Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyfnod sefydlogi – cylch 1: Mehefin - Awst 2023

Ar 27 Chwefror 2023, penderfynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol alw ar Drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd y GIG (2014) sy'n pennu'r broses ar gyfer cymryd camau i fynd i'r afael â phryderon difrifol a chododd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i fesurau arbennig.  Mae'r penderfyniad hwn i uwchgyfeirio i fesurau arbennig yn adlewyrchu pryderon difrifol sydd wedi bodoli ers tro ynghylch effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd ac ad-drefnu gwasanaethau, llywodraethiant, diogelwch cleifion, cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheoli ariannol. 

Dyma’r ail adroddiad chwarterol sydd wedi ei gynhyrchu ers i’r bwrdd iechyd gael ei roi mewn mesurau arbennig. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y tri mis diwethaf. Mae’r blaenoriaethau ar gyfer cylch 2 yn cael eu cyhoeddi: Mesurau arbennig BIPBC – blaenoriaethau ar gyfer cyfnod sefydlogi: cylch 2

Cefndir

‘Mesurau arbennig’ yw’r lefel uwchgyfeirio uchaf yn Nhrefniadau dwysáu ac ymyrryd GIG Cymru. Mae’r fframwaith mesurau arbennig yn nodi wyth maes ar gyfer gwella, gan ymgorffori pob un o’r meysydd sy’n peri pryder a arweiniodd at roi’r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig. 

O ganlyniad i gymhlethdod a chwmpas y gwaith yn y meysydd, bydd pedair lefel i’r ymyrraeth mesurau arbennig er mwyn cefnogi’r broses isgyfeirio. 

  • Darganfod 
  • Sefydlogi 
  • Safoni 
  • Cynaliadwyedd 

Mae’r adroddiad chwarterol cyntaf yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod darganfod. Mae’r bwrdd iechyd bellach yng nghyfnod sefydlogi’r mesurau arbennig. 

Diben yr adroddiad hwn

Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o’r wyth maes yn ystod cylch cyntaf cyfnod sefydlogi’r mesurau arbennig rhwng mis Mehefin a mis Awst. Mae’r ffocws dros y cyfnod hwn wedi bod ar ymateb i’r materion difrifol a arweiniodd at uwchgyfeirio’r bwrdd iechyd i fesurau arbennig, datblygu ac adeiladu’r bwrdd, adfer ymddiriedaeth a hyder a rhoi sylfeini cadarn ar waith ar gyfer y dyfodol.

Goruchwylio mesurau arbennig

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadeirio fforwm gwella mesurau arbennig deufisol gyda’r bwrdd integredig; mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant hefyd yn mynychu. Mae hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru sicrhau bod y bwrdd iechyd yn bwrw ymlaen â’r camau priodol i ymateb i’r uwchgyfeirio i fesurau arbennig. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfarfod â’r cadeirydd dros dro bob mis a bydd yn defnyddio’r cyfarfodydd hyn i asesu cynnydd yn erbyn ei amcanion. Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru yn cadeirio bwrdd sicrwydd mesurau arbennig chwarterol sy’n adolygu cynnydd yn erbyn blaenoriaethau pob cylch 90 diwrnod.

