Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Mae trychineb Tŵr Grenfell ar 14 Mehefin 2017 yn dal i fod yn un o'r digwyddiadau mwyaf dinistriol yn ein hanes diweddar. Collwyd 72 o fywydau gwerthfawr a chafodd hynny effaith annileadwy ar y Deyrnas Unedig. Mae'r effaith yn parhau i atseinio'n ddwfn gyda ni i gyd yma yng Nghymru.

Mae cyhoeddi Adroddiad Cam Dau Ymchwiliad Tŵr Grenfell yn foment arwyddocaol yn ein taith ar y cyd i ddeall sut y gallai trychineb o'r fath ddigwydd ac i sicrhau na allai digwyddiad tebyg ddigwydd eto. Mae canfyddiadau cynhwysfawr Syr Martin Moore-Bick wedi datgelu'r methiannau systemig ar draws y diwydiant, a phrosesau llywodraethu a rheoleiddio a gyfrannodd at y drychineb hon.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r argymhellion ac rydym yn falch o nodi ymateb y Llywodraeth hon i bob un ohonynt, a'r camau y byddwn yn eu cymryd er mwyn eu rhoi ar waith.

Ers 2017, rydym wedi bod yn gweithio i gryfhau diogelwch adeiladau yng Nghymru. Fodd bynnag, mae canfyddiadau'r Ymchwiliad yn ei gwneud yn glir bod llawer mwy i'w wneud ledled y DU. Rhaid i ni barhau i drawsnewid ein dull o reoleiddio diogelwch adeiladau, arferion y diwydiant, ac ymgysylltu â phreswylwyr.

Wrth wraidd ein hymateb mae ymrwymiad i flaenoriaethu preswylwyr. Heddiw rydym yn cyflwyno Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) i'r Senedd. Mae'r Bil yn ceisio sicrhau bod ystyriaethau diogelwch yn cael eu monitro a'u hystyried trwy gydol cyfnod meddiannaeth cylch bywyd adeilad, sefydlu mecanweithiau cadarn ar gyfer cyfranogiad preswylwyr a systemau gwneud iawn cryfach pan fydd pethau'n mynd o'i le. Mae'r Bil yn rhan allweddol o raglen gynhwysfawr o ddiwygio, sy'n cynnwys gwaith partneriaeth agos rhwng awdurdodau lleol, y gwasanaeth tân, y diwydiant a phreswylwyr.

Rhaid i waddol Tŵr Grenfell olygu newid ystyrlon. Er mwyn y rhai a gollodd eu bywydau, eu teuluoedd, a'r goroeswyr, rhaid i ni sicrhau na all trychineb o'r fath byth ddigwydd yng Nghymru. Mae'r ymateb hwn yn cynrychioli ein hymrwymiad cadarn i'r nod hwnnw.

Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai 

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

1: Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch tân effeithiol er mwyn atal tanau, anafiadau a marwolaethau, sy'n cynnwys dysgu gwersi o drychineb Tŵr Grenfell a chanfyddiadau'r Ymchwiliad er mwyn gwella diogelwch adeiladau a thân yng Nghymru.

Mae'r adroddiad hwn yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell. Ers y tân, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau a chreu deddfwriaeth newydd, yn ogystal â chreu rhaglenni gwaith newydd i gryfhau systemau cydymffurfio a gorfodi, ac i wneud adeiladau presennol yn fwy diogel. Rydym wedi myfyrio ymhellach ar y diwygiadau hyn yn sgil Adroddiad Cam 2, gan gydnabod ei bod yn bwysig dysgu gwersi a sicrhau bod adeiladau yng Nghymru yn cael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal mewn ffordd sy'n rhoi’r pwys mwyaf ar ddiogelwch. 

Ym mis Chwefror 2025[1], fe wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn canfyddiadau’r Ymchwiliad ac mae'n barod i weithio gyda Llywodraeth y DU, a llywodraethau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, i roi'r diwygiadau a argymhellwyd ar waith. Mae hyn yn cynnwys argymhellion ar faterion a gedwir yn ôl a hefyd ar faterion datganoledig lle mae'n gwneud synnwyr i weithredu ar sail y DU gyfan.

[1] Datganiad Ysgrifenedig: Ymateb i'r Adroddiad ar Ymchwiliad Cam 2 Tŵr Grenfell (26 Chwefror 2025) | LLYW.CYMRU

2: Y Cyd-destun Cymreig

Datgelodd y drychineb yn Nhŵr Grenfell wirioneddau sylfaenol am ddiogelwch tân sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau daearyddol. Mae'r egwyddorion gwyddonol sy'n rheoli sut mae tân yn lledaenu yn aros yn gyson waeth beth fo'r lleoliad, sy’n golygu bod y gwersi a ddysgwyd o'r drychineb hon yn berthnasol ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig.

Mae gan Gymru oddeutu 180 o adeiladau preswyl uchel iawn o'i gymharu â 12,500 yn Lloegr, sy'n cynrychioli cyfran sylweddol is mewn perthynas â phoblogaeth y ddwy wlad.

Nid yw'r proffil tai gwahanol hwn yn lleihau pwysigrwydd canfyddiadau'r Ymchwiliad o safbwynt Cymru; yn hytrach, mae'n gofyn i ni gymhwyso'r gwersi hyn yn feddylgar ar draws ein hamgylchedd adeiledig penodol. Mae ein hymateb hefyd yn cydnabod gwahaniaethau eraill rhwng ein gwledydd, gan gynnwys amrywiadau yng nghyfundrefnau cyllido ac arolygu'r Gwasanaeth Tân ac Achub, ein dulliau o ymateb amlasiantaethol i argyfwng, a dulliau rheoli tai awdurdodau lleol.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i Ymchwiliad Tŵr Grenfell yn ystyried y ffactorau cyd-destunol hyn yn llawn tra'n cydnabod ein rhwymedigaeth gyffredin i sicrhau na fydd trychineb o'r fath byth yn digwydd eto, yma yng Nghymru nac yn unrhyw le arall.

3. Diweddariad cryno ar yr ymateb i'r argymhellion

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma ar yr argymhellion. Wedi'u grwpio yn ôl themâu'r Ymchwiliad:

Y Diwydiant Adeiladu

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
1113.6Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor

Argymhelliad

Bod y llywodraeth yn dwyn ynghyd, o dan un rheoleiddiwr, yr holl swyddogaethau sy’n ymwneud â’r diwydiant adeiladu yr ydym wedi cyfeirio atynt.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU, ac mae wedi ei dderbyn mewn egwyddor. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn egwyddor yr argymhelliad ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i'w roi ar waith. 

Beth rydym wedi'i wneud 

Mae'r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn yr argymhelliad hwn yn cwmpasu meysydd a gedwir yn ôl a meysydd a datganoledig, gan gyflwyno lefel o gymhlethdod sy'n gofyn am gydlynu gofalus â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Rydym wedi cychwyn trafodaethau manwl gyda'n cymheiriaid ar draws pob gweinyddiaeth ac wedi sicrhau cynrychiolaeth ar weithgorau perthnasol lle mae'r strwythurau rheoleiddio yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Nodwn fod Llywodraeth y DU wedi dechrau gweithio i gryfhau'r drefn reoleiddio bresennol drwy'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau ac wedi ymrwymo i gyhoeddi Prosbectws Rheoleiddio'r Amgylchedd Adeiledig. Rydym yn cymryd rhan weithredol yn y broses hon i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli'n llawn a'u hystyried yn nyluniad unrhyw reoleiddiwr unigol yn y dyfodol.

Ein safbwynt o hyd wrth gwrs yw mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw swyddogaethau nad ydynt wedi'u datganoli. Ar gyfer swyddogaethau datganoledig, megis goruchwylio rheoli adeiladau, rydym yn parhau i arfer y pwerau hyn yng Nghymru a byddwn yn gweithio i sicrhau bod unrhyw drefniadau newydd yn parchu cymwyseddau datganoledig tra'n galluogi cydweithio a gweithrediad effeithiol.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau bod unrhyw reoleiddiwr unigol a sefydlir yn gallu gweithredu mewn ffordd sy'n effeithiol ac yn parchu cyfrifoldebau datganoledig.

