Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell ym mis Medi 2024. Roedd yr adroddiad hwn yn darparu adolygiad trylwyr o achosion ac amgylchiadau'r drychineb. 

Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb Mae'r adroddiad hwn yn nodi tystiolaeth o'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gweithredu'r argymhellion a'r camau nesaf. 

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda llywodraethau eraill y DU i sicrhau aliniad ar argymhellion sy'n ymwneud â materion a gadwyd yn ôl ac ar faterion datganoledig lle mae'n gwneud synnwyr i gymryd ymagwedd ledled y DU.

Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud ochr yn ochr â'n rhaglen gynhwysfawr sy'n trawsnewid diogelwch adeiladau yng Nghymru. Yn ganolog i ddiwygiadau Llywodraeth Cymru mae'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), a fydd yn sefydlu fframwaith rheoleiddio cadarn i fynd i'r afael â rhai o'r methiannau systemig a nodwyd gan yr Ymchwiliad. Diogelwch a llesiant pobl yn eu cartrefi yw ein blaenoriaeth ni o hyd.

Rydym yn rhagweld y byddwn yn cyhoeddi ein diweddariad cynnydd nesaf yn ystod hydref 2026.

Diweddariad cryno ar yr ymateb i'r argymhellion

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma ar yr argymhellion. Wedi'u grwpio yn ôl themâu'r Ymchwiliad:

Y Diwydiant Adeiladu

Argymhelliad 1

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
1113.6Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
Argymhelliad

Bod y llywodraeth yn dwyn ynghyd, o dan un rheoleiddiwr, yr holl swyddogaethau sy’n ymwneud â’r diwydiant adeiladu yr ydym wedi cyfeirio atynt.

Diweddariad ar gynnydd 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i werthfawrogi dulliau a rennir - megis cofrestrau ar y cyd ar gyfer contractwyr a gweithwyr proffesiynol diogelwch tân, monitro rheoliadau adeiladu yn gyson, rhannu gwybodaeth‑yn well, a llyfrgell gyhoeddus unedig o ddata diogelwch. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaeth gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill ynglŷn â chreu rheoleiddiwr adeiladu, a allai gefnogi gwaith rheoleiddio adeiladu ledled y DU tra'n parchu pwerau datganoledig.

Rydym yn cynnal adolygiad o rôl y Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu (BRACW) i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â threfniadau rheoleiddio yn y dyfodol ac yn parhau i ddiogelu buddiannau Cymru.

Y Camau Nesaf

Ar hyn o bryd rydym yn ystyried prosbectws Single Construction Regulator Llywodraeth y DU a'r ymgynghoriad cysylltiedig. Byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben ac yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod unrhyw gynigion yn ystyried anghenion ac amgylchiadau Cymru yn llawn.

Rydym yn disgwyl cwblhau ein hadolygiad i BRACW pan fydd Llywodraeth newydd Cymru yn ei lle yn dilyn etholiad y Senedd.

Argymhelliad 2

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
2113.7Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Bod y diffiniad o adeilad risg uwch at ddibenion y Ddeddf Diogelwch Adeiladau yn cael ei adolygu ar frys.

Diweddariad ar gynnydd

Rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i gadw'r diffiniad presennol o "adeilad risg uwch" dan adolygiad parhaus ac i ystyried a allai dehongliad ehangach neu fwy cynhwysol fod yn briodol yn y dyfodol. Fel rhan o hynny, rydym yn parhau i fonitro datblygiadau yn Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill yn agos. Nodwn fod Lloegr wedi cyhoeddi ei adolygiad cychwynnol, a bod yr Alban ar hyn o bryd yn cynnal ei hadolygiad ei hun, yr ydym hefyd yn ei fonitro. Gallai unrhyw newidiadau posibl gan yr awdurdodaethau hyn gael goblygiadau sylweddol o ran rheoleiddio'r proffesiwn rheolaeth adeiladu.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i'r diffiniad presennol o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. O ystyried amseriad cyflwyno'r rheoliadau newydd yng Nghymru, mae'n bwysig bod y rhain yn cael y cyfle i sefydlu a bod gan y diwydiant amser i asesu eu heffeithiolrwydd cyn ystyried unrhyw ddiwygiadau sylweddol i'r diffiniad o Adeilad Risg Uwch (HRB). Byddwn wrth gwrs yn parhau i fod yn effro i unrhyw dystiolaeth newydd ddramatig neu gymhellol a allai godi.

Y Camau Nesaf

Ar ôl i ni gwblhau ein hasesiad o adolygiad cychwynnol Lloegr a'r gwaith sy'n cael ei wneud yn yr Alban, byddwn yn ystyried yn llawn a yw adolygiad penodol i Gymru o'r diffiniad presennol yn briodol. Rydym yn rhagweld bod mewn sefyllfa i gadarnhau ein camau nesaf erbyn diwedd 2026.

Argymhelliad 3

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
3113.8Ar waithLlywodraeth y DUAmherthnasol
Argymhelliad

Bod y llywodraeth yn rhoi’r cyfrifoldeb dros y swyddogaethau sy’n ymwneud â diogelwch tân – sy’n cael ei ysgwyddo ar hyn o bryd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG), y Swyddfa Gartref a’r Adran Busnes a Masnach – i un adran o dan un Ysgrifennydd Gwladol.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU, ac mae wedi ei dderbyn yn llawn. 

Yng Nghymru, cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yw pob mater diogelwch tân.

Argymhelliad 4

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
4113.9Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
Argymhelliad

Bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn penodi Prif Gynghorydd Adeiladu sydd â digon o gyllideb a staff i roi cyngor ar bob mater sy’n effeithio ar y diwydiant adeiladu, gan gynnwys:

  • monitro pob agwedd ar waith yr adran sy’n ymwneud â Rheoliadau Adeiladu a chanllawiau statudol
  • rhoi cyngor i’r Ysgrifennydd Gwladol ar gais, a
  • thynnu sylw’r Ysgrifennydd Gwladol at unrhyw faterion sy’n effeithio ar y Rheoliadau Adeiladu a’r canllawiau statudol, neu at faterion sy’n effeithio ar y diwydiant adeiladu’n fwy cyffredinol y dylai’r llywodraeth fod yn ymwybodol ohonynt

Diweddariad ar gynnydd 

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ac yn cwrdd â chymheiriaid o Lywodraeth y DU a'r Prif Gynghorydd Adeiladu dros dro i drafod datblygiad y rôl ar draws y pedair gwlad. 

Y Camau Nesaf

Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn penderfynu a ddylai Cymru benodi ei Phrif Gynghorydd Adeiladu ei hun, gan adlewyrchu'r dull sy'n cael ei gymryd yn yr Alban, neu a fyddai trefniadau llywodraethu amgen, megis ehangu cylch gwaith BRACW, yn diwallu ein hanghenion yn well. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn pennu'r dull a ffefrir o fewn tymor y Senedd nesaf, gan ystyried cyd-destun ehangach safbwynt Llywodraeth y DU. Bydd hefyd yn cydnabod yr angen am gydweithredu parhaus â llywodraethau datganoledig, ochr yn ochr â'r gofyniad i weithredu o fewn ffiniau materion sy'n parhau i fod yn bwerau i Lywodraeth y DU.

Argymhellion 5, 6, 7, 8, 9 ac 12

 

Rhif yr argymhelliad

 

Cyfeirnod yr ymchwiliad

 

Statws

 

Cyfrifoldeb

 

Derbyn

5113.11Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
6113.12Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
7113.13Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
8113.13Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
9113.14Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
12113.18Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhellion

5: Bod y canllawiau statudol yn gyffredinol, a Dogfen Gymeradwy B yn benodol, yn cael eu hadolygu yn briodol, a bod fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo modd.

6: Bod fersiwn ddiwygiedig o’r canllawiau yn cynnwys rhybudd clir ym mhob adran bod y gofynion cyfreithiol wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau Adeiladu, ac na fydd cydymffurfio â’r canllawiau o reidrwydd yn arwain at gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol.

