Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 27 Chwefror 2023, penderfynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol alw ar Drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth y GIG (2014) sy’n pennu’r broses ar gyfer cymryd camau i fynd i’r afael â phryderon difrifol a chododd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i fesurau arbennig. Gwnaed y penderfyniad hwn er mwyn adlewyrchu pryderon difrifol ynghylch effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd gwasanaethau ac ad-drefnu gwasanaethau, llywodraethiant, diogelwch cleifion, cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheolaeth ariannol. 

Dyma’r trydydd adroddiad cynnydd ers i’r bwrdd iechyd gael ei roi mewn mesurau arbennig. Mae'r ddau adroddiad cyntaf yn nodi'r cynnydd a wnaed dros chwe mis cyntaf trefniadau mesurau arbennig ac mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd a wnaed yn ystod y tri mis diwethaf. 

Cefndir

Mesurau arbennig yw’r lefel uwchgyfeirio uchaf yn fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth GIG Cymru. Mae’r fframwaith mesurau arbennig y cytunwyd arno ar gyfer y bwrdd iechyd yn nodi wyth maes ar gyfer gwella, gan ymgorffori pob un o’r meysydd sy’n peri pryder a arweiniodd at roi’r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig. 

Diben yr adroddiad hwn

Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o’r wyth maes yn ystod cylch diweddaraf y mesurau arbennig rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2023. Mae’r ffocws dros y cyfnod hwn wedi bod ar ymateb y bwrdd iechyd i’r materion difrifol a arweiniodd at uwchgyfeirio’r bwrdd iechyd i fesurau arbennig, datblygu ac adeiladu’r Bwrdd, adfer ymddiriedaeth a hyder a rhoi sylfeini cadarn ar waith ar gyfer y dyfodol. 

Goruchwylio mesurau arbennig

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadeirio fforwm gwella mesurau arbennig deufisol gyda’r bwrdd integredig, y mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn ei fynychu hefyd. Mae hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru sicrhau bod y bwrdd iechyd yn bwrw ymlaen â’r camau priodol i ymateb i’r uwchgyfeirio i fesurau arbennig. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfarfod â’r cadeirydd dros dro bob mis ac yn defnyddio’r cyfarfodydd hyn i asesu cynnydd yn erbyn amcanion y cadeirydd. Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn cadeirio cyfarfod chwarterol am iechyd meddwl gyda'r bwrdd iechyd.

Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru yn cadeirio bwrdd sicrwydd mesurau arbennig chwarterol i adolygu cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau ym mhob cylch 90 diwrnod.

Mae nifer o gyfarfodydd bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru ar waith i olrhain cynnydd, gan gynnwys cyfarfodydd canser a gofal llygaid misol, y Bwrdd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig misol, cyfarfod y Tîm Gweithredol ar y Cyd ddwywaith y flwyddyn a chyfarfodydd cyswllt rheolaidd i drafod cyllid, ansawdd, gofal a gynlluniwyd a gofal heb ei drefnu.

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymweld â nifer o safleoedd yn y bwrdd iechyd yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, gan gynnwys Ysbyty Brenhinol Alexandra, Ysbyty Abergele, Ysbyty Dolgellau a’r Bermo, canolfan feddygol gofal sylfaenol a fferyllfa yn y Rhyl. Cyfarfu'r Prif Weinidog â'r cadeirydd a'r prif weithredwr yn y Gogledd ym mis Medi.

Mae’r ffocws yn parhau ar ddarparu gofal o ansawdd, gan gynnwys:

