Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma'r nawfed adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar weithredu a chydymffurfio gyda Safonau'r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'r safonau'n nodi sut mae'n rhaid i ni ystyried y Gymraeg a darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg i bobl Cymru mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Mae cydymffurfiaeth Gweinidogion Cymru â'r safonau yn un rhan o strategaeth cynllunio ieithyddol ehangach a fydd yn cynorthwyo'r Llywodraeth i gyflawni ei nodau ar gyfer 2050; y nod cyntaf yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i 1 miliwn a chynyddu'n sylweddol y defnydd o'r iaith o ddydd i ddydd tra bod yr ail yn ymwneud ag arferion gwaith mewnol y Llywodraeth wrth i ni anelu at ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.

Gosodwyd hysbysiad cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg ar Weinidogion Cymru, ac mae’n rhestru'r safonau sy'n berthnasol i'w gweithgareddau. Gellir gweld yr Hysbysiad yma: Hysbysiad cydymffurfio Comisiynydd y Gymraeg.

1. Cydymffurfio â’r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau

1.1 Cyffredinol

Mae'r Safonau Cyflenwi Gwasanaeth yn nodi sut rydym yn darparu gwasanaethau a gwybodaeth i bobl Cymru yn Gymraeg. Ein nod bob amser yw sicrhau y gall pobl ymgysylltu â'u llywodraeth yn eu dewis iaith. Rydym eisiau darparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel ar bob achlysur.  

Er mwyn gwneud hyn rydym yn parhau i weithredu rhwydwaith o gydlynwyr gwasanaeth dwyieithog, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sefydliad.  

Mae'r cydlynwyr yn sicrhau bod eu cydweithwyr yn ymwybodol o faterion sy'n codi mewn dau brif faes:

  • Materion cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, dan arweiniad Tîm Safonau'r Gymraeg, a
  • Materion polisi sy’n ymwneud â strategaeth Cymraeg 2050 a phrif ffrydio iaith, dan arweiniad Is-adran Cymraeg 2050.

1.2 Cwynion

Yn ystod yr nawfed flwyddyn o weithredu'r safonau, derbyniwyd 18 cwyn am wasanaethau Cymraeg Llywodraeth Cymru, sydd yn is na’r 26 a dderbyniwyd llynedd (2023-2024). Mae 10 o'r cwynion hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â Gweinidogion Cymru yn dod yn Weithredwyr Dewis Olaf masnachfraint rheilffordd Cymru a’r Gororau yn 2021, gwasanaeth sy’n cael ei weithredu gan Trafnidiaeth Cymru ddydd i ddydd.

O'r 16 cwyn a ddaeth i law gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, mae 12 ymchwiliad wedi’u terfynu, gyda 4 yn parhau.

Derbyniwyd 2 gwyn yn uniongyrchol gan aelodau o'r cyhoedd a chawsant eu datrys ar unwaith o dan Gam 1 Polisi Cwynion Llywodraeth Cymru.

Trafnidiaeth Cymru (Rheilffyrdd)

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio i wella’r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir i gwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ers dod yn gyfrifol am y gwasanaethau. Mae'r gweithgareddau diweddar yn cynnwys:

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio i wella’r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir i gwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ers dod yn gyfrifol am y gwasanaethau hynny. Eleni, heb os Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym mharc Ynys Angharad oedd yr uchafbwynt. Roedd yr wythnos yn benllanw misoedd o waith i’r tîm yn Nhrafnidiaeth Cymru ar y cyd gyda’r Eisteddfod a Chyngor Rhondda Cynon Taf. Gwelwyd cryn gefnogaeth i’r Eisteddfod yn lleol, ac ymatebodd Trafnidiaeth Cymru yn gadarnhaol i’r cyfle euraid roedd cynnal yr Eisteddfod dafliad carreg o’u pencadlys ym Mhontypridd yn cynnig. Cynyddwyd y gwasanaethau trên oedd yn pasio drwy gorsaf Pontypridd yn ystod yr wythnos a gwelwyd 100,000 o bobl yn defnyddio’r orsaf. Cynigiodd Trafnidiaeth Cymru lety i’r cyfryngau yn eu pencadlys yn Llys Cadwyn gyferbyn â Pharc Ynys Angharad yn ystod yr wythnos a gwelwyd presenoldeb bywiog gan y tîm ar y Maes, gan gynnwys ymgyrchoedd i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Cafwyd ymateb arbennig gan ymwelwyr yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda chanmoliaeth i’r gwasanaeth trên yn gyffredinol ond hefyd i’r staff ychwanegol a roddwyd ar waith yn yr orsaf i gynorthwyo teithwyr ac i ddarparu croeso cynnes a Chymraeg. Ni dderbyniwyd yr un cwyn am y gwasanaeth yn ystod yr wythnos.

