Neidio i'r prif gynnwy

Mae datblygu sgiliau rheoli ac arwain yn yr economi wedi dod i'r amlyg fwyfwy ar draws y llywodraeth.

Nôd yr adroddiad hwn, a grynhowyd gan Ysgol Fusnes Caerdydd ar ran cyn Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (ELWa), yw hysbysu'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau o faterion sy'n ymwneud â darpariaeth hyfforddiant datblygu rheolwyr ac arweinyddiaeth yng Nghymru. Er bod yr astudiaeth yn canolbwyntio ar nodi, coladu ac asesu data meintiol ar y rhaglenni hyfforddi sydd ar gael, roedd yr ymchwil hefyd yn gallu ymchwilio i agweddau ehangach ar ddatblygu arweinyddiaeth a materion cysylltiedig drwy gyfres o gyfweliadau amrywiol gyda rhanddeiliaid allweddol.

Mae diffyg sgiliau rheoli mewn BBaCh yn un o'r achosion mwyaf cyffredin o gyfraddau methiant cymharol uchel sy'n parhau i wanhau economi Cymru. Fodd bynnag, nid oes llawer yn deall y sgiliau rheoli sydd eu hangen i lwyddo i ddatblygu cwmnïau o wahanol feintiau, mewn gwahanol sectorau, ar wahanol adegau o'u twf. Er enghraifft, er y dywedir bod sgiliau rheoli generig penodol yn 'hanfodol' yn aml i arferion rheoli da, defnyddio'r sgiliau hyn yn effeithiol mewn cwmnïau unigol sy'n gwneud y gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu. Yn y pen draw, y ffordd y defnyddir sgiliau rheoli i ategu'r defnydd effeithlon o adnoddau yn y sefydliad sy'n penderfynu a all uwch reolwyr ac arweinwyr gynhyrchu llwybr twf cynaliadwy a llwyddiannus ar gyfer eu busnes.

Mae busnesau sy'n tyfu yn tueddu i fod â rheolwyr da a/neu arweinwyr sy'n llawn gweledigaeth. Mae arweinyddiaeth busnes yn gofyn am sgiliau penodol, fel gwneud penderfyniadau strategol a thactegol, ynghyd ag arbenigedd adeiladu tîm a sgiliau eraill sy'n canolbwyntio ar bobl a fydd yn cynorthwyo i arwain y cwmni drwy'r broses o newid. Er bod enghreifftiau o arferion rheoli ac arweinyddiaeth da yng nghwmnïau Cymru, nid oes digon o'r cymwyseddau hyn ar hyn o bryd.

Adroddiadau

Adolygiad o'r ddarpariaeth hyfforddiant datblygu rheolwyr ac arweinyddiaeth , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 488 KB

PDF
Saesneg yn unig
488 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.