Nod yr ymchwil hwn oedd adnewyddu'r sylfaen dystiolaeth ar gymorth rhianta anffurfiol a ffurfiol, adolygu'r hawl rhianta ar hyn o bryd yn Dechrau'n Deg a chefnogi datblygiad y rhaglen yn y dyfodol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd yr astudiaeth yn seiliedig ar asesiad o dystiolaeth gyflym, gan ddiweddaru gwaith blaenorol yn y maes hwn. Yn ogystal, cynhaliwyd ymgynghoriadau dros y ffôn gyda staff Dechrau'n Deg a rhanddeiliaid allweddol. Canolbwyntiodd yr adolygiad ar raglenni cefnogaeth gyffredinol ac wedi'u targedu / arbenigol, a gafodd eu rhannu ymhellach yn dri maes thematig: cefnogaeth amenedigol a chefnogaeth yn y blynyddoedd cynnar; dulliau ymyrraeth gynnar i gefnogi rhieni agored i niwed; a rhianta cadarnhaol.
Bydd canfyddiadau o'r gwaith yn cael eu defnyddio i lywio cyfeiriad y canllawiau ar gymorth rhianta yn y rhaglen Dechrau'n Deg yn y dyfodol.
Adroddiadau
Adolygu cymorth rhianta ar gyfer Dechrau'n Deg , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Adolygu cymorth rhianta ar gyfer Dechrau'n Deg: crynodeb , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 215 KB
Cyswllt
Chris Roberts
Rhif ffôn: 0300 025 6543
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.