Mae'r adroddiad yn edrych ar iechyd y genedl. Mae'n canolbwyntio ar ail flwyddyn pandemig COVID-19 ac yn ystyried yr heriau sydd o'n blaenau.
Dogfennau

Adfer ein hiechyd: Prif Swyddog Meddygol Cymru adroddiad blynyddol Mehefin 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
PDF
4 MB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Manylion
Mae'r adroddiad yn cynnwys pedair pennod sy'n ymdrin ag:
- effaith newid yn yr hinsawdd ar iechyd y cyhoedd
- ein poblogaeth sy'n heneiddio
- effeithiau'r pandemig ar gyfraddau marwolaethau a disgwyliad oes yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig
- effaith y pandemig ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol, y gwersi a ddysgwyd a ffyrdd newydd o weithio