Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a dull yr ymchwil

Mae’r papur hwn yn adrodd am y system sgiliau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyluniwyd yr ymchwil fel darn i ysgogi’r meddwl wrth ystyried gwerth ac oblygiadau gwahaniaethu rhwng rhaglenni Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol Cychwynnol (IVET), a redir fel arfer yn y system addysg gychwynnol ac wrth drosglwyddo i fyd gwaith, a rhaglenni Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol Parhaus (CVET), sydd yn gyffredinol yn digwydd ar ôl hyfforddiant addysg cychwynnol ac ar ôl mynd i fywyd gwaith i oedolion gael neu gryfhau eu gwybodaeth a’u sgiliau a pharhau eu datblygiad proffesiynol.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith rhwng Mawrth 2023 a Medi 2023.

Mae effaith y pandemig, Brexit, lefel uchel o anweithgarwch economaidd, newidiadau i bolisi mudo’r Deyrnas Unedig, a newid cymdeithasol ehangach, gan gynnwys datblygiad technolegau newydd, digideiddio a thrawsnewid i sero net wedi creu heriau newydd a chyfleoedd i’r economi, y farchnad lafur a’r system sgiliau. 

Nod cyffredinol yr ymchwil oedd rhoi trosolwg o’r dystiolaeth am sefydlu system sgiliau gydlyn sy’n gwahaniaethu rhwng IVET a CVET, ac yna i brofi’r sail o dystiolaeth gydag arbenigwyr a chynrychiolwyr y sector.  Roedd yr ymchwil yn cael ei yrru gan bedwar prif gwestiwn ymchwil:

  • Pa feini prawf sy’n pennu a ddylai rhaglenni gael eu cynnwys yn IVET/CVET?
  • Beth yw gwerth defnyddio meini prawf oedran i wahaniaethu rhwng IVET a CVET?
  • Beth yw oblygiadau ehangach mabwysiadu gwahaniaeth rhwng IVET a CVET yng Nghymru?
  • Beth yw manteision cyffredinol a heriau sefydlu system sgiliau ar sail IVET/CVET?

Defnyddiodd yr ymchwil ddull cymysg ac fe’i cynhaliwyd mewn dau gam:

  • Roedd Cam 1 yn cynnwys adolygiad pen-desg o dystiolaeth lwyd a hefyd dystiolaeth academaidd ryngwladol sydd ar gael am sefydlu system sgiliau sy’n gwahaniaethu rhwng IVET / CVET a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar ddysgwyr a chyflogwyr. Roedd yr adolygiad yn cynnwys dadansoddiad cynhwysfawr o 88 o ffynonellau tystiolaeth, a ddewiswyd gan ddefnyddio protocol ymchwil y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru.
  • Roedd Cam 2 yn cynnwys prif ymchwil i brofi ac adeiladu ar y gwersi allweddol a ddynodwyd o’r adolygiad pen-desg ac i ddeall y safbwyntiau yn well am oblygiadau symud tua IVET/CVET o ran sgiliau yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys cyfweliadau gyda 24 o arbenigwyr cenedlaethol, rhanbarthol, sector addysg a sector ddiwydiannol a rhanddeiliaid yn ogystal ag asiantaethau tu allan i Gymru, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Yn ychwanegol cynhaliwyd grwpiau ffocws ar-lein gyda saith o ddysgwyr yng Nghymru a oedd yn dilyn hyfforddiant galwedigaethol neu wedi gorffen cwrs yn ddiweddar.

Prif ganfyddiadau

Tynnir y canfyddiadau o’r adolygiad tystiolaeth pen-desg a’r ymchwil ar draws tair thema allweddol: agweddau strategol a systemig VET; agweddau cwricwlwm a darparu VET; a manteision ac effaith VET.

