Neidio i'r prif gynnwy

Teitl yr adroddiad

Ysgolion pob oed yng Nghymru. Adroddiad ar heriau a llwyddiannau sefydlu ysgolion pob oed.

Manylion yr adroddiad

Comisiynwyd y cyngor gan y Gyfarwyddiaeth Addysg oherwydd y nifer cynyddol o gynigion i sefydlu ysgolion pob oed yng Nghymru. Mae'r astudiaeth yn ystyried pa mor llwyddiannus yw ysgolion pob oed ac a yw safonau'n well mewn ysgol pob oed o gymharu ag ysgolion uwchradd a chynradd ar wahân.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Mae'r adroddiad yn rhannu'r prif ganfyddiadau o dan dri phennawd, ac mae'r rhain wedi'u crynhoi isod:

Y rhesymeg ar gyfer sefydlu ysgol bob oed

  1. Er bod cefnogaeth ar gyfer sefydlu ysgolion pob oed, nid oes canllawiau cenedlaethol ar gael i awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion. O ganlyniad, ni chaiff y sector ysgolion pob oed ei gydnabod yn sector ar wahân yn ddigon da ar hyn o bryd.
  2. Oherwydd diffyg canllawiau cenedlaethol, mae’r rhwydwaith cenedlaethol o ysgolion pob oed wedi darparu cymorth i’w gilydd, wedi brocera grantiau o ffynonellau allanol, ac wedi gweithio i amlygu’r anawsterau ac arfer orau.
  3. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn rhagweld y bydd manteision ysgol bob oed yn gorbwyso’r anfanteision.
  4. Dros gyfnod, mae awdurdodau lleol wedi dysgu o brofiadau ei gilydd, yn ogystal â defnyddio’r ymchwil ar fodelau pob oed llwyddiannus. O ganlyniad, mae’r ymgynghoriadau diweddaraf yn llawer craffach o ran manteision sefydlu ysgol bob oed, ac yn osgoi llawer o’r anawsterau a brofwyd gan y rhai a fabwysiadodd y model pob oed yn gynnar.

Sefydlu ysgolion pob oed

  1. Caiff y rhan fwyaf o ysgolion pob oed eu ffurfio o ganlyniad i gau ysgolion sy’n bodoli’n barod ac ailagor ar un o’u safleoedd fel ysgol newydd.
  2. Mae ysgolion pob oed wedi bod yn fwyaf llwyddiannus pan maent yn newydd, ac mae arweinwyr a’r awdurdod lleol wedi ymgysylltu’n dda â’r gymuned leol.
  3. At ei gilydd, mae awdurdodau lleol wedi darparu cymorth priodol ar gyfer cyrff llywodraethol yn ystod y broses i sefydlu ysgol bob oed. Fodd bynnag, mae cefnogaeth i benaethiaid wedi amrywio ledled Cymru.
  4. Mae amser cynllunio a pharatoi ar gyfer penaethiaid cyn agor ysgol bob oed newydd yn amrywio. Pan mae penaethiaid wedi cael amser i ymgynghori a datblygu polisïau a gweithdrefnau, mae hyn wedi cyflwyno buddion i’r ysgol.
  5. Ystyriodd arweinwyr ysgol mai’r flwyddyn gyntaf ar ôl agor oedd yr un fwyaf heriol. Byddai cyfathrebu gwell wedi osgoi llawer o gamsyniadau, ac wedi arwain at lai o wrthwynebiad, a phroses sy’n llai blin.

