Neidio i'r prif gynnwy

Teitl yr adroddiad

Adolygiad Thematig Estyn o gymorth Awdurdodau Lleol a Chonsortia Rhanbarthol i ysgolion ac UCDau i ymateb i COVID-19.

Manylion yr adroddiad

Trosolwg o’r ffordd y mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wedi hyrwyddo dysgu a chefnogi disgyblion bregus yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 2020.

Dyma brif ganfyddiadau’r adroddiad:

  • mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wedi gweithio’n agos gyda’i gilydd a Llywodraeth Cymru i ymateb i’r pandemig
  • rhoddodd awdurdodau lleol gymorth gwerthfawr i alluogi i’w hysgolion a’u UCDau ailagor i’w holl ddisgyblion yn llwyddiannus ym mis Medi. Lle'r oedd cydweithio effeithiol ar draws gwasanaethau ar waith, bu iddynt ymateb yn gyflym i gefnogi lles yr holl ddisgyblion, yn enwedig y disgyblion y gwyddant eu bod yn fregus. Lle nad yw’r cydweithio wedi’i sefydlu cystal, mae’r pandemig wedi bod yn gatalydd i gryfhau gweithio ar y cyd. Hefyd, cyfrannodd y defnydd estynedig ar gyfathrebu digidol at weithio amlasiantaeth mwy effeithlon
  • Fe wnaeth darpariaeth deunyddiau dysgu o bell wella yn ystod tymor yr haf. Wrth i’r angen barhau yn ystod tymor yr hydref, roedd gwella ymhellach a gwreiddio darpariaeth dysgu o bell a chyfunol yn parhau’n flaenoriaeth. Tra bod consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol wedi datblygu canllawiau defnyddiol, rhestri arfer dda ac amrywiaeth o ddysgu proffesiynol, fodd bynnag, mae goruchwyliaeth ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o ansawdd y ddarpariaeth wedi’i thanddatblygu
  • Fe wnaeth profiadau dysgu’r disgyblion yn nhymor yr hydref amrywio’n helaeth ar draws ac o fewn ysgolion. Mae hyn wedi arwain at brofiadau dysgu anghyfartal i ddisgyblion sydd wedi cael y rhan fwyaf o’u haddysg yn yr ysgol ac i’r rheini sydd wedi cael eu haddysgu o bell am gyfnodau estynedig
  • mae'r rhwystrau dysgu yn y cartref a nodwyd yn nhymor yr haf, lle roedd lleiafrif o ddygwyr dan anfantais oherwydd diffyg mynediad at gyfarpar cyfrifiadurol addas neu ddiffyg cysylltedd digonol, wedi parhau yn ystod tymor yr hydref.
  • mae’r pandemig wedi cael mwy o effaith ar rai grwpiau o ddisgyblion, (e.e. y disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim). Mae hyn wedi gwaethygu rhai heriau yr oedd awdurdodau lleol a chonsortia eisoes wedi bod yn gweithio gydag ysgolion i fynd i’r afael â nhw
  • mae awdurdodau lleol a chonsortia wedi cydnabod effaith tymor hwy bosibl y pandemig ar les y dysgwyr ac wedi cynnig dysgu proffesiynol i staff ysgolion ar gefnogi lles. Mae dysgwyr sydd eisoes yn wynebu heriau oherwydd profiadau niweidiol yn ystod plentyndod cyn y pandemig wedi wynebu heriau pellach.
  • gan amlaf, mae awdurdodau lleol wedi sicrhau bod prosesau statudol i ddisgyblion yn gysylltiedig ag anghenion addysgol arbennig (AAA) wedi parhau yn ystod tymor yr hydref
  • mae swyddogion consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol wedi parhau i gefnogi cymhwysedd digidol athrawon ac arweinwyr ysgol yn ystod tymor yr hydref. Mae’r defnydd effeithiol o gyfathrebu digidol wedi cael canlyniadau cadarnhaol o ran hwyluso rhyngweithiadau mwy chwim, effeithlon a chyson rhwng ac o fewn cymunedau dysgu
  • mae barn gymysg ymhlith arweinwyr ysgol ledled Cymru am effeithiolrwydd y cymorth a gawsant gan eu hawdurdod lleol a’u consortiwm gwella addysg rhanbarthol yn ystod y pandemig.

