Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad yn defnyddio tystiolaeth ynghylch pontio o wasanaethau iechyd meddwl plant i wasanaethau iechyd meddwl oedolion.

Y neges allweddol yw bod “pontio delfrydol” rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn eithriad yn hytrach na'r rheol. Ategir hyn yn bennaf gan ddata o'r ymchwil ansoddol ar gyfer yr adolygiad hwn yng Nghymru. Mae'r rhesymau dros hyn yn cynnwys:

  • amseriad y pontio sy’n aml yn digwydd ar adeg arbennig o agored i niwed ym mywydau pobl ifanc
  • yr ofn a'r pryder sy'n gysylltiedig â phontio Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), a allai fod wedi cynnig diogelwch a chymorth yn ystod cyfnod anodd iawn ym mywydau pobl ifanc; 
  • y gwahaniaethau diwylliannol, strwythurol a sefydliadol rhwng CAMHS ac AMHS.

Arfer da mewn cyfnodau pontio

Mae ymchwil ar draws y DU a'r cyfweliadau a gynhaliwyd yma yn nodi'n gyson amrywiaeth o ffactorau sy'n cynorthwyo pontio o CAMHS; maent yn cynnwys:

  • sicrhau a chynorthwyo'r pontio i AMHS lle mae ar gael, a nodi gwasanaethau eraill lle nad yw hyn yn bosibl. Dylai gwasanaethau fynd ati'n rhagweithiol i ymgysylltu â phobl ifanc a'u teuluoedd, yn enwedig y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ymddieithrio
  • darparu gwybodaeth a chymorth i bobl ifanc a'u teuluoedd cyn ac yn ystod y broses bontio
  • cydweithio rhwng CAMHS ac AMHS - Dylai hyn gynnwys dechrau cynllunio ar gyfer pontio yn gynnar, a chynllunio'n effeithiol i sicrhau bod pobl ifanc, euteuluoedd a gwasanaethau wedi paratoi
  • hyblygrwydd sy'n galluogi dulliau sy'n canolbwyntio ar y person, yn hytrach na'r gwasanaeth, o ran cyfnodau pontio a gofal
  • sicrhau bod CAMHS ac AMHS yn gwneud “y pethau syml yn gywir”
  • defnyddio prosesau effeithiol i fonitro a gwerthuso profiadau defnyddwyr o bontio a'r parhad gofal a ddarperir, i lywio'r gwaith o ddatblygu'r gwasanaeth

Argymhellion ar gyfer ymchwil bellach

Astudiaeth gwmpasu ar raddfa gymharol fach oedd hon, wedi'i bwriadu i nodi'r angen am ymchwil bellach. Mae'r bylchau allweddol y mae'n tynnu sylw atynt yn nodi:

  • y rhwystrau i weithredu canllawiau presennol LLlBPhI ar bontio ac atebion (er mwyn sicrhau gweithredu cyson ledled Cymru)
  • effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd sefydlu modelau gwasanaeth eraill, a'r gwersi a ddysgwyd o'r rhain
  • asesu'r achos o blaid ac yn erbyn datblygu gwasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc, gan gynnwys ystyried yr ystod oedran priodol ar gyfer gwasanaethau

Adroddiadau

Adolygiad o'r dystiolaeth ar wasanaethau iechyd meddwl pob oed , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Adolygiad o'r dystiolaeth ar wasanaethau iechyd meddwl pob oed: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 672 KB

PDF
672 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Cyswllt

Janine Hale

Rhif ffôn: 0300 025 6539

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.