Neidio i'r prif gynnwy

Mae dyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion Cymru i adolygu a lle y bo’n briodol addasu'r Strategaeth Ansawdd Aer Genedlaethol (NAQS) i Gymru fel y'i nodir o dan adran 80 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, yn dilyn diwygiadau gan Ddeddf yr Amgylchedd 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhaid i'r adolygiad cyntaf fod wedi'i gwblhau erbyn 1 Mai 2023, gydag adolygiadau dilynol wedi'u cynnal ddim hwyrach na 5 mlynedd o ddyddiad yr adolygiad diwethaf.

Yn 2023, gwnaethom adolygu strategaeth ansawdd aer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon Air Quality Strategy Vol 1 a gyhoeddwyd yn 2007. Daethom i'r casgliad nad oedd bellach yn bodloni ein huchelgeisiau i wella ansawdd aer yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r amcanion ansawdd aer y cyfeirir atynt yn Nhabl 2 yn parhau'n gyfredol.

Yn 2020, cyhoeddwyd Cynllun Aer Glân i Gymru a osododd y cyfeiriad strategol ar draws sawl maes polisi am y degawd nesaf. Mae Cynllun Aer Glan i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach yn adlewyrchu'n well y sefyllfa a’r amgylchiadau presennol yng Nghymru o ran ansawdd yr aer. Mae hefyd yn gweddu i gyd-destun polisïau ac egwyddorion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Felly, rydym wedi addasu Strategaeth Ansawdd Aer Genedlaethol Cymru yn unol ag adran 80 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 drwy ddisodli Strategaeth Ansawdd Aer Genedlaethol 2007 gyda'r Cynllun Aer Glân a gyhoeddwyd gennym yn 2020. Fe wnaethon ni hefyd gadw'r amcanion ansawdd aer yn Nhabl 2 fel rhan o Strategaeth Genedlaethol Ansawdd Aer i Gymru. Yn ogystal, rydym wedi ystyried hynt y gwaith ers cyhoeddi'r Cynllun Aer Glân ac wedi llunio adroddiad diweddaru am y gwaith a wnaed ar y camau gweithredu.