Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Chwefror 2016.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd eich sylwadau ynglŷn â diwygiadau i'r canllawiau anstatudol ar addysg gynhwysol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Gwnaeth y Gweinidog Addysg a Sgiliau ymrwymiad i adolygu'r canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed o ganlyniad i Ymchwiliad y Pwyllgor Plant Pobl Ifanc ac Addysg i bresenoldeb ac ymddygiad a gwerthusiad Prifysgol Caeredin o ddarpariaeth addysg ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu y tu allan i leoliadau ysgol.
Bydd yr ymgynghoriad ynglŷn â'r canllawiau diwygiedig yn para tan 11 Chwefror.
Mae'r cyfnod ymgynghori hwn yn fyrrach na'r arfer gan nad yw'r canllawiau'n creu unrhyw gyfrifoldebau newydd o ran polisi.