Mae'r gweithgareddau’r flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

  • Gwella systemau i ddarparu gwybodaeth yn ddwyieithog i gwsmeriaid, yn glywedol a gweledol, ar yr holl fflydoedd trenau newydd – mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ddefnyddio'r Dosbarth 197 a Dosbarth 231 newydd ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, sy'n darparu cyhoeddiadau a gwybodaeth ddwyieithog. Eisioes mae fflyd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu gyda 70% o drenau newydd, a bydd trenau tri-modd Dosbarth 756 newydd sbon hefyd yn cael eu cyflwyno ar linellau Coryton a Phenarth yn ddiweddarach yr haf hwn, gan gynyddu ymhellach nifer y trenau newydd sy'n darparu gwasanaethau ar rwydwaith Cymru a'r Gororau.
  • Mae cyhoeddiadau dwyieithog mewn gorsafoedd rheilffordd wedi cael eu huwchraddio, gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn wedi'i gwblhau.
  • Mae arwyddion ar draws y rhwydwaith cyfan wedi cael eu hadnewyddu yn unol â Safonau'r Gymraeg gan gynnwys arwyddion dros-dro ac arwyddion mewn adeiladau a seilwaith newydd fel Cyfnewidfa Bysiau Caerdydd.
  • Datblygwyd prosiect mawr yn Trafnidiaeth Cymru i uno platfformau digidol, er mwyn sicrhau cysondeb a gwell gwasanaeth i ddefnyddwyr, gan gynnwys defnydd iaith cyson a chywir
  • Lansiwyd podlediad Cymraeg cyntaf Trafnidiaeth Cymru eleni
  • Mae rhagor o ymgyrchoedd marchnata dros y ffin wedi cael eu datblygu'n ddwyieithog eleni - mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd ar y cyd gyda Sŵ Gaer gyda’r Doctor Cymraeg a dylanwadwyr dwyieithog eraill ar gyfer gwasanaethau Dosbarth Cyntaf
  • Cefnogwyd digwyddiadau diwylliannol ar draws Cymru, gan gynnwys Tafwyl ac Eisteddfod yr Urdd.
  • Cefnogwyd yr elusen Tenovus ar gyfer dathlu Dydd Gwyl Dewi yng ngorsafoedd Abertawe a Caerdydd Canolog, gyda staff yn dosbarthu blodau cennin pedr  i deithwyr.
  • Cyflwynwyd mwy o sesiynau hyfforddiant cynefino ac ymwybyddiaeth iaith i staff gyda neges yn glir yn sail i’r sesiynau – defnyddiwch eich Cymraeg ar bob cyfle.

2024-2025 Cwynion yn ymwneud â Safonau'r Gymraeg

CyfeiriadNatur y gwynCategori’r safonCanlyniad
1Diffyg gwasanaeth Cymraeg mewn sesiynau ymgynghori wyneb yn wyneb i rannu gwybodaeth gyda rhanddeiliaid.Cyflenwi Gwasanaeth

Dyfarniad o ddiffyg cydymffurfiaeth gan y Comisiynydd.

Camau wedi eu cymryd i gydymffurfio â'r camau gweithredu.

2Llinell bwnc Saesneg yn unig mewn cylchlythyr a anfonwyd trwy e-bost at randdeiliaid. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
3Cwyn fod yr wybodaeth yn Gymraeg ar arwydd yn wahanol i'r Saesneg. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon bod camau wedi'u cymryd i gywiro'r arwydd.
4Diffyg cyhoeddiadau Cymraeg mewn gorsaf drenau. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi Gwasanaeth

Dyfarniad o ddiffyg cydymffurfiaeth gan y Comisiynydd.

Cynllun gweithredu wedi'i rannu gyda’r Comisiynydd.

5Diffyg cyhoeddiadau Cymraeg mewn gorsaf drenau. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – cynllun gweithredu wedi’i gytuno gan y Comisiynydd eisoes ar waith.
6Ymddangosodd enw arddangos yr anfonwr yn Saesneg ac ymddangosodd teitl Saesneg cyn y Gymraeg mewn e-bost. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi Gwasanaeth

Dyfarniad o ddiffyg cydymffurfiaeth gan y Comisiynydd.

Camau gorfodi wedi’u gosod i ddatrys y mater, a’r camau hynny ar waith gan Trafnidiaeth Cymru.

