Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r papur hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o rai themâu allweddol sy’n codi mewn llenyddiaeth ar bolisi rhanbarthol effeithiol, gan gwmpasu'r prif feysydd canlynol: Nodau ac amcanion polisïau datblygu, dulliau buddsoddi, graddau datganoli, capasiti, cydweithio a gwerthuso a monitro.

1. Nodau ac amcanion polisïau datblygu

Mae'r adolygiad hwn yn dechrau gyda throsolwg byr o rai o'r dadleuon allweddol sy'n ymwneud â pholisïau datblygu.

Diystyru lle neu bolisi sy'n seiliedig ar le?

Mae un ddadl ganolog yn y llenyddiaeth yn gofyn a ddylai polisi datblygu economaidd bryderu bod rhai rhanbarthau ar ei hôl hi o ran datblygiad o gymharu ag eraill ac a ddylid ceisio lliniaru'r gwahaniaethau hynny.

Dadl sylfaenol dulliau sy’n diystyru lle yw ei bod yn anochel y bydd gweithgarwch economaidd yn anghytbwys yn ddaearyddol ac, o ganlyniad, nad oes pwrpas i lunwyr polisi geisio mynd yn groes i'r graen gyda'r broses hon (Gill 2011).

Mae'r farn hon yn dibynnu ar y cysyniad o economïau cydgrynhoad. Syniad yw hwn bod cwmnïau a gweithwyr yn tueddu i fod yn fwy cynhyrchiol mewn ardaloedd mawr, poblog (Gill 2011, Barca 2011 OECD 2018b, Nguyen 2019). Oherwydd hyn, mae gweithgarwch economaidd yn debygol o fod yn anghytbwys yn ddaearyddol, gyda’r cydgrynoadau hyn yn dueddol o wneud yn well. Mae'n annhebygol y bydd newidiadau polisi yn gwrthdroi hyn. Yn hytrach, dylai polisi ganolbwyntio ar wneud y gorau o ganolfannau twf economaidd ble bynnag maen nhw'n bodoli. Fel arfer, mae hyn yn golygu ceisio sicrhau bod cydgrynoadau'n gweithio'n effeithiol a sicrhau buddsoddiadau sy'n helpu cwmnïau ac unigolion mewn ardaloedd llai datblygedig i fanteisio ar y cyfleoedd a geir mewn dinasoedd mawr. Gallai hyn olygu pethau fel buddsoddi mewn seilwaith i alluogi pobl i symud neu gymudo i'r ardaloedd hyn neu fuddsoddiadau cyffredinol mewn sgiliau er mwyn rhoi mynediad i waith medrus sy'n fwy tebygol o fodoli mewn dinasoedd. Y tu hwnt i hyn, dylai polisi cyhoeddus ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyffredinol i'r holl boblogaeth sydd ar gael i bobl ble bynnag maent yn byw.

Mae hyn yn aml yn cael ei gyfleu fel helpu "pobl" yn hytrach na "lleoedd" – dylai polisi helpu pobl i fanteisio ar gyfleoedd economaidd, ble bynnag mae'r cyfleoedd hynny'n bodoli, yn hytrach na gwasgaru cyfleoedd economaidd yn fwy cyfartal ar draws ardaloedd. 

Er bod union faint yr effeithiau yn amrywio'n sylweddol o un astudiaeth i'r llall a rhwng gwahanol wledydd, yn fras, mae tystiolaeth dda i ddangos bod cynyddu crynodiad trefol yn gysylltiedig â chynyddu cynhyrchiant a thwf economaidd (e.e. Melo et al 2009, Frick a Rodriguez-Pose 2016, OECD 2018b). Yn ogystal, dadleua Gill (2011) fod ymdrechion polisi datblygu sydd â'r nod o gyflawni lefelau twf economaidd mwy cyfartal wedi bod yn llawer llai llwyddiannus yn hanesyddol na pholisïau datblygu sy'n canolbwyntio ar gydgrynoadau.

Fodd bynnag, mae'r llenyddiaeth hefyd yn nodi nifer o resymau dros fod yn wyliadwrus ynghylch dull o weithredu sy'n diystyru lle ac sy’n seiliedig ar gydgrynoadau. Yn arbennig:

  • Mae rhanbarthau sydd â pherfformiad gwan yn dal i gyfrannu at berfformiad economaidd cenedlaethol, ac o ganlyniad mae gwella perfformiad y rhanbarthau hyn yn debygol o gefnogi twf economaidd ehangach. Mae methu â rhoi cefnogaeth iddynt, fodd bynnag, yn debygol o ddal twf economaidd cyfanredol yn ôl (OECD 2012, Gal ac Egeland 2018).
  • Nid rhanbarthau trefol yw'r rhai sy'n tyfu gyflymaf o reidrwydd. Er enghraifft, rhwng 1995 a 2007, tyfodd rhanbarthau gwledig yng ngwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn gynt na rhanbarthau trefol (OECD 2012). O'r herwydd, gall pwyslais gormodol ar ardaloedd trefol olygu colli cyfleoedd i hybu twf
  • Mae twf economaidd mwy eang yn debygol o wneud gwledydd yn llai agored i ergydion economaidd a lleihau effaith daearyddiaeth ar gyfleoedd bywyd unigol (OECD 2012)
  • Er bod Gill (2011) yn nodi llwyddiant ymddangosiadol Iwerddon trwy ddull oedd yn  diystyru lle ac oedd wedi'i yrru'n bennaf gan gydgrynoadau, ymddengys bod dinasoedd y DU wedi cael llai o lwyddiant wrth greu twf y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr (McCann 2016, Pike 2018).
  • Gall effaith cydgrynhoad fod yn negyddol hefyd. Mae costau sydd ynghlwm â hybu twf ardaloedd sydd eisoes yn ardaloedd trefol mawr yn cynnwys materion fel llygredd a thagfeydd traffig
  • Mae goblygiadau moesol a gwleidyddol amlwg i’r penderfyniad o ganiatáu i rai ardaloedd gael eu "gadael ar ôl" wrth ganolbwyntio ymdrechion datblygu ar ddinasoedd mawr (Hendrickson et al 2018, Rodriguez-Pose 2018)
  • Dylid nodi hefyd, o gymharu â rhannau eraill o'r DU, fod Cymru'n dechrau o sylfaen eithaf isel o ran cydgrynoadau presennol (Brill et al 2015). Gallai hyn gyfyngu ar botensial unrhyw bolisïau sy'n canolbwyntio ar gydgrynoadau yng Nghymru

O ganlyniad, ymddengys bod cylchoedd polisi'n cynnig lefel rhesymol o gefnogaeth i ddulliau mwy sensitif i le o greu polisi datblygu. Mae hyn i ryw raddau'n ymdrech i leihau neu leddfu gwahaniaethau daearyddol o ran datblygiad (e.e. OECD 2018b, Hendrickson et al 2018).

Dylid nodi nad yw dull o greu polisi datblygu sy'n fwy seiliedig ar le neu'n fwy sensitif i le yn atal ymdrechion i fanteisio ar fuddiannau economïau cydgrynoadau (Barca 2011). Yn wir, mae'r OECD (2018b) yn hyrwyddo polisi sy'n seiliedig ar le ac yn pwysleisio bod dinasoedd sy'n gweithio'n dda yn nodwedd allweddol mewn rhanbarthau llai datblygedig sydd wedi dal i fyny â rhanbarthau mwy datblygedig. Fodd bynnag, gall dull cydgrynoadau sy'n fwy seiliedig ar le awgrymu ystod ehangach o ddulliau na dim ond helpu cydgrynoadau mawr i dyfu ymhellach. Er enghraifft, edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu rhwydweithiau o gydgrynoadau llai (Barca 2011) a thalu sylw manwl i'r ffordd y gall twf mewn cydgrynoadau gael ei drosglwyddo i ardaloedd eraill (OECD 2018b, Pike 2018).

Cydgyfeirio neu wneud y mwyaf o botensial?

Er mai prif amcan cyffredinol polisïau datblygu rhanbarthol yn hanesyddol yw lleihau anghyfartaledd rhwng ardaloedd, un feirniadaeth allweddol a nodwyd uchod yw nad yw hyn yn aml wedi digwydd (er fel mai'r OECD yn nodi (2012, 2018b), mae modd "dal i fyny" i ryw raddau).

Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu nad yw polisi rhanbarthol wedi cael unrhyw effaith. Gellir dweud bod polisi yn cael "effaith" os bydd newid yn digwydd na fyddai wedi digwydd pe na bai'r polisi hwnnw wedi'i weithredu. Gall polisïau datblygu rhanbarthol gael effaith (yn yr ystyr eu bod yn galluogi rhanbarthau i dyfu'n gynt nag y byddent yn absenoldeb polisi datblygu rhanbarthol) ond gall anghydraddoldeb rhanbarthol aros yr un fath neu hyd yn oed gynyddu yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd mewn rhanbarthau eraill. Dylid nodi hefyd y gall y rhanbarthau dyfu neu "ddal i fyny" â rhanbarthau cyfoethocach am resymau nad oes ganddynt ddim oll i'w wneud â pholisi.

O ganlyniad, mae asesiadau o werth polisi rhanbarthol yn canolbwyntio'n gynyddol ar a ydynt yn galluogi rhanbarthau i ddatblygu'n gynt ac i raddau mwy nag y byddent wedi'i wneud heb y gweithgareddau hyn, ac a yw polisïau'n galluogi rhanbarthau i wneud y mwyaf o'u potensial i dyfu (OECD 2012).

Y pwynt olaf i'w nodi yw bod mesur effaith polisi datblygu rhanbarthol yn yr ystyr hwn yn fwy cymhleth na chymharu prif ddangosyddion Gwerth Ychwanegol Gros rhwng rhanbarthau. O'r herwydd, er mwyn asesu polisïau rhanbarthol mae angen gweithdrefnau gwerthuso o ansawdd da. Caiff hyn ei drafod yn fwy manwl mewn adran ddiweddarach. 

Blaenoriaethau eang y sector

Mae nodi sectorau penodol neu feysydd buddsoddiad y tu hwnt i gwmpas y papur hwn. Fodd bynnag, mae'n ddefnyddiol ystyried rhai fframweithiau eang sy'n amlinellu gwahanol ffyrdd o dargedu buddsoddiad.

Ceir safbwyntiau gwahanol yn y llenyddiaeth ar y math o sector economaidd y dylai polisi datblygu ganolbwyntio arno. Mae tri dull o bwys sy'n werth eu trafod:

Yn gyntaf, dull economi wybodaeth, sy'n rhoi pwyslais ar fuddsoddiadau mewn diwydiannau arloesol, sydd â lefel uchel o dechnoleg ac sy'n cael eu gyrru gan ymchwil a datblygu, er enghraifft gweithgynhyrchu gwerth uchel, gwyddorau bywyd, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Yn ail, mae'r OECD (2018b) yn dadlau dros ganolbwyntio ar sectorau masnachadwy i wella cynhyrchiant rhanbarthol ar y sail ganlynol: 

  • Mae gan y rhanbarthau sydd wedi bod yn "dal i fyny" gyda'r rhanbarthau sy’n arwain sectorau masnachadwy mawr sy'n tyfu fel arfer
  • Y rhanbarthau oedd yn ddibynnol ar sectorau anfasnachadwy cyn yr argyfwng ariannol gafodd eu taro galetaf gan yr argyfwng ac maent wedi'i chael yn anodd adfer eu hunain
  • Mae modd i gwmnïau yn y sectorau masnachadwy werthu eu nwyddau i farchnad y tu hwnt i'w hardal leol ac felly mae ganddynt fwy o botensial i dyfu
  • Mae cwmnïau o fewn sectorau masnachadwy yn fwy tebygol o wynebu cystadleuaeth ryngwladol ac felly mae ganddynt fwy o gymhelliad i arloesi a gwella eu cynhyrchiant
  • Mae tystiolaeth empirig yn awgrymu bod gwelliannau cynhyrchiant mewn sectorau masnachadwy yn fwy tebygol o ddeillio o welliannau mewn cynhyrchiant o fewn busnesau. Mewn sectorau anfasnachadwy, mae gwelliannau mewn cynhyrchiant yn fwy tebygol o ddod yn sgil newidiadau mewn cyflogaeth o fusnesau llai i rai mwy cynhyrchiol
  • Mae'n debygol iawn y bydd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y sector masnachadwy a'r sector economi wybodaeth. Bydd y rhan fwyaf o sectorau'r economi wybodaeth hefyd yn sectorau masnachadwy, ond mae sectorau masnachadwy'n debygol o fod yn dipyn mwy eang.

Nid yw'r OECD yn awgrymu y dylai buddsoddiadau mewn sectorau anfasnachadwy gael eu diystyru'n llwyr: 

  • Mae sectorau anfasnachadwy fel gwasanaethau iechyd ac adeiladu yn darparu gwasanaethau a chynnyrch angenrheidiol a defnyddiol. Gall allbynnau'r sectorau hyn helpu trwy fod yn sail ar gyfer twf y sectorau masnachadwy
  • Fodd bynnag, ni ddylai penderfyniadau ynghylch buddsoddiadau sy’n cynnwys y sectorau anfasnachadwy (ac asesiadau o'u heffeithiolrwydd a'u heffaith) gael eu seilio ar unrhyw effaith economaidd uniongyrchol (er enghraifft, y nifer o swyddi a grëir) ond yn hytrach ar werth y gwasanaethau y maent yn eu darparu yn ogystal â'u cyfraniadau at dwf mewn meysydd eraill

Yn olaf, dull economi sylfaenol, sy'n rhoi pwyslais ar gefnogaeth i ddiwydiannau sy'n "cefnogi bywyd bob dydd" trwy greu a dosbarthu nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu defnyddio gan bawb (Bentham et al 2013, Brill et al 2015, Froud et al 2019). Mae enghreifftiau allweddol yn cynnwys manwerthu a chynhyrchu bwyd, iechyd a gofal cymdeithasol, cyfleustodau a thrafnidiaeth a dosbarthu. Mae'r ddadl gyffredinol dros ddull economi sylfaenol fel a ganlyn:

  • Oherwydd bod sectorau'r economi sylfaenol yn darparu cynnyrch a gwasanaethau sy'n cefnogi bywyd bob dydd, byddai cryfhau a gwella'r sectorau hyn yn cael effaith uniongyrchol ar lesiant pobl
  • Mae sectorau'r economi sylfaenol yn cyfrannu'n sylweddol at gyflogaeth. O ganlyniad, byddai gwella ansawdd swyddi a chyflogau yn y sectorau hyn yn cael effaith uniongyrchol ehangach na datblygu sectorau'r "economi wybodaeth", sydd  ond yn debygol o gyflogi niferoedd cymharol fach o bobl.
  • Gall sectorau'r economi sylfaenol fod yn fwy "cydnerth" na sectorau economaidd eraill. Mae poblogaethau angen y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir gan yr economi sylfaenol yn barhaus ac felly mae'r galw’n annhebygol o amrywio i'r un graddau â mewn sectorau eraill.
  • Mae gan y Llywodraeth fwy o "ddulliau" y gellir eu defnyddio i ddylanwadu ar yr economi sylfaenol. Caiff llawer o'r economi sylfaenol ei rheoli'n uniongyrchol gan y sector cyhoeddus (er enghraifft, gwasanaethau iechyd). Mewn ardaloedd eraill, mae'r sector cyhoeddus yn un o brif brynwyr gwasanaethau economi sylfaenol (er enghraifft mewn gofal cymdeithasol), sy'n golygu bod lle i lywio ymddygiad cadarn drwy bolisïau caffael.
  • Gellir dadlau bod eiriolwyr economi sylfaenol yn fwy amheus y bydd buddiannau'r llywodraeth, cyflogwyr, gweithwyr a defnyddwyr yn cyd-fynd o angenrheidrwydd ac yn anochel.

Hyd y gwyddom, nid oes sylfaen dystiolaeth glir a fyddai'n ein galluogi i ddweud pa un o'r dulliau hyn sydd "orau". Yn benodol, o ystyried newydd-deb y dull economi sylfaenol, prin yw'r dystiolaeth i ddangos a yw amodau polisi yn cynhyrchu'r math o fanteision y mae ei eiriolwyr yn eu disgwyl. Fodd bynnag, nid yw o reidrwydd yn wir nad yw'r dulliau gwahanol yn gydnaws. Fel y nodwyd eisoes, mae sectorau economi wybodaeth yn debygol o fod yn sectorau masnachadwy. Mae eiriolwyr dros economi sylfaenol yn cydnabod gwerth buddsoddiadau mewn diwydiannau sy'n canolbwyntio ar wybodaeth ddwys (Bentham et al 2013).

