Adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg 2025 i 2026
Y 10fed adroddiad ar sut yr ydym yn sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’n ddeng mlynedd ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hadroddiad blynyddol cyntaf ar weithredu a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg (y safonau), yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r safonau’n nodi sut y mae’n rhaid i ni ystyried y Gymraeg a darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg i bobl Cymru mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Mae cydymffurfiaeth Gweinidogion Cymru â’r safonau yn un rhan o strategaeth cynllunio ieithyddol ehangach a fydd yn cynorthwyo’r Llywodraeth i gyflawni ei nodau ar gyfer 2050; y nod cyntaf yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i 1 miliwn a chynyddu’n sylweddol y defnydd o’r iaith o ddydd i ddydd, tra bod yr ail yn ymwneud ag arferion gwaith mewnol y Llywodraeth wrth i ni anelu at ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.
Gosodwyd hysbysiad cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg ar Weinidogion Cymru, ac mae’n rhestru’r safonau sy’n berthnasol i’w gweithgareddau. Gellir gweld yr Hysbysiad yma: Hysbysiad cydymffurfio Comisiynydd y Gymraeg.
1. Cydymffurfio â’r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau
1.1 Cyffredinol
Mae'r Safonau Cyflenwi Gwasanaeth yn nodi sut rydym yn darparu gwasanaethau a gwybodaeth i bobl Cymru yn Gymraeg. Ein nod bob amser yw sicrhau y gall pobl ymgysylltu â'u llywodraeth yn eu dewis iaith a darparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel ar bob achlysur.
Er mwyn gwneud hyn rydym yn parhau i weithredu rhwydwaith o gydlynwyr gwasanaeth dwyieithog, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sefydliad.
Mae'r cydlynwyr yn gyfrifol am gynorthwyo gyda’r gwaith o brif ffrydio’r Gymraeg ar draws y sefydliad, gan gynnwys:
- sicrhau bod Safonau'r Gymraeg, dan arweiniad Tîm Safonau'r Gymraeg, wedi gwreiddio yn y sefydliad, a
- sicrhau bod amcanion strategaeth Cymraeg 2050 yn cael eu prif ffrydio yng ngwaith polisi a deddfwriaeth y Llywodraeth.
1.2 Cwynion
Yn ystod y degfed flwyddyn o weithredu'r safonau, derbyniwyd 22 cwyn am wasanaethau Cymraeg Llywodraeth Cymru. Mae 6 o'r cwynion hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â Gweinidogion Cymru yn dod yn Weithredwyr Dewis Olaf masnachfraint rheilffordd Cymru a’r Gororau yn 2021, gwasanaeth sy’n cael ei weithredu gan Trafnidiaeth Cymru ddydd i ddydd.
O’r 20 cwyn a dderbyniwyd gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ni chynhaliwyd ymchwiliad mewn 11 achos, mae 2 ymchwiliad wedi dod i ben, ac mae 7 ymchwiliad yn parhau.
Derbyniwyd 2 gwyn yn uniongyrchol gan aelodau o'r cyhoedd a chawsant eu datrys ar unwaith o dan Gam 1 Polisi Cwynion Llywodraeth Cymru.
| Statws | Nifer |
|---|---|
| Ni chynhaliwyd ymchwiliad | 11 |
| Ymchwiliad wedi dod i ben | 2 |
| Ymchwiliad yn parhau | 7 |
| Cwynion gan y cyhoedd | 2 |
| Cyfanswm | 22 |
Trafnidiaeth Cymru (Rheilffyrdd)
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio i wella’r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir i gwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bysiau TrawsCymru yng Nghymru ers dod yn gyfrifol am y gwasanaethau. Mae'r gweithgareddau diweddar yn cynnwys y canlynol:
- Mae gwaith wedi digwydd i sicrhau gwybodaeth dwyieithog i gwsmeriaid, yn glywedol a gweledol, ar yr bob fflyd trên newydd – mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ddefnyddio'r Dosbarth 197 a Dosbarth 231 newydd ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, sy'n darparu cyhoeddiadau a gwybodaeth yn gwbl ddwyieithog. Erbyn hyn mae 77.1% o deithiau ar rhwydwaith yn cael eu gwneud ar y trenau newydd (mae hyn yn cyfateb i 31.7m o deithiau trên). Bydd trenau Dosbarth 197 newydd sbon yn cael eu cyflwyno ar Linell y Cambrian (Pwllheli i Birmingham) yn ddiweddarach yr hydref hwn, gan gynyddu ymhellach nifer y trenau newydd sy'n darparu gwasanaethau dwyieithog ar rwydwaith Cymru a'r Gororau.
- Mae cyhoeddiadau dwyieithog mewn gorsafoedd rheilffordd yn cael eu huwchraddio, gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith hwn wedi'i gwblhau.
- Datblygwyd prosiect i uno llwyfannau technolegol y cwmni, er mwyn sicrhau cysondeb a gwell gwasanaeth i ddefnyddwyr, gan gynnwys defnydd iaith cyson. Mae hyn yn cynnwys dod â phlatfformau cynllunio teithiau a oedd yn Saesneg yn unig i ben.
- Lansio fersiwn 2.0 o ap Trafnidiaeth Cymru, sy'n parhau i gynnig ap Cymraeg a’r gallu i ‘doglo’ rhwng y ddwy iaith yn hwylus.
