaid eraill weithio'n agos gyda'i gilydd, gan gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi dysgwyr sy'n pontio o addysg orfodol i addysg ôl-16 a thu hwnt. Mae'r tarfu a brofwyd gan ddysgwyr a phrofiad gwahaniaethol rhai carfanau, yn ogystal â dulliau rhoi cymwysterau 2020 a 2021, wedi rhoi ffocws i'r sgyrsiau hyn. Bellach mae llwyfan cryf i adeiladu rhagor o waith ymgysylltu fel y rhagwelir gan yr adroddiad.

Cafodd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ei greu mewn cydnabyddiaeth o lawer o'r materion a'r heriau a godwyd yn yr adroddiad a'r angen i fynd i'r afael â nhw. Derbyniodd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 Gydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022. Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol hon yn dod ag ystod o swyddogaethau a threfniadau ariannu gwahanol ynghyd i sicrhau sector ôl-16 cydweithredol, sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr, ac sy'n cyd-fynd ag anghenion economi, busnesau, a chymunedau Cymru.

Bydd y Comisiwn mewn sefyllfa dda i weithredu mewn ffordd gydlynol ar draws y system gyfan, gan gefnogi dysgwyr â'r wybodaeth a'r sgiliau i lwyddo waeth beth yw eu cefndir cymdeithasol, neu eu iaith dysgu. Bydd yn sicrhau darparwyr annibynnol, gwydn, ac amrywiol sy'n cydweithio i gyfrannu'n sylweddol at les a ffyniant cenedlaethol.

Bydd gan y Comisiwn gyfrifoldeb cyfreithiol dros waith cyllido, goruchwylio, rheoleiddio, ac ansawdd addysg drydyddol yng Nghymru, ynghyd â chofrestru darparwyr. Bydd mewn lle da i sicrhau bod prentisiaethau Cymru, drwy ddarparwyr dysgu a hyfforddiant yn y gwaith, yn diwallu anghenion yr economi yn y dyfodol yn effeithiol. Bydd hefyd yn gwella cyfleoedd i ddysgwyr astudio'n ddwyieithog ac yn bodloni’r ddyletswydd statudol i sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer addysgu a hyfforddi dysgwyr rhwng 16 a 19 oed. Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) | GOV.WALE.

Ein bwriad yw cynnal adolygiad manylach o gynnig presennol y cwricwlwm lleol sydd ar gael i ddysgwyr rhwng 16 a 19 oed ac adolygu'r gofynion deddfwriaethol sy'n sail iddo fel y'i nodir yn Rhan 2 o'r Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 a'r canllawiau ategol. Wrth gyflwyno Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 cafodd Rhan 1 o'r Mesur ei ddirymu a rhoddwyd ein Cwricwlwm i Gymru yn ei le o fis Medi 2022 ymlaen. Mae cyflwyno’r Comisiwn, a'i rôl statudol a strategol wrth ffurfio’r cynnig cwricwlwm 16-19 a monitro’r gwaith cynllunio ac ansawdd, yn rhoi cyfle gwirioneddol ac amserol i ddefnyddio dull gweithredu cydlynol a strategol wrth gynllunio a darparu'r cwricwlwm. Bydd yn canolbwyntio ar ddysgu sy'n seiliedig ar ddiben a phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, gan sicrhau bod y weledigaeth gyffredinol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn cyd-fynd ag addysg a hyfforddiant ôl-16 ac wedi'i hymgorffori yddynt.

Bydd y dull gweithredu hwn yn helpu’r garfan gyntaf o bobl ifanc sy'n dechrau addysg bellach a hyfforddiant yn 16 oed o 2027 ymlaen ar ôl cwblhau addysg uwchradd o dan y Cwricwlwm i Gymru i bontio mewn ffordd ddi-dor gan feithrin continwwm o ddysgu.

Rydym yn cydnabod y pwyntiau a godwyd yn adroddiad Estyn ac rydym yn gweithio'n agos gyda Cymwysterau Cymru a rhanddeiliaid eraill i gysoni ein dull o adolygu cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol ar gyfer pobl ifanc cyn ac ar ôl 16 oed. Byddwn yn ystyried yn ofalus y materion a godwyd yn yr adroddiad am hwyluso a datblygu cymwysterau craidd i sicrhau trosglwyddiad llyfn i ddysgwyr sy'n dechrau addysg a hyfforddiant ôl-16.