Gwnaeth awdurdodau lleol addasiadau cynnar priodol i’r trefniadau llywodraethu, ond roedd ychydig awdurdodau lleol yn rhy araf yn ailddechrau eu swyddogaethau craffu. Erbyn canol Gorffennaf 2020, roedd hyn wedi gwella ac erbyn tymor yr hydref, roedd Cabinetau pob cyngor yn cwrdd ar-lein ac roedd pwyllgorau craffu yn y rhan fwyaf o gynghorau yn cwrdd ar-lein hefyd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Byddwn yn gweithio gydag Estyn, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o'r adroddiad yn cael eu gweithredu. Y strwythurau allweddol ar gyfer arwain ein hymateb ar gyfer adfer yw ein Partneriaeth Strategol ar gyfer Addysg, y Bwrdd Newid a'r Bwrdd Cyflawni Gweithredol. Mae'r tri grŵp eisoes wedi hen sefydlu ac yn cynnwys yr holl bartïon allweddol a fydd yn cyfrannu at gyflawni 'Cenhadaeth Ein Cenedl' a'n hadferiad o COVID.  Ein blaenoriaeth nawr yw gweithio gyda'n partneriaid i gytuno ar rhaglen ymarferol, hirdymor i gefnogi dysgwyr dros y blynyddoedd nesaf i gyflawni eu potensial.

Isod ceir ymatebion unigol i bob un o’r argymhellion:

A1: ymateb ar frys i fynd i’r afael a’r rhwystrau i ddysgu o adre, yn enwedig lle mae'r rhain yn ymwneud a diffyg mynediad i gyfrifiaduron neu gyswllt a’r we

  • Rydym yn cydnabod yr her sy'n wynebu pob dysgwr, athro ac arweinydd o ganlyniad i'r pandemig, ac yn cydnabod efallai na fydd ymatebion ac atebion digidol mor addas i rai ag y maent ar gyfer eraill.
  • Rydym wedi creu Gweithgor Dysgu Cyfunol, sy'n cynnwys swyddogion o Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a'r Consortia Rhanbarthol, ac wedi gofyn iddynt fynd i'r afael â materion mynediad cyfartal at ddysgu mewn cyfnodau o darfu.
  • Mae'r Gweithgor wedi nodi pum her ar lefel system, ac mae un ohonynt yn ymwneud yn benodol ag offer a chysylltedd ar gyfer dysgwyr a staff.
  • Mae Cam 1 ein harolwg llinell sylfaen digidol bellach wedi dod i ben, a derbyniwyd cyflwyniadau gan bob un o'r 22 awdurdod lleol.  Mae'r canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg yn cadarnhau bod nifer fach o ddysgwyr ychwanegol sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol wedi'u nodi ers ein hymgysylltiad gwreiddiol ar ddechrau'r pandemig.
  • Fodd bynnag, mae'r mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol wedi cadarnhau bod cymorth eisoes wedi'i roi ar waith yn y rhan fwyaf o achosion. 
  • Mae ysgolion Cymru yn parhau i gael mynediad da at wasanaethau a seilwaith digidol drwy raglen Technoleg Addysg Hwb.  Mae buddsoddiad o dros £80 miliwn yn y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf yn unig wedi helpu awdurdodau lleol i uwchraddio a diogelu seilwaith digidol mewn ysgolion at y dyfodol.
  • Prynwyd dros 130,000 o ddyfeisiau i ddefnyddwyr drwy raglen Technoleg Addysg Hwb hyd yma. Rydym eisoes wedi gweld dros 120,000 o ddyfeisiau yn cael eu dosbarthu i awdurdodau lleol, a disgwylir i’r 12,000 o ddyfeisiau eraill a archebwyd gyrraedd dros yr wythnosau nesaf.  Yn ogystal, dosbarthwyd 10,848 o unedau MiFi a dosbarthwyd 9,717 o ddyfeisiau wedi'u hail-bwrpasu.
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo i gefnogi teuluoedd sy'n cael trafferthion gyda materion cysylltedd.  Rydym wedi ymgysylltu â'r pedwar prif weithredwr ffonau symudol i ehangu'r cynnydd yn y terfyn data a gynigir i deuluoedd yng Nghymru a chyda chydweithwyr seilwaith digidol i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r gwahanol opsiynau sydd ar gael.
  • Mae'r defnydd o blatfform Hwb wedi ffrwydro ers i ddysgu o bell ailymgynnull y tymor hwn.  Ar hyn o bryd mae hyd at 50 o fewngofnodion yr eiliad ar gyfartaledd bob dydd ar Hwb, gan roi mynediad i ddysgwyr ac ymarferwyr at ein gwasanaethau digidol gan gynnwys e-bost ac adnoddau dysgu ar-lein. Mae'r platfform ei hun yn cofnodi dros 337,000 o fewngofnodion, gyda dros 1 miliwn o dudalennau yn cael eu gweld y dydd.

