Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dechreuodd Rhaglen Trawsnewid ac Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar (y rhaglen integreiddio) yn 2017, gyda'r cyllid yn dod i ben ym mis Mawrth 2024. Darparwyd cymorth anariannol yn y flwyddyn ganlynol tan fis Mawrth 2025. Bwriad y rhaglen integreiddio oedd cyflawni yn erbyn yr ymrwymiad (Ffyniant i Bawb, 2016 i 2021) i 'adeiladu ar ein rhaglenni presennol ar gyfer y blynyddoedd cynnar a chreu system fwy cydgysylltiedig ac ymatebol a fydd yn rhoi lle canolog i anghenion unigryw pob plentyn'.

Roedd amcanion y rhaglen integreiddio yn cynnwys, yn gyntaf, adolygu systemau presennol i benderfynu a ydynt yn effeithlon a darparu cymorth estynedig a chydlynol i deuluoedd. Yn ail, defnyddio elfennau effeithiol o raglenni blynyddoedd cynnar eraill Llywodraeth Cymru i greu system fwy ymatebol. Yn olaf, treialu'r dull o ddatblygu ar y cyd mewn ardaloedd braenaru gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

Dechreuodd y gwaith o gyflwyno’r rhaglen integreiddio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf i archwilio opsiynau ar gyfer ail-ffurfweddu'r system blynyddoedd cynnar. Roedd hyn yn dangos nad oedd un dull o gyflwyno ledled Cymru yn addas. Yna ymunodd mwyafrif y Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus â'r rhaglen integreiddio yn wirfoddol fel 'braenarwyr'. Roedd gan Fraenarwyr gydlynwyr prosiect ac arweinwyr prosiect i oruchwylio'r gwaith. Roedd yn ofynnol i Fraenarwyr ddarparu cynlluniau busnes ac adroddiadau cynnydd i Lywodraeth Cymru fel rhan o'r rhaglen. 

Cysylltodd cangen Integreiddio a Thrawsnewid Blynyddoedd Cynnar (Llywodraeth Cymru) â'r Rhaglen Ymchwil Fewnol (Llywodraeth Cymru) i gynhyrchu adolygiad thematig o'r gwersi a ddysgwyd yn ystod y rhaglen integreiddio.

Nodau ymchwil

  • Nod 1 yw myfyrio ar enghreifftiau o arfer da a gwersi a ddysgwyd gan fraenarwyr sy'n cymryd rhan yn y rhaglen integreiddio.
  • Nod 2 yw archwilio galluogwyr a rhwystrau o ran integreiddio systemau llwyddiannus.
  • Nod 3 yw datblygu dealltwriaeth o’r graddau y cyflawnwyd integreiddio systemau ('prif ffrydio').

Dulliau

Roedd y dulliau yn cynnwys dadansoddiad thematig o adroddiadau gwerthuso’r rhaglen integreiddio a gyflwynwyd gan fraenarwyr a grwpiau ffocws.

Samplwyd 28 o ddogfennau i'w cynnwys yn yr adolygiad thematig. Datblygwyd fframwaith codio a'i gymhwyso i'r adroddiadau er mwyn nodi themâu.

Trefnwyd grwpiau ffocws yn ôl rhanbarthau byrddau iechyd. Cynhaliwyd 6 grŵp ffocws yn amrywio o 3 i 10 o gyfranogwyr. Roedd cwestiynau'r grwpiau ffocws yn ymdrin â gwasanaethau a ddarparwyd ac integreiddio yn ystod y rhaglen integreiddio, beth sydd wedi digwydd ers i'r rhaglen integreiddio ddod i ben o ran integreiddio, ac anghenion ar gyfer integreiddio yn y dyfodol.

Ystyriaethau

Pwrpas yr ymchwil yw cynhyrchu adolygiad thematig, felly nid yw gwneud sylwadau ar ymyriadau neu brosiectau penodol o'r dogfennau o fewn y cwmpas. Rhanbarth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a gyflwynodd y nifer fwyaf o ddogfennau sef hanner y dogfennau yn y sampl. Felly, gall canfyddiadau'r dogfennau fod â gogwydd tuag at y rhanbarth hwn.

O'r 6 grŵp ffocws, roedd 4 yn brin o gynrychiolaeth gan awdurdod lleol neu'r bwrdd iechyd. Ni chynhaliwyd grŵp ffocws gyda Phowys gan fod staff wedi symud i rolau eraill a oedd yn golygu bod y sampl yn fach, ac nid oedd y sampl a ddarparwyd ar gael.