- Darlledwyd ein pennod podlediad cyntaf yn y Gymraeg ac mae’r cwmni’n parhau i ddarparu cynnwys cyfryngau cymdeithasol dwyieithog ar bob platfform.
- Cefnogwyd digwyddiadau diwylliannol ar draws Cymru, gan gynnwys Tafwyl, Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Eisteddfod yr Urdd, Cronfa yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Darparwyd cefnogaeth sylweddol i’r Eisteddfod Genedlaethol (yn Wrecsam) gan gynnwys gwasanaeth trên (cariwyd bron i 10,000 o gwsmeriaid yn ystod yr wythnos), bws wennol i’r Maes (ar gyfer 23,500 o gwsmeriaid), croeso cynnes a dwyieithog i bawb i’r orsaf, presenoldeb ar y Maes a marchnata arbennig i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus.
- Arweiniodd ymgyrch a phartneriaeth lwyddiannus gyda'r canwr Al Lewis at 120K o ymweliadau ar draws yr holl gynnwys oedd yn rhan o’r ymgyrch ar-lein, gan hyrwyddo mynediad at gigs ar y trên. Mae Al yn parhau i weithio gyda’r cwmni i hyrwyddo Tafwyl a'r Eisteddfod
- Trên Mistar Urdd – cafodd trên ei enwi yn “Mistar Urdd” i nodi rhodd Trafnidiaeth Cymru i Gronfa’r Urdd ac i hyrwyddo’r Eisteddfod ym Mhort Talbot.
- Roedd Trafnidiaeth Cymru yn brif noddwr darllediad S4C o’r Eisteddfod Genedlaethol ac maent hefyd yn noddwr cyson o rhaglenni drama a chwaraeon ar S4C.
- Bu teithwyr ledled Cymru yn cael eu diddanu gan lu o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi wrth i Trafnidiaeth Cymru nodi’r achlysur gyda bwyd, cerddoriaeth ac ysbryd cymunedol. Roedd stondin fwyd yn gweini Caws Pôb traddodiadol y tu allan i orsaf Caerdydd Canolog, gyda Chôr Meibion Cwmbach yn perfformio gan droi un o orsafoedd prysuraf Cymru yn fan rhagorol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Hefyd roedd y dathliadau'n ymestyn ar hyd y rhwydwaith, gyda theithwyr ar lwybrau TrawsCymru T2, T3 a fflecsi ym Machynlleth a Dolgellau yn cael cynnig cacen gri gan staff.
- Cyflwynwyd mwy o sesiynau hyfforddi cynefino ac ymwybyddiaeth iaith i staff, gydag anogaeth i bawb i ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddynt. Ail lansiwyd gwersi Cymraeg i staff yn 2026.
2025-2026 cwynion yn ymwneud â Safonau'r Gymraeg
Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu pob cwyn dilys a dderbyniwyd am wasanaethau Cymraeg Llywodraeth Cymru (gan gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan drydydd partïon). Nodir pob cwyn a dderbyniwyd, gan wahaniaethu rhwng y rhai a arweiniodd at ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r rhai lle na fu angen ymchwilio ymhellach. Rhestrir hefyd y cwynion a dderbyniwyd yn uniongyrchol gan aelodau o’r cyhoedd. Pwrpas darparu’r tabl yw sicrhau tryloywder a rhoi darlun cyflawn o natur a chanlyniad y cwynion a godwyd.
| Cyfeiriad | Natur y gwyn | Categori’r Safon | Canlyniad |
|---|---|---|---|
| 1 | Cwyn am wallau ar ap a gwefan. (Trafnidiaeth Cymru) | Cyflenwi Gwasanaeth | Ni chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater. |
| 2 | Cwyn am wallau ar wefan. | Cyflenwi Gwasanaeth | Ymchwiliad wedi’i gynnal a chamau gweithredu i osgoi ailadrodd y mater ar waith. |
| 3 | Testun Cymraeg anghyflawn mewn datganiad. | Cyflenwi Gwasanaeth | Ni chynhaliwyd ymchwiliad. Cyngor wedi’i ddarparu gan y Comisiynydd ac wedi’u weithredu. |
| 4 | Cyhoeddiad uniaith Saesneg ar drên. (Trafnidiaeth Cymru) | Cyflenwi Gwasanaeth | Ni chynhaliwyd ymchwiliad. Cynllun gweithredu eisoes ar waith i fynd i’r afael â’r mater. |
| 5 | Diffyg gwasanaeth Cymraeg wyneb yn wyneb gan swyddogion. | Cyflenwi Gwasanaeth | Ni chynhaliwyd ymchwiliad. Cyngor wedi’i ddarparu gan y Comisiynydd ac wedi’i weithredu. |
| 6 | Gwallau yn y fersiwn Gymraeg o ddogfen ymateb i ymgynghoriad. | Cyflenwi Gwasanaeth | Cwyn gan aelod o’r cyhoedd. Cywirwyd y ddogfen, ac anfonwyd ymateb yn uniongyrchol at yr achwynydd. |
| 7 | Gwallau mewn fersiwn Gymraeg o dabl ar wefan. | Cyflenwi Gwasanaeth | Cwyn gan aelod o’r cyhoedd. Cywirwyd y tabl, ac anfonwyd ymateb yn uniongyrchol at yr achwynydd. |
| 8 | Gwall ar sgrin wybodaeth mewn gorsaf. (Trafnidiaeth Cymru) | Cyflenwi Gwasanaeth | Ni chynhaliwyd ymchwiliad. Camau gweithredu i osgoi ail adrodd y mater wedi’u gosod a’u gweithredu. |
| 9 | Anfonwyd neges destun Saesneg yn unig at aelod o’r cyhoedd. | Cyflenwi Gwasanaeth | Ni chynhaliwyd ymchwiliad. Cynllun gweithredu eisoes ar waith i fynd i’r afael â’r mater. |
| 10 | Awgrym o drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn perthynas â hunaniaeth gorfforaethol. | Cyflenwi Gwasanaeth | Ni chynhaliwyd ymchwiliad. |
| 11 | Darparwyd ymateb uniaith Saesneg drwy e-bost. (Trafnidiaeth Cymru) | Cyflenwi Gwasanaeth | Ni chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater. |
| 12 | Anfonwyd gohebiaeth uniaith Saesneg at unigolyn oedd yn ymgeisio am swydd. | Cyflenwi Gwasanaeth | Ni chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater. |
| 13 | Anfonwyd gohebiaeth uniaith Saesneg at dderbynnydd oedd â’r Gymraeg yn ddewis iaith.