7Testun anghyflawn ar dudalennau Cymraeg gwefan.Cyflenwi GwasanaethCywirwyd y wefan ar unwaith, a anfonwyd ateb yn uniongyrchol at yr achwynydd.
8Tudalennau Cymraeg gwefan yn cynnwys testun Saesneg.Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
9Gwall ar dudalennau Cymraeg gwefan recriwtio (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
10Arwydd uniaith Saesneg yn ymddangos ar drên. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
11Nid oedd tywyslyfr ar gael yn Gymraeg ar safle Cadw.Cyflenwi GwasanaethDarparwyd ymateb yn uniongyrchol i'r achwynydd.
12Cwyn bod proses recriwtio gan drydydd parti yn anghyflawn o ran y Gymraeg (gohebiaeth ddim yn cael ei anfon yn Gymraeg ar bob achlysur ac roedd angen cymryd camau ychwanegol i sicrhau cyfweliad yn Gymraeg).Cyflenwi Gwasanaethu a GweithredolMae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau.
13Darparwyd ateb uniaith Saesneg mewn ymateb i ymholiad Cymraeg drwy e-bost.Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater.
14Honiad na ellid cynnal asesiad yn Gymraeg ar wefan trydydd parti.Cyflenwi GwasanaethY mater ar waith (nododd ein hymateb cychwynnol nad oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar ran Gweinidogion Cymru, ond yn hytrach ar ran bwrdd iechyd;rydym yn aros am ymateb y Comisiynydd).
15Cyhoeddiad uniaith Saesneg ar drên. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethNi chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd eisoes yn ymchwilio i fater tebyg.
16Cwyn nad oedd ailstrwythuro polisi Grwpiau yn Llywodraeth Cymru yn ystyried effeithiau ar y Gymraeg yn ddigonol a bod hysbyseb am swydd yn anghyson o ran gofynion y Gymraeg.Cyflenwi GwasanaethMae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau.
17Saesneg yn ymddangos cyn y Gymraeg yn llinell bwnc neges e-bost. (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethMae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau.
18Safon testun Cymraeg ar ap a thudalennau gwefan Trafnidiaeth Cymru yn annigonol  (Trafnidiaeth Cymru)Cyflenwi GwasanaethMae’r Comisiynydd  yn penderfynu a ddylid ymchwilio i'r gwyn yma.

2. Cydymffurfio â'r Safonau Llunio Polisi

2.1 Cyffredinol

'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr' yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a hwyluso defnydd o'r Gymraeg. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'r ymrwymiad yn strategaeth Cymraeg 2050 yn dangos bod y Gymraeg yn flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld y Gymraeg yn ffynnu, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n siarad ac yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Mae'r safonau llunio polisi yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru:

  • ystyried effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg (cadarnhaol a negyddol)
  • ystyried sut i gynyddu effeithiau positif, lliniaru neu leihau effeithiau andwyol a manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg
  • gofyn am farn ar yr effeithiau ar y Gymraeg wrth ymgysylltu neu ymgynghori a cheisio barn siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr yr iaith.

Mae gan Lywodraeth Cymru fframwaith asesu effaith integredig ar waith. Pwrpas y fframwaith yw rhoi cyngor i staff ar ystyried ystod o bynciau, gan gynnwys y Gymraeg, wrth wneud penderfyniadau polisi. Mae'r fframwaith yn tywys staff drwy'r broses o ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae'r asesiad effaith ar y Gymraeg yn un o'r asesiadau statudol, gorfodol y mae'n rhaid i swyddogion eu cwblhau wrth ddatblygu, adolygu neu ddiwygio polisïau a deddfwriaeth.

2.2 Cwynion

Derbyniwyd 1 cwyn ynghylch gweithredu’r Safonau Llunio Polisi yn 2024-2025 gan swyddfa’r Comisiynydd. Mae'r gwyn berthnasol yn rhan o gwyn arall a dderbyniwyd o dan y Safonau Cyflenwi Gwasanaeth. Ni dderbyniwyd cwyn gan aelodau’r cyhoedd yn uniongyrchol.

3. Cydymffurfio â'r safonau gweithredol

3.1 Datblygu polisi ar ddefnydd mewnol o'r Gymraeg

Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweld prif ffrydio’r Gymraeg o fewn y sefydliad, a gweld rhagor o gyfleoedd i’n staff ei defnyddio yw ‘Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd’. Lansiwyd y strategaeth yn Ebrill 2020, a’r themâu sy’n sail i weithredu’r strategaeth yn ystod ei phum mlynedd cyntaf yw: arweinyddiaeth; recriwtio; hyfforddiant a thechnoleg.

Gwnaed cynnydd ar amcanion y bedair brif thema sy’n sail i’r strategaeth:

Dysgu

Rydym wedi gwneud cryn gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf wrth ddatblygu’r cyfleoedd a gynigir gennym i staff ddysgu’r Gymraeg, gan sicrhau y cynigir cyfleoedd dysgu amrywiol, hyblyg ac effeithiol. Mae ein prosbectws hyfforddiant iaith Gymraeg yn cynnwys 12 o opsiynau dysgu gwahanol sy’n agored i’r staff, ac maent yn cynnwys gwersi wythnosol â thiwtor, opsiynau dysgu hunanastudio ar-lein a chyrsiau dysgu dwys preswyl. Rydym yn pwysleisio yn ein deunyddiau dysgu bod y Gymraeg yn cael ei hystyried yn ased i’r sefydliad a’n bod am fuddsoddi yn sgiliau ein gweithlu. Mae’r arlwy newydd wedi tanio dychymyg y gweithlu, gyda mwy o staff nag erioed yn datblygu eu sgiliau Cymraeg erbyn hyn. Yn wir, ers mis Mai 2020 bu cynnydd o 758% yn nifer y cydweithwyr sy’n dilyn un o’r 12 opsiwn dysgu ffurfiol i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Ceir rhagor o wybodaeth am ein data dysgu islaw.