7: Yn sgil deunyddiau a dulliau adeiladu newydd, a’r arfer o osod haen newydd o gladin (overcladding) ar adeiladau sydd eisoes yn bodoli, mae adrannu effeithiol yn rhagdybiaeth ddadleuol ac rydym yn argymell y dylid ailystyried hynny wrth ddiwygio Dogfen Gymeradwy B.

8: Mae amcangyfrif pa mor gyflym mae tân yn debygol o ledaenu a’r amser sydd ei angen i wagio’r adeilad, gan gynnwys cael pobl sydd ag amhariadau corfforol neu feddyliol allan o’r adeilad, yn faterion i beiriannydd tân cymwys. Nid ydym yn credu y byddai’n ddefnyddiol ceisio cynnwys yn Nogfen Gymeradwy B syniad o’r hyn a fyddai’n dderbyniol gan fod pob adeilad yn wahanol, ond rydym yn argymell bod y canllawiau’n tynnu sylw at yr angen i amcangyfrif hynny.

9: I’r graddau y bo modd, y dylai aelodau cyrff sy'n rhoi cyngor ar newidiadau i'r canllawiau statudol gynnwys cynrychiolwyr o'r gymuned academaidd yn ogystal â'r rheini sydd â phrofiad ymarferol o'r diwydiant (gan gynnwys peirianwyr tân) a ddewiswyd oherwydd eu profiad a'u sgiliau, a dylai'r aelodaeth gynnwys mwy na dim ond y rheini sydd wedi gwasanaethu ar gyrff tebyg yn y gorffennol.

12: Dylid bod yn ofalus gyda BS 9414, ac rydym yn argymell bod y llywodraeth yn dweud yn glir na ddylid ei ddefnyddio yn lle asesiad gan beiriannydd tân sydd â chymwysterau addas.

Diweddariad ar gynnydd

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR) ac yn monitro'r gwaith o ddatblygu cynigion Dogfen Gymeradwy B yn Lloegr, a fydd wedyn yn cael eu hystyried ar gyfer ymgynghoriad yng Nghymru yn y dyfodol. 

Mewn perthynas ag Argymhellion 5 a 6, mae Llywodraeth y DU wedi cynnull panel (sy'n cynnwys aelod o Lywodraeth Cymru) i adolygu canllawiau Rheoliadau Adeiladu. Dechreuodd cyfarfodydd panel ym mis Tachwedd 2025 a disgwylir argymhellion o'r adolygiad o fewn deuddeg mis.

Mewn perthynas ag Argymhelliad 9, mae cwmpas BRACW yn cael ei adolygu. Ar hyn o bryd rydym yn ailbenodi aelodau a Chadeirydd, ac ar ôl hynny byddwn yn ailystyried ei gylch gorchwyl. 

Y Camau Nesaf

Rydym yn disgwyl ymgynghori ar newidiadau pellach i Ddogfen Gymeradwy B erbyn diwedd eleni.

Argymhelliad 10

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
10113.15Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Ei gwneud yn ofyniad statudol i strategaeth diogelwch tân sy’n cael ei pharatoi gan beiriannydd tân cofrestredig gael ei chyflwyno gyda cheisiadau rheolaeth adeiladu (ym Mhorth 2) ar gyfer adeiladu neu adnewyddu unrhyw adeilad risg uwch, a’i bod yn cael ei hadolygu a’i hailgyflwyno ar y cam cwblhau (Porth 3). Rhaid i strategaeth o’r fath ystyried anghenion pobl agored i niwed, gan gynnwys yr amser ychwanegol y gallai fod ei angen arnynt i adael yr adeilad neu i gyrraedd man diogel o fewn yr adeilad, ac unrhyw gyfleusterau ychwanegol sydd eu hangen i sicrhau eu bod yn ddiogel.

Diweddariad ar gynnydd

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar yr argymhelliad hwn ac yn mynychu'r panel cynghori peirianneg tân fel arsylwr, sydd wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr a manwl i ni o'r gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Y camau nesaf

Byddwn yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol â rhanddeiliaid ehangach i benderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o ymgorffori'r argymhellion hyn ym mhrosesau'r Porth, unwaith y bydd penderfyniad terfynol wedi'i wneud ar reoleiddio'r proffesiwn peirianneg tân.

Argymhelliad 11

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
11113.17Ar waithY Sefydliad Safonau Prydeinig.Mewn egwyddor
Argymhelliad

Mae’n anodd asesu a all wal allanol gefnogi strategaeth gadael benodol oherwydd nad yw’r wybodaeth angenrheidiol ar gael bob amser. Rydym felly’n argymell bod camau’n cael eu cymryd ar y cyd â’r gymuned broffesiynol ac academaidd i ddatblygu dulliau profi newydd a fydd yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i asesiadau o’r fath gael eu cynnal mewn ffordd ddibynadwy.

Diweddariad ar gynnydd 

Fel aelodau gweithredol o sawl panel Sefydliad Safonau Prydain (BSI) a Gweithgor Diogelwch Tân Rhan B y Pwyllgor Cynghori ar Adeiladu (BAC), rydym yn monitro cynnydd drwy'r sianeli hyn. Disgwylir y bydd y BSR yn Lloegr yn cyhoeddi ymgynghoriad cyn bo hir ar newidiadau pellach i Ddogfen Gymeradwy B. 

Y Camau Nesaf

Byddwn yn adolygu cynigion ymgynghori'r BSR ac yn edrych i ystyried eu cynnwys yn ein hadolygiad o Ddogfen Gymeradwy B yn ddiweddarach eleni. 

Argymhellion 13 ac 14 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
13113.22Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
14113.23Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
Argymhelliad

13. Y dylai’r rheoleiddiwr adeiladu fod yn gyfrifol am asesu a yw cynnyrch adeiladu yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth, canllawiau statudol a safonau’r diwydiant, ac am gyhoeddi tystysgrifau fel y bo’n briodol. Dylem ddisgwyl i dystysgrifau o’r fath fod yn flaenllaw yn y farchnad.

14. Bod copïau o holl ganlyniadau profion sy'n ategu unrhyw dystysgrif a gyhoeddir gan y rheoleiddiwr adeiladu yn cael eu cynnwys yn y dystysgrif; 

  • bod rhaid i weithgynhyrchwyr roi i'r rheoleiddiwr adeiladu holl hanes profi'r cynnyrch neu'r deunydd sy’n berthnasol i’r dystysgrif, a rhoi gwybod i'r rheoleiddiwr am unrhyw amgylchiadau perthnasol a allai effeithio ar ei berfformiad
  • ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i weithgynhyrchwyr ddarparu copïau ar gais o holl ganlyniadau profion sy’n ategu honiadau am berfformiad tân a wneir ar gyfer eu cynnyrch

Diweddariad ar gynnydd

Rydym yn parhau i drafod â Llywodraeth y DU, gan gyfrannu at ddatblygu diwygiadau yn y dyfodol o safbwynt rheoleiddio cynnyrch a chyfundrefnau profi. Rydym yn rhan o weithgorau perthnasol, i sicrhau ymagwedd gydlynol at ardystio cynnyrch. Yn ddiweddar, mae'r Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y rheoleiddiwr newydd ac wedi nodi ei fod yn gweithio gyda'r Rheoleiddiwr Cenedlaethol ar gyfer Cynhyrchion Adeiladu (NRCP) i sefydlu sut y bydd gwaith rheoleiddio cynhyrchion adeiladu yn cael ei gyflawni trwy'r rheoleiddiwr newydd. Ym mis Chwefror 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Papur Gwyrdd ar Ddiwygio Cynhyrchion Adeiladu, a oedd yn cydnabod faint o heriau oedd yn y system gyfan ac yn nodi'r angen am ddiwygio pellach i fynd i'r afael â nhw. Mae wedi ymrwymo i gyflwyno Papur Gwyn ar Ddiwygio Cynhyrchion Adeiladu erbyn gwanwyn 2026, sy'n nodi cynlluniau ar gyfer y diwygiad hwn. Cyfrifoldeb y rheoleiddiwr adeiladu o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 fyddai unrhyw swyddogaethau rheoleiddio newydd ar gyfer cynhyrchion adeiladu o'r diwygiad hwn. 

