Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma gyhoeddi pedwerydd adroddiad Gweinidogion Cymru ar eu cydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg ers i’r Safonau ddod i rym ar 30 Mawrth 2016. Mae’r Safonau wedi'u hymgorffori o fewn y sefydliad ers peth amser, ac wedi dod yn realiti gweithredol i Lywodraeth Cymru.

Wrth baratoi’r adroddiad roedd y pandemig coronafeirws yn dechrau cydio, ac erbyn hyn, mae’r Llywodraeth yn gweithredu mewn ffordd wahanol i’r arfer. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r Gymraeg wedi bod yn flaenllaw yn ein gwaith cynllunio; mae hi’n bwysicach nac erioed cyfathrebu gyda'r cyhoedd yn eu dewis iaith mewn cyfnod ansicr. Mae pwysau gwaith aruthrol wedi bod ar weinidogion a swyddogion ond rydym wedi parhau i weithredu’n ddwyieithog yn llwyddiannus.

Yn ystod y cyfnod o baratoi gweithredu'r safonau, am resymau eglurdeb a phriodoldeb, sefydlwyd strwythur diwygiedig o fewn y Llywodraeth, yn gwahanu swyddogaethau polisi’r Gymraeg oddi wrth y gwaith o sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau. Mae'r trefniant hwn yn parhau. Lleolir tîm polisi’r Gymraeg o fewn y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, tra bo’r tîm sydd yn ymwneud gyda chydymffurfio â’r safonau wedi’i leoli o fewn Grŵp Swyddfa’r Prif Weinidog. Tîm bach iawn o staff sydd yn gweithio’n ganolog ar gydymffurfiaeth er eu bod wedi’u cefnogi gan rwydwaith o gydlynwyr ar draws y sefydliad ac yn derbyn cefnogaeth ehangach wrth gwrs gan gydweithwyr ledled y sefydliad.

Lansiwyd Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo defnydd y Gymraeg o fewn y sefydliad, “Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd” yn ystod y cyfnod adrodd presennol. Mae’r Strategaeth yn gosod nod uchelgeisiol a hir-dymor i ddefnyddio’r Gymraeg, un a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddefnydd yr iaith yn y sefydliad am genedlaethau i ddod. Wrth lansio’r strategaeth i staff nododd yr Ysgrifennydd Parhaol ei hymrwymiad hi i weithredu’r strategaeth gan nodi mai ei nod dros y cyfnod cyntaf yw fod Llywodraeth Cymru yn dod yn sefydliad sydd yn dangos esiampl yn ei defnydd o’r Gymraeg yn fewnol o’i gymharu gyda sefydliadau tebyg.

1. Cydymffurfio gyda’r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau

1.1 Cyffredinol

Ein nod yw sicrhau y gall pobl Cymru ymgysylltu gyda'u Llywodraeth yn eu dewis iaith ar bob achlysur, a’n bod yn darparu gwasanaethau dwyieithog o safon uchel ar bob achlysur.

Rydym yn parhau i weithredu drwy rhwydwaith o gydlynwyr iaith, gyda chynrychiolwyr ledled y sefydliad. Mae rhwydwaith y cydlynwyr yn fforwm ar gyfer trafodaeth ar arfer dda ac unrhyw rwystrau sydd yn codi. Mae’n caniatáu rhannu negeseuon allweddol ar gydymffurfiaeth o fewn y gwahanol Grwpiau, yn darparu pwynt cyswllt cyntaf i gydweithwyr gael cyngor ar ddefnyddio’r Gymraeg a chydymffurfio, ac maent yn darparu sicrwydd i dim y safonau yn ganolog ynghylch cydymffurfio o fewn y sefydliad. Mae'r rhwydwaith yn parhau i fod yn rhan arwyddocaol o'r jig-so o gydymffurfio â’r safonau.

1.2 Cwynion

Derbyniwyd 24 cwyn sy'n ymwneud â’r Safonau Cyflenwi Gwasanaeth yn ystod y cyfnod adrodd. Derbyniwyd 2 gwyn yn uniongyrchol gan aelodau'r cyhoedd. Ymchwiliwyd ac ymatebwyd i’r cwynion hyn o dan gam cyntaf polisi cwynion Llywodraeth Cymru o fewn 10 diwrnod gwaith. O'r 22 cwyn a dderbyniwyd drwy law Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, terfynwyd 9 ymchwiliad, ac mae’r gweddill yn parhau.

