Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Gall cynhyrchion plastig chwarae rhan bwysig yn ein cymdeithas oherwydd eu bod yn amlbwrpas, yn hirhoedlog ac mae eu costau cynhyrchu yn rhad. I'r gwrthwyneb, mae hyn hefyd wedi golygu mai ychydig iawn o gymhelliad neu werth sydd mewn ailgylchu neu ailddefnyddio'r cynnyrch. O ganlyniad, mae’r farchnad blastigau wedi tyfu ar y cyd â ffrwydrad o ddiwylliant untro a chynhyrchion plastig untro (SUP). Mae'r model llinol hwn o gynhyrchu, defnyddio a thaflu yn berygl amgylcheddol ac yn anghynaliadwy i'r blaned.

Mae arolygon blynyddol gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol a Cadw Cymru'n Daclus yn aml yn nodi plastig fel elfen allweddol o sbwriel. Yn aml, mae'r sbwriel hwn fel arfer yn gysylltiedig â bwyta bwyd ac yfed diod “wrth fynd” neu gynhyrchion sydd wedi'u fflysio i lawr y toiled. Mae mynd i'r afael â'r effeithiau negyddol yn sgil llygredd plastig ar ein hamgylchedd, ein bywyd gwyllt a’n llesiant yn un o'r blaenoriaethau allweddol i Weinidogion Cymru ac yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.

Mae cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud hi’n drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys am ddim) y cynhyrchion plastig untro canlynol sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel ac sy’n ddiangen ar eu ffurf presennol yng Nghymru, yn gam allweddol er mwyn cyflawni hyn:    

  • platiau  
  • cytleri   
  • troyddion diodydd  
  • gwellt yfed (gan gynnwys gwellt sydd ynghlwm)  
  • cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren
  • cynwysyddion cludfwyd wedi'u gwneud o bolystyren
  • caeadau wedi'u gwneud o bolystyren ar gyfer cwpanau a chludfwyd   
  • ffyn cotwm plastig
  • ffyn balwnau
  • cynhyrchion ocso-ddiraddadwy
  • bagiau plastig untro

Yr hirdymor

Mae faint o blastig sydd yn ein priddoedd, ein moroedd a’n hafonydd yn tyfu. Mae’n gwneud niwed i ecosystemau, bioamrywiaeth ac iechyd pobl o bosibl, gan achosi cryn bryder. Bydd rhai plastigau yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i ddiraddio yn yr amgylchedd. Yn ystod y cyfnod hwn gall y plastigau dorri’n ficroblastigau llai, gollwng cemegau gwenwynig, cael eu llyncu gan fywyd gwyllt neu niweidio neu ladd bywyd gwyllt, gan amharu ar swyddogaeth ecosystemau. Bydd ein deddfwriaeth yn helpu i leihau'r cynhyrchion untro sy’n dal i gael eu hychwanegu at y casgliad presennol hwn.

Rydym am i Gymru ddod yn genedl lle mae effeithlonrwydd adnoddau yn rhan o'n diwylliant, lle rydym yn cydnabod gwerth ein hadnoddau, ac yn lleihau faint o wastraff sy'n codi. Rydym yn credu bod gan bawb ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael â sbwriel a'r diwylliant untro. Bydd ein deddfwriaeth yn ysgogi symud o ran ymddygiadau ymhlith manwerthwyr a defnyddwyr tuag at ddeunyddiau amgen neu gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio.

Bydd y ddeddfwriaeth hon yn cyfrannu at ein huchelgeisiau hirdymor o gael gwared ar gynhyrchion untro, diangen yn raddol, yn enwedig plastig, a pheidio ag anfon plastig i safleoedd tirlenwi. Er ein bod yn cydnabod bod rhai defnyddiau o blastig untro yn hanfodol – fel y rhai mewn lleoliadau meddygol – rydym am weld mwy yn cael eu cynhyrchu o gynnwys wedi'i ailgylchu a Chymru yn rhydd rhag cynhyrchion untro diangen.

Atal

Er ein bod yn croesawu'r mesurau gwirfoddol a gymerwyd gan gymunedau a busnesau i symud oddi wrth blastig untro diangen, credwn fod angen cynnydd pellach. Heb ein hymyrraeth i gael gwared ar blastigau cost isel, gwerth isel ond plastigau sy’n niweidiol iawn o'r farchnad, ni fyddwn yn mynd i'r afael â phroblem sbwriel a llygredd plastig yn effeithiol. Bwriad ein deddfwriaeth yw adeiladu ar y mentrau hyn a helpu i gyflymu'r broses o symud oddi wrth gynhyrchion o'r fath drwy gyfyngu ar eu presenoldeb ar y farchnad. Bydd hyn yn eu hatal rhag cael effaith ar yr amgylchedd yn y lle cyntaf.

Byddwn yn gweithio gyda busnesau, gweithgynhyrchwyr a'r rhai sy'n gorfodi'r ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau bod canllawiau digonol ar gael er mwyn atal unrhyw feichiau diangen. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o ba gynhyrchion na fyddant ar gael mwyach a'r dewisiadau eraill sydd ar gael.

Ymrwymiad Llywodraeth Cymru

Mae cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn cyflawni'r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, i ddiddymu'r defnydd o gynhyrchion plastig untro sy'n aml yn cael eu taflu fel sbwriel yng Nghymru. Mae hefyd yn gam pwysig i gyflawni'r ymrwymiadau yn ein Strategaeth Economi Gylchol, Mwy nag Ailgylchu a'n Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon drafft i fynd i'r afael â chynhyrchion untro yng Nghymru.