| Cyflenwi Gwasanaeth | Ni chynhaliwyd ymchwiliad – y Comisiynydd yn fodlon fod camau eisoes wedi’u cymryd i ddatrys y mater. |
| 14 | Is-wefan yn uniaith Saesneg. (Trafnidiaeth Cymru) | Cyflenwi Gwasanaeth | Ni chynhaliwyd ymchwiliad. Cynllun gweithredu wedi’i gymeradwyo ac ar waith. |
| 15 | Diffyg ystyriaeth o’r Gymraeg mewn asesiad effaith yn ymwneud â Bil. | Llunio Polisi | Mae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau. |
| 16 | Cwyn am ddiffyg ystyriaeth o’r Gymraeg mewn dogfen ymgynghori ac asesiad effaith. | Llunio Polisi | Mae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau. |
| 17 | Cwyn fod proses recriwtio yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. | Gweithredol | Ni chynhaliwyd ymchwiliad. Cyngor wedi’i ddarparu gan y Comisiynydd. |
| 18 | Honiad o ddiffyg ystyriaeth o’r Gymraeg wrth baratoi deddfwriaeth. | Llunio Polisi | Mae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau. |
| 19 | Cwyn ynghylch cyhoeddiad sain a gwybodaeth ar sgrin uniaith Saesneg ar drên. (Trafnidiaeth Cymru) | Cyflenwi Gwasanaeth | Ymateb wedi’i gyflwyno. Dim penderfyniad eto ynghylch ymchwilio gan y Comisiynydd. |
| 20 | Honiad o ddiffyg ystyriaeth o’r Gymraeg wrth baratoi deddfwriaeth. | Llunio Polisi | Mae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau. |
| 21 | Cwyn nad oedd asesiad effaith ar y Gymraeg yn rhan o ymgynghoriad. | Llunio Polisi | Mae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau. |
| 22 | Cwyn ynghylch nifer o wallau Cymraeg wrth gyflwyno cais ar wefan. | Cyflenwi Gwasanaeth | Mae ymchwiliad y Comisiynydd yn parhau. |
2. Cydymffurfio â'r Safonau Llunio Polisi
2.1 Cyffredinol
'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr' yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a hwyluso defnydd o'r Gymraeg. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'r ymrwymiad yn strategaeth Cymraeg 2050 yn dangos bod y Gymraeg yn flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld y Gymraeg yn ffynnu, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n siarad ac yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.
Mae'r safonau llunio polisi yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru:
- ystyried effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg (cadarnhaol a negyddol)
- ystyried sut i gynyddu effeithiau positif, lliniaru neu leihau effeithiau andwyol a manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg
- gofyn am farn ar yr effeithiau ar y Gymraeg wrth ymgysylltu neu ymgynghori a cheisio barn siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr yr iaith.
Mae gan Lywodraeth Cymru fframwaith asesu effaith integredig ar waith. Pwrpas y fframwaith yw rhoi cyngor i staff ar ystyried ystod o bynciau, gan gynnwys y Gymraeg, wrth wneud penderfyniadau polisi. Mae'r fframwaith yn tywys staff drwy'r broses o ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae'r asesiad effaith ar y Gymraeg yn un o'r asesiadau statudol, gorfodol y mae'n rhaid i swyddogion eu cwblhau wrth ddatblygu, adolygu neu ddiwygio polisïau a deddfwriaeth.
2.2 Cwynion
Derbyniwyd 5 cwyn ynghylch gweithredu’r Safonau Llunio Polisi yn 2025-2026 gan swyddfa’r Comisiynydd. Ni dderbyniwyd cwyn gan aelodau’r cyhoedd yn uniongyrchol.