  • Mae pobl sydd â chanser y coluddyn yn y Gogledd yn elwa ar adferiad cyflymach yn dilyn llawdriniaeth, diolch i gyflwyniad technoleg robotig o'r radd flaenaf. Yn dilyn y cyflwyniad llwyddiannus ym maes gynaecoleg, mae llawfeddygon cyffredinol o bob rhan o'r bwrdd iechyd yn defnyddio system robotig lawfeddygol Versius yn Ysbyty Gwynedd ar gyfer cleifion canser y coluddyn cymwys.  
  • Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio gweithdrefn newydd - laser sy'n torri tir newydd - i dynnu tiwmorau o’r bledren neu ardaloedd amheus. Mae'r weithdrefn yn defnyddio Abladiad Laser Trawswrethrol (TULA), sef archwiliad o'r bledren gan ddefnyddio camera ar diwb hyblyg tenau sy'n defnyddio laser ar gyfer trin y bledren. Bydd hyn yn gwella canlyniadau a phrofiad pobl.
  • Mae gwasanaeth Clicio a Chyflenwi newydd wedi'i lansio i ddarparu mynediad at naloxone, sef meddyginiaeth a all wrthdroi effeithiau gorddos opioid dros dro. 
  • Yn dilyn canlyniadau cadarnhaol mewn astudiaeth beilot yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae prawf ffactor twf y brych cyflym newydd (PLFG) ar gyfer menywod beichiog yr amheuir bod ganddynt gyneclampsia wedi'i gyflwyno ledled y bwrdd iechyd. Mae'r prawf newydd yn helpu i wella diagnosis, atal cymhlethdodau i famau, lleihau nifer y marw-enedigaethau ac atal esgor cyn amser. 
  • Mae staff arennol Ysbyty Gwynedd yn treialu gwasanaeth newydd, gan gynnig dialysis arennol gyda'r nos. Ysbyty Gwynedd yw'r unig ysbyty yng Nghymru i gynnig dialysis i bobl drwy'r nos fel y gallant fwrw ymlaen â'u bywydau o ddydd i ddydd.
  • Mae ap digidol newydd rhad ac am ddim a fydd yn helpu i greu mwy o amgylcheddau dementia-gyfeillgar a chefnogi pobl bellach ar gael ar ôl cael ei ddatblygu a'i brofi yn y Gogledd. Bu’r bwrdd iechyd yn gweithio gyda Phrifysgol Caerwrangon i greu'r ap, a fydd yn disodli'r offeryn asesu papur presennol a ddefnyddir i asesu pa mor ddementia-gyfeillgar yw amgylcheddau gofal.  
  • Ers lansio gwasanaeth 'Pwyswch 2' 111 ym mis Ionawr, mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn dros 8,000 o alwadau gan bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl brys. Mae adborth wedi dangos bod 99.3% o alwyr wedi nodi gostyngiad yn eu sgoriau trallod ar ôl dod i gysylltiad ag ymarferwyr lles pwrpasol. Mae atgyfeiriadau i wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol wedi gostwng 8%.

Cynnydd yn erbyn blaenoriaethau cylch 2 mesurau arbennig

Cynhaliwyd adolygiad o gylch dau yn y bwrdd sicrwydd mesurau arbennig ym mis Tachwedd. Gwelwyd bod cynnydd da yn dal i gael ei wneud o ran galluogi camau gweithredu. 

Cafodd y dull arloesol sy'n cael ei ddefnyddio gan y Bwrdd i gynyddu ei welededd a chryfhau ei ymgysylltiad â chymunedau ledled y Gogledd ei arddangos pan gynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol mewn canolfan gymunedol yn Llandudno. Canolbwyntiodd y CCB ar ddatblygiadau ym meysydd arthroplasti ar yr un diwrnod, gwasanaethau argyfwng iechyd meddwl a mentrau yn y gymuned megis y cynllun Bagiau Coch (helpu preswylwyr cartrefi gofal i drosglwyddo gwybodaeth iechyd rhwng ysbyty a chartref gofal). Cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu â'r gymuned yn Sir y Fflint ar 22 Tachwedd. 

Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud rhywfaint o gynnydd da o ran galluogi camau gweithredu ers iddo gael ei uwchgyfeirio i fesurau arbennig, fel y dangosir gan y fframweithiau cynllunio, perfformiad a rheoli risg a gafodd eu hystyried gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Medi, a gefnogir gan nifer o welliannau corfforaethol. Mae'r bwrdd iechyd yn canolbwyntio ar adeiladu ar y rhain i sicrhau eu bod wedi'u gwreiddio, gan arwain at welliannau cynaliadwy. 

Fodd bynnag, nid yw'r gwelliannau sy'n gysylltiedig â pherfformiad gweithredol ac ansawdd a diogelwch yn cael eu gwneud mor gyflym ac effeithiol â phosibl. Er bod rhai gwelliannau yn y meysydd hyn fel y nodir isod, nid ydynt yn ddigon ac nid ydynt bob amser yn gynaliadwy. Mae’r achosion y tynnwyd sylw atynt gan Grwneriaid EF a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn destun pryder arbennig, gan gynnwys methiannau i weithredu'n brydlon o safbwynt y broses gwyno; cymorth a chynllunio strategol annigonol neu aneffeithiol; amseroldeb ymchwiliadau'r bwrdd iechyd a'r ddibyniaeth barhaus ar gofnodion cleifion papur.