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi ymweld â’r bwrdd iechyd sawl gwaith, gan gynnwys y tri safle acíwt a nifer o leoliadau iechyd meddwl a chymunedol eraill. Mae hyn wedi rhoi cyfle iddynt glywed profiadau staff a chleifion, ac i weld y gwelliannau sy’n cael eu gwneud. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Mae’r tîm yn Ysbyty Gwynedd wedi cyflwyno brysbennu dros y ffôn dan arweiniad nyrs i lwybr y prostad, sy’n caniatáu i gleifion fynd yn syth i gael prawf. 
  • Mae’r Gwasanaeth Call 4 Concern yn Ysbyty Gwynedd yn galluogi cleifion yn yr ysbyty a’u teuluoedd i alw am gymorth a chyngor ar fyrder os ydynt yn poeni nad yw’r tîm gofal iechyd wedi cydnabod newid yn eu cyflwr.   
  • Mae ystafell newydd ar gyfer mân lawdriniaethau bellach yn weithredol yn y Dwyrain, gan ganiatáu i fân lawdriniaethau gael eu cynnal yn y gymuned a lleihau amseroedd aros gofal wedi’i gynllunio.
  • Mae uned tri gwely arbenigol ehangach wedi agor yn Ysbyty Maelor Wrecsam, sy’n gwasanaethu anghenion dwys cleifion ar ôl triniaeth lawfeddygol. Mae’r uned gofal ar ôl anaesthetig (PACU) ar gyfer cleifion sydd angen gofal arbenigol ar ôl cael llawdriniaeth, boed yn llawdriniaethau wedi’u cynllunio neu’n achosion brys.
  • Mae ystafell driniaeth newydd yn Ysbyty Tywyn yn darparu ffordd amgen o gael mynediad at driniaeth a lleihau'r pwysau ar wasanaethau lleol. 
  • Mae’r defnydd o feddalwedd deallusrwydd artiffisial o’r enw platfform Galen yn cael ei dreialu o fewn y bwrdd iechyd a’r tîm yw’r cyntaf yn y DU i’w ddefnyddio’n glinigol i gynorthwyo gyda diagnosis o ganser y fron. 
  • Mae uned cymorth anadlol 8 gwely newydd wedi agor yn Ysbyty Glan Clwyd, gan gefnogi cleifion â phroblemau anadlu sydd angen sylw manylach rheolaidd, ond nad ydynt yn ddigon sâl i fod angen gofal dibyniaeth uchel. Dyma’r uned cymorth anadlu gyntaf i’w chynllunio a’i hadeiladu’n bwrpasol yng Nghymru yn ystod y cyfnod ôl-bandemig, ac mae wedi’i chynllunio gan ddefnyddio gwersi’r pandemig COVID.
  • Mae canlyniadau Arolwg Hyfforddiant Cenedlaethol diweddar gan y GMC yn dangos bod dros 90% o feddygon dan hyfforddiant yn falch o ansawdd goruchwyliaeth glinigol, y profiad a’r addysgu yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd, gyda meddygon iau yn nodi yn yr un arolwg mai dyma hefyd oedd y lle gorau i hyfforddi yn y DU.
  • Mae timau llawfeddygol orthopedig yn Ysbyty Gwynedd bellach wedi cynnal 100 o lawdriniaethau pen-glin newydd â chymorth robotig, gan ddefnyddio technoleg robotig arloesol. Ysbyty Gwynedd yw’r ysbyty GIG cyntaf yng Nghymru i gynnal llawdriniaethau robotig i osod pen-gliniau newydd.
  • Mae’r timau wroleg a theatr llawdriniaethau bellach yn cynnal llawdriniaethau brys ‘poeth’ ar gyfer cerrig yr arennau gan ddefnyddio llawdriniaeth laser arloesol. 
  • Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) wedi cymeradwyo Ysgol Feddygaeth newydd Gogledd Cymru i recriwtio myfyrwyr ar gyfer 2024. Mae’r Brifysgol wrthi’n ddyfal yn recriwtio myfyrwyr i’w derbyn ym mis Medi 2024.

Cynnydd yn erbyn meysydd y mesurau arbennig

Cynhaliwyd adolygiad o gylch 1, gan gynnwys aelodau’r bwrdd, cynghorwyr annibynnol a swyddogion Llywodraeth Cymru ar 9 Awst. Mae peth cynnydd da wedi'i wneud ar alluogi camau gweithredu yn ystod y cylch cyntaf hwn. Mae'n dal yn rhy gynnar i ystyried eu heffeithiolrwydd a'u heffaith. Mae'r bwrdd iechyd yn canolbwyntio ar adeiladu ar y rhain i sicrhau eu bod yn cael eu hymgorffori gan arwain at welliannau cynaliadwy. 

Mae’r adolygiadau allanol canlynol wedi’u cwblhau, ac adroddiadau wedi’u rhannu â’r bwrdd iechyd i’w hystyried gan y bwrdd drwy ei strwythurau llywodraethu priodol:

  • Adolygiad o'r pryderon a godwyd yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gysylltiedig â diogelwch cleifion.
  • Adolygiad diogelwch o unedau cleifion mewnol iechyd meddwl ac anableddau dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • Adolygiad Cyflym o benodiadau dros dro i swyddi gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 
  • Adolygiad cyflym o swyddfa ysgrifennydd y bwrdd. 