3. Cydymffurfio â'r safonau gweithredol
3.1 Datblygu polisi ar ddefnydd mewnol o'r Gymraeg
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweld prif ffrydio’r Gymraeg o fewn y sefydliad, a gweld rhagor o gyfleoedd i’n staff ei defnyddio yw ‘Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd’. Lansiwyd y strategaeth yn Ebrill 2020, a’r themâu sy’n sail i weithredu’r strategaeth yn ystod ei phum mlynedd cyntaf yw:
- arweinyddiaeth
- recriwtio
- hyfforddiant
- thechnoleg.
Mae’r strategaeth yn gosod gweledigaeth hirdymor hyd at 2050, gyda threfniadau i’w hadolygu’n rheolaidd a chyfres o amcanion pum mlynedd i sicrhau cynnydd parhaus. Yn ystod y cyfnod cyntaf, gosodwyd y nod o ddod yn sefydliad esiampl o ran cynyddu defnydd mewnol o’r Gymraeg, a chymerwyd camau i rannu’r weledigaeth ac ysbrydoli sefydliadau eraill.
Gwnaed cynnydd sylweddol rhwng 2020 a 2025, yn enwedig drwy gryfhau darpariaeth dysgu, cynyddu nifer y staff sy’n dysgu Cymraeg, a hyrwyddo defnydd y Gymraeg gan arweinwyr a staff. Cyflwynwyd newidiadau i recriwtio a datblygu, ynghyd â mentrau technolegol i hwyluso gweithio dwyieithog.
Gan edrych ymlaen at gyfnod 2026–2030, bydd y ffocws ar ddatblygu polisïau recriwtio, hyfforddi a dyrchafu sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gyda’r nod o adeiladu gweithlu dwyieithog erbyn 2050. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan ddadansoddi data sgiliau a modelu’r newid sydd ei angen i gyrraedd nod 2050.
Bydd y gwaith yn parhau trwy bum prif thema: arweinyddiaeth, dysgu, recriwtio, technoleg, a chynyddu hyder a defnydd o’r Gymraeg.
3.2 Cwynion
Derbyniwyd 1 cwyn ynghylch gweithredu’r Safonau Gweithredol gan Swyddfa’r Comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd.
4. Data sgiliau Cymraeg
31 Mawrth 2026
| Darllen | Siarad | Deall | Ysgrifennu | |
|---|---|---|---|---|
| 0 | 1859 (34%) | 2415 (45%) | 2027 (38%) | 2708 (50%) |
| 1 | 1623 (30%) | 1401 (26%) | 1407 (26%) | 1208 (22%) |
| 2 | 528 (10%) | 314 (6%) | 607 (11%) | 345 (6%) |
| 3 | 367 (7%) | 224 (4%) | 255 (5%) | 342 (6%) |
| 4 | 326 (6%) | 274 (5%) | 321 (6%) | 326 (6%) |
| 5 | 791 (15%) | 855 (16%) | 885 (16%) | 521 (10%) |
31 Mawrth 2025
| Darllen | Siarad | Deall | Ysgrifennu | |
|---|---|---|---|---|
| 0 | 1814 | 2299 | 1970 | 2613 |
| 1 | 1464 | 1287 | 1246 | 1100 |
| 2 | 481 | 295 | 566 | 327 |
| 3 | 345 | 202 | 231 | 317 |
| 4 | 310 | 268 | 309 | 308 |
| 5 | 721 | 784 | 816 | 461 |
Arolwg Pobl
Mae'r Arolwg Pobl yn arolwg sydd yn cael ei gynnal ar draws y Gwasanaeth Sifil a gofynnir i bob aelod o staff yn Llywodraeth Cymru ei gwblhau'n flynyddol drwy gyfrwng arolwg electroneg dienw. Mae’r arolwg yn cael ei addasu at ddibenion Llywodraeth Cymru gyda chwestiynau penodol sy'n ymwneud â gweithio i'r sefydliad, gan gynnwys cwestiynau ynghylch sgiliau’r Gymraeg a defnydd iaith yn y gweithle.
Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi wedi darparu canlyniadau ar gyfer sgiliau Cymraeg ar sail canlyniadau Arolwg Pobl 2025 ar ffurf tablau.
Sgiliau Cymraeg – Arolwg Pobl 2025
Mae data sgiliau yn yr Arolwg Pobl yn seiliedig ar y cwestiwn canlynol:
Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio orau eich gallu mewn Cymraeg llafar?
