Neidio i'r prif gynnwy

Annwyl Weinidog,

Diolch i chi am y cyfle i arwain yr arolwg o rolau a chyfrifoldebau'r partneriaid addysg yng Nghymru a’r gwaith o gyflawni’r trefniadau i wella ysgolion. Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn wynebu heriau sylweddol ac mae’n hanfodol bod y system gwella ysgolion yng Nghymru yn darparu’r seilwaith gorau a mwyaf cost-effeithiol i ddarparu’r cymorth i alluogi ein harweinwyr addysg i arwain, ein hathrawon i addysgu ac, yn eu tro, ein dysgwyr i ddysgu. 

Roeddem yn falch o allu treulio amser gyda chi ar 7 Rhagfyr i drafod ein hymgysylltiad helaeth â chydweithwyr ar draws y sector addysg yng Nghymru. Rwyf bellach yn ysgrifennu atoch i gyfleu’r hyn a rannwyd â ni yn ystod y gwaith ymgysylltu hwn. Yr hyn a geir yma yw crynodeb o’r prif themâu sy’n ymwneud ag ystod o feysydd ar draws y system addysg yng Nghymru – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol – a godwyd yn ystod ein cyfarfodydd â’n cydweithwyr fel rhan o gam casglu tystiolaeth yr arolwg. Cawsom ein taro gan gryfder a chysondeb y safbwyntiau ar draws y sector ysgolion.

Yn ystod Cam 1 ein gwaith ymgysylltu, gwnaethom gasglu tystiolaeth drwy wrando ar amrywiaeth mor eang â phosibl o safbwyntiau gan y rheini sy’n arwain ysgolion a’r rheini sydd yn yr Haen Ganol. 

  • Gwnaethom gynnal gweithdai wyneb yn wyneb gydag arweinwyr ysgolion ym mhob ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru rhwng canol mis Medi a diwedd mis Hydref. Gwnaethom ofyn i’r awdurdodau enwebu’r arweinwyr ysgolion i fod yn bresennol. 
  • Gwnaethom siarad wyneb yn wyneb â chyfanswm o bron i 300 o arweinwyr ysgolion yn ystod y broses hon a chlywsom gan bobl o gymysgedd o gamau ac arbenigeddau gwahanol, gan gynnwys Addysg Cyfrwng Cymraeg, Addysg Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.
  • Gwnaethom hefyd gynnal cyfarfod ar-lein ar y cyd gyda’r Undebau ac ymateb i geisiadau am ddau gyfarfod ychwanegol a drefnwyd gan Undebau unigol – un gyda 30 o Benaethiaid a drefnwyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon ac un arall gyda 9 o athrawon o drefnwyd gan NASWUT. 
  • Yn ogystal, gwnaethom dderbyn 353 o ymatebion i arolwg ar-lein. Roedd yr arolwg yn ddienw felly mae’n bosibl bod rhai o’r ymatebion wedi’u cyflwyno gan y rheini a ddaeth i’r gweithdai hefyd. 
  • Mae hyn yn golygu ein bod wedi clywed gan gyfanswm o 350-650 o arweinwyr ysgolion sy’n cyfateb i rhwng 25% a 45% o’r arweinwyr ysgolion yng Nghymru. 
  • Rydym wedi siarad â Chyfarwyddwyr Rheoli, neu Arweinwyr Rheoli, y pum Consortiwm/Partneriaeth Rhanbarthol presennol – Canolbarth y De, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg, GwE, Partneriaeth y Canolbarth, a Partneriaeth.
  • Rydym wedi siarad â chynrychiolwyr o blith swyddogion y 22 awdurdod lleol – mewn rhai achosion, roedd hyn yn sgwrs â’r Cyfarwyddwr Addysg; mewn achoson eraill, ymunodd y Prif Weithredwr a/neu aelodau eraill o’r timau gwella ysgolion â’r Cyfarwyddwr Addysg. 
  • Rydym hefyd wedi siarad â phartneriaid cenedlaethol allweddol fel Estyn, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a Chyngor y Gweithlu Addysg. 