Mae'r ddeddfwriaeth hon wedi'i seilio'n gadarn yn y saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Nod gwahardd cynhyrchion plastig untro sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel yw lleihau'r niwed y mae'r cynhyrchion hyn yn ei achosi i'r amgylchedd, a thrwy hynny wella bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol.  Mae pawb sy'n byw yng Nghymru ac yn ymweld â Chymru yn gallu elwa ar lai o lygredd plastig, waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau.  Mae mynd i'r afael â llygredd plastig yn diogelu a gwella ardaloedd lleol, a thrwy hynny’n gwella iechyd a llesiant, yn enwedig lle mae gwelliannau yn cyd-fynd ag ardaloedd o amddifadedd sydd â llawer o blastig sy’n cael ei daflu fel sbwriel (Cymru gydnerth, Cymru sy'n fwy cyfartal, a Chymru o gymunedau cydlynus).

Yn aml mae plastig sy’n cael ei daflu fel sbwriel yn torri’n ficroblastigau, sy'n gallu mynd i mewn i gadwyn fwyd anifeiliaid a phobl. Mae lleihau faint o blastig sydd yn ein hamgylchedd, felly, yn cyfrannu at Gymru iachach. Mae Cymru eisoes yn arwain y byd ar ailgylchu, ac mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam arall wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang yr argyfwng hinsawdd a natur (Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang). Mae amddiffyn ecosystemau naturiol a bioamrywiaeth yn gwella cyfalaf diwylliannol Cymru ac yn cefnogi gweithgareddau awyr agored. Wrth inni weithredu'r ddeddfwriaeth, byddwn yn sicrhau safonau cyfartal o ran canllawiau Cymraeg a Saesneg (Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu).

Wrth i Gymru symud oddi wrth gynhyrchion plastig untro, mae cyfleoedd yn codi i fusnesau Cymru arloesi a datblygu dewisiadau eraill cynaliadwy yn lle'r cynhyrchion plastig rydyn ni'n eu defnyddio heddiw (Cymru lewyrchus).

Cydweithio a chynnwys eraill

Trwy gydol y broses o ddatblygu ein cynigion, rydym wedi ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys pobl anabl a'u cynrychiolwyr, plant a phobl ifanc, cyrff amgylcheddol anllywodraethol, y sectorau addysg ac iechyd, cynrychiolwyr amaethyddol, a’r sectorau gweithgynhyrchu, cynhyrchu a manwerthu. Mae amrywiaeth o bartneriaid allweddol wedi bod yn rhan o’r broses o lunio a hysbysu'r gwaharddiadau ymhellach, gan gynnwys adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn enwedig o ran materion ynghylch cydraddoldeb a gorfodi.

Rydym yn ddiolchgar iawn am yr wybodaeth fanwl, werthfawr a ddarparwyd gan randdeiliaid sydd wedi bod yn allweddol i'n galluogi i sicrhau y bydd ein gwaharddiadau, pan fyddant ar waith, yn effeithiol ac yn gymesur. Rydym yn cydnabod bod ein gwaith ymgysylltu o ran y cynhyrchion a gynigiwyd yn wreiddiol i'w gweithredu yn yr ymgynghoriad yn 2020 Lleihau plastig untro yng Nghymru yn fwy eang nag ar gyfer rhai o'r cynhyrchion ychwanegol a gynigiwyd ar gyfer gwaharddiadau yn y Bil.  Gwnaed gwaith ymgysylltu ar y cynhyrchion olaf hyn yn gyflym, ac rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i barhau i weithio gyda phawb yr effeithir arnynt gan y ddeddfwriaeth (gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr a defnyddwyr) wrth i ni lunio ein canllawiau i gefnogi’r gwaith o weithredu'r gwaharddiadau.

Effaith

Fel y nodwyd uchod, mae'r achos tystiolaethol dros leihau faint o blastig untro sy’n cael ei daflu fel sbwriel yn yr amgylchedd yn gryf.  Er bod rhai camau gwirfoddol eisoes wedi’u cymryd, credwn fod angen i ni fynd ymhellach trwy dynnu rhai cynhyrchion oddi ar y farchnad.

Cafwyd cefnogaeth ysgubol i'n cynigion i wahardd y cynhyrchion plastig untro sy’n cael eu taflu fwyaf fel sbwriel. Roedd y mwyafrif o'r ymatebion i'n hymgynghoriad yn annog y Llywodraeth i weithredu i leihau effeithiau negyddol taflu sbwriel ar ein hamgylchedd. Roeddent yn ystyried y byddai manteision amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol posibl deddfwriaeth yn drech nag unrhyw effeithiau negyddol ar bobl yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod y gallai fod effeithiau negyddol posibl ar grwpiau sydd â nodwedd warchodedig yn sgil gwahardd rhai o'r cynhyrchion yn y ddeddfwriaeth, yn benodol mewn perthynas â gwellt plastig. Rydym wedi ceisio lliniaru ar hyn yn y ddeddfwriaeth drwy ddarparu esemptiadau cyfyngedig addas ar gyfer amgylchiadau priodol.

Costau, arbedion a mecanwaith

Mae goblygiadau ariannol y ddeddfwriaeth hon wedi'u nodi yn ein Hasesiad Effaith Rheoleiddiol, a gyhoeddir fel rhan o ddogfennaeth y ddeddfwriaeth.