- Dwi'n rhugl yn y Gymraeg
- Dw i'n gallu siarad tipyn o Gymraeg
- Dim ond ychydig bach o Gymraeg dwi'n gallu siarad
- Gallaf ddweud ychydig eiriau yn Gymraeg yn unig
- Dw i'n methu siarad Cymraeg
| Lefel Sgiliau Iaith Gymraeg | Canran y staff |
|---|---|
| Rwy’n rhugl yn y Gymraeg | 18% |
| Dwi’n gallu siarad tipyn o Gymraeg | 9% |
| Dim ond ychydig o Gymraeg dwi’n siarad | 22% |
| Gallaf ddweud ychydig eiriau yn Gymraeg | 35% |
| Methu siarad Cymraeg | 16% |
| Cyfanswm | 100% |
Lefelau sgiliau Cymraeg: canrannau staff
| Lefel Sgiliau Cymraeg | Canran y staff |
|---|---|
| Sgiliau uwch | 27% |
| Sgiliau sylfaenol | 57% |
| Dim sgiliau Cymraeg | 16% |
| Cyfanswm | 100% |
5. Data Rhaglen Ddysgu’r Gymraeg 2025-2026
Ymgysylltiad cyffredinol â gwersi Cymraeg
- Dosbarthiadau Wythnosol: 216
- Dysgu 1:1: 55
- Dysgu Cyfunol: 48
- Cwrs Bloc Dwys: 12
- Tystysgrif Sgiliau Iaith: 7
- Gloywi: 24
- Codi Hyder: 29
- Cwrs Cymraeg Proffesiynol: 17
- Cyrsiau Preswyl: 13
- Ynganu Cymraeg: 6
- Kick Off Cymraeg: 6
- Clwb Cymraeg: 52
- Cadeirio'n Ddwyieithog a Chynnal Digwyddiadau a Chyfarfodydd Dwyieithog: 28
- Cyrsiau Byr Swyddfa Breifat (asesiad lefel sgiliau cychwynnol): 87
- Dysgu a Sgiliau Cymraeg: Cefnogi Eich Datblygiad Iaith yn 2025: 96
- Y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru – Sesiynau Cynefino: 279
- Gweithio'n Ddwyieithog – Sesiynau Cynefino Pwrpasol Swyddfa'r Cabinet: 15
- Sesiynau Cynefino Cymraeg Uwch Wasanaeth Sifil: 1
- Cyfanswm: 991
Mae hyn yn gynnydd o 338 o’r llynedd. Gellir dod o hyd i ddadansoddiad o'r tabl uchod isod.
Data gwersi wythnosol
Mae ein dosbarthiadau wythnosol yn seiliedig ar y cwricwlwm Dysgu Cymraeg gyda chyrsiau ar gael ledled Cymru. Mae ceisiadau'n agor ym mis Ebrill gyda chyrsiau'n dechrau ym mis Medi ac yn rhedeg hyd at fis Rhagfyr, ac yna rydym yn cynnig tymor ar wahân sy'n dechrau ym mis Ionawr ac yn dod i ben ym mis Mai. Gall dysgwyr ddewis rhwng dosbarthiadau dwy neu bedair awr yr wythnos. Mae dosbarthiadau ar gael o ddechreuwr i fedrus.
| Dosbarthiadau wythnosol Medi 2025 & Ionawr 2026 | Cyfanswm | Mynediad | Sylfaen | Canolradd | Uwch | Hyfedredd |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Ceisiadau | 428 | 218 | 92 | 45 | 49 | 24 |
| Cofrestru | 345 | 181 | 87 | 30 | 41 | 6 |
| Yn dal i ddysgu ym Mawrth 2026 | 216 | 108 | 58 | 24 | 23 | 3 |
| Tynnu'n ôl ers cofrestru | 129 | 73 | 29 | 6 | 18 | 3 |
| Tynnu’n ôl cyn cofrestru | 83 | 37 | 5 | 15 | 8 | 18 |
Tiwtora 1:1
Mae tiwtora 1:1 ar gael i'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu Cymraeg (ADY) a darperir sesiynau wedi'u teilwra yn seiliedig ar anghenion a gofynion dysgu yr unigolion. Mae hyfforddiant 1:1 hefyd ar gael i bob aelod o'r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS).
- Uwch Wasanaeth Sifil: 42
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: 13
- Cyfanswm: 55
Dysgu cyfunol
Yn dilyn adborth gan diwtoriaid a dysgwyr am hunan-astudio ar-lein (lle mae dysgwyr yn cwblhau eu dysgu yn eu hamser eu hunain ar eu cyflymder eu hunain), dechreuom ddull cyfunol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-2026. Mae'r dosbarthiadau yn cyfuno hunan-astudio ar-lein gyda monitro a mentora ysbeidiol gan diwtoriaid, gan roi rhyddid i ddysgwyr gwblhau dysgu ar eu cyflymder eu hunain wrth geisio cymorth a gwirio cynnydd gyda thiwtor o bryd i'w gilydd. Cynigiwyd dysgu cyfunol o lefel Mynediad hyd at lefelau Uwch.
Nifer y dysgwyr:
- Mynediad: 34
- Sylfaen: 9
- Canolradd: 3
- Uwch: 2
- Cyfanswm: 48
Cwrs bloc
Mae ein cyrsiau bloc dwys yn cael eu rhedeg yn seiliedig ar bedair lefel sydd ar gael o Mynediad i Uwch. Mae'r cwrs yn dilyn yr un cwricwlwm â'n cynnig dosbarth wythnosol uchod ond mae'n cael ei grynhoi i 20 diwrnod llawn o hyfforddiant dros bedair wythnos. Mae'r cwrs wedi'i strwythuro rhwng 9:00am-3:00pm, dydd Llun-dydd Gwener dros bedair wythnos ac mae'n cyfateb i gwblhau lefel gyfan. Mae gan ddysgwyr hefyd yr opsiwn i fynychu pythefnos o'r cwrs, gan ganiatáu iddynt gwblhau hanner lefel. Eleni cynhaliwyd cyrsiau bloc ar gyfer lefelau Mynediad a Sylfaen.