Defnydd o’n gwasanaethau

Gwefannau
  Alterian (Saes) Drupal (Saes) Cyfanswm (Saes) Alterian (Cym) Drupal (Cym) Cyfanswm (Cym)
Edrych ar dudalennau 510,044 13,350,230 13,860,274 22,495 852,330 874,825
Dogfennau wedi’u lawrlwytho 91,484 1,146,462 1,237,946 3,609 46,516 50,125
Gohebiaeth gweinidogol a swyddogol

Fe dderbyniodd swyddfeydd preifat y Gweinidogion 14,441 o eitemau o ohebiaeth yn ystod y cyfnod adrodd i gyfeiriadau Gweinidogol, gyda 671 o rheini (4.6%) wedi’u derbyn yn Gymraeg. Gwelwyd cynnydd o 14.5% yn yr ohebiaeth a dderbyniwyd yn gyffredinol yn ystod y cyfnod.

2. Cydymffurfio gyda’r Safonau Llunio Polisi

2.1 Cyffredinol

Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae Cymraeg 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn nodi bod yr iaith Gymraeg yn flaenoriaeth strategol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld y Gymraeg yn ffynnu, gyda chynnydd yn y nifer o bobl sy'n siarad ac yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Mae’r Safonau Llunio Polisi yn ei gwneud hi’n ofynnol i Lywodraeth Cymru:

  1. ystyried effeithiau neu ddylanwad ein penderfyniadau polisi ar yr iaith Gymraeg (cadarnhaol a negyddol)
  2. ystyried sut i gynyddu effeithiau cadarnhaol, lliniaru neu leihau effeithiau niweidiol a manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg
  3. ceisio barn a safbwyntiau ar yr effeithiau ar yr iaith Gymraeg wrth ymgysylltu neu ymgynghori a chasglu barn siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr yr iaith.

Defnyddir fframwaith asesiad effaith integredig newydd gan y sefydliad ers 2018 i ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac i beidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Diben y fframwaith yw cynnig cyngor cynhwysfawr i staff ar roi ystyriaeth briodol i ystod o bynciau, gan gynnwys y Gymraeg, wrth wneud penderfyniadau polisi. Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg yw un o'r asesiadau statudol, gorfodol sydd yn rhaid i swyddogion gwblhau wrth ddatblygu, adolygu neu ddiwygio polisïau.

Y nod yw datblygu polisïau o'r ansawdd uchaf posibl sydd yn eu tro, yn gwneud gwahaniaeth i ddinasyddion Cymru. Mae'r fframwaith yn cyd-fynd yn agos ag amcanion Cymraeg 2050, ac yn sicrhau bod yr amcanion yn cael eu prif ffrydio o fewn penderfyniadau polisi a wneir gan Weinidogion. Er mwyn helpu staff i ddefnyddio'r fframwaith newydd, rhannwyd canllaw cynhwysfawr ynghyd â llawlyfr data ar y Gymraeg yng Nghymru.

Mae’r templedi ymgynghori safonol wedi'u diwygio i sicrhau ein bod yn cael sylwadau ymatebwyr ar effeithiau ein penderfyniadau polisi ar yr iaith Gymraeg. Yn yr un modd, mae templedi caffael safonol yn sicrhau bod y safonau yn ystyriaeth bwysig wrth gontractio gwasanaethau gan drydydd parti. Datblygwyd canllawiau ar gyfer staff ar gydymffurfio â gofynion yn ystod ymarferion ymgynghori, gwasanaethau contractio, ariannu grantiau a chomisiynu ymchwil.

2.2 Cwynion

Derbyniwyd un cwyn yn ymwneud â Safonau Llunio Polisi yn ystod y cyfnod adrodd. Terfynwyd yr ymchwiliad gan y Comisiynydd.

3. Cydymffurfio gyda’r Safonau Gweithredu

3.1 Datblygu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol

Mae strategaeth ffurfiol Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yn fewnol yn gosod her i ni ddod yn sefydliad dwyieithog yn raddol dros y deng mlynedd ar hugain nesaf. Ein nod yw y dylai Llywodraeth Cymru ddod yn wirioneddol ddwyieithog erbyn 2050; yn weithle lle mae’n arferol i’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu defnyddio mewn modd naturiol a chyfnewidiol. Mae hyn yn golygu, dros y tri degawd nesaf, y bydd yn rhaid i weithwyr Llywodraeth Cymru yn awr ac yn y dyfodol weithio gyda'i gilydd i ddatblygu gallu'r sefydliad yn y Gymraeg er mwyn galluogi ein gweithlu ni oll i allu deall o leiaf Cymraeg sylfaenol.

