Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Mae'r papur hwn yn adrodd ar ganfyddiadau adolygiad llenyddiaeth o'r dystiolaeth sydd ar gael yn ymwneud â rolau, gweithgareddau a chyfraniadau Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Er mwyn cyfrif am brinder tystiolaeth sy'n ymwneud â Chymru, ategwyd yr adolygiad llenyddiaeth gan ddau weithdy gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a swyddogion heddlu o bedwar heddlu yng Nghymru. 

Fel rhan o Raglen Lywodraethu 2011-2016, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymrwymiad hwn trwy lywodraeth 2016-2021, ac yn 2021 ymrwymodd y Rhaglen Lywodraethu i ariannu 100 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol. Mewn ymateb i heriau cyllidebol, lleihawyd cyllid Llywodraeth Cymru i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu fel rhan o flynyddoedd ariannol 2024-2025 a 2025-2026. 

Nodau'r adolygiad hwn oedd coladu ac ystyried pa dystiolaeth oedd yn bodoli ar gyfraniadau Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a'r graddau y maent yn cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i blismona cymdogaeth a nodau ehangach ynghylch diogelwch a lles cymunedol. Yn ogystal â chyfraniadau, ceisiodd yr adolygiad hefyd ystyried tystiolaeth sy'n ymwneud â gwaith a gweithgareddau Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu o ddydd i ddydd a sut mae hynny’n cyd-fynd â'u cyfraniadau. 

Roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys dau gam. Yn gyntaf, cynhaliwyd adolygiad llenyddiaeth gyda chymorth Gwasanaethau Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru. Cafodd ystod o lenyddiaeth ei ystyried, gan gynnwys erthyglau cyfnodolion, adroddiadau’r llywodraeth, adroddiadau ymchwil, llyfrau a thraethodau lle bo hynny’n berthnasol. Ategwyd y llenyddiaeth a nodwyd o'r chwiliad llyfrgell gan chwiliadau eraill a gynhaliwyd gan yr awdur. Er mwyn ategu'r chwiliad llenyddiaeth ac i gydnabod prinder llenyddiaeth sy'n ymwneud â Chymru, cynhaliwyd dau weithdy gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a swyddogion heddlu cymdogaeth i ganiatáu rhywfaint o fewnwelediadau i sut roedd canfyddiadau'r llenyddiaeth yn cyd-fynd â phrofiadau Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghymru.

Canfyddiadau’r adolygiad llenyddiaeth

Gweithgareddau a rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu

Wrth ystyried rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, thema gyson o fewn y llenyddiaeth oedd y bwriad mai swyddogaeth graidd y Swyddogion hyn ddylai fod i ymgysylltu â'r cyhoedd, ymdrochi mewn cymunedau lleol a bod yn bresenoldeb gweladwy o fewn cymunedau, ac fel rhan o hyn, pwysigrwydd cyfalaf cymdeithasol yng ngwaith Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Er bod fframio cyson o amgylch egwyddorion arweiniol gweithgarwch Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, un thema barhaus ac ailadroddus yn y llenyddiaeth oedd yr amrywiaeth sylweddol yng ngweithgarwch Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Mae'r amrywiad hwn i'w weld mewn sawl ffordd, gan gynnwys yn y pwerau sydd ar gael i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, iwnifform Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, sut mae’r Swyddogion hyn yn cael eu defnyddio, ac yn benodol, y gweithgareddau a’r gwaith y maen nhw’n eu cyflawni. Mae’r amrywiad hwn yn ddisgwyliedig gan ei fod yn cynrychioli’r angen i waith Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu fod yn ymatebol i gyd-destun, anghenion a gofynion cymunedau lleol. 