Rydym wedi cael ein taro gan gysondeb y negeseuon a glywsom gan arweinwyr ysgolion o bob cwr o Gymru yn y sesiynau wyneb i wyneb ac yn yr ymatebion i’r arolwg. Mae’n glir bod y pandemig wedi cael nifer o effeithiau niweidiol ar ein dysgwyr sydd, yn eu tro, wedi creu nifer o heriau i’r rheini sy’n ceisio darparu’r profiad dysgu gorau posibl iddynt. 

Yn eu hymatebion:

  • Dywedodd yr arweinwyr ysgolion eu bod yn teimlo wedi’u llethu gan yr holl newid yn y system ac roeddent yn teimlo bod diffyg eglurder ynghylch y diwygiadau cenedlaethol mewn rhai meysydd allweddol fel y cwricwlwm, cynnydd ac anghenion dysgu ychwanegol.
  • Fe wnaeth yr arweinwyr ysgolion gyfleu pryderon difrifol ynghylch y gwerth a ychwanegir gan y Consortia Rhanbarthol. Roedd llawer o bryder ynghylch y diwylliant o ‘gwneud i’ yn hytrach na ‘gwneud gyda’. Nodwyd y pryderon ynghylch yr amrywiaeth a’r diffyg cysondeb yn ansawdd y cymorth gan y consortia hefyd. 
  • Roeddent o’r farn bod llawer o'r ceisiadau gan yr haen ganol yn ddiangen, yn wrthgynhyrchiol ac yn ychwanegu biwrocratiaeth. Ceisiwyd eglurder ynghylch rolau ac effaith pob elfen o fewn yr Haen Ganol.
  • Rhannodd yr arweinwyr ysgolion rwystredigaethau dwfn ynghylch y broses cyllid grant - y fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrthi a’r ansicrwydd y mae’n ei achosi i arweinwyr ysgolion. Roeddent hefyd yn ceisio tryloywder ynghylch y broses ariannu a dirprwyo i ysgolion.
  • Teimlai’r arweinwyr ysgolion fod ychydig neu ddim cymorth ar gyfer rhai o’r heriau mwyaf y mae ysgolion yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn dilyn y pandemig, fel presenoldeb ac ymddygiad. 
  • Dywedodd yr arweinwyr ysgolion eu bod hwy a’u staff yn aml yn teimlo wedi’u llethu gan y cynnig dysgu proffesiynol presennol – “rydym yn cael trafferth dehongli sŵn gwyn y cynnig dysgu proffesiynol”Dywedasant hefyd nad oes ganddynt yr amser i gael mynediad at lawer ohono a phan oeddent yn gwneud hynny, roedd yr ansawdd yn amrywiol. 
  • Rhannodd yr arweinwyr ysgolion eu pryderon am y gwerth a ychwanegwyd gan bartneriaid cenedlaethol fel yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, fel y mae ar hyn o bryd, a Chyngor y Gweithlu Addysg, a nodwyd pryderon ynghylch dyblygu’r cynnig dysgu proffesiynol ar draws yr Haen Ganol. 
  • Nododd yr arweinwyr ddymuniad i weld mwy o adnoddau’n cael eu dosbarthu’n uniongyrchol o fewn cyd-destun lleol, ac mewn modd amserol, i alluogi cydweithio sydd â ffocws mwy lleol.

Wrth nodi meysydd sy’n gweithio’n dda, dywedodd yr arweinwyr ysgolion fel a ganlyn:

  • Ystyrir mai cydweithio rhwng ysgolion a gweithio mewn clystyrau yw’r elfen bwysicaf o gymorth ac mae’r arweinwyr ysgolion yn credu mai hyn ddylai fod y sylfaen ar gyfer y system Gwella Ysgolion yn y dyfodol. 
  • Mae’r rhwydweithiau cenedlaethol a rhanbarthol presennol yn cynorthwyo i gysylltu ysgolion ynghyd ledled Cymru ond nid ydynt ar gael i’r holl ysgolion ar hyn o bryd, ac nid ydynt yn cael eu defnyddio gan bob un ohonynt.
  • Croesawodd y mwyafrif o’r arweinwyr ysgolion y dull newydd gan Estyn yn ystod arolygiadau ond roedd rhai pryderon o hyd ynghylch cysondeb ac ansawdd yr arolygiadau.
  • Mae gan arweinwyr ysgolion gysylltiad cryf â’u lleoliad a cheir perthynas gref â’u hawdurdodau lleol mewn nifer o ardaloedd, a gryfhawyd yn ystod COVID.
  • Roedd yr arweinwyr ysgolion yn fwyaf hyderus ynghylch hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau ac roedd rhai enghreifftiau cadarnhaol o heriau a chymorth gan gyfoedion yn datblygu.
  • Gwnaeth lleiafrif yr ymatebwyr sylwadau cadarnhaol ar feysydd cymorth gan y Consortia Rhanbarthol, yn enwedig lle’r oeddent yn croesawu’r cymorth a’r heriau gan eu Partner Gwella a/neu lle’r oeddent yn gadarnhaol ynghylch y cymorth penodol a gawsant ar y cwricwlwm neu ddysgu proffesiynol. 

Roedd safbwyntiau mwy cymysg ymysg yr Awdurdodau Lleol a’r Consortia Rhanbarthol ynghylch llwyddiant y system bresennol o gymorth a safbwyntiau gwahanol ynghylch ffurf model y cymorth yn y dyfodol.

Roedd mwyafrif clir o’r awdurdodau o blaid archwilio symud i ffwrdd o’r trefniadau presennol ar gyfer cymorth rhanbarthol, neu maent eisoes wedi symud i ffwrdd ohonynt, i bartneriaethau rhwng awdurdodau lleol sy’n caniatáu dulliau mwy lleol. 

  • Mae rhesymau’r awdurdodau lleol dros symud i ffwrdd o fodel rhanbarthol yn ymwneud â’u hatebolrwydd dros wella ysgolion, y gallu i gysylltu’r cymorth ar gyfer gwella ysgolion â gwasanaethau lleol ehangach, a’u pryderon ynghylch ansawdd y cymorth a gwerth am arian y Consortia Rhanbarthol mewn cyfnod o bwysau ariannol sylweddol.
  • Roedd lleiafrif llai o awdurdodau yn hapus iawn gyda’r model rhanbarthol presennol ac nid oeddent am weld newid. Roeddent yn poeni am eu capasiti i allu cyflawni’r rôl angenrheidiol o safbwynt gwella ysgolion. Roeddent yn gwerthfawrogi’r cymorth gan eu Consortiwm Rhanbarthol, roeddent yn credu ei fod wedi gweithio’n dda o ran cefnogi ysgolion ac roeddent wedi gweld effaith hyn yn y gwelliannau ym meirniadaethau Estyn.
  • Roedd yr awdurdodau lleol hefyd yn teimlo bod angen cyfeiriad cenedlaethol mwy eglur ac mai nawr oedd yr amser i ailosod y genhadaeth genedlaethol a chynorthwyo ysgolion i ganolbwyntio ar nifer llai o flaenoriaethau. 
  • Y Consortia Rhanbarthol oedd fwyaf cadarnhaol ynghylch sut yr oedd y system bresennol yn gweithio a gwnaethant gyfeirio at eu heffaith o ran gwella canlyniadau Estyn, eu cefnogaeth i gydweithio rhwng ysgolion a hyd a lled y cymorth y gallent ei gynnig fel buddion allweddol gweithio rhanbarthol.

O ystyried cysondeb y negeseuon a glywsom o bob cwr o Gymru yn y sesiynau wyneb yn wyneb a’r ymatebion i’r arolwg, mae’r trywydd y mae’r arweinwyr ysgolion a mwyafrif yr awdurdodau lleol am ei weld yn glir ac yn seiliedig ar yr elfennau allweddol a ganlyn: 

  • cyfle i arwain ar faterion gwella ysgolion trwy fwy o ffocws ar gydweithio lleol a gweithio mewn partneriaeth rhwng yr arweinwyr ysgolion a’u Hawdurdod Lleol
  • partneriaeth rhwng mwy nag un awdurdod gan symud i ffwrdd o fodel cymorth rhanbarthol ehangach
  • arweinyddiaeth genedlaethol gryfach gyda blaenoriaethau cenedlaethol mwy eglur ar gyfer ysgolion a symleiddio’r dulliau cyllido cenedlaethol gyda chymaint o adnoddau â phosibl yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion neu i gefnogi grwpiau o ysgolion i gydweithio