I ryw raddau, mae'r dewis rhwng y dulliau hyn yn dibynnu ar amcanion cyffredinol polisi rhanbarthol. Mae dulliau'r economi wybodaeth a'r sectorau masnachadwy yn canolbwyntio ar ysgogi twf economaidd cyfanredol ac mae dull gweithredu’r OECD ar gyfer sectorau masnachadwy yn canolbwyntio ar dwf cynhyrchiant. Y dybiaeth fan hyn yw y bydd targedu'r amcanion hyn yn creu amodau ar gyfer cynnydd ehangach mewn llesiant a ffyniant. Mae'r dull economi sylfaenol, fodd bynnag, yn awgrymu canolbwyntio ar yr effeithiau mwy uniongyrchol y gall polisi eu cael ar lesiant ehangach.

Gosod amcanion

Beth bynnag yw amcanion polisi buddsoddi rhanbarthol, mae'r llenyddiaeth yn argymell yn bendant y dylai'r rhain gael eu gwneud yn glir o'r dechrau (OECD 2018a). Mae'n fuddiol diffinio amcanion polisi ar y cyd a sicrhau bod consensws ar y canlyniadau hynny ar draws yr ystod eang o gyfranogwyr sy'n ymwneud â pholisi datblygu rhanbarthol. Wrth gynllunio polisi, dylai'r berthynas rhwng mewnbynnau, allbynnau a deilliannau gael ei mynegi'n glir (OECD 2018a).

2. Y dull o ymdrin â strategaethau buddsoddi

Teilwra i anghenion a nodweddion rhanbarthol

Mae'r llenyddiaeth yn gyffredinol o blaid y syniad nad oes rysáit syml ar gyfer llwyddiant mewn polisïau datblygu rhanbarthol y gellir ei gymhwyso i bob rhanbarth. Efallai na fydd yr hyn sy'n gweithio mewn un ardal yn gweithio mewn un arall. Yn lle hynny, mae angen teilwra polisïau i ddiwallu anghenion penodol ac ategu cryfderau penodol rhanbarthau unigol (Barca et al 2012, Crescenzi et al 2017, OECD 2018a, OECD 2018b, Di Cataldo a Monastiriotis 2018, Rodriguez-Pose a Wilkie 2018):

  • Wrth ganolbwyntio ar y DU, mae Di Cataldo a Monastiriotis (2018) yn canfod bod cronfeydd arian o'r UE yn fwyaf tebygol o weld twf pan fyddant wedi cael eu defnyddio i fynd i'r afael â "diffyg" yn y rhanbarthau – er enghraifft ymddengys fod gwariant ar seilwaith yn fwy effeithiol mewn rhanbarthau lle mae seilwaith yn gymharol danddatblygedig
  • Mae Fratesi a Perucca (2014) yn canfod bod effaith cronfeydd arian yr UE yn cael ei gymedroli gan nodweddion ac asedau presennol rhanbarth penodol (y maent yn eu disgrifio fel cyfalaf tiriogaethol). Felly, er enghraifft, mae polisïau marchnad lafur yn fwy effeithiol mewn rhanbarthau sydd â lefelau uwch o gyfalaf dynol
  • Wrth edrych ar draws gwahanol wledydd mae Crescenzi et al (2017) yn canfod bod cronfeydd arian yr UE wedi perfformio'n well mewn rhanbarthau lle mae gwariant yn cyd-fynd ag anghenion cydnabyddedig
  • Gan ddefnyddio astudiaethau achos cymharol ar draws ystod o wledydd, mae Rodriguez-Pose a Wilkie (2018) yn nodi amrywiaeth o enghreifftiau lle mae ymyriadau sy’n diystyru lle wrth gael eu targedu wedi bod yn "wastraffus" (er enghraifft buddsoddiadau cyffredinol mewn seilwaith) ac eraill ble mae teilwra mwy gofalus wedi bod yn fwy llwyddiannus (er enghraifft, buddsoddiadau seilwaith sydd wedi'u targedu at leddfu tagfeydd penodol)
  • Gan ddefnyddio tystiolaeth astudiaeth achos o bob rhan o ardal yr OECD, mae'r OECD (2012) yn awgrymu y dylai rhanbarthau ganolbwyntio ar adeiladu ar eu cryfderau a'u potensial presennol

Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y gallai hyn ei olygu yn ymarferol:

  • Sicrhau bod buddsoddiadau mewn seilwaith yn cael eu targedu'n glir tuag at liniaru tagfeydd rhanbarthol penodol, gan osgoi cynlluniau adeiladu ffyrdd cyffredinol neu generig. Dylid talu sylw hefyd i lefel gyffredinol y seilwaith sy'n bodoli mewn rhanbarth - mae'n bosibl nad yw buddsoddiadau cyffredinol i wella seilwaith yn gweld canlyniadau mor dda mewn rhanbarthau sydd eisoes â lefel resymol o gysylltedd (Rodriguez-Pose a Wilkie 2018)
  • Seilio penderfyniadau ynghylch pa sectorau i'w cefnogi ar gryfderau ac asedau rhanbarthol cyfredol. Er enghraifft, nodi sectorau sy'n gysylltiedig â diwydiannau sydd eisoes â phresenoldeb cryf yn y rhanbarth neu nodi nodweddion sy'n benodol i leoliad (er enghraifft nodweddion daearyddol) sy'n ddefnyddiol ar gyfer diwydiannau penodol (OECD 2018b)
  • Sicrhau bod penderfyniadau ynghylch datblygu sgiliau yn ystyried y galw lleol am sgiliau. Byddai methiant i wneud hynny yn golygu efallai na fyddai'r rhai sydd wedi mynychu hyfforddiant yn gallu dod o hyd i waith sy'n gwneud y defnydd gorau o'u sgiliau neu efallai y byddent yn gadael y rhanbarth i chwilio am gyfleoedd gwell mewn mannau eraill (Rodriguez-Pose a Wilkie 2018)
  • Mewn perthynas â pholisïau i hybu ymchwil a datblygu, sicrhau bod gan economïau rhanbarthol y gallu i drosi a gwneud defnydd ymarferol o ganlyniadau gweithgarwch Ymchwil a Datblygu. Lle nad yw hyn yn bosibl, gall polisïau ymchwil a datblygu fod yn llwyddiannus yn eu ffordd eu hunain (e.e. gallai mwy o weithgarwch ymchwil a datblygu ddigwydd) ond ni fyddant yn cyfrannu at dwf economaidd ehangach. Gallai hyn olygu sicrhau bod gweithgarwch ymchwil a datblygu yn gysylltiedig â gweithgarwch cwmnïau yn y rhanbarth a hefyd ystyried capasiti

Mwy nag un maes polisi sy'n ategu ei gilydd

Mae'r llenyddiaeth hefyd yn awgrymu bod angen i bolisi datblygu rhanbarthol gwmpasu sawl maes polisi yn hytrach na chanolbwyntio ar feysydd unigol (e.e. seilwaith, arloesi, datblygu sgiliau) (Fratesi a Rodriguez Pose 2004, OECD 2012, Crescenzi a Giua 2016, Rodriguez-Pose a Wilkie 2018, Di Cataldo a Monastriotis 2018). Yn ogystal, mae angen i weithgarwch ar draws gwahanol feysydd polisi ategu ei gilydd a chael ei gydlynu cyn belled ag y bo hynny'n bosibl (Fratesi a Rodriguez-Pose 2004, OECD 2012, OECD 2018b, Rodriguez-Pose a Wilkie 2018).  Un feirniadaeth ar bolisi buddsoddi rhanbarthol yn y gorffennol yw ei fod yn tueddu i ddibynnu ar feysydd polisi ynysig i ymdrin â heriau sy'n gallu bod yn aml-ddimensiwn. Er enghraifft, cymryd yn ganiataol y bydd buddsoddi mewn meysydd fel cyfalaf dynol neu seilwaith yn cyfrannu'n uniongyrchol at dwf yn y meysydd hynny (Rodriguez-Pose a Wilkie 2018). Un o'r peryglon allweddol yw y bydd gweithgarwch mewn un maes yn cael ei danseilio gan ddiffyg gweithgarwch mewn maes arall. Er enghraifft, mae'r OECD (2012) yn nodi bod diffyg polisïau i ysgogi twf busnes yn golygu y gall polisïau buddsoddi mewn cyfalaf dynol arwain at "ddraen dawn" wrth i unigolion sy'n meddu ar sgiliau symud o un rhanbarth i gael gwaith mewn man arall. Ar yr un pryd, mae'n bosibl na fyddai modd i fusnesau dyfu heb fynediad at weithwyr sydd â sgiliau.