Wrth ystyried amrywiaeth y gwaith a gyflawnir gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, gwahaniaeth defnyddiol yn y llenyddiaeth oedd swyddogaethau 'cymorth cymunedol' a 'cymorth yr heddlu'. Er bod gweithgaredd effeithiol Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gyffredinol yn cynnwys elfennau o'r ddwy agwedd hon ar waith, roedd rhywfaint o arwydd y gallai tensiwn godi rhwng y swyddogaethau hyn. 

Roedd y llenyddiaeth yn cyfeirio’n aml at fater dyletswyddau eraill, lle mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu’n cael y dasg o gyflawni gweithgareddau sy’n eu tynnu oddi wrth eu gwaith ymgysylltu â'r gymuned, megis lliniaru pwysau mewn meysydd eraill, i gefnogi gweithrediadau wedi'u targedu, i batrolio ardaloedd prysur, neu gwblhau gwaith papur mewn gorsafoedd heddlu. Gallai gwaith o'r fath dynnu Swyddogion Cymorth Cymunedol o'u cymdogaeth sydd, er nad yw'n broblem bob amser, yn gallu peryglu'r swyddogaeth ymgysylltu â chymdogaeth pe bai'n digwydd yn aml. Er nad yw’r mater o ddyletswyddau eraill yn bryder newydd o reidrwydd, cafwyd rhywfaint o dystiolaeth bod pwysau o’r fath wedi dod yn fwy amlwg o ganlyniad i gyfyngiadau ehangach o safbwynt cyllid a chapasiti, o fewn heddluoedd a phartneriaid eraill, sydd wedi arwain at ofyn i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wneud swyddogaethau eraill a oedd yn cael eu cyflawni gan bartneriaid eraill yn y gorffennol.

Cyfraniad Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu

O ran cyfraniad Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, roedd nodyn o rybudd cyffredinol yn y llenyddiaeth ynghylch yr heriau wrth asesu a nodi effaith Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu oherwydd natur y gwaith maen nhw’n ei wneud. Wrth ystyried cyfraniadau Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, roedd canfyddiadau’r adolygiad llenyddiaeth wedi’u trefnu o amgylch pedair thema, sef 'ymgysylltu â'r gymuned, ymddiriedaeth a chyfreithlondeb y cyhoedd', 'gwelededd, canfyddiadau o ddiogelwch a sicrwydd', 'lleihau trosedd ac anhrefn' a 'recriwtio ac amrywiaeth'.

O ran ymgysylltu â'r gymuned, ymddiriedaeth y cyhoedd, a chyfreithlondeb, canfu'r adolygiad dystiolaeth amrywiol ynghylch i ba raddau y mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cynyddu ymddiriedaeth, ond roedd y syniad bod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo ymgysylltu â'r gymuned yn thema ailadroddus yn y llenyddiaeth. Yng nghyd-destun rhwystrau rhag ymgysylltu â'r gymuned, gall y rhain fod yn sefydliadol ac yn amgylcheddol, gan gynnwys agweddau megis dyletswyddau eraill, newid i batrymau gweithio a sifftiau, ac ardaloedd patrôl mawr. 

O ran gwelededd, canfyddiadau o ddiogelwch a sicrwydd, roedd rhywfaint o dystiolaeth gyfyngedig i awgrymu bod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu’n cyfrannu’n gadarnhaol tuag at gynyddu gwelededd a chanfyddiadau o ddiogelwch, ond roedd tystiolaeth o effaith ddosio lle gallai lefelau gwelededd uchel fod yn wrthgynhyrchiol i ymdrechion tawelu meddwl. O ran rhwystrau rhag cynyddu gwelededd a thawelwch meddwl, canfu’r gwaith ymchwil dystiolaeth fod tynnu swyddogion i gyflawni dyletswyddau eraill, mwy o ddefnydd o gerbydau ac ehangu ardaloedd patrôl yn gallu bod yn rhwystr rhag cynyddu gwelededd. 