Agweddau strategol a systemig VET

Rhoddodd y dadansoddiad o agweddau strategol a systemig VET safbwyntiau pwysig ar sut y gall polisi VET gael ei symud ymlaen yng nghyswllt gwahaniaethu rhwng IVET a CVET; dangosodd y llenyddiaeth ei bod yn hanfodol mynegi polisi VET yn glir gyda rolau a chyfrifoldebau i’r holl bartneriaid wrth gefnogi VET wedi eu diffinio yn glir.

Mae llawer o nodweddion cadarnhaol eisoes yn eu lle yng Nghymru. Ond, nid yw rhai rhannau o’r system yn cael eu mynegi’n dda, fel cydweithredu, yn arbennig rhwng cyflogwyr a darparwyr dysgu, sydd yn anghyson ar draws Cymru ar hyn o bryd.

Roedd cytundeb ymhlith y rhanddeiliaid sefydliadol am berthnasedd y drafodaeth ar sail yr anghenion a amgyffredir yn addysgol a chymdeithasol sydd gan grwpiau oedran gwahanol. I’r rhai sy’n gadael yr ysgol a phobl ifanc dan 25 oed, roedd swyddogaeth amlwg i IVET wrth ymdrin â materion ymgysylltu a pharatoi ar gyfer bywyd gwaith.

Roedd anghenion y cohort CVET (25 oed a hŷn) yn cael eu gweld yn wahanol i raddau helaeth i ddysgwyr IVET a phrentisiaid. Roedd y grŵp hwn yn debygol o fod â phrofiad eang yn y gweithle ond efallai y byddai angen iddynt ail-sgilio (i gymryd swyddi newydd), uwchsgilio (i wneud eu gwaith presennol yn fwy effeithiol) neu alluogi ail ddod i mewn i’r gweithlu ar ôl saib yn eu gyrfa (trwy salwch, cyfrifoldebau gofalu, neu ddileu swydd).

Roedd tystiolaeth gref yn y llenyddiaeth bod systemau deuol (y rhai sy’n cyfuno dysgu yn y gwaith ac o’r gwaith) yn rhan ganolog o systemau VET effeithiol ond maent yn edrych yn wahanol ar draws y rhaniad IVET-CVET. Yn IVET mae’r cydbwysedd yn gwyro tuag at hyfforddiant o’r gwaith a pharatoi ar gyfer mynd i weithle, yn arbennig yng nghyfnod cynnar rhaglenni. Yn CVET, mae’r cydbwysedd yn fwy tebygol o fod tuag at hyfforddiant yn y gwaith.

Awgryma’r dystiolaeth gan randdeiliaid bod angen rhywfaint o ddiwygio ar y system gymwysterau alwedigaethol yng Nghymru, gan gynnwys cynlluniau i wella’r gallu i ymateb i anghenion cyflogwyr a mwy o ystwythder i adlewyrchu blaenoriaethau sgiliau sy’n newid yn gyflym.

Cytunai’r rhanddeiliaid bod angen i unrhyw strategaeth VET i Gymru yn y dyfodol fod â chynllun clir i’r gweithlu sy’n ei darparu a’i chefnogi; y flaenoriaeth yw cynllun ar gyfer recriwtio ac uwchsgilio athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr.

Gwelai’r rhanddeiliaid swyddogaeth CTER wrth arwain un system addysg drydyddol ac ymchwil fel cyfle i ymdrin â diffyg cyfartaledd hanesyddol sy’n effeithio ar IVET a CVET, gan gynnwys: sicrhau cydraddoldeb parch rhwng llwybrau academaidd a galwedigaethol; ymgysylltu a chynyddu gallu cyflogwyr o bob maint ac ym mhob sector yn systematig; a sicrhau bod unrhyw gynllunio yn rhoi pwyslais ar y dyfodol trwy adolygiadau o’r rhagolygon.