Nifer y dysgwyr:
- Mewngofnodi: 7
- Sylfaen: 5
- Cyfanswm: 12
Tystysgrif Sgiliau Iaith
Mae'r cwrs hwn ar gyfer siaradwyr Cymraeg medrus. Mae’n cynnwys wythnos o diwtora ac adolygu yn Nant Gwrtheyrn ac yna arholiadau ychydig wythnosau'n ddiweddarach. Mae'r Dystysgrif yn dangos gallu i gyfathrebu'n gywir, yn hyderus ac yn broffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae'r asesiadau wedi'u cynllunio i brofi sgiliau wrth ddefnyddio Cymraeg yn y gwaith. Ni chynhaliwyd y cwrs yn 2025-2026, fodd bynnag, cwblhaodd 7 aelod o staff y cwrs yn 2024-2025 a derbyniont eu canlyniadau yn 2025-2026.Mae cynllun yn ei le i dracio defnydd iaith cohort y Dystysgrif ar ôl iddynt gwblhau’r cwrs er mwyn asesu eu defnydd o’r Gymraeg yn ôl yn y gwaith.
Gloywi
Fel rhan o'n cynnig hyfforddiant Cymraeg corfforaethol, mae cynigir rhaglen o sesiynau gloywi wedi'u hanelu at gydweithwyr medrus sy'n siarad Cymraeg sy'n awyddus i wella eu sgiliau iaith llafar ac ysgrifenedig yn gyffredinol. Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno gan diwtor arbenigol sy'n datblygu'r rhaglen yn seiliedig ar y pynciau a ddewiswyd gan y mynychwyr.
Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 24
Codi Hyder
Mae'r opsiwn hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sydd â sgiliau Cymraeg sydd wedi cael cyfleoedd cyfyngedig i ddefnyddio Cymraeg neu sydd wedi colli hyder oherwydd diffyg ymarfer. Ei nod yw ailadeiladu hyder a newid arferion ieithyddol, gan alluogi cyfranogwyr i ddefnyddio Cymraeg yn fwy naturiol mewn cyd-destunau teuluol, cymdeithasol a gwaith bob dydd. Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno dros 20 i 30 awr, mewn 10 i 15 sesiwn o ddwy awr wythnosol.
Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 29
Cwrs Cymraeg Proffesiynol
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at siaradwyr medrus, i helpu i fireinio eu sgiliau ysgrifennu a chyfathrebu Cymraeg mewn gweithle dwyieithog.
Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 17
Cyrsiau preswyl
Gall staff Llywodraeth Cymru archebu cyrsiau dwys yn Nant Gwrtheyrn drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg preswyl ar gael ar wahanol lefelau dysgu, o Fynediad i Gloywi. Mae'r rhain yn gyrsiau dwys o oddeutu 5 awr o hyfforddiant y dydd dros gyfnod o hyd at 5 diwrnod. Mae hyn yn golygu ymrwymiad o amser dros gyfnod o wythnos ond yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn gyflym. Mae'r elfen breswyl hefyd yn cynnwys cyfleoedd i gymdeithasu ac ymlacio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 13
Ynganu Cymraeg
Cwrs ymarferol i fagu hyder wrth ynganu a defnyddio’r Gymraeg yw hwn. Mae cyfranogwyr yn ymarfer geiriau allweddol, ymadroddion, enwau ac enwau lleoedd, archwilio heriau ynganu cyffredin, ac yn cael cyngor ymarferol i gefnogi defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Mae'r cwrs yn annog dull cadarnhaol, cynhwysol o roi cynnig arni.
Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 6
Kick off Cymraeg
Mae Kick Off Cymraeg yn sesiwn rithwir tair awr sy'n caniatáu i gyfranogwyr archwilio'r iaith Gymraeg a strategaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'i defnydd mewnol – 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd'. Mae'r sesiwn yn cynnwys hanfod yr iaith Gymraeg a'i harwyddocâd yng Nghymru. Mae'r pynciau'n cynnwys
- Eich taith iaith
- Beth yw iaith a sut y cyrhaeddon ni yma
- Y rôl rydych chi'n ei chwarae o fewn Llywodraeth Cymru
Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 6
Clwb Cymraeg
Sesiynau sgwrsio anffurfiol o'r enw "Clwb Cymraeg" – mae'r sesiynau anffurfiol hyn yn cael eu hwyluso gan diwtor yn wythnosol, ac mae pob sesiwn ar gyfer lefel benodol. Mae'r sesiynau hyn yn agored i bob aelod o staff, nid dysgwyr sy'n dilyn rhaglen ddysgu ffurfiol yn unig, er mwyn rhoi cyfle iddynt ddefnyddio eu Cymraeg. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i roi cyfle i staff ymarfer eu Cymraeg mewn amgylchedd diogel ac adeiladol gyda thiwtor wrth law i gyfarwyddo a chefnogi.
Nifer y staff sy'n mynychu, ar gyfartaledd: 52
Cadeirio'n Ddwyieithog a Chynnal Digwyddiadau a Chyfarfodydd Dwyieithog
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan 'Iaith cyf.' ac mae'n sesiwn dwyieithog wedi'i anelu'n benodol at y rhai sydd eisiau dysgu sut i gadeirio, cynnal neu fynychu cyfarfod dwyieithog.