Yn ogystal, mae asesiad o feysydd allweddol portffolio’r gweithlu (‘adolygiad arbenigwyr adnoddau dynol’) wedi’i gwblhau.

Mae’r adolygiadau canlynol ar y gweill a byddant yn llywio blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer cylchoedd yn y dyfodol ar ôl eu cwblhau a’u hystyried gan y Bwrdd drwy eu strwythurau llywodraethu priodol:

  • asesiad o sicrwydd y gwasanaeth fasgwlaidd 
  • adolygiad portffolio y tîm gweithredol
  • asesiad annibynnol o ddulliau a phrosesau cynllunio integredig
  • rheoli caffael a chontractau (dan arweiniad y bwrdd iechyd)

Mae rhaglen waith gychwynnol y pum cynghorydd annibynnol wedi dod i ben ac mae eu hargymhellion wedi llywio cylch 2.

Llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio

Pennwyd pedair blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Sicrhau bod llywodraethu byrddau yn effeithiol, gweithredu argymhellion adolygiad Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd, adnewyddu cylch gorchwyl y pwyllgor ac ymgorffori adroddiadau, craffu a sicrwydd Mesurau Arbennig ym mhob pwyllgor. 
  2. Rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer recriwtio bwrdd parhaol gan gynnwys prif weithredwr parhaol, cyfarwyddwr cyllid dros dro a phrif swyddog gweithredu/cyfarwyddwr gweithredol gweithrediadau dros dro.
  3. Datblygu a rhoi rhaglen datblygu’r bwrdd ar waith.
  4. Sicrhau bod cynllun dirprwyo ar waith sy’n cyd-fynd yn glir â’r model gweithredu a’r strwythurau sefydliadol.

Mae gwaith wedi parhau i ddatblygu a chefnogi’r bwrdd. Gellir dod o hyd i fanylion yr aelodau annibynnol yn aelodau’r bwrdd iechyd. Mae rhaglen sefydlu bwrdd wedi’i datblygu a bydd yn cael ei defnyddio ar gyfer pob apwyntiad newydd. Mae gwaith wedi dechrau ar ddylunio rhaglen datblygu’r bwrdd. Er bod rhai newidiadau wedi’u gwneud i’r cynllun dirprwyo, mae angen gwneud rhagor o waith i sicrhau ei fod yn ymateb i anghenion y sefydliad.

Penodwyd Carol Shillabeer yn brif weithredwr dros dro ar 3 Mai a bydd yn arwain y sefydliad, ar secondiad o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, tan ddiwedd mis Mawrth 2024. Mae Russell Caldicott wedi ymuno â’r bwrdd iechyd fel cyfarwyddwr gweithredol cyllid dros dro, ac mae Adele Gittoes wedi ymgymryd â swydd cyfarwyddwr gweithredol gweithrediadau dros dro ar secondiad o Weithrediaeth y GIG. 

Bydd y penodiadau hyn, ynghyd â’r aelodau annibynnol sydd newydd eu penodi, yn cryfhau atebolrwydd, llywodraethu a rheolaethau gweithredol ar draws y bwrdd. Mae’r penodiadau dros dro diweddar wedi’u gwneud gan fod angen i’r bwrdd iechyd gymryd camau brys i sicrhau bod y bobl gywir ar waith yng nghyfnod cynnar mesurau arbennig. Mae’r penodiadau hyn yn rhan o’r broses a’r cynllun hirdymor i sicrhau bod y bobl gywir yn eu lle. Mae’r broses o recriwtio prif weithredwr parhaol ar y gweill. 

Mae ymgyrch i recriwtio is-gadeirydd a dau aelod annibynnol parhaol bellach ar y gweill a bydd ymgyrch arall i recriwtio cadeirydd parhaol ac aelodau annibynnol pellach yn dechrau ym mis Hydref. Mae trefniadau ar gyfer penodi aelod annibynnol Undeb Llafur hefyd yn mynd rhagddynt.