Roedd neges gref trwy ddau gam yr ymchwil am yr angen i ganolbwyntio ar y dyfodol, gan sicrhau strategaeth sy’n ymdrin â newidiadau i’r economi a’r farchnad lafur, fel symud tuag at sero net, diwydiannau digidol, a’r boblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru a dylunio system sy’n ddigon ystwyth i ymateb i newidiadau o’r fath.

Agweddau cwricwlwm a darparu VET

Mae penderfyniadau polisi yn dylanwadu ar ddylunio a darparu cwricwlwm VET. Er enghraifft, mae cymeradwyo cymwysterau a’r cyllid y maent yn ei ddenu yn aml yn diffinio’r cwricwlwm a gynigir.

Mae hyblygrwydd cymwysterau yn allweddol er mwyn galluogi system VET ystwyth. Awgrymodd y dystiolaeth bod yr oedi wrth ddatblygu cymwysterau newydd yn gwneud i’r system lusgo ac efallai y bydd y cynnyrch yn amherthnasol pan fydd yn cyrraedd y farchnad yn y diwedd.

Dynododd tystiolaeth gan randdeiliaid bod y cwricwlwm cyfoethogi i ddysgwyr a phrentisiaid IVET yn bwysig. Mae’r llenyddiaeth a rhanddeiliaid yn amlygu pwysigrwydd cydnabod a chofnodi sgiliau trawsliniol a throsglwyddadwy ar gyfer dysgwyr IVET a CVET a phrentisiaid. Mae IVET a CVET yn chwarae rhan allweddol wrth ehangu cyfranogiad, mynediad a chynhwysiant.

Mae datblygu gweithlu VET yn bryder allweddol i bartneriaid cyflawni, yn arbennig mewn sectorau lle mae gwahaniaethau cyflog yn ei gwneud yn anodd recriwtio athrawon sy’n alwedigaethol berthnasol.

Mae llwybrau cwricwlwm clir yn hanfodol ond mae tystiolaeth o’r llenyddiaeth yn awgrymu y gallant fynd yn dameidiog oherwydd bod darparwyr lleol yn cystadlu neu ddim yn cynnig cyrsiau ar lefel is i alluogi cynnydd.

Mae darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfa llawn gwybodaeth a diduedd yn bwysig ar gyfer dysgwyr IVET a CVET, ond mae ymateb dysgwyr yn dynodi bod yr hyn a gynigir ar hyn o bryd yn anghyson.

Safbwyntiau ar fanteision ac effaith VET

Awgryma canfyddiadau’r ymchwil bod effaith gadarnhaol VET ar yr unigolyn yn sail ar gyfer effeithiau cymdeithasol, i gyflogwyr ac economaidd ehangach.

O ran gwahaniaethu rhwng IVET a CVET, amlygodd rhanddeiliaid mai un mater allweddol oedd sut y mae addysg alwedigaethol yn bodloni anghenion unigolion yn y cohortau oedran hynny - mae anghenion gwahanol cohortau oedran yn arwain at flaenoriaethau gwahanol i bob un. O fewn cohortau IVET a CVET mae is-grwpiau y mae VET o fudd iddynt mewn ffyrdd gwahanol.

Yn ychwanegol at unigolion, mae cyflogwyr (a’u cynhyrchiant) yn cael eu dynodi gan randdeiliaid yn un o fuddiolwyr allweddol IVET a CVET. Ond, gellid esbonio hyn yn well a’i nawsu ar sail y math o gyflogwr (yn ôl maint, sector, rhanbarth ac ati.) 

Pa bynnag ddull o fesur effaith a gymerir, awgryma tystiolaeth o’r llenyddiaeth a’r rhanddeiliaid bod sgiliau trosglwyddadwy neu drawslin yn elfen allweddol i’w mesur fel ffordd o gyfleu effaith.

Oblygiadau ar gyfer gwahaniaethu rhwng IVET a CVET yng Nghymru

Amlygodd yr ymchwil oblygiadau symud tuag at wahaniaethu rhwng IVET a CVET wrth lunio polisïau a’u darparu a’r heriau, risgiau ac elfennau dibynnol cysylltiedig.