Nifer y staff a gwblhaodd y cwrs: 28
Rhaglen Ddysgu Pwrpasol Grŵp Swyddfa'r Prif Weinidog (OFM)
Am y tro cyntaf yn 2025-2026, buom yn gweithio gyda'r OFM a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar fodel o ddysgu i uwchsgilio staff Grŵp OFM mewn ffordd gyflym, gyda'r bwriad o gefnogi staff i ddysgu Cymraeg neu i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg presennol. Dechreuodd y rhaglen yng ngwanwyn 2025-2026 gyda'r gweithgareddau canlynol wedi'u cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2026:
Diddordeb cychwynnol
Mynegodd 111 o gydweithwyr o'r OFM (91) a ac 20 o’r proffesiwn Cyfathrebu ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y cynnig.
Asesiadau
Cynhaliwyd asesiadau gan diwtor cymwys o lefel sgiliau Cymraeg pob aelod o staff OFM a fynegodd ddiddordeb mewn bwrw ymlaen i ddysgu/gwella eu Cymraeg. Aeth 87 o staff ymlaen i gwblhau asesiadau lefel sgiliau iaith.
E-ddysgu / Cymraeg Croeso
Gan adeiladu ar yr e-ddysgu presennol 'Cymraeg Croeso', crëwyd fersiwn wedi'i deilwra i staff Llywodraeth Cymru a'i chynnig i staff OFM ar lefel Mynediad. Roedd y fersiwn wedi'i theilwra yn cynnwys geirfa benodol i Lywodraeth Cymru yn ogystal ag enghreifftiau o ynganu. Cwblhaodd 17 o staff yr e-ddysgu Cymraeg Croeso. Bydd y cynnig e-ddysgu yma’n cael ei gyflwyno i'r sefydliad ehangach yn 2026-2027.
Dysgu Bitesize
Cynigiwyd sesiynau 30 munud dewisol ddwywaith yr wythnos i staff OFM i adeiladu ar eu sgiliau Cymraeg presennol cyn cynnal blociau pythefnos o ddysgu dwys. Cymerodd 24 o staff ran yn y sesiynau dysgu bitesize.
Bydd y cyrsiau dysgu bloc dwys dilynol ar gyfer staff OFM a Chyfathrebu yn digwydd yn y flwyddyn ariannol newydd.
Dysgu a Sgiliau Cymraeg: Cefnogi Eich Datblygiad Iaith yn 2025
Sesiynau gwybodaeth anffurfiol yw'r rhain a ddarperir gan aelod o'r Tîm Dysgu a Datblygu Cymraeg, sy'n rhoi trosolwg o'r cyfleoedd dysgu Cymraeg sydd ar gael i staff Llywodraeth Cymru.
Nifer y staff a fynychwyd: 96
Sesiynau Cynefino: Y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru
Mae'n ofynnol i bob aelod newydd o weithlu Llywodraeth Cymru ymgymryd â hyfforddiant cynefino. Mae'r hyfforddwr cwrs cynefino corfforaethol yn defnyddio Cymraeg achlysurol trwy gydol y cwrs pedair rhan, ac mae Cymraeg yn thema allweddol drwy'r amser.
Fel rhan o'r cynefino, mae Tîm Safonau'r Gymraeg yn darparu sesiwn ymwybyddiaeth iaith. Mae hon yn sesiwn awr o hyd sy'n esbonio gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith, yn fewnol fel sefydliad dwyieithog ac yn allanol o ran ein nod i weld yr iaith yn ffynnu yn ein cymunedau. Mae cyfleoedd i ddysgu Cymraeg a datblygu eu sgiliau yn y gweithle hefyd yn cael eu hamlygu i staff newydd yn ystod y sesiwn. Mae gofynion Safonau'r Gymraeg yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r cwrs, a thrafodir sut mae'r Safonau'n effeithio ar waith dydd i ddydd swyddogion.
Nifer wedi'i cofrestru i'r sesiwn:
- 10 Ebrill 2025: 11
- 15 Mai 2025: 14
- 12 Mehefin 2025: 12
- 21 Gorffennaf 2025: 13
- 14 Awst 2025: 10
- 25 Medi 2025: 8
- 09 Hydref 2025: 23
- 12 Tachwedd 2025: 38
- 24 Tachwedd 2025: 13
- 01 Rhagfyr 2025: 16
- 11 Rhagfyr 2025: 13
- 22 Ionawr 2026: 17
- 29 Ionawr 2026: 19
- 25 Chwefror 2026: 29
- 13 Mawrth 2026: 29
- 25 Mawrth 2026: 14
- Cyfanswm: 279
Mae sesiwn gynefino bwrpasol hefyd ar gyfer aelodau newydd y Cabinet, yr Uwch Wasanaeth Sifil a chyfarwyddwyr anweithredol Bwrdd Llywodraeth Cymru. Mae'r sesiwn yn canolbwyntio ar ein dyletswyddau statudol a'n hamcanion polisi yn ein strategaethau ar gyfer Cymraeg, 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg' a 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd', ystyriaethau gwaith dwyieithog, meddylfryd arweinyddiaeth, offer gweithio dwyieithog, gwasanaethau fel y Gwasanaeth Cyfieithu, a chyfleoedd dysgu Cymraeg. Sesiynau 1:1 yw'r rhain ac mae'r aelod newydd o staff fel arfer yn cysylltu â Thîm Safonau'r Gymraeg i drefnu sesiwn. Cynhaliwyd un sesiwn cynefino Cymraeg eleni ar gyfer Uwch aelod o staff y Gwasanaeth Sifil.