Mae cymorth pellach ar gyfer iechyd meddwl, cynllunio a rheoli rhanddeiliaid bellach ar waith i helpu’r bwrdd tan ddiwedd mis Mawrth 2024. 

Mae adolygiad manwl o swyddfa ysgrifennydd y bwrdd wedi’i gwblhau. Mae angen gwaith ailgynllunio sylweddol i sicrhau bod y swyddogaeth hon yn gweithio’n effeithiol, a bydd y newidiadau hyn yn dechrau yng nghylch 2. Yn y cyfamser, gwelwyd rhai newidiadau i’r tîm wrth i staff ddychwelyd o gyfnodau ar secondiad. 

Mae’r cylch gorchwyl ar gyfer y pwyllgorau wedi cael eu hadnewyddu, ond mae angen rhagor o waith yn y maes hwn yng ngoleuni’r adolygiad gorffenedig. Mae mesurau arbennig bellach wedi’u hymgorffori ar yr holl bwyllgorau a bydd aelodau annibynnol yn chwarae rhan dyngedfennol wrth sicrhau bod gofynion mesurau arbennig yn cael eu cyflawni.

Mae nifer fach o bwyllgorau craidd y bwrdd wedi bod ar waith drwy gydol y cylch hwn. Bydd pwyllgorau pellach yn dechrau tua diwedd y flwyddyn, yn dilyn penodi’r is-gadeirydd ac aelodau annibynnol pellach.

Llywodraethiant clinigol, profiad a diogelwch cleifion

Gosodwyd pedair blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn: 

  1. Sicrhau bod gweithdrefn/proses effeithiol ar gyfer dysgu o ddigwyddiadau a pharatoadau ar gyfer cwestau a bod yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn glir ac yn effeithiol.
  2. Cytuno, cefnogi a galluogi'r adolygiad o ofal diogelwch cleifion.
  3. Gweithio gyda Gweithrediaeth y GIG wrth iddynt gynnal adolygiad o lywodraethu clinigol. 
  4. Adolygu mecanweithiau ar gyfer ymgysylltiad clinigol, gan lunio argymhellion ar gyfer gwella.

Mae adolygiadau cyflym yn parhau i gael eu cynnal mewn ymateb i faterion a godwyd gan Grwner EF a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae rhaglen o brosesau adrodd a dysgu newydd bellach yn cael ei chyflwyno ar draws y sefydliad. Mae Crwner EF wedi codi nifer o faterion yn ymwneud â'r bwrdd iechyd yn ystod y cyfnod hwn. Mewn ymateb i hyn, mae gweithdrefn weithredu safonol newydd yn cael ei datblygu. Bydd hon yn cael ei gorcuhwylio’n uniongyrchol gan y cyfarwyddwr meddygol, gyda phroses uwchgyfeirio glir.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru asesiad mewn perthynas â phryderon ynghylch diogelwch cleifion yn y bwrdd iechyd. Mae'r gwaith hwn wedi dod i ben, ac mae'r bwrdd iechyd yn cymryd yr argymhellion a'r camau nesaf drwy'r strwythur llywodraethu y cytunwyd arno. Bydd hyn wedyn yn sail i ymyrraeth llywodraethu clinigol a fydd yn cael ei gynnal gan Weithrediaeth y GIG yng nghylch 2.

Mae'r ffordd mae'r bwrdd iechyd yn ymgysylltu â'r gymuned glinigol wedi'i hadolygu. Derbyniwyd cynnig ymgysylltiad clinigol ar ddiwedd cylch 1, a bydd hyn yn cael ei weithredu yn ystod y misoedd nesaf.

Datblygu’r gweithlu a’r sefydliad

Gosodwyd tair blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Cefnogi a galluogi adolygiad o bortffolios y cyfarwyddwyr gweithredol.
  2. Datrys yr achosion parch a datrys sydd ar y gweill o hyd, gan gynnwys prosesau tebyg sy'n gysylltiedig ag uwch arweinwyr.
  3. Cefnogi a galluogi'r adolygiad o benodiadau dros dro – gweithredu argymhellion.

