Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad blynyddol yn nodi gweithgarwch yng Nghymru a thramor i gyflawni'r dyheadau yn y Strategaeth Ryngwladol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mehefin 2025

1. Trosolwg

Rhagair gan y Gweinidog

Mae Cymru yn wlad sy'n edrych tuag allan. Ar yr adeg heriol hon, a'r byd yn lle mor ansicr, rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i feithrin cysylltiadau rhyngwladol a phartneriaethau sy'n denu swyddi, buddsoddiadau a chyfleoedd.

Rydyn ni'n wlad fach ond mae ein dylanwad fel arloeswr byd-eang wedi cynyddu'n sylweddol, yn enwedig ym maes datblygu cynaliadwy. A hithau'n ddeng mlynedd ers cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae ein gwaith yn llywio gweithgarwch drwy'r Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.

Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers inni gyhoeddi Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru. Roedd yn ddatganiad o fwriad uchelgeisiol, yn ymrwymiad i weithio ar draws nifer o feysydd i godi proffil ein gwlad, i dyfu'r economi ac i ddweud wrth y byd ein bod yn wlad sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy'n barod i chwarae ein rôl wrth fynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n diffinio'r dyfodol.

Mae ein model ar gyfer diplomyddiaeth yn unigryw. Mae ein dull Tîm Cymru yn sicrhau cydweithredu ar draws y llywodraeth a chyda phartneriaid i gynyddu'r effaith a'r manteision cymaint ag y bo modd. Yn benodol, hoffwn i ganmol ein rhwydwaith tramor. Mae'r timau bach hyn wedi'u lleoli ledled y byd – bron bob amser o fewn llysgenadaethau Prydain ac uchel omisiynau – ac maen nhw'n hwyluso ymgysylltu ag amrediad o amcanion o fasnach a buddsoddi i bolisi, ymgysylltu â'r Cymry ar wasgar ac arddangos y gorau o Gymru yn ystod achlysuron fel Dydd Gŵyl Dewi.

Rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd dramor i wneud gwahaniaeth gartref. Gwelodd ein Blwyddyn Cymru yn India 2024 gytundeb yn cael ei wneud gyda Phrif Weinidog Kerala sydd wedi gweld gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael eu recriwtio ac yn gweithio mewn ysbytai Cymru.

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r gweithgareddau a'r canlyniadau sydd wedi cael eu cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, rwy'n glir iawn y dylen ni ganolbwyntio ar yr hyn sydd o'n blaenau. Eleni, cyhoeddais y Cynllun Cyflawni Rhyngwladol, sy'n nodi'r 15 maes gweithgarwch y byddaf yn canolbwyntio arnyn nhw dros y flwyddyn nesaf.

Bydd 2025–2026 yn flwyddyn hynod bwysig i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd ein tîm pêl-droed merched yn cystadlu yn y Swistir ym Mhencampwriaethau Ewrop – eu twrnamaint rhyngwladol mawr cyntaf – a byddwn yn cynnal Uwchgynhadledd Buddsoddi a fydd yn arddangos Cymru fel prif gyrchfan ar gyfer buddsoddi a chreu swyddi. Mae'r rhain yn gyfleoedd mawr – ac eraill yn yr arfaeth– a fydd yn dangos ein gwlad i'r byd, yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol ac yn creu cyfleoedd i bobl sy'n byw yma.

Eluned Morgan AS
Prif Weinidog Cymru

Cyflwyniad

Mae 2024–2025 wedi canolbwyntio ar atgyfnerthu cysylltiadau rhyngwladol, ehangu cyfleoedd ar gyfer masnachu a buddsoddi a hyrwyddo diwylliant Cymru yn fyd-eang. Mae'r adroddiad hwn – y pedwerydd adroddiad blynyddol sy'n cynnwys gwaith adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Llywodraeth Cymru – yn crynhoi'r cyflawniadau a'r heriau allweddol sy'n wynebu ein swyddfeydd rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn ac yn dyst i'r ymdrechion cydweithredol a'r mentrau strategol wedi'u cynnal i hyrwyddo ein nodau, hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang, datblygu ein cysylltiadau rhyngwladol, gwerthu Cymru fel cyrchfan ar gyfer mewnfuddsoddi a chefnogi cwmnïau o Gymru i allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau dramor. Yn dilyn adroddiad y llynedd, mae'n cynnwys gwybodaeth am raglen Cymru ac Affrica a sut mae'r rhaglen wedi newid ei chwmpas i agenda Cyfrifoldeb Byd-eang ehangach.

Y Cyd-destun geo-wleidyddol

Mae newidiadau geo-wleidyddol sylweddol yn 2024–2025 wedi dylanwadu ar y ffordd mae Cymru yn ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol a masnach. Mae tirwedd gwleidyddiaeth fyd-eang yn esblygu,  ac mae cynghreiriau, cytundebau masnach a pholisïau economaidd wedi newid. Mae hyn wedi arwain at gyfleoedd a heriau i Gymru. Mae ymosodiadau terfysgol Hamas ar Israel yn gynnar ym mis Hydref 2023, yr argyfwng dyngarol yn Gaza, a'r ffaith bod y gwrthdaro ledled y Dwyrain Canol ehangach wedi gwaethygu, wedi dod yn fwyfwy amlwg ymhlith yr heriau polisi tramor sy'n wynebu'r DU, ac mae Cymru wedi teimlo effaith yr heriau hyn. Wrth i'r gwrthdaro barhau, bu ragor o ffocws ar y ffaith nad yw polisi tramor wedi cael ei ddatganoli.

Tynnodd y tensiynau geo-wleidyddol yn Nwyrain Ewrop, yn enwedig y gwrthdaro yn Wcráin, sylw at bwysigrwydd undod a chefnogaeth ymhlith cenhedloedd democrataidd, ac mae Cymru wedi cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu cymorth dyngarol i Gaza, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu 2024–2025, felly nid yw effaith tariffau wedi'u gosod gan UDA ar ei phartneriaid masnachu ym mis Ebrill 2025 wedi'u cynnwys. Fodd bynnag, mae'n amlwg y bydd 2025–26 yn gweld ailstrwythuro cysylltiadau masnach a chadwyni cyflenwi ledled y byd. Efallai y bydd rhaid i allforwyr Cymru ymdrin â chymhlethdodau tariffau uwch, ailwerthuso eu strategaethau masnach ac archwilio marchnadoedd eraill i liniaru effaith y tariffau hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau, gan ddarparu adnoddau ac arweiniad i'w helpu i barhau i fod yn gystadleuol yn y farchnad fyd-eang.

Mae effaith newid yn yr hinsawdd yn parhau i fod yn broblem gritigol, gan ddylanwadu ar benderfyniadau geo-wleidyddol a chydweithredu rhyngwladol. Mae Cymru wedi parhau i eirioli dros arferion cynaliadwy a stiwardiaeth amgylcheddol, gan alinio ei pholisïau â mentrau byd-eang i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Dydd Gŵyl Dewi

Cafodd Dydd Gŵyl Dewi ei ddathlu ledled y byd, gan arddangos treftadaeth Cymru ac atgyfnerthu cysylltiadau dwyochrog.

Yng Ngogledd America, cynhaliodd swyddfa Washington DC dderbyniad yn Neuadd Madison, Llyfrgell y Gyngres, i ddathlu dengmlwyddiant Cawcws Cyfeillion Cymru. Yn Efrog Newydd a Chicago, cynhaliwyd derbyniadau ar gyfer y Cymry ar wasgar, rhanddeiliaid allweddol, cynrychiolwyr y llywodraeth, addysgwyr ac arweinwyr busnes, a hefyd hyrwyddwyd lansiad diweddar Wrexham Lager yn yr Unol Daleithiau, tra oedd swyddfa Los Angeles yn cynnal cinio ym Mhreswylfa'r Conswl Cyffredinol, a fynychwyd gan 30 o weithwyr proffesiynol technoleg a chreadigol o gwmnïau fel HBO,  Fox, Disney a Paramount. Dathlodd swyddfa Canada gyda'r Uchel Gomisiynydd newydd Prydain i Canada, Rob Tinline, ym Mhreswylfa'r Conswl Cyffredinol yn Toronto. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cynhyrchion o Gymru fel Penderyn, Caws Eryri, Welsh Lady Preserves, a Drop Bear Beer.

Yn Ewrop, canolbwyntiodd Iwerddon ar atgyfnerthu'r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon drwy gyfres o ddigwyddiadau, gan gynnwys ymweliad â Dulyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, a fynychodd ddigwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gan yr Academi Frenhinol Wyddelig a Darlith Flynyddol IACES.

Ymwelodd y Prif Weinidog â Brwsel a Pharis, lle roedd ei rhaglen yn cynnwys derbyniad blynyddol Dydd Gŵyl Dewi – gyda thema yn canolbwyntio ar heddwch – tra oedd y tîm yn yr Almaen yn cynnal derbyniadau yn Düsseldorf a Berlin a oedd yn canolbwyntio ar fuddsoddi.

Yn y Dwyrain Canol, cynhaliodd swyddfa Dubai ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi yn Llysgenhadaeth Prydain, gan arddangos cig oen Cymru, ar gyfer cwmnïau sy'n ymweld â Gulfood a'r Cymry ar wasgar sy'n byw yn lleol. Yn ogystal, cynhaliwyd digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi a oedd yn cynnwys panel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Doha, gyda 108 o fynychwyr ac yn cynnwys gwaith gan artistiaid o Gymru.

Yn India cafodd diweddglo Blwyddyn Cymru yn India 2024 ei ddathlu gyda digwyddiadau yn Mumbai a New Delhi ac ymweliad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Cynhaliodd swyddfa Japan dderbyniad ym mhreswylfa'r Llysgennad ar gyfer busnesau, gyda pherfformiad gan yr Urdd. Yn ogystal, cynhaliwyd rali stamp Eki arbennig yng Nghastell Himeji, gyda dros 700 o gwsmeriaid o Japan yn cymryd rhan. Yn Tsieina, roedd ffocws digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi yn amrywio – roedd Beijing yn canolbwyntio ar gyn-fyfyrwyr Cymru a'r Cymry ar wasgar, tra oedd Shanghai yn dathlu gyda busnesau. Yn Chongqing cynhaliwyd dathliad ar y cyd gyda Chonswl Chongqing, gyda Llysgennad EF yn bresennol.

Lleoliadau swyddfeydd

Nid oes newid wedi digwydd i'r rhwydwaith dramor. Mae'r map a'r tabl isod yn dangos ein swyddfeydd yn ôl ardal.

Asia

  • Beijing
  • Chongqing
  • Shanghai
  • Bangalore
  • Mumbai
  • New Delhi
  • Tokyo

Ewrop

  • Brwsel
  • Berlin
  • Düsseldorf
  • Dulyn
  • Paris
  • Llundain

Gogledd America

  • Atlanta
  • Chicago
  • Efrog Newydd
  • Los Angeles
  • Washington DC
  • Montréal

Y Dwyrain Canol

  • Doha
  • Dubai

2. Rhwydwaith byd-eang

Cyflwyniad

Mae ein rhwydwaith o swyddfeydd tramor wedi’i rannu’n dri rhanbarth: Ewrop, Gogledd America a’r Dwyrain Canol ac Asia. Mae gan bob rhanbarth ffocws wedi’i deilwra i’w gryfderau, a buddiannau Cymru, fel yr amlinellir yn eu cylchoedd gwaith rhyngwladol. Mae’r adran hon yn nodi uchafbwyntiau’r gweithgarwch a wnaethpwyd ym mhob rhanbarth yn ystod 2024-2025.