Un rhybudd yn hyn o beth - er bod gweithredu mewn sawl maes yn fuddiol, mae'r OECD (2012) yn nodi bod perygl mewn cael gormod o brosiectau bach ar y gweill gan ei bod yn bosibl na fyddai pob prosiect yn derbyn digon o sylw i gael effaith ystyrlon. O'r herwydd, mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion pecyn eang o fesurau datblygu a phrosiectau o faint digonol.

Arbrofi

O ystyried nad yw'n hawdd gwybod yn union beth fydd yn gweithio mewn ardaloedd penodol, mae cefnogaeth gyffredinol hefyd i ddull "arbrofol" o ymdrin â pholisi datblygu ble caiff syniadau gwahanol eu profi (OECD 2018a, Hendrickson et al 2018). Fodd bynnag, er mwyn i hyn fod yn effeithiol, mae angen system fonitro a gwerthuso sydd wedi'i datblygu'n dda i asesu pa mor dda y mae syniadau newydd ac arloesol yn gweithio (OECD 2018a).

3. Graddau datganoli/symud grym i ffwrdd o'r canol

Cwestiwn arall i'w ofyn yw i ba raddau y dylid datganoli rheolaeth dros bolisi datblygu rhanbarthol. Yn fras, ystyrir bod datganoli'n golygu trosglwyddo grym gwneud penderfyniadau i ffwrdd o'r canol. Mae hyn yn wahanol i'r cysyniad o "ddadgrynodi" lle mae'r cyfrifoldeb am weinyddu a gweithredu polisïau yn cael ei drosglwyddo o'r canol ond mae'r grym i wneud penderfyniadau yn parhau’n ganolog (Martinez-Vasquez et al 2015).

Mae dull datblygu rhanbarthol sy'n seiliedig ar le yn gwyro tuag at y syniad o symud grym i ffwrdd o'r canol, gyda rhanbarthau'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â pha bolisïau i'w dilyn yn eu hardal nhw. Mae'r llenyddiaeth yn cynnig nifer o ddadleuon sy'n ffafrio datganoli cyfrifoldebau i'r lefel is-genedlaethol.

Fel y nodwyd uchod, elfen allweddol o ddull sy'n seiliedig ar le yw bod angen teilwra polisi datblygu effeithiol i ddiwallu anghenion lleol. Er mwyn teilwra polisïau i ddiwallu anghenion lleol yn effeithiol, mae angen i lunwyr polisi fanteisio ar wybodaeth amrywiaeth eang o gyfranwyr. Ni all llywodraeth ganolog bob amser benderfynu ar y ffordd orau o weithredu ar ei phen ei hun. Mae'n bosibl bod gan bobl leol well dealltwriaeth o anghenion ardaloedd penodol (Rodriguez-Pose a McCann 2011, Barca et al 2012, Di Cataldo a Monastiriotis 2018). 

Mae hyn yn cyd-fynd â dadleuon gan gasgliadau eraill o lenyddiaeth. Er enghraifft, mae damcaniaeth economaidd datganoli cyllidol yn awgrymu y byddai datganoli yn ei gwneud hi’n haws i gyfateb penderfyniadau i ddewisiadau ac anghenion y boblogaeth leol (Oates 1972 a ddyfynnir yn Martinez Vasquez et al 2015). Mae eiriolwyr llywodraethu arbrofol yn cyffredinoli hyn ymhellach ac yn dadlau, oherwydd heriau economaidd-gymdeithasol cynyddol gymhleth, fod angen i lywodraethau canolog gynnwys ystod ehangach o gyfranwyr mewn prosesau datrys problemau ar draws pob maes polisi (Sabel a Zeitlin 2012 a ddyfynnwyd yn Morgan 2018).

Yn gysylltiedig â'r uchod, gallai symud grym i ffwrdd o'r canol ganiatáu dull mwy arbrofol o lunio polisi datblygu rhanbarthol trwy ddod â lleisiau a gwybodaeth newydd i mewn i'r broses llunio polisi. Byddai hyn yn darparu cyfle i roi cynnig ar gynlluniau arloesol ar raddfa lai (Morgan 2018). Mae'r manteision eraill a nodwyd yn cynnwys y syniad y gallai datganoli helpu i feithrin cystadleuaeth rhwng ardaloedd (er enghraifft, ar gyfer buddsoddiadau gan fusnesau ac i ddenu gweithwyr sy'n meddu ar sgiliau). Byddai hyn yn annog proses llunio polisi gwell (Martinez-Vasquez a McNab 2003).

Mae'r OECD (2018a) hefyd yn dadlau ei bod yn bwysig bod ardaloedd lleol yn teimlo eu bod yn "berchen" ar strategaethau datblygu yn eu hardal. Mae'n bosibl bod hyn yn fwy tebygol pan fo gan yr ardaloedd hynny reolaeth ystyrlon dros y strategaethau hynny. Yn yr un modd, mae Rodrigez-Pose a McCann (2011, hefyd Barca et al 2012) yn pwysleisio pwysigrwydd ymdeimlad o "gymuned" i bolisi datblygu rhanbarthol fel ffordd o sicrhau cefnogaeth gyffredinol i unrhyw ymdrechion i hybu datblygiad economaidd. Mae hyn yn rhywbeth y maent yn dadlau sydd yn fwy tebygol o fod yn wir ar lefelau lleol.

Fodd bynnag, gall fod rhesymau hefyd dros fod yn ofalus wrth ddatganoli cyfrifoldebau 

  • Mae pryderon y gallai datganoli wneud anghydraddoldebau rhanbarthol yn waeth. Yn benodol, o ystyried y cysylltiad rhwng capasiti gweinyddol (gweler yr adrannau dilynol) a pholisi rhanbarthol effeithiol, mae pryderon y gallai datganoli roi mwy o fantais i ranbarthau mwy datblygedig sydd â lefelau uwch o gapasiti.
  • Mae perygl o chwalu, cymhlethu a dyblygu gweithgareddau ar draws ardaloedd (OECD 2018b)
  • Er bod cystadleuaeth rhwng ardaloedd daearyddol yn gallu bod yn gynhyrchiol, mae perygl hefyd o greu cystadleuaeth lai iach rhwng ardaloedd sydd wedi eu datganoli. Gall hyn atal gwahanol ranbarthau rhag mynd ar drywydd polisïau a allai fod o fudd i nifer o ardaloedd a gallai un ardal hyd yn oed roi ymyriadau ar waith sy'n niweidiol i un arall (OECD 2018b).
  • Mae perygl nad yw unedau llai o fewn llywodraeth yn ddigon mawr i wneud newidiadau o'r maint cywir ac ar raddfa ddigonol (Morgan 2018, Allain-Dupre 2018)

Dylid nodi hefyd, yn achos llawer o'r dadleuon a gyflwynir uchod, bod manteisio i'r eithaf ar fanteision honedig datganoli yn cyflwyno'r cysyniad o ryw fath o "ddatganoli dwbl". Beth mae hynny'n ei olygu yw bod mwy o benderfyniadau'n cael eu gwneud ar lefel leol ond hefyd bod ymdrech i gynnwys ystod ehangach o randdeiliaid a dinasyddion cyffredin (OECD 2018a, Morgan 2018, Allain-Dupre 2018). Yn ôl y ddadl sy'n seiliedig ar le, mae polisi datblygu angen ystod eang o wybodaeth gan wahanol gyfranwyr i fod yn effeithiol, ac os ydym ni'n ystyried y ddadl honno o ddifrif, mae hyn yn awgrymu bod angen sicrhau bod llawer o leisiau gwahanol yn cael eu clywed yn ystod y broses llunio polisi (Rodriguez-Pose a McCann 2011). Os yw penderfyniadau ar lefel leol yn cael eu rheoli gan "elît" lleol (er enghraifft, arweinwyr gwleidyddol a busnes), mae perygl i strategaethau fod yn rhy gul a chanolbwyntio'n ormodol ar yr economi yn hytrach na'u bod nhw'n ystyried nodau cymdeithasol ehangach (Morgan 2018). Yn ogystal, er bod arweinwyr gwleidyddol yn teimlo perchnogaeth dros weithgarwch datblygu yn eu hardal, nid yw'n dilyn y bydd y teimlad hwn yn cael ei rannu gan y boblogaeth ehangach (OECD 2018a). Mae perygl i hyn danseilio dilysrwydd strategaethau datblygu. 