Effaith model ysgol bob oed

  1. Bron ym mhob ysgol bob oed, mae cyfran sylweddol o ddisgyblion yn pontio o ysgolion cynradd partner i Flwyddyn 7. Wrth iddynt bontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7, dywed ysgolion fod disgyblion oddi mewn i ysgol bob oed yn ymgynefino’n dda ym Mlwyddyn 7, ac yn gwneud cynnydd gwell yn eu blwyddyn gyntaf na’r rhai sy’n trosglwyddo o ysgolion cynradd ar wahân.
  2. Mae gofal a chymorth bugeiliol ar gyfer lles disgyblion yn gryfder yn y rhan fwyaf o ysgolion pob oed, ac wedi bod yn flaenoriaeth ers agor ysgolion. O ganlyniad, ar y cyfan, mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol, yn cael gofal da, ac yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi.
  3. Mae gwella addysgu yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer ysgolion pob oed. Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio a gweithredu cwricwlwm sy’n ystyried dilyniant ar draws pob sector. Mae trefniadau dysgu proffesiynol mewn ysgolion pob oed yn hynod ddefnyddiol, yn cynnwys rhannu arfer dda mewn addysgu yn fewnol neu rhwng ysgolion. Fodd bynnag, yn aml, nid yw dysgu proffesiynol allanol yn ddigon penodol ar gyfer y sector pob oed.
  4. At ei gilydd, mae timau arweinyddiaeth pob oed llwyddiannus fel arfer yn cynnwys cyfuniad o arweinwyr â chefndiroedd mewn gwahanol sectorau.
  5. Mae ansawdd yr hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant ar draws y sector yn amrywiol. Fodd bynnag, yn yr enghreifftiau gorau, mae ysgolion yn gwerthuso darpariaeth a safonau ar draws sectorau, a rhyngddynt.

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno canllawiau cenedlaethol i ysgolion pob oed i gefnogi ysgolion pob oed, eu harweinwyr, llywodraethwyr ac awdurdodau lleol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth agor, cau neu wneud newidiadau sylweddol i ysgolion (gan gynnwys agor ysgolion pob oed) rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol ac ystyried amrywiaeth o ffactorau. Mae'r Cod yn gosod gofynion statudol ac yn rhoi arweiniad ar y broses. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynllunio lleoedd mewn ysgolion a rhaid iddynt sicrhau bod digon o ysgolion yn darparu addysg gynradd ac uwchradd yn eu hardal. Mater i awdurdodau lleol yw pennu patrwm y ddarpariaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried y ffordd orau o gefnogi awdurdodau lleol ac arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion pob oed gyda chanllawiau pellach. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, byddwn hefyd yn ystyried sut y gellir datblygu'r rhaglenni arweinyddiaeth presennol i ystyried anghenion penodol ysgolion pob oed. 

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r sylwadau ar adrodd am wybodaeth am ysgolion pob oed ac mae'n ymwybodol o'u hawydd cryf i gael eu trin fel un ysgol, yn hytrach nag fel dwy ran. Er y cyfeirir atynt yn gyson fel ysgolion canol, gan gynnwys ar wefan Fy Ysgol Leol, cydnabyddir y gallai'r ffordd yr adroddir ar ddata fod yn gliriach. Cyfrifir cymhwysedd Prydau Ysgol am Ddim ar sail ysgol gyfan ar gyfer ysgolion canol. Byddai'r un dull yn anos ei gyflawni ar gyfer cyfraddau presenoldeb, gan fod y casgliadau data ar wahân ac yn seiliedig ar gyfnodau amser gwahanol, ar gyfer y cyfnodau cynradd ac uwchradd. Byddwn yn ceisio gwella ac egluro'r gwaith o adrodd ar ddata ysgolion canol.

Argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol

Argymhelliad 2

Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol sicrhau bod ymgynghori ar sefydlu ysgol bob oed yn ystyrlon, yn dryloyw ac yn fuddiol o ran ymgysylltu â’r gymuned leol i gefnogi newid i wella’r ddarpariaeth ar gyfer eu plant.

Argymhelliad 3

Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol benodi arweinwyr ar gyfer ysgolion pob oed newydd yn gynnar i ddarparu digon o amser cynllunio a pharatoi.

Argymhelliad 4

Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol ddarparu hyfforddiant a chymorth â ffocws gwell, sy’n benodol i sector, er enghraifft i wella arfer ystafell ddosbarth ar draws pob sector o’r ysgol.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 2 i 4

Wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion, gan gynnwys cau ysgolion, agor ysgolion newydd a gwneud newidiadau a reoleiddir i ysgolion, rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion. 