Gweithio'n Ddwyieithog – Sesiwn Gynefino Bwrpasol Grŵp Swyddfa'r Prif Weinidog (OFM)
Yn ogystal â'r sesiynau cynefino uchod, cyflwynodd Tîm Safonau'r Gymraeg sesiwn arall i staff newydd Grŵp OFM. Trafododd y sesiwn hon yr offer a thechnoleg sydd ar gael i gefnogi staff sy'n gweithio yn Gymraeg a Saesneg.
Nifer y staff a fynychwyd: 15
Gweithgareddau eraill: Wythnos Dydd Gŵyl Dewi
Unwaith eto eleni, cynhaliwyd digwyddiadau yn ymwneud â'r Gymraeg i staff ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Nifer y staff a fynychodd y gwahanol sesiynau:
- AI a'r Gymraeg: 71
- Sesiwn Galw Heibio: Cynnig Dysgu Cymraeg Llywodraeth Cymru: 13
- Ymdawelu a Chydfyfyrio: 30
- Talwrn y Beirdd: 57
- Sgwrsio – trafodaeth gyda siaradwyr Cymraeg newydd yn Llywodraeth Cymru: 51
- Eisteddfod 850: 91
- Cyfanswm: 313
Rhwydwaith y Gymraeg
Nod y rhwydwaith yw darparu lle i staff sy'n dysgu / siarad Cymraeg ymarfer a gwella eu hyder drwy gael sgyrsiau a rhannu'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd hyfforddi, y cyfryngau, ac ati gydag eraill.
Mae cyfanswm o 321 o weithwyr Llywodraeth Cymru yn aelodau o'n Rhwydwaith Cymraeg mewnol Microsoft Teams. Anogir pob dysgwr a gweithiwr newydd i ymuno â'r rhwydwaith.
6. Data recriwtio
Nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebir sydd wedi'u categoreiddio fel swyddi sy'n gofyn am:
- Sgiliau Cymraeg Hanfodol
- Sgiliau Cymraeg i'w dysgu yn y rôl
- Sgiliau Cymraeg dymunol
Dyma ddata 2025-2026:
| Categori | Wedi hysbysebu’n fewnol | Wedi hysbysebu'n allanol |
|---|---|---|
| Hanfodol | 30 | 11 |
| I’w dysgu yn y rôl | 1 | 35 |
| Dymunol | 850 | 170 |
| Cyfanswm | 881 | 216 |
Penodiadau Cyhoeddus: Asesiadau Sgiliau Cymraeg
Mae’r holl rolau a apwyntir iddynt drwy broses penodiadau cyhoeddus Gweinidogion Cymru yn destun asesiad sgiliau Cymraeg. O'r 39 asesiad a gynhaliwyd eleni, cafodd 8 rôl eu categoreiddio fel rolau â’r Gymraeg yn hanfodol iddynt, a 31 gyda’r Gymraeg yn ddymunol. Mae pob asesiad yn destun proses craffu a chlirio gan Dîm Safonau’r Gymraeg.
Tablau
Sgiliau Cymraeg staff LlC (Data Arolwg Pobl - dadansoddiad llawn)
| Dyddiad | Dwi'n rhugl yn y Gymraeg | Dw i'n gallu siarad tipyn o Gymraeg | Dim ond ychydig bach o Gymraeg dwi'n gallu siarad | Gallaf ddweud ychtdig eiriau yn Gymraeg yn unig | Dwi'n methu siarad Cymraeg |
|---|---|---|---|---|---|
| Hydref 2014 | 16% | 7% | 16% | 31% | 30% |
| Chwefror 2016 | 17% | 7% | 15% | 32% | 30% |
| Hydref 2017 | 17% | 8% | 15% | 32% | 28% |
| Hydref 2018 | 17% | 8% | 15% | 32% | 28% |
| Chwefror 2020 | 17% | 8% | 18% | 33% | 24% |
| Hydref 2020 | 17% | 8% | 17% | 34% | 24% |
| Hydref 2021 | 16% | 8% | 18% | 34% | 23% |
| Hydref 2022 | 17% | 9% | 19% | 36% | 19% |
| Hydref 2023 | 17% | 9% | 20% | 35% | 19% |
| Hydref 2024 | 18% | 8% | 19% | 37% | 18/% |
| Hydref 2025 | 18% | 9% | 22% | 35% | 17% |
Lefelau sgiliau Cymraeg: canrannau staff (Data Arolwg Pobl - dadansoddiad llawn)
| Dyddiad | Sgiliau uwch | Sgiliau sylfaenol | Dim sgiliau Cymraeg |
|---|---|---|---|
| Hydref 2014 | 23% | 47% | 30% |
| Chwefror 2016 | 24% | 47% | 30% |
| Hydref 2017 | 25% | 47% | 28% |
| Hydref 2018 | 25% | 47% | 28% |
| Chwefror 2020 | 25% | 51% | 24% |
| Hydref 2020 | 25% | 51% | 24% |
| Hydref 2021 | 25% | 53% | 23% |
| Hydref 2022 | 26% | 55% | 19% |
| Hydref 2023 | 25% | 55% | 19% |
| Hydref 2024 | 26% | 56% | 18% |
| Hydref 2025 | 27% | 57% | 17% |
