Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Ymateb cyffredinol

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n dda gydag ysgolion i gyd-ddylunio'r cwricwlwm newydd. Mae hefyd yn cydnabod ein bod wedi ymateb i anghenion sy'n dod i'r amlwg o ganlyniad i'r pandemig, gan gynnal cynnydd cyffredinol ar y diwygiadau hyn.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn pwysleisio pwysigrwydd bod ysgolion a lleoliadau yn parhau i dreialu, gwerthuso a gwella eu cwricwla fel rhan o'r broses barhaus o wella. Bydd mis Medi 2022 yn garreg filltir allweddol i ysgolion cynradd ac i lawer o ysgolion uwchradd, ac o fis Medi 2023, bydd pob ysgol yng Nghymru yn addysgu'r cwricwlwm newydd.

Y Rhwydwaith Cenedlaethol fydd canolbwynt trafodaethau a arweinir gan ymarferwyr gan rannu adborth a myfyrdodau er mwyn sicrhau y gellir datblygu polisïau ymhellach. Mae yno i gasglu a rhannu dealltwriaeth, i ddatblygu dulliau gweithredu ar y cyd ar gyfer goresgyn heriau, ac i ysgogi newid. Yng nghyd-destun ein hymrwymiad i'r cwricwlwm a arweinir gan ymarferwyr, byddwn yn awyddus i ddeall natur a chwmpas ffyrdd o feddwl ynghylch sut, pryd a beth y mae angen ei ddiweddaru a gwella arno yn barhaus.

Bydd y buddsoddiadau a wnawn yn 2022-23 ac yn y blynyddoedd i ddod i gefnogi'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm hefyd yn cefnogi dysgu parhaus mewn ysgolion a lleoliadau. Mae'r adroddiad yn nodi bod ein cyllid a briodolir yn uniongyrchol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm ar ben uchaf amcanestyniadau cyn y pandemig. Mae hynny'n gwbl briodol. Rydym yn cydnabod y tarfu a wynebwyd gan ysgolion a dysgwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rydym wedi ymateb drwy sicrhau bod athroniaeth y cwricwlwm newydd – lles a chynnydd dysgwyr – wrth wraidd ein hymateb i'r pandemig. Mae'r buddsoddiad yn ein rhaglen Adnewyddu a Diwygio yn cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd, ac mae gennym ffocws cyson ar draws y system yn hyn o beth. Hefyd, er mwyn cynnal momentwm ynghylch diwygio'r cwricwlwm ac er mwyn galluogi dysgwyr i gael budd o'r cwricwlwm newydd cyn gynted ag y bo modd, rydym yn ymrwymedig i gefnogi ysgolion ar eu taith i'r cwricwlwm newydd o 2022. Ymatebodd y llywodraeth hon yn gyflym ac yn gadarnhaol i'r anghenion hynny, gan gynyddu'r cyllid i ysgolion, a dyna pam y mae'r gwariant presennol ar ben uchaf amcanestyniadau cyn y pandemig. Nodwn fod yr adroddiad yn cyfeirio at waith arloesol a wnaed yn ystod y pandemig mewn rhai ysgolion, a'r gwaith clwstwr cryf a wnaed ledled Cymru wrth baratoi ar gyfer yr hydref. 

Rydym wedi ymrwymo i roi rhaglen werthuso gadarn ar waith i olrhain a monitro cynnydd. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad cwmpasu gwaith gwerthuso yn ystod tymor yr haf 2022, ynghyd â chynllun gwerthuso manylach yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Bydd y gwerthusiad yn ceisio archwilio'r graddau y mae'r weledigaeth a'r gofynion a nodir yn fframwaith cenedlaethol y Cwricwlwm i Gymru yn cael eu gwireddu drwy weithredoedd ysgolion a'r system addysg ehangach. Bydd y canfyddiadau'n llywio dysgu system yn barhaus a bydd yn cynnwys gweithgareddau a gynlluniwyd a gweithgareddau ymatebol.