Ewrop

Masnach a buddsoddi

Mae pob swyddfa ledled Ewrop wedi hyrwyddo manteision buddsoddi a masnachu gyda Chymru. Fel rhan o'r gwaith i gyflwyno Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu Iwerddon-Cymru, mae swyddfa Iwerddon wedi bod yn weithgar iawn yn y maes masnach a buddsoddi. Fel rhan o ymweliad y Prif Weinidog ag Iwerddon ym mis Hydref 2024, cynullodd tîm Iwerddon ford gron busnes gyda Siambr Fasnach Prydain Iwerddon yn swyddfeydd BDO Advisory yng Nghanol Dulyn. Anerchodd 24 o uwch arweinwyr busnes ar y cyfleoedd buddsoddi yng Nghymru. Yn eu plith roedd nifer o fuddsoddwyr allweddol o Iwerddon fel Dunbia, Green Link Interconnector, Simply Blue ac ESB. Hefyd yn bresennol roedd cwmnïau mawr o'r Unol Daleithiau, gan gynnwys Microsoft ac Oracle, a sawl Prifysgol allweddol yn Iwerddon. Cafwyd sgwrs agored a gonest o amgylch y bwrdd am yr heriau a’r cyfleoedd yn y berthynas fusnes rhwng Iwerddon a Chymru.

Ym Mrwsel, dangosodd y tîm nad yw ei waith wedi'i gyfyngu i Wlad Belg, gan gefnogi cwmnïau o Gymru yn y Clwstwr Allforio Ynni Glân i fynychu Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd yn Rotterdam ym mis Mai, a threfnu bord gron sy'n canolbwyntio ar fuddsoddiad a chynaliadwyedd gyda busnesau'r Iseldiroedd yn Eindhoven, a gynhelir gan DAF Trucks. Roedd y tîm hefyd wedi cefnogi cenhadaeth fasnach i Barcelona, wedi cynrychioli Cymru mewn digwyddiad seiber yn Rhufain, digwyddiad technoleg ariannol yng Ngwlad Belg, ac amrywiol ddigwyddiadau Siambr yn yr Iseldiroedd, a chefnogi cenhadaeth fewnfuddsoddi gyda chwmnïau Gwyddorau Bywyd y Gwledydd Nordig i Gymru.

Ym mis Mawrth 2025, fel rhan o raglen ehangach Dydd Gŵyl Dewi, cyfarfu'r Prif Weinidog â Phrif Swyddog Gweithredol Wind Europe, Giles Dickson, a siaradodd â nifer o ddatblygwyr ynni gwynt, gweithgynhyrchwyr a chynrychiolwyr porthladdoedd mawr mewn cyfarfod bord gron a gynhaliwyd gan Wind Europe ym Mrwsel. Roedd yn gyfle i godi proffil y sector ynni gwynt yng Nghymru ac atgyfnerthu ymrwymiad Cymru i ynni adnewyddadwy i brif chwaraewyr yn y diwydiant ynni. Roedd Wind Europe o'r farn bod y digwyddiad bord gron ymhlith y gorau y mae wedi'i chynnal gyda gwleidyddion, ac roedd y diwydiant yn gwerthfawrogi dyfnder y sgwrs a'r ymrwymiad gan y Prif Weinidog. Wedi hynny, gwahoddodd Giles Dickson hi i siarad yng Nghynhadledd Wind Europe yn Copenhagen.

Cynhadledd Wind Europe yw un o'r digwyddiadau proffil uchaf ar gyfer y sector ynni gwynt yn Ewrop, gyda thros 16,000 o gyfranogwyr, 250 o siaradwyr a 400 o arddangoswyr. Arweiniodd Tîm Brwsel ymweliad y Prif Weinidog â Copenhagen gyda chefnogaeth gan dimau perthnasol Llywodraeth Cymru. Roedd y rhaglen ddeuddydd yn cynnwys anerchiad prif lwyfan i gynulleidfa o 600+, cinio VIP gyda Phrif Swyddogion Gweithredol ac arweinwyr busnes, cyfarfodydd dwyochrog gyda nifer o gwmnïau C-suite, cwrdd â Llysgennad EF i Ddenmarc ac ymweliad â Phencadlys Rockwool.

Llwyddodd y Prif Weinidog i arddangos Cymru ar lwyfan byd-eang, gan sicrhau bod y diwydiant yn ymwybodol o'r cyfle a'r gallu unigryw a gynigir yng Nghymru, gan hefyd dynnu sylw at ymrwymiad i swyddi gwyrdd a thwf cyn yr Uwchgynhadledd Buddsoddi ddiwedd 2025.

Bu Llywodraeth Cymru hefyd yn arddangos yn Wind Europe fel rhan o Bafiliwn Renewable UK a chymerodd ddirprwyaeth fasnach i'r digwyddiad. Cyfarfu'r Prif Weinidog â'r cwmnïau o Gymru yn y gynhadledd.

Medica oedd ffocws yr Almaen lle, unwaith eto, aeth dirprwyaeth gref o gwmnïau gwyddorau bywyd Cymru i ffair fasnach feddygol fwyaf y byd. Teithiodd mwy na 30 o gwmnïau o'r sector gwyddorau bywyd i Düsseldorf fel rhan o genhadaeth fasnach. Roedd hyn wedi sicrhau'r presenoldeb Cymreig mwyaf yn y ffair fasnach ers y pandemig, a'r ddirprwyaeth fasnach dramor fwyaf ar gyfer eleni. Arweiniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio'r ddirprwyaeth ar ei hymweliad tramor cyntaf yn y portffolio hwn. Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd â WEPA, un o brif gyflenwyr papur cartref gyda chyfleuster ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n cyflogi tua 350 o bobl, i ddeall mwy am gynlluniau ar gyfer buddsoddi yng Nghymru yn y dyfodol.

Seiberddiogelwch ac ynni adnewyddadwy oedd ffocws Ffrainc, gyda phresenoldeb yn Vivatech, Seanergy, Farnborough, y Fforwm Busnes Rhyng-geltaidd, SIAL, ac Wythnos Seiber Ewrop a thrafodaethau ynghylch datblygu cyfleoedd adnewyddadwy morol gyda Pays de la Loire, Normandi, a Llydaw.

Yn ogystal â'r swyddogaethau cymorth busnes arferol, roedd swyddfa Dulyn yn chwarae rhan sylweddol yn cefnogi, cydlynu ac ymateb i'r heriau a grëwyd yn sgil cau Porthladd Caergybi yn annisgwyl ym mis Rhagfyr 2024. Gweithiodd y tîm gyda chysylltiadau presennol, a datblygodd berthynas newydd yn Iwerddon gyda'r sectorau cludo llwythi, logisteg, cymdeithasau allforwyr a phorthladdoedd / llywodraeth Iwerddon. Daeth y tîm yn ganolbwynt i ystod o sefydliadau perthnasol i fonitro, diweddaru a lledaenu'r safbwyntiau diweddaraf ar gau'r porthladd, gan weithio gyda phartneriaid fel yr Adrannau Trafnidiaeth yn llywodraethau Iwerddon a'r DU, Llu'r Ffiniau, CThEM a chydweithwyr rhanbarthol Cymru. Cynhaliwyd cyfarfodydd yn ddyddiol ers cau'r porthladd drwy gydol cyfnod y gwyliau hyd at fis Ionawr. Casglodd y tîm dystiolaeth ddyddiol o ran llwythi, nifer y teithwyr a oedd yn bwydo cynlluniau llwybrau amgen. Disgrifiwyd tîm Iwerddon fel “… canolbwynt ar gyfer cydlynu rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Iwerddon” (Cyfarfod tystiolaeth Pwyllgor Goruchwylio'r Senedd ar Yr Economi, Masnach a Materion Gwledig – 6 Mawrth 2025) ac yn rhan greiddiol o Dasglu Caergybi a ffurfiwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, gan gynnal a meithrin cysylltiadau newydd â rhanddeiliaid allweddol yn Iwerddon gan gynnwys ymgysylltu uniongyrchol â Gweinidog Iwerddon sy'n gyfrifol am borthladdoedd.

Cysylltiadau rhyngwladol

Ym mis Hydref, cynhaliwyd Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru yn Nulyn a Chorc ar ôl cael ei ohirio oherwydd Etholiad Cyffredinol y DU. Teithiodd y Prif Weinidog i Ddulyn, lle cyfarfu â'r Arlywydd Higgins a'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hinsawdd a Chyfathrebu a Thrafnidiaeth. Mynychodd gyfarfod bord gron o fuddsoddwyr gyda Siambr Fasnach Prydain Iwerddon cyn teithio i lawr i Gorc. Yng Nghorc, roedd y ffocws ar gytuno ar ddull gweithredu o ran Cyd-ddatganiad newydd ar gyfer cysylltiadau Iwerddon-Cymru yn y dyfodol gyda'r Tánaiste. Roedd swyddfa Iwerddon hefyd yn cefnogi ymweliadau ag Iwerddon o amgylch cyfarfod rhanbarthol Cymdeithas Prydain ac Iwerddon. Cefnogodd y tîm ymweliad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol pan draddododd ddarlith ym Mhrifysgol Coleg Dulyn a chynhaliodd gyfarfodydd gydag adran y Taoiseach.

Yn unol â'n huchelgais i sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, roedd cynaliadwyedd hefyd yn thema allweddol. Mynychodd swyddfa Brwsel Fforwm Economi Gylchol y Byd blynyddol ym Mrwsel a mynychodd swyddfa'r Almaen Confensiwn y Circular Valley yn Düsseldorf i hyrwyddo ein gwaith ar yr economi gylchol.

Eleni manteisiodd swyddfa Brwsel ar yr UE gan greu Comisiynydd newydd sy'n gyfrifol am Degwch Rhwng Cenedlaethau, sy'n cyd-daro â 10 mlynedd ers ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Cyfarfu'r tîm a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru â'r Comisiynydd Micallef, sy'n awyddus i ddysgu wrthym ni a defnyddio Cymru fel enghraifft o arfer da. Cawsom ein gwahodd hefyd gan MEP i siarad yn Senedd Ewrop – rhannu arbenigedd Cymru ar roi meddylfryd Cenedlaethau'r Dyfodol ar waith.

Roedd 80 mlynedd ers D-Day yn gyfle i nodi'r achlysur pwysig hwn yn Ffrainc a Gwlad Belg. Ym mis Mehefin 2024, mynychodd y Prif Weinidog ddigwyddiadau coffa yn Normandi, tra ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog â 's-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd ar gyfer 80 mlynedd ers rhyddhau'r ddinas. Roedd swyddfa Brwsel wedi hyrwyddo a mynychu Cyngerdd Goffa Côr Meibion Rhosllannerchrugog yn eglwys Sant Siôr, Ypres.