Arweinyddiaeth

Yn ein ffocws ar ein huwch-arweinwyr, rydym yn dylanwadu’n gadarnhaol ar ddiwylliant y sefydliad drwy eu helpu i ddod yn esiampl o ran arwain sefydliad dwyieithog. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi rhannu canllawiau â’n huwch-arweinwyr ar ddefnyddio’r Gymraeg i gadeirio cyfarfodydd a defnyddio’r Gymraeg yn achlysurol wrth ryngweithio ag eraill bob dydd. Mae cwrs Academi Wales, “Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog” wedi cael ei gyflwyno i elfennau o’r Uwch Wasanaeth Sifil, ac mae cwrs cynefino newydd ar y Gymraeg wedi cael ei ddatblygu i recriwtiaid newydd i’r Uwch Wasanaeth Sifil. Yn yr Uwch Wasanaeth Sifil, mae 25% o’r staff bellach yn dilyn opsiwn hyfforddiant ffurfiol i ddysgu’r Gymraeg, sy’n arwydd bod ein gwaith i sicrhau bod arweinwyr y sefydliad yn deall eu rôl o ran modelu ymddygiad sy’n batrwm i eraill mewn perthynas â’r Gymraeg yn dwyn ffrwyth.

Recriwtio

Yn ein deunyddiau recriwtio rydym yn pwysleisio bod y Gymraeg yn ased, ni waeth beth fo’r rôl yn Llywodraeth Cymru. Mae dwy garfan o brentisiaid i ymuno â’r sefydliad wedi dilyn cwrs bloc dwys i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, gyda 10 diwrnod o hyfforddiant amser llawn sy’n cael ei gyflwyno dros bythefnos ar bedair lefel (Mynediad 1, Mynediad 2, Sylfaen 1, Sylfaen 2, Canolradd). Mae carfan o’r Uwch Wasanaeth Sifil hefyd wedi dilyn y cwrs bloc dwys. Nid ydym yn defnyddio’r categori “sgiliau Cymraeg ddim yn angenrheidiol” mwyach yn ein deunydd recriwtio, ac mae mwy o ffocws eleni wedi bod ar recriwtio ar sail “y Gymraeg i’w dysgu yn y rôl” gyda chynllun dysgu yn cael ei gytuno gyda ymgeiswyr llwyddiannus unwaith iddyn nhw ddechrau.

Technoleg

Rydym yn canolbwyntio ar y ffordd y gall technoleg ein helpu i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac i’r perwyl hwn rydym yn chwilio am ffyrdd o sicrhau y gall ein staff sy’n siarad Cymraeg ddefnyddio rhyngwynebau Cymraeg y dechnoleg a ddefnyddiwn heb fod angen iddynt ofyn am wneud hynny. Rydym wedi cynyddu’n sylweddol ein defnydd o nodwedd cyfieithu ar y pryd Teams a lansiwyd gan Microsoft y llynedd, gan gyflwyno’r Gymraeg mewn mwy o gyfarfodydd â rhanddeiliaid, ac rydym yn hyrwyddo’r defnydd diogel o Microsoft Translator i helpu i weithio’n ddwyieithog. Wrth uwchraddio cyfrifiaduron staff eleni i Windows 11 yn ein prosiect Bwrdd Gwaith 2.0, datblygwyd ap, Cymraeg mewn clic, i hwyluso rhoi gosodiadau Cymraeg ar waith.  Mae’r ap yn caniatáu i staff gael rhyngwyneb Cymraeg Microsoft ar eu gliniaduron mewn un clic hawdd. Byddwn yn gwerthuso’r prosiect yn ystod y flwyddyn.

3.2 Cwynion

Derbyniwyd 2 gwyn ynghylch gweithredu’r Safonau Gweithredol gan Swyddfa’r Comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd. Mae'r cwynion yn rhan o gwynion eraill a dderbyniwyd o dan y Safonau Cyflenwi Gwasanaeth a’r Safonau Llunio Polisi.