Mae’r adolygiadau allanol canlynol wedi dod i ben yn ystod y cylch hwn, ac mae adroddiadau wrthi'n cael eu paratoi neu wedi eu rhannu gyda’r bwrdd iechyd i’w hystyried gan y Bwrdd drwy ei strwythurau llywodraethu priodol:

  • asesiad o sicrwydd y gwasanaeth fasgwlaidd
  • adolygiad portffolio y tîm gweithredol
  • asesiad annibynnol o ddulliau a phrosesau cynllunio integredig
  • rheoli caffael a chontractau (dan arweiniad y bwrdd iechyd)
  • gwrando ar ddinasyddion, cleifion, staff a phartneriaid

Mae’r adolygiadau canlynol ar y gweill a byddant yn llywio blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer cylchoedd yn y dyfodol ar ôl eu cwblhau a’u hystyried gan y Bwrdd drwy ei strwythurau llywodraethu priodol: 

  • adolygiad o lwybrau fasgwlaidd rhwng Awst 2022 ac Awst 2023
  • asesiad dilynol o sicrwydd allanol unedau iechyd meddwl cleifion mewnol
  • adolygiad dilynol o effeithiolrwydd y Bwrdd a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru

Llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio

Gosodwyd pum blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Ystyried argymhellion adolygiad swyddfa ysgrifennydd y bwrdd. Datblygu a dechrau gweithredu cynllun gweithredu clir i alluogi a chefnogi prosesau llywodraethu effeithiol ar draws y sefydliad. Cytuno ar flaengynllun clir a thryloyw ar gyfer busnes pwyllgorau a gefnogir gan weithdrefnau gweithredu safonol sy'n hygyrch i bawb.
  2. Mentora a chefnogi'r Bwrdd i sicrhau y gall herio a chefnogi'r sefydliad yn unol â gofynion mesurau arbennig.
  3. Parhau i recriwtio bwrdd parhaol.
  4. Comisiynu a dechrau cyflwyno rhaglen datblygu'r bwrdd. 
  5. Cytuno ar gynllun dirprwyo effeithiol sy'n nodi'r fframwaith ar gyfer dirprwyo, penderfyniadau ac atebolrwydd.

Bu’r Bwrdd yn ystyried argymhellion adolygiad swyddfa ysgrifennydd y bwrdd mewn sesiwn ddatblygu ym mis Medi a rhannodd ymateb y rheolwyr yn ei Bwyllgor Archwilio ym mis Tachwedd. 

Mae’r cylch gorchwyl ar gyfer y pwyllgorau wedi cael eu hadnewyddu, ond mae angen rhagor o waith yn y maes hwn yng ngoleuni’r adolygiad gorffenedig. Mae mesurau arbennig bellach wedi’u hymgorffori yn yr holl bwyllgorau ac mae gan aelodau annibynnol gyfraniad allweddol i'w wneud i sicrhau bod gofynion mesurau arbennig yn cael eu cyflawni.

Mae gwaith wedi parhau i ddatblygu a chefnogi’r Bwrdd. Penodwyd Mike Parry fel Aelod Cyswllt newydd y Bwrdd, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid ar gyfer BIPBC tan 30 Mehefin 2024. Mae Gareth Williams wedi'i benodi'n is-gadeirydd ac mae Urtha Felda a Dr Caroline Turner wedi'u penodi'n aelodau annibynnol tan fis Tachwedd 2027. Gellir dod o hyd i fanylion yr aelodau annibynnol yn aelodau'r bwrdd iechyd

Cynhaliwyd cyfweliadau ar gyfer cadeirydd parhaol ym mis Tachwedd ac mae gwrandawiad cyn penodi y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi'i drefnu ar gyfer 24 Ionawr 2024.

Ar 14 Tachwedd 2023, cyhoeddodd y bwrdd iechyd fod Carol Shillabeer wedi'i phenodi'n Brif Weithredwr parhaol. Mae swydd newydd y Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol bellach yn y cam recriwtio gweithredol. Bydd y rôl hon yn cynghori'r Cadeirydd, y Prif Weithredwr a'r Bwrdd ehangach ar bob mater yn ymwneud â Llywodraethu Corfforaethol. 