Tystiolaeth empirig ar y cysylltiadau rhwng datganoli a thwf

O safbwynt tystiolaeth empirig, nid yw'r llenyddiaeth swmpus am effeithiau posibl datganoli cyllidol (e.e. trosglwyddo penderfyniadau ynghylch sut mae arian y llywodraeth yn cael ei wario a/neu ei godi i ffwrdd o'r canol) yn rhoi atebion clir o gwbl bron iawn ar pa un ai yw datganoli yn debygol o wella twf economaidd ai peidio. Mae adolygiadau o'r llenyddiaeth fel arfer yn adrodd y gall astudiaethau unigol amrywio rhwng dod o hyd i gysylltiad cadarnhaol amlwg rhwng datganoli a thwf, cysylltiad negyddol amlwg a dim tystiolaeth o gwbl (Blochliger ac Egert 2013, Martinez-Vazquez et al 2015, Baskaran et al 2016).

Wedi dweud hyn, mae adolygiad Baskaran et al (2015) yn dod o hyd i dystiolaeth gryfach y gall datganoli gyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol mewn meysydd eraill ar wahân i dwf economaidd cyffredinol, yn benodol:

  • Lleihau anghydraddoldeb rhwng ardaloedd daearyddol
  • Lleihau anghydraddoldeb rhwng unigolion a chartrefi
  • Gwella rhai mathau o wasanaethau cyhoeddus

Mae'n werth nodi'r cyntaf o'r rhain yn benodol, o ystyried y pryderon y gallai datganoli waethygu anghydraddoldeb. Mae Blochliger ac Egert (2013) hefyd yn tynnu sylw at rai elfennau sy'n ymddangos yn rheolaidd yn y llenyddiaeth, er enghraifft:

  • Mae tystiolaeth gryfach o gysylltiad rhwng datganoli a thwf mewn gwledydd incwm uchel nac mewn gwledydd incwm isel
  • Mae'r ffordd y caiff datganoli ei fesur/diffinio yn bwysig. Yn benodol, mae astudiaethau sy'n mesur datganoli o safbwynt rheoli refeniw yn tueddu i ganfod cysylltiad mwy cadarn nag astudiaethau sy'n ei ddiffinio o safbwynt rheoli gwariant
  • Mae astudiaethau mewn un wlad yn unig yn tueddu i ddod o hyd i berthynas gryfach nag astudiaethau sy'n edrych ar sawl gwlad

Mae'r ddau bwynt olaf yn awgrymu y gallai llwyddiant datganoli ddibynnu i raddau helaeth ar y cyd-destun a'r trefniadau penodol a fabwysiedir mewn tiriogaeth benodol. Mewn geiriau eraill, efallai nad yw datganoli ynddo'i hun yn beth da nac yn beth drwg. Yn hytrach, gall fod â manteision ac anfanteision yn dibynnu ar ble a sut y caiff ei weithredu.

O ran effeithiolrwydd polisi, mae adolygiad Morgan (2018) o dystiolaeth ar ddemocratiaeth arbrofol yn nodi achosion lle mae llywodraethau is-genedlaethol wedi bod yn llwyddiannus wrth ddatblygu dulliau arloesol. Fodd bynnag, mae Morgan hefyd yn nodi tystiolaeth mai dim ond effaith gyfyngedig y mae modd i raglenni ar raddfa fach ei chael ac y gall gweithredoedd llywodraeth ganolog fod yn bwysicach mewn rhai meysydd. Er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau, mae cynnydd ystyrlon mewn rhaglenni gwrthdlodi wedi dod fel arfer trwy weithredu ar lefel llywodraeth ganolog yn hytrach na lleol (Super 2008 a ddyfynnir yn Morgan 2018).

Yn yr un modd, er bod Crescenzi a Giua (2016) yn gweld bod tystiolaeth ar y cyfan o blaid dull "o'r gwaelod i fyny" o ymdrin â pholisi datblygu rhanbarthol, maent hefyd yn awgrymu y gallai fod dadl dros gael dull "o'r brig i lawr" a thros gronfeydd arian sy'n diystyru lle, yn enwedig fel modd o gefnogi'r rhanbarthau hynny sydd yn cael trafferth manteisio i'r eithaf ar arian datganoledig.

Rheoli datganoli

Wrth ddatblygu'r syniad mai'r cwestiwn allweddol yw sut y gweithredir datganoli mae Allain-Dupre (2018) yn nodi nifer o heriau allweddol y mae angen eu goresgyn wrth ddyrannu cyfrifoldebau i lefelau llywodraeth is-genedlaethol. Yn benodol, mae Allain-Dupre yn nodi materion ynghylch:

  • Diffyg eglurder wrth ddyrannu cyfrifoldebau rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth
  • Tagfeydd adnoddau a chapasiti – pwyntiau yn y system lle mae adnoddau neu gapasiti yn annigonol er mwyn galluogi i'r rhan honno o'r system gyflawni ei chyfrifoldebau'n effeithiol. Un broblem benodol yw datganoli cyfrifoldeb heb adnoddau digonol
  • Heriau cydlynu – yn fertigol (e.e. rhwng llywodraeth leol a chenedlaethol) ac yn llorweddol (e.e. rhwng llywodraethau lleol mewn gwahanol ardaloedd)
  • Nodi’r raddfa gywir ar gyfer buddsoddiad cyhoeddus a darparu gwasanaethau (er enghraifft, ystyried manteision posibl gwneud penderfyniadau'n “agosach” at y bobl o'u cymharu â manteision gweithredu ar raddfa fawr, genedlaethol)

Nid oes atebion clir ar sut i fynd i'r afael â'r heriau hyn, ond mae Allain-Dupre yn nodi nifer o ganllawiau i helpu i lunio penderfyniadau, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod cyfrifoldebau gwahanol lefelau o lywodraeth yn cael eu diffinio'n glir a bod pwerau'n cael eu datganoli mewn modd ystyrlon
  • Sicrhau bod digon o adnoddau a chapasiti ar y lefel is-genedlaethol (yn arbennig i ymgymryd â datblygu capasiti – mae mwy o fanylion am hyn mewn adrannau dilynol – a sicrhau bod adnoddau'n cyd-fynd â chyfrifoldebau)
  • Sicrhau bod systemau ar waith ar gyfer cydweithredu a chydweithio rhwng lefelau o lywodraeth (e.e. cenedlaethol a rhanbarthol) a rhwng ardaloedd daearyddol gwahanol (e.e. rhanbarthau gwahanol)
  • Gwneud diwygiadau ategol (e.e. ynghylch llywodraethu defnydd tir, cyfranogiad dinasyddion a darparu gwasanaethau cyhoeddus arloesol)
  • Gwella'r broses o gasglu data a chryfhau'r gwaith o fonitro perfformiad (ymdrinnir â gwerthuso a monitro yn fwy manwl mewn adrannau dilynol)

Mae diffyg capasiti ar lefelau lleol i reoli gofynion polisi rhanbarthol datganoledig yn cael ei ystyried yn berygl penodol (caiff materion capasiti eu trafod yn fwy manwl yn yr adran nesaf). Er mwyn rheoli hyn, mae nifer o awduron (e.e. Allain-Dupre 2018, OECD 2018a), yn trafod y posibilrwydd o "ddatganoli anghymesur" - lle cynigir gwahanol lefelau o gyfrifoldeb i wahanol ranbarthau yn ôl asesiadau o'u gallu i reoli pwerau ychwanegol. Gwelir hyn fel dull o ymdrin â lefelau gwahanol o gapasiti ar draws rhanbarthau. Fodd bynnag, mae yna beryglon eraill i ddatganoli anghymesur. Yn benodol, ceir pryderon y bydd rhoi mwy o bwerau i ranbarthau "cryf" yn gwaethygu anghydraddoldebau rhanbarthol (er nad yw'r ddamcaniaeth hon i weld wedi ei phrofi yn y llenyddiaeth empirig). Mae peryglon eraill yn cynnwys cymhlethdod cynyddol ac effaith andwyol ar y berthynas rhwng llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol (er enghraifft, os bydd rhanbarthau y rhoddir llai o annibyniaeth iddynt yn teimlo'n anfodlon â'r sefyllfa hon).

O ganlyniad, mae awduron yn pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod penderfyniadau ynghylch datganoli anghymesur mor dryloyw â phosibl, bod y broses yn cael ei monitro a'i gwerthuso'n barhaus a bod lefel y datganoli yn cael ei thrin gyda hyblygrwydd ac mewn ffordd arbrofol – gan ganiatáu ar gyfer gwneud addasiadau yn dibynnu ar y canfyddiadau a ddaw o'r gwaith monitro a gwerthuso 
(Morgan 2018).

