Lwfansau heb brawf moddion yw’r Lwfansau hyn, sydd ar gael i fyfyrwyr ag anabledd, cyflwr iechyd tymor hir, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r Lwfansau yn gyllid ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr na fyddai efallai wedi gallu dilyn cwrs addysg uwch hebddynt, ac na fyddent wedi cyrraedd eu llawn botensial.
Amcanion yr astudiaeth oedd:
- adolygu’r ddarpariaeth o’r Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl a’r trefniadau ar gyfer darparu cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch penodol sydd ag anabledd, cyflwr iechyd tymor hir, cyflwr iechyd meddwl, cyflwr ar y sbectrwm awtistig neu anawsterau dysgu penodol
- datblygu ac ystyried dewisiadau ar gyfer gwella’r trefniadau presennol.