Gyda'r cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno o fis Medi, mae pob rheswm i fod yn gadarnhaol ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yma, ond rydym yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud dros y cyfnod i ddod. Mae'r adroddiad yn cydnabod natur integredig yr agenda diwygio addysg ehangach: pwysigrwydd sylfaenol dysgu proffesiynol ac addysgeg, y gwaith ar wella ysgolion, hunanwerthuso ac atebolrwydd, diwygio cymwysterau, a phwysigrwydd rôl rhieni a gofalwyr i'r rhaglen hon. Mae hefyd yn cydnabod, wrth i ni ddatblygu, mai nod yr agenda ddiwygio yw gwella safonau addysgol ledled Cymru ac yn benodol i gefnogi dysgwyr sydd dan anfantais neu y mae tlodi yn effeithio arnynt. 

Argymhellion

1. Deall y broses o graffu ar gost diwygio'r cwricwlwm yn well a'i chefnogi

Ni fu'n hawdd i Lywodraeth Cymru nac i ni nodi'r gwariant ar ddiwygio'r cwricwlwm hyd yma. Mae hyn yn rhannol oherwydd anawsterau wrth gyfrifo gwariant sy'n benodol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm yn hytrach nag elfennau eraill o raglen diwygio addysg, neu'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio, y gall diwygio'r cwricwlwm fod o fudd iddynt. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn deall cost diwygio'r cwricwlwm er mwyn cefnogi'r broses o graffu a llywio unrhyw ystyriaeth a roddir i werth am arian.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn adrodd yn flynyddol ar gostau ei rhaglen diwygio'r cwricwlwm yn cynnwys costau i bartneriaid ac ysgolion. Wrth ddatblygu ac adrodd ar ei hamcangyfrif gorau, bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried effaith unrhyw ddata ychwanegol a gesglir ar ysgolion yn benodol.

Ymateb: Derbyn

Rydym yn cytuno ar yr angen i adrodd ar gostau diwygio'r cwricwlwm ac rydym eisoes wedi cyhoeddi gwybodaeth am ein cynlluniau drwy broses gyllideb y Senedd. Fel rhan o hyn, gwnaethom nodi nifer o feysydd gweithgarwch a gyllidir sy'n fwy penodol i'r broses o roi'r cwricwlwm ar waith, gan gydnabod bod cyllid ehangach i ysgolion a lleoliadau hefyd yn cefnogi'r broses o ddarparu dysgu ac addysgu ac, felly, y broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd. Gan fod ysgolion yn cyflwyno'r cwricwlwm mewn ffyrdd gwahanol, mae'r broses o asesu costau gan ysgolion yn heriol yn weinyddol. Byddwn y parhau i fod mor dryloyw ag y bo modd wrth adrodd ar gostau yn cynnwys i bartneriaid ac ysgolion, gan gydnabod effaith data ychwanegol a gesglir ar ysgolion yn benodol.

Mae gweinidogion eisoes yn ymrwymedig i adrodd yn flynyddol ar y broses o roi'r cwricwlwm ar waith, a chaiff gwybodaeth am y costau a briodolwyd yn uniongyrchol sy'n gysylltiedig â'r diwygiadau hyn ei chynnwys yn y broses adrodd honno. Caiff yr adroddiad blynyddol cyntaf fel rhan o'r broses hon ei gyhoeddi'n nes ymlaen yn nhymor yr haf. 

2. Gwerthuso effeithiolrwydd y rhaglen dysgu proffesiynol a chymorth i ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido dysgu proffesiynol sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm newydd ynghyd â'i buddsoddiad ehangach yn nysgu proffesiynol athrawon. Cyllidodd y consortia addysg rhanbarthol a phartneriaethau hefyd er mwyn rhoi cymorth pwrpasol i ysgolion. Yn ddiweddar, cyhoeddodd hawl genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol i bob athro a chynorthwyydd addysgu.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod effeithiolrwydd a gwerth am arian ei buddsoddiad mewn dysgu proffesiynol i athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion yn cael eu gwerthuso.