Rydym yn cefnogi sefydlu un rheoleiddiwr lle gall:

  • Wella cydweithio trawsffiniol, yn enwedig mewn meysydd fel trwyddedu contractwyr, achredu peirianwyr tân ac aseswyr risg tân, lle byddai cofrestr a rennir rhwng Cymru a Lloegr yn ymarferol ac yn effeithlon;
  • Darparu monitro a chyngor cyson ar weithredu rheoliadau adeiladu, gyda dulliau adrodd sy'n cynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru;
  • Hwyluso'r gwaith o gasglu a chyfnewid gwybodaeth am ddiogelwch tân ac arferion adeiladu, yn ddomestig ac yn rhyngwladol, i lywio polisi ac arferion yng Nghymru;
  • Cynnal llyfrgell unedig o ddata profion a chyhoeddiadau sy'n hygyrch i'r cyhoedd, gan osgoi dyblygu a sicrhau tryloywder ledled y DU.

Byddwn hefyd yn cynnal adolygiad o Bwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu (BRACW) i sicrhau bod ei gylch gwaith yn cyd-fynd â'r dirwedd reoleiddio sy'n esblygu, ac y gall gefnogi Gweinidogion Cymru yn effeithiol i ymgysylltu â'r rheoleiddiwr newydd.

Ein nod cyffredinol yw sicrhau bod unrhyw drefniadau rheoleiddio newydd yn darparu gwell diogelwch, tryloywder ac atebolrwydd ar draws y sector adeiladu, tra'n diogelu uniondeb cyfrifoldebau datganoledig a sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu diwallu'n llawn.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
2113.7Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Bod y diffiniad o adeilad risg uwch at ddibenion y Ddeddf Diogelwch Adeiladau yn cael ei adolygu ar frys.

Beth rydym wedi'i wneud 

Bydd y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn cyflwyno cyfundrefn cam meddiannu, sy'n cwmpasu'r mwyafrif helaeth o adeiladau preswyl amlfeddiannaeth yng Nghymru, nid adeiladau risg uwch (HRBs) yn unig. 

Ar wahân, mae'r diffiniad o adeilad risg uwch ar gyfer y cam dylunio ac adeiladu eisoes ar waith. Bydd adolygiad pellach o'r diffiniad hwn yn cael ei gynnal maes o law, wedi'i lywio gan ymgysylltiad parhaus â Llywodraeth y DU.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Rydym wedi ymrwymo i adolygu'r diffiniad(au) presennol yn gyson, gyda'r bwriad o fabwysiadu dehongliad ehangach a mwy cynhwysol.

Yn ogystal â hynny, rydym wedi ymrwymo i fonitro'n agos unrhyw newidiadau a wneir i'r diffiniad yn Lloegr. Gallai newidiadau o'r fath gael goblygiadau sylweddol o ran rheoleiddio'r proffesiwn rheolaeth adeiladu. Ar ben hynny, gallai unrhyw wahaniaeth effeithio ar ein polisi presennol o gyfyngu'r broses o oruchwylio gwaith adeiladu risg uwch i awdurdodau lleol, yn enwedig o ran eu gallu i reoli’r cwmpas llawn o gyfrifoldebau.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
3113.8Ar waithLlywodraeth y DUDdim yn berthnasol

Argymhelliad

Bod y llywodraeth yn rhoi’r cyfrifoldeb dros y swyddogaethau sy’n ymwneud â diogelwch tân – sy’n cael ei ysgwyddo ar hyn o bryd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG), y Swyddfa Gartref a’r Adran Busnes a Masnach – i un adran o dan un Ysgrifennydd Gwladol.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU, ac mae wedi ei dderbyn yn llawn. 

Yng Nghymru, cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yw pob mater diogelwch tân.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
4113.9Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor

Argymhelliad

Bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn penodi Prif Gynghorydd Adeiladu sydd â digon o gyllideb a staff i roi cyngor ar bob mater sy’n effeithio ar y diwydiant adeiladu, gan gynnwys:

  • monitro pob agwedd ar waith yr adran sy’n ymwneud â Rheoliadau Adeiladu a chanllawiau statudol
  • rhoi cyngor i’r Ysgrifennydd Gwladol ar gais, a
  • thynnu sylw’r Ysgrifennydd Gwladol at unrhyw faterion sy’n effeithio ar y Rheoliadau Adeiladu a’r canllawiau statudol, neu at faterion sy’n effeithio ar y diwydiant adeiladu’n fwy cyffredinol y dylai’r llywodraeth fod yn ymwybodol ohonynt

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU, ac mae wedi ei dderbyn yn llawn. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i'w roi ar waith. 

Beth rydym wedi'i wneud 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU i gael mewnwelediad i'r rôl ac i gymryd rhan yn y gweithgor a sefydlwyd yn ddiweddar.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth y DU i gael dealltwriaeth gynhwysfawr o rôl a swyddogaeth y Prif Gynghorydd Adeiladu ac i archwilio sut y gall y swydd hon gefnogi ac ychwanegu gwerth at y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
5113.11Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
6113.12Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
7113.13Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
8113.13Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
9113.14Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn
12113.18Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhellion

5: Bod y canllawiau statudol yn gyffredinol, a Dogfen Gymeradwy B yn benodol, yn cael eu hadolygu yn briodol, a bod fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo modd.

6: Bod fersiwn ddiwygiedig o’r canllawiau yn cynnwys rhybudd clir ym mhob adran bod y gofynion cyfreithiol wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau Adeiladu, ac na fydd cydymffurfio â’r canllawiau o reidrwydd yn arwain at gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol.

7: Yn sgil deunyddiau a dulliau adeiladu newydd, a’r arfer o osod haen newydd o gladin (overcladding) ar adeiladau sydd eisoes yn bodoli, mae adrannu effeithiol yn rhagdybiaeth ddadleuol ac rydym yn argymell y dylid ailystyried hynny wrth ddiwygio Dogfen Gymeradwy B.

8: Mae amcangyfrif pa mor gyflym mae tân yn debygol o ledaenu a’r amser sydd ei angen i wagio’r adeilad, gan gynnwys cael pobl sydd ag amhariadau corfforol neu feddyliol allan o’r adeilad, yn faterion i beiriannydd tân cymwys. Nid ydym yn credu y byddai’n ddefnyddiol ceisio cynnwys yn Nogfen Gymeradwy B syniad o’r hyn a fyddai’n dderbyniol gan fod pob adeilad yn wahanol, ond rydym yn argymell bod y canllawiau’n tynnu sylw at yr angen i amcangyfrif hynny.

9: I’r graddau y bo modd, y dylai aelodau cyrff sy'n rhoi cyngor ar newidiadau i'r canllawiau statudol gynnwys cynrychiolwyr o'r gymuned academaidd yn ogystal â'r rheini sydd â phrofiad ymarferol o'r diwydiant (gan gynnwys peirianwyr tân) a ddewiswyd oherwydd eu profiad a'u sgiliau, a dylai'r aelodaeth gynnwys mwy na dim ond y rheini sydd wedi gwasanaethu ar gyrff tebyg yn y gorffennol.

12: Dylid bod yn ofalus gyda BS 9414, ac rydym yn argymell bod y llywodraeth yn dweud yn glir na ddylid ei ddefnyddio yn lle asesiad gan beiriannydd tân sydd â chymwysterau addas.

Beth rydym wedi'i wneud 

Mae’r canllawiau yn Nogfen Gymeradwy B wedi cael eu diweddaru sawl gwaith ers 2017 i wella safonau diogelwch tân, gan gynnwys newidiadau a wnaed eleni (2025). Yn gyffredinol, nod y newidiadau yw lleihau'r risg o hylosgi oherwydd deunyddiau fflamadwy, a gwella diogelwch tân pan fo gwaith adeiladu perthnasol yn cael ei wneud ar adeiladau penodol.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud 

5, 6,7, 8 a 12: Nodwn fod y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau yn cynnal adolygiad o'r canllawiau statudol (Dogfennau Cymeradwy) yn Lloegr. O ystyried y tebygrwydd yn y dogfennau canllawiau statudol (yn enwedig Dogfen Gymeradwy B) sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru a Lloegr, byddwn yn monitro'r gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo ac yn ystyried yr argymhellion mewn perthynas â'r canllawiau statudol cyfredol yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau i nodi ac ystyried gwelliannau pellach i Ddogfen Gymeradwy B, sy'n cael ei chadw o dan adolygiad parhaus. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar newidiadau pellach i Ddogfen Gymeradwy B dros y deunaw mis nesaf.

Byddwn hefyd yn ymdrin ag argymhellion 6, 7 ac 8 drwy'r gwaith hwn.