Y camau nesaf

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a'r NRCP i sicrhau bod y cynigion a nodir yn y papur gwyn diwygio yn diwallu anghenion Cymru.

Argymhellion 15, 16, 17 ac 18 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
15113.25Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
16113.26Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
17113.27Wedi’i gwblhauLlywodraeth y DUMewn egwyddor
18113.28Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
Argymhellion

15: Bod proffesiwn peiriannydd tân yn cael ei gydnabod a’i warchod gan y gyfraith a bod corff annibynnol yn cael ei sefydlu i reoleiddio’r proffesiwn, i ddiffinio’r safonau sy’n ofynnol ar gyfer aelodaeth, i gynnal cofrestr o'r aelodau, ac i reoleiddio eu hymddygiad.

16: Bod y llywodraeth yn cymryd camau brys i gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyrsiau lefel meistr o ansawdd uchel ym maes peirianneg tân, sy’n cael eu hachredu gan y rheoleiddiwr proffesiynol.

17: Bod y llywodraeth yn cynnull grŵp o ymarferwyr a pheirianwyr academaidd ym maes tân a gweithwyr proffesiynol eraill fel y mae’n gweld sy’n addas i lunio datganiad awdurdodol am yr wybodaeth a’r sgiliau y disgwylir i beiriannydd tân cymwys eu cael. Byddai datganiad o’r fath hefyd yn galluogi eraill yn y diwydiant adeiladu i ddeall yn well beth yw natur a phwysigrwydd gwaith peiriannydd tân.

18: Bod y llywodraeth, gan weithio ar y cyd â diwydiant a chyrff proffesiynol, yn annog datblygu cyrsiau ar egwyddorion peirianneg tân ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu ac aelodau o’r gwasanaethau tân ac achub fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus.

Diweddariad ar gynnydd

Gyda Llywodraeth y DU a BSR yn arwain ar y gwaith sy'n deillio o'r argymhellion hyn, rydym yn parhau i gymryd rhan weithredol yn y paneli perthnasol i sicrhau bod buddiannau datganoledig yn cael eu hystyried yn llawn trwy gydol y gwaith hwn. Cynrychiolwyd Llywodraeth Cymru ar y Panel Cynghori Peirianneg Tân a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i ddatblygu datganiad awdurdodol, ac mae fy swyddogion yn cymryd rhan mewn trafodaethau parhaus a gwaith pellach yn y maes hwn yn y dyfodol. 

Y camau nesaf

Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n weithredol â'r gwaith hwn i helpu i sicrhau bod y fframwaith sy'n deillio ohono yn addas i'r diben ledled y DU gyfan, gan gynnwys Cymru.

Argymhelliad 19

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
19113.30Ar waithY Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA)Mewn Egwyddor
Argymhelliad

Rydym yn cydnabod bod y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) wedi cymryd camau ers tân Tŵr Grenfell i wella addysg a hyfforddiant penseiri. Rydym yn argymell y dylent adolygu’r newidiadau a wnaed eisoes i sicrhau eu bod yn ddigonol yng ngoleuni ein canfyddiadau.

Diweddariad ar gynnydd

Rydym wedi bod yn cyfathrebu â Llywodraeth y DU ar yr argymhelliad hwn i ganfod y cynnydd a wnaed hyd yma. 

Y camau nesaf

Byddwn yn monitro ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol sy'n benodol i Gymru o ran yr ARB a'r RIBA os oes angen.

Argymhelliad 20

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
20113.31Wedi’i gwblhauLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Ei gwneud yn ofyniad statudol i gais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu mewn perthynas ag adeiladu neu adnewyddu adeilad risg uwch (Porth 2) gael ei ategu gan ddatganiad gan uwch reolwr y prif ddylunydd o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 bod pob cam rhesymol wedi cael ei gymryd i sicrhau y bydd yr adeilad, ar ôl iddo gael ei gwblhau, mor ddiogel ag sy’n ofynnol yn ôl y Rheoliadau Adeiladu.

Diweddariad ar gynnydd

Y llynedd fe wnaethom ymgynghori ar newidiadau i weithredu'r argymhelliad hwn. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r ymatebion a'i hymateb i'r ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2025. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 gerbron y Senedd. Mae'r rheoliadau hyn yn cynnwys y gofyniad i gynnwys datganiad yn y cais y byddai'r gwaith a gynhwysir yn y cam y mae'r cais yn ymwneud ag ef yn cydymffurfio â holl ofynion perthnasol y rheoliadau adeiladu

Y camau nesaf

Mae'r rheoliadau uchod, a fydd yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2026, yn cyflwyno system reoli adeiladu newydd llym ar gyfer adeiladau risg uwch yng Nghymru, gan gynnwys y broses gymeradwyo "Porth 2" gorfodol.

Argymhelliad 21

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
21113.33Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
Argymhelliad

Bod cynllun trwyddedu sy’n cael ei weithredu gan y rheoleiddiwr adeiladu yn cael ei gyflwyno ar gyfer prif gontractwyr sy’n dymuno adeiladu neu adnewyddu adeiladau risg uwch, a’i bod yn ofyniad cyfreithiol bod unrhyw gais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer adeiladu neu adnewyddu adeilad risg uwch (Porth 2) yn cael ei ategu gan ymrwymiad personol gan gyfarwyddwr neu uwch reolwr y prif gontractwr i gymryd pob gofal rhesymol i sicrhau bod yr adeilad, ar ôl iddo gael ei gwblhau a’i drosglwyddo, mor ddiogel ag sy’n ofynnol yn ôl y Rheoliadau Adeiladu.

Diweddariad ar gynnydd

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar adolygu'r cynllun deiliaid dyletswydd. Bydd canlyniad yr adolygiad hwn yn helpu i benderfynu a ddylid sefydlu cynllun trwyddedu ar gyfer prif gontractwyr sy'n gweithio ar adeiladau risg uchel. Mae'n debygol y bydd strategaeth gyffredinol ar gyfer proffesiynau'r amgylchedd adeiledig yn cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth y DU yng ngwanwyn 2027. 

Y camau nesaf

Rydym yn parhau i drafod gyda'r BSR a Llywodraeth y DU ar sut mae'r cynlluniau hyn yn mynd rhagddynt.

Argymhellion 22 ac 23 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
22113.37Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
23113.38Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
Argymhellion

22: Bod y llywodraeth yn penodi panel annibynnol i ystyried a yw o fudd i’r cyhoedd i swyddogaethau rheolaeth adeiladu gael eu cyflawni gan y rheini sydd â budd masnachol yn y broses.

23: Rydym yn argymell bod yr un panel yn ystyried a ddylai swyddogaethau rheolaeth adeiladu gael eu cyflawni gan awdurdod cenedlaethol.

Diweddariad ar gynnydd

Rydym yn arsylwi a dysgu o waith Panel Annibynnol ar Reoli Adeiladu (BCIP) Llywodraeth y DU, a gwaith Llywodraeth y DU mewn ymateb i argymhellion y panel, i lywio ein dull gweithredu a sicrhau cysondeb lle bo hynny'n briodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiadau ar wahân i'r dull marchnad gymysg presennol o reolaeth adeiladu yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn ystyried ai'r dull hwn yw'r dull mwyaf priodol ac effeithiol o hyd o sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Y Camau Nesaf

Ar hyn o bryd mae Partneriaethau Lleol yn cynnal yr adolygiadau o'r dull marchnad gymysg o reolaeth adeiladu, gydag adroddiad i fod i gael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2026.

Argymhelliad 24

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
24113.39Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
Argymhelliad

Rydym wedi cyfeirio at y Llyfrgell Deunyddiau Cladin a sefydlwyd gan Brifysgol Queensland, a allai fod yn sail i ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i ddylunwyr adeiladau yn gyffredinol. Rydym yn argymell bod y rheoleiddiwr adeiladu yn noddi’r gwaith o ddatblygu llyfrgell debyg, fel rhan o brosiect ar y cyd â Phrifysgol Queensland o bosibl, i ddarparu adnodd parhaus i ddylunwyr.