Mae'r adolygiad o bortffolio'r tîm gweithredol bellach wedi'i gwblhau. Bydd yr argymhellion o'r adolygiad hwn, ochr yn ochr â chanlyniadau cyfrif y model gweithredu, yn gofyn am gryn ffocws a chamau gweithredu yng nghylch 2 i sicrhau bod y sefydliad wedi'i strwythuro'n gywir i gyflawni. 

Mae adolygiad o bolisïau llesiant, ymgysylltu a'r gweithlu wedi'i gwblhau a'i rannu gyda'r bwrdd iechyd i'w ystyried drwy ei bwyllgorau a'i strwythurau, ac i ddechrau gwneud y newidiadau priodol yn y cylch 90 diwrnod nesaf. 

Mae'r adolygiad o benodiadau dros dro wedi'i gwblhau. Mae argymhellion sylweddol ynghylch sut y caiff y broses hon ei rheoli yn y dyfodol, sy’n cynnwys y cynllun dirprwyo ar gyfer cytuno ar benodiadau. Bydd yr ymateb yn cael ei ystyried gan y pwyllgor taliadau a thelerau gwasanaeth.

Gwasanaethau clinigol

Gosodwyd tair blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Gweithredu'r argymhellion o'r asesiad diogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl.
  2. Cytuno ar strategaeth iechyd meddwl, cytuno ar gynllun gweithredu CAMHS a niwroddatblygiad i wella perfformiad, a'i roi ar waith, a gwella perfformiad CAMHS.
  3. Adolygu, diwygio a gweithredu cynlluniau gwella clir, gan gynnwys ond heb fod o reidrwydd yn gyfyngedig i fasgwlaidd (gan gynnwys galluogi'r adolygiad fasgwlaidd), wroleg, offthalmoleg, oncoleg, dermatoleg a phlastig.

Gwnaeth yr asesiad diogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl annibynnol a gynhaliwyd ym mis Ebrill argymhellion sydd angen eu gweithredu. Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn canolbwyntio ar weithredu'r argymhellion hyn. Cynhelir asesiad dilynol yng nghylch 3. 

Mae'r cynlluniau gwella CAMHS a niwroddatblygiad yn gofyn am ddatblygiad pellach i ateb yr heriau presennol a byddant yn cael eu cwblhau yng nghylch 2. Mae'r broses wedi cynnwys digwyddiad cynllunio bord gron a gefnogir gan arweinwyr cenedlaethol y GIG.

Cafodd y gwasanaethau fasgwlaidd eu goruchwylio’n barhaus. Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ei hadroddiad ar wasanaethau fasgwlaidd yn dilyn arolygiad dirybudd, a hefyd, isgyfeiriodd y gwasanaeth o fod yn 'wasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol' - BCUHB-SRSI-De-escalation. Mae asesiad annibynnol yn erbyn y cynllun fasgwlaidd hefyd yn cael ei gynnal gan Rwydwaith Clinigol Cenedlaethol Cymru.

Ar gyfer gwasanaethau clinigol eraill, gan gynnwys offthalmoleg, oncoleg a dermatoleg, mae cynlluniau gwella'n cael eu datblygu, ac mae pob un yn cael eu cefnogi gan grwpiau gwella.

Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol

Gosodwyd dwy flaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ystyried opsiynau, cytuno ar raglen ar gyfer datblygu'r tîm gweithredol ac uwch arweinwyr, a'i rhoi ar waith.
  2. Datblygu dull o feithrin ymddiriedaeth a hyder o fewn y sefydliad a chyda rhanddeiliaid, gan gynnwys datblygu dull strwythuredig o adnewyddu ymgysylltiad â grwpiau cymunedol â blaenoriaeth.

Cynhaliwyd adolygiad o arweinyddiaeth ddiwylliannol fel rhan o'r adolygiad arbenigwyr AD. Bydd angen i'r bwrdd iechyd adolygu'r argymhellion hyn a chytuno ar y camau nesaf. Bydd gwaith darganfod y sefydliad sy'n dysgu yn cael ei gwblhau y mis hwn a bydd y fframwaith drafft yn cael ei rannu â rhanddeiliaid.