9. Rydym yn cytuno y dylai aelodaeth o'n cyrff rheoleiddio adeiladu gynnwys cynrychiolwyr o'r gymuned academaidd yn ogystal â'r rhai sydd â phrofiad ymarferol o'r diwydiant, lle nad ydynt eisoes yn eu cynnwys. Byddwn yn adolygu aelodaeth BRACW pan fydd aelodaeth yn dod i bwynt adolygu naturiol, byddwn yn manteisio ar y cyfle hwn i adolygu ac o bosibl ehangu er mwyn sicrhau cysondeb â'r argymhelliad hwn. 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
10113.15Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Ei gwneud yn ofyniad statudol i strategaeth diogelwch tân sy’n cael ei pharatoi gan beiriannydd tân cofrestredig gael ei chyflwyno gyda cheisiadau rheolaeth adeiladu (ym Mhorth 2) ar gyfer adeiladu neu adnewyddu unrhyw adeilad risg uwch, a’i bod yn cael ei hadolygu a’i hailgyflwyno ar y cam cwblhau (Porth 3). Rhaid i strategaeth o’r fath ystyried anghenion pobl agored i niwed, gan gynnwys yr amser ychwanegol y gallai fod ei angen arnynt i adael yr adeilad neu i gyrraedd man diogel o fewn yr adeilad, ac unrhyw gyfleusterau ychwanegol sydd eu hangen i sicrhau eu bod yn ddiogel.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym wrthi'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y gwaith parhaus sy'n ymwneud â rheoleiddio'r proffesiwn peirianneg tân.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y gwaith parhaus ar gyfer rheoleiddio'r proffesiwn peirianneg tân. Unwaith y bydd y gwaith hwn yn dod i ben, rydym yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ffurfiol ac ystyried y ffordd orau o ymgorffori'r argymhelliad hwn ym mhrosesau Porth 2.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
11113.17Ar waithY Sefydliad Safonau Prydeinig.Mewn egwyddor

Argymhelliad

Mae’n anodd asesu a all wal allanol gefnogi strategaeth gadael benodol oherwydd nad yw’r wybodaeth angenrheidiol ar gael bob amser. Rydym felly’n argymell bod camau’n cael eu cymryd ar y cyd â’r gymuned broffesiynol ac academaidd i ddatblygu dulliau profi newydd a fydd yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i asesiadau o’r fath gael eu cynnal mewn ffordd ddibynadwy.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI). Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn gweithio gyda'r BSI, fel y bo'n briodol, gyda'r bwriad o roi'r argymhelliad ar waith.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
13113.22Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
14113.23Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor

Argymhelliad

13. Y dylai’r rheoleiddiwr adeiladu fod yn gyfrifol am asesu a yw cynnyrch adeiladu yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth, canllawiau statudol a safonau’r diwydiant, ac am gyhoeddi tystysgrifau fel y bo’n briodol. Dylem ddisgwyl i dystysgrifau o’r fath fod yn flaenllaw yn y farchnad.

14. bod copïau o holl ganlyniadau profion sy'n ategu unrhyw dystysgrif a gyhoeddir gan y rheoleiddiwr adeiladu yn cael eu cynnwys yn y dystysgrif

bod rhaid i weithgynhyrchwyr roi i'r rheoleiddiwr adeiladu holl hanes profi'r cynnyrch neu'r deunydd sy’n berthnasol i’r dystysgrif, a rhoi gwybod i'r rheoleiddiwr am unrhyw amgylchiadau perthnasol a allai effeithio ar ei berfformiad

ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i weithgynhyrchwyr ddarparu copïau ar gais o holl ganlyniadau profion sy’n ategu honiadau am berfformiad tân a wneir ar gyfer eu cynnyrch

Mae'r argymhellion hyn wedi'u cyfeirio at Lywodraeth y DU, ac mae wedi eu derbyn mewn egwyddor. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhellion a bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i'w rhoi ar waith.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym wrthi'n ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y materion hyn.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud 

Er bod y rhain yn faterion nad ydynt wedi'u datganoli ar y cyfan, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i fod yn gyson â Llywodraeth y DU a chefnogi unrhyw agweddau datganoledig cysylltiedig. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd dull cyson a chydlynol o ardystio cynnyrch, sy'n hanfodol i ddarparu eglurder a sicrwydd i'r sector adeiladu.

Byddwn yn parhau i drafod â Llywodraeth y DU, gan gyfrannu at ddatblygu diwygiadau yn y dyfodol o safbwynt rheoleiddio cynnyrch a chyfundrefnau profi. Ein nod yw sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli a bod unrhyw newidiadau yn cefnogi fframwaith rheoleiddio unedig ac effeithiol ledled y DU.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
15113.25Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
16113.26Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
17113.27Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
18113.28Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor

Argymhellion

15: Bod proffesiwn peiriannydd tân yn cael ei gydnabod a’i warchod gan y gyfraith a bod corff annibynnol yn cael ei sefydlu i reoleiddio’r proffesiwn, i ddiffinio’r safonau sy’n ofynnol ar gyfer aelodaeth, i gynnal cofrestr o'r aelodau, ac i reoleiddio eu hymddygiad.

16: Bod y llywodraeth yn cymryd camau brys i gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyrsiau lefel meistr o ansawdd uchel ym maes peirianneg tân, sy’n cael eu hachredu gan y rheoleiddiwr proffesiynol.

17: Bod y llywodraeth yn cynnull grŵp o ymarferwyr a pheirianwyr academaidd ym maes tân a gweithwyr proffesiynol eraill fel y mae’n gweld sy’n addas i lunio datganiad awdurdodol am yr wybodaeth a’r sgiliau y disgwylir i beiriannydd tân cymwys eu cael. Byddai datganiad o’r fath hefyd yn galluogi eraill yn y diwydiant adeiladu i ddeall yn well beth yw natur a phwysigrwydd gwaith peiriannydd tân.

18: Bod y llywodraeth, gan weithio ar y cyd â diwydiant a chyrff proffesiynol, yn annog datblygu cyrsiau ar egwyddorion peirianneg tân ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu ac aelodau o’r gwasanaethau tân ac achub fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae'r argymhellion hyn wedi'u cyfeirio at Lywodraeth y DU, ac mae wedi eu derbyn yn llawn. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhellion a bydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau i'w rhoi ar waith.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym eisoes wedi cychwyn trafod yn gynnar â rhanddeiliaid allweddol a'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau i archwilio cwmpas a chyfeiriad y gwaith hwn. 

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Bydd Llywodraeth y DU a'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau yn arwain ar y gwaith sy'n deillio o'r argymhellion hyn, o ystyried eu cyfrifoldeb cyffredinol am y fframwaith rheoleiddio. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â nhw i archwilio cyfleoedd i ymestyn y cynllun trwyddedu arfaethedig i Gymru. Mae'r dull hwn yn adlewyrchu ein gwaith cysoni blaenorol ar reoleiddio'r proffesiwn Rheoli Adeiladu, lle mae system unedig wedi darparu cysondeb ac eglurder ar draws y ddwy wlad. 

Ein nod yw sicrhau bod unrhyw drefniadau trwyddedu yn y dyfodol yn gydlynol, yn effeithiol ac yn adlewyrchu anghenion sector adeiladu Cymru. Bydd ymgysylltu gweithredol yn helpu i sicrhau bod buddiannau datganoledig yn cael eu hystyried yn llawn wrth ddatblygu a rhoi’r cynllun ar waith.