Yr awgrym cyffredinol yw bod angen i wahaniaethu rhwng IVET a CVET fod yn rhan o adolygiad o bolisi VET yn gyffredinol. Mae’r neges yn glir: pa bynnag system sy’n cael ei mabwysiadu mae angen iddi fod yn hyblyg. Mae syniadau o hyblygrwydd ac ystwythder hefyd yn ymestyn i’r cysyniad o ‘barodrwydd at y dyfodol’. Felly mae angen ystyried oedran, cyfnod a dull astudio ar y cyd fel rhan o un polisi ac nid yn gynlluniau ar wahân.

Mae gan effeithiolrwydd systemau deuol oblygiadau o ran gwahaniaethu rhwng IVET a CVET; ni ddylai gwahaniaethu rhwng IVET a CVET fod yn sail ar gyfer sefydlu systemau deuol effeithiol. Mae dulliau o ymdrin â VET fel prentisiaethau yn rhan o ystod o ddulliau i gefnogi hyfforddiant cychwynnol, uwchsgilio ac ail-sgilio yng Nghymru.

Heriau

  • Pa bynnag system sy’n cael ei mabwysiadu, un thema allweddol a chyson yw cyfraniad y cyflogwyr a’u hymrwymiad i VET. Rhaid i ymgysylltu â chyflogwyr gael ei ddeall yn llawn mewn ystod eang o gyd-destunau: maint y cyflogwr, ei sector, a chwmpas y sefydliad.
  • Mae angen ystyried sefyllfa’r Gymraeg yn VET o ran yr ochr cyflenwad a galw.
  • Mae diweddaru’r gweithlu VET yn gyson yn parhau yn her oherwydd bod arloesedd diwydiannol yn newid yn gyflym fel y mae anghenion yr economi.

Risgiau

  • Gall gwahaniaethu rhwng IVET a CVET dynnu sylw a gallai beri dryswch o ran ymgysylltiad effeithiol â chyflogwyr.
  • Gall gwahaniaethu o bosibl greu terfynau sy’n atal cydweithio mewn system VET a llwybrau llyfn ar sail gyrfa.
  • Mae pryderon y gallai gwahaniaethu yn ôl oedran ddwyn cymhlethdod cynyddol i system VET nad yw’n cael ei deall yn dda yn barod a gallai ddwyn mwy o fiwrocratiaeth i gyflogwyr a darparwyr dysg.

Dibyniaethau

  • Ni all y symudiad tuag at wahaniaethu rhwng IVET a CVET gael ei wahanu oddi wrth adolygiad strategol cyflawn o bolisi VET yn gyffredinol. Mae’r adolygiad hwn yn rhoi awgrymiadau defnyddiol o’r sylfeini ar gyfer hyn a sut y gall Llywodraeth Cymru a CTER fynd o’i chwmpas hi, gan gynnwys ymgysylltu yn llawn ac ystyrlon â’r holl randdeiliaid - gan gynnwys rhieni, myfyrwyr a phrentisiaid. Rhaid i ddatblygu’r polisi symud tu hwnt i’r ddwy weinidogaeth gyfrifol (Economi ac Addysg) i dderbyn pob agwedd o lywodraeth ddatganoledig.
  • Mae sefydlu CTER yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa dda i symud hyn ymlaen. Bydd esgeuluso’r gwaith diwygio hwn yn creu risg o system VET sy’n atgyfnerthu’r diffyg cyfartaledd presennol ac felly yn llai parod at y dyfodol.
  • Bydd symud tuag at ddulliau mwy hyblyg yn gofyn am ail-dafoli cyllid, gan gynnwys i unigolion, ar draws y rhaniad oedran IVET/CVET.
  • Digon o adnoddau i CTER symud agenda ddiwygio yn ei blaen ar yr un pryd â chynnal y systemau presennol (sydd wedi eu cyfuno). Yn yr un modd, byddai diwygio’n ddibynnol ar barodrwydd sefydliadau addysgol i rannu adnoddau.
  • Pa bynnag system VET barod at y dyfodol a fabwysiedir yng Nghymru, mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd yn allweddol. Nid yw hyrwyddo gyrfaol ar fanteision VET ar bob oed i unigolion a chyflogwyr yn addas i’r diben ar hyn o bryd.