Gogledd America

Masnach a buddsoddi

Unwaith eto, roedd datblygiad economaidd yn nodwedd allweddol ar gyfer y flwyddyn ar draws Gogledd America.  Cwblhaodd cwmni canolfan ddata o Colorado, Vantage, y broses o brynu hen safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n argoeli i fod yn fuddsoddiad gwerth miliynau o ddoleri ac yn mynd i greu swyddi. Cafwyd buddsoddiad sylweddol yng Nghymru hefyd gan Cadence o arfordir y Gorllewin, a gyhoeddodd gynlluniau i agor stiwdio ddylunio sglodion newydd yng Nghaerdydd, gan ddod â dros 100 o swyddi medrus iawn i'r rhanbarth a chreu llif cryf o dalent o ran graddedigion i helpu i fynd i'r afael â phrinder sgiliau. Yn ogystal, ehangodd cwmni o Ganada, Soleil Food Service, ei bresenoldeb yng Ngogledd Cymru, gan ychwanegu 110 o swyddi at ei ôl troed presennol.

Cafwyd buddugoliaethau masnach nodedig i gwmnïau o Gymru hefyd yn 2024-25. Sicrhaodd Transdiagen o Gaerdydd gytundeb allforio gwerth miliynau o bunnoedd i Ganada, a chyhoeddodd Tomoe Valve o Gasnewydd gytundeb masnach gwerth £1.6 miliwn gyda phrosiect a ariennir gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau yn nhalaith Washington.

Dros y flwyddyn, cymerodd y tîm ran mewn nifer o gynadleddau masnach a buddsoddi i hyrwyddo Cymru, gan gynnwys Money2020, Uwchgynhadledd Fintech InsureTech, Photonics West ac Aéromart Montréal. Fe wnaethom ni hefyd gefnogi dirprwyaethau Cymreig yng Nghynhadledd MRO Americas, BIO a Chynhadledd Datblygwyr Gemau. Ym mis Mawrth 2025, cymerodd y tîm ran yn nigwyddiad Explore Export yng Nghymru, gan ddarparu cefnogaeth i gwmnïau o Gymru sydd â diddordeb mewn allforio i Ogledd America.

Gan adeiladu ar flynyddoedd blaenorol, defnyddiodd y tîm ddiplomyddiaeth chwaraeon i hyrwyddo trafodaethau ynghylch buddsoddiad. Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom ni fanteisio ar y cyfle ddaeth o daith Clwb Pêl-droed Wrecsam o amgylch Arfordir Gorllewin America i godi proffil Cymru, gan groesawu gwesteion VIP yn ystod gêm Santa Barbara a chynnal derbyniad i fuddsoddwyr o Gymru yn ystod gêm Vancouver. Cydnabuwyd cryfder Cymru mewn diplomyddiaeth chwaraeon gan Brifysgol Efrog Newydd ym mis Mawrth 2025, pan gawsom ein gwahodd i arwain seminar yn Sefydliad Chwaraeon Byd-eang Preston Robert Tisch.

Cysylltiadau rhyngwladol

Parhaodd y berthynas rhwng Cymru a Birmingham, Alabama i dyfu mewn cryfder ac arwyddocâd ar ôl llofnodi'r Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol yn 2023.

Eleni, cafodd Llywodraeth Cymru’r anrhydedd o groesawu uwch swyddogion o Birmingham, AL i Gymru, gan nodi cam mawr ymlaen yn y bartneriaeth. 

Roedd y ddirprwyaeth, dan arweiniad Birmingham Sister Cities, yn cynnwys arweinwyr dinesig, cynrychiolwyr busnes, a chyfranogwyr symbolaidd iawn - yn eu plith, perthnasau y pedair merch ifanc a laddwyd yn y ffrwydrad bom ar Eglwys y Bedyddwyr 16th Street yn 1963, yn ogystal â goroeswyr a ffigurau o fudiad hawliau sifil America. Roedd yr ymweliad yn adlewyrchu ymrwymiad y ddwy ochr i hyrwyddo cydweithredu ar draws blaenoriaethau a rennir gan gynnwys y celfyddydau a diwylliant, gwyddorau bywyd, gofal iechyd ac addysg.

Ymgysylltodd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn sylweddol â'r Unol Daleithiau eleni, gan hyrwyddo arweinyddiaeth fyd-eang Cymru ar weithredu ar yr hinsawdd a chefnogi twf ei diwydiannau creadigol. Yn Wythnos Hinsawdd Efrog Newydd, ailddatganodd y Dirprwy Brif Weinidog rôl ryngwladol Cymru wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Roedd rôl Cymru fel un o sylfaenwyr y Gynghrair Dan-2 ac ymrwymiad i genedlaethau'r dyfodol yn themâu allweddol drwy gydol yr ymweliad, gan adlewyrchu perthnasedd byd-eang parhaol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ym mis Mawrth 2025, arweiniodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol genhadaeth fasnach i'r Gynhadledd Datblygwyr Gemau (GDC) yn San Francisco, ac ymunodd dros 30 o gynrychiolwyr o ddiwydiant gemau Cymru. Fe wnaeth yr ymweliad gryfhau cysylltiadau â stiwdios a buddsoddwyr rhyngwladol, hyrwyddo cyfleoedd allforio, a phwysleisio safle Cymru fel canolfan fywiog ar gyfer y diwydiant gemau, arloesi digidol a chynhyrchu ar gyfer y sgrin. Nid yn unig mae'r ymweliadau hyn wedi codi proffil rhyngwladol Cymru, ond maent hefyd wedi darparu cefnogaeth ddiriaethol ar gyfer masnach, buddsoddi ac ymgysylltu rhyngwladol. 

Drwy gydol y flwyddyn, gweithiodd y tîm i hyrwyddo diwylliant a gwerthoedd Cymru ledled yr Unol Daleithiau a Chanada. I gydnabod Mis Pride, cymerodd y swyddfeydd ran mewn dathliadau yn Washington DC, Efrog Newydd, a Chicago, gan dynnu sylw at uchelgais Cymru i fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LDTC+ yn Ewrop. Fe wnaethom noddi Gŵyl Gymreig Gogledd America yn Pittsburgh, a oedd yn llwyfan amlwg ar gyfer arddangos diwylliant Cymru, tra bod gweithgareddau ychwanegol fel Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn Efrog Newydd a chydweithrediad ag asiantaethau'r Unol Daleithiau ar warchod ieithoedd brodorol, yn pwysleisio ymhellach ymrwymiad Cymru i ddiplomyddiaeth ddiwylliannol. Yn ogystal â hyn, roeddem yn falch iawn o allu hyrwyddo ffilm Gymreig yng Ngŵyl Ffilm fawreddog Sundance, gan danlinellu amlygrwydd rhyngwladol cynyddol diwydiannau creadigol Cymru.

Cawcws

Yn dilyn twf sylweddol Cawcws Cyfeillion Cymru yn 2023-24, roedd eleni yn garreg filltir arwyddocaol gyda phenodi'r Cyngreswr Lloyd Doggett fel Cyd-gadeirydd Democrataidd cyntaf y Cawcws. Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod derbyniad Dydd Gŵyl Dewi a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn Llyfrgell y Gyngres. Mae Doggett yn ymuno â'r Cyd-gadeirydd Gweriniaethol, y Cyngreswr Morgan Griffith, i arwain y grŵp dwybleidiol. Mae'r Cawcws bellach yn cynnwys 26 aelod o Dŷ a Senedd yr Unol Daleithiau. Gyda chefnogaeth y Cawcws, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu mwy â Chyngres yr Unol Daleithiau, gan gynnwys digwyddiadau i hyrwyddo clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd o'r radd flaenaf yng Nghymru a'n hymdrechion i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Partneriaethau addysgol ac ymchwil

Fe wnaethom barhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu partneriaethau addysgol ac ymchwil rhwng Cymru a Gogledd America. Cynorthwyodd y tîm ymweliad gan Brifysgolion Cymru â Calgary, gan eu cysylltu â rhanddeiliaid a chydweithwyr posibl, a hwyluso trafodaethau rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Concordia ym Montréal. Fe wnaethom hefyd gefnogi'r Rhaglen Interniaid Seneddol ffederal, yn ogystal â Rhaglen Interniaeth Deddfwrfa Ontario ar ymweliadau â Chaerdydd, gan gryfhau cysylltiadau addysgol ymhellach. Crëwyd cydweithrediadau ymchwil rhwng prifysgolion Cymru a Michigan Tech, Prifysgol Brigham Young a Phrifysgol Gogledd Carolina, yn ogystal â symposiwm gyda Phrifysgol Talaith Arizona ac Abertawe i feithrin cydweithrediad ymchwil a datblygu. Mewn partneriaeth â Global Wales, fe wnaethom hefyd drefnu trafodaeth bord gron rhwng Study in Tennessee a phrifysgolion Cymru i archwilio cyfleoedd ymchwil a datblygu yn y sector lled-ddargludyddion.

Y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica/Asia (DCGA)

Masnach a buddsoddi

Yn y Dwyrain Canol, mae cefnogi cwmnïau Cymreig i allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau i'r rhanbarth yn flaenoriaeth. Yn 2024-2025, cefnogodd ein swyddfeydd yn y Dwyrain Canol yn Dubai a Doha 15 o gwmnïau Cymreig, gan gynnwys Calon Wen Dairy, Castle Dairies, a Distyllfa Penderyn, i fynychu sioe fasnach Gulfood yn Dubai ac ysgogi cefnogaeth gan y Cymry ar wasgar mewn cydweithrediad â Global Welsh. Darparodd y tîm hefyd gymorth yn y farchnad i gwmnïau yn Arab Health a sioe fasnach ynni ADIPEC yn Abu Dhabi.

Mae tîm y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica wedi cefnogi dros 100 o fusnesau o Gymru ar eu teithiau allforio i'r rhanbarth, er enghraifft, gan gefnogi'r Bathdy Brenhinol gyda chysylltiadau perthnasol a helpu gyda digwyddiadau hyrwyddo.

Oherwydd diddordeb cynyddol yn y wlad, mae ein tîm yn y Dwyrain Canol wedi bod yn cynnal ymchwil ar gefnogaeth i fusnesau Cymreig sydd eisiau archwilio cyfleoedd yn Nheyrnas Saudi Arabia.  Fel rhan o'r gwaith hwn, llwyddodd y tîm i gefnogi cwmnïau o Gymru yn eu ceisiadau i sicrhau contractau i weithio ar y NEOM GigaProject yn y Deyrnas. Bu tîm y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica hefyd yn cefnogi Hybu Cig Cymru (HCC) wrth iddo lansio Cig Oen Cymru PGI i'w werthu yn Riyadh am y tro cyntaf, yn fuan ar ôl helpu HCC i sicrhau archebion gyda manwerthwr mawr yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig.

Mae tîm y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica wedi bod yn ganolog i fenter i annog Menywod yn y Sector Allforio ac wedi llunio taflen ffeithiau ac awgrymiadau i allforwyr eu defnyddio wrth ymweld â marchnadoedd yn y rhanbarth.

Trwy gysylltiadau yng Ngwlad yr Iorddonen, cefnogodd y tîm ymweliad Cymdeithas Dynion Busnes Gwlad yr Iorddonen â Chymru, gan feithrin perthynas â Siambrau Cymru.

2024 oedd blwyddyn Cymru yn India. Mae astudiaeth achos gyda'r canlyniadau a'r gweithgaredd a gynhaliwyd trwy gydol y flwyddyn wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn. Roedd cynyddu cysylltiadau masnach a buddsoddi rhwng Cymru ac India yn un o'r amcanion, gyda chyfarfodydd bord gron buddsoddi, cynadleddau ac arddangosfeydd, fel Uwchgynhadledd Fusnes Fyd-eang Bengal a SEMICON India, yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad buddsoddi drwy gydol y flwyddyn.

