Neidio i'r prif gynnwy

Adolygu arferion er mwyn ceisio atal gwahardd dysgwyr o’r ysgol, cynnal diddordeb dysgwyr, a’u cefnogi wrth ailgydio mewn addysg brif-ffrwd yn dilyn gwaharddiad cyfnod penodol.

Mae cyfraddau gwaharddiadau parhaol ac am gyfnod penodol wedi cynyddu o gymharu â chyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Cyn y pandemig, roedd cyfraddau gwaharddiadau parhaol ac am gyfnod penodol (o 5 diwrnod neu lai) wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2014/15.

Nodwyd bod ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn profi cynnydd mewn ymddygiad heriol gan blant a phobl ifanc yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ar adeg pan nodir hefyd gyfyngu ar yr adnoddau, sy'n lleihau'r cymorth y gellir ei gynnig i blant sydd mewn perygl o gael eu gwahardd.

Dywedodd rhanddeiliaid ei bod yn her ceisio cael mynediad at ddarpariaeth arbenigol allanol i ysgolion gan fod diffyg darpariaeth arbenigol berthnasol weithiau mewn rhai meysydd, diffyg ymwybyddiaeth o wasanaethau ymhlith staff ysgolion, neu restrau aros hir lle mae'r ddarpariaeth ar gael. Nododd uwch arweinwyr ysgolion eu bod yn ei chael yn anodd recriwtio arbenigedd, bod yr hyfforddiant staff sydd ar gael a thestun yr hyfforddiant hwnnw yn amrywio, a'i bod yn her dyrannu cyllid ac amser i ryddhau staff i fynychu hyfforddiant.

Yn ôl y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, yr ysgolion a'r unedau cyfeirio disgyblion a roddodd eu sylwadau, y gefnogaeth a fyddai'n eu helpu i atal gwaharddiadau yw cyllid ac adnoddau ychwanegol; roeddent yn dweud y byddai hyn yn caniatáu iddynt weithredu ymyriadau, cyflogi staff ychwanegol neu arbenigol, a darparu hyfforddiant staff er mwyn gallu bodloni anghenion eu plant a'u pobl ifanc yn llawn, yn emosiynol ac o ran ymddygiad.

Nododd rhanddeiliaid fod gwahardd mewnol (tynnu plant o'r ystafell ddosbarth) a chwtogi ar amserlenni yn arferion a oedd yn cael eu defnyddio'n gynyddol mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Fodd bynnag, roedd pryderon bod eu defnydd cynyddol yn adlewyrchu'r pwysau yr oedd staff ysgolion yn ei brofi wrth reoli ymddygiad plant, ac efallai na fydd yr ymyriadau hyn yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol ymddygiad sy'n tarfu, yn dibynnu ar sut cânt eu defnyddio.

Nododd yr adolygiad o lenyddiaeth ystod o ddulliau ac ymyriadau, yn rhai cyffredinol ac yn rhai wedi'u targedu, yng nghyd-destun ysgolion, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac sydd â'r potensial i atal gwaharddiadau:

  • Arfer adferol (dull o ddatrys gwrthdaro sy'n canolbwyntio ar gywiro unrhyw niwed sydd wedi'i wneud ac sy'n cynnwys pob parti dan sylw), ac yna dulliau ysgol gyfan o fynd i'r afael ag ymddygiad, oedd y dulliau cyffredinol (ar gyfer pob plentyn), yng nghyd-destun ysgol, a oedd â'r sylfaen dystiolaeth gryfaf ar gyfer atal gwaharddiadau. 
  • Mentora (cefnogaeth un-i-un gan gyd-ddisgybl hŷn neu oedolyn) oedd yn cael yr effeithiau cadarnhaol mwyaf cyson ar gyfer ymyriadau wedi'u targedu mewn ysgol (ar gyfer plant penodol neu grwpiau penodol o blant) er mwyn atal gwaharddiadau. 
  • Dylid ystyried yn ofalus gyd-destun ysgol unigol wrth ddewis a gweithredu arfer. 

Soniodd rhanddeiliaid am arferion pellach a ystyrid yn bwysig er mwyn atal gwaharddiadau a chefnogi dysgwyr i ailintegreiddio ar ôl eu cyfnod gwahardd: 

  • Roedd cyfathrebu clir a pherthynas gadarnhaol rhwng ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a theuluoedd yn cael eu hystyried yn bwysig. Roedd rhieni a gofalwyr yn croesawu ymgysylltu rhagweithiol a rheolaidd gan staff ysgolion, er bod staff wedi nodi bod rhai rhieni'n amharod i ymgysylltu. Yn ogystal, dywedodd rhieni a gofalwyr pa mor heriol y gall fod pan fydd plentyn mewn perygl o gael ei wahardd neu wedi ei wahardd, ac yn gyffredinol roeddent yn croesawu cymorth gan yr ysgol neu wybodaeth am gymorth o ffynhonnell arall. 
  • Nodwyd bod cydweithio ar draws asiantaethau yn sylfaenol. Soniodd rhanddeiliaid yn benodol am bwysigrwydd partneriaeth agos rhwng staff ysgolion a staff cynhwysiant awdurdodau lleol i sicrhau bod staff ysgolion yn cael gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer plant sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, ac yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth honno cyn gynted â phosibl. Nodwyd nad oedd hyn yn digwydd yn gyson, ac nad oedd staff rhai ysgolion yn ymwybodol o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn eu hardal.
  • Dywedodd plant a phobl ifanc, a rhieni a gofalwyr yr hoffent weld anghenion plant yn cael eu darganfod yn gynharach, ac yna gefnogaeth wedi'i theilwra'n benodol. Soniwyd hefyd am yr angen am well dealltwriaeth ymhlith staff ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion o'r rhesymau y tu ôl i ymddygiad plant a phobl ifanc. 
  • Roedd yna awydd i weld mwy o drafod a rhannu arferion rhwng ysgolion ynglŷn â sut i atal dysgwyr rhag cael eu gwahardd a chefnogi dysgwyr i ailintegreiddio. Hoffai staff awdurdodau lleol hefyd gael mwy o gyfleoedd i drafod arferion gyda chydweithwyr o awdurdodau lleol eraill.

Roedd yr adborth ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ar waharddiadau yn gadarnhaol ac roeddent yn cael eu defnyddio'n rheolaidd, er bod newidiadau wedi'u hawgrymu o safbwynt ymarferoldeb a hwylustod.

Cyswllt

Daniel Burley

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.