A2: gwella ansawdd y profiadau dysgu o bell a dysgu cyfunol i ddisgyblion trwy gefnogi addysgu mwy effeithiol ar draws ac o fewn ysgolion ac UCDau

  • Rydym yn cydnabod bod anghysondebau wedi bod o ran darparu dysgu cyfunol yn ystod y cyfnod cychwynnol. Cynhaliodd y consortia rhanbarthol adolygiad o'r ddarpariaeth i’w ystyried wrth ddatblygu canllawiau manylach.
  • Bu'n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr dreulio amser yn dysgu am systemau nad oeddent yn cael eu defnyddio'n helaeth ganddynt cyn y pandemig, ac maent wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi gweithio i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael ar HWB – Google Classrooms, Microsoft Teams ac ati.
  • Mae dysgu proffesiynol mwy diweddar wedi canolbwyntio ar wella'r sgiliau a'r technolegau hyn ymhellach. Roedd diddordeb mawr mewn cyfleoedd ar gyfer cymorth ychwanegol gan y consortia yn y meysydd hyn.
  • Yn fwy diweddar, rydym wedi derbyn adborth bod ysgolion bellach yn cynnig darpariaeth dysgu o bell cydamserol ac anghydamserol o ansawdd uwch.
  • Er mwyn adeiladu ar y momentwm hwn, mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda i gefnogi pob ymarferydd i ddatblygu sgiliau newydd ym maes cynllunio dysgu. Mae'r pandemig wedi ein dysgu y bydd hwn yn arf craidd yn sgiliau pob ymarferydd yn y dyfodol.
  • Lansiwyd cyfres o fodiwlau cynllunio dysgu a ddatblygwyd yn ddiweddar ar Hwb, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth fel sail ar gyfer creu adnoddau a phrofiadau dysgu o bell anghydamserol.
  • Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo gydag amrywiaeth o bartneriaid fel rhan o rhith-gynllun cydweithredol Cymru ar gyfer cynllunio dysgu, i ymwreiddio cynllunio dysgu fel disgyblaeth addysgeg. 
  • Rydym wedi adnewyddu ein canllawiau dysgu i gefnogi blaenoriaethau ysgolion a lleoliadau ar gyfer dysgu ar hyn o bryd. Mae'r blaenoriaethau yn y canllawiau hyn yn pwysleisio egwyddorion tebyg i'r rhai a nodwyd gan Estyn. Yn benodol, rydym yn annog ysgolion i roi pwyslais ar:
    • sicrhau bod pwrpas clir i ddysgu a’i fod yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen
    • iechyd a lles dysgwyr
    • llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel galluogwyr mewn cwricwlwm ehangach
    • dysgu eang a chytbwys sy'n caniatáu i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth eang ac ystod o wybodaeth a sgiliau.
  • Rydym yn gweithio'n agos gydag Estyn a chonsortia rhanbarthol i roi cymorth ychwanegol i ysgolion i flaenoriaethu dysgu o amgylch yr egwyddorion allweddol hyn.

A3: datblygu dulliau cydlynol i wella cynnydd ym medrau llythrennedd, rhifedd a medrau personol a chymdeithasol disgyblion bregus y mae’r pandemig wedi effeithio’n anghymesur arnynt, er enghraifft disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim

  • Rydym yn cydnabod o ganlyniad i COVID-19 y gallai rhai dysgwyr, gan gynnwys y rhai sy'n agored i niwed neu dan anfantais, fod angen cymorth ychwanegol gyda'u dysgu oherwydd eu profiad yn ystod y pandemig.  Bwriad y Canllawiau ar gyfer cefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais yw cefnogi ysgolion a lleoliadau i sicrhau dull cynhwysol i bob dysgwr, a fydd o fudd arbennig i'n dysgwyr agored i niwed a difreintiedig.
  • Mae'r elfennau hyn yn eithriadol o bwysig i ddysgwyr ac maent yn allweddol i ddysgwyr sy'n agored i niwed yr effeithir arnynt yn anghymesur yn ein hysgolion, yn ogystal â'r rhai sy'n mynychu unedau cyfeirio disgyblion.
  • Dyna pam mae llythrennedd, rhifedd a lles cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr wrth wraidd ein canllawiau dysgu diwygiedig ar gyfer ysgolion. Mae hyn yn cydnabod bod y rhain yn elfennau pwysig ar gyfer dysgu, sy’n cefnogi parodrwydd dysgwyr i ddysgu.
  • Bydd y dysgwyr hyn hefyd yn parhau i fod yn rhan ganolog o’n hystyriaethau wrth i ni edrych ar ffyrdd o gefnogi dysgwyr ac ysgolion wrth i'r pandemig ostegu.