Ystyriaethau allweddol

1: Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol cynhwysfawr

Mae gwahaniaethu dulliau yn ôl oedran (IVET-CVET) yn ddibynnol ar weledigaeth drosfwaol strategaeth o’r fath, sut y mae’n cyd-fynd â pholisïau eraill sy’n gysylltiedig ag oedran, a’i elfennau darparu allweddol: cyllid, cymwysterau, cynllunio gofodol, ymgysylltu sectoraidd, cyngor gyrfaoedd, a gweithlu sy’n cyflawni’r rhain i gyd.

Dylai’r egwyddorion cynllunio fod yn seiliedig ar y rhai yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015:

  • Cydweithio - er mwyn adeiladu ar y gwaith datblygu polisi cyfredol gyda’r holl randdeiliaid i lunio drafft ac ymgynghori ar strategaeth VET sy’n cysylltu ag addysg cyn 16 oed, polisi dysgu gydol oes, a meysydd polisi eraill fel economi ac iechyd.
  • Integreiddio - i sicrhau bod y strategaeth yn cyd-fynd yn glir â gwaith cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru a’r polisi sgiliau ar draws y Deyrnas Unedig.
  • Cynnwys - cynnwys pawb sydd â diddordeb mewn VET yng Nghymru yn llawn, megis rhieni, pobl ifanc ac oedolion bregus.
  • Tymor hir - cynllunio at y dyfodol yn ogystal â chyflawni ar anghenion tymor byr cyflogwyr ac unigolion, trwy gynnal adolygiadau o’r rhagolygon a chymryd rhan mewn astudiaethau rhyngwladol.
  • Atal - gweithredu i sicrhau na fydd anghyfartaledd sy’n bodoli o ran mynediad at sgiliau yn dal i effeithio ar anghyfartaledd iechyd a llesiant yng Nghymru.

2: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cylch gorchwyl y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn cynnwys digon o gyfarwyddyd ac adnoddau i ganolbwyntio ar ddiwygio addysg alwedigaethol

Gall CTER weithredu fel un llais i weithio gydag ysgolion, rhanddeiliaid rhanbarthol, cyflogwyr a llywodraeth leol i sicrhau bod system ôl 16 oed gydlyn, gan gynnwys cymwysterau.

O fewn hyn, mae swyddogaeth CTER wrth bennu sut y mae prentisiaethau yn cael eu comisiynu a’u hariannu yn allweddol, yn neilltuol yng nghyswllt dulliau i bob oedran a sut y mae prentisiaethau yn gweithio ar draws y ffin â Lloegr.

Dylai CTER hefyd gynnal dadansoddiad o’r cydbwysedd o adnoddau ar hyd bywyd a phennu ai ‘oedran’ neu ‘gyfnod’ (neu gyfuniad o’r ddau) yw’r meini prawf gorau ar gyfer dyrannu.

3: Yn ei hymateb i’r Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol yng Nghymru, dylai Llywodraeth Cymru ystyried canfyddiadau’r adroddiad hwn

Roedd Adolygiad Lusher yn adlewyrchu’r amgylchedd allanol, sy’n newid yn gyflym, y mae VET yn gweithredu o’i fewn yng Nghymru. Mae angen i gymwysterau galwedigaethol fynegi eu hunain yn well i gefnogi llwybrau galwedigaethol clir a hyblyg, i gynyddu eu gallu i ymateb i anghenion sgiliau sy’n newid yn gyflym. Dylid ystyried i ba raddau y mae cymwysterau yn cael eu ‘Gwneud yng Nghymru’ neu eu ‘Gwneud i Gymru’, yn neilltuol o ran partneriaethau gyda chenhedloedd eraill datganoledig y Deyrnas Unedig sy’n defnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.