Lansiwyd Cymru a Japan 2025 ym mis Ionawr. Cyn y lansiad, bu busnesau Japan yng Nghymru yn nodi 50 mlynedd o fuddsoddiad yng Nghymru, gyda digwyddiadau a  gynhaliwyd gan Sony, Toyota a Panasonic a chyfarfod bord gron i gwmnïau Japan a gynhaliwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Bydd Cymru a Japan 2025 yn defnyddio'r World Expo yn Osaka fel llwyfan ar gyfer arddangos Cymru ar lwyfan y byd. Yn ogystal â digwyddiadau yng Nghymru, sy'n dangos y cysylltiadau economaidd cryf rhwng ein dwy wlad, cynhaliodd tîm Japan symposiwm technoleg feddygol o Gymru ym Mhreswylfa Llysgennad EF yn Tokyo, cynhaliwyd stondin Cymru yn Foodex Japan - gan sicrhau cytundebau masnach gwerth hyd at £8 miliwn - a chefnogwyd sawl un o fusnesau a sefydliadau Japan i ymweld â Chymru,  gan gynnwys JETRO Kitakyushu a Dinas Himeji.

Yn Tsieina, bu cynnydd yn y ddiddordeb yn y farchnad ynni adnewyddadwy. Mae tîm Tsieina wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau o Gymru a Tsieina i gefnogi partneriaethau a nodi cyfleoedd buddsoddi, gan gynnwys gweithio gyda chwmni ynni adnewyddadwy morol o Gymru i edrych ar y posibilrwydd o ehangu yn Tsieina. Cymerodd y tîm ran yn 10fed Fforwm Diwydiant Gwynt ar y Môr rhwng y DU a Tsieina, mewn derbyniad Ynni Glân yn Beijing, ac yn nerbyniadau Dirprwyaeth Maer y DU yn Chongqing a Chengdu - gan greu cyfleoedd mewnfuddsoddi. Fel sector Cyfleoedd Potensial Uchel dynodedig yn y DU, mae sector gwyddorau bywyd Cymru yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau i ddiwallu'r galw cynyddol gan y diwydiant iechyd cyhoeddus a gwasanaethau meddygol yn Tsieina. O ganlyniad, mae 13 o gwmnïau o Gymru bellach yn ymddangos yn y catalog. Mae ecosystem weithgynhyrchu uwch Cymru hefyd yn denu buddsoddiad gan gwmnïau o Tsieina, yn enwedig cwmnïau cerbydau trydan. Mae tîm Tsieina wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau a sefydliadau Cymreig, i chwilio am gyfleoedd allforio, yn ogystal â chwmpasu am fwy na 10 o arweinwyr buddsoddi cymwysedig.

Cysylltiadau rhyngwladol

Gweithiodd swyddfeydd y Dwyrain Canol yn agos gyda phartneriaid, megis y Cyngor Prydeinig, i gynnal digwyddiadau a hyrwyddodd Gymru, gan fynychu digwyddiadau  gwobrwyo'r British Council Study UK yn Doha a Riyadh, a chefnogi gosodiad yr artist sain Cymreig John Rea yng Ngŵyl Raneen yn Oman.

Yn Qatar, cefnogodd y tîm weithgareddau i hyrwyddo gwerthoedd Cymreig trwy ddigwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Ysgol Sherborne i Ferched, Qatar, a sgyrsiau rhwng Unify a sefydliadau diwylliannol.  Mae tîm y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica yn parhau i weithio gyda phrifysgolion Cymru (Abertawe, Aberystwyth, Caerdydd, Met Caerdydd a Bangor) yn eu huchelgais i feithrin cysylltiadau addysgol â'r Gwlff ac aethpwyd gyda Phrifysgol Abertawe i Riyadh ar gyfer trafodaethau gyda'r Princess Noura Univeristy.  Fe wnaeth y tîm hefyd gefnogi a hyrwyddo timau Cymreig a oedd yn mynychu digwyddiadau yn y rhanbarth - Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, fu'n cystadlu yn Rowndiau Terfynol F1 Ysgolion y Byd yn Saudi Arabia, a thîm cogyddion ifanc Cymdeithas Coginio Cymru yng nghystadleuaeth Expo Culinaire yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn Sharjah. Mae cefnogi Maes Awyr Caerdydd yn ei drafodaethau gyda Qatar Airways yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn Qatar.

Ymddangosodd cysylltiadau diwylliannol yn ystod Cymru yn India 2024 wrth i'r flwyddyn gau'n swyddogol yn ystod Gŵyl Hornbill yn Nagaland – un o'r digwyddiadau diwylliannol mwyaf yn India – a ddewisodd Gymru fel gwlad bartner ac a alluogodd artistiaid o Gymru i berfformio yn y digwyddiad mawreddog hwn. Defnyddiodd y tîm y flwyddyn hefyd i hyrwyddo gwerthoedd Cymreig trwy ddigwyddiadau fel cyfarfodydd bord gron LGBTQ+ ochr yn ochr â chonswliaid Ffrainc a'r Iseldiroedd. Yn ystod lansiad Cymru yn India 2024, llofnododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gofal iechyd gyda Kerala i recriwtio gweithwyr gofal iechyd o'r rhanbarth i weithio yng Nghymru. Rhagorwyd ar darged y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth o 250 o weithwyr gofal iechyd, ac mae GIG Cymru wedi croesawu 350 o weithwyr proffesiynol o Kerala yn ystod y 12 mis diwethaf.

Yn Japan, ail-lofnododd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Amgueddfa Gelf Prefectural Oita, tra cymerodd Llywodraeth Cymru ran yn EXPO Wythnos SDG yn nigwyddiad ECOPRO 2024 Nikkei Messe, gan dynnu sylw at agwedd Cymru at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.  Mae tîm Llywodraeth Cymru yn Tokyo hefyd wedi bod yn datblygu cysylltiadau â chymuned frodorol Japan, Ainu, i rannu gwersi ar hyrwyddo ac annog y defnydd o ieithoedd brodorol.

Canolbwyntiodd Tsieina ar gyn-fyfyrwyr ac addysg i feithrin cysylltiadau cymell tawel rhwng ein dwy wlad, gan sefydlu Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Cymru Tsieina a thyfu'r rhwydwaith ledled y wlad.  I gefnogi'r agenda sero net, mae tîm Tsieina wedi cydweithio â Phrifysgol Caerdydd i drosoli ei arbenigedd mewn cynllunio a dylunio trefol gwyrdd ar gyfer datblygu Boao, Ynys Hainan.  Gwireddwyd y bartneriaeth hon trwy Gystadleuaeth Cynllunio a Dylunio Trefol Addysg Uwch Sino-UK ar gyfer Adfywio Gwledig yn Boao.  Mae'r fenter nid yn unig yn hyrwyddo amcanion datblygu cynaliadwy Cymru ond hefyd yn meithrin cysylltiad â sefydliadau academaidd blaenllaw Tsieina, fel Prifysgol Wuhan a Phrifysgol Technoleg Dalian.

3. Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cyflwyniad

Yn 2024-2025, parhaodd rhaglen Cymru ac Affrica i ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyfrifoldeb byd-eang drwy feithrin cydweithrediad rhyngwladol rhwng cymunedau yng Nghymru ac Affrica. Ers ei lansio yn 2006, mae'r rhaglen wedi hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, cydraddoldeb rhywedd, iechyd, addysg a bywoliaethau yn ogystal â darparu cymorth dyngarol.

Mae 2024-2025 wedi bod yn flwyddyn anodd i'r rhai sy'n ymwneud â Datblygu Rhyngwladol a chydsefyll yn fyd-eang. Mae cau Asiantaeth Datblygu Rhyngwladol yr Unol Daleithiau (USAID) a thoriadau mawr a gyhoeddwyd i gyllideb cymorth y DU ynghyd â dinistr Gaza a thrychinebau cynyddol sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd heb os wedi digalonni'r sector. Er gwaethaf y materion hyn, mae'r sector yng Nghymru yn parhau i wneud cynnydd.

Gostyngwyd cyllideb Cymru ac Affrica 17.5% ar ddiwedd 2023-2024 i £1,050,000 ac arweiniodd at atal y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol tan ddiwedd 2024 a gostyngiad yn y gronfa o arian sydd ar gael ar gyfer grantiau bach.

Mae'r tîm sy'n gyfrifol am Gymru ac Affrica wedi ehangu ei gylch gwaith i gwmpasu Cyfrifoldeb Byd-eang, gan adlewyrchu'n well y gwaith gyda rhwydweithiau fel Rhanbarthau dros Ddatblygu Cynaliadwy a'r Rhwydwaith Datblygu Cynaliadwy Ewropeaidd.

Ymweliad gwladol Lesotho

Ym mis Mai, gwnaeth Brenin Letsie III o Lesotho ymweliad gwladol â Chymru, lle gwnaethom rannu'r hyn a ddysgwyd am ffordd Cymru o weithio o ran ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cyflwyno technoleg werdd.

Rhaglen Plannu Coed Mbale

Un o gyflawniadau amlwg rhaglen Cymru ac Affrica oedd y gwaith plannu coed gyda Maint Cymru a Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE) a ddathlodd ym mis Mawrth bod 25 miliwn o goed wedi cael eu dosbarthu. Ymwelodd Deborah Nabulobi a Hellen Alupo o METGE â Chymru, gan fynychu digwyddiadau - gan gynnwys un yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - cwrdd ag ASau a siarad â phlant ysgol.

Ym mis Tachwedd tynnwyd sylw at frys yr Argyfwng Hinsawdd gyda newyddion am dirlithriad yn ardal Bulambuli, a laddodd dros gant o bobl a dadleoli cannoedd yn rhagor o bobl. Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn gyflym a rhoddodd £11,000 (50m o Sylltau Uganda) tuag at yr ymdrechion cymorth. Roedd ein partneriaid yn METGE yn gallu prynu a dosbarthu bwyd, sebon, dillad gwely a phebyll yr oedd mawr eu hangen yn uniongyrchol i'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt o fewn dyddiau.

Y Cynllun Grantiau Bach

Mae Cynllun Grantiau Bach Cymru ac Affrica wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau drwy gydol y flwyddyn:

  • Partneriaeth Panzi Prifysgol Abertawe

    Wedi'i ariannu gan grant ymchwil gwerth £1.7m a grant bach Cymru ac Affrica o £20,000, mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio deunydd genetig i dyfu croen a chartilag i atgyweirio creithiau ar wynebau. Arweiniodd yr Athro Ian Whitaker y fenter hon mewn partneriaeth â Dr. Denis Mukwege yn Ysbyty Panzi, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

  • Sefydliad Elusennol ResponsABLE Assistance

    Cefnogwyd pobl anabl a'u teuluoedd yn Kenya gyda thwll turio sy'n cael ei bweru gan yr haul, hyfforddiant rheoli dŵr, a diogelu pridd.

  • Partneriaeth Kick 4 Life

    Y nod yw rhannu'r hyn a ddysgwyd am ddatblygu cymunedol rhwng Clwb Pêl-droed Wrecsam a Kick 4 Life o Lesotho.