Diweddariad ar gynnydd

Nodwn fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ymgynghoriad a disgwylir iddi gyhoeddi papur gwyn erbyn Gwanwyn 2026. Rydym yn monitro'r gwaith hwn yn agos i sicrhau ei fod yn ymestyn i Gymru.

Y camau nesaf

Byddwn yn parhau i drafod â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill er mwyn gweithredu'r argymhelliad hwn.

Argymhelliad 25

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
25113.40Ar waithLlywodraeth CymruMewn egwyddor
Argymhelliad

Ei bod yn ofyniad cyfreithiol i'r llywodraeth gadw cofnod sy'n agored i'r cyhoedd o argymhellion a wneir gan bwyllgorau dethol, crwneriaid ac ymchwiliadau cyhoeddus, ynghyd â disgrifiad o'r camau a gymerwyd i ymateb i hynny. Os bydd y llywodraeth yn penderfynu peidio â derbyn argymhelliad, dylai gofnodi ei rhesymau dros wneud hynny. Senedd y Deyrnas Unedig ddylai graffu ar weithredoedd y llywodraeth, a dylai’r llywodraeth orfod adrodd yn flynyddol i Senedd y Deyrnas Unedig.

Diweddariad ar gynnydd

Mae gwaith wedi dechrau ar goladu'r data perthnasol ar gyfer Ymchwiliadau Cyhoeddus Grenfell a Covid-19, ac mae Llywodraeth Cymru yn datblygu dull gweithredu dangosfwrdd ar gyfer cyhoeddi ei data ymchwiliadau cyhoeddus, tebyg i'r un a gynhyrchwyd gan Lywodraeth y DU. 

Y Camau Nesaf

Y bwriad yw cyhoeddi dangosfyrddau Ymchwiliadau Cyhoeddus Grenfell a Covid-19 erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Pan fyddant yn cael eu cyhoeddi, byddant yn cynnwys diweddariadau ar yr argymhellion a wnaed gan Ymchwiliad Grenfell, a chan adroddiadau Modiwl 1 a Modiwl 2 a gyhoeddwyd gan yr Ymchwiliad Covid-19.

Argymhelliad 26

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
26113.41Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Bod y llywodraeth yn sefydlu system achredu orfodol i ardystio cymhwysedd aseswyr risg tân drwy osod safonau ar gyfer cymwysterau a datblygiad proffesiynol parhaus, ac unrhyw fesurau eraill sy’n cael eu hystyried yn angenrheidiol neu’n ddymunol. Rydym ni’n credu bod rhaid i system achredu fod yn orfodol er mwyn sicrhau bod pawb sy’n cynnig eu gwasanaethau fel aseswyr risg tân yn gymwys i wneud hynny.

Diweddariad ar gynnydd

Mae'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i bob aseswr risg tân mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth fod yn gymwys. 

Cyflwynwyd y Bil i'r Senedd ym mis Gorffennaf 2025 a disgwylir iddo gael Cydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2026.

Mae Safon Prydain BS8674 yn darparu un fframwaith ar gyfer cymhwysedd aseswyr risg tân a'r sail ar gyfer y gwaith pellach ar gymwysterau a chynlluniau achredu cymeradwy. 

Y Camau Nesaf

Disgwylir i'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) dderbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2026, a fydd yn ystod cyfnod cyn etholiad y Senedd sydd i ddod. Mae cynllun gweithredu ar waith ar gyfer rheoliadau o dan y Bil, sy'n amodol ar gytundeb gan Lywodraeth newydd Cymru.

Argymhelliad 27

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
27113.43Ar waith Llywodraeth y DU Amherthnasol
Argymhelliad

Nid ydym mewn sefyllfa i benderfynu a oes angen mwy o safoni ar gyfer yr allweddi a’r switshys rheolaeth tân. Rydym felly’n argymell bod y llywodraeth yn gofyn am gyngor brys gan y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau a Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân ar natur a maint y broblem, a’r ymateb priodol i’r broblem.

Diweddariad ar gynnydd

Rydym yn nodi bod camau priodol wedi'u cymryd gan yr NFCC, a Llywodraeth y DU yn adrodd bod yr NFCC wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru mewn ymateb i'r argymhelliad hwn. Adroddiad cynnydd: y diwydiant adeiladu - –OV.UK 

Argymhelliad 28

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
28113.44Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
Argymhelliad

Bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod pob trawsgludydd nwy yn gwirio hygyrchedd pob falf o’r fath ar ei system o leiaf unwaith bob tair blynedd, ac yn adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r archwiliad hwnnw i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fel rhan o’i adolygiad o achosion diogelwch nwy.

Diweddariad ar gynnydd

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi datblygu cynllun cyflawni y cytunodd ei Bwyllgor Gweithrediadau a Rheoleiddio arno ym mis Medi. Nod y cynllun yw darparu mwy o sicrwydd bod falfiau ynysu piblinellau (PIV) yn hygyrch, a bod y rhyngberthynas rhwng yr holl bartïon yn cael ei deall yn well, gyda chefnogaeth nodau penodol. 

Mae'r HSE yn trafod â gweithredwyr piblinellau ym Mhrydain Fawr i sefydlu llinell sylfaen glir o ran mynediad at falfau ynysu piblinellau a'r rhwystrau presennol, gan ystyried y dull arolygu a'r prosesau arolygu sy'n seiliedig ar risg a fabwysiadwyd gan y gweithredwyr

Mae’r data a dderbyniwyd gan weithredwyr rhwydwaith yn cael ei ddadansoddi gan yr HSE fel sail i ymgysylltu wedi’i dargedu gyda rhanddeiliaid a allai fod â dylanwad dros hygyrchedd falfiau ynysu piblinellau. 

Y camau nesaf

Bydd yr uchod yn llywio gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi'i dargedu â phartïon â diddordeb, a fydd yn dechrau o fis Mawrth 2026. 

Yn dilyn cwblhau’r gwaith dadansoddi data ym mis Chwefror 2026 bydd yr HSE yn sefydlu llinell sylfaen o faterion yn ymwneud â mynediad piblinellau. Bydd hyn yn sail i’w hymgysyllu wedi’i dargedu gyda rhanddeiliaid a fydd yn cychwyn ym mis Mawrth 2026. Bydd y gwaith dadansoddi data yn llywio’r dull a ddefnyddir, cwmpas y gwaith a hyd unrhyw ymgysylltu. 

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r HSE ar y mater hwn nes bod yr argymhelliad wedi'i gwblhau.

Gwasanaethau tân ac achub

Argymhellion 29 ac 30 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
29113.51Ar waithLlywodraeth CymruMewn egwyddor
30113.53Ar waithLlywodraeth CymruMewn egwyddor
Argymhellion

29: Bod y llywodraeth yn sefydlu [Coleg Tân ac Achub annibynnol] ar unwaith, sydd â digon o adnoddau i ddarparu’r gwasanaethau canlynol yn genedlaethol: 

  • hyfforddiant ymarferol ar bob lefel yn ychwanegol at yr hyn a ddarperir gan wasanaethau tân ac achub unigol 
  • addysg ar ffurf darlithoedd a seminarau ynghylch gwahanol agweddau ar waith y gwasanaethau tân ac achub, er mwyn rhannu profiadau a hyrwyddo arferion da 
  • ymchwil i faterion a allai effeithio ar waith y gwasanaethau tân ac achub, gan gynnwys tanau mawr 
  • datblygu cyfarpar, polisïau a gweithdrefnau sy’n addas ar gyfer sicrhau effeithiolrwydd gwasanaethau tân ac achub yn genedlaethol, a diogelwch diffoddwyr tân a’r cyhoedd 
  • gosod a chynnal safonau cenedlaethol ar gyfer cymhwysedd rheoli uwch reolwyr, gan gynnwys rheolwyr ystafelloedd rheoli, a darparu hyfforddiant rheoli ar gyfer uwch swyddogion, a’u hasesu’n rheolaidd, drwy gyfeirio at y safonau hynny. 

