Mae’r adolygiad hwn yn rhoi trosolwg o'r llenyddiaeth mewn perthynas ag amrywiaeth o fecanweithiau ariannu Llywodraeth Leol ac yn gwerthuso tebygolrwydd eu heffeithiolrwydd yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae angen tystiolaeth i ddeall y potensial ar gyfer diwygio'r fframwaith cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru, er mwyn sicrhau ei fod yn cefnogi uchelgais y Llywodraeth ar gyfer diwygio'r Llywodraeth Leol yn y dyfodol.
Mae'r adolygiad hwn yn archwilio tystiolaeth o'r DU a thu hwnt, ac yn canolbwyntio ar ddulliau gwahanol o gyllido llywodraeth leol, systemau trethu lleol a dulliau o ddyrannu adnoddau. Mae hefyd yn edrych ar y cyfaddawdau y mae'n rhaid eu hystyried wrth ailgynllunio systemau cyllido.