  • Rhaglen Tyfu Coed Mbale

    Hyfforddiant rhywedd ar gyfer 70 o aelodau o'r gymuned, hyrwyddo cyfiawnder hinsawdd.

  • Prosiect Optometreg Prifysgol Caerdydd

    Mewn partneriaeth â Phrifysgol Cape Coast, darparodd y prosiect hwn hyfforddiant arbenigol ac allgymorth cymunedol i hyrwyddo optometreg ac arferion gofal llygaid.

  • Partneriaeth Dolen Ffermio a FARLU

    Darparwyd seilwaith dŵr a thrydan yn Uganda, sydd o fudd i dros 420 o aelwydydd a 1,000 o bobl.

  • Prosiect Treeflights

    Ariannwyd costau teithio ar gyfer gwirfoddolwyr o siopau Treeflights yng Nghymru i Kenya, gan gefnogi lluosogi coed a siopa natur-bositif.

  • Prosiect Cymunedol The Potter's House

    Cefnogwyd plant ag anableddau yn Kenya drwy ddyfeisiau cymorth osgo wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, gan hyrwyddo hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth.

  • Menter Gydweithredol Menywod Chomuzangari

    Mewn partneriaeth â'r Hope Foundation Trust Zimbabwe, aeth y prosiect hwn i'r afael â thlodi mislif a grymuso menywod a merched drwy ddosbarthu deunyddiau misglwyf y gellir eu hailddefnyddio.

Mae'r prosiectau hyn yn enghraifft o effaith amrywiol a sylweddol Cynllun Grantiau Bach Cymru ac Affrica, gan gyfrannu at rymuso cymunedau, cynaliadwyedd amgylcheddol, gwelliannau iechyd, cydraddoldeb rhywedd a mentrau addysgol ledled Affrica.

Cydraddoldeb rhywedd a grymuso menywod

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhaglen Cymru ac Affrica wedi cefnogi nifer o brosiectau effeithiol i rymuso menywod rhwng sefydliadau o Gymru a'u partneriaid yn Uganda. Gan gydweithio'n agos â'u partneriaid Affricanaidd, mae sefydliadau o Gymru wedi dylunio prosiectau sy'n rhoi cipolwg a dealltwriaeth newydd i'r gymuned gydsefyll fyd-eang yng Nghymru, gan sicrhau effeithiau sy'n newid bywydau, darparu gwell bywoliaethau ac ymreolaeth ariannol i fenywod, hyrwyddo integreiddio rhywedd i frwydro yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, lleihau'r arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), mynd i'r afael ag urddas a stigma mislif a helpu merched i gwblhau eu haddysg.

Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Ail-lansiwyd y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol (ILO) yn hwyr yn 2025 ar ôl saib o bron i flwyddyn. Mae'r rhaglen bellach yn canolbwyntio'n fwy ar fodloni gofynion partneriaid Affricanaidd, gan recriwtio cyfranogwyr sydd â'r sgiliau a'r profiad y tynnwyd sylw atynt gan bartneriaid. Dechreuwyd un cynllun lleoli o fewn y flwyddyn ariannol gyda llawer mwy wedi'i gynllunio ar gyfer 2025-2026.

Y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC)

Mae Rhaglen Cymru ac Affrica yn parhau i ariannu Pwyllgor Argyfyngau Brys Cymru i gefnogi ei waith cydlynu a chodi arian yng Nghymru. Gwnaed dau rodd i Apêl y Dwyrain Canol – gyda'r ail rodd yn ystod y cadoediad byrhoedlog. Cyfarfu swyddogion â chyrff anllywodraethol drwy gydol y flwyddyn i drafod cymorth posibl tuag at ailadeiladu Gaza yn y dyfodol.

Ymweliad gan Jenipher Sambazi

Ym mis Medi, ymwelodd Jenipher Sambazi, o Jenipher's Coffi, â Chymru o Uganda, gan fynychu 24 o ddigwyddiadau yn amrywio o ymweliadau â Senedd Cymru a Senedd y DU i ymweliadau ag ysgolion a chymunedau.

Biobotiau

Dyfarnwyd grant o £50,000 i Brifysgol Bangor i fireinio ei menter biobotiau, gan ddatblygu datrysiad i'r defnydd o blastigau untro mewn prosiectau plannu coed yn Nwyrain Affrica – a fydd o bosibl yn cymryd lle'r biliynau o fagiau plastig untro sy'n mynd i mewn i'r amgylchedd bob blwyddyn ar hyn o bryd, gyda llawes botio sy'n diraddio yn y pridd heb achosi perygl.

Diogelu

Mae diogelu yn flaenoriaeth i raglen Cymru ac Affrica. Trwy gydol y flwyddyn, rhoddwyd hyfforddiant gorfodol ar ddiogelu i bawb a oedd yn derbyn grantiau, cyfranogwyr a staff sy'n ymwneud â'r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol.

Hub Cymru Affrica (HCA)

Trefnodd ein partner, Hub Cymru Affrica, Ddigwyddiad Dysgu a Rennir ym mis Mehefin ar y thema "Symud y Pŵer i Bartneriaid Affricanaidd," yn arddangos y gwaith a wnaed gan Dolen Cymru i ddad-drefedigaethu'r sector a grymuso partneriaid lleol.

4. Ymgysylltu rhyngwladol

Cyflwyniad

Roedd digwyddiadau ymgysylltu rhyngwladol yng Nghymru, gyda’r nod o wella canlyniadau i Gymru, yn ffocws parhaus eleni. Roedd ein gweithgareddau yng Nghymru yn cynnwys ymweliadau a digwyddiadau effeithiol i gefnogi'r gwaith o gyflawni uchelgeisiau'r Strategaeth Ryngwladol, sef codi ein proffil, tyfu'r economi a sefydlu Cymru fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Ymweliadau a digwyddiadau wedi'u targedu

Gwnaethon ni gynnal ymweliadau pwrpasol â Chymru ar gyfer dirprwyaethau rhyngwladol, sydd wedi arwain at ganlyniadau sylweddol. Er enghraifft, arweiniodd ymweliad gan Brif Weinidog Nagaland at Gymru yn dod yn wlad bartner yng Ngŵyl yr Hornbill, gan arddangos y gorau o ddiwylliant Cymru i gynulleidfa ryngwladol.

Ymwelodd dirprwyaethau rhyngwladol ar gyfer Wythnos Dechnoleg Cymru, gan godi proffil sector technoleg Cymru, sector o'r radd flaenaf, a meithrin trafodaethau ynghylch cydweithio rhyngwladol.

Gwnaethon ni groesawu amrywiaeth o ymwelwyr diplomyddol a masnachol rhyngwladol, gan dynnu sylw at ein presenoldeb cynyddol a'n pwysigrwydd strategol. Roedd gwesteion nodedig yn cynnwys Llysgenhadon, Uchel Gomisiynwyr, uwch ddirprwyaethau llywodraethau, a sefydliadau rhyngwladol. Uchafbwynt arbennig oedd ymweliad y Brenin Letsie III o Lesotho, a oedd eisiau archwilio ein mentrau ynni adnewyddadwy a chadarnhau cysylltiadau sydd wedi para 40 mlynedd.

Nid yn unig mae'r digwyddiadau hyn wedi atgyfnerthu cysylltiadau diplomyddol ond maen nhw hefyd wedi agor llwybrau newydd ar gyfer masnach, buddsoddi a rhannu diwylliannol.

Yn dilyn ymweliad canfod ffeithiau llwyddiannus, gan gynrychiolwyr o Gynulliad Deddfwriaethol Maharashtra, a oedd yn ysbrydoli pawb, cyflwynwyd bil aelodau preifat – Bil Lles Cenedlaethau'r Dyfodol Maharashtra – i sicrhau bod adrannau'r Llywodraeth yn dilyn nodau cynaliadwy.

Digwyddiadau dathlu

Yn 2024, fe wnaethon ni ddathlu 50 mlynedd ers i Panasonic fuddsoddi yng Nghymru, gyda rhaglen o ddigwyddiadau. Yn bresennol oedd y Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a Llysgennad Japan i'r Deyrnas Unedig. Roedd hyn yn atgyfnerthu'r cysylltiadau diplomyddol cyn ymgyrch Cymru a Japan 2025.

Atgyfnerthu cysylltiadau hirdymor

Fe wnaethon ni weithio i atgyfnerthu cysylltiadau tymor hirach, megis y Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol gyda Birmingham Alabama, sy'n estyn yn ôl 60 mlynedd. Croesawodd y Prif Weinidog ddirprwyaeth ddinesig a ymwelodd â Chymru i atgyfnerthu cysylltiadau economaidd ar draws y celfyddydau, diwylliant, gwyddorau bywyd, gofal iechyd ac addysg. Arweiniodd y Prif Weinidog ddathliadau i nodi 20 mlynedd o gydweithio â Llydaw, gan gynnwys ymweliad gan Loïg Chesnais-Girard, Llywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw.

Diplomyddiaeth ddiwylliannol

Mae sector diwylliant Cymru yn parhau i adeiladu cysylltiadau. Ym mis Hydref 2024, dychwelodd Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi – gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac Iwerddon – am ei phumed flwyddyn, gan gyflwyno penwythnos o gerddoriaeth a rhaglenni diwylliannol o'r radd flaenaf. Yn ogystal â pherfformiadau, roedd Sesiynau Clebran yn cynnig llwyfan ar gyfer trafod materion cyfoes sy'n wynebu Cymru ac Iwerddon, ac roedden nhw'n cynnwys lleisiau amlwg o fywyd cyhoeddus Cymru, gan gynnwys yr Athro Laura McAllister, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, a'r Prif Weinidog.

Mae cefnogi'r Ŵyl yn dangos ein hymrwymiad i'r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon. Cafodd yr ŵyl sylw helaeth yn y cyfryngau, gyda mwy na 40 o erthyglau'n cael eu cyhoeddi ar draws cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol, a denodd 15,000+ o fynychwyr, gyda chynnydd yn nifer yr ymwelwyr a oedd wedi dod o'r tu allan i Gymru. Arweiniodd yr ŵyl hefyd at gynnydd mewn gwariant lleol ychwanegol net, gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd.

Cymru – arloeswr byd-eang

Rydyn ni'n parhau i weld rhagor o ddirprwyaethau rhyngwladol yn ymweld â Chymru i ddysgu o'n dulliau polisi – o gynllunio iaith i ddatgarboneiddio diwydiannol. Y llynedd, fe wnaethon ni gynnal Hotspot Economi Gylchol Ewrop 2024, digwyddiad uchel ei broffil sy'n cydnabod gwledydd sy'n arwain y ffordd ym maes arloesi economi gylchol. Dros dridiau, croesawon ni fwy na 400 o gynrychiolwyr rhyngwladol, a glywodd am ein taith drawsnewidiol mewn meysydd fel ailgylchu.

Tîm Cymru – Ein dull unigryw ar gyfer diplomyddiaeth ac ymgysylltu rhyngwladol

Rydyn ni'n pwysleisio cydweithio i gyflawni nodau'r Strategaeth Ryngwladol, gan weithio gyda'n partneriaid strategol a ariennir ac amrediad ehangach o randdeiliaid yng Nghymru.

