Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 24 Mawrth 2015.

Cyfnod ymgynghori:
28 Ionawr 2015 i 24 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r ymgynghoriad a chrynodeb o'r ymatebion ar gael ar  wefan Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) (dolen allanol Saesneg yn unig)

Dylech anfon unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'i chyhoeddi yn Lloegr i DEFRA: BirdTrade.Consultation@defra.gsi.gov.uk

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), Llywodraeth yr Alban a Gweinidogion Cymru yn awyddus i gael barn pobl ar y newidiadau arfaethedig i reolau gwerthu adar a fagwyd mewn caethiwed yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Ym Mhrydain mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (‘Deddf 1981’) yn gwarchod adar rhag cael eu lladd eu hanafu na’u cymryd o’r gwyllt.  Nid yw’r ddeddf yn cynnwys adar a fagwyd mewn caethiwed y caiff pobl perchen yn gyfreithlon arnynt - er bod yn rhaid iddyn nhw allu profi hynny  os gofynnir iddynt.

Dyma nod yr ymgynghoriad:

  • pennu’r drefn ddeddfwriaethol a gweinyddol ar gyfer gwerthu a phrynu’n gyfreithlon  adar byw a fagwyd mewn caethiwed yng Nghymru Lloegr a’r Alban
  • trafod problem allweddol sydd wedi’i hadnabod yn y drefn bresennol sy’n ymwneud â gwerthu adar sydd wedi’u mewnforio o Aelod-wladwriaethau eraill
  • nodi nifer o opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r mater hwn
  • gofyn barn am yr opsiynau hyn
  • trafod a gofyn am farn ar nifer o faterion ychwanegol.

Gan mai ymgynghoriad cyhoeddus yw hwn mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb wneud sylwadau arno.  Dylai fod o ddiddordeb arbennig i awdurdodau gorfodi a’r rheini sy’n prynu neu’n gwerthu adar a fagwyd mewn caethiwed.