30: Y dylai [y coleg] gael digon o staff parhaol i reoli ei weithrediadau ac i ddatblygu ei swyddogaethau er mwyn ymateb i ofynion gwasanaethau tân ac achub yn genedlaethol a gofynion y bwrdd. Bydd gofyn bod cyfleusterau parhaol ar gael i'r coleg, gan gynnwys cyfleusterau ar gyfer addysg a hyfforddiant ymarferol. Rydym yn rhag-weld y bydd llawer o’r hyfforddiant a’r addysg yn cael eu darparu a’u harwain gan ddiffoddwyr tân â phrofiad addas a ddaw o wasanaethau tân ac achub o bob cwr i’r wlad yn ôl gofynion yr amgylchiadau.

 Diweddariad ar gynnydd

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl gefnogol o sefydlu Coleg Tân. Byddai nifer o fanteision i gyfleuster canolog ar gyfer holl Wasanaethau Tân ac Achub y DU. Byddai'n sicrhau ymagwedd gyson o ran sut mae ein diffoddwyr tân yn cael eu hyfforddi ac yn meithrin safonau uchel o ymddygiad ac arweinyddiaeth ar draws y Gwasanaeth.

Y Camau Nesaf

Byddwn yn parhau i siarad â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar y mater hwn.

Argymhelliad 31

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
31113.55Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Bod Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (“yr Arolygiaeth”) yn arolygu Brigâd Dân Llundain cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl er mwyn asesu ac adrodd ar y canlynol: 

  • i ba raddau y mae'r ystafell reoli bellach wedi'i hintegreiddio yn y sefydliad 
  • effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer nodi anghenion hyfforddi staff yr ystafell reoli, darparu hyfforddiant effeithiol a chofnodi’r canlyniadau 
  • effeithiolrwydd yr ystafell reoli yn gyffredinol 
  • gallu'r ystafell reoli i ddelio â nifer mawr o geisiadau ar yr un pryd am gyngor a chymorth gan bobl y mae tanau neu argyfyngau eraill yn effeithio’n uniongyrchol arnynt 
  • ansawdd ac effeithiolrwydd y trefniadau cyfathrebu rhwng yr ystafell reoli a phennaeth y digwyddiad (113.55)

Diweddariad ar gynnydd

Er bod yr argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Frigâd Dân Llundain, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno sicrhau ei hun mewn perthynas â'r materion hyn. Felly, cynhaliodd Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub (Cymru) (CFRAI (W)) arolygiad wedi'i dargedu o 3 Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru i ganfod pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer asesu hyfforddiant personél rheoli tân ac i ystyried pa mor effeithiol yw'r trefniadau hynny.

Mae'r canfyddiadau a'r argymhellion wedi'u nodi mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan y CFRAI(W) ym mis Rhagfyr 2025. Argymhelliad 31 o Ymchwiliad Tŵr Grenfell Cam 2: adroddiad arolygu rheoli tân | LLYW. CYMRAEG

Y camau nesaf

Mae'r archwiliad a'r adroddiad sy'n ofynnol gan yr argymhelliad hwn wedi'u cwblhau. Bydd y CFRAI(W) yn parhau i fonitro diweddariadau cynnydd yn erbyn argymhellion yr adroddiad dros y deuddeg mis nesaf. 

Argymhelliad 32

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
32113.56Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl, bod yr Arolygiaeth yn arolygu Brigâd Dân Llundain i archwilio ac adrodd ar y trefniadau sydd ganddi ar waith ar gyfer asesu hyfforddiant penaethiaid digwyddiadau ar bob lefel a’u cymhwysedd parhaus, boed hynny drwy broses ailddilysu neu fel arall. (113.56)

Diweddariad ar gynnydd

Er bod yr argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Frigâd Dân Llundain, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno sicrhau ei hun mewn perthynas â'r materion hyn. Fel y cyfryw, mae'r CFRAI(W) wedi dechrau gweithio gyda'r NFCC i adolygu athrawiaeth a chymhwysedd gweithredol dros y 12 mis nesaf. Bydd canfyddiadau ac argymhellion yn cael eu nodi mewn adroddiad gan y CFRAI(W).

Argymhelliad 33

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
33113.57Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod yr Arolygiaeth yn arolygu Brigâd Dân Llundain ac yn adrodd ar ei threfniadau ar gyfer casglu, storio a dosbarthu gwybodaeth yn unol ag adran 7(2)(d) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ac yn benodol ei threfniadau ar gyfer dynodi adeiladau preswyl risg uchel a chasglu, storio a dosbarthu gwybodaeth sy'n ymwneud â nhw (113.57)

Diweddariad ar gynnydd

Er bod yr argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Frigâd Dân Llundain, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno sicrhau ei hun mewn perthynas â'r materion hyn. Felly, mae'r CFRAI(W) wedi ysgrifennu at dri Phrif Swyddog Tân Cymru i ofyn am ddiweddariad ar y cynnydd yn erbyn holl argymhellion Ymchwiliad Tŵr Grenfell. 

Y camau nesaf

Bydd CFRAI(W) yn parhau i ymgysylltu â'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub ynghylch y cynnydd yn erbyn holl argymhellion Ymchwiliad ac Adolygiad Thematig Tŵr Grenfell. Wrth ddatblygu'r drefn arolygu newydd, bydd y CFRAI(W) yn cynnwys proses debyg i 'Engage' yn Lloegr lle mae'r arolygiaeth yn defnyddio monitro uwch i sicrhau bod argymhellion yn cael eu bodloni'n llawn. 

Argymhellion 34, 35, 36, 37, 38, 39 ac 41

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
34113.58Ar waithBrigâd Dân Llundain (LFB)Mewn egwyddor
35113.59Ar waithGwasanaeth Tân ac Achub.Mewn egwyddor
36113.60Ar waithGwasanaeth Tân ac Achub.Mewn egwyddor
37113.61Ar waithGwasanaeth Tân ac Achub.Mewn egwyddor
38113.62Ar waithGwasanaeth Tân ac Achub.Mewn egwyddor
39113.63Ar waithGwasanaeth Tân ac Achub.Mewn egwyddor
41113.65Ar waithCyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC)Mewn egwyddor
Argymhellion

34: Bod Brigâd Dân Llundain yn sefydlu trefniadau sefydlog effeithiol ar gyfer casglu, ystyried a gweithredu’n effeithiol y gwersi y mae’n eu dysgu yn sgil digwyddiadau, cwestau ac ymchwiliadau blaenorol. Dylai’r trefniadau hynny fod mor syml â phosibl, yn hyblyg ac yn fath o drefniadau a fydd yn sicrhau bod unrhyw newidiadau priodol mewn arferion neu weithdrefnau yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym. 

35: Bod gwasanaethau tân ac achub sy’n parhau i ddefnyddio radios pŵer isel diogel fel rhan o gyfarpar anadlu yn ystyried eu defnyddio dim ond mewn sefyllfaoedd lle mae perygl gwirioneddol y bydd nwyon fflamadwy yn tanio, a’u bod yn defnyddio radios mwy pwerus fel arfer, yn enwedig mewn adeiladau uchel iawn. 

36: Bod pob gwasanaeth tân ac achub yn ystyried darparu radio digidol i bob diffoddwr tân. 

37: Gan fod systemau cyfathrebu drwy radio, yn ôl eu natur, yn annibynadwy mewn rhai amgylcheddau, rydym yn argymell bod diffoddwyr tân yn cael eu hyfforddi i ymateb yn briodol pan fydd systemau cyfathrebu yn methu, ac i ddeall sut mae eu hadfer. 