Mae enghreifftiau'n cynnwys y canlynol:

  • On the Move – Fforwm Symudedd Diwylliannol

    Yn archwilio sut y gall datblygu proffesiynol rhyngwladol ym maes y celfyddydau fynd y tu hwnt i amcanion masnachol i hyrwyddo dealltwriaeth, cydweithredu a chysylltiadau cymunedol cryfach. Gan ddod â chynrychiolwyr o bob cwr o Ewrop a'r tu hwnt at ei gilydd, archwiliodd rôl diwylliant ac iaith wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang fel gwarchod ieithoedd brodorol, newid yn yr hinsawdd a mynediad cyfartal i gyfleoedd rhyngwladol.

  • Galwad ar y Cyd am gynigion gan Gymru a Québec

    Drwy ein Datganiad o Fwriad, mae'r alwad ar y cyd am gynigion wedi ariannu prosiectau sy'n annog partneriaethau hirdymor rhwng sefydliadau Cymru a Québecois. Enghraifft o'r cydweithredu hwn yw'r gwaith rhwng CULTVR Lab a'r Gymdeithas Celfyddydau a Thechnoleg ym Montréal sydd wedi arwain at gyfleoedd datblygu proffesiynol a chyd-gynyrchiadau. Arweiniodd cyllid sbarduno, wedi'i ddarparu gan y ddwy lywodraeth, at ffurfioli'r bartneriaeth drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Canlyniad amlwg o'r cydweithredu hwn yw'r cynhyrchiad Arka Kinari: Artivism at Sea, a enillodd y wobr am y Perfformiad Byw Gorau yng Ngwobrau Best of Earth 2025.

  • Urdd Gobaith Cymru

    Mae'r Urdd wedi defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen sylweddol o weithgarwch rhyngwladol. Er enghraifft, hyrwyddodd Llysgenhadon Ieuenctid yr Urdd eu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn Washington DC ac Efrog Newydd, gan nodi canmlwyddiant deisebau heddwch Menywod Cymru. Arweiniodd eu gwaith at chwe phartneriaeth newydd gyda sefydliadau yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys JP Morgan, y Rhwydwaith Byd-eang o Adeiladwyr Heddwch Menywod, a chynrychiolwyr y Cenhedloedd Unedig. Yn India, ymunodd yr Urdd â choalisiwn Her Future i gynnal gweithdai i hyrwyddo gwerthoedd Cymru yn Kolkata. Roedd y prosiect hwn yn cynnwys 12 o ferched ifanc o Gymru a chyrhaeddodd dros 1,000 o bobl.

Hyrwyddo Cymru: Ymgysylltu rhyngwladol yn y DU

Mae ein swyddfa yn Llundain yn rhoi ffenest i Gymru i weddill y byd, gan ddyfnhau cysylltiadau diplomyddol Cymru ac atgyfnerthu cysylltiadau llywodraeth-i-lywodraeth. Mae'n cynnig cyfle ar gyfer ymgysylltu rheolaidd â'r rhwydwaith diplomyddol ac yn darparu platfform i ddatblygu cysylltiadau masnach a buddsoddi, gan ddarparu manteision economaidd i Gymru. Mae hefyd yn gweithredu fel pwynt ar gyfer ymgysylltu rheolaidd ag adrannau Llywodraeth y DU sy'n canolbwyntio ar faterion rhyngwladol, gan gynnwys adrannau Uned Ddatganoli, Strategaeth a Phrotocol Swyddfa'r Gymanwlad a Datblygu Tramor (FCDO).

Mae'r swyddfa wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau diplomyddol er mwyn sicrhau canlyniadau domestig. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys:

  • Derbyniad y Corfflu Diplomyddol yn Somerset House, Llundain

    Mynychodd mwy na 120 o Lysgenhadon, Uchel Gomisiynwyr a gwesteion diplomyddol, a oedd yn cynrychioli dros 80 o wledydd gwahanol, ddigwyddiad gyda'r Prif Weinidog.  Cynhaliwyd cyfarfodydd dwyochrog hefyd gydag Uchel Gomisiynydd Canada, Uchel Gomisiynydd Awstralia a Llysgennad Japan, gan osod sylfeini ar gyfer ymgyrch Cymru a Japan 2025.

  • Comisiwn Diwylliannol y DU-Yr Almaen a gynhelir gan yr FCDO yn Llundain

    Roedd cyfranogiad Cymru yn canolbwyntio ar gryfhau gweithgareddau addysgol, ymchwil a diwylliannol rhwng y DU a'r Almaen.

  • Gweithgareddau Wythnos Cymru yn Llundain/Dydd Gŵyl Dewi

    Rhaglen helaeth o ddigwyddiadau a oedd yn arddangos Cymru i Lundain a chynulleidfaoedd rhyngwladol. Roedd y digwyddiadau'n cynnwys digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi ar thema chwaraeon a gynhaliwyd gan Lysgenhadaeth y Swistir, cyn Pencampwriaeth Menywod UEFA 2025, gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi yn siarad ochr yn ochr â Llysgennad y Swistir.

5. Astudiaethau achos

Martha Hughes Cannon a'r berthynas gynyddol rhwng Cymru ac Utah

Gwleidydd, meddyg ac eiriolwr hawliau menywod Cymraeg-Americanaidd oedd Martha Hughes Cannon. Wedi'i geni yn Llandudno, ymfudodd i'r Unol Daleithiau gyda'i theulu a hi oedd y seneddwr talaith benywaidd cyntaf yn yr Unol Daleithiau, gan gynrychioli Utah. Mae ei chyflawniadau yn cynnwys cyflwyno deddfau glanweithdra Utah a sefydlu Bwrdd Iechyd Talaith cyntaf Utah.

Yn 2018, pleidleisiodd Deddfwrfa Utah i anfon ei cherflun i gynrychioli'r Wladwriaeth yn yr US Capitol yn Washington DC. Yn dilyn oedi a achoswyd gan COVID-19, cyrhaeddodd y cerflun DC ddiwedd 2024.

Mae Llywodraeth Cymru, trwy ein tîm yn yr Unol Daleithiau, wedi defnyddio'r achlysur hwn i ddathlu ei hetifeddiaeth drwy gydol y flwyddyn a meithrin cysylltiadau ag Utah. Roedd hyn yn cynnwys y tîm yn ymweld ag Utah ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2024 i ffurfio cysylltiadau â'r Lt Governor, a chynnal derbyniad mawr yn Washington DC i goffáu dadorchuddio'r cerflun a oedd yn tynnu sylw at dreftadaeth Gymreig Martha Hughes Cannon, yn ogystal â chyhoeddi ysgoloriaethau a phartneriaethau newydd rhwng Cymru ac Utah. Gweithiodd swyddfa DC gyda swyddfeydd y Gyngres ar fideos a wnaed gan ei haelodau am Martha Hughes Cannon yn ogystal â datgelu cysylltiadau Cymreig ag Utah. Yn ogystal, cefnogodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiadau yn Llandudno i anrhydeddu ei chyfraniadau.

Llwyddiannau

Mae prosiect Martha Hughes Cannon yn enghraifft dda o ddefnyddio cymell tawel i gyflawni sawl nod o fewn Strategaeth Ryngwladol Cymru. Mae cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn y prosiect, ynghyd ag effaith gronnol yr ymweliad ag Utah, dathliadau Dydd Gŵyl Dewi a Derbyniad Washington, eisoes wedi arwain at nifer o lwyddiannau, gan gynnwys:

  • Canolfan Stena a FintechWales yn ymrwymo i bartneriaeth i greu cyfleusterau croesawu â chymorth ar ddwy ochr yr Iwerydd, gyda Llywodraeth Cymru eisoes yn derbyn ymholiad gan gwmni o Utah.
  • Creu ysgoloriaeth newydd i alluogi myfyrwyr o Gymru i deithio i Utah i astudio ym meysydd gwyddorau bywyd, technoleg ariannol neu awyrofod. Disgwylir y bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei lansio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, wedi'i gweinyddu gan sefydliad Cymry ar wasgar, ac er cof am Martha Hughes Cannon.
  • Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Los Angeles yn sicrhau mewnfuddsoddiad gydag ATL Technologies yn ehangu eu gweithrediad yng Nghymru.
  • Ehangu Cawcws Cyfeillion Cymru a'r posibilrwydd y bydd gan Gymru Gyd-gadeirydd Seneddol – a fyddai'n gadeirydd seneddol cyntaf Cawcws y DU.
  • Cenhadaeth Fasnach o Utah i Gymru.

Ni ellir mesur yr ewyllys da sydd wedi'i greu yn Utah tuag at Lywodraeth Cymru a Chymru. Mae'r tîm yn edrych ymlaen at ymestyn a dyfnhau ei berthynas ag un o'r taleithiau sy'n tyfu gyflymaf yn UDA.

Cryfhau Ymgysylltiad Cymru ag UNESCO: Blwyddyn o Archwilio Strategol

Mae Llywodraeth Cymru yn archwilio ffyrdd o gryfhau ymgysylltiad Cymru â sefydliadau amlochrog - yn benodol UNESCO - drwy nodi mecanweithiau effeithiol, hirdymor ar gyfer cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth.

Mae ymgysylltu â'r sefydliadau hyn yn caniatáu i Gymru ddysgu o arferion gorau rhyngwladol i wella canlyniadau domestig gan gyfrannu, ar yr un pryd, at heriau byd-eang cyffredin a chefnogi'r nodau o ran sicrhau Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang, yn ffyniannus a chydnerth.

Mae UNESCO – asiantaeth arbenigol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer addysg, gwyddoniaeth a diwylliant – yn dod â chymunedau byd-eang ynghyd, yn gosod safonau rhyngwladol ac yn cynhyrchu offer a gwybodaeth sy'n llywio sut mae polisïau yn cael eu llunio a'u cyflwyno.

Er nad yw UNESCO yn gorff cyllido ar gyfer gwledydd datblygedig, mae pŵer ei frand yn sylweddol. Cyfrannodd dynodiadau UNESCO, fel Safleoedd Treftadaeth y Byd, biosfferau, geoparciau a Dinasoedd Creadigol, o leiaf £151m mewn buddion ariannol i'r DU mewn un flwyddyn (Gwerth Cenedlaethol UNESCO i'r Deyrnas Unedig, a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Cenedlaethol UNESCO y DU, 2019). Ar hyn o bryd, mae 14% o dir Cymru yn rhan o ddynodiad UNESCO, sy'n cynnig cysylltiadau byd-eang-i-leol ar gyfer cymunedau, gwelededd rhyngwladol, manteision economaidd, polisi a datblygu ymchwil.

Dyfarnwyd Cadeirydd UNESCO mewn Technolegau Ynni Cynaliadwy i Brifysgol Abertawe yn 2022, gan sicrhau cyllid ymchwil sylweddol a gwella enw da rhyngwladol y brifysgol; mae bellach yn cystadlu â sefydliadau Oxbridge ac Ivy League am dalent ôl-ddoethurol. Mae hyn yn cryfhau Cymru fel canolbwynt ar gyfer rhagoriaeth ymchwil ac addysg ryngwladol, gyda myfyrwyr rhyngwladol yn cyfrannu £1.43bn at economi Cymru (Costau a manteision myfyrwyr addysg uwch rhyngwladol i'r DU, a gyhoeddwyd gan Universities UK International (UUKi), y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI) a Kaplan International mewn cydweithrediad â London Economics, 2023).