Ymateb: Derbyn

Bydd yr Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol a fydd ar waith erbyn mis Medi 2022 yn cydnabod bod effeithiolrwydd a gwerth am arian darpariaeth yn hanfodol i lwyddiant y cwricwlwm newydd. Bydd yr holl Ddysgu Proffesiynol i bob ymarferydd yn agored i brosesau gwerthuso mwy trwyadl. Cyflwynais ddatganiad ysgrifenedig i'r Senedd ar 17 Mai yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd a wnaed.

Bydd ein gweithgarwch gwerthuso yn adolygu'r graddau y mae'r dysgu proffesiynol sydd ar gael i ymarferwyr yn cefnogi'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd ynghyd ag ymarfer proffesiynol o ansawdd uchel sy'n gwella, ac yn gydnaws â'r broses honno.

3. Dylunio cymwysterau newydd sy'n cefnogi dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cwricwlwm newydd a'u rhoi ar waith

Mae Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru yn gwybod y bydd angen i gymwysterau newid er mwyn iddynt gyd-fynd â'r cwricwlwm newydd. Mae Cymwysterau Cymru yn gweithio gydag ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch ac eraill i gyd-ddylunio'r TGAU newydd a chymwysterau eraill yn dilyn hynny. Ni phenderfynwyd ar fanylion y cymwysterau a'r mathau o asesiadau eto.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Cymwysterau Cymru er mwyn:

  • monitro cyfranogiad athrawon a dysgwyr wrth ddatblygu'r cymwysterau newydd
  • cynllunio rhaglen dysgu proffesiynol genedlaethol effeithiol a fydd yn cefnogi athrawon i gyflwyno'r cymwysterau newydd
  • asesu'r adnoddau sydd eu hangen o ran dysgu proffesiynol ar gyfer y cymwysterau newydd ac unrhyw newidiadau i'r broses asesu, yn cynnwys unrhyw rôl fwy ar gyfer asesu athrawon a/neu dechnoleg ddigidol.

Ymateb: Derbyn

Mae adroddiad Archwilio Cymru yn cydnabod y rhaglen waith sylweddol sydd eisoes yn mynd rhagddi ar ddatblygu cymwysterau newydd i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn cynnwys proses barhaus o ymgysylltu a datblygu ar y cyd â'r proffesiwn a rhanddeiliaid. Bydd hefyd, ar y cam datblygu priodol, yn cynnwys ystyriaethau a darpariaeth o gymorth addas at y diben ar gyfer ymarferwyr.

4. Gwerthuso effeithiolrwydd prosesau ysgolion o ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a dysgwyr

Un o effeithiau cadarnhaol y pandemig oedd atgyfnerthu'r broses o ymgysylltu rhwng ysgolion a theuluoedd mewn llawer o achosion. Bydd yn ofynnol i ysgolion ymgysylltu â rhieni a gofalwyr ynghylch y cwricwla. Dylai rhieni, gofalwyr a dysgwyr allu cymryd rhan ym mhrosesau gwerthuso a gwella ysgolion. Mae hyn yn mynd rhagddo mewn rhai ysgolion.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion i ymgysylltu'n effeithiol â rhieni, gofalwyr a dysgwyr ac yn gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion yn gwneud hyn er mwyn cefnogi gwelliant.

Ymateb: Derbyn

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu'n effeithiol â rhieni a gofalwyr, yn ogystal â phlant a phobl ifanc, fel rhan hanfodol o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru. Mae canllawiau statudol ar y cwricwlwm newydd eisoes yn cynnwys disgwyliadau ar ysgolion a lleoliadau.

Wrth ddatblygu hyn, rydym yn cyflwyno rhaglen gymorth i ysgolion a lleoliadau i helpu eu gwaith o ymgysylltu a chyfathrebu â rhieni a gofalwyr, gan ddilyn gwaith ymchwil manwl a wnaed yn 2021. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau a gwybodaeth a ddatblygwyd yn genedlaethol fel y gall ysgolion a lleoliadau eu haddasu a'u defnyddio yn eu gohebiaeth.