Mae hwn yn nod hirdymor, ond mae angen inni roi camau ar waith i weithio tuag ato yn awr. Byddwn yn cryfhau dysgu a datblygu drwy ehangu a gwella ein cynnig i ddysgu’r Gymraeg, a chynnig rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Bydd hyn yn caniatáu i ni i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf i bobl Cymru.

Mae dyletswydd statudol arnom i fabwysiadu polisi sydd yn hyrwyddo ac yn hwyluso defnydd y Gymraeg yn y gweithle o ganlyniad i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn 2017 gofynnodd strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr, inni ddod yn sefydliad sydd yn “arwain drwy esiampl” yn ein defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Ac, roedd y Prif Weinidog yn ei faniffesto i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn addo “prif ffrydio” y Gymraeg ar draws ein holl feysydd polisi. Mae cyrff cyhoeddus eraill wedi gwneud camau breision yn y maes hwn hefyd, boed yn awdurdodau lleol neu gyrff cenedlaethol, ac felly roedd hi’n bryd i ninnau weithredu ein hunain.

Nod ar gyfer yr hir-dymor sydd yn y strategaeth. Ond byddwn yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar y pum mlynedd cyntaf, 2020-2025, a dod yn sefydliad sydd yn dangos esiampl yn ein defnydd o’r Gymraeg o’i gymharu â sefydliadau tebyg yng Nghymru. Mae 10 cam gweithredu yn y strategaeth sy’n golygu ein bod yn dechrau ar y llwybr i 2050 mewn ffordd raddol, rhesymol a chymesur. Mae’r egwyddorion sy’n sail i’r strategaeth yn hollbwysig.

  • Gwneud ymrwymiad hirdymor ac arwain y ffordd: bydd y newid yn digwydd yn raddol, dros amser, ond ein bwriad yw arwain trwy esiampl yn y ffordd yr ydym yn hybu defnydd o’r iaith yn y gweithle.
  • Buddsoddi yn ein staff a chynnig cyfleoedd iddynt ddysgu Cymraeg a meithrin sgiliau ieithyddol: mae’n hanfodol darparu hyfforddiant effeithiol a hwylus, gan roi amser a chymhelliant i bobl wella’u sgiliau Cymraeg yn barhaus.
  • Parhau i fod yn sefydliad agored, cynhwysol ac amrywiol: mae gan bawb y potensial i fod yn siaradwr Cymraeg, ac nid yw’r strategaeth hon yn groes i’n hymrwymiad i fod yn agored, yn gynhwysol ac yn amrywiol – er y bydd sgiliau Cymraeg yn fwyfwy angenrheidiol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi, nid yw meithrin gweithle dwyieithog yn golygu (nac yn awgrymu) bod y sgiliau hynny’n ofynnol ar gyfer ymuno â Llywodraeth Cymru.
  • Mynd ati’n rheolaidd i adolygu ein ffyrdd o weithio er mwyn hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg: pan fyddwn yn cyflwyno polisïau a mentrau mewnol newydd, byddwn yn adolygu i ba raddau maent yn cynnig cyfleoedd pellach i’r staff ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith beunyddiol.

3.2 Hyfforddiant – iechyd a diogelwch

Lansiwyd adnoddau newydd ar gyfer iechyd a diogelwch yn y sefydliad yn ystod mis Ionawr eleni, sef cwrs ar lein dwyieithog sydd yn galluogi i staff ymgymryd ag asesiad iechyd a diogelwch wrth eu desg.

3.3 Cwynion

Ni dderbyniwyd cwynion yn ymwneud â’r Safonau Gweithredol yn ystod y cyfnod adrodd.

3.4 Sgiliau’r Gymraeg

Mawrth 2020

  Darllen Siarad Deall Ysgrifennu
0 37.9% (2155) 46.2% (2626) 41.3% (2347) 52.6% (2985)
1 24.8% (1408) 21.7% (1230) 20.1% (1139) 17.7% (1005)
2 7.9% (451) 4.9% (280) 10.0% (568) 10.0% (568)
3 5.8% (331) 3.2% (184) 3.6% (203) 5.5% (312)
4 5.6% (318) 5.0% (285) 5.3% (299) 5.8% (331)
5 12.9% (730) 14.0% (793) 14.8% (842) 7.9% (450)
X 5.0% (286) 4.9% (281) 4.9% (281) 5.2% (296)

Mawrth 2019

  Darllen Siarad Deall Ysgrifennu
0 38.6% (2145) 46.6% (2588) 42.0% (2333) 52.9% (2942)
1 24.3% (1349) 21.4% (1189) 19.8% (1098) 17.5% (972)
2 8.0% (446) 4.9% (271) 10.0% (553) 5.4% (301)
3 5.8% (321) 3.4% (190) 3.5% (194) 5.5% (305)
4 5.7% (315) 5.0% (279) 5.3% (295) 5.9% (329)
5 12.8% (714) 13.9% (774) 14.8% (824) 7.8% (433)
X 4.8% (267) 4.8% (266) 4.7% (260) 4.9% (275)

3.5 Data hyfforddiant iaith Gymraeg 2019 i 2020

Dosbarthiadau wythnosol

Cawsom 134 o geisiadau i fynychu dosbarthiadau wythnosol Cymraeg ar gyfer gwersi blwyddyn academaidd 2019-2020.