4: Dylai Llywodraeth Cymru alluogi’r Cyngor Gweithlu Addysg i symud adolygiad o anghenion ‘gweithwyr proffesiynol deuol’ VET yng Nghymru yn ei flaen, er mwyn bod yn sail i ddatblygu polisïau yn y dyfodol

Gellir dysgu llawer oddi wrth ddulliau mewn gwledydd eraill, er enghraifft Lloegr, lle mae’r Sefydliad Addysg a Hyfforddiant wedi gweithredu cynlluniau i gefnogi gweithwyr proffesiynol deuol a recriwtio o sectorau diwydiannol gyda strwythurau cyflog uwch nag addysg.

5: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gan gyrff cyfryngol ddigon o adnoddau a chynlluniau yn eu lle i hyrwyddo VET yn rhanbarthol a lleol

Os yw darpariaeth ranbarthol a lleol yn allweddol i systemau VET effeithiol, mae angen i’r llywodraeth sicrhau ei fod yn gydlyn fel na fydd rhai ardaloedd a chymunedau dan anfantais. I’r diben hwn:

  • Dylai pob Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol ddatblygu ‘Cynllun Gweithredu VET’ yn ôl fformat cyffredin, sy’n dangos sut y mae’n blaenoriaethu sectorau’n lleol, yn ymgysylltu cyflogwyr o bob maint, ac yn dyrannu cyllid hyblyg (fel rhaglenni sgiliau a thalentau).
  • Dylai gwasanaethau gyrfaoedd gyhoeddi cynlluniau am sut y byddant yn gweithio gydag ysgolion, rhieni, pobl ifanc, a gweithwyr hŷn i hyrwyddo VET.
  • Dylai awdurdodau lleol drefnu a monitro sut y mae ysgolion yn hyrwyddo cyfleoedd addysg galwedigaethol yn lleol a rhoi adroddiadau ar hyn.

6. Dylai Llywodraeth Cymru barhau i brofi a gwerthuso polisïau VET blaengar sy’n annog y gallu i fod yn ymatebol a darparu mewn modd hyblyg

Roedd rhanddeiliaid yn croesawu dulliau blaengar a ddatblygwyd ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, fel Cyfrifon Dysgu Personol a grantiau i gefnogi datblygu cymwysterau galwedigaethol trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai cynlluniau o’r fath gael eu parhau a’u gwerthuso i fod yn sail i ddatblygu polisïau yn y dyfodol.

Maes arall i’w ystyried yw’r ffordd y mae Cydnabod Dysgu Blaenorol yn cael ei weithredu’n gyson yng Nghymru. Dylai Cydnabod Dysgu Blaenorol gyda thystysgrifau gael ei ymestyn i ddysgu anffurfiol a heb fod yn ffurfiol er mwyn galluogi’r gallu i fod yn fwy ymatebol i anghenion sectoraidd (er enghraifft yn iechyd a gofal cymdeithasol).

7: Dylai darparwyr addysg a chyflogwyr gynnig cyfleoedd cyfoethogi i ddysgwyr galwedigaethol a phrentisiaid yn y cohort 16 i 24

Mae cyfoethogi yn elfen allweddol o lwybrau academaidd ac nid oes unrhyw reswm pan na ddylai cyfleoedd o’r fath gael eu cynnig yn gyson i ddysgwyr galwedigaethol a phrentisiaid.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Mark Ravenhall a Jackie Woodhouse

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sean Homer
Yr Is-adran Ymchwil Cymdeithasol a Gwybodaeth
Ebost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 111/2023
ISBN digidol 978-1-83577-104-4

Image
GSR logo