Mae'r gwaith gwerthuso parhaus a'r adborth rheolaidd ar effeithiolrwydd y dulliau hyn yn nodweddion o'r rhaglen waith barhaus hon. Mae gwaith gwerthuso ehangach er mwyn ystyried safbwyntiau rhieni/gofalwyr, yn ogystal â phlant a phobl ifanc, hefyd yn nodwedd o'n rhaglen Gwerthuso a Monitro – fel y nodwyd yng Nghynllun Gweithredu'r Cwricwlwm a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021.

5. Sefydlu'r wybodaeth sydd ei hangen i gael dealltwriaeth lawn o weithgareddau a deilliannau ysgolion

Disgwylir i waith i gefnogi dull cenedlaethol o hunanwerthuso gael ei gwblhau erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2021 i 2022. Mae llai o eglurder ynghylch y broses ar gyfer atebolrwydd a thryloywder democrataidd, yn cynnwys pa wybodaeth fydd ar gael i lywodraethwyr, awdurdodau lleol neu esgobaethol, rhieni, gofalwyr a'r cyhoedd.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn:

  • sefydlu'r wybodaeth sydd ei hangen ar y rheini sy'n dwyn ysgolion i gyfrif fel rhan o ddull atebolrwydd newydd
  • nodi manylion ar sut y bydd yn sicrhau tryloywder i rieni, dysgwyr a'r cyhoedd.

Ymateb: Derbyn

Mae'n hanfodol bod y trefniadau yn mabwysiadu dull sy'n defnyddio sail dystiolaeth gadarn a defnydd deallus o ddata i lywio gwaith gwerthuso, prosesau i gynllunio gwelliant a phrosesau llywodraethu effeithiol ar draws pob lleoliad addysgol ac ar draws pob asiantaeth a haen o'r system. I'r perwyl hwnnw, mae ymchwil yn mynd rhagddi i nodi a gwerthuso gofynion pob rhanddeiliad o ran data a gwybodaeth, a disgwylir adroddiad terfynol yn ystod hydref 2022.

Mae canllawiau ar wella ysgolion wedi'u cynllunio i'w cyhoeddi ddiwedd mis Mehefin. Bydd y canllawiau hyn, sy'n nodi fframwaith newydd ar gyfer Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd ar draws y system ysgolion, yn egluro disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran y modd y dylai ysgolion ac eraill ddefnyddio gwybodaeth a thystiolaeth i werthuso ysgolion a'u dwyn i gyfrif.

6. Sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn parhau i fod yn addas at y diben

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn cyflwyno gofyniad i Weinidogion adolygu'r cwricwlwm newydd yn rheolaidd. Nid yw'n nodi'r dull ar gyfer cynnal adolygiadau cylchol.

Rydym yn argymell, unwaith y bydd y garreg filltir o addysgu'r cwricwlwm newydd am y tro cyntaf wedi'i gyflawni, bod Llywodraeth Cymru yn nodi sut mae'n bwriadu adolygu'r cwricwlwm er mwyn sicrhau y gall gael ei ymgorffori a pharhau i fod yn addas at y diben.

Ymateb: Derbyn

Rydym yn cytuno ar bwysigrwydd cael ffocws clir ar gefnogi ysgolion a lleoliadau i gyflwyno'r cwricwlwm newydd o fis Medi 2022 a 2023. Rydym wedi sefydlu Rhwydwaith Cenedlaethol a arweinir gan ymarferwyr a fydd yn galluogi cyfranogwyr i roi adborth ar feysydd gwella wrth i'r cwricwlwm newydd gael ei ymgorffori. Wrth i'r sgwrs hon ddatblygu, bydd yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu strwythur a phroses adolygu'r cwricwlwm. Byddwn hefyd yn defnyddio'r cylch adrodd blynyddol i'r Senedd i nodi unrhyw faterion allweddol ar gyfer proses adolygu. Nododd y cynllun gweithredu ein dull o werthuso'r diwygiadau. Mae'r cam paratoi a chwmpasu bron â chael ei gwblhau bellach, a chaiff ein rhaglen werthuso ei chyhoeddi yn ystod hydref 2022.