O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad o ganlyniadau llesiant.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae hwn wedi ' i fwriadu ar gyfer pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth ac ar gyfer gofalwyr y mae arnynt angen cymorth, ac i bennu mesurau i ddangos a yw'r canlyniadau hyn yn cael eu cyflawni.
Mae Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol y Gwasanaeth Cymdeithasol yn cael ei ddatblygu i ddiwallu'r gofynion hyn. Mae'r adolygiad yn adrodd ar ganfyddiadau prosiect i archwilio a allai Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw helpu i ddarparu dangosyddion canlyniadau cenedlaethol sy'n mesuro llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth, i'w cynnwys yn y fframwaith canlyniadau cenedlaethol.