38: Bod pob diffoddwr tân yn cael hyfforddiant sylfaenol ar strwythur a gweithrediad y system cyflenwi dŵr, gan gynnwys y gwahanol fathau o hydrantau a ddefnyddir a’u swyddogaethau. Dylid hefyd rhoi hyfforddiant ar fesurau effeithiol i gynyddu llif a gwasgedd dŵr pan fydd angen. 

39: Bod yr holl wasanaethau tân ac achub yn sefydlu ac yn adolygu’n rheolaidd brotocol a gytunwyd â’r ymgymerwyr dŵr statudol yn eu hardaloedd er mwyn iddynt allu cyfathrebu’n effeithiol â’i gilydd ynghylch cyflenwi dŵr at ddibenion diffodd tân. 

41: Bod Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) yn ystyried a ddylid annog diffoddwyr tân i beidio â gwyro oddi wrth eu cyfarwyddiadau ar eu liwt eu hunain, ac os felly o dan ba amgylchiadau, a darparu hyfforddiant priodol ar sut i ymateb i sefyllfa o’r fath.

Diweddariad ar gynnydd

Cyhoeddwyd Fframwaith Cenedlaethol drafft newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub ar gyfer ymgynghoriad ddiwedd 2025. Roedd hwn yn nodi'r angen i wasanaethau tân ac achub Cymru weithredu ar argymhellion Ymchwiliad Tŵr Grenfell, yn ogystal ag argymhellion perthnasol eraill. 

Y Camau Nesaf

Mae'r ymgynghoriad ar y Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub wedi dod i ben, ac rydym yn bwriadu i'r Fframwaith ddod i rym cyn diwedd tymor y Senedd hwn.

Gan fod y rhain yn faterion gweithredol ar gyfer y gwasanaethau tân ac achub, byddwn yn parhau i fonitro gweithrediad yr argymhellion hyn. 

Argymhelliad 40

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
40113.64Ar waithSefydliad Safonau Prydeinig (BSI)Amherthnasol
Argymhelliad

Bod y Sefydliad Safonau Prydeinig yn diwygio BS 750 i gynnwys disgrifiad o'r amgylchiadau lle mae'r cyfernod llif y mae'n cyfeirio ato ym mharagraff 10.2 yn cael ei fesur.

Diweddariad ar gynnydd

Rydym yn nodi diweddariad diweddar Llywodraeth y DU ar gamau sy'n cael eu cymryd gan y BSI, gyda disgwyl i ymgynghoriad gael ei gyhoeddi cyn bo hir. Disgwylir y diwygiad ar gyfer chwarter cyntaf 2026. Adroddiad cynnydd: gwasanaethau tân ac achub - –OV.UK 

Parodrwydd ar gyfer Argyfyngau, ymateb ac adfer

Argymhelliad 42

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
42113.67Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
Argymhelliad

Bod y Ddeddf [Argyfyngau Sifil Posibl] [2004] yn cael ei hadolygu, ac yr ystyrir rhoi’r pŵer i Ysgrifennydd Gwladol dynodedig gyflawni swyddogaethau ymatebwr Categori 1 yn lle’r ymatebwr am gyfnod cyfyngedig.

Diweddariad ar gynnydd

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ei hadolygiad gweithredu nesaf o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (CCA) a Rheoliadau Deddf Argyfyngau Sifil Posibl (Cynllunio) 2005. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried nid yn unig yr argymhelliad hwn ond hefyd argymhelliad i adolygu'r CCA yn Adroddiad Modiwl 2 Ymchwiliad Covid-19. 

Er bod y CCA wedi'i gadw yn ôl, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ymatebwyr brys drwy Bartneriaeth Gwydnwch Cymru i gynnal asesiad ar ddatblygu rheoliadau argyfyngau sifil posibl penodol yng Nghymru, fel y darperir o dan Ran 1 o'r CCA. 

Y camau nesaf

Byddwn yn parhau i drafod â Llywodraeth y DU am ei pharatoadau i gynnal yr adolygiad gweithredu statudol nesaf.

Argymhelliad 43

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
43113.68Ar waithLlywodraeth CymruMewn egwyddor
Argymhelliad

Mae rheoliad 23 o Reoliadau Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (Cynllunio Wrth Gefn) 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i ymatebwr Categori 1 ystyried gweithgareddau mudiadau gwirfoddol perthnasol wrth wneud ei gynlluniau. Rydym felly’n argymell diwygio’r rheoliad i’w gwneud yn ofynnol i ymatebwyr Categori 1 sefydlu a chynnal partneriaethau gyda’r mudiadau gwirfoddol, cymunedol a ffydd yn y meysydd lle maent yn gyfrifol am baratoi ar gyfer argyfyngau ac ymateb iddynt.

Diweddariad ar gynnydd

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymateb i'w hymgynghoriad "Partneriaethau Cryfach" ym mis Rhagfyr 2025. 

Mae angen dull cyfannol o adolygu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer argyfyngau sifil posibl gan fod Adroddiad Ymchwiliad Grenfell ac Adroddiad Modiwl 2 Ymchwiliad Covid-19, yn cynnwys argymhellion i adolygu a diwygio'r Ddeddf a'r rheoliadau.

Gan y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn asesu'r potensial i ddatblygu rheoliadau Cymreig penodol o dan Ran 1 o'r CCA, byddwn yn trafod â Llywodraeth y DU i alluogi dull cydweithredol o ran yr adolygiad hwn.

Mewn perthynas â'r rheoliadau penodol posibl yng Nghymru, byddwn yn gweithio gydag ymatebwyr brys drwy Bartneriaeth Gwydnwch Cymru i sicrhau bod eu barn yn cael eu hymgorffori yn yr adolygiad.

Yn y cyfamser, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid gwydnwch i'w cefnogi i ddatblygu eu perthynas â sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a ffydd ymhellach er mwyn paratoi ar gyfer argyfyngau posibl, ymateb iddynt ac adfer ar eu holau.

Y camau nesaf

Bydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen o dan Bartneriaeth Gwydnwch Cymru yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o Reoliadau'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl (Cynllunio) 2005.

Argymhelliad 44

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
44113.69Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Mae’r canllawiau presennol ar baratoi ar gyfer argyfyngau wedi’u cynnwys mewn nifer o ddogfennau, gyda phob un ohonynt yn rhy hir ac wedi dyddio mewn rhai ffyrdd. Rydym yn argymell bod y canllawiau’n cael eu diwygio, eu cwtogi a’u cyfuno mewn un ddogfen sy’n rhoi mwy o bwyslais ar yr angen i’r rheini sy’n arwain yr ymateb ystyried y gofynion adfer, yr angen i ddod o hyd i bobl agored i niwed a phwysigrwydd nodi a sicrhau cydweithrediad â grwpiau gwirfoddol, cymunedol a ffydd, ac sy’n cyd-fynd â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Diweddariad ar gynnydd

Mae rhaglen waith Partneriaeth Gwydnwch Cymru ar gyfer 2026/27 yn cynnwys ffrwd waith ar ddeddfwriaeth a chanllawiau i gefnogi Llywodraeth Cymru i adolygu'r gyfres o ganllawiau presennol ar gyfer argyfyngau sifil posibl. Y nod yw cynhyrchu set o argymhellion ar sail tystiolaeth i ddatblygu cyfres o ganllawiau gwydnwch sy'n diwallu anghenion partneriaid yng Nghymru.

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo mewn perthynas â chynnwys effeithiau risgiau ar bobl agored i niwed o fewn asesiadau risg, gan ddefnyddio canllawiau a gynhyrchwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio i ehangu'r ystod o ddata sydd ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth sydd ar gael drwy'r system JIGSO amlasiantaethol i alluogi partneriaid i ddarparu cymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf mewn argyfwng. Mae hyn yn cefnogi galwad yr Ymchwiliad am ddulliau cliriach, mwy cyson ar gyfer adnabod pobl agored i niwed a sicrhau bod ymatebwyr yn gallu gweithredu'n gyflym ar ddata dibynadwy.