Bydd gan y Comisiwn hefyd rôl o ran casglu, dadansoddi a rhannu data ystadegol er mwyn cynorthwyo gwaith cynllunio a chyflawni ar draws y sector Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Bydd yn gweithio gyda darparwyr ôl-16 a rhanddeiliaid eraill gan gynnwys awdurdodau lleol, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, Gyrfa Cymru a Cymwysterau Cymru i gydnabod a chefnogi anghenion sy'n dod i'r amlwg. Bydd hefyd yn hyrwyddo argaeledd cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol a llwybrau pontio gan sicrhau bod y rhain yn cael eu hadlewyrchu'n ddiduedd mewn gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd y mae dysgwyr yn eu cael.

Mae hyrwyddo cydweithio ar draws y sector addysg drydyddol ac ymchwil yn un o nifer o ddyletswyddau strategol a roddir i’r Comisiwn fel y nodir yn y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Nod y diwygiadau ôl-16, a'r gwaith o greu’r Comisiwn, yw cefnogi a sbarduno mwy o gydweithio rhwng ysgolion, a gydag ysgolion a cholegau, i sicrhau bod y cynnig cwricwlwm i ddysgwyr rhwng 16 a 19 oed wedi'i gynllunio'n ddigonol, yn gynaliadwy ac yn diwallu anghenion a hawliau'r dysgwr.  

Bydd cydweithio yn y maes hwn hefyd yn cefnogi mesurau i ysgolion a cholegau weithio mewn partneriaeth â'i gilydd er mwyn cefnogi dysgu ac addysgu cyn 16 oed, yn enwedig mewn pynciau isel o ran diddordeb lle mae nifer fach o athrawon sydd ar gael i addysgu pynciau penodol. Rydym yn croesawu'r ffocws ar annog ac adeiladu dull gweithredu system gyfan sy'n hyblyg a chydweithredol wrth gyflwyno'r cwricwlwm gan ymestyn ac adeiladu ar y pedwar diben allweddol. Mae'r dull gweithredu hefyd yn adlewyrchu'r Cyfeiriad presennol o dan y Cwricwlwm i Gymru sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gydweithio â'i gilydd i gefnogi dysgwyr i symud ymlaen.

Mae argymhelliad 7 yn cysylltu'n agos â'n carreg filltir genedlaethol sef sicrhau bod o leiaf 90% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050. Caiff hyn ei ddatblygu drwy wneud gwaith i gryfhau'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid (y Fframwaith) (ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed). Mae'r Fframwaith yn seiliedig ar adnabod pobl ifanc sy'n agored i niwed yn gynnar, gan ddeall eu hanghenion, rhoi cefnogaeth a/neu ddarpariaeth briodol ar waith a monitro eu cynnydd. Cyhoeddwyd canllawiau wedi'u diweddaru ar y Fframwaith ar 21 Medi.

Bwriad cyflwyno'r Gwarant i Bobl Ifanc yw amddiffyn cenhedlaeth rhag effeithiau colli addysg ac oedi o ran mynediad i'r farchnad lafur yn sgil y pandemig Covid. Mae'r Warant yn cynnig cyfleoedd gwell i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) i symud i fyd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed mae'r Fframwaith a'r Warant yn gorgyffwrdd; mae hyn yn darparu rhwyd ddiogelwch i bobl ifanc ar adeg allweddol yn eu bywydau. Mae'r ffocws ar y pedwar diben yn y Cwricwlwm i Gymru a'r nod o sicrhau bod pobl ifanc wedi'u harfogi ac yn barod i symud ymlaen i addysg a chyflogaeth, yn ogystal â gwneud Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith yn orfodol, yn helpu i adeiladu dealltwriaeth o waith o oedran cynnar.