Amodau a chymelliadau

Mewn ymdrech i liniaru anfanteision posibl datganoli/symud pwerau i ffwrdd o'r canol, mae'n gymharol gyffredin i lywodraethau cenedlaethol (neu uwch-genedlaethol) roi systemau cymelliadau ar waith neu sefydlu amodau mewn perthynas â chronfeydd arian datganoledig. Mae'r OECD (2018a) yn nodi nifer o bethau i'w hystyried wrth ddatblygu'r systemau hyn:

  • Dylid ystyried cymelliadau sy'n gysylltiedig â fframwaith polisi rhanbarthol mewn ffordd systematig er mwyn osgoi cymelliadau gwrthnysig/annog un ymddygiad ond disgwyl rhywbeth arall
  • Dylid cynnwys cymelliadau gyda’r amcanion y mae'r rhai sy'n gyfrifol am weithredu polisïau yn eu rheoli. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod cysylltiad clir rhwng yr amcanion hynny a'r canlyniadau ehangach y mae'r polisi yn ceisio eu cyflawni. Mae dau berygl yma:
    • Canolbwyntio ar allbynnau polisi (e.e. nifer y cyfranogwyr sy'n cwblhau cynllun cyflogadwyedd) heb ystyried a yw'r allbynnau hynny'n gysylltiedig â'r canlyniadau a ddymunir (e.e. a yw'r cynllun cyflogadwyedd yn golygu bod cyfranogwyr yn dod o hyd i waith)
    • Cynnwys cymelliadau gyda chanlyniadau ehangach sy'n cael eu heffeithio gan ffactorau ar wahân i bolisi ac nad ydynt, felly, o dan reolaeth y rhai sy'n gweithredu'r polisi
  • Mae angen bod yn ofalus i beidio canolbwyntio'n ormodol ar gymhelliant anghynhenid na chynllunio system o gymelliadau nad yw’n gadael lle i gymhelliant cynhenid
  • Those responsible for achieving goals should be involved in setting those goals
  • Effective feedback mechanisms are important to the functioning of incentive systems
  • Systems of conditions and incentives work best when they are underpinned by strong, trusting relationships

4. Sefydliadau, capasiti a datblygu capasiti

Mae "capasiti" gwahanol lefelau o lywodraeth yn ffactor allweddol wrth weithredu polisi rhanbarthol yn llwyddiannus. Yng nghyd-destun polisi rhanbarthol, mae capasiti'n cyfeirio'n fras at allu llywodraeth genedlaethol neu is-genedlaethol i ddatblygu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso polisïau datblygu effeithiol. Gall gwahanol ddimensiynau capasiti gynnwys (Smeriglio et al 2016, OECD 2018a):

  • Sgiliau a galluoedd staff (gan gynnwys galluoedd arwain y rhai sydd ar frig y sefydliad)
  • Ffactorau ariannol (e.e. mynediad i gyllidebau sefydlog o faint priodol a ffynonellau cyllid eraill)
  • Trefniadau sefydliadol (e.e. trefniadau ar gyfer cydgysylltu ar draws gwahanol lefelau o lywodraeth, rhanddeiliaid, ardaloedd daearyddol a pholisi)
  • Prosesau polisi (e.e. prosesau caffael a dethol prosiectau)

O safbwynt tystiolaeth empirig, mae nifer o astudiaethau wedi canfod tystiolaeth o gysylltiad rhwng ansawdd llywodraethu ac effeithiolrwydd polisi rhanbarthol (Rodriguez-Pose a Garcilazo 2015, Smeriglio et al 2015, Rodriguez-Pose a Di Cataldo 2015, Crescenzi et al 2016). O gofio hyn, mae mwyafrif y llenyddiaeth i weld yn gytûn bod angen i bob strategaeth datblygu ranbarthol gynnwys rhyw ffurf o ddatblygu capasiti. Mae materion sy'n ymwneud â chapasiti yn gorgyffwrdd yn sylweddol â chwestiynau ynghylch datganoli a drafodir mewn mannau eraill yn y papur hwn. Os dilynir polisi buddsoddi rhanbarthol datganoledig, mae nifer yn dadlau bod capasiti ar lefel is-genedlaethol yn hanfodol (Allain-Dupre 2018). Mae'n bwysig nodi hyn gan nad yw datblygu capasiti bob amser yn flaenoriaeth uchel mewn datblygu rhanbarthol (OECD 2018a).

Er bod llawer o'r ffocws yma ar y lefel leol, dylid nodi hefyd y gall cyfyngiadau o ran capasiti hefyd ddigwydd ar y lefel genedlaethol ac uwch-genedlaethol. Er enghraifft, mae Morgan (2018) yn nodi bod modd beirniadu cronfeydd strwythurol Ewropeaidd diweddar oherwydd bod staffio ar lefel yr UE wedi canolbwyntio'n ormodol ar gydymffurfio, heb gapasiti digonol ym meysydd arbenigedd a chyngor polisi.

O ystyried pa mor eang yw’r cysyniad o gapasiti, mae ymyriadau datblygu capasiti’n debygol o gynnwys sawl elfen. Mae'r llenyddiaeth yn nodi nifer o ddulliau gweithredu a ffactorau i'w hystyried wrth lunio'r ymyriadau hyn.

Gall dysgu ffurfiol a lledaenu "arfer gorau" fod yn ddefnyddiol i raddau ond maent yn annhebygol  o fod yn ddigonol ar eu pennau eu hunain. Mae Smeriglio et al (2016) yn nodi pwysigrwydd rheoli adnoddau dynol y tu hwnt i hyfforddiant mewn datblygu capasiti, yn arbennig: 

  • Recriwtio nifer ddigonol o staff sy'n dod i'r sefydliad sydd eisoes yn meddu ar lefel o sgiliau
  • Mabwysiadu polisïau adnoddau dynol sy'n annog cadw a dyrchafu staff medrus

Yn ogystal â dysgu ffurfiol, dylid hefyd roi ystyriaeth i "ddysgu drwy wneud" lle mae llywodraethau cenedlaethol ac is-genedlaethol yn dysgu beth sy'n gweithio, drwy ryngweithio â'i gilydd dros amser (OECD 2018a).

Yn olaf, dylid nodi y gallai capasiti llywodraeth is-genedlaethol gael ei lywio gan ffactorau y tu hwnt i'w rheolaeth uniongyrchol (Smeriglio et al 2016) er enghraifft:

  • Yr adnoddau ariannol a ddosberthir iddynt gan y llywodraeth ganolog
  • Faint o sefydliadau lleol sydd â'r gallu i ddarparu gwasanaethau arbenigol (er enghraifft, darparwyr hyfforddiant a gwerthuswyr allanol)
  • Capasiti'r rhai sy'n derbyn cyllid (e.e. cwmnïau preifat, cyrff cyhoeddus eraill) i gynllunio, gweithredu a chyd-ariannu prosiectau (Smeriglio et al 2016)
  • Rheolau a diwylliant gweinyddol cenedlaethol

Symleiddio

Mae'r effaith y mae rheolau a gweinyddiaeth cenedlaethol yn ei chael ar gapasiti is-genedlaethol yn amlygu'r angen am symleiddio fframweithiau polisi rhanbarthol (OECD 2018a). Gall fframweithiau sy'n rhy gymhleth neu'n annealladwy greu beichiau diangen ar lywodraethau ar lefelau is a gorymestyn eu capasiti. Mae'r OECD (2018a) yn nodi nifer o ffyrdd y gellir cadw fframweithiau datblygu rhanbarthol yn syml:

  • Sicrhau nad oes newidiadau rheolaidd i'r rheolau (OECD 2018a). Ar wahân i unrhyw beth arall, mae newidiadau o'r fath yn tanseilio gweithgareddau dysgu sydd â'r nod o ddatblygu capasiti
  • Ymatal rhag gorddefnyddio amodau rhy fanwl i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â pherfformiad. Gall fod yn demtasiwn ceisio datrys problemau capasiti drwy bennu rheolau manwl iawn i lywodraethau is-genedlaethol eu dilyn. Fodd bynnag, gallai hyn waethygu materion capasiti
  • Sicrhau bod yr holl wybodaeth a'r canllawiau yn ddealladwy ac wedi'u hysgrifennu'n glir

5. Cydweithio

Un mater trawsbynciol sy'n dilyn o nifer o'r pwyntiau uchod yw pwysigrwydd cydweithio. Mae polisi rhanbarthol yn gofyn am lefelau sylweddol o gydweithredu rhwng nifer o grwpiau (OECD 2018a), yn benodol:

  • Rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth (e.e. cenedlaethol ac is-genedlaethol) -mae hyn yn bwysig ym maes polisi rhanbarthol yn gyffredinol i sicrhau bodgweithgareddau gwahanol haenau o lywodraeth yn cael eu cydgysylltu a body disgwyliadau ar wahanol grwpiau'n glir. Mae hyn yn debygol o ddod yngynyddol bwysig mewn systemau mwy datganoledig
  • Rhwng gwahanol feysydd polisi o fewn lefelau penodol o lywodraeth (e.e. polisi sgiliau a pholisi seilwaith) – mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried pwysigrwydd y synergedd polisi a drafodir uchod
  • Rhwng gwahanol ranbarthau/ardaloedd daearyddol, er enghraifft i hwyluso prosiectau sy'n cwmpasu mwy nag un ardal a allai fod o fudd i fwy nag un rhanbarth, i ddatrys problemau sydd ar raddfa rhy fach mewn rhanbarthau penodol ac i osgoi problemau o ran cystadleuaeth anfanteisiol a dyblygu gweithgareddau rhwng rhanbarthau
  • Rhwng y llywodraeth a rhanddeiliaid allanol ar lefel genedlaethol ac is-genedlaethol, er enghraifft i ddefnyddio ystod o wybodaeth i lywio penderfyniadau polisi a sicrhau bod polisïau yn gyson ag anghenion rhanbarthol

O ran hwyluso cydweithio, mae nifer o negeseuon allweddol yn amlwg (OECD 2018a, OECD 2016):

  • Mae ansawdd y berthynas yn hanfodol. Mae yna risg o ganolbwyntio ar weithdrefnau a dulliau ffurfiol o gydweithio ar draul cydberthnasoedd ystyrlon a chydweithredol sy'n dangos ymddiriedaeth
  • Mae angen meithrin perthnasoedd trwy ddeialog rheolaidd a thryloyw
  • Mae'n debygol y bydd yna gostau cychwynnol ynghlwm â datblygu perthnasoedd cryf ond mae hynny'n angenrheidiol ar gyfer llwyddiant yn y tymor hir
  • Mae angen i fecanweithiau cydweithio ffurfiol fod yn effeithiol a darparu cymhelliant i gyfranogwyr gydweithio
  • Mae rhwydweithiau cymdeithasol a deialogau anffurfiol yn bwysig fel sail i gydweithio ffurfiol
  • Mae'n bwysig cael cydbwysedd rhwng dulliau gweithio o'r brig i lawr ac o'r gwaelod i fyny
  • Mae penderfyniadau unochrog yn tanseilio ymddiriedaeth a llesteirio cydweithio
  • Ar lefel genedlaethol, gall pwyllgorau rhyngweinidogol fod yn effeithiol wrth hwyluso gweithio ar draws meysydd polisi a sicrhau bod polisi rhanbarthol yn syml ac yn gyson. Fodd bynnag, ymddengys mai dim ond pan fo'r pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn strwythur parhaol y mae'r trefniadau hyn yn cael gwir ddylanwad

6. Gwerthuso a monitro

Mae gwerthuso polisïau rhanbarthol yn cael ei ystyried yn hanfodol ar draws y llenyddiaeth er mwyn deall a yw polisïau'n cael yr effaith a fwriadwyd ac er mwyn cynhyrchu gwybodaeth am y mathau o ymyriadau sy'n gweithio (e.e. OECD 2018a, OECD 2016, McCann 2016). Mae nifer o ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu ar ddulliau o werthuso.

Pwrpas gwerthuso a monitro

Gellir defnyddio monitro a gwerthuso ar gyfer atebolrwydd ac ar gyfer dysgu (McCann 2016). O safbwynt atebolrwydd, mae gwerthuso'n fater o asesu a yw ymyrraeth wedi gweithio. Yn fwy cyffredinol, asesu a yw'r rhai sy'n cynllunio ac yn gweithredu polisi yn gwneud "gwaith da”. O safbwynt dysgu, mae gwerthuso'n fater o gynhyrchu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i ddatblygu a gwella polisi yn y dyfodol.

Nid yw'r dulliau hyn o angenrheidrwydd yn gwrthddweud ei gilydd ond gallant greu tensiynau, er enghraifft gall canolbwyntio'n ormodol ar atebolrwydd ac a yw amcanion yn cael eu cyflawni greu "diwylliant tabl cynghrair" McCann (2016). Gallai hyn atal rhai rhag cymryd rhan mewn gwerthuso ac annog rhai i beidio arloesi a chymryd risg (McCann 2016).

Mae'n werth nodi hefyd y gall gwahanol fathau o werthusiadau fodloni dibenion gwahanol. Er enghraifft, mae gwerthuso prosesau yn canolbwyntio ar sut mae ymyrraeth yn gweithio yn ymarferol a pha mor dda y mae'n cael ei gweithredu. Mae gwerthuso effaith, ar y llaw arall, yn canolbwyntio ar benderfynu a yw ymyrraeth wedi achosi'r newidiadau a ddisgwylid. Mae'r ddau’n cynhyrchu gwybodaeth a all fod yn ddefnyddiol naill ai o safbwynt atebolrwydd neu ddysgu, ond mae'n bwysig bod yn glir ynghylch nodau’r gwerthusiad ar y dechrau. 

Amseru'r gwerthuso a monitro

Yn aml, mae pobl yn meddwl y dylai gwerthusiadau gael eu cynnal naill ai yn ystod neu yn union ar ôl prosiect neu fuddsoddiad penodol. Fodd bynnag, gall gwahanol fathau o weithgarwch gwerthuso ddigwydd ar wahanol adegau yn ystod y cylch polisi.

Yn benodol, gall rhagwerthusiadau ddigwydd cyn i brosiect ddechrau, yn ystod cyfnod datblygu prosiect neu yn ystod y cyfnod dethol (OECD 2018a). Mae'r gweithgarwch hwn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â'r trafodaethau uchod, ynglŷn â theilwra ymyriadau i anghenion lleol a dulliau "arbrofol" o weithio. Mae hyn yn awgrymu bod angen gwir ddadansoddiad o p'un ai yw polisïau'n diwallu anghenion rhanbarth penodol. Mae angen hefyd sicrhau bod dulliau newydd yn cynnig damcaniaethau clir a chredadwy ar gyfer newid yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r damcaniaethau sydd ar gael (Hendrickson et al 2018).

Gall gwerthusiadau proses ac effaith ddigwydd naill ai yn ystod neu ar ôl oes y prosiect. Fodd bynnag, mae angen i werthusiadau effaith gael eu hamseru gan ystyried pryd mae'r effeithiau yn debygol o ddod i'r amlwg (OECD 2016). Yn benodol, efallai mai dim ond dros gyfnod estynedig y gellir gweld manteision rhai prosiectau, tra gall eraill gael effeithiau buddiol yn y tymor byr sy'n cilio dros amser. Mae hyn yn debygol o amrywio'n sylweddol ar draws gwahanol brosiectau, meysydd polisi a mathau o effaith. Yn ogystal, mae gwerthusiadau proses yn debygol o fod gryn dipyn yn fwy effeithiol os byddant yn digwydd tra bod prosiect yn weithredol fel nad yw casglu data yn dibynnu ar ailgysylltu gyda'r rhai gafodd eu cyfweld yn wreiddiol.

Yn gyffredinol, dylai gweithgarwch monitro ddigwydd drwy gydol oes prosiect o'r cyfnod cynllunio i'r cyfnod gweithredu (OECD 2018a). Fodd bynnag, gan gyfeirio'n ôl i'r trafodaethau uchod ynghylch atebolrwydd a dysgu, mae rhai awduron (e.e. Sabel 2016 a ddyfynnir yn Morgan 2018) yn argymell bod angen i weithgarwch monitro fod yn fwy "diagnostig”. Mae hyn yn golygu bod data monitro yn cael ei ddefnyddio fel dull o ddatrys problemau, nodi problemau posibl a datblygu atebion, yn hytrach na fel ffordd o weld a yw prosiectau'n cwrdd â thargedau. Mae hyn yn awgrymu bod angen dadansoddi'r data a gesglir yn barhaus mewn proses fonitro, nid dim ond casglu'r data. 