Argymhelliad 19 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
19113.30Ar waithY Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA)Mewn Egwyddor

Argymhelliad

Rydym yn cydnabod bod y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) wedi cymryd camau ers tân Tŵr Grenfell i wella addysg a hyfforddiant penseiri. Rydym yn argymell y dylent adolygu’r newidiadau a wnaed eisoes i sicrhau eu bod yn ddigonol yng ngoleuni ein canfyddiadau.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at yr ARB a'r RIBA. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn gweithio gyda'r ARB a'r RIBA, fel y bo'n briodol, gyda'r bwriad o roi'r argymhelliad ar waith.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
20113.31Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Ei gwneud yn ofyniad statudol i gais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu mewn perthynas ag adeiladu neu adnewyddu adeilad risg uwch (Porth 2) gael ei ategu gan ddatganiad gan uwch reolwr y prif ddylunydd o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 bod pob cam rhesymol wedi cael ei gymryd i sicrhau y bydd yr adeilad, ar ôl iddo gael ei gwblhau, mor ddiogel ag sy’n ofynnol yn ôl y Rheoliadau Adeiladu.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym wedi ymgynghori ar newidiadau a fyddai'n rhoi'r argymhelliad hwn ar waith. Mae'r adolygiad cychwynnol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth i'r newidiadau arfaethedig.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Yn dilyn yr ymgynghoriad, rydym yn cynnal adolygiad manwl o’r ymatebion ac yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i gael datganiad ffurfiol gan uwch reolwr y prif ddylunydd i gyd-fynd â phob cais Porth 2 ar gyfer adeiladau risg uwch. Bydd y datganiad hwn yn cadarnhau bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd i sicrhau y bydd yr adeilad, fel y'i dyluniwyd, yn cydymffurfio â'r safonau diogelwch a nodir yn y Rheoliadau Adeiladu ar ôl ei gwblhau. Bydd y mesur hwn yn cryfhau atebolrwydd ac yn atgyfnerthu'r egwyddor o ddiogelwch trwy ddylunio o fewn y fframwaith rheoleiddio.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
21113.33Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor

Argymhelliad

Bod cynllun trwyddedu sy’n cael ei weithredu gan y rheoleiddiwr adeiladu yn cael ei gyflwyno ar gyfer prif gontractwyr sy’n dymuno adeiladu neu adnewyddu adeiladau risg uwch, a’i bod yn ofyniad cyfreithiol bod unrhyw gais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer adeiladu neu adnewyddu adeilad risg uwch (Porth 2) yn cael ei ategu gan ymrwymiad personol gan gyfarwyddwr neu uwch reolwr y prif gontractwr i gymryd pob gofal rhesymol i sicrhau bod yr adeilad, ar ôl iddo gael ei gwblhau a’i drosglwyddo, mor ddiogel ag sy’n ofynnol yn ôl y Rheoliadau Adeiladu.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU a’r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau, ac mae wedi cael ei dderbyn yn llawn gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn parhau i weithio gyda'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau ac eraill i'w roi ar waith.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym wedi bod yn trafod yn gynnar gyda rhanddeiliaid a'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau. 

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Byddwn yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU a'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau i archwilio'r potensial ar gyfer cysoni â'r cynllun trwyddedu a'i ymestyn i Gymru. Byddai'r dull hwn yn adeiladu ar y cynsail llwyddiannus a osodwyd trwy ein haliniad ar reoleiddio'r proffesiwn Rheoli Adeiladu, gan sicrhau cysondeb, effeithlonrwydd ac eglurder ar draws y ddwy wlad.

Argymhellion 22 a 23 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
22113.37Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor
23113.38Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor

Argymhellion

22: Bod y llywodraeth yn penodi panel annibynnol i ystyried a yw o fudd i’r cyhoedd i swyddogaethau rheolaeth adeiladu gael eu cyflawni gan y rheini sydd â budd masnachol yn y broses.

23: Rydym yn argymell bod yr un panel yn ystyried a ddylai swyddogaethau rheolaeth adeiladu gael eu cyflawni gan awdurdod cenedlaethol.

Mae'r argymhellion hyn wedi'u cyfeirio at Lywodraeth y DU, ac mae wedi eu derbyn yn llawn. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhellion a bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i'w rhoi ar waith.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym wedi cytuno â Llywodraeth y DU i fod yn arsylwyr i'w Panel Annibynnol ar Reoli Adeiladu sy'n adolygu'r argymhelliad hwn.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu panel annibynnol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i gynnal adolygiad cynhwysfawr o swyddogaethau Rheoli Adeiladu yng Nghymru. I ddechrau, bydd hyn yn cynnwys arsylwi a dysgu o waith y Panel Annibynnol ar Reoli Adeiladu (BCIP), a gwaith Llywodraeth y DU mewn ymateb i argymhellion y Panel, i lywio ein dull gweithredu a sicrhau cysondeb lle bo hynny'n briodol.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
24113.39Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor

Argymhelliad

Rydym wedi cyfeirio at y Llyfrgell Deunyddiau Cladin a sefydlwyd gan Brifysgol Queensland, a allai fod yn sail i ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i ddylunwyr adeiladau yn gyffredinol. Rydym yn argymell bod y rheoleiddiwr adeiladu yn noddi’r gwaith o ddatblygu llyfrgell debyg, fel rhan o brosiect ar y cyd â Phrifysgol Queensland o bosibl, i ddarparu adnodd parhaus i ddylunwyr.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU, ac mae wedi ei dderbyn yn llawn. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau datganoledig eraill i'w roi ar waith.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill i gefnogi gwell mynediad at wybodaeth sy'n cynnig gwybodaeth glir, gywir a chyfredol i ddefnyddwyr am gynhyrchion adeiladu a sut i'w defnyddio'n ddiogel. 

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Parhau i weithio mewn partneriaeth ag eraill i roi'r argymhelliad hwn ar waith.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
25113.40Ar waithLlywodraeth CymruMewn egwyddor

Argymhelliad

Ei bod yn ofyniad cyfreithiol i'r llywodraeth gadw cofnod sy'n agored i'r cyhoedd o argymhellion a wneir gan bwyllgorau dethol, crwneriaid ac ymchwiliadau cyhoeddus, ynghyd â disgrifiad o'r camau a gymerwyd i ymateb i hynny. Os bydd y llywodraeth yn penderfynu peidio â derbyn argymhelliad, dylai gofnodi ei rhesymau dros wneud hynny. Senedd y Deyrnas Unedig ddylai graffu ar weithredoedd y llywodraeth, a dylai’r llywodraeth orfod adrodd yn flynyddol i Senedd y Deyrnas Unedig.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym yn cefnogi'r angen i nodi gwersi y gellir eu dysgu a gwelliannau y gellid eu gwneud yn dilyn ymchwiliadau gan bwyllgorau seneddol, crwneriaid ac ymchwiliadau cyhoeddus ac ar hyn o bryd yn adolygu'r ffordd orau o gryfhau mecanweithiau goruchwylio yn fewnol.

Mae gwaith cwmpasu wedi dechrau er mwyn ystyried sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr argymhellion o ymchwiliadau cyhoeddus yn cael eu cofnodi, a bod arweinyddiaeth briodol yn cael ei darparu i oruchwylio'r broses o'u rhoi ar waith. Mae hyn yn cynnwys monitro a gwerthuso ymchwiliadau ers 2010 gydag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac ymchwiliadau nad ydynt yn cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond sy'n cynnwys cyfleoedd dysgu gwerthfawr.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Rydym yn nodi argymhelliad Pwyllgor Ymchwiliadau Statudol Tŷ'r Arglwyddi yn ei adroddiad Public Inquiries: Enhancing Public Trust sy'n cynnig sefydlu pwyllgor Seneddol newydd i wella'r gwaith craffu ar ymateb y llywodraeth i argymhellion ymchwiliad. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno mai mater i Senedd Cymru yw craffu ar ei gweithredoedd, a bydd Gweinidogion yn ymrwymo i ddiweddaru'r Senedd ar gynnydd o ran rhoi argymhellion ymchwiliad ar waith. Rydym wedi cael trafodaethau gyda Senedd Cymru yn flaenorol am y gwaith craffu ar argymhellion o ymchwiliadau cyhoeddus, sef Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y DU. Bydd angen ystyried gwaith craffu'r Senedd ymhellach ar draws y dirwedd ymchwiliadau fel rhan o broses Diwygio'r Senedd yn 2026.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
26113.41Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Bod y llywodraeth yn sefydlu system achredu orfodol i ardystio cymhwysedd aseswyr risg tân drwy osod safonau ar gyfer cymwysterau a datblygiad proffesiynol parhaus, ac unrhyw fesurau eraill sy’n cael eu hystyried yn angenrheidiol neu’n ddymunol. Rydym ni’n credu bod rhaid i system achredu fod yn orfodol er mwyn sicrhau bod pawb sy’n cynnig eu gwasanaethau fel aseswyr risg tân yn gymwys i wneud hynny.

Beth rydym wedi'i wneud 

Mae'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob aseswr risg tân adeiladau preswyl amlfeddiannaeth fod yn gymwys. Mae'r Bil yn cynnig y bydd yn drosedd cynnal asesiad risg tân pan nad yw person yn gymwys i wneud hynny, ac i berson atebol gontractio am y gwaith hwn gyda rhywun y mae'n ymwybodol nad yw’n gymwys, neu y dylai fod yn ymwybodol nad yw’n gymwys. 