Mae'r gwaith ar raglen datblygu'r bwrdd wedi parhau a bydd hyn yn cael ei gyflwyno yng nghylch 3. Mae'r Bwrdd bellach yn ymgorffori ymweliadau a thrafodaethau gyda thimau clinigol a gwasanaeth fel rhan o'i ddatblygiad. Yn ystod y cylch adrodd hwn, roedd hyn yn cynnwys:

  • Gofal a gynlluniwyd, gyda ffocws ar weithredu a fydd yn lleihau amseroedd aros ac yn gwella canlyniadau a phrofiadau dinasyddion. Roedd hyn yn cynnwys ymweliad ag Ysbyty Llandudno i weld y ganolfan arfaethedig ar gyfer gofal a gynlluniwyd.
  • Adran gofal brys ac argyfwng yn Ysbyty Gwynedd, lle bu aelodau'r Bwrdd yn dilyn y llwybr brys drwy'r uned SDEC (gofal argyfwng yr un diwrnod), yr uned asesu meddygol, ac i'r uned ryddhau. Yno, clywodd y Bwrdd am y pwyslais ar gymorth staff sydd wedi ennill cydnabyddiaeth i'r adran yn arolwg y GMC fel y lle gorau i hyfforddi yn y DU.

Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cryn dipyn o waith ar SFIs a SORD diwygiedig. Cafodd y rhain eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio ar 16 Tachwedd a'u cyflwyno i'r Bwrdd gydag argymhelliad i’w cymeradwyo a’u mabwysiadu ar 30 Tachwedd.

Llywodraethiant clinigol, profiad a diogelwch cleifion

Gosodwyd tair blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Datblygu, cytuno a dechrau gweithredu gweithdrefn/proses effeithiol ar gyfer dysgu o ddigwyddiadau, adborth cleifion a staff, arolygiadau, archwilio mewnol ac adolygiadau, a dechrau ymgorffori dysgu ar draws y sefydliad.
  2. Ystyried argymhellion yr adolygiad o bryderon diogelwch cleifion, gan weithio gyda Gweithrediaeth y GIG i ddatblygu'r prosesau llywodraethiant clinigol gofynnol, a datblygu a dechrau gweithredu cynllun gweithredu clir mewn ymateb i'r argymhellion hyn.
  3. Datblygu ac ymgorffori dull a gweithdrefn gadarn i gefnogi gweithredu'r Ddyletswydd Ansawdd gan ddefnyddio'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal i ysgogi gwelliant parhaus i ddiwallu anghenion y boblogaeth.

Mae nifer y materion a godwyd gan Grwner EF a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn parhau i fod yn uchel, ac mae hyn yn peri pryder mawr. Mae rhaglen o brosesau adrodd a dysgu newydd bellach wedi'u datblygu ac mae gweithdrefn weithredu safonol newydd ar waith. Bydd hon yn cael ei goruchwylio’n uniongyrchol gan y cyfarwyddwr meddygol, gyda phroses uwchgyfeirio glir.

Trafododd y Bwrdd argymhellion yr asesiad mewn perthynas â phryderon ynghylch diogelwch cleifion yn y bwrdd iechyd mewn sesiwn ddatblygu ym mis Medi a rhanwyd ymateb y rheolwyr yn ei Bwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad ym mis Tachwedd. 

Cynhaliwyd bord gron ar ansawdd gyda'r bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru, cynghorwyr annibynnol a Gweithrediaeth y GIG ym mis Tachwedd i gytuno ar feysydd ffocws allweddol.

Datblygu’r gweithlu a’r sefydliad

Gosodwyd tair blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Ystyried argymhellion yr adolygiad o benodiadau dros dro, adolygu portffolio'r tîm gweithredol ac adroddiad prosesau AD. Datblygu a dechrau rhoi cynllun gweithredu clir ar waith mewn ymateb i'r argymhellion hyn – gyda ffocws cynnar ar feithrin capasiti digonol yn nhîm y gweithlu i gyflawni'r cynlluniau. 
  2. Gweithredu'r fframwaith dysgu a datblygu.
  3. Parhau i ddatrys yr achosion parch a datrys sydd ar y gweill o hyd, gan gynnwys prosesau tebyg sy'n gysylltiedig ag uwch arweinwyr. 

Trafododd y Bwrdd argymhellion yr adolygiad ynghylch penodiadau dros dro mewn sesiwn ddatblygu ym mis Medi a rhannwyd ymateb y rheolwyr yn ei Bwyllgor Taliadau a Thelerau Gwasanaeth ym mis Tachwedd.