Wrth ystyried cyfraniad Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu o ran lleihau trosedd ac anrhefn, roedd tystiolaeth yn brin ac yn gymysg i raddau. Canfu rhywfaint o’r gwaith ymchwil bod defnyddio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr heddlu fel rhan o ddull yn canolbwyntio ar fannau lle mae troseddau’n digwydd yn aml yn arwain at lai o droseddu a galwadau brys, ac roedd gwaith ymchwil arall a fu’n ystyried defnydd mewn mannau troseddu aml bach iawn yn gweld lefelau troseddu ac anrhefn uwch yn yr ardal driniaeth. 

O ran recriwtio ac amrywiaeth, mae tystiolaeth gynnar yn fuan ar ôl eu cyflwyno yn awgrymu bod rolau Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn denu ystod fwy amrywiol o ymgeiswyr gydag ystod ehangach o gymhellion a dyheadau na'r rhai sy'n ymgeisio i fod yn swyddogion heddlu, a oedd yn cefnogi amrywiaeth o fewn yr heddlu. Fodd bynnag, mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod rolau Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi cael eu hystyried yn fwyfwy fel carreg gamu i ddod yn swyddog heddlu, a gallai hynny fod wedi effeithio ar broffil y rhai sy'n ymgeisio i fod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu.

Canfyddiadau'r Gweithdai

I ategu canfyddiadau'r adolygiad llenyddiaeth, cynhaliwyd dau weithdy gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a swyddogion heddlu sy'n gweithio yng Nghymru. Roedd y gweithdai yn canolbwyntio ar gymhellion unigolion i ddod yn Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, canfyddiadau o gyfraniad Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a ffactorau sy’n galluogi ac yn rhwystro eu gwaith. 

Wrth drafod cymhellion i ddod yn Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, roedd y themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg yn cynnwys yr awydd i wasanaethu cymunedau lleol a chael effaith gadarnhaol ar bobl leol, yn ogystal â llywio Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu fel llwybr i ddod yn swyddog heddlu. Wrth drafod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu’n cael eu defnyddio fel pwynt mynediad, bu ymatebwyr yn trafod sut yr oedd hyn yn effeithio ar y math o bobl sy’n ymuno, a’r math o ymddygiadau a phrofiadau yr oeddent yn gobeithio eu cael o’r rôl. Nodwyd diffyg llwybrau dilyniant amlwg ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, lle mai’r unig lwybr dilyniant oedd dod yn swyddog heddlu.

Wrth drafod canfyddiadau o gyfraniad Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, bu ymatebwyr yn trafod eu prif gyfraniad o ran eu rôl mewn ymgysylltu â'r cyhoedd a chynnal presenoldeb gweladwy mewn cymunedau. Wrth siarad am y math o waith maen nhw'n ei wneud, roedd yr ymatebion yn eang ac yn aml yn adlewyrchu cyd-destunau lleol penodol, ond gallent gynnwys ffactorau sy'n ymwneud â digartrefedd neu gefnogi'r rhai sydd ag anghenion dibyniaeth neu iechyd meddwl. Bu ymatebwyr hefyd yn trafod pwysigrwydd ymgysylltu gydag ysgolion a magu perthynas gyda phlant a phobl ifanc. O ran yr effeithiau ar droseddu ac anhrefn, roedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu’n gweld eu gwerth yng nghyd-destun atal a dad-ddwysáu, ond hefyd yn amlygu sut y gall eu gwaith gefnogi gwaith swyddogion yr heddlu’n uniongyrchol, boed hynny drwy ddarparu gwybodaeth, gweithredu fel ymatebwyr cyntaf, neu drwy fanteisio ar y gwahanol berthnasoedd y mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu’n gallu eu meithrin gydag aelodau’r cyhoedd. 