Canfyddiadau a chasgliadau

Cyflwynir yr adran hon yn unol â'r amcanion ymchwil ym mhob nod ymchwil ac mae'n dwyn ynghyd adolygiad y dogfennau a’r grwpiau a’r ffocws.

Nod 1: Myfyrio ar enghreifftiau o arfer da a gwersi a ddysgwyd gan fraenarwyr

P'un a oedd gwelliannau mewn mynediad ac argaeledd, a llai o fylchau, ar gyfer gwasanaethau blynyddoedd cynnar

Mae canfyddiadau'n awgrymu bod gwelliannau yn lleol yn gyffredinol. Roedd hyn yn cynnwys goresgyn rhwystrau rhag mynediad trwy gyflwyno gwasanaethau i gymunedau mewn canolfannau ac ymestyn oriau gwasanaeth.

Mae canfyddiadau hefyd yn awgrymu gwelliannau rhanbarthol trwy wneud newidiadau yn seiliedig ar fylchau mewn gwasanaeth neu ddyblygu a nodwyd. Enghraifft o hyn oedd sicrhau bod gwasanaethau Dechrau'n Deg ar gael i ardal ehangach drwy ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar anghenion. 

Fodd bynnag, mewn rhai achosion roedd awdurdodau lleol yn gweld llai o fynediad at wasanaethau, megis gostyngiad mewn cysylltiadau Dechrau'n Deg yn sgil cyfuno llwythi achosion. Hefyd, pan ddaeth cyllid i ben, cwtogwyd elfennau o wasanaethau, gan effeithio ar fynediad ac argaeledd.

A ddarparwyd gwasanaethau mewn modd cydgysylltiedig

Mae canfyddiadau'n dangos bod staff ar draws gwasanaethau a thimau wedi cydweithio ar gynllunio a llywodraethu, darparu gwasanaethau, data, a hyfforddiant y gweithlu i ddarparu gwasanaethau mwy cydgysylltiedig. Teimlwyd bod y rhaglen integreiddio wedi darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio a oedd yn meithrin a chryfhau cysylltiadau a rhwydweithiau, deall rolau partneriaid, rhannu gwybodaeth ac arfer gorau, a chyfuno adnoddau. 

Mae canfyddiadau hefyd yn dangos bod gwasanaethau wedi’u cydgysylltu trwy dynnu ar elfennau o raglenni blynyddoedd cynnar eraill, er enghraifft trwy ehangu cynnig Dechrau'n Deg i ardaloedd daearyddol eraill neu ehangu'r ystod oedran. Enghraifft arall oedd uno gwasanaethau i sicrhau canlyniadau gwell i deuluoedd, er enghraifft dileu'r gwahaniaeth rhwng ymweliadau Dechrau'n Deg ac ymweliadau iechyd generig. Manteisiwyd ar allu ac arbenigedd staff o raglenni presennol o dan y rhaglen integreiddio, yn ogystal â thynnu ffrydiau cyllido at ei gilydd. 

Mae canfyddiadau hefyd yn dangos datblygiad gwasanaethau, a oedd yn cynnwys dechrau mewn ardal beilot ac yna ehangu i awdurdod lleol cyfan, neu ddatblygu o un sefydliad braenaru i eraill yn y rhanbarth. Rhannwyd hyfforddiant ac adnoddau hefyd yn rhanbarthol.

Roedd cydgysylltwyr prosiect yn chwarae rhan bwysig ac yn darparu'r gallu i oruchwylio prosiectau ar draws y braenarwyr. Fe wnaethant feithrin perthynas rhwng gwahanol wasanaethau a sefydliadau, yn ogystal â rhwng gwasanaethau a theuluoedd. Fodd bynnag, ers i'r rhaglen integreiddio ddod i ben, mae llawer o fraenarwyr wedi colli rôl y cydgysylltydd oherwydd anallu i barhau i ariannu'r swydd. Mae llawer o'r gwaith cydgysylltu a gyflawnwyd o dan y rhaglen ers hynny wedi lleihau neu ddod i ben.

A ddarparwyd gwasanaethau mewn modd amserol

Ar y cyfan, teimlwyd bod amseroldeb y gwasanaethau a ddarperir wedi gwella o dan y rhaglen integreiddio. Rhoddwyd cymorth i fwy o deuluoedd ar yr amser cywir, ac yn y ffordd a'r lle cywir trwy ganolbwyntio ar ddull sy'n cael ei arwain gan anghenion yn hytrach na dull daearyddol, sy'n seiliedig ar god post. Hefyd, trwy nodi bylchau mewn gwasanaeth ac enghreifftiau o ddyblygu. 