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Rydym yn bwriadu gwneud rheoliadau o dan y Bil sy'n nodi ffyrdd y mae'n rhaid i aseswyr risg tân ddangos cymhwysedd. Gallai'r rhain gynnwys bod â chymwysterau penodol neu fod yn aelod o gyrff proffesiynol cydnabyddedig. Gall y rheoliadau hefyd gynnwys cynlluniau achredu corfforaethol cymeradwy ar gyfer cwmnïau a chyflogwyr eraill aseswyr risg tân. Mae gwneud hyn yn gofyn am gytundeb ar lefel y DU gyda'r sector diogelwch tân ar strwythurau a safonau ar gyfer yr holl lwybrau hyn at gymhwysedd. Rydym yn gweithio'n agos ar hyn gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
27113.43Ar waithLlywodraeth y DU Mewn egwyddor

Argymhelliad

Nid ydym mewn sefyllfa i benderfynu a oes angen mwy o safoni ar gyfer yr allweddi a’r switshys rheolaeth tân. Rydym felly’n argymell bod y llywodraeth yn gofyn am gyngor brys gan y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau a Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân ar natur a maint y broblem, a’r ymateb priodol i’r broblem.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU, ac mae wedi cael ei dderbyn yn llawn. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'i bartneriaid i'w roi ar waith.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
28113.44Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor

Argymhelliad

Bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod pob trawsgludydd nwy yn gwirio hygyrchedd pob falf o’r fath ar ei system o leiaf unwaith bob tair blynedd, ac yn adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r archwiliad hwnnw i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fel rhan o’i adolygiad o achosion diogelwch nwy.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU, ac mae wedi'i dderbyn mewn egwyddor. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac yn cyfrannu at newid mewn gofynion lle bo’r angen.

Gwasanaethau tân ac achub

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
29113.51Ar waithLlywodraeth CymruMewn egwyddor
30113.53Ar waithLlywodraeth CymruMewn egwyddor

Argymhellion

29: Bod y llywodraeth yn sefydlu [Coleg Tân ac Achub annibynnol] ar unwaith, sydd â digon o adnoddau i ddarparu’r gwasanaethau canlynol yn genedlaethol:

  • hyfforddiant ymarferol ar bob lefel yn ychwanegol at yr hyn a ddarperir gan wasanaethau tân ac achub unigol
  • addysg ar ffurf darlithoedd a seminarau ynghylch gwahanol agweddau ar waith y gwasanaethau tân ac achub, er mwyn rhannu profiadau a hyrwyddo arferion da
  • ymchwil i faterion a allai effeithio ar waith y gwasanaethau tân ac achub, gan gynnwys tanau mawr
  • datblygu cyfarpar, polisïau a gweithdrefnau sy’n addas ar gyfer sicrhau effeithiolrwydd gwasanaethau tân ac achub yn genedlaethol, a diogelwch diffoddwyr tân a’r cyhoedd
  • gosod a chynnal safonau cenedlaethol ar gyfer cymhwysedd rheoli uwch reolwyr, gan gynnwys rheolwyr ystafelloedd rheoli, a darparu hyfforddiant rheoli ar gyfer uwch swyddogion, a’u hasesu’n rheolaidd, drwy gyfeirio at y safonau hynny.

30: Y dylai [y coleg] gael digon o staff parhaol i reoli ei weithrediadau ac i ddatblygu ei swyddogaethau er mwyn ymateb i ofynion gwasanaethau tân ac achub yn genedlaethol a gofynion y bwrdd. Bydd gofyn bod cyfleusterau parhaol ar gael i'r coleg, gan gynnwys cyfleusterau ar gyfer addysg a hyfforddiant ymarferol. Rydym yn rhag-weld y bydd llawer o’r hyfforddiant a’r addysg yn cael eu darparu a’u harwain gan ddiffoddwyr tân â phrofiad addas a ddaw o wasanaethau tân ac achub o bob cwr i’r wlad yn ôl gofynion yr amgylchiadau.

Beth rydym wedi'i wneud 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'n llawn yr argymhelliad i sefydlu Coleg Tân fel modd o wella safonau proffesiynoldeb o fewn y gwasanaethau tân ac achub. Gan y dylai diogelwch diffoddwyr tân a'r safonau a ddisgwylir ganddynt fod yn gyson, rydym yn trafod gyda'r DU a’r llywodraethau datganoledig eraill ynghylch sefydlu coleg. 

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraethau eraill y DU i ddatblygu model hyfyw ar gyfer Coleg Tân, ac i gefnogi ei sefydlu cyn gynted â phosibl. 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
31113.55Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Bod Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (“yr Arolygiaeth”) yn arolygu Brigâd Dân Llundain cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl er mwyn asesu ac adrodd ar y canlynol:

  • i ba raddau y mae'r ystafell reoli bellach wedi'i hintegreiddio yn y sefydliad
  • effeithiolrwydd y trefniadau ar gyfer nodi anghenion hyfforddi staff yr ystafell reoli, darparu hyfforddiant effeithiol a chofnodi’r canlyniadau
  • effeithiolrwydd yr ystafell reoli yn gyffredinol
  • gallu'r ystafell reoli i ddelio â nifer mawr o geisiadau ar yr un pryd am gyngor a chymorth gan bobl y mae tanau neu argyfyngau eraill yn effeithio’n uniongyrchol arnynt
  • ansawdd ac effeithiolrwydd y trefniadau cyfathrebu rhwng yr ystafell reoli a phennaeth y digwyddiad (113.55)

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Bydd y Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub (Cymru) (CFRAI (W) yn cynnal arolygiad wedi'i dargedu o 3 Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru i ganfod pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer asesu hyfforddiant personél rheoli tân ac i ystyried pa mor effeithiol yw'r trefniadau hynny. Bydd canfyddiadau ac argymhellion yn cael eu nodi mewn adroddiad gan y CFRAI(W). 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
32113.56Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl, bod yr Arolygiaeth yn arolygu Brigâd Dân Llundain i archwilio ac adrodd ar y trefniadau sydd ganddi ar waith ar gyfer asesu hyfforddiant penaethiaid digwyddiadau ar bob lefel a’u cymhwysedd parhaus, boed hynny drwy broses ailddilysu neu fel arall. (113.56)

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Bydd y CFRAI(W) yn cynnal arolygiad wedi'i dargedu o'r 3 gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru i sefydlu pa drefniadau sydd ar waith ar gyfer asesu hyfforddiant comanderiaid digwyddiadau ac ystyried pa mor effeithiol yw'r trefniadau hynny. Bydd canfyddiadau ac argymhellion yn cael eu nodi mewn adroddiad gan y CFRAI(W).

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
33113.57Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod yr Arolygiaeth yn arolygu Brigâd Dân Llundain ac yn adrodd ar ei threfniadau ar gyfer casglu, storio a dosbarthu gwybodaeth yn unol ag adran 7(2)(d) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ac yn benodol ei threfniadau ar gyfer dynodi adeiladau preswyl risg uchel a chasglu, storio a dosbarthu gwybodaeth sy'n ymwneud â nhw (113.57) 

Beth rydym wedi'i wneud 

Mae'r CFRAI(W) wedi gwneud argymhellion o'r blaen mewn perthynas â'r broses ar gyfer casglu gwybodaeth am risg sy'n benodol i safle yn adroddiad Adolygiad Thematig 'Dysgu o Grenfell' (2021) (Argymhelliad 3). 

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Bydd y CFRAI(W) yn cynnal adolygiad o'r 3 gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru i ganfod i ba raddau y mae Argymhelliad 3 o adroddiad Adolygiad Thematig 'Dysgu o Grenfell' wedi'i roi ar waith.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
34113.58Ar waithBrigâd Dân Llundain (LFB)Mewn egwyddor
35113.59Ar waithGwasanaeth Tân ac AchubMewn egwyddor
36113.60Ar waithGwasanaeth Tân ac AchubMewn egwyddor
37113.61Ar waithGwasanaeth Tân ac AchubMewn egwyddor
38113.62Ar waithGwasanaeth Tân ac AchubMewn egwyddor
39113.63Ar waithGwasanaeth Tân ac AchubMewn egwyddor
41113.65Ar waithCyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC)Mewn egwyddor

Argymhellion

34: Bod Brigâd Dân Llundain yn sefydlu trefniadau sefydlog effeithiol ar gyfer casglu, ystyried a gweithredu’n effeithiol y gwersi y mae’n eu dysgu yn sgil digwyddiadau, cwestau ac ymchwiliadau blaenorol. Dylai’r trefniadau hynny fod mor syml â phosibl, yn hyblyg ac yn fath o drefniadau a fydd yn sicrhau bod unrhyw newidiadau priodol mewn arferion neu weithdrefnau yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym.