Mae gwaith ar ymgysylltu â grwpiau cymunedol â blaenoriaeth wedi dechrau gyda rhywfaint o gymorth allanol.

Llywodraethu a rheolaeth ariannol

Gosodwyd pum blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Sefydlogi'r tîm cyllid a mynd i'r afael â phryderon capasiti.
  2. Gweithredu'r cynllun gweithredu llywodraethu ariannol mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad E&Y a phryderon eraill.  
  3. Dechrau cyflwyno cynllun arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arno a gwelliannau i'r cynllun ariannol sy'n lleihau'r diffyg ariannol yn 2023 i 2024.
  4. Dechrau asesu'r cyfleoedd ariannol posibl ar gyfer 2024 i 2025 a 2025 i 2026 a datblygu cyfraniad gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth.
  5. Gweithredu blaenoriaethau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd rheolaeth ariannol e.e. rheoli contractau.

Mae cyfarwyddwr cyllid dros dro newydd, a dau benodiad arall, wedi'u gwneud i gryfhau'r uwch dîm cyllid. Mae cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd i gryfhau capasiti, galluedd a gwella morâl.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno ar gynllun gweithredu cyllid mesurau arbennig gyda Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG. Mae'r bwrdd iechyd wedi datblygu cynllun gweithredu amgylchedd rheolaeth ariannol mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad EY ac adroddiad Archwilio Cymru ar ei gyfrifon blynyddol ar gyfer 2021 i 2022. Mae hyn wedi'i ymgorffori yn y cynllun gweithredu cyllid mesurau arbennig.

Mae'r cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar sefydlogi'r tîm cyllid a datblygu capasiti, gweithredu'r cynllun gweithredu llywodraethu / rheolaeth ariannol, dechrau cyflwyno cynllun arbedion y cytunwyd arno a gwelliannau i'r cynllun ariannol sy'n lleihau'r diffyg ariannol yn 2023 i 2024, asesu cyfleoedd ar gyfer blynyddoedd ariannol yn y dyfodol a datblygu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth, a gweithredu blaenoriaethau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd rheolaeth ariannol.

Yn ei gyfarfod ar 24 Awst 2023, cymeradwyodd y bwrdd y cyfrifon blynyddol ar gyfer 2022 i 2023. Mae'r heriau ariannol a'r diffyg ariannol a ragwelir yn sylweddol a byddant yn golygu y bydd yn rhaid i'r bwrdd wneud rhai penderfyniadau anodd yn ystod y misoedd nesaf. 

Mae'r bwrdd iechyd wedi dechrau adolygu caffael a rheolaeth contractau.

Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau

Gosodwyd dwy flaenoriaeth ar gyfer y maes hwn: 

  1. Cynhyrchu cynllun blynyddol clir a chyflawnadwy ar gyfer y sefydliad ar gyfer y flwyddyn bresennol sy'n cyflawni gwelliannau ym meysydd â blaenoriaeth i Weinidogion.
  2. Cymorth trawsnewid a gwella i ganolbwyntio ar feysydd risg allweddol, i gael eu hymgorffori yn y timau rheng flaen i gynorthwyo rhaglenni newid.

Cynhaliwyd gweithdy bwrdd i ddeall yr heriau a'r opsiynau sy'n wynebu'r sefydliad ac er mwyn helpu i lywio a chefnogi'r cynllun. Yna cafodd y cynllun blynyddol ei gymeradwyo gan y bwrdd ar 22 Mehefin a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd y cynllun a gyflwynwyd, yn unol â'r chwe bwrdd iechyd arall, yn gynllun diffyg. Mae hyn yn golygu nad yw'r bwrdd iechyd wedi darparu cynllun yn unol â'r cyfarwyddyd a roddwyd gan Weinidogion Cymru a Fframwaith Cynllunio'r GIG, y gallai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei ystyried yn addas i'w gymeradwyo o dan adran 175(2A) o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 ('Deddf 2006').

Mae adolygiad cynllunio annibynnol ar y gweill; cynhaliwyd y gwaith maes yn ystod mis Awst 2023.