Fodd bynnag, roedd natur tymor byr y rhaglen yn cyfyngu ar wella amseroldeb y gwasanaethau. Er enghraifft, roedd oedi o ran recriwtio yn golygu bod gweithredu gwasanaethau yn dechrau yn ddiweddarach, gan effeithio ar fomentwm y prosiect ac ymwreiddio gwasanaethau mewn rhai achosion. Roedd achosion lle roedd y cyfyngiad amser hwn yn lleihau'r gallu i asesu a oedd teuluoedd yn derbyn y cymorth cywir ar yr amser cywir, ac yn y ffordd a'r lle iawn.

A oedd llwybrau atgyfeirio wedi'u symleiddio

Roedd y canfyddiadau yn gymysg. Digwyddodd symleiddio trwy safoni atgyfeiriadau, mwy o weithio mewn partneriaeth yn lleihau atgyfeiriadau amhriodol, ac adnabod angen ac ymyrryd yn gynharach.

Fodd bynnag, roedd problemau gydag atgyfeiriadau yn cynnwys y dirwedd blynyddoedd cynnar cymhleth sy'n ei gwneud hi'n anodd i rai teuluoedd lywio atgyfeiriadau a gwasanaethau. Nid oedd llwybrau atgyfeirio bob amser yn cael eu deall gan bartneriaid gwasanaeth ychwaith. Roedd diffyg gwybodaeth hefyd am wasanaethau sydd ar gael i deuluoedd. Mewn rhai achosion, adroddwyd bod asesiadau atgyfeirio yn dal i fod yn gymhleth.

A ddatblygodd braenarwyr well dealltwriaeth o angen yn eu hardaloedd lleol

Mae enghreifftiau o ffyrdd y datblygodd sefydliadau braenaru well dealltwriaeth o anghenion y boblogaeth leol yn cynnwys ymarferion mapio, casglu a dadansoddi data, siarad â theuluoedd i gasglu eu barn ar wasanaethau, a rhannu dysgu. Lle bo'n bosibl, defnyddiwyd y wybodaeth hon i nodi bylchau a dyblygu mewn gwasanaethau, ail-flaenoriaethu gwasanaethau, neu i addasu gwasanaethau i ddiwallu anghenion. Lle nad oedd yn bosibl, roedd hyn oherwydd anghenion cystadleuol rhwng awdurdodau lleol a chyfyngiadau o ran adnoddau. Nododd rhai bwysigrwydd parhau i ymgorffori anghenion defnyddwyr gwasanaeth wrth ddylunio a darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Nod 2: archwilio galluogwyr a rhwystrau o ran integreiddio systemau llwyddiannus

Beth yw'r prif themâu, a'r galluogwyr a'r rhwystrau, o ran integreiddio

Mae'r prif themâu yn cynnwys llywodraethu, cydweithio, staff, data, a chyllid. Cododd cynaliadwyedd hefyd, a drafodir ymhellach yn nod 3.

Llywodraethu

Roedd y galluogwyr sy'n ymwneud â llywodraethu yn cynnwys arweinyddiaeth gref, sefydlog a gweladwy. Hefyd, strwythurau llywodraethu sydd â phwrpas ac atebolrwydd clir, gydag aelodaeth gynrychioladol ac eang sydd â dealltwriaeth strategol a rennir. Roedd y gallu i fanteisio ar strwythurau presennol yn alluogydd arall, yn ogystal â sefydlu cysylltiadau rhwng strwythurau. Roedd arwyddion o lywodraethu effeithiol yn cynnwys datblygu strategaeth ranbarthol a oedd yn cydbwyso anghenion lleol cystadleuol ac yn caniatáu hyblygrwydd lleol, a chynyddu gwelededd gwaith y rhaglen integreiddio mewn Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae rhwystrau sy'n ymwneud â llywodraethu yn groes i’r galluogwyr hyn. Roedd y rhain yn cynnwys cefnogaeth a chyfarwyddyd annigonol gan arweinwyr neu broblemau gyda phresenoldeb mewn strwythurau llywodraethu. Hefyd, strwythurau sydd â diffyg atebolrwydd ac eglurder annigonol ynghylch cylch gwaith neu allu i wneud penderfyniadau, ac anawsterau o ran nodi'r bobl 'iawn' i’w cynnwys yn strategol. Roedd cymhlethdod strwythurau llywodraethu hefyd yn rhwystr, gan gynnwys yr anallu i fanteisio ar strwythurau llywodraethu presennol a dealltwriaeth o sut mae llywodraethu’r rhaglen integreiddio yn ffitio i'r dirwedd lywodraethu bresennol. Roedd hyn hefyd yn cynnwys anghysondeb a blaenoriaethau gwahanol ar draws sefydliadau. Daeth heriau llywodraethu i'r amlwg trwy anawsterau wrth geisio creu strategaeth ranbarthol, gan gynnwys peidio â chael un o gwbl.