35: Bod gwasanaethau tân ac achub sy’n parhau i ddefnyddio radios pŵer isel diogel fel rhan o gyfarpar anadlu yn ystyried eu defnyddio dim ond mewn sefyllfaoedd lle mae perygl gwirioneddol y bydd nwyon fflamadwy yn tanio, a’u bod yn defnyddio radios mwy pwerus fel arfer, yn enwedig mewn adeiladau uchel iawn.

36: Bod pob gwasanaeth tân ac achub yn ystyried darparu radio digidol i bob diffoddwr tân.

37: Gan fod systemau cyfathrebu drwy radio, yn ôl eu natur, yn annibynadwy mewn rhai amgylcheddau, rydym yn argymell bod diffoddwyr tân yn cael eu hyfforddi i ymateb yn briodol pan fydd systemau cyfathrebu yn methu, ac i ddeall sut mae eu hadfer.

38: Bod pob diffoddwr tân yn cael hyfforddiant sylfaenol ar strwythur a gweithrediad y system cyflenwi dŵr, gan gynnwys y gwahanol fathau o hydrantau a ddefnyddir a’u swyddogaethau. Dylid hefyd rhoi hyfforddiant ar fesurau effeithiol i gynyddu llif a gwasgedd dŵr pan fydd angen. 

39: Bod yr holl wasanaethau tân ac achub yn sefydlu ac yn adolygu’n rheolaidd brotocol a gytunwyd â’r ymgymerwyr dŵr statudol yn eu hardaloedd er mwyn iddynt allu cyfathrebu’n effeithiol â’i gilydd ynghylch cyflenwi dŵr at ddibenion diffodd tân.

41: Bod Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) yn ystyried a ddylid annog diffoddwyr tân i beidio â gwyro oddi wrth eu cyfarwyddiadau ar eu liwt eu hunain, ac os felly o dan ba amgylchiadau, a darparu hyfforddiant priodol ar sut i ymateb i sefyllfa o’r fath.

Mae'r argymhellion hyn wedi'u cyfeirio at y gwasanaethau tân ac achub a NFCC. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhellion a bydd yn parhau i weithio gyda'r gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru, fel y bo'n briodol, i symud ymlaen â'r broses o'u rhoi ar waith.

Beth rydym wedi'i wneud 

Mae'r rhain yn faterion gweithredol i'r gwasanaethau tân ac achub. Rydym wedi nodi ein bod yn disgwyl i'r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru eu rhoi ar waith yn brydlon ac fel y bo'n briodol.

Yr hyn yr ydym wedi ymrwymo i'w wneud

Byddwn yn parhau i fonitro gweithrediad yr argymhellion hyn fel rhan o'n trafodaethau rheolaidd gyda'r gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Byddwn hefyd yn adlewyrchu'r angen i weithredu ar argymhellion yr Ymchwiliad yn ein Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub, y byddwn yn anelu at ymgynghori arno yn ddiweddarach eleni.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
40113.64Ar waithSefydliad Safonau Prydeinig (BSI)Mewn egwyddor

Argymhelliad

Bod y Sefydliad Safonau Prydeinig yn diwygio BS 750 i gynnwys disgrifiad o'r amgylchiadau lle mae'r cyfernod llif y mae'n cyfeirio ato ym mharagraff 10.2 yn cael ei fesur.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at y Sefydliad Safonau Prydeinig. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn gweithio gyda'r BSI, fel y bo'n briodol, i symud ymlaen â'r broses o roi'r argymhelliad ar waith.

Parodrwydd ar gyfer Argyfyngau, ymateb ac adfer

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
42113.67Ar waithLlywodraeth y DUMewn egwyddor

Argymhelliad

Bod y Ddeddf [Argyfyngau Sifil Posibl] [2004] yn cael ei hadolygu, ac yr ystyrir rhoi’r pŵer i Ysgrifennydd Gwladol dynodedig gyflawni swyddogaethau ymatebwr Categori 1 yn lle’r ymatebwr am gyfnod cyfyngedig.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Lywodraeth y DU, ac mae wedi ei dderbyn yn llawn. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i'w roi ar waith .

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ei hadolygiad o'r pwerau ymyrryd sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl i ddeall pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
43113.68Ar waithLlywodraeth CymruMewn egwyddor

Argymhelliad

Mae rheoliad 23 o Reoliadau Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 (Cynllunio Wrth Gefn) 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i ymatebwr Categori 1 ystyried gweithgareddau mudiadau gwirfoddol perthnasol wrth wneud ei gynlluniau. Rydym felly’n argymell diwygio’r rheoliad i’w gwneud yn ofynnol i ymatebwyr Categori 1 sefydlu a chynnal partneriaethau gyda’r mudiadau gwirfoddol, cymunedol a ffydd yn y meysydd lle maent yn gyfrifol am baratoi ar gyfer argyfyngau ac ymateb iddynt.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym yn cydnabod cyfraniad hanfodol y sector gwirfoddol a grwpiau ffydd i bob agwedd ar wydnwch. Drwy Fframwaith Gwydnwch Cymru, mae gwaith ar y gweill i gryfhau ein perthynas â'n partneriaid yn y sectorau gwirfoddol a ffydd, i dynnu ar eu gwybodaeth a'u galluoedd a'u hintegreiddio mewn gweithgareddau gwydnwch a rheoli argyfwng a datblygu polisi ar lefel leol a chenedlaethol.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn y sector gwirfoddol a grwpiau ffydd i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i chwarae rôl lawn mewn gweithgareddau parodrwydd ar gyfer argyfwng, ymateb ac adfer lle bo hynny'n briodol.

Byddwn yn gweithio gyda’r gymuned o ymatebwyr i adolygu rheoliadau 2005 ac asesu pa mor briodol ydynt i roi’r cyfarwyddyd angenrheidiol i ymatebwyr gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl. Ar ôl yr adolygiad, byddwn yn asesu pa mor briodol yw datblygu rheoliadau i Gymru, gan ddefnyddio pwerau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl i helpu ymatebwyr i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, byddwn yn ystyried ai gosod dyletswydd statudol ar ymatebwyr yw'r ffordd fwyaf priodol o adeiladu perthnasoedd cryfach rhwng ymatebwyr a'r sectorau gwirfoddol a ffydd i gyflawni ein nodau cyffredin.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
44113.69Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Mae’r canllawiau presennol ar baratoi ar gyfer argyfyngau wedi’u cynnwys mewn nifer o ddogfennau, gyda phob un ohonynt yn rhy hir ac wedi dyddio mewn rhai ffyrdd. Rydym yn argymell bod y canllawiau’n cael eu diwygio, eu cwtogi a’u cyfuno mewn un ddogfen sy’n rhoi mwy o bwyslais ar yr angen i’r rheini sy’n arwain yr ymateb ystyried y gofynion adfer, yr angen i ddod o hyd i bobl agored i niwed a phwysigrwydd nodi a sicrhau cydweithrediad â grwpiau gwirfoddol, cymunedol a ffydd, ac sy’n cyd-fynd â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym yn cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â'r ystod o ganllawiau sydd ar gael i'r gymuned ymatebwyr ar hyn o bryd ac yn derbyn yr angen i sicrhau bod canllawiau'n addas i'r diben ac yn darparu cymorth perthnasol i ymatebwyr

Fel yr amlinellir yn Fframwaith Gwydnwch Cymru, rydym yn cydnabod yr angen i gynyddu ein dealltwriaeth o’r bregusrwydd sylfaenol yn ein cymunedau, gan gynnwys sicrhau ein bod ni, a’n partneriaid, yn gallu nodi grwpiau sy’n agored i niwed ac mewn perygl yn well er mwyn sicrhau bod modd blaenoriaethu cymorth mwy penodol sydd wedi ei deilwra mewn unrhyw ddigwyddiad. 

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod canllawiau'n addas i'r diben ac yn gyfunol i ddarparu'r cymorth a'r cyngor angenrheidiol, sy'n gymesur ac yn ddilys i ymatebwyr i gefnogi gwell cynllunio, rheoli risg, a pharodrwydd.