O ystyried cwmpas helaeth a chapasiti cyfyngedig UNESCO, dim ond trwy ei fecanweithiau y mae ymgysylltu yn effeithiol. Mae ein gwaith wedi mabwysiadu dull strategol iawn sy'n canolbwyntio ar ddau faes polisi sy'n atgyfnerthu ei gilydd: ieithoedd lleiafrifol a datblygu cynaliadwy, gan gyflwyno naratif Cymreig cryf sy'n ategu cynnig presennol y DU, yn cyd-fynd â buddiannau UNESCO ac yn darparu pwyntiau mynediad clir ar gyfer ymgysylltu ffurfiol, hirdymor a hunangynhaliol. Mae'r dull yn ceisio ymhelaethu ar weithgarwch presennol, gan sicrhau cymaint o fanteision economaidd, cymdeithasol a diplomyddol trwy ehangu rhwydweithiau a chyfranogiad mewn rhaglenni ar draws cymdeithas sifil Cymru ac UNESCO.

Mae'r dull yn ailadroddol, gyda Llywodraeth Cymru yn addasu ei strategaeth mewn amser real i adeiladu fframwaith ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol y gellir ei gymhwyso ar draws meysydd polisi eraill.

Yn 2025, sefydlodd ymweliadau dwyochrog gefnogaeth ac ymgysylltu traws-lywodraethol. Ymwelodd Llysgennad y DU a'r Cynrychiolydd Parhaol i UNESCO, Anna Nsubuga, y Comisiwn Cenedlaethol ac Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU â Cymru ar gyfer sesiynau briffio polisi. Roedd y rhaglen yn cynnwys taith o amgylch Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, dan arweiniad Llysgenhadon Ieuenctid y safle a daeth i ben gyda sesiwn 'dysgu dros ginio' gyhoeddus yn Llywodraeth Cymru lle cyflwynodd y Llysgennad a Chadeirydd UNESCO Prifysgol Abertawe i bron i 100 o randdeiliaid y gymdeithas sifil.

Gan adeiladu ar hyn, arweiniodd y Prif Weinidog ddirprwyaeth i bencadlys UNESCO ym Mharis ar gyfer cyfarfodydd sy'n cael eu gyrru gan ganlyniadau gydag uwch gyfarwyddwyr polisi. Ategwyd yr ymgysylltiad wedi'i dargedu hwn gan ddigwyddiad ehangach Cymru yn UNESCO, gan ddenu mwy na 100 o fynychwyr o 50+ o wledydd. Roedd yr ymweliadau dwyochrog hyn wedi arwain at allbynnau diriaethol, gan gynnwys cyd-gynyrchiadau, aelodaeth rhwydwaith a chyfranogiad yn fforymau UNESCO.

Maes ymgysylltu allweddol yw cefnogi Cymraeg2050 a'i waith arloesol ar gynhwysiant digidol a Deallusrwydd Artiffisial drwy Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg. Mae Cymraeg2050 yn partneru â chewri masnachol fel Microsoft ac OpenAI i sicrhau bod ieithoedd lleiafrifol yn cael mynediad i offer digidol. Mae hyn yn croesi'n gryf â blaenoriaethau presennol UNESCO; mae Deallusrwydd Artiffisial a chynhwysiant digidol yn themâu craidd yn MONDIACULT 2025. Mae ein gwaith gyda'r uned wedi hwyluso cydweithrediad technegol pellach ac wedi ehangu ymgysylltiad ar draws rhwydweithiau fel y Degawd Ieithoedd Brodorol, UNITWIN ac o fewn rhwydweithiau cysylltiedig UNESCO. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dyfnhau ymgysylltu ledled Cymru drwy gysylltiadau â diwylliant, ieuenctid a datblygu cynaliadwy.

Mae integreiddio gwaith polisi technegol â diwylliant wedi bod yn bwerus wrth ymgysylltu ag uwch wneuthurwyr polisi UNESCO, gan adlewyrchu croestoriadedd naturiol y sefydliad ar draws gwyddoniaeth a diwylliant. Bydd yn cael ei arddangos mewn digwyddiad amlochrog Celtaidd ar ieithoedd a diwylliant fel rhan o 20fed pen-blwydd UNESCO Convention on the Protection and Promotion of the Diversity of Cultural Expressions. Bydd y digwyddiad hwn, a gyflwynir mewn partneriaeth â'r Alban, Gogledd Iwerddon a Chanolfan Ddiwylliannol Iwerddon, hefyd yn profi model amlochrog o ymgysylltu sy'n cyd-fynd yn fwy ag ethos UNESCO na phartneriaethau dwyochrog traddodiadol.

Mae'r model hwn, sy'n defnyddio nawdd ac arwydd UNESCO fel pwyntiau mynediad hygyrch, hefyd yn cael ei dreialu gan sefydliadau eraill o Gymru i gyfeirio at weithgarwch, adeiladu hygrededd, a gosod y sylfaen ar gyfer ymgysylltu dyfnach.

Mae deddfwriaeth Cenedlaethau'r Dyfodol yn sail i'r meysydd polisi rhestredig, gan gynnig astudiaethau achos a dysgu o ddeng mlynedd o weithredu'r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae cysylltiadau wedi'u sefydlu gyda'r tîm cynllunio strategol yn UNESCO, gan archwilio gweithdai polisi a chyfnewid staff.

Mae gwaith pellach ar y gweill i gefnogi a dyrchafu cysylltiadau presennol UNESCO yng Nghymru, y DU a systemau UNESCO. Mae gwaith Prifysgol Abertawe i ddatblygu datrysiadau ynni gwyrdd cylchol addasadwy yn lleol ar gyfer Affrica nid yn unig yn hyrwyddo nodau cynaliadwyedd byd-eang ond hefyd yn gosod Cymru fel arweinydd ym maes ynni gwyrdd, yr economi gylchol a thechnoleg y genhedlaeth nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi integreiddio'r Cadeirydd i fframweithiau UNESCO ehangach - fel Degawd Rhyngwladol y Gwyddorau ar gyfer Datblygu Cynaliadwy - a meithrin partneriaethau strategol ar draws sefydliadau a rhaglenni Cymru. Mae'r dull hwn o Dîm Cymru yn estyn cyrhaeddiad ac effaith y dynodiad mawreddog.

Wrth i Gymru edrych tuag at hydref arwyddocaol sy'n cynnwys MONDIACULT 2025 a chanlyniad cais Aberystwyth a Cheredigion i ddod yn un o Ddinasoedd Llên UNESCO, mae cydlynu strategol eisoes yn cael effaith ac yn gosod y sylfaen ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol ar draws meysydd polisi eraill UNESCO.

Bydd papur myfyriol terfynol yn cyflwyno gwersi allweddol, yn rhannu arferion gorau, ac yn cyflwyno set glir o argymhellion ar gyfer sut y gall Cymru ddyfnhau a chynnal ei hymgysylltiad ag UNESCO a chyrff rhyngwladol eraill yn y blynyddoedd i ddod.

Cymru yn India 2024

Ym mis Tachwedd 2023, yn ystod digwyddiad blynyddol Diwali Llywodraeth Cymru, cyhoeddwyd y byddai 2024 yn flwyddyn Cymru yn India, gan ganolbwyntio ar bedwar rhanbarth blaenoriaeth: Maharashtra, Karnataka, Kerala, a Haryana a dathlu'r cysylltiadau economaidd, iechyd, addysgol ac artistig dwfn sy'n bodoli. Roedd y flwyddyn yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau ar draws y ddwy wlad, gan gynnwys digwyddiadau masnach a buddsoddi, partneriaethau ymchwil, dathliadau diwylliannol, a chydweithrediadau iechyd.

Roedd tri phrif amcan i'r flwyddyn:

  1. Sicrhau cyfleoedd masnach, buddsoddi a chyflogaeth i Gymru.
  2. Cefnogi a chryfhau cysylltiadau gofal iechyd.
  3. Cryfhau cysylltiadau diwylliannol, addysgol ac artistig, a hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Gofynnwyd i bartneriaid allweddol ddatblygu gweithgareddau i'w cyflawni drwy gydol y flwyddyn, a bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Asiantaeth Cysylltiadau Cyhoeddus, Cowshed Communication, i greu calendr o ddigwyddiadau.

Ym mis Chwefror 2024, cynhaliwyd lansiad ffurfiol yn ystod digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mumbai, Delhi Newydd, a Bengaluru. Cynhaliodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol dderbyniad ym Mumbai, oedd yn cyd-daro â derbyniad ym Mhreswylfa Uchel Gomisiynydd India yn Llundain, a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog. Bu partneriaid oedd yn cynnwys Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Urdd Gobaith Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, British Council Cymru, a busnesau allweddol yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn.

Masnach a buddsoddi

Mae India yn farchnad sylweddol ar gyfer masnachu. Yn 2023-24, roedd India yn y 18fed safle o ran marchnadoedd allforio gorau Cymru, gydag allforion gwerth dros £187 miliwn. Rhoddodd Cymru yn India gyfle i drefnu, mynychu a noddi nifer o ddigwyddiadau masnach a buddsoddi. Mae gan Gymru rwydwaith cadarn o fusnesau Indiaidd, sy'n cynnig cyfleoedd posibl ar gyfer ailfuddsoddi a rhagolygon masnach heb eu defnyddio eto. Nod y fenter oedd arddangos economi Cymru fel canolbwynt creadigrwydd, technoleg a chynaliadwyedd.

Trwy gydol y flwyddyn, cyflwynwyd dros 40 o ddigwyddiadau, gan gynnwys mwy na dwsin o gyfarfodydd bord gron busnes. Cafodd Cymru ei hyrwyddo fel prif gyrchfan ar gyfer masnach a buddsoddi mewn nifer o gyfarfodydd Wales Medtech yn Jaipur a Kerala. Cynhaliwyd y daith fasnach gyntaf o Gymru i India ers blynyddoedd ym mis Mai 2024, gan ganolbwyntio ar Mumbai a Bengaluru gyda busnesau Cymreig ym maes gweithgynhyrchu, gwyddorau bywyd, technoleg ac addysg yn ymweld ag India i archwilio cyfleoedd allforio posibl.

Cymerodd Cymru ran hefyd mewn arddangosfeydd rhyngwladol fel SEMICON India, Arab Health, Farnborough Airshow, ADIPEC, a Gulfood. Noddwyd cynadleddau oedd yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, cenedlaethau'r dyfodol, a seiberddiogelwch. Datblygwyd cysylltiadau newydd a pharhaol gyda siambrau busnes, deorfeydd a phrifysgolion.

Ymwelodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ag India, a chyfarfod â Phrif Gynghorydd Gwyddonol India. Roedd y trafodaethau yn canolbwyntio ar economi gylchol Cymru a lled-ddargludyddion, a chafwyd cyfle i arddangos Cymru ar lefelau uchaf y llywodraeth yn India.

Mae mesur effaith gweithgareddau datblygu economaidd yn heriol oherwydd yr amser a gymerir i gysylltiadau ddatblygu yn ganlyniadau. Roedd llawer o'r gweithgarwch yn canolbwyntio ar blannu'r hadau ar gyfer cysylltiadau a mentrau newydd.