Cydweithio

Roedd y galluogwyr sy'n ymwneud â chydweithio yn cynnwys sefydlu partneriaethau rhwng partneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Roedd hyn yn cynnwys meithrin cysylltiadau na fyddai efallai wedi datblygu fel arall, gan fod y rhaglen integreiddio yn darparu cyfle i ddod â phartneriaid at ei gilydd, gan gynnwys gweithio ar sail ranbarthol. Roedd canfyddiadau hefyd yn nodi gwell dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau eraill. Rhannwyd dysgu yn rhanbarthol lle lansiwyd dulliau gwahanol neu lle ymunodd sefydliadau yn ddiweddarach yn y broses. Adroddwyd bod cysylltiadau a gafodd eu meithrin yn ystod y rhaglen integreiddio yn bwysig ar gyfer cefnogi neu ymrwymo i waith yn y dyfodol.

Galluogwr cydweithio arall oedd rolau penodol a oedd yn cynorthwyo cydweithio, gan gynnwys cydgysylltwyr, rolau strategol, a rolau cyflawni. Yn gysylltiedig, adroddwyd bod arweinyddiaeth gefnogol yn bwysig i feithrin cysylltiadau rhwng sefydliadau. Yn olaf, roedd ffactorau ymarferol fel cynnal cyfarfodydd rheolaidd a chyfleoedd rhwydweithio, a chyd-leoli timau, yn alluogwyr cydweithio.

Roedd rhwystrau o ran cydweithio yn cynnwys gwahaniaethau rhwng sefydliadau fel diwylliannau ac ieithoedd, blaenoriaethau a dulliau, newidiadau mewn arweinyddiaeth, lefelau cefnogaeth, a chyfyngiadau o ran rhannu gwybodaeth. Mewn rhai achosion, adroddwyd bod gwahaniaethau yn y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu sefydlu ar draws awdurdodau lleol yn creu anawsterau ar gyfer rhaglen waith ranbarthol. Rhwystr arall rhag cydweithio oedd adnoddau staff cyfyngedig a oedd yn effeithio ar amser ar gyfer cydweithio ac ymgysylltu â hynny. 

Roedd rhai o’r rhwystrau a adroddwyd ynghylch strwythurau llywodraethu (diffyg atebolrwydd, materion gyda chylch gorchwyl, ac anawsterau creu strategaeth ranbarthol) hefyd yn rhwystro cydweithio. Hefyd, adroddwyd bod natur tymor byr cyllid y rhaglen integreiddio yn effeithio ar fuddsoddiad mewn meithrin cysylltiadau. Roedd cymhlethdod y dirwedd ariannu, gyda gwahanol raglenni yn creu cylchoedd gwaith anghyson, hefyd yn rhwystr.

Staff

Roedd y galluogwyr sy'n ymwneud â staff yn cynnwys cael arferion recriwtio a chadw llwyddiannus ar waith i sicrhau bod y bobl 'iawn' mewn swyddi ac i leddfu pwysau o ran adnoddau. Mae cael rolau wedi’u neilltuo i integreiddio (fel cydgysylltwyr prosiectau) yn caniatáu i newid cadarnhaol ddigwydd, yn ogystal â staff clinigol a gweinyddol a oedd yn cynorthwyo i drawsnewid gwasanaethau. Roedd cynyddu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygu fel rhan o'r rhaglen integreiddio hefyd yn bwysig, yn ogystal â darparu hyfforddiant mewn ffordd strategol a chydgysylltiedig. Roedd galluogwyr eraill yn cynnwys staff sy'n gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol eraill ac yn rhannu gwybodaeth. Hefyd, morâl uchel trwy deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, cael arweinwyr cefnogol a brwdfrydig, a staff yn deall eu rolau nhw eu hunain ac eraill. 

Mae rhwystrau sy'n ymwneud â staff yn groes i’r galluogwyr hyn. Roedd y rhain yn cynnwys heriau gyda recriwtio a chadw staff. Roedd dogfennaeth Braenaru yn adrodd fod recriwtio staff yn broses hir a’u bod weithiau yn wynebu oedi; nid yw hynny’n cyd-fynd â natur tymor byr y rhaglen. Roedd trosiant staff uchel, gyda sôn am gontractau tymor byr a phenodol, contractau dim oriau, a thâl hefyd yn heriau sy'n ymwneud â staff. 

