Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr alwad hon am dystiolaeth i ben ar 27 Gorffennaf 2026.

Cyfnod yr alwad am dystiolaeth:
15 Mehefin 2026 i 27 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae'r ymatebion i'r alwad hon am dystiolaeth hon yn cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.

Yr alwad wreiddiol am dystiolaeth

Prif bwrpas y galwad am dystiolaeth hon yw rhoi cyfle i randdeiliaid ddarparu tystiolaeth ar lygredd amaethyddol.

Disgrifiad o'r alwad am dystiolaeth

Mae'r Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru (AIDAC) wedi bwriadu erioed i wneud ei waith ar yr adroddiad hwn mewn 2 gam. Cyhoeddwyd Galwad am Dystiolaeth ar ddŵr gwastraff ym mis Awst 2024. Ar y pryd ni wnaethom wahodd tystiolaeth ar lygredd o ddefnydd tir, gan gynnwys arferion amaethyddol oherwydd ein bod yn dymuno aros am ganlyniad adolygiad Bolton. Rydym bellach wedi cwblhau ein hymchwil gefndirol i achosion llygredd dyfroedd croyw. Felly rydym yn cyhoeddi'r ail Alwad hon am Dystiolaeth.

Prif bwrpas y Galwad hon am Dystiolaeth yw rhoi cyfle i randdeiliaid ddarparu tystiolaeth ar lygredd amaethyddol. Byddem hefyd yn croesawu tystiolaeth ar unrhyw agweddau eraill ar ein hadroddiad, a'r prif bynciau fydd trin dŵr gwastraff, CSOs a charthffosiaeth, gweithredu'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, llygredd cemegol, monitro, gorfodi, rôl rheoleiddwyr.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed barn ar y canlynol:

  • a yw'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer atal a/neu ddelio â llygredd dŵr yn foddhaol?
  • a yw'r deddfau o fewn y fframwaith hwn yn cael eu gweithredu er mwyn cyflawni eu diben bwriadedig?
  • os na, beth sy'n atal y gyfraith rhag cael ei chymhwyso'n ymarferol?
  • a oes bylchau yn y gyfraith

Help a chymorth

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch ynghylch y galwad am dystiolaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cyflwyniad, cysylltwch â ni drwy e-bost yn IEPAW@llyw.cymru .