Iechyd

Roedd y cysylltiad rhwng GIG Cymru, Llywodraeth Kerala, a phartneriaid recriwtio yn hanfodol i gyrraedd targedau staffio GIG Cymru. Roedd yr ymweliad Gweinidogol ym mis Mawrth 2024, a oedd yn cynnwys ymweliad â Kerala, yn eiliad allweddol i Gymru yn India 2024. Llofnododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Phrif Weinidog Kerala ar gyfer recriwtio nyrsys ac ymarferwyr meddygol, gan gyhoeddi cynlluniau i recriwtio hyd at 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ystod 2024-2025. Cynhaliwyd derbyniad i nyrsys newydd, meddygon, a'u teuluoedd a oedd wedi derbyn swyddi yn GIG Cymru yn Thiruvananthapuram, Kerala.

Cryfhaodd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ymhellach y berthynas rhwng Cymru, India, a Llywodraeth Kerala i gefnogi recriwtio moesegol parhaus. Mae mwy na 300 o weithwyr iechyd proffesiynol wedi cael eu recriwtio - nyrsys yn bennaf - gyda thraean eisoes yn gweithio mewn ysbytai yng Nghymru. Sicrhaodd Cowshed Communication astudiaethau achos o'r garfan hon i hyrwyddo gweithgarwch recriwtio pellach. Ymestynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ym mis Mawrth 2025.

Cymell Tawel

Mae'r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru ac India yn gyfoethog ac yn haeddu eu dathlu’n barhaus. Roedd Cymru yn India yn gyfle i gadarnhau cysylltiadau ac arddangos cryfderau ac ymrwymiad Cymru i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Defnyddiodd y rhaglen arddangosfeydd diwylliannol i godi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, yn enwedig yn y digwyddiadau lansio ac yng Ngŵyl Hornbill yn Nagaland.

Ym mis Chwefror 2024, ymunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mumbai, gan groesawu dros 300 o arweinwyr o feysydd diplomyddiaeth, diwylliant ac addysg. Cyfarfu ag arweinwyr LHDTCRh+ India, cyhoeddodd bartneriaeth yr Urdd gyda Her Future Coalition i gefnogi dioddefwyr trais a cham-drin rhywiol yn Kolkata, a thrafododd gynlluniau Maharashtra ar gyfer ei fersiwn o Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Ers hynny, mae'r prosiectau hyn wedi dod i ffrwyth, gan arwain at gyfranogiad Cymru yn Hornbill 2024 yn Kohima, Nagaland.

Roedd y Bardd Plant Cymru yn westai anrhydeddus yng ngŵyl lenyddiaeth Kolkata, gan arwain trafodaethau ar iaith a hunaniaeth Cymru. Cyfarfu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ag arweinwyr gwleidyddol ym Mumbai i drafod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Maharashtra, sydd wedi'i chyflwyno fel Bil Aelodau Preifat ers hynny.

Lansiwyd Cronfa Ddiwylliannol Cymru yn India mewn cydweithrediad â'r Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, gan gefnogi pum artist i gryfhau cysylltiadau yn y celfyddydau ym maes iechyd, cerddoriaeth, llenyddiaeth a theatr blynyddoedd cynnar. Dathlodd Gweinidogion Cymru Ddiwrnod Annibyniaeth India a Holi yng Nghastell Caerdydd ochr yn ochr â Chonswl Anrhydeddus Cymru dros India a'r gymuned Indiaidd. Cynhaliodd y Prif Weinidog dderbyniad Diwali gydag Uchel Gomisiynydd India ym Mhrifysgol Abertawe i nodi diwedd y flwyddyn.

Sefydlodd Global Wales, prifysgolion a cholegau Cymru bartneriaethau ymchwil, cyfnewidiadau myfyrwyr, a meithrin perthynas â chyn-fyfyrwyr. Lansiodd Prifysgol Caerdydd ei Changen Cynfyfyrwyr India yn Delhi Newydd a Mumbai. Yn ystod rhan olaf y flwyddyn, gwahoddwyd Cymru fel Prif Westai i Shillong, lle perfformiodd telynorion Cymreig ochr yn ochr â'u myfyrwyr, ac arddangoswyd celf Gymreig. Cynhelir gwyliau cenedlaethol i Thomas Jones, sef tad yr wyddor Khasi, yn y rhanbarth.

Ymwelodd Prif Weinidog Nagaland â Chaerdydd, gan gyhoeddi mai Cymru yw'r wlad bartner ar gyfer Gŵyl fawreddog yr Hornbill. Yn Hornbill, arddangosodd Cymru y gorau o gerddoriaeth, diwylliant a diwydiant Cymru, gan nodi diweddglo rhyfeddol i flwyddyn Cymru yn India.

Myfyrdodau

Fe wnaeth platfform Cymru yn India 2024 alluogi Llywodraeth Cymru i sefydlu nifer o gysylltiadau â busnesau, sefydliadau diwylliannol, llywodraethau a chenadaethau diplomyddol. Roedd y cysylltiadau a ddatblygwyd gyda'r Cyngor Prydeinig, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, a Swyddfa Cenedlaethau'r Dyfodol yn hanfodol i lwyddiant y flwyddyn.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddinasoedd a sectorau allweddol ar gyfer masnach a buddsoddi, archwilio marchnadoedd sy'n dod i'r amlwg yn India, a defnyddio cefnogaeth gan yr Adran Busnes a Masnach. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Kerala wedi bod yn llwyddiant amlwg, ac rydym yn bwriadu meithrin a chynnal y berthynas hon. Byddwn yn parhau i ofalu am y cysylltiadau a sefydlwyd ym meysydd diplomyddiaeth, diwylliant, y celfyddydau, chwaraeon ac addysg. Mae'r cysylltiadau diwylliannol sylweddol â phobl Khasi Shillong yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twf mewn masnach, buddsoddiad ac addysg.

Yn dilyn ymweliad Prif Weinidog Nagaland â Chymru, a'n presenoldeb yn Hornbill 2024, rydym wedi sefydlu cysylltiadau cryf â Nagaland, gan ein rhoi mewn sefyllfa addawol ar gyfer cydweithio pellach. Mae gweithgareddau sy'n hyrwyddo Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi bod yn llwyddiant ffurfiannol, gan gynnig mewnwelediadau i gyfleoedd yn y dyfodol.

Sut mae Arloesi 3D Wedi'i argraffu yn trawsnewid Gofal Llawfeddygol ar gyfer Goroeswyr Trais Rhywiol sy'n Gysylltiedig â Gwrthdaro

Mewn ymdrech arloesol i adfer urddas ac ailadeiladu bywydau, mae'r Prosiect VVF (Vesicovaginal Fistula) yn gwthio ffiniau'r hyn sy'n bosibl mewn llawdriniaeth ailadeiladu ar gyfer goroeswyr trais rhywiol sy'n gysylltiedig â gwrthdaro. Mae'r fenter llawn gweledigaeth hon yn cael ei harwain gan yr Athro Iain Whitaker - Athro Llawfeddygaeth Ailadeiladu a Meddygaeth Adfywiol a Llawfeddyg Plastig Ymgynghorol - ac mae'n gydweithrediad pwerus rhwng ReconRegen, Prifysgol Abertawe, ac Ysbyty enwog Panzi yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, gyda chefnogaeth Duges Caeredin.

Mae Ysbyty Panzi, a sefydlwyd ym 1999 gan enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Dr Denis Mukwege, wedi trin mwy na 85,000 o fenywod a merched sydd wedi goroesi erchyllterau annisgrifiadwy trais rhywiol yn ystod y rhyfel. Er bod y tîm ymroddedig yn cyflawni canlyniadau anhygoel, mae tua 5% o achosion yn cyflwyno anafiadau mor ddifrifol fel nad yw dulliau llawfeddygol safonol yn ddigon. Mae'r mathau hyn o anafiadau fel arfer yn gofyn am dechnegau llawfeddygaeth ailadeiladu uwch, a gan nad yw llawfeddygaeth blastig yn bodoli fel arbenigedd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, nid yw llawfeddygon Congo wedi'u hyfforddi yn y technegau hyn.

Dyna lle mae'r Prosiect VVF yn camu i mewn.

Ariannodd Cynllun Grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru daith archwilio bwysig i Ysbyty Panzi ym mis Gorffennaf 2024. Cyflwynwyd y cais am gyllid ar ôl i'r Athro Whitaker a'i dîm gynnal cyfres o gyfarfodydd ar-lein gyda chlinigwyr Ysbyty Panzi. Nododd y trafodaethau hyn angen critigol: hyfforddiant llawfeddygol ailadeiladu uwch wedi'i baru â deunyddiau addysgu ymarferol sy'n caniatáu i lawfeddygon dan hyfforddiant fireinio eu sgiliau cyn mynd i mewn i'r theatr.

I ateb yr alwad honno, ymunodd yr Athro Whitaker â Dr Hari Arora o Labordy BEST (Labordy Efelychu a Phrofi Peirianneg Biofeddygol) Prifysgol Abertawe. Gyda'i gilydd, gwnaethant arwain tîm o beirianwyr biofeddygol ôl-raddedig talentog i ddylunio ac adeiladu modelau hyfforddi llawfeddygol anatomegol gywir, cost isel ar gyfer atgyweirio fistwla.

Mae'r arloesedd mor ddyfeisgar ag y mae'n effeithiol. Mae pob model yn cynnwys pelfis 'asgwrn' wedi'i argraffu'n 3D wedi'i haenu â silicon wedi'i fowldio â llaw sy'n dynwared teimlad meinwe dynol - gan gynnwys cyhyrau, braster, fascia, a chroen. Datblygwyd y modelau hyn i sicrhau y byddai eu torri a'u pwytho yn efelychu llawdriniaeth go iawn - sy'n hanfodol ar gyfer hyfforddiant effeithiol. Bu rownd interim o adborth gan dîm llawfeddygol yr Athro Whitaker o gymorth i fireinio'r dyluniad terfynol.

Diolch i gyllid grant Cymru ac Affrica, a chyllid cyfatebol grant o £15,000 gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol ym mis Gorffennaf 2024, teithiodd y tîm i Ysbyty Panzi gyda phum model pelfis ac 20 troshaen meinwe silicon y gellir eu hailddefnyddio, ynghyd â chyfarwyddiadau cydosod manwl. Er mwyn cael gwerthusiad llawn o'r modelau, anfonodd tîm Abertawe 30 o becynnau offer llawfeddygol untro, a roddwyd yn rhad ac am ddim gan Corza Medical.

Cymerodd tîm llawfeddygol Ysbyty Panzi ran mewn treialon ymarferol o'r prototeipiau ac yna gwblhau ffurflenni adborth ar-lein manwl - cam hanfodol wrth berffeithio'r genhedlaeth nesaf o'r modelau hynod hyn.

Hyd y gwyddom, dyma'r unig fodelau hyfforddi atgyweirio fistwla anatomig gywir sy'n bodoli. Oherwydd y gellir eu cynhyrchu am gost gymharol isel, mae ganddynt botensial enfawr - nid yn unig ar gyfer Ysbyty Panzi, ond ar gyfer ysbytai ar draws gwledydd adnoddau isel ledled y byd.

Gyda'r cam ymlaen enfawr hwn, mae Cymru yn helpu i arwain y canlyniadau byd-eang i wella canlyniadau llawfeddygol i oroeswyr trais sy'n gysylltiedig â gwrthdaro - gan ddod a iachâd, gobaith a thrugaredd i rai o bobl fwyaf bregus y byd.