Lefel ac ehangder y gwerthuso

Gall gwerthuso ddigwydd ar nifer o "lefelau", er enghraifft gall prosiectau neu fuddsoddiadau unigol gael eu gwerthuso, gellir gwerthuso strategaethau rhanbarthau penodol neu gellir gwerthuso’r datblygiad rhanbarthol cyfan. Mae manteision ac anfanteision i'r gwahanol ddulliau hyn, er enghraifft:

  • Mae'n haws priodoli canlyniadau ar lefel prosiect (e.e. i fod yn fwy hyderus bod canlyniadau penodol wedi'u "hachosi" gan bolisi penodol). Fodd bynnag, mae'n anodd i’r gwerthusiadau hyn ddarparu gwybodaeth am feysydd allweddol penodol megis sut mae prosiectau gwahanol yn cyd-gyfrannu a chyfraniad cyffredinol polisi rhanbarthol i ddatblygu rhanbarthol (OECD 2016)
  • Gall gwerthusiadau macro ar lefel rhaglenni ddarparu gwell asesiad o effaith gyffredinol a chydlyniad polisïau rhanbarthol ond mae'n bosibl i'r wybodaeth a gynhyrchir fod yn llai defnyddiol ynghylch pa ymyriadau penodol sy'n gweithio orau (WWCfLED 2016)

Dylid ystyried sut y gall gwerthuso nodi i ba raddau y mae'r polisïau a'r prosiectau a weithredir gan un rhanbarth yn effeithio ar ranbarthau eraill, naill ai'n gadarnhaol neu'n negyddol (OECD 2018b).

Gwerthuso a chapasiti

Y pwynt olaf i'w nodi yw bod ystyriaethau o ran capasiti hefyd yn cyfrannu at benderfyniadau ynglŷn â gwerthuso. Yn benodol, bydd yn bwysig ystyried lefel yr adnoddau sydd ar gael i dalu am werthusiadau. Mae gwerthusiadau da angen cyllid priodol (OECD 2018a) ynghyd â'r nifer priodol o staff sy'n meddu ar sgiliau o fewn y cyrff sy'n gyfrifol am fonitro a gwerthuso.

Fel mae Smeriglio et al (2016) yn nodi, mae capasiti yn mynd y tu hwnt i'r cyrff sector cyhoeddus sy'n gyfrifol am gynllunio cyrff datblygu rhanbarthol a'u rhoi ar waith. Yn benodol, mae angen ystyried materion megis argaeledd ac ansawdd contractwyr gwerthuso allanol, yn ogystal â chymhlethdod y fframwaith gwerthuso cyffredinol a'r canllawiau sydd ar gael i helpu pobl i ddeall eu rolau o fewn y fframwaith hwnnw.

Yn olaf, mae gwerthuso effeithiol yn gofyn am eglurder ynglŷn â'r amcanion a'r canlyniadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer y polisi (OECD 2018a). Os yw amcanion polisi yn aneglur, mae'n eithriadol o anodd gwerthuso a yw'r amcanion hynny wedi eu cyflawni.

Llyfryddiaeth

Allain-Dupre (2018) "Assigning responsibilities across levels of government: Trends, challenges and guidelines for policy-makers", OECD Working Papers on Fiscal Federalism, No. 24, OECD Publishing, Paris.

Barca (2011) “Alternative approaches to development policy: Intersections and divergences” in OECD Regional outlook - building resilient regions for stronger economies

Barca, et al (2012) “The case for regional development intervention: place‐based versus place‐neutral approaches” Journal of regional science, 52(1), pp.134-152.

Baskaran et al (2016) “Fiscal Federalism, Decentralization and Economic Growth: A Meta-Analysis” Freiburg Discussion papers on Constitutional Economics

Bentham et al (2013) Manifesto for the Foundational Economy

Blochliger & Egert "Decentralisation and Economic Growth - Part 2: The Impact on Economic Activity, Productivity and Investment", OECD Working Papers on Fiscal Federalism, No. 15, OECD Publishing, Paris.

Brill et al (2015) What Wales could be

Crescenzi & Giua (2016) “The EU cohesion policy in context: does a bottom-up approach work in all regions?” Environment and Planning A, 48 (11). pp. 2340-2357

Crescenzi, et al (2016) Government quality and the economic returns of transport infrastructure investment in European regions. Journal of Regional Science, 56(4), pp.555-582.

Crescenzi, et al (2017) “The EU cohesion policy and the factors conditioning success and failure: evidence from 15 regions” Regions Magazine, 305 (1). pp. 4-7

Di Cataldo & Monastiriotis (2018) “An assessment of EU Cohesion Policy in the UK regions: direct effects and the dividends of targeting” LEQs paper no 135/2018

Fratesi & Perucca (2014) “Territorial capital and the effectiveness of cohesion policies: an assessment for CEE regions” Investigaciones Regionales 29, pp 165-191

Frick & Rodríguez-Pose 2016. “Average city size and economic growth.” Cambridge Journal of Regions, Economy and Society, 9(2), pp.301-318.

Fround et al (2019) Introducing the foundational economy Presentation to the Welsh Government

Gal & Egeland (2018) “Reducing regional disparities in productivity in the United Kingdom” OECD Economics Department Working Papers, No. 1456, OECD Publishing, Paris

Gill (2011) “Improving regional development policies” in OECD Regional outlook - building resilient regions for stronger economies

Hendrickson et al (2018) - Countering the geography of discontent: Strategies for places left-behind, Brookings Institute

Keep (2016) “Improving Skills Utilisation in the UK – Some Reflections on What, Who and How?” SKOPE Research Paper No. 123

Kierzenkowski et al (2017) “Where to get the best bang for the buck in the United Kingdom? Industrial strategy, investment and lagging regions”, OECD Economics Department Working Papers No. 1426

Martinez-Vazquez & McNab, (2003) Fiscal decentralization and economic growth. World development, 31(9), pp.1597-1616.

Martinez-Vasquez et al (2015) “The impact of fiscal decentralization: A survey” GEN Working Paper A 2015 – 5

McCann (2016) The UK Regional-National Economic Problem: Geography, globalisation and governance

McCann & Rodríguez-Pose (2011). “Why and when development policy should be place-based” OECD Observer, 14(2011), pp.203-213.

Melo et al (2009) “A meta-analysis of estimates of urban agglomeration economies” Regional Science and Urban Economics, Volume 39, Issue 3, Pages 332-342

Morgan (2018) Experimental governance and territorial development OECD Seminar series: Broadening innovation policy – New insights for regions and cities

Nguyen (2019) “Regional Economic Disparities and Development in the UK” NIESR Policy Paper 010

Oates (1972) Fiscal Federalism

OECD (2012) Promoting growth in all regions

OECD (2016) Regional Outlook: Productive regions for inclusive societies

OECD (2018a) Rethinking regional development policy-making

OECD (2018b) Productivity & jobs in a globalised world: How can all regions benefit?

Pike (2018) The limits of city centrism, Centre for Urban and Regional Development Studies (CURDS), Newcastle University 

Rodríguez-Pose (2018)  “The revenge of the places that don’t matter (and what to do about it)”. Cambridge Journal of Regions, Economy and Society, 11(1), pp.189-209.

Rodriguez-Pose et al (2007) “Fiscal decentralisation,efficiency, and growth” IMDEA working papers series 2007/11

Rodriguez-Pose & Fratesi (2004) “Between development and social policies: the impact of European Structural Funds in Objective 1 regions” Regional Studies 38, 97–113

Rodríguez-Pose & Di Cataldo, “Quality of government and innovative performance in the regions of Europe”, Journal of Economic Geography, Volume 15, Issue 4, Pages 673–706,

Rodríguez-Pose & Garcilazo, (2015) Quality of government and the returns of investment: Examining the impact of cohesion expenditure in European regions. Regional Studies, 49(8), pp.1274-1290.

Rodríguez-Pose & Wilkie (2018) “Strategies of gain and strategies of waste: What determines the success of development intervention?”. Progress in Planning.

Sabel (2016) How to make smart specialisation work Keynote speech, Smart Regions conference Brussels

Sabel & Zeitlin (2012) “Experimentalist governance” in Levi-Faur (ed) The Oxford Handbook of Governance

Smeriglio et al (2015) Administrative capacity building and EU cohesion policy EIBURS project Paper 1: Literature review

Smeriglio et al (2016) - Administrative capacity and cohesion policy: New methodological insights from Italy and Poland in Dotti, N.F., (ed.), Learning from implementation and evaluation of the EU Cohesion Policy: Lessons from a research-policy dialogue. RSA Research Network on Cohesion Policy, Brussels.

Super (2008) “Laboratories of destitution: Democratic experimentalism and the failure of antipoverty law” University of Pennsylvania Law Review 157 p541-616

What Works Centre for Local Economic Growth (2015) Transport

What Works Centre for Local Economic Growth (2016) Area-based initiatives: EU Programmes