Mae'r ddibyniaeth ar benodiadau dros dro yn lleihau. O 1 Hydref 2023, roedd 7 gweithiwr dros dro ar gontractau asiantaeth, 4 gweithiwr dros dro ar gontractau banc a 2 weithiwr dros dro ar secondiad. Mae hwn yn ostyngiad sylweddol o fis Chwefror 2023 lle roedd 32 o weithwyr dros dro ar gontractau asiantaeth, 6 gweithiwr dros dro ar gontractau banc ac 1 gweithiwr dros dro ar secondiad.

Mae adolygiad portffolio'r tîm gweithredol bellach wedi'i gwblhau a bydd diweddariad ar gynnydd yn erbyn yr argymhellion hyn yn cael ei ddarparu i Fwrdd mis Tachwedd. Er mwyn gweithredu argymhellion yr adolygiad hwn, bydd angen cryn ffocws a chamau gweithredu yng nghylch 3 i sicrhau bod y sefydliad wedi'i strwythuro'n gywir i gyflawni. 

Mae rhaglen datblygu arweinyddiaeth gynhwysfawr wedi'i chytuno, ac mae'n cynnwys:

  • Rhaglen Datblygu Gweithredol - rhaglen bwrpasol ar gyfer Cyfarwyddwyr Gweithredol y bwrdd iechyd yn pwysleisio arweinyddiaeth systemau strategol a gweithio fel tîm/bwrdd effeithiol.
  • Rhaglen Uwch Arweinyddiaeth lefel uwch - rhaglen bwrpasol ar gyfer y rhai yn haen 3 a 4, Cyfarwyddwyr Hysbysu Gofal Iechyd a’r sawl sy’n adrodd yn uniongyrchol iddynt.
  • Pontio i Uwch Arweinyddiaeth – wedi'i anelu at y rhai sy'n pontio o rolau gweithredol i rolau uwch arweinyddiaeth megis arweinwyr clinigol, penaethiaid adrannau, metronau, penaethiaid nyrsio, rheolwyr safleoedd clinigol.
  • Rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth Ganol – wedi'i hanelu at reolwyr canol gweithredol sefydledig sydd am arwain timau arweiniol drwy newid ac ansicrwydd.
  • Rhaglen Sylfeini Arweinyddiaeth a Rheolaeth - rhaglen orfodol ar gyfer yr holl staff sy'n newydd i rôl reoli.
  • Ysbrydoli rheolwyr pobl.

Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol

Gosodwyd tair blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Cytuno a dechrau gweithredu rhaglen waith sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant, arweinyddiaeth dosturiol, gwerthoedd ac ymddygiadau gyda ffocws ymarferol ar ysgogi newid. 
  2. Gweithredu rhaglen i sefydlogi a chefnogi'r tîm gweithredol a grymuso’r tim o uwch-arweinwyr.
  3. Parhau i ymgorffori'r dull y cytunwyd arno o feithrin ymddiriedaeth a hyder o fewn y sefydliad a chyda rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau cymunedol â blaenoriaeth.

Cymeradwyodd y Bwrdd gynnig i lansio a llywio bwriad strategol y sefydliad o ran diwylliant, arweinyddiaeth ac ymgysylltiad yn ei gyfarfod ym mis Medi. Bydd fframwaith ymddygiadau yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Bwrdd yn y dyfodol i'w gymeradwyo.

Bydd y ffocws cychwynnol yn cynnwys deall y diwylliant treiddiol presennol, ystyried yr adolygiadau annibynnol a datblygu rhaglen a dull cynhwysfawr o ddatblygu arweinyddiaeth. Bydd y cysyniad o Gyn-fyfyrwyr Arweinyddiaeth hefyd yn cael ei ddatblygu ymhellach i fod yn gynnig clir sy'n cefnogi ac yn galluogi arweinwyr ac arweinyddiaeth mewn ymarfer. Bydd y Pwyllgor Pobl sydd newydd ei sefydlu yn ymgymryd â rôl oruchwylio allweddol mewn perthynas â'r gwaith hwn. 

Mae'r Bwrdd wedi ymgysylltu â Michael West, arbenigwr uchel ei barch ar Arweinyddiaeth Dosturiol, a arweiniodd sesiwn dysgu a datblygu gyda'r Bwrdd ar 1 Rhagfyr 2023 ac a fydd yn arwain Cynhadledd Arweinyddiaeth ehangach ar 14 Rhagfyr 2023.