Yn gysylltiedig, roedd problemau o ran lefelau staffio yn sgil llwythi gwaith uchel yn cyfyngu ar adnoddau ar gyfer integreiddio, a diffyg staffio. Cafodd y rhwystrau hyn wedyn effaith ar ddarparu gwasanaethau, yn ogystal â sefydlogrwydd a chynaliadwyedd ymdrechion integreiddio. Roedd heriau hefyd o ran diwallu anghenion hyfforddi'r holl staff, gan gynnwys creu cynlluniau gweithlu a hyfforddi, y galw am hyfforddi staff newydd, a heriau ynghylch adnoddau yn rhwystro presenoldeb staff. Roedd diffyg dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau eraill yn rhwystr arall.

Mae ffactorau demograffig ehangach hefyd wedi effeithio ar y gweithlu, er enghraifft, heriau o ran gallu recriwtio siaradwyr Cymraeg i ddarparu gwasanaethau i deuluoedd sy'n siarad Cymraeg.

Data

Roedd galluogwyr sy'n ymwneud â data yn cynnwys arferion casglu data lle nodwyd anghenion y boblogaeth ochr yn ochr â'r gwasanaethau sydd ar gael. Roedd casglu data ynghylch y gwasanaethau a ddarperir, lle roedd systemau yn caniatáu i staff fewnbynnu data yn uniongyrchol a allai fod yn cael ei weld gan weithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda'r un teulu, hefyd yn effeithiol. Roedd galluogwyr ar gyfer arferion rhannu data yn cynnwys hysbysiadau preifatrwydd, cytundebau rhannu data a phrotocolau rhannu gwybodaeth. Roedd y galluogwyr hyn yn cefnogi’r gwaith o adnabod anghenion ac yn golygu nad oed teuluoedd yn gorfod ailadrodd eu hunain.

Roedd rhwystrau sy'n ymwneud â data yn cynnwys methiant i gasglu’r data sydd ei angen, a methiant i ddadansoddi'r data a gasglwyd neu ledaenu'r dadansoddiad. Cododd materion ynghylch ansawdd data, megis anghysondebau wrth gasglu data, trafferthion samplu fel rhagfarn hunan-ddethol, neu fylchau yn y dystiolaeth. Roedd diffyg gwybodaeth am sut i rannu data o dan Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data hefyd yn rhwystr, yn ogystal â'r systemau TG sydd ar waith. Byddai angen gormod o adnoddau i ddatrys llawer o’r problemau hyn yn ystod y rhaglen integreiddio.

Cyllido

Roedd y galluogwyr sy'n ymwneud â chyllid yn cynnwys gwneud y defnydd gorau o arian a chyllidebu trwy ddarparu hyfforddiant yn fewnol a chynnig hyfforddiant ar draws y gweithlu blynyddoedd cynnar. Roedd galluogwyr hefyd yn cynnwys dod â ffrydiau cyllido at ei gilydd, ailddosbarthu cyllidebau ar gyfer darparu gwasanaethau, a chynyddu mynediad at wasanaethau heb unrhyw gost ychwanegol trwy symleiddio’r trefniadau darparu. Roedd gallu addasu cynlluniau mewn ymateb i heriau ariannol hefyd yn bwysig.

Mae rhwystrau o ran cyllid yn ymwneud yn bennaf â natur tymor byr cyllid y rhaglen integreiddio yn effeithio'n negyddol ar ymdrechion integreiddio. Er enghraifft, roedd teimlad bod diwedd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn arwydd o ddadflaenoriaethu integreiddio a thrawsnewid gwasanaethau blynyddoedd cynnar. Roedd rhwystrau eraill yn cynnwys llai o ymgysylltu gan arweinwyr, ansefydlogrwydd mewn staffio, a diffyg amser i ymwreiddio newid ochr yn ochr â phwysau ar wasanaethau craidd. 

Mae rhwystr arall yn ymwneud â chyllid a chynaliadwyedd, gyda'r diffyg cyllid i barhau â'r gwaith integreiddio ar ôl y rhaglen integreiddio a'r risg y mae hynny’n ei beri i waddol y rhaglen. Roedd pryderon a adroddwyd yn cynnwys ofn na fyddai anghenion plant a theuluoedd yn cael eu diwallu oherwydd diffyg cyllid.