Y camau nesaf

Mae Partneriaeth Gwydnwch Cymru yn sefydlu grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddod ag ymatebwyr, sefydliadau'r trydydd sector a chwmnïau cyfleustodau ynghyd i ystyried materion rhannu data, gyda'r nod o helpu partneriaid i nodi grwpiau agored i niwed a grwpiau sydd mewn perygl, i sicrhau y gellir blaenoriaethu cymorth mwy penodol ac wedi'i deilwra mewn unrhyw ddigwyddiad.

Argymhelliad 45

Rhif yr argymhelliad

 

Cyfeirnod yr ymchwiliad

 

Statws

 

Cyfrifoldeb

 

Derbyn

45113.69Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Bod sylw i ystyriaethau dyngarol yn cael ei gydnabod yn benodol, drwy ei wneud yn nawfed egwyddor ymateb ac adferiad effeithiol.

Diweddariad ar gynnydd

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno cysyniad egluro gweithrediadau rheoli argyfyngau newydd o fewn Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi'i gynllunio i ddarparu trefniadau rheoli argyfyngau effeithiol ar gyfer y dirwedd risg fodern.

Mae ein trefniadau rheoli argyfyngau hefyd yn ymgorffori ein perthynas â'r Eiriolwr Cyhoeddus Annibynnol (IPA), a rôl yr IPA mewn digwyddiadau mawr, sy'n cael effaith sylweddol ar bobl.

Yn ogystal â hynny, mae ein trefniadau rheoli argyfyngau hefyd yn adlewyrchu'r egwyddor a gynhwysir yn y Siarter ar gyfer Teuluoedd sy'n Wynebu Profedigaeth yn Sgil Trychineb Gyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn lofnodwr ar y Siarter.

Y camau nesaf

Rydym yn bwriadu cyhoeddi ein Cysyniad Egluro Gweithrediadau ar gyfer Rheoli Argyfyngau newydd erbyn haf 2026.

Argymhelliad 46

 

Rhif yr argymhelliad

 

 

Cyfeirnod yr ymchwiliad

 

 

Statws

 

 

Cyfrifoldeb

 

 

Derbyn

46113.70Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor
Argymhelliad

Fodd bynnag, dangosodd digwyddiadau fod angen dealltwriaeth gliriach o natur trefniadau Aur Llundain, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle mae effaith ar un fwrdeistref. Rydym felly'n argymell y dylid adolygu’r canllawiau ar weithredu’r trefniadau hynny, ac y dylai’r prif weithredwyr presennol a rhai a benodir o’r newydd gael hyfforddiant rheolaidd i sicrhau eu bod yn gyfarwydd ag egwyddorion y trefniadau.

Diweddariad ar gynnydd

Mae gan Gymru ei rhaglen hyfforddi aur ei hun, o'r enw Aur Cymru, yr ydym yn gweithio gyda phartneriaid i'w hadolygu i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â safonau ehangach.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n cymuned o ymatebwyr i gynnal pedwar digwyddiad hyfforddi ac ymarfer corff Aur Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r hyfforddiant hwn yn helpu i gryfhau gallu arweinyddiaeth strategol ac atgyfnerthu parodrwydd ledled Cymru yn ystod neu ar ôl argyfwng neu ddigwyddiad mawr. Bydd cyrsiau ychwanegol yn cael eu hychwanegu oherwydd y galw.

Y camau nesaf

Ddiwedd y llynedd, cymeradwyodd Fforwm Gwydnwch Cymru raglen waith Partneriaeth Gwydnwch Cymru ar gyfer 2026, gyda grŵp craidd cefnogol a fydd yn canolbwyntio ar hyfforddi ac ymarfer mewn perthynas ag argyfyngau. 

Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â phartneriaid ac yn tynnu ar arbenigedd Academi Gwydnwch y DU, sy'n rhan o Swyddfa'r Cabinet Llywodraeth y DU, i helpu i gyflawni amcanion Fframwaith Gwydnwch Cymru, gan gynnwys hyfforddi ac ymarfer. Mae'r bartneriaeth hon yn cefnogi datblygu sgiliau, rhannu arferion gorau, a sicrhau bod cynlluniau a galluoedd yn cael eu profi'n rheolaidd trwy ymarferion strwythuredig.

Argymhelliad 47

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
47113.71Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Bod fforymau gwydnwch lleol yn mabwysiadu safonau cenedlaethol i sicrhau hyfforddiant, gwaith paratoi a chynlluniau effeithiol ar gyfer argyfyngau, ac yn mabwysiadu cynlluniau archwilio annibynnol i ganfod diffygion a sicrhau cydymffurfedd.

Diweddariad ar gynnydd

Rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd â phartneriaid ac yn tynnu ar arbenigedd Academi Gwydnwch y DU, i adolygu ein cwrs Aur Cymru strategol yn erbyn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol diweddaraf.

Y camau nesaf

Byddwn yn parhau i adolygu effeithiolrwydd yr hyfforddiant hwn, ei ailadrodd a'i ddatblygu lle bo angen. 

Argymhelliad 48

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
48113.71Ar waithLlywodraeth CymruMewn egwyddor
Argymhelliad

Bod mecanwaith yn cael ei gyflwyno i wirio’n annibynnol amlder ac ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir gan awdurdodau lleol ac ymatebwyr Categori 1 eraill.

Diweddariad ar gynnydd

Mae rhaglen waith Partneriaeth Gwydnwch Cymru ar gyfer 2026/27 y cytunwyd arni ym mis Rhagfyr yn cynnwys ffrwd waith i fynd i'r afael â bylchau gallu a ffrwd waith hyfforddi ac ymarfer ar wahân sy'n anelu at ddatblygu rhaglen hyfforddi ac ymarfer Cymru gyfan, gyda grŵp craidd cefnogol a fydd yn canolbwyntio ar oruchwylio gweithgarwch hyfforddi ac ymarfer. Bydd grŵp gorchwyl a gorffen hefyd yn adolygu ac yn datblygu pecynnau hyfforddi Cymru gyfan (gan gynnwys pecynnau hyfforddi amlasiantaeth Aur Cymru ac Arian Cymru).

Y camau nesaf

Rydym wedi comisiynu Academi Gwydnwch y DU i weithio gyda Phartneriaeth Gwydnwch Cymru i adolygu system rheoli gwersi Cymru gyfan. Byddai hyn yn galluogi partneriaid i fonitro a gweithredu'r gwersi hynny, sy'n cael eu hystyried orau ar lefel Cymru gyfan. Byddai hyn yn sicrhau dull cyson tra'n sicrhau cyflawni effeithlonrwydd. 

Mae rhaglen waith y Bartneriaeth hefyd yn cynnwys ffrwd waith a fydd yn archwilio cyfleoedd ar gyfer asesu annibynnol ar lefel Cymru gyfan, gan gynnwys hyfforddiant ac ymarfer. 

Argymhelliad 49

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
49113.73Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor
Argymhelliad

Bod awdurdodau lleol yn hyfforddi eu holl weithwyr, gan gynnwys prif weithredwyr, i ystyried cadernid fel rhan annatod o’u cyfrifoldebau.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol drwy ein trefniadau partneriaeth presennol gyda fforymau gwydnwch lleol yng Nghymru i ddeall ymhellach pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhelliad hwn.

Argymhellion 50, 51, 52, 53, 54 ac 55

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
50113.74Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor
51113.75Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor 
52113.76Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor 
53113.76Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor 
54113.77Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor 
55113.78Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor 
Argymhellion

50: Nid oedd gan Fwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea (RBKC) unrhyw ffordd effeithiol o gasglu a chofnodi gwybodaeth am y rheini a oedd wedi cael eu symud o’r tŵr a’r adeiladau cyfagos, gan gynnwys y rheini a oedd ar goll. Mae’n anodd casglu gwybodaeth ddibynadwy o’r math hwnnw, a bydd yr heriau sy’n debygol o wynebu ymatebwyr Categori 1 awdurdodau lleol yn amrywio yn ôl natur yr argyfwng. Rydym yn argymell bod pob awdurdod lleol yn creu dulliau o gael a chofnodi gwybodaeth o’r math hwnnw, ar ffurf electronig os oes modd, ac yn ymarfer eu rhoi ar waith o dan amrywiaeth o wahanol amgylchiadau. 