Gwasanaethau agored i niwed yn glinigol

Gosodwyd tair blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Cytuno ar strategaeth iechyd meddwl, cytuno ar gynllun gweithredu CAMHS a niwroddatblygiad i wella perfformiad, a'i roi ar waith.
  2. Adolygu, diwygio a gweithredu cynlluniau gwella clir, gan gynnwys fasgwlaidd (gan gynnwys galluogi cam 2 yr adolygiad fasgwlaidd), wroleg, offthalmoleg, oncoleg, dermatoleg a phlastigion.
  3. Cytuno ar y trefniadau arweinyddiaeth glinigol ar gyfer gwasanaethau ar draws y sefydliad a dechrau gweithredu'r cynnig ymgysylltiad clinigol.

Mae gwaith pellach wedi'i wneud ar y strategaeth iechyd meddwl a'r cynllun gweithredu CAMHS a niwroddatblygiad drwy gydol y cylch hwn, ac mae hyn wedi cynnwys digwyddiad cynllunio bord gron a gefnogwyd gan arweinwyr cenedlaethol y GIG. Mae perfformiad yn erbyn y gwahanol fesurau iechyd meddwl i oedolion yn parhau i wella, gydag 84% o oedolion yn cael asesiad o fewn 28 diwrnod ym mis Medi o gymharu â 73.8% ym mis Chwefror, a bron i 83% yn cael ymyrraeth o fewn 28 diwrnod. Er bod perfformiad ar gyfer plant dan 18 oed yn erbyn rhannau 1a a 1b o'r mesur iechyd meddwl yn is na'r targed, gwelwyd gwelliannau o gymharu â mis Chwefror.

Trafododd y Bwrdd argymhellion yr asesiad annibynnol o ddiogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl mewn sesiwn ddatblygu ym mis Medi a rhannwyd ymateb y rheolwyr yn ei Bwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad ym mis Tachwedd. Mae asesiad allanol pellach wedi'i gynllunio ar gyfer mis Ionawr 2024 i asesu i ba raddau mae'r argymhellion wedi'u rhoi ar waith. 

Mae'r adolygiad o adolygiadau iechyd meddwl sy'n cael eu cynnal gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn mynd rhagddo'n gyflym.

Cynhaliwyd asesiad annibynnol yn erbyn y cynllun fasgwlaidd gan Rwydwaith Clinigol Fasgwlaidd Gweithrediaeth y GIG. Bydd hyn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad mewn sesiwn gaeedig ym mis Tachwedd cyn y cyhoeddir ymateb rheolwyr. Daeth i'r casgliad bod gwasanaeth fasgwlaidd BIPBC wedi gwella ers yr adolygiadau blaenorol ac, ym marn yr adolygwyr, mae bellach yn darparu gwasanaeth llawer mwy diogel. Daeth i'r casgliad hefyd fod y llawfeddygon fasgwlaidd yn gweithio'n fwy cydweithredol, gyda gwaith rheoli cleifion yn cael ei ysgogi gan dîm amlddisgyblaethol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu asesiad nodyn achos ar gyfer y gwasanaeth fasgwlaidd, a ddechreuodd ym mis Tachwedd, a bydd yn adolygu nifer o lwybrau cleifion sy'n cael mynediad at driniaeth rhwng Awst 2022 ac Awst 2023. 

Mae gwelliannau'n parhau i gael eu nodi yn y gwasanaeth fasgwlaidd, gan adeiladu ar yr adolygiadau diweddar a gynhaliwyd. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â theuluoedd yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau'r Panel Ansawdd Fasgwlaidd ac mae digwyddiad arall wedi'i drefnu ar gyfer dechrau mis Rhagfyr. Mae'r cynllun gwella fasgwlaidd yn gynhwysfawr ac yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd. 

Mae gwaith ar y cynlluniau gwella ar gyfer y gwasanaethau agored i niwed eraill yn parhau, er nad yw'r fersiynau terfynol wedi'u rhannu â Llywodraeth Cymru eto ac mae pryder gwirioneddol nad yw'r bwrdd iechyd yn ymateb mor gyflym ag y gallai i rai o'r materion mae'r gwasanaethau hyn yn eu hwynebu.

Mae'r gwasanaeth dermatoleg wedi dod dan bwysau sylweddol ers yr haf, gyda nifer cynyddol o swyddi gwag a dibyniaeth ar staff dros dro a locwm. Bydd hyn yn effeithio ar berfformiad dermatoleg a chanser y croen yn ystod y misoedd nesaf. Mae ateb adferiad uniongyrchol wedi'i roi ar waith i sicrhau bod yr effaith ar gleifion canser brys yn cael ei lleihau. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £200,000 ychwanegol i'r bwrdd iechyd i sefydlu model tele-dermosgopi a fydd yn cefnogi’r ymdrech i frysbennu cleifion yn gynt.