Yn ystod y rhaglen, cyfeiriwyd at brosesau cyllido Llywodraeth Cymru hefyd fel rhwystr mewn dogfennau braenaru. Roedd hyn yn cynnwys problemau a nodwyd gyda chyfathrebu â Llywodraeth Cymru, gydag oedi o ran derbyn cyllid a gwneud penderfyniadau. Hefyd, roedd problemau gyda'r cyllid yn cael ei neilltuo ar gyfer bob blwyddyn ariannol. Gyda'i gilydd, roedd yr oedi a'r strwythur anhyblyg yn effeithio ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau. Roedd enghreifftiau o feysydd yr effeithiwyd arnynt yn cynnwys gorfod aros i ddechrau darparu gwasanaethau a chael amserlenni cyflenwi byr, angen gwario gwerth blwyddyn o arian o fewn cyfnod byrrach, y gallu i recriwtio a hyfforddi staff, a'r gallu i symud ymlaen tuag at gyflawni nodau’r rhaglen.

Beth yw profiadau braenarwyr o ofynion monitro a gwerthuso

Roedd llwyddiannau monitro a gwerthuso yn cynnwys gosod mesurau a monitro canlyniadau ac effaith ymyriadau. Adroddwyd hefyd bod mynediad at ddadansoddiadau sy’n defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol yn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau. Roedd cydgysylltwyr yn bwysig ar gyfer cefnogi’r gwaith o gasglu a gwerthuso data.

Fodd bynnag, roedd yna hefyd heriau a effeithiodd ar fonitro a gwerthuso fel y trafodwyd yn yr adran 'Data'. Yn ogystal, roedd sefydlu prosesau monitro a gwerthuso yn gynnar yn her oherwydd yr amser cyfyngedig ar gyfer y rhaglen integreiddio a darparu gwasanaethau. Roedd hyn weithiau'n golygu bod diffyg ystyriaeth o’r cychwyn cyntaf o'r data sydd ei angen neu o’r angen i nodi llinell sylfaen. Roedd hyn yn effeithio ar y gallu i werthuso’n ddefnyddiol ac roedd yn golygu bod gwerthuso yn digwydd yn ôl-weithredol. Mewn rhai achosion, o fewn sefydliadau teimlwyd bod gormod o ddibyniaeth ar eu targedau gwasanaeth, gydag angen am fwy o wybodaeth ansoddol i ddal profiad byw.

Her arall oedd bod natur tymor byr y rhaglen integreiddio yn golygu bod cyflawni yn cael blaenoriaeth dros lunio tystiolaeth o’r gwaith. Dangosodd canfyddiadau grwpiau ffocws nad oedd digon o amser wedi'i gynnwys yn y rhaglen i sefydliadau braenaru brofi eu gwaith a chasglu tystiolaeth ar effeithiolrwydd a chanlyniadau eraill. Nodwyd ei bod yn anodd dal effeithiau os nad oedd disgwyl iddynt gael eu gwireddu hyd y dyfodol hirdymor, ar ôl i'r rhaglen integreiddio ddod i ben.

Ar gyfer y dyfodol, roedd cyfranogwyr ymchwil yn teimlo bod angen gosod canlyniadau cliriach gyda Llywodraeth Cymru, a chyda hyblygrwydd o ran sut mae'r rhain yn cael eu cyflawni a'u mesur.

Nod 3: datblygu dealltwriaeth o’r graddau y cyflawnwyd integreiddio systemau

I ba raddau yr helpodd y rhaglen integreiddio i roi system integredig ar waith

Ystyriwyd bod y rhaglen integreiddio yn helpu i gymryd camau tuag at integreiddio, ond na chyflawnwyd integreiddio system gyfan yn ystod oes y rhaglen. 

Mae'n ymddangos bod pocedi penodol o weithio integredig ar waith, yn hytrach nag integreiddio ar sail system gyfan. Roedd agweddau ar integreiddio yn cynnwys datblygu cysylltiadau a rhwydweithiau, meddwl yn rhanbarthol ar draws gwasanaethau am anghenion a newidiadau, a rhannu dysgu yn rhanbarthol am wahanol brosiectau a dreialwyd ar draws sefydliadau.

Roedd rhai yn teimlo bod y rhaglen integreiddio yn cefnogi integreiddio trwy gefnogi blaenoriaethu neu gefnogaeth gan uwch arweinwyr, a bod cyfeiriad rhanbarthol yn darparu dylanwad o fewn sefydliadau unigol. I eraill, fodd bynnag, roedd sicrhau cefnogaeth ar lefel uwch yn her ar gyfer integreiddio gan nad oedd blaenoriaethau sefydliadol yn cyd-fynd, ynghyd â diffyg awydd am newid, a heriau o ran nodi pwy ddylai fod yn cymryd rhan strategol.

Mae cyfnod byr y rhaglen integreiddio yn ffactor sy'n effeithio ar yr integreiddio systemau a ddigwyddodd. Nid oedd y rhaglen yn ystyried yr amser sy’n ofynnol ar gyfer cynllunio a recriwtio. Roedd hyn yn golygu bod y ffenestr ar gyfer gweithredu yn fyr. O ganlyniad, nid oedd rhai prosiectau a ddewiswyd yn drawsnewidiol.