Nododd ymatebwyr yn y gweithdy nifer o ffactorau sy’n galluogi ac yn rhwystro eu gwaith. O ran ffactorau sy’n galluogi, soniodd ymatebwyr am yr ymreolaeth a roddir i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wrth gyflawni eu swyddogaethau. Wrth drafod pwerau, cafwyd barn gymysg gyda rhai ymatebwyr yn teimlo bod y pwerau sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigonol, ac eraill yn teimlo nad oedd eu pwerau’n ddigonol, er eu bod yn nodi bod yn ofalus ynghylch ehangu pwerau. Roedd hyfforddiant cychwynnol i’w weld yn ddefnyddiol i raddau helaeth, ond nodwyd y gallai hyfforddiant gloywi fod yn fuddiol. O ran dyletswyddau eraill ac adnoddau, nododd ymatebwyr fod dyletswyddau eraill yn fater sy’n effeithio ar eu gwaith yng Nghymru, sy’n cael ei waethygu gan bwysau adnoddau, ond nodwyd hefyd yr heriau ehangach a ddaw o ganlyniad i gyfyngu ar adnoddau sy’n rhwystro eu gwaith, megis mynediad at offer neu gerbydau.

Casgliadau

Daeth yr adolygiad hwn â llenyddiaeth bresennol a mewnwelediadau o weithdai at ei gilydd i greu darlun cliriach o rôl a chyfraniadau Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghymru. O ystyried cyfyngiadau cwmpas yr adolygiad, nid oedd yr awduron yn gallu darparu gwerthusiad nac asesiad o effaith Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, arferion unigol na chyllid Llywodraeth Cymru. Yn hytrach, nod yr adolygiad oedd nodi themâu allweddol gwaith Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ledled Cymru a Lloegr a lle gallai fod cyfleoedd pellach i ymchwilio ac ehangu ar waith ymchwil presennol. Roedd canfyddiadau'r llenyddiaeth yn tynnu sylw at wahaniaeth rhwng agwedd Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref tuag at Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, yn enwedig yn dilyn y newid yn llywodraeth y DU yn 2010 ac mewn ymateb i fesurau cyni dilynol a roddwyd ar waith.  Er bod pwrpas craidd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (sef ymgysylltu a gwelededd cymunedol) yn cael ei gydnabod yn gyson, mae realiti eu gwaith o ddydd i ddydd yn llawer mwy amrywiol. Canfu’r adolygiad enghreifftiau o anhawster rhwng rheoli ymdrechion cymorth cymunedol a swyddogaethau cymorth i’r heddlu, sydd, ochr yn ochr a materion dyletswyddau eraill, yn dangos bod Swyddogion Cymorth Cymunedol yn aml yn teimlo rhyw fath o wrthdaro, yn enwedig o dan bwysau cynyddol o safbwynt cyllid ac adnoddau.

Tynnodd yr adolygiad llenyddiaeth sylw at y ffaith bod tystiolaeth gyfyngedig ynghylch ac effaith a chyfraniad Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu oherwydd y dirwedd gymhleth y maent yn gweithredu ynddi, a all wneud asesu effaith yn anodd. Mae'n ymddangos bod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn chwarae rôl werthfawr wrth adeiladu ymddiriedaeth a sicrwydd o fewn cymunedau, ond mae eu heffaith ar leihau troseddu yn anoddach i'w fesur ac yn llai pendant.

Fodd bynnag, roedd y gefnogaeth y mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ei darparu i swyddogaethau'r heddlu ac i gydweithwyr swyddogion heddlu yn thema ailadroddus o fewn yr adolygiad llenyddiaeth a chanfyddiadau'r grŵp ffocws.

Byddai canfyddiadau cyffredinol yr adolygiad hwn yn awgrymu bod angen gwneud mwy o ymchwil er mwyn archwilio a datblygu gwell dealltwriaeth o rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng nghyd-destun plismona Cymru, a’u heffaith ar gymunedau Cymru.

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Louisa Smith

Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Ymchwil Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: Ymchwil.GwasanaethauChoeddus@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 15/2026
ISBN Digidol: 978-1-80633-882-5

Image
Ymchwil Gymdeithasol Y Llywodraeth