Gwersi wythnosol

  Cyfanswm y nifer a gofrestrodd Mynediad Sylfaen Canolradd Uwch Hyfedredd
Aberystwyth 21 7 7 5 2 X
Bangor 3 3 X X X X
Caerdydd* 89 34 16 16 20 3
Cyfanswm yr ymgeiswyr 113 44 23 21 22 3

* Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cyflwyno cwrs pwrpasol 1-1 lefel mynediad i aelod o staff byddar. Mae’r cwrs yma wedi'i gynnwys yn y ffigwr uchod.

Cyrsiau preswyl

Cyfanswm nifer y staff fynychodd gyrsiau preswyl yn ystod y cyfnod oedd 12.

Cyrsiau Cymraeg Gwaith ar-lein

Cwrs Wedi cofrestru Wedi cwblhau
Croeso: Rhan 1 57 11
Croeso: Rhan 2 8 3
Croeso Nôl Rhan 1 10 2
Croeso Nôl Rhan 2 3 2
Gwella Eich Cymraeg Rhan 1 16 1
Gwella Eich Cymraeg Rhan 2 1 1

Sesiynau anwytho

Rhaid i bob aelod o staff newydd ymgymryd â hyfforddiant anwytho. Fel rhan o'r broses mae’r tîm cydymffurfiaeth yn darparu sesiwn ymwybyddiaeth iaith fel rhan o’r cwrs. Yn ystod y cyfnod adrodd:

  • Nifer y sesiynau – 19 (280 aelod o staff)
  • Nifer y sesiynau Cymraeg – 1 (8 aelod o staff)
  • Anwytho – sesiynau blaenoriaeth adnoddau (staff newydd) – 2 (16 aelod o staff)

Cyrsiau Cymraeg eraill

  • Nifer y cyrsiau lles iechyd a diogelwch – 21 (170 aelod o staff)
  • Nifer cyrsiau lles iechyd a diogelwch Cymraeg – 1 (4 aelod o staff)

Cyrsiau ar-lein eraill

Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg e-ddysgu (drwy gyfrwng Saesneg) – 44 aelod o staff wedi’i gwblhau

Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg e-ddysgu (trwy gyfrwng Gymraeg) – 7 aelod o staff wedi’i gwblhau

Rhwydwaith y Gymraeg

Mae yna gyfanswm o 150 o gyflogeion Llywodraeth Cymru yn aelodau o'n rhwydwaith iaith Gymraeg mewnol sydd newydd ei lansio ar dudalennau’r fewnrwyd. Pwrpas y rhwydwaith yw darparu lle ar dudalennau ein Lab Dysgu (sef tudalennau hyfforddiant staff ar y fewnrwyd) er mwyn i staff ymarfer a chodi eu hyder drwy gael sgyrsiau gydag eraill. Mae’n le hefyd i rhannu gwybodaeth am gyrsiau cyfrwng Cymraeg, rhannu arferion ac argraffiadau ein dysgwyr ac i rannu arfer da ynghylch y Gymraeg. Mae dysgwyr a siaradwyr rhugl wedi bod yn rhannu eu profiadau o ddysgu, eu hoff eiriau Cymraeg, rhannu straeon am y Gymraeg o’r cyfryngau, a rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau Cymraeg tu hwnt i’r gwaith. Byddwn yn gweithio gyda’r Tim Dysgu a Datblygu corfforaethol dros y flwyddyn nesaf i ddatblygu’r fforwm a thyfu nifer ei haelodau.

3.6 Nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebwyd wedi’u categoreiddio fel swyddi sy’n gofyn am:

  1. Sgiliau Cymraeg hanfodol
  2. Sgiliau Cymraeg i’w dysgu pan benodir
  3. Sgiliau Cymraeg yn ddymunol
  4. Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol
Categori Hysbysebwyd yn fewnol Hysbysebwyd yn allanol
Hanfodol 23 23
I’w dysgu pan benodir 1 0
Dymunol 48 86
Ddim yn angenrheidiol 662 83
Cyfanswm 734 192