Llywodraethu a rheolaeth ariannol

Gosodwyd pum blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Parhau i sefydlogi'r tîm cyllid a mynd i'r afael â phryderon capasiti.
  2. Parhau i weithredu cynllun gweithredu llywodraethu ariannol mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad E&Y a phryderon eraill. Mae hyn yn cynnwys cwblhau'r cyfrifon diwedd blwyddyn ar gyfer 2022/23 a chryfhau'r amgylchedd rheolaeth ariannol.
  3. Darparu cynllun arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arno sy'n lleihau'r diffyg ariannol yn 2023/24 a deall yr ysgogiadau wrth wraidd y diffyg ariannol.
  4. Cynnal asesiad o'r rhagolygon ariannol ar gyfer 2024/25, gan gynnwys ysgogiadau a chyfleoedd cost allweddol.
  5. Cynnal yr adolygiad o faes caffael a rheoli contractau.

Mae camau wedi'u cymryd i sefydlogi'r tîm cyllid, gydag adnoddau ychwanegol wedi'u nodi a'u hailgyfeirio i gefnogi targedau cyflawnadwy allweddol, cyfrifyddu technegol, monitro parhaus ac adrodd ar berfformiad. Mae gwaith meincnodi ar swyddogaeth gyllid y bwrdd iechyd wedi'i wneud a'i gwblhau, a bydd yn llywio'r model gweithredu cyllid yn y dyfodol o dan gylchoedd yn y dyfodol. Mae camau gweithredu ar waith i geisio cryfhau gallu'r uwch dîm arwain ym maes cyllid.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno ar gynllun gweithredu cyllid mesurau arbennig a chynllun gweithredu amgylchedd rheolaeth ariannol gyda Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG. Caiff hyn ei adolygu a'i herio i gefnogi cynnydd a sicrwydd ar gyflawni'r cynllun a cherrig milltir allweddol. Cipiwyd camau gweithredu manwl gydag Archwilio Cymru ar y meysydd gwella y cytunwyd arnynt yn dilyn proses gyfrifyddu 2022/23 sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu mesurau arbennig i gael sicrwydd ar y camau i fynd i'r afael â'r rheini cyn proses gyfrifyddu 2023/24. Mae rhaglen hyfforddiant ar ei newydd wedd ym maes caffael, sy’n cynnwys ystod o weithgareddau, yn cael ei chyflwyno o fewn y bwrdd iechyd.

Mae cynnydd yn cael ei wneud i nodi a gweithredu cynlluniau arbedion a chyflawni ar lefel uwch, gyda chynnydd sylweddol yn yr arbedion a ragwelir gyda hyder hyd at fis 7. Fel gyda phob bwrdd iechyd, mae'r sefydliad yn canolbwyntio ar nodi camau i symud ymlaen tuag at gyfansymiau rheoli targed a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r bwrdd iechyd wedi cychwyn adolygiad o'r holl fuddsoddiadau fel rhan o'r broses hon.

Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn yr allbwn drafft o'r adolygiad o gaffael a rheoli contractau a gynhaliwyd drwy archwiliad mewnol. Bydd yr argymhellion yn cael eu hadolygu gan y Pwyllgor Perfformiad, Cyllid a Llywodraethu Gwybodaeth ym mis Rhagfyr. Ystyrir hefyd yr allbynnau a'r camau nesaf a'r mecanweithiau sicrwydd ar y camau gofynnol sy'n cael eu hystyried drwy'r broses mesurau arbennig a'r cynllun gweithredu.

Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau

Gosodwyd pedair blaenoriaeth ar gyfer y maes hwn: 

  1. Gwneud cynnydd cynaliadwy o ran cyflawni'r cynllun blynyddol y cytunwyd arno gan y bwrdd, sicrhau bod cynllun gweithlu effeithiol ar waith sy'n caniatáu i'r bwrdd iechyd gyflawni'r cynllun mewn ffordd hyblyg ac effeithiol. Canolbwyntio gweithgarwch trawsnewid a gwella ar y meysydd dan fesurau arbennig i sicrhau newid cynaliadwy ac effeithiol.
  2. Gwreiddio canolfannau gofal sylfaenol brys fel strategaeth graidd ar gyfer cynllunio i'r gaeaf, gan gynnwys cynigion ar unwaith ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd a chymryd camau parhaus i sicrhau gwelliannau ar draws y tair adran gofal brys, gyda ffocws clir ar Ysbyty Glan Clwyd.
  3. Cymryd rhan yn yr Adolygiad Cynllunio Integredig a dechrau'r broses ar gyfer cynllun blynyddol 2024/25. Datblygu a dechrau proses gydag amserlenni y cytunwyd arnynt ar gyfer datblygu cynllun gwasanaethau clinigol.
  4. Cytuno ar fodel gweithredol ar gyfer gwasanaethau orthopedig yn y dyfodol.

