Neidio i'r prif gynnwy

Eich cyf/Your ref: 161123

Ein cyf/Our ref: MA/JMEWL/0015/24

Rocio Cifuentes MBE

Comisiynydd Plant Cymru
Tŷ Llewellyn
Parc Busnes Glan yr Harbwr
Heol yr Harbwr
Port Talbot
SA13 1SB

ceirios.chesters@childcomwales.org.uk 

Mawrth 2024

Annwyl Rocio

Yn fy llythyr atoch ym mis Rhagfyr, ymrwymais i ymateb yn llawn i'r argymhellion a wnaed yn adroddiad eich swyddfa ar addysg mewn ysbytai. Ar ôl ystyried yr argymhellion, rwyf wedi penderfynu ar y canlynol: 

  1. Rwy’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu dyletswyddau cyfreithiol awdurdodau lleol i ddarparu addysg amser llawn i blant na fyddai fel arall, o achos salwch, yn derbyn addysg addas. Mae angen i’r canllaw fod yn glir bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ‌sicrhau bod plant Cymru yn derbyn yr un hawliau cyfreithiol â phlant ar draws y DU.

Derbyn mewn egwyddor: mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol o dan adran 19A Deddf Addysg 1996 i wneud trefniadau ar gyfer darparu addysg addas i blant o oedran ysgol gorfodol na fyddai efallai, o achos salwch, yn derbyn addysg addas am gyfnod oni bai bod trefniadau o'r fath yn cael eu gwneud ar eu cyfer. Rydym yn bwriadu diwygio ein canllawiau i'w gwneud yn glir mai ein disgwyliad yw bod disgyblion sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn cael manteisio ar addysg amser llawn lle bo hynny'n briodol ar gyfer disgyblion unigol. Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i'r canllawiau, sy'n golygu y bydd yn rhaid iddynt eu cydnabod a'u hystyried yn ofalus. Ar ôl gwneud hynny, byddai angen rheswm da i gyfiawnhau peidio â chydymffurfio â nhw.

  1. Rwy’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn diwygio y canllaw ar gyfer darparu Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS), i gynnwys disgwyliad y bydd awdurdodau lleol yn hwyluso cyflwyno cynnig sy’n cyfateb i addysg amser llawn i blant sy’n derbyn gofal iechyd parhaus neu aciwt, ac eithrio lle nad yw hynny er lles pennaf y plentyn. 

Derbyn: byddwn yn diweddaru canllawiau Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd  i nodi'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol sy'n gwneud trefniadau o dan adran 19A Deddf Addysg 1996 o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Rydym hefyd yn bwriadu diweddaru'r canllawiau i nodi disgwyliad Llywodraeth Cymru bod disgyblion sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn derbyn tua 5 awr y dydd/25 awr yr wythnos o addysg, ac eithrio lle nad yw hynny er lles pennaf disgyblion unigol.

  1. Rwy’n argymell sicrhau bod dyletswydd ar arweinwyr EOTAS ym mhob awdurdod lleol i fynd ati fel mater o drefn i gasglu barn plant ar yr addysg maen nhw’n ei derbyn.

Derbyn mewn egwyddor: Bydd canllawiau Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd yn cael eu diweddaru i nodi'r gofynion o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Yn ogystal, byddwn yn cyhoeddi canllawiau atgyfeirio a chomisiynu ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol, a fydd yn nodi'r disgwyliad bod awdurdodau lleol, wrth asesu addasrwydd yr addysg a ddarperir, yn ymweld â darparwyr ac yn trafod gyda'r plant pa mor addas yw'r addysg a ddarperir. 

  1. Rwy’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r trefniadau ariannu cyfredol ar gyfer addysg mewn lleoliadau gofal iechyd ar draws pob Awdurdod Lleol ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid fydd yn golygu bod modd gwreiddio dull cyffredinol o ymdrin â chyllido ar draws Cymru.

Derbyn mewn egwyddor: fel rhan o'r gwaith o ddatblygu canllawiau atgyfeirio a chomisiynu ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn deall unrhyw faterion sy'n gysylltiedig â'r trefniadau presennol ar gyfer cyllido addysg mewn lleoliadau gofal iechyd. 

  1. Rwy’n argymell bod cynlluniau pontio ac ailintegreiddio yn cael eu cynnwys mewn canllawiau i hyrwyddo’r cysylltiadau rhwng addysg, iechyd ac awdurdodau lleol i blant a phobl ifanc sy’n derbyn addysg mewn lleoliad gofal iechyd, ac a fydd yn dychwelyd i’w trefniadau addysg blaenorol. Rhaid i’r cynlluniau hyn gael eu cynhyrchu ar y cyd â phlant a phobl ifanc. 

Derbyn: mae canllawiau Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechydchanllawiau ynghylch datblygu'r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn nodi pwysigrwydd cynlluniau pontio ac ailintegreiddio.   

Mae canllawiau Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd yn nodi bod gan leoliadau addysg rôl allweddol i'w chwarae yn y broses o integreiddio'n llwyddiannus ar ôl diagnosis neu o ailintegreiddio dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd. Dylai lleoliadau fod yn rhagweithiol wrth ymwneud â phob asiantaeth, gan gynnwys dysgwyr eraill yn y cymorth pontio. Dylai staff gael eu hyfforddi mewn modd amserol i helpu dysgwr sy'n dychwelyd. Dylai'r gefnogaeth gael ei hystyried gan bartïon allweddol, gan gynnwys y rhiant a'r dysgwr, a dylai gael ei hadlewyrchu yn y cynllun gofal iechyd unigol. 

Mae'r canllawiau ynghylch datblygu'r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol yn nodi bod dysgwyr sy'n mynychu lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol yn wynebu rhwystrau sylweddol