Adolygiad o’r Gronfa Gynghori Sengl gan gynnwys sut mae wedi perfformio mewn cymhariaeth â’i nodau. Mae’r Gronfa Gynghori Sengl yn ariannu darpariaeth gwasanaethau gwybodaeth a chyngor lles cymdeithasol am ddim i’r cleient.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Gofynnwyd i'r Rhaglen Ymchwil Fewnol, uned ymchwil a gwerthuso mewnol, ymgymryd â'r adolygiad hwn. Y nod oedd deall gweithrediad y Gronfa Gynghori Sengl a sut mae wedi perfformio yn erbyn ei nodau.
Mae'r adolygiad wedi archwilio a yw'r Gronfa wedi:
- helpu i gwrdd â'r cynnydd parhaus yn y galw am fynediad at wasanaethau cynghori?
- helpu i sicrhau bod mwy o bobl ledled Cymru yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt?
- hyrwyddo mynediad cynnar yn effeithiol ymhlith yr aelwydydd mwyaf bregus i niwed?
- sicrhau bod pobl sy'n cael mynediad at gyngor yn cael cyfle i ddatblygu eu gwytnwch i broblemau lles yn y dyfodol?
- gwella mynediad at wasanaethau a all ddarparu'r math o gyngor arbenigol sydd ei angen ar bobl i ddatrys problemau cymhleth ac sydd yn aml wedi'u gwreiddio?
- gwella effeithlonrwydd a chydweithio rhwng darparwyr gwasanaethau cynghori?
Adroddiadau

Adolygiad o’r Gronfa Gynghori Sengl , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.