Cynhaliwyd yr adolygiad cynllunio annibynnol ac mae'r adroddiad terfynol yn cael ei gwblhau. Bydd hyn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Perfformiad, Cyllid a Llywodraethu Gwybodaeth. 

Cafodd y Fframwaith Cynllunio Integredig ei gymeradwyo gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Medi. Mae'r gwaith o gyflwyno'r fframwaith hwn bellach ar y gweill, ac mae datblygiad gweithredol Cynllun 3 blynedd ar gyfer 2024 i 2027 bellach wedi dechrau, gydag amserlen glir drwy gylch 3. Bu'r Bwrdd yn ystyried ac yn adolygu'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â gweithredu'r Cynllun Blynyddol presennol yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd. Mae hyn yn arwydd bod y mecanweithiau i ddarparu tryloywder mewn perthynas â chynnydd yn cryfhau, ac yn nodi meysydd her o safbwynt cyflawni a dangos effaith blaenoriaethau'r cynllun blynyddol ar gyfer y boblogaeth.

Mae'r Bwrdd hefyd wedi cymeradwyo nifer o fframweithiau a fydd yn gweithredu fel sylfeini effeithiol i’r sefydliad. Mae'r gwaith o weithredu'r fframweithiau cynllunio, perfformiad a rheoli risg bellach ar y gweill, a bydd ffocws parhaus ar y meysydd hyn yn parhau drwy'r cylch nesaf.

Cafodd yr achos busnes orthopedig ei gymeradwyo gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Medi 2023. Yna, cymeradwywyd hyn gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 23 Tachwedd 2023.

Cyflawni gweithredol

Gosodwyd dwy flaenoriaeth ar gyfer y maes hwn:

  1. Gwella mynediad a phrofiad fel y'u mesurir drwy ddileu arosiadau 52 wythnos yn y cam cleifion allanol cyntaf, dim cleifion yn aros dros 156 wythnos am driniaeth, dim arosiadau 4 awr wrth drosglwyddo o ambiwlans a gwell perfformiad o ran amseroedd aros 4 a 12 awr mewn adrannau brys.
  2. Dylunio fframwaith perfformiad integredig yn seiliedig ar ddata clir a chywir a dangosfyrddau gweladwy ar gyfer perfformiad, diogelwch cleifion, ansawdd a phrofiad.

Cafwyd gostyngiad yn nifer y cleifion sy'n aros yn hir yn y cyfnod cleifion allanol a thriniaeth. Mae nifer y bobl sy'n aros dros 52 wythnos am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi gostwng gan 16.6% rhwng mis Chwefror a mis Medi, ac mae'r niferoedd sy'n aros dros 104 wythnos wedi gostwng gan 21.7% dros yr un cyfnod. 

Mae'r ffocws ar ddileu arosiadau 4 awr wrth drosglwyddo o ambiwlans, er nad yw wedi'i gyflawni eto, yn arwain at rai gwelliannau. Roedd 621 o achosion o oedi o dros 4 awr wrth drosglwyddo o ambiwlans ym mis Hydref 2023; mae hwn yn ostyngiad o 20% o gymharu â mis Hydref 2022 ac yn well o lawer na'r 1,042 a nodwyd ym mis Mawrth 2023.

Er bod targed amseroedd aros yr adrannau brys wedi gwella ym mis Hydref 2023, o gymharu â Hydref 2022, mae'n parhau i fod yn her sylweddol.

Mae dull cryfach gan y Weithrediaeth yn cael ei fabwysiadu mewn perthynas â pherfformiad, yn unol â'r Fframwaith Perfformiad Integredig a gymeradwywyd gan y Bwrdd. Mae angen rhagor o waith i weithredu'r fframwaith yn llawn, felly bydd hyn yn parhau i gael ei ddatblygu yn ystod cylch 3.