Derbyn Argymhelliad 8 yn rhannol. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu set ddata gyfatebol helaeth sy'n darparu gwybodaeth am gyrchfannau addysg a chyflogaeth i ddysgwyr ac sy'n cyhoeddi ystadegau blynyddol ar gyrchfannau dysgwyr ôl-16 fel rhan o'r gyfres mesurau cyson. Mae potensial i ddadansoddi'r data hyn yn fanylach gan ddefnyddio ystod o newidynnau, ac mae hyn yn cael ei archwilio'n weithredol, er enghraifft drwy gyhoeddi cyrchfannau yn ôl ethnigrwydd, cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim a statws anghenion addysgol arbennig yn 2022.  Rydym yn ymwybodol bod hwn yn fater sy'n ymwneud yn fwy ag archwilio'r data sydd eisoes ar gael yn llawn, yn hytrach nag ansawdd y data.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu astudiaeth ymchwil i ddiffinio ecosystem data a gwybodaeth addysg newydd i Gymru er mwyn cefnogi gwaith gwerthuso a gwella ysgolion, atebolrwydd a thryloywder. Fel rhan o hyn, bu'r ymchwilwyr yn ymgysylltu â chynrychiolwyr Addysg Bellach a Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i geisio eu barn ar sut y gallai ysgolion ddefnyddio data i gynorthwyo dysgwyr i baratoi i symud ymlaen ar ddiwedd CA4. Disgwylir i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn ystod tymor yr hydref.

Dylai darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 weithio gyda’i gilydd i:

Argymhelliad 9: Sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael cyfle teg i fanteisio ar opsiynau galwedigaethol, a bod yr opsiynau hyn yn cael eu gwerthfawrogi fel opsiynau addysg gyffredinol.

Argymhelliad 10: Sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael cyfle teg i fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Argymhelliad 11: Sicrhau bod yr holl ddysgwyr yng nghyfnod allweddol 4 yn cael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd sy’n cwmpasu’r holl opsiynau ôl-16 sydd ar gael yn eu hardal leol.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 9-11:

Mae'r argymhellion hyn ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16, ac rydym yn cymeradwyo'r egwyddorion y tu ôl iddynt yn llawn am eu bod yn adlewyrchu ein Gweledigaeth ar gyfer sector Addysg Drydyddol ac Ymchwil diwygiedig ac yn cefnogi'r swyddogaethau statudol a'r dyletswyddau strategol a roddir ar y Comisiwn fel y nodir yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022.

Mae'r argymhellion yn cefnogi nifer o'n hymrwymiadau strategol a'r ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu. Mae hyn yn cynnwys cryfhau a chynyddu ein darpariaeth addysg Gymraeg; sicrhau ein bod yn cynnig ystod eang o gymwysterau a llwybrau cymhwyster o ansawdd, gwerth, a pharch cyfartal i ddysgwyr cyn ac ar ôl 16 oed; ac ehangu'r ystod o gymwysterau galwedigaethol 'a wnaed yng Nghymru' i ddiwallu anghenion pob dysgwr. Bydd yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol sydd ar y gweill yn sicrhau bod amrywiaeth eang o lwybrau cymwysterau ar gael i bob person ifanc, bod darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 yn cael eu galluogi i ddenu grŵp ehangach a mwy amrywiol o ddysgwyr a bod cyngor diduedd ar yrfaoedd ar gael yn hawdd. Mae hyn ochr yn ochr â diwygio cymwysterau cyffredinol ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed i gyd-fynd â'r cwricwlwm newydd. 

Mae sicrhau bod darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 yn cydweithio ac mewn partneriaeth â'i gilydd yn ganolog i lwyddiant y diwygiadau Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol a'r gwaith  o gyflawni swyddogaethau a drosglwyddwyd i’r Comisiwn ar ôl iddo gael ei sefydlu. 

Rydym yn gweithio gyda darparwyr er mwyn mynd i'r afael ag argymhellion a nodir yn adroddiad Estyn ar gyfer Partneriaethau ôl-16: Cynllunio a darpariaeth ar y cyd rhwng ysgolion, a rhwng ysgolion a cholegau (Estyn, 2021). Caiff hyn ei wella ymhellach drwy drafodaethau ac ymgysylltiad parhaus â rhanddeiliaid, y Comisiwn a darparwyr ôl-16 wrth i ni weithredu a chyflawni'r gofynion deddfwriaethol yn y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Manylion cyhoeddi

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar wefan Estyn ar 5 Hydref 2022.