Byddwn yn parhau i ailadrodd y system JIGSO amlasiantaethol i sicrhau bod partneriaid yn gallu adnabod ein dinasyddion mwyaf agored i niwed mewn argyfwng. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â grwpiau cydraddoldeb a chymunedol i ddatblygu’r data sydd ar gael, yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
45113.69Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Bod sylw i ystyriaethau dyngarol yn cael ei gydnabod yn benodol, drwy ei wneud yn nawfed egwyddor ymateb ac adfer effeithiol.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod ymatebwyr yn ystyried yr effeithiau posibl ar unigolion cyn, yn ystod ac ar ôl argyfwng. Mae Cynllun Ymateb Cymru Gyfan yn nodi’r trefniadau ar gyfer integreiddio’r ymateb i argyfyngau yng Nghymru neu sy’n effeithio ar Gymru ar lefel Cymru gyfan. Datblygwyd y cynllun yn 2005 ac mae wedi cael rhai diweddariadau rheolaidd, gan gynnwys adolygiad bras a gynhaliwyd yn ystod 2024. 

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i adolygu Cynllun Ymateb Cymru Gyfan i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion Llywodraeth Cymru a’n partneriaid ac yn darparu arweiniad effeithiol ar ein trefniadau rheoli argyfwng ar gyfer y dirwedd risg fodern. Bydd hyn yn cynnwys canllawiau i sicrhau bod ystyriaethau dyngarol yn cael eu cydnabod mewn ymatebion brys cenedlaethol.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
46113.70Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor

Argymhelliad

Fodd bynnag, dangosodd digwyddiadau fod angen dealltwriaeth gliriach o natur trefniadau Aur Llundain, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle mae effaith ar un fwrdeistref. Rydym felly'n argymell y dylid adolygu’r canllawiau ar weithredu’r trefniadau hynny, ac y dylai’r prif weithredwyr presennol a rhai a benodir o’r newydd gael hyfforddiant rheolaidd i sicrhau eu bod yn gyfarwydd ag egwyddorion y trefniadau.

Mae'r argymhelliad hwn yn benodol i drefniadau Aur Llundain. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn gweithio gyda phartneriaid, fel y bo'n briodol, gyda'r bwriad o symud ymlaen â'r broses o roi'r argymhelliad ar waith.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
47113.71Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Bod fforymau gwydnwch lleol yn mabwysiadu safonau cenedlaethol i sicrhau hyfforddiant, gwaith paratoi a chynlluniau effeithiol ar gyfer argyfyngau, ac yn mabwysiadu cynlluniau archwilio annibynnol i ganfod diffygion a sicrhau cydymffurfedd.

Beth rydym wedi'i wneud 

Mae effeithiolrwydd ein hagwedd at wydnwch yng Nghymru yn dibynnu ar bob corff ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol, a bod ein holl bartneriaid yn y gymuned argyfyngau sifil posibl yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau penodol. Er bod rhai sefydliadau sy’n ymateb, ond nid pob un, yn destun trefniadau rheoleiddio ac arolygu, nid oes mecanwaith sicrwydd ffurfiol ar hyn o bryd ar gyfer y gweithgareddau a gyflawnir gan Fforwm Lleol fel corff cyfunol. Er bod enghreifftiau rhagorol o bartneriaid ar draws gwydnwch yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd yn ystod argyfwng, rydym yn cydnabod bod angen peidio dibynnu’n llwyr ar brosesau craffu hunanasesu, gwirfoddol, i sicrhau ein bod yn gallu sicrhau’r sicrwydd angenrheidiol: a) bod yr holl gynlluniau perthnasol ar waith, b) bod y cysylltiadau hanfodol angenrheidiol rhwng partneriaid lleol a chenedlaethol i weithio’n effeithiol gyda’i gilydd yn ystod ymateb yn eu lle, ac c) bod ein hasiantaethau ymateb yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl i’r safonau uchaf.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i adeiladu ar arferion gorau presennol a’r Safonau Gwydnwch Cenedlaethol ar gyfer Fforymau Gwydnwch Lleol i ddatblygu fframwaith sicrwydd cenedlaethol ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn cael ei ategu gan set o safonau y cytunwyd arnynt i gefnogi gwelliant parhaus mewn rheoli risg a pharodrwydd, ac i yrru dysgu a datblygu sefydliadol. Pan fo’n bosibl, bydd y fframwaith sicrwydd newydd yn cyd-fynd â’r trefniadau arolygu presennol ac yn eu gwella, a bydd yn cael ei oruchwylio drwy ein strwythur llywodraethu ac atebolrwydd cadarn newydd.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
48113.71Ar waithLlywodraeth CymruMewn egwyddor

Argymhelliad

Bod mecanwaith yn cael ei gyflwyno i wirio’n annibynnol amlder ac ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir gan awdurdodau lleol ac ymatebwyr Categori 1 eraill.

Beth rydym wedi'i wneud 

Fel y nodwyd gennym yn Fframwaith Gwydnwch Cymru, rydym yn cydnabod bod angen cryfhau ein dulliau o baratoi ac ymateb drwy nodi a chryfhau'r bobl, y prosesau a'r sefydliadau sy'n gweithio ym maes argyfyngau sifil posibl. Felly, mae'n hanfodol sicrhau bod y galluoedd adfer ac ymateb a’r cynlluniau angenrheidiol ar waith, sydd yn cael eu siapio gan wersi o’r gorffennol a’u profi drwy hyfforddiant ac ymarfer rheolaidd. Mae’n hanfodol ein bod ni’n adeiladu ar y sylfeini cadarn, sy’n bodoli ar hyn o bryd, er mwyn parhau i gryfhau pa mor barod ydym ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau, a sut byddwn yn ymateb iddynt.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Gan weithio gyda phartneriaid, byddwn yn parhau i adeiladu ar y gofynion cyfreithiol o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 i sicrhau bod unigolion yn cael eu hyfforddi ar gyfer y rôl y disgwylir iddynt ymgymryd â hi, gan gymhwyso dull 'Unwaith i Gymru', lle bo'n briodol, i ddarparu hyfforddiant ac ymarfer i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ac arbedion maint a gwella cysondeb ar draws pob rhanbarth yng Nghymru. Lle bo’n briodol, byddwn yn canoli hyfforddiant ac ymarfer er mwyn osgoi dyblygu a helpu i sicrhau bod ymatebwyr yng Nghymru yn mabwysiadu dull gweithredu cyson o ran safonau. 

Byddwn yn sefydlu rhaglen parodrwydd a gallu Cymru gyfan, a fydd yn cynnwys datblygu system rheoli gwersi Cymru gyfan newydd, i gefnogi holl bartneriaid y gymuned argyfyngau sifil posibl i gymryd rhan mewn cyfleoedd hyfforddi ac ymarfer rheolaidd ar lefel y DU, cenedlaethol a lleol, ac sy'n ystyried dysgu allweddol ac arferion nodedig o ymchwiliadau cyhoeddus, ymarferion a digwyddiadau/argyfyngau mawr. Fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid yn y gymuned ymatebwyr i adeiladu ar arferion cydweithredol presennol a chwilio am gyfleoedd pellach i rannu arferion gorau o ran sicrhau ymateb amlasiantaethol effeithiol a chydgysylltiedig i ddigwyddiadau. Bydd hyn yn cynnwys adolygu a gwella hyfforddiant ar gyfer cynrychiolwyr sefydliadol ar Grwpiau Cydgysylltu Strategol (Aur Cymru) ac ar Grwpiau Strategol Tactegol (Arian Cymru), gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer cadeiryddion y Grwpiau Cydgysylltu Strategol.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
49113.73Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor

Argymhelliad

Bod awdurdodau lleol yn hyfforddi eu holl weithwyr, gan gynnwys prif weithredwyr, i ystyried cadernid fel rhan annatod o’u cyfrifoldebau.

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad a bydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol drwy ein trefniadau partneriaeth presennol gyda fforymau gwydnwch lleol yng Nghymru i ddeall ymhellach pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhelliad hwn.

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
50113.74Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor
51113.75Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor 
52113.76Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor 
53113.76Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor 
54113.77Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor 
55113.78Ar waithAwdurdodau lleolMewn egwyddor 

Argymhellion

50: Nid oedd gan Fwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea (RBKC) unrhyw ffordd effeithiol o gasglu a chofnodi gwybodaeth am y rheini a oedd wedi cael eu symud o’r tŵr a’r adeiladau cyfagos, gan gynnwys y rheini a oedd ar goll. Mae’n anodd casglu gwybodaeth ddibynadwy o’r math hwnnw, a bydd yr heriau sy’n debygol o wynebu ymatebwyr Categori 1 awdurdodau lleol yn amrywio yn ôl natur yr argyfwng. Rydym yn argymell bod pob awdurdod lleol yn creu dulliau o gael a chofnodi gwybodaeth o’r math hwnnw, ar ffurf electronig os oes modd, ac yn ymarfer eu rhoi ar waith o dan amrywiaeth o wahanol amgylchiadau.