Mae adran 48 o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i gynigion trefniadaeth ysgolion fod yn destun ymgynghoriad cyn eu cyhoeddi. Mae cyfraith achosion wedi sefydlu y dylid cynnal y broses ymgynghori pan fydd cynigion yn dal i fod ar gam ffurfiannol ac y dylid cynnwys rhesymau a gwybodaeth ddigonol ar gynigion penodol i alluogi ystyriaeth ac ymateb deallus. Mae'n hanfodol i gynigwyr gyflwyno gwybodaeth o safon uchel fel sail i ymgynghoriad ag ysgolion ac yn y dogfennau ymgynghori a gyhoeddir. Mae'r Cod yn cydnabod y gall methu â darparu dogfennau ymgynghori cywir o ansawdd uchel arwain at sefyllfa lle bydd yr ymgynghoriad yn cael ei roi o’r neilltu neu’n cymryd llawer mwy o amser na'r disgwyl, a mwy o wrthdaro â chymunedau. Mae'r Cod yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn dogfennau ymgynghori.

Er nad oes gofyniad i gynnal cyfarfodydd ymgynghori, mae'r rhan fwyaf o gynigwyr yn gwneud hynny. Gall cyfarfodydd a sesiynau galw heibio fod o help mawr i ledaenu gwybodaeth a darparu llwyfan addas i ymgyngoreion leisio barn, gofyn am eglurhad a rhoi sylwadau.

Mae cyrff llywodraethu ysgolion yn gyfrifol am drefniadau staffio yn unol â Threfniadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006.

Pan fo cynnig i sefydlu ysgol a gynhelir newydd yn cael ei gymeradwyo, bydd yn ofynnol sefydlu corff llywodraethu dros dro cyn ymgorffori'r ysgol a chorff llywodraethu parhaol o ddyddiad sefydlu'r ysgol

Mae gwybodaeth am y broses hon wedi'i chynnwys ym mhennod 20 o'r Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid bob blwyddyn i'r Fforwm Ysgolion Pob Oed Cenedlaethol i ddatblygu a rhannu arferion da. Mewn partneriaeth â'r Fforwm, byddwn yn trafod gyda chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol y ffordd orau o ddarparu cymorth sy'n canolbwyntio'n well ar y sector pob oed.

Argymhellion ar gyfer ysgolion

Argymhelliad 5

Dylai ysgolion barhau i gynllunio a darparu cwricwlwm cyfoethog sy’n symud ymlaen yn naturiol ar draws yr ystod oedran lawn.

Argymhelliad 6

Dylai ysgolion gydweithio ymhellach ag ysgolion eraill i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau pob oed, a rhannu arfer dda.

Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion 5 i 6

Mae Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, gyda chefnogaeth canllawiau Y Daith i Weithredu'r Cwricwlwm, yn rhoi arweiniad ar gynllunio cwricwlwm gan roi pwys arbennig ar gynnydd. Mae egwyddorion cynnydd gorfodol, yn ogystal â'r disgrifiadau dysgu mewn canllawiau statudol, wedi'u cynllunio i gefnogi ymarferwyr i ymgorffori cynnydd o fewn eu cwricwla.

Mae'r Rhwydwaith Cenedlaethol hefyd yn cefnogi ysgolion i rannu arferion o amgylch ystod o faterion sy'n ymwneud â'r cwricwlwm. Mae cynnydd yn un o themâu allweddol sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol.

Fel amlinellir uchod, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i'r Fforwm Ysgolion Pob Oed i alluogi ysgolion i ddatblygu a rhannu arferion da. Rydym yn gobeithio gweld gwaith da'r Fforwm yn parhau.

Manylion cyhoeddi

Dyddiad cyhoeddi 13 Ionawr 2022

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar 13 Ionawr 2022 neu ar ôl hynny, a gellir ei weld ar wefan Estyn.