A4: sefydlu strategaeth i fonitro ac i fynd i’r afael ar effaith hirdymor y pandemig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl disgyblion

  • Bydd ein Canllawiau fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol ar gyfer ysgolion yn cael eu cyhoeddi'n fuan a byddant yn orfodol ar gyfer ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol.
  • Rydym yn dweud yn glir bod y Fframwaith hefyd yn ganolog i'n cynlluniau i fynd i'r afael ag effaith hirdymor y pandemig ar les drwy gefnogi lles dysgwyr.
  • Bydd yn ofynnol i ysgolion adolygu eu hanghenion lles yn rheolaidd a rhoi strategaethau ar waith i fynd i'r afael â materion a bylchau ac adeiladu ar eu cryfderau. Bydd adolygu rheolaidd yn rhan o'r broses gynllunio ar gyfer gwella ysgolion.
  • Ar y lefel genedlaethol rydym wedi comisiynu Prifysgol Caerdydd i gynnal asesiad i ystyried y dystiolaeth i fesur llwyddiant a chynnydd ein gweithgarwch ysgol gyfan yn y tymor byr, y tymor canolig a'r hirdymor.  Byddant yn adrodd yn ddiweddarach yn 2021.

A5: creu cyfleoedd i bwyso a mesur a gwerthuso effaith polisïau ac arferion a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod hwn i lywio ffyrdd o weithio yn y dyfodol a dylunio’r cwricwlwm

  • Fel y mae adroddiad Estyn yn cydnabod, rydym eisoes yn gweithio'n agos gyda hwy a chonsortia rhanbarthol i ddeall effaith polisïau ac arferion. Yn benodol, dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf byddwn yn ceisio rhoi lle i ysgolion feddwl ac ystyried eu dulliau i ddeall yr hyn sy’n gweithio’n dda a sut i oresgyn yr heriau sydd o'n blaenau.
  • Mae cyfarfodydd wythnosol swyddogion Llywodraeth Cymru gydag Estyn a chonsortia rhanbarthol yn canolbwyntio ar ddeall eu gwybodaeth o sgyrsiau ag ysgolion a'r effeithiau ar ddysgu. Wrth i'r pandemig ddod i ben, bydd yn hanfodol cael y ddealltwriaeth gyffredin honno o'r heriau y mae dysgwyr ac ysgolion yn eu hwynebu – ac, yn bwysig, y ffordd orau o'u cefnogi wrth i'n hysgolion symud o adferiad i ddiwygio.
  • Pan gyhoeddwyd diweddariad Cenhadaeth Ein Cenedl ym mis Hydref 2020, nodwyd y bwriad i ddatblygu cynllun gweithredu. Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu ar 27 Ionawr gan nodi'r dull o werthuso, gan gynnwys parodrwydd a gwaith cwmpasu, i ddarparu'r fframwaith y gallwn ei ddefnyddio i gymryd stoc a deall effeithiau'n well.
  • Fel rhan o astudiaeth gwmpasu ein gwerthusiad byddwn yn archwilio'r ffordd orau o gefnogi ysgolion ac ymarferwyr wrth iddynt weithio drwy effeithiau'r pandemig ac ar ddiwygio'r cwricwlwm. Bydd hyn yn golygu ymgysylltu'n eang â sampl gynrychioliadol o ysgolion - ymgysylltu parhaus â phartneriaid allweddol fel Estyn - yn ogystal â thrafodaethau manylach gydag ymarferwyr drwy'r rhwydwaith cenedlaethol.
  • Bydd astudiaeth gwmpasu y gwerthusiad hefyd yn sefydlu llinellau sylfaen sy'n ystyried effeithiau'r pandemig, y gallwn ddeall a dangos effeithiau polisïau a gweithgareddau gweithredu ohono.

Manylion cyhoeddi

Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 15 Ionawr 2021 ac mae ar gael ar wefan Estyn.