51: Bod pob awdurdod lleol yn gwneud trefniadau o’r fath sy’n rhesymol ymarferol i’w galluogi i roi pobl mewn llety dros dro ar fyr rybudd ac mewn ffyrdd sy’n bodloni eu gofynion personol, crefyddol a diwylliannol. I’r graddau y bo modd, dylai trefniadau o’r fath gynnwys darparwyr tai cymdeithasol yn yr ardal leol.

52: Bod pob awdurdod lleol yn cynnwys yn eu cynlluniau wrth gefn drefniadau ar gyfer darparu cymorth ariannol ar unwaith i bobl y mae argyfwng wedi effeithio arnynt.

53: Bod awdurdodau lleol, fel rhan o’u gwaith cynllunio ar gyfer argyfyngau, yn ystyried yn fanwl argaeledd gweithwyr allweddol a’r rôl y disgwylir iddynt ei chyflawni er mwyn gallu gwneud trefniadau wrth gefn addas i sicrhau, i’r graddau y bo modd, bod cymorth yn parhau.

54: Bod awdurdodau lleol, fel rhan o’u cynlluniau argyfwng, yn gwneud trefniadau effeithiol ar gyfer parhau i gyfathrebu â’r rheini sydd angen cymorth, gan ddefnyddio’r dechnoleg fwyaf addas ac amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r ardal. 

55: Bod pob awdurdod lleol yn cynnwys yn eu cynlluniau ar gyfer ymateb i argyfyngau drefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth i’r cyhoedd drwy ba gyfuniad bynnag o ddulliau cyfathrebu modern sy’n debygol o fod fwyaf effeithiol ar gyfer yr ardaloedd maent yn gyfrifol amdanynt.

Mae'r argymhellion hyn wedi'u cyfeirio at awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhellion a bydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol drwy ein trefniadau partneriaeth presennol gyda fforymau gwydnwch lleol yng Nghymru i ddeall ymhellach pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn.

Pobl agored i niwed ac Argymhellion Cam 1

Argymhelliad 56

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
56113.78Wedi’i gwblhauCyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC)Mewn egwyddor
Argymhelliad

Bod yr hyn a elwid gan yr heddlu yn y gorffennol yn "fiwro anafiadau" yn cael ei ddisgrifio mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n amlwg nad yw'n darparu gwybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â phobl yr effeithir arnynt gan yr argyfwng. (113.78)

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Mae'r NPCC yn dwyn ynghyd heddluoedd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn cael ei ariannu ganddynt. Yn unol â hynny, mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyflawni gan Brif Gwnstabliaid ledled Cymru, gan fod plismona yn faes a gedwir yn ôl.

Argymhelliad 57

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
57113.82Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Bod ystyriaeth bellach yn cael ei roi i'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Cam 1 yng ngoleuni ein canfyddiadau yn yr adroddiad hwn.

Diweddariad ar gynnydd

Rydym wedi ystyried a monitro adroddiadau Cam 1 a Cham 2 fel rhan o raglen weithredu Ymchwiliad Tŵr Grenfell a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Mae llawer o argymhellion adroddiad Cam 1 yn gysylltiedig â'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru). Bydd rheoliadau posibl yn fater i Lywodraeth newydd Cymru yn dilyn etholiad y Senedd. Felly, bydd yr argymhellion hyn yn cael eu hystyried ymhellach yn ddiweddarach yn 2026.

Argymhelliad 58

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
58113.83Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Bod y cyngor a gynhwysir ym mharagraff 79.11 o'r Canllaw CLlL yn cael ei ailystyried.

Diweddariad ar gynnydd 

Gan weithio mewn cydweithrediad agos â Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân a Llywodraeth y DU, rydym wedi datblygu canllawiau wedi'u diweddaru. 

Y Camau Nesaf

Er y bwriadwyd cyhoeddi ddiwedd 2025, mae gwaith ychwanegol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn llawn â Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru).

Argymhellion Cam 1

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
5933.22.CAr waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

Ei gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i berchennog a rheolwr pob adeilad preswyl uchel iawn lunio cynlluniau gwacáu, a'u cadw dan adolygiad rheolaidd, a darparu copïau ohonynt ar ffurf electronig a phapur i'w gwasanaeth tân ac achub lleol a'u rhoi mewn blwch gwybodaeth ar y safle.

Diweddariad ar gynnydd

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i fodloni'n rhannol:

Rydym wedi diwygio'r canllawiau technegol yn Nogfen Gymeradwy B (diogelwch tân) i gynnwys darpariaeth i gyflwyno Blychau Gwybodaeth Diogel ym mhob bloc newydd o fflatiau sydd â llawr 11m uwchlaw lefel y ddaear neu'n uwch. Mae'r canllawiau hefyd yn cyfeirio at Adrannau 2 i 4 o ‘The Code of Practice for the Provision of Premises Information Boxes in Residential Buildings’ a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Diwydiant Tân (FIA) fel canllawiau pellach ar arferion gorau. Mae'r Ddogfen Gymeradwy B ddiwygiedig wedi'i chyhoeddi, a daeth i rym ar 20 Rhagfyr 2025. Mae rheoliadau adeiladu yn berthnasol pan fydd gwaith adeiladu newydd yn cael ei wneud.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i nodi'r dulliau mwyaf priodol o sicrhau bod darpariaethau ar waith i gynllunio ar gyfer sicrhau bod preswylwyr y gallai eu gallu i adael yr adeilad ar eu pennau eu hunain gael ei gyfaddawdu yn gallu gadael. Gellir defnyddio pwerau Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) i wneud rheoliadau atodol ynghylch pa gamau rhesymol y mae'n rhaid i bersonau penodol eu cymryd i sicrhau bod pobl mewn adeilad neu o amgylch iddo, y mae eu diogelwch mewn perygl oherwydd tân mewn rhannau o'r adeilad, yn gallu dianc, gan gynnwys drwy gael eu hachub, yn gyflym ac yn ddiogel. 

Y camau nesaf

Bydd gwaith pellach yn digwydd ar y pwnc hwn os bydd y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn derbyn Cydsyniad Brenhinol.

Argymhellion 60 ac 61

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyn
6033.22.EAr waithLlywodraeth CymruYn llawn
6133.22.FAr waithLlywodraeth CymruYn llawn
Argymhelliad

60. Ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i berchennog a rheolwr pob adeilad preswyl uchel iawn baratoi cynlluniau personol gadael mewn argyfwng (PEEPs) ar gyfer pob preswylydd y gallai eu gallu i adael ar eu pennau eu hunain gael ei gyfaddawdu (megis pobl â phroblemau symudedd neu wybyddiaeth).

61. Ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i berchennog a rheolwr pob adeilad preswyl uchel iawn gynnwys gwybodaeth gyfredol am bobl â phroblemau symudedd a'u cynlluniau personol gadael mewn argyfwng (PEEPs) ym mlwch gwybodaeth yr adeilad.

Diweddariad ar gynnydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i nodi'r dulliau mwyaf priodol o sicrhau bod darpariaethau ar waith i gynllunio ar gyfer sicrhau bod preswylwyr y gallai eu gallu i adael yr adeilad ar eu pennau eu hunain gael ei gyfaddawdu yn gallu gadael. Gellir defnyddio pwerau'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) i wneud rheoliadau atodol ynghylch pa gamau rhesymol y mae'n rhaid i bersonau penodol eu cymryd i sicrhau bod pobl mewn adeilad neu o amgylch iddo, y mae eu diogelwch mewn perygl oherwydd tân mewn rhannau o'r adeilad, yn gallu dianc, gan gynnwys drwy gael eu hachub, yn gyflym ac yn ddiogel. 

Y camau nesaf

Bydd hyn yn cael ei ystyried ymhellach os bydd y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn derbyn Cydsyniad Brenhinol.