Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Minister for Health and Social Services

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, yng nghynhadledd Cymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd (BAPIO) 2021, cyhoeddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ei adroddiad blynyddol, sy’n amlinellu cyfnod cyntaf y pandemig COVID-19 ac yn rhoi sylwadau arno. Oherwydd y pwysau ar amser yn y cyfarfodydd llawn, ni fu’n bosibl amserlennu dadl, gwaetha’r modd. Serch hynny rwy’n awyddus i sicrhau bod yr Aelodau’n cael y cyfle i ddarllen yr adroddiad pwysig hwn, ac rwyf hefyd am roi sicrwydd iddynt y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ei argymhellion yn ofalus. Mae’r adroddiad ar gael drwy’r ddolen isod.

https://llyw.cymru/adroddiad-blynyddol-arbennig-prif-swyddog-meddygol-cymru-2019-i-2020-diogelu-ein-hiechyd

Rwy’n croesawu cael yr adroddiad hwn yn ystod y cyfnod heriol sydd ohoni, a hoffwn ddiolch i’r Prif Swyddog Meddygol a’i dîm am eu hymdrechion. Mae’r adroddiad yn ein hatgoffa am y cysylltiadau agos sy’n bodoli rhyngom i gyd, a pha mor gyflym y mae feirws newydd yn gallu lledaenu ar draws y byd. Mae’n dangos lefel yr ymateb i’r pandemig yng Nghymru a’r DU, o’r camau cyflym cychwynnol a gymerwyd ar ddechrau 2020, hyd at ddiwedd yr haf, ac yn ystyried yr hyn y gallwn ei ddysgu o’r cyfnod hwnnw. Mae’r aberth y bu’n rhaid i bob un ohonom ei wneud, ac effeithiau’r pandemig ar lawer o agweddau ar ein bywydau, yn glir; ond mae prif negeseuon yr adroddiad yn pwysleisio bod yn rhaid inni hefyd fachu ar unrhyw gyfleoedd sy’n codi yn sgil y pandemig i roi sylw i nifer o broblemau sydd wedi bodoli ers peth amser.  

Mae’r adroddiad yn dangos sut y mae cymdeithas Cymru yn ei chyfanrwydd wedi cydweithio, o lywodraeth genedlaethol a lleol, i fusnesau, ysgolion, prifysgolion, sefydliadau ymchwil, a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a thu hwnt. Rhaid canmol rôl y gymuned ehangach a’r ffordd y mae pobl wedi ymateb i’r her drwy wirfoddoli i helpu eraill, a hefyd canmol gwaith diflino ac ymroddiad ein sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, a’r gweithwyr allweddol mewn llawer o ddiwydiannau a sectorau eraill.

Mae’r adroddiad yn cynnwys llinell amser ar gyfer ein camau gweithredu wrth ymateb i gyfnod cyntaf y pandemig COVID-19, gan edrych ar y gwersi y gallwn eu dysgu, a sut y gellid gweithredu i atal unrhyw bandemig arall ar draws meysydd sy’n ymwneud â phobl, anifeiliaid a’r amgylchedd, neu sut y dylid cynllunio a pharatoi ar gyfer digwyddiad o’r fath. Mae hefyd yn edrych ar sut y mae COVID-19 wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau iechyd a’r anghydraddoldebau economaidd yr oeddem eisoes yn ymwybodol ohonynt, a sut y mae wedi gwella ein dealltwriaeth o’r materion hynny, gan ddarparu platfform ar gyfer rhoi sylw iddynt. Yn olaf, mae’r adroddiad yn ystyried sut y gallwn ddod allan o’r pandemig, gan gydio yn y gwersi a’r ymddygiadau hyn wrth inni fynd ati i sefydlu ‘normal newydd’. 

Mae’r adroddiad yn cynnwys wyth argymhelliad fel a ganlyn: 

  • Mae Argymhelliad 1 yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn gwasanaethau diogelu iechyd.
  • Mae Argymhelliad 2 yn ein hannog i adolygu effeithiolrwydd ein systemau rheoli achosion ac olrhain cysylltiadau, yn barhaus.
  • Mae Argymhelliad 3 yn awgrymu ein bod yn cymryd yr hyn yr ydym yn ei ddysgu o’r pandemig hwn a’i ddefnyddio i’n helpu i baratoi ar gyfer unrhyw argyfwng yn y dyfodol.
  • Mae Argymhelliad 4 yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu’n llawn â’r cyhoedd mewn perthynas â’n hymateb i’r pandemig a’r mesurau sy’n cael eu rhoi ar waith
  • Mae Argymhelliad 5 yn awgrymu y dylai Cymru fabwysiadu dull gweithredu ‘Iechyd Cyfunol’ ar gyfer ein cymdeithas gyfan wrth ymdrin â nifer o faterion heriol, gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, milheintiau, ac ymwrthedd i gyffuriau.   
  • Mae Argymhelliad 6 yn canolbwyntio ar yr angen i barhau i arloesi a bod yn greadigol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a bod yn rhaid blaenoriaethu’r angen i gynnal llesiant ein holl weithwyr allweddol.
  • Mae Argymhelliad 7  yn gofyn inni barhau i ganolbwyntio ar annhegwch iechyd yn ein holl bolisïau. 
  • Mae Argymhelliad 8 yn cynnig bod angen parhau i ymchwilio i effeithiau tymor hir COVID-19.Mae’r rhain yn argymhellion rhesymol a defnyddiol y byddwn yn eu hystyried ar y cyd â’n gwahanol bartneriaid.

Nid yw’r pandemig hwn ar ben, ac mae ffordd hir i fynd o hyd, ond rydym wedi dysgu llawer o’r don gyntaf, ac rydym yn parhau i wella ein dealltwriaeth wrth i amser fynd heibio. Bydd adroddiad y Prif Swyddog Meddygol yn adnodd defnyddiol i’n helpu i wneud penderfyniadau yn y dyfodol wrth inni ymateb i COVID.