Mae canfyddiadau'n dangos bod angen eglurder ar yr hyn y mae system integredig yn ei olygu, yn enwedig yng nghyd-destun yr amser a'r gyllideb sydd ar gael. Nodwyd gan rai nad yw safoni gwasanaethau yn rhanbarthol bob amser yn addas oherwydd gwahaniaethau rhwng awdurdodau lleol ac y dylai integreiddio ganiatáu ar gyfer yr amrywiad hwn.

P'un a yw gwaith o dan y rhaglen integreiddio wedi'i brif ffrydio yn arfer arferol, a sut

Roedd gwaith integreiddio yn gyffredinol wedi lleihau ers diwedd y rhaglen integreiddio. Roedd rhai yn teimlo nad oedd integreiddio parhaus yn bosibl heb gefnogaeth y rhaglen integreiddio.

Yn gyffredinol, roedd yna feysydd penodol lle roedd gan waith y rhaglen integreiddio waddol mewn ymarfer bob dydd. Dim ond mewn un achos yn unig yr oedd y model cyflawni cyfan a ddatblygwyd yn ystod y rhaglen integreiddio yn parhau i fod wedi'i ymwreiddio.

Roedd meysydd penodol lle roedd gan waith y rhaglen integreiddio waddol mewn ymarfer rheolaidd yn cynnwys dulliau o weithio a chynllunio gwasanaethau, cymorth penodol sydd ar gael i deuluoedd yn seiliedig ar anghenion, rhannu dysgu o fewn a thu allan i ranbarthau, a mynediad parhaus at hyfforddiant rhanbarthol cyson.

Roedd y ffactorau a oedd yn ategu’r meysydd integreiddio parhaus yn cynnwys:

  • gweithio mewn partneriaeth a dealltwriaeth o rolau eraill yn parhau
  • ymroddiad staff
  • symud staff i raglenni blynyddoedd cynnar eraill
  • cefnogaeth gan arweinyddiaeth, a lleisiau staff cryf neu weladwy i gael y gefnogaeth hon
  • cynnal dulliau o rannu gwybodaeth
  • sicrhau cyllid amgen

Roedd strwythurau llywodraethu yn un maes nad oedd yn parhau yn rhan o ymarfer rheolaidd, fel y trafodwyd yn yr is-bennawd canlynol. Roedd meysydd eraill yn cynnwys llai o gydweithio, llai o weithio'n rhanbarthol, a methu â chynnig hyfforddiant rhanbarthol cyson. Roedd rhai prosiectau neu wasanaethau hefyd heb barhau i fod yn rhan o ymarfer rheolaidd, a theimlwyd bod y gostyngiad hwn yn y cymorth wedi effeithio ar blant a theuluoedd.

Roedd ffactorau a oedd yn rhwystro integreiddio parhaus yn cynnwys:

  • anallu i sicrhau cyllid amgen neu ymestyn cyllid o ffynonellau eraill
  • adnoddau staff, yn weithredol ac yn strategol
  • colli rolau neu staff penodol a'u gwybodaeth
  • llai o gefnogaeth gan arweinyddiaeth
  • blaenoriaethau yn gwrthdaro ar draws y rhanbarth
  • data a systemau gwybodaeth anaddas

anawsterau o ran profi effaith gwaith y rhaglen integreiddio

Profiadau braenarwyr o strwythurau llywodraethu, ac a yw'r rhain yn eu lle ar gyfer integreiddio yn y dyfodol

Crëwyd strwythurau llywodraethu newydd ar gyfer y rhaglen integreiddio a oedd yn cynnwys byrddau rhaglen integreiddio canolog a oedd yn darparu goruchwyliaeth o ran cyflawni a chyfeiriad strategol. Llywodraethu lefel uchaf y mae byrddau canolog yn adrodd iddo ac yn gwneud cysylltiadau rhanbarthol. Llywodraethu lefel is sy'n cynnwys grwpiau pwnc penodol neu grwpiau ffrwd waith.

Nodwyd pwysigrwydd llywodraethu mewn cynaliadwyedd, gan gynnwys cynnal y strwythurau a sefydlwyd o dan y rhaglen integreiddio a pharhau i ddefnyddio'r rhain fel mecanwaith i symbylu gwaith integreiddio.

Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau'n dangos nad oedd rhai strwythurau wedi'u cynnal, neu bod rhai a oedd yn dal ar waith yn cael eu disgrifio fel rhai ‘gwanedig'.