51: Bod pob awdurdod lleol yn gwneud trefniadau o’r fath sy’n rhesymol ymarferol i’w galluogi i roi pobl mewn llety dros dro ar fyr rybudd ac mewn ffyrdd sy’n bodloni eu gofynion personol, crefyddol a diwylliannol. I’r graddau y bo modd, dylai trefniadau o’r fath gynnwys darparwyr tai cymdeithasol yn yr ardal leol.

52: Bod pob awdurdod lleol yn cynnwys yn eu cynlluniau wrth gefn drefniadau ar gyfer darparu cymorth ariannol ar unwaith i bobl y mae argyfwng wedi effeithio arnynt.

53: Bod awdurdodau lleol, fel rhan o’u gwaith cynllunio ar gyfer argyfyngau, yn ystyried yn fanwl argaeledd gweithwyr allweddol a’r rôl y disgwylir iddynt ei chyflawni er mwyn gallu gwneud trefniadau wrth gefn addas i sicrhau, i’r graddau y bo modd, bod cymorth yn parhau.

54: Bod awdurdodau lleol, fel rhan o’u cynlluniau argyfwng, yn gwneud trefniadau effeithiol ar gyfer parhau i gyfathrebu â’r rheini sydd angen cymorth, gan ddefnyddio’r dechnoleg fwyaf addas ac amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r ardal.

55: Bod pob awdurdod lleol yn cynnwys yn eu cynlluniau ar gyfer ymateb i argyfyngau drefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth i’r cyhoedd drwy ba gyfuniad bynnag o ddulliau cyfathrebu modern sy’n debygol o fod fwyaf effeithiol ar gyfer yr ardaloedd maent yn gyfrifol amdanynt.

Mae'r argymhellion hyn wedi'u cyfeirio at awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhellion a bydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol drwy ein trefniadau partneriaeth presennol gyda fforymau gwydnwch lleol yng Nghymru i ddeall ymhellach pa gamau y maent yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn.

Pobl agored i niwed ac Argymhellion Cam 1

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
56113.78Wedi'i gwblhauCyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) Mewn egwyddor

Argymhelliad

Bod yr hyn a elwid gan yr heddlu yn y gorffennol yn "fiwro anafiadau" yn cael ei ddisgrifio mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n amlwg nad yw'n darparu gwybodaeth i'r cyhoedd ynglŷn â phobl yr effeithir arnynt gan yr argyfwng. (113.78)

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gyfeirio at Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC). Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn egwyddor yr argymhelliad ac yn gweithio gyda'r NPCC, fel y bo'n briodol, gyda'r bwriad o symud ymlaen a rhoi'r argymhelliad ar waith. 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
57113.82Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Bod ystyriaeth bellach yn cael ei roi i'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Cam 1 yng ngoleuni ein canfyddiadau yn yr adroddiad hwn.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ystyried adroddiadau Cam 1 a Cham 2 fel rhan o'i rhaglen weithredu Ymchwiliad Tŵr Grenfell. 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
58113.83Ar waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Bod y cyngor a gynhwysir ym mharagraff 79.11 o'r Canllaw CLlL yn cael ei ailystyried.

Beth rydym wedi'i wneud 

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid eraill ar fersiwn newydd o'r canllaw a fydd yn mynd i'r afael â'r pwynt hwn a llawer o wersi eraill o dân Tŵr Grenfell.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Rydym yn gobeithio cyhoeddi'r canllaw newydd yn ddiweddarach eleni. 

Argymhellion Cam 1

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
5933.22.CAr waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

Ei gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i berchennog a rheolwr pob adeilad preswyl uchel iawn lunio cynlluniau gwacáu, a'u cadw dan adolygiad rheolaidd, a darparu copïau ohonynt ar ffurf electronig a phapur i'w gwasanaeth tân ac achub lleol a'u rhoi mewn blwch gwybodaeth ar y safle.

Beth rydym wedi'i wneud 

Bydd Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn ailwampio'r gyfraith ar ddiogelwch tân mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Fel rhan o hynny, bydd yn ofynnol i bersonau atebol gymryd mesurau i sicrhau y gellir ymladd tanau ar y safle yn gyflym ac yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth berthnasol am yr eiddo mewn fformat addas i'r gwasanaethau tân ac achub.

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Os oes angen, gellir defnyddio pwerau'r Bil i wneud rheoliadau ynghylch pa gamau rhesymol y mae'n rhaid i bersonau penodol eu cymryd i sicrhau bod pobl mewn adeilad neu o'i gwmpas, y mae eu diogelwch mewn perygl oherwydd tân mewn rhannau o'r adeilad, yn gallu dianc yn gyflym ac yn ddiogel. 

Rhif yr argymhelliadCyfeirnod yr ymchwiliadStatwsCyfrifoldebDerbyniwyd
6033.22.EAr waithLlywodraeth CymruYn llawn
6133.22.FAr waithLlywodraeth CymruYn llawn

Argymhelliad

60. Ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i berchennog a rheolwr pob adeilad preswyl uchel iawn baratoi cynlluniau personol gadael mewn argyfwng (PEEPs) ar gyfer pob preswylydd y gallai eu gallu i adael ar eu pennau eu hunain gael ei gyfaddawdu (megis pobl â phroblemau symudedd neu wybyddiaeth).

61. Ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i berchennog a rheolwr pob adeilad preswyl uchel iawn gynnwys gwybodaeth gyfredol am bobl â phroblemau symudedd a'u cynlluniau personol gadael mewn argyfwng (PEEPs) ym mlwch gwybodaeth yr adeilad.

Beth rydym wedi'i wneud 

Bydd Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn ailwampio'r gyfraith ar ddiogelwch tân mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Fel rhan o hynny, bydd yn ofynnol i bersonau atebol gymryd pob cam rhesymol i leihau difrifoldeb unrhyw ddigwyddiad lle mae perygl tân wedi digwydd. 

Beth rydym wedi ymrwymo i’w wneud

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i nodi'r dulliau mwyaf priodol o sicrhau bod darpariaethau ar waith i gynllunio ar gyfer sicrhau bod preswylwyr y gallai eu gallu i adael yr adeilad ar eu pennau eu hunain gael ei gyfaddawdu yn gallu gadael. Os oes angen, gellir defnyddio pwerau'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) i wneud rheoliadau atodol ynghylch pa gamau rhesymol y mae'n rhaid i bersonau penodol eu cymryd i sicrhau bod pobl mewn adeilad neu o amgylch iddo, y mae eu diogelwch mewn perygl oherwydd tân mewn rhannau o'r adeilad, yn gallu dianc yn gyflym ac yn ddiogel. 

Casgliad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i roi'r argymhellion o adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell fel yr amlinellir yn yr ymateb hwn ar waith. 

Diogelwch pobl yn eu cartrefi yw ein blaenoriaeth uchaf a byddwn yn symud i roi'r argymhellion ar waith ar gyflym. 

Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud ochr yn ochr â'n rhaglen gynhwysfawr o ddiwygio i drawsnewid diogelwch adeiladau yng Nghymru. Wrth wraidd y diwygiadau hyn mae'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), a fydd yn sefydlu fframwaith rheoleiddio cadarn sy'n mynd i'r afael â'r methiannau systemig a nodwyd gan yr ymchwiliad ac sy'n rhoi'r cyfrifoldeb yn gadarn ar y rhai sy'n rheoli adeiladau preswyl amlfeddiannaeth – nid y rhai talaf yn unig.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phreswylwyr, rhanddeiliaid y diwydiant, awdurdodau gorfodi a phartneriaid eraill gan gynnwys Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i gyflawni'r newidiadau hanfodol hyn a sicrhau hyder y cyhoedd mewn diogelwch adeiladau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn dryloyw ynglŷn â'n cynnydd. Rydym yn ymrwymo i gyhoeddi adroddiad cynnydd ar y broses o roi argymhellion yr Ymchwiliad ar waith cyn diwedd tymor y Senedd hon, gan sicrhau atebolrwydd llawn i bobl Cymru.

Rhaid i'r cof am y rhai a gollodd eu bywydau yn Nhŵr Grenfell ein hatgoffa'n barhaus pam fod y gwaith hwn mor hanfodol. Er eu mwyn nhw a'u hanwyliaid, ac er mwyn pawb sy'n byw mewn adeiladau uchel ac adeiladau amlfeddiannaeth, mae'n ddyletswydd arnom i greu system ddiogelu adeiladau sy'n eu hamddiffyn.