Rwy’n gobeithio y byddwch yn cytuno ein bod wedi defnyddio Cam 1 i feithrin sail dystiolaeth gref ar y system bresennol. Rydym bellach yn cynnig y dylid defnyddio Cam 2 i ymateb i’r safbwyntiau a gyflëwyd drwy archwilio beth yw’r ffordd orau o gefnogi’r gwaith o wella ysgolion ar dair lefel drwy archwilio’r materion a ganlyn:

1. Beth yw’r ffordd orau o gefnogi’r cydweithio rhwng ysgolion ar lefel leol?

Byddai hyn yn golygu archwilio yng ngham 2 sut i gryfhau cydgyfrifoldeb; rôl cyllido, archwilio, a llywodraethu mewn cymell cydweithio ar draws ysgolion a chlystyrau; anghenion y camau gwahanol a’r mathau o arweinyddiaeth mewn ysgolion; a pha strwythurau partneriaeth lleol allai gefnogi mwy o arweinyddiaeth o’r system ac ymdeimlad o berchnogaeth gan ysgolion ar lefel leol.

2. Sut y gall cydweithio a rhwydweithio rhwng ysgolion barhau i gael ei gefnogi ar draws yr awdurdodau lleol ac yn genedlaethol? 

Byddai hyn yn golygu archwilio yng ngham 2 sut i annog neu fynnu cydweithio ar draws a rhwng ardaloedd yr awdurdodau lleol gydag egwyddorion cenedlaethol a gymeradwywyd ac sy’n gyson; sut i sicrhau bod gwelliannau mewn ysgolion yn cael eu cefnogi’n gyson waeth beth fo maint a gallu’r awdurdod lleol; a sut y gallai pob ysgol gael mynediad at rwydweithiau gwella ysgolion rhanbarthol neu genedlaethol eraill. 

3. Beth yw’r ffordd orau o gefnogi gwelliannau i ysgolion ar lefel genedlaethol? 

Byddai hyn yn golygu archwilio yng ngham 2 pa strwythurau sydd eu hangen ar lefel genedlaethol o bosibl i gefnogi gwelliannau i ysgolion a pharhau i ddarparu cymorth ar gyfer dysgu proffesiynol, y cwricwlwm ac arweinyddiaeth; beth yw’r ffordd orau o symleiddio’r prosesau cyllido, sicrhau bod mwy o adnoddau yn mynd i ysgolion, a chefnogi gwaith ysgolion ac ardaloedd lleol ar wella; a sut y gall Llywodraeth Cymru gyfathrebu cyfres o flaenoriaethau cenedlaethol mwy eglur a syml a rhoi arweiniad a chyfeiriad cenedlaethol cryfach. 

Rydym yn cydnabod y bydd sicrhau bod y manylion yn gywir yn bwysig cyn y gweithredir unrhyw newidiadau. Mewn unrhyw ad-drefnu posibl o fewn model newydd, bydd angen i bob elfen sy’n gweithio mewn partneriaeth ac mewn dull wedi’i alinio, allu darparu’r cymorth a’r arweiniad angenrheidiol o'r ansawdd gofynnol i alluogi arweinwyr ysgolion i ddarparu'r cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr. Bydd ymgysylltiad â ffocws gyda chydweithwyr yn bwysig o gofio’r negeseuon hynod gyson yr ydym wedi’u clywed. Edrychwn ymlaen at drafod ymhellach â chi, y Cyfarwyddwr Addysg a’i dîm sut y gellir cyflawni hyn yn ystod cam nesaf ein gwaith fel y gallwn ddarparu’r profiad addysgol gorau posibl i’n dysgwyr yng Nghymru a’r diwylliant gorau posibl o gymorth a grymuso i’r rheini sy’n arwain ac yn addysgu yn ein hysgolion.

Yn gywir
Dylan E Jones
18.xii.23