Roedd yr heriau parhaus mewn llywodraethu yn cynnwys dod â phobl at ei gilydd a chael partneriaid ac arweinwyr i flaenoriaethu integreiddio heb gyllid pwrpasol a chyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru. Angen arall oedd parhau i ddatblygu llywodraethu lleol a rhanbarthol, gan gynnwys strategaethau, i gefnogi ymgysylltiad gan arweinwyr a phartneriaid.

Her arall oedd y diffyg eglurder i rai ynghylch ble mae integreiddio'r blynyddoedd cynnar yn gorwedd mewn perthynas â strwythurau llywodraethu presennol, yn ogystal ag angen arweiniad ar sut olwg sydd ar lywodraethu 'da' ar gyfer rhaglen draws-sector. Roedd rhai yn teimlo mai’r strwythur Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yw'r mecanwaith priodol. Pe byddai rhaglen ar waith yn y dyfodol, roedd rhai yn teimlo y dylid adolygu'r defnydd o Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus gan fod cwestiynau ynghylch effeithiolrwydd y mecanwaith cyllido hwn.

O ongl wahanol, roedd heriau hefyd yn ymwneud â llywodraethu’r rhaglen gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y rhaglen integreiddio. Roedd hyn yn cynnwys diffyg eglurder a chanllawiau ar yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru eisiau ei gyflawni o ran integreiddio, a diffyg cefnogaeth barhaus. Roedd hyn hefyd yn cynnwys heriau gydag amserlenni fel oedi o ran ariannu a methu â rhoi digon o amser i gyflwyno cynlluniau busnes i Lywodraeth Cymru. Adroddwyd hefyd bod gofynion monitro a gwerthuso ar gyfer y rhaglen integreiddio yn aneglur, neu eu bod yn feichus.

Argymhellion

Un amcan ymchwil oedd darparu argymhellion ar gyfer sut y gellir symud ymlaen â gwaith integreiddio a thrawsnewid yn y dyfodol. Mae'r argymhellion llawn i'w gweld yn y prif adroddiad.

Argymhelliad 1 yw i Lywodraeth Cymru ystyried yr anghenion integreiddio ar gyfer y dyfodol y nodwyd gan fraenarwyr. Roedd y canfyddiadau yn tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru roi cyllid, strategaethau, agendâu a chanllawiau penodol ar waith ar gyfer y system blynyddoedd cynnar. Dylid adolygu'r rhain a'u trafod gyda chydweithwyr angenrheidiol, gyda chynllun ar waith i'w symud ymlaen lle bo hynny'n briodol ac yn ymarferol.

Argymhelliad 2a yw i Lywodraeth Cymru ystyried yr anghenion ynghylch prosesau ariannu pe bai fersiwn bellach o'r rhaglen integreiddio yn y dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys amserlenni, strategaeth ymadael, hyblygrwydd wrth addasu gwaith a rheoli gwariant, a'r mecanwaith ariannu.

Argymhelliad 2b yw i Lywodraeth Cymru ystyried y dull o fonitro a gwerthuso pe bai fersiwn bellach o'r rhaglen integreiddio yn y dyfodol. Dylid ceisio cymorth ymchwil o’r cychwyn cyntaf gan y tîm polisi sy'n gweinyddu rhaglen yn y dyfodol i helpu i ddatblygu cynlluniau monitro a gwerthuso. Dylid cytuno ar ganlyniadau a mesurau o'r cychwyn cyntaf, a byddai'n fuddiol sefydlu fframwaith gwerthuso fel bod mwy o gysondeb o ran adrodd.

Argymhelliad 3 yw i frraenarwyr ystyried dulliau lleol a rhanbarthol ar gyfer integreiddio yn y dyfodol. Mae'r canfyddiadau yn tynnu sylw at feysydd i'w datblygu, gyda mewnbwn a chefnogaeth gan unrhyw gyfeiriad, arweiniad a chyllid cenedlaethol yn unol ag argymhellion 1 a 2a. Mae'r meysydd yn cynnwys llywodraethu, strategaethau a chefnogaeth arweinwyr a phartneriaid. Hefyd, defnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r rhaglen integreiddio, a defnyddio adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau. Yn ogystal, cael adnoddau staffio ymroddedig, ac ailadeiladu neu gynnal trefniadau cydweithio. Yn olaf, datblygu dulliau ar gyfer rhannu gwybodaeth.

Manylion cyswllt

Awduron: Smith, H., Findlay, S., a Folland, A.

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Rhaglen Ymchwil Fewnol
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: RhYF.IRP@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 35/2026
ISBN digidol 978-1-83745-133-3

Image
GSR logo