Cyflawni gweithredol

Gosodwyd pedair blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Gwella mynediad a phrofiad fel y'u mesurir drwy ddileu arosiadau 52-wythnos yn y cam cleifion allanol cyntaf, dim arosiadau 156-wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT), dim arosiadau 4-awr wrth drosglwyddo o ambiwlans a chynnydd yn y perfformiad 4- a 12-awr.
  2. Ailddechrau'r rhaglen gofal a gynlluniwyd gyda goruchwyliaeth glir gan y weithrediaeth.
  3. Datblygu cynllun ar gyfer gwella mynediad at ofal orthopedig a lleihau amseroedd aros i gleifion.
  4. Datblygu cynllun ar gyfer data/digidol sy'n darparu data hygyrch i staff rheng flaen, gan gynnwys dangosfyrddau ar gyfer diogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion.

Cafwyd gostyngiad yn nifer y cleifion sy'n aros yn hir yn y cyfnod cleifion allanol a thriniaeth. Mae nifer y bobl sy'n aros dros 52 wythnos am apwyntiad cleifion allanol wedi gostwng 35% ers mis Ionawr 2023, ac mae'r niferoedd sy'n aros dros 104 wythnos wedi gostwng 27%. Mae'r ffocws ar ddileu arosiadau 4-awr wrth drosglwyddo o ambiwlans, er nad yw wedi'i gyflawni eto, yn arwain at welliannau bob mis. Roedd 566 o achosion o oedi o dros 4 awr wrth drosglwyddo o ambiwlans ym mis Gorffennaf 2023; ym mis Awst gostyngodd hyn i 465, sy'n well o lawer na'r 1,042 a nodwyd ym mis Mawrth 2023.

Mae cymorth gweithredol ychwanegol wedi'i gomisiynu ar gyfer gofal brys a gofal argyfwng a darpariaeth orthopedig. Gwnaed cynnydd da ar yr achos busnes orthopedig.  

Mae Bwrdd Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd wedi'i sefydlu, a chynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf ym mis Awst. Cafodd ei gadeirio gan y prif weithredwr, a bydd yn canolbwyntio ar gyflawni targedau gweinidogion. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu'r dangosfyrddau gofynnol. Mae'r cynllun codio a chudd-wybodaeth glinigol yn mynd rhagddo a bydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi meysydd â blaenoriaeth GIRFT ('Ei Gael yn Iawn y Tro Cyntaf') fel y cam cyntaf.

Cyfarfodydd goruchwylio yn ystod y cyfnod sefydlogi – cylch 2

Cyfarfod Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig (IQPD) - 8 Medi 2023

Cyd-fforwm Gwella Mesurau Arbennig Gweinidogion - 13 Medi 2023

Cyfarfod sicrwydd perfformiad canser - 19 Medi 2023

Cyfarfod cyfarfod cyswllt misol Gofal a Gynlluniwyd - 22 Medi 2023

Cyfarfod Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig (IQPD) - 9 Hydref 2023

Cyfarfod Gweinidogol Chwarterol - iechyd meddwl (Dirprwy Weinidog Iechyd a Lles Meddyliol) - 10 Hydref 2023

Cyfarfod sicrwydd perfformiad canser - 16 Hydref 2023

Cyfarfod Tîm Gweithredol ar y Cyd (JET) -  26 Hydref 2023

Cyfarfod man cyswllt misol Gofal a Gynlluniwyd - I'w gadarnhau

Bwrdd Sicrwydd Mesurau Arbennig - 10 Tachwedd 2023

Cyd-fforwm Gwella Mesurau Arbennig Gweinidogion - 20 Tachwedd 2023

Cyfarfod sicrwydd perfformiad canser - 24 Tachwedd 2023

Cyfarfod man cyswllt misol Gofal a Gynlluniwyd - I'w gadarnhau

Cyfarfod Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig (IQPD) - Tachwedd i'w gadarnhau

Cyfarfodydd man cyswllt fasgwlaidd - Bob pythefnos

Cyfarfodydd man cyffwrdd plastig - Bob mis

Cyfarfodydd sicrwydd offthalmoleg - I'w gadarnhau