4. Data sgiliau Cymraeg

31 Mawrth 2025

 DarllenSiaradDeallYsgrifennu
01814229919702613
11464128712461100
2481295566327
3345202231317
4310268309308
5721784816461
X558558555567

31 Mawrth 2024

 DarllenSiaradDeallYsgrifennu
02030254622202902
11589139613321178
2499309597324
3364203228340
4320294329332
5756813857471
X578575573589

Arolwg Pobl

Mae'r Arolwg Pobl yn arolwg sydd yn cael ei gynnal ar draws y Gwasanaeth Sifil a gofynnir i bob aelod o staff yn Llywodraeth Cymru ei gwblhau'n flynyddol drwy gyfrwng arolwg electroneg dienw.  Mae’r arolwg yn cael ei addasu at ddibenion Llywodraeth Cymru gyda chwestiynau penodol sy'n ymwneud â gweithio i'r sefydliad, gan gynnwys cwestiynau ynghylch sgiliau’r Gymraeg a defnydd iaith yn y gweithle.

Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi wedi darparu canlyniadau ar gyfer sgiliau Cymraeg ar sail canlyniadau Arolwg Pobl 2024 ar ffurf tablau.

Sgiliau Cymraeg – Arolwg Pobl 2024

Mae data sgiliau yn yr Arolwg Pobl yn seiliedig ar y cwestiwn canlynol:

Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio orau eich gallu mewn Cymraeg llafar?

  • Dwi'n rhugl yn y Gymraeg
  • Dw i'n gallu siarad tipyn o Gymraeg
  • Dim ond ychydig bach o Gymraeg dwi'n gallu siarad
  • Gallaf ddweud ychydig eiriau yn Gymraeg yn unig
  • Dw i'n methu siarad Cymraeg
Lefel Sgiliau Iaith GymraegCanran y staff
Rwy’n rhugl yn y Gymraeg18%
Dwi’n gallu siarad tipyn o Gymraeg8%
Dim ond ychydig o Gymraeg dwi’n siarad19%
Gallaf ddweud ychydig eiriau yn Gymraeg37%
Methu siarad Cymraeg18%
Cyfanswm100%

Image
Welsh Language skills of WG staff

Gweld yn y fformat tabl

Welsh Language skills: staff percentages

Lefel Sgiliau CymraegCanran y staff
Sgiliau uwch26%
Sgiliau sylfaenol56%
Dim sgiliau Cymraeg18%
Cyfanswm100%

Sylwch nad yw'r canrannau hyn yn union 100% oherwydd eu bod yn cael eu talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf.

Image
Welsh Language skills: staff percentages

Gweld yn y fformat tabl

5. Data Rhaglen Ddysgu’r Gymraeg 2024-2025

Ymgysylltiad cyffredinol â gweithgareddau Cymraeg

  • Dosbarthiadau wythnosol: 173
  • Dysgu 1:1: 44
  • Hunan-astudio ar-lein: 97
  • Gloywi: 11
  • Cwrs bloc dwys: 34
  • Lefel Cymraeg Croeso: 7
  • E-ddysgu Cymraeg Gwaith: 39
  • Tystysgrif Sgiliau Iaith: 7
  • Kick Off Cymraeg: 19
  • Cwrs Preswyl: 3
  • Ynganu Cymraeg: 25
  • Addysgu siaradwyr Cymraeg i siarad â dysgwyr: 23
  • Clwb Cymraeg: 45
  • Cadeirio Dwyieithog a Chynnal Digwyddiadau a Chyfarfodydd Dwyieithog: 14
  • Y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru: 112
  • Cyfanswm: 653

Mae hyn yn gynnydd o 26 o'r llynedd.

Gellir dod o hyd i ddadansoddiad o'r tabl uchod isod.

Data gwersi wythnosol

Mae ein dosbarthiadau wythnosol yn seiliedig ar y cwricwlwm Dysgu Cymraeg gyda chyrsiau ar gael ledled Cymru. Mae ceisiadau'n agor ym mis Ebrill gyda chyrsiau'n dechrau ym mis Medi ac yn rhedeg hyd at fis Mai canlynol, ac mae hyn yn dod i gyfanswm o tua phedair awr yr wythnos dros 30 wythnos. Mae dosbarthiadau ar gael o ddechreuwr hyd at hyfedredd.

Dosbarthiadau wythnosol Medi 2024CyfanswmMynediadSylfaenCanolradd UwchHyfedredd
Ceisiadau2771186137538
Cofrestru234945032508
Yn dal i ddysgu ym Mawrth 2025173584222438
Tynnu'n ôl ers cofrestru613681070
Tynnu'n ôl cyn cofrestru432411530

Tiwtora 1:1

Mae sesiynau 1:1 gyda thiwtor ar gael i'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu Cymraeg a darperir sesiynau wedi'u teilwra yn seiliedig ar anghenion a gofynion dysgu. Mae hyfforddiant 1:1 hefyd ar gael i bob aelod o’r Uwch Wasanaeth Sifil.

  • Uwch Wasanaeth Sifil: 34
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: 10
  • Cyfanswm: 44

Hunan-astudio ar-lein

Mae'r cwrs hwn yn dilyn yr un cwricwlwm â'r dosbarthiadau wythnosol ond mae'n caniatáu i ddysgwyr gwblhau'r dysgu yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain. Mae'r cwrs ar gael i'r holl staff yn y sefydliad ac mae ceisiadau'n agor bob yn ail fis. Mae'r cwrs hunan-astudio Cymraeg ar-lein hwn yn addas i'r rhai ar lefel mynediad a/neu sylfaen.

Nifer y dysgwyr:

  • Ebrill 2024: 26
  • Tachwedd 2024: 45
  • Ionawr 2025: 26
  • Cyfanswm: 97

Cwrs bloc

Mae ein dosbarthiadau cwrs bloc dwys yn cael eu cynnal yn seiliedig ar bedair lefel o ddechreuwr i uwch. Bydd y cwrs yn dilyn yr un cwricwlwm â'n cynnig dosbarth wythnosol uchod ond bydd yn cael ei grynhoi i 20 diwrnod llawn o hyfforddiant dros bedair wythnos. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro rhwng 9:00 y bore a 3:00 yn y prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Gwener dros 4 wythnos a bydd yn gyfwerth â chwblhau lefel gyfan. Mae gan ddysgwyr hefyd yr opsiwn i fynychu pythefnos o'r cwrs ond bydd hyn yn caniatáu iddynt gwblhau hanner lefel yn unig. Eleni fe wnaethom gynnal cyrsiau bloc ar gyfer Mynediad, Sylfaen a Chanolradd.

Nifer staff:

  • Mynediad: 15
  • Sylfaen: 10
  • Canolradd: 9
  • Cyfanswm: 34

Gloywi 

Fel rhan o'n cynnig hyfforddiant corfforaethol i ddatblygu sgiliau Cymraeg, mae gennym raglen o sesiynau gloywi wedi'u hanelu at gydweithwyr medrus sy'n siarad Cymraeg ac sy'n awyddus i wella eu sgiliau iaith. Mae'r rhaglen hon wedi'i harwain yn gyfan gwbl gan alw. Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno gan diwtor arbenigol ac mae’n datblygu'r rhaglen yn seiliedig ar y pynciau a ddewiswyd gan gyfranogwyr sydd â diddordeb.

Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 11

Cwrs Cymraeg lefel Croeso

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel modiwl ar-lein sydd yn cymryd 10 awr i'w gwblhau ac rydym yn caniatáu i ddysgwyr gwblhau'r dysgu yn eu hamser eu hunain (ond fel rhan o’u diwrnod gwaith) ac ar eu cyflymder eu hunain.  

Ar ddiwedd y cwrs, bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gallu:

  • dweud helo a chyflwyno ei hunain ar wahanol adegau o'r dydd.
  • defnyddio cyfarchion cychwynnol fel “John ydw i, dw i'n dysgu Cymraeg” ac ati.
  • ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog a chymryd neges.
  • trefnu a hwyluso cyfarfod.

Rhan un: 4
Rhan dau: 3

E-ddysgu Cymraeg arall

  • Gwella eich cymraeg: Rhan 1 - 4
  • Gwella eich cymraeg: Rhan 2 - 2
  • Croeso yn ôl: Rhan 1 - 10
  • Croeso yn ôl: Rhan 2 - 1
  • Croeso: Rhan 1 - 19
  • Croeso: Rhan - 3
  • Cyfanswm: 39

Kick Off Cymraeg

Mae Kick Off Cymraeg yn sesiwn rithwir tair awr sy'n caniatáu i gyfranogwyr drafod y Gymraeg a strategaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'i defnydd mewnol – 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd'. Mae'r sesiwn yn archwilio hanfod y Gymraeg a'i harwyddocâd yng Nghymru. Mae'r pynciau'n cynnwys:

  • Eich taith iaith
  • Beth yw iaith a sut y cyrhaeddon ni yma a
  • Y rhan rydych chi'n ei chwarae o fewn Llywodraeth Cymru

Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 19

Ynganu Cymraeg

Nod y cwrs Ynganu Cymraeg yw cefnogi gweithwyr drwy ddatblygu eu hyder a rhoi cyfle iddynt ymarfer ynganu geiriau ac ymadroddion Cymraeg. Nod y cwrs yw sicrhau bod cyfranogwyr wedi’u galluogi i osod esiampl o ran rhoi cynnig arni a dysgu ar y cyd. Cyfeirir staff ar ddiwedd y cwrs at y camau nesaf yn eu siwrne i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 25

Cyrsiau preswyl

Gall staff Llywodraeth Cymru archebu cyrsiau dwys yn Nant Gwrtheyrn drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg preswyl ar gael ar wahanol lefelau dysgu, o Fynediad i Gloywi. Mae'r rhain yn gyrsiau dwys o oddeutu 5 awr o hyfforddiant y dydd dros gyfnod o hyd at 5 diwrnod ac yn cynnwys cyfleoedd i gymdeithasu ac ymlacio drwy’r Gymraeg hefyd.

Cyfanswm y staff a fynychodd gwrs preswyl: 3

Y Dystysgrif Sgiliau Iaith

Eleni fe wnaethom gynnal cwrs y Dystysgrif Sgiliau Iaith eto ar gyfer siaradwyr ar lefel hyfedredd. Roedd y cwrs yn cynnwys wythnos preswyl o diwtora ac adolygu yn Nant Gwrtheyrn ac yna arholiadau ychydig wythnosau'n ddiweddarach ddechrau Mai 2025. Mae'r Dystysgrif yn dangos y gallu i gyfathrebu'n gywir, yn hyderus ac yn broffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae'r asesiadau wedi'u cynllunio'n arbennig i brofi'r sgiliau iaith a fydd eu hangen wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.  Mae cynllun yn ei le i dracio defnydd iaith cohort y Dystysgrif ar ôl iddynt gwblhau’r cwrs er mwyn asesu eu defnydd o’r Gymraeg yn ôl yn y gwaith.  

Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 7 (ar hyn o bryd yn aros am ganlyniadau yr arholiad.)

Addysgu siaradwyr Cymraeg i siarad â dysgwyr

Eleni trefnwyd sesiynau awr, a oedd yn gymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb a rhithwir, gyda Helen Prosser, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Archwiliodd a thrafododd Helen pa bethau allweddol y mae angen i siaradwyr Cymraeg eu gwybod er mwyn bod yn gaffaeliad i rywun sy'n dysgu Cymraeg.

Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 23

Cadeirio Dwyieithog a Chynnal Digwyddiadau a Chyfarfodydd Dwyieithog

Eleni treialwydcwrs newydd i'n staff. Cyflwynir y cwrs hwn gan Iaith cyf. ac mae'n sesiwn ddwyieithog wedi'i hanelu at y rhai sydd am ddysgu sut i gadeirio, cynnal neu fynychu cyfarfod dwyieithog. Rydym wedi rhedeg dau beilot ac wedi trefnu dau arall i gael eu cynnal ym mis Mai.

Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 14

Clwb Cymraeg

Sesiynau sgwrsio anffurfiol a elwir yn "Clwb Cymraeg" – mae'r sesiynau anffurfiol hyn yn cael eu hwyluso gan diwtor yn wythnosol ac mae pob sesiwn ar gyfer lefel benodol.  Mae’r sesiynau hyn yn agored i bob aelod o staff, nid dim ond dysgwyr sy’n dilyn rhaglen ddysgu ffurfiol, er mwyn darparu cyfleodd iddynt ddefnyddio eu Cymraeg.

Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i roi cyfle i staff ymarfer eu Cymraeg mewn amgylchedd diogel ac adeiladol gyda thiwtor wrth law i gyfarwyddo a chefnogi.

Nifer y staff ar gyfartaledd sydd ym mhob sesiwn: 45

Sesiynau sefydlu

Mae’n ofynnol i bob aelod newydd o weithlu Llywodraeth Cymru ymgymryd â hyfforddiant sefydlu. Mae hyfforddwr y cwrs sefydlu corfforaethol yn defnyddio'r Gymraeg yn achlysurol drwy gydol y cwrs sy’n 4 rhan, ac mae'r Gymraeg yn thema allweddol drwyddi draw.

Fel rhan o'r ymsefydlu mae Tîm Safonau'r Gymraeg a'r Gwasanaeth Cyfieithu yn darparu sesiwn ymwybyddiaeth iaith yn ystod y cwrs. Mae hon yn sesiwn awr o hyd sy'n esbonio gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith, yn fewnol fel sefydliad dwyieithog ac yn allanol o ran ein hamcan i weld yr iaith yn ffynnu yn ein cymunedau. Mae’r cyfleoedd i ddysgu Cymraeg a datblygu eu sgiliau yn y gweithle hefyd yn cael eu hamlygu i staff newydd yn ystod y sesiwn. Mae gofynion Safonau'r Gymraeg yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r cwrs, a thrafodir sut mae'r Safonau'n effeithio ar waith dyddiol swyddogion. Mae'r Gwasanaeth Cyfieithu yn cyflwyno eu cylch gwaith ac yn atgoffa staff sut i gomisiynu gwaith cyfieithu a threfnu cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd.

Mynychwyr:

  • 12 Ebrill 2024: 12
  • 07 Mai 2024: 5
  • 19 Mehefin 2024: 4
  • 10 Gorffennaf 2024: 1
  • 16 Medi 2024: 14
  • 07 Hydref 2024: 9
  • 10 Rhagfyr 2024: 6
  • 16 Ionawr 2025: 10
  • 30 Ionawr 2025: 4
  • 19 Chwefror 2025: 14
  • 13 Mawrth 2025: 8
  • 28 Mawrth 2025: 25
  • Cyfanswm: 112

Mae hefyd cwrs sefydlu pwrpasol ar gyfer aelodau newydd o'r Cabinet, yr Uwch Wasanaeth Sifil a chyfarwyddwyr anweithredol Bwrdd Llywodraeth Cymru. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ein dyletswyddau statudol a'n hamcanion polisi yn ein strategaethau ar gyfer y Gymraeg, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg' a 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd, ystyriaethau gwaith dwyieithog, meddylfryd arweinyddiaeth, offer gweithio dwyieithog, gwasanaethau fel y Gwasanaeth Cyfieithu, a chyfleoedd dysgu Cymraeg. Mae'r rhain yn sesiynau 1:1 ac mae'r aelod staff newydd fel arfer yn cysylltu â'r Tîm Safonau i drefnu sesiwn. Cynhaliwyd 4 cyfarfod sefydlu Cymraeg eleni, 3 ar gyfer staff yr Uwch Wasanaeth Sifil, ac 1 ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet.

Gweithgareddau eraill: Wythnos Dydd Gŵyl Dewi

Unwaith eto eleni cynhaliwyd  digwyddiadau sy'n ymwneud â'r Gymraeg i staff i ddathlu dydd Gŵyl Dewi.

Nifer y mynychwyr digwyddiadau:

  • Sesiwn Ymdawelu a Chydfyfyrio: 15
  • Sesiwn Croeso Cymru – ‘Mewn hwyl mae ‘na hud’: 21
  • Eich profiad: Dysgwyr yn trafod eu Taith i Ddysgu Cymraeg: 31
  • Sesiwn blasu’r Gymraeg: 2
  • Sesiwn Galw Heibio – Y cynnig dysgu Cymraeg: 43
  • Sesiwn gyda’r Doctor Cymraeg: 92
  • Talwrn y Beirdd Staff y Llywodraeth: 62
  • Cyfanswm: 266

Rhwydwaith Cymraeg

Mae cyfanswm o 488 o staff Llywodraeth Cymru yn aelodau o'n rhwydwaith mewnol Cymraeg ar ein Lab Dysgu. A 321 o aelodau o'n rhwydwaith Cymraeg ar Microsoft Teams.

Nod y rhwydweithiau hyn yw darparu lle i staff ddysgu/siarad Cymraeg ymarfer a gwella eu hyder drwy gael sgyrsiau a rhannu'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant, cyfleoedd, cyfryngau ac ati gydag eraill.

Anogir yr holl ddysgwyr a staff newydd i ymuno â'r rhwydweithiau.

6. Data recriwtio

Nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebir sydd wedi'u categoreiddio fel swyddi sy'n gofyn am:

  1. Sgiliau Cymraeg Hanfodol
  2. Sgiliau Cymraeg i'w dysgu yn y rôl
  3. Sgiliau Cymraeg dymunol

Dyma ddata 2024-2025:

CategoriWedi hysbysebu’n fewnolWedi hysbysebu'n allanol
Hanfodol4326
I’w dysgu yn y rôl32
Dymunol1213174
Cyfanswm1259202

Penodiadau Cyhoeddus: Asesiadau Sgiliau Cymraeg

Mae’r holl rolau a apwyntir iddynt drwy broses penodiadau cyhoeddus Gweinidogion Cymru yn destun asesiad sgiliau Cymraeg. O'r 49 asesiad a gynhaliwyd eleni, cafodd 6 rôl eu categoreiddio fel rolau â’r Gymraeg yn hanfodol iddynt, a 43 gyda’r Gymraeg yn ddymunol. Mae pob asesiad yn destun proses craffu a chlirio gan Dîm Safonau’r Gymraeg.

Tablau

Sgiliau Cymraeg staff LlC (Data Arolwg Pobl - dadansoddiad llawn)

DyddiadDwi'n rhugl yn y GymraegDw i'n gallu siarad tipyn o GymraegDim ond ychydig bach o Gymraeg dwi'n gallu siaradGallaf ddweud ychtdig eiriau yn Gymraeg yn unigDwi'n methu siarad Cymraeg
Hydref 201416%7%16%31%30%
Chwefror 201617%7%15%32%30%
Hydref 201717%8%15%32%28%
Hydref 201817%8%15%32%28%
Chwefror 202017%8%18%33%24%
Hydref 202017%8%17%34%24%
Hydref 202116%8%18%34%23%
Hydref 202217%9%19%36%19%
Hydref 202317%9%20%35%19%
Hydref 202418%8%19%37%18/%

Dychwelyd at testun

Sgiliau Cymraeg staff LlC

DyddiadSgiliau uwchSgiliau sylfaenolDim sgiliau Cymraeg
Hydref 201423%47%30%
Chwefror 201624%47%30%
Hydref 201725%47%28%
Hydref 201825%47%28%
Chwefror 202025%51%24%
Hydref 202025%51%24%
Hydref 202125%53%23%
Hydref 202226%55%19%
Hydref 202325%55%19%
Hydref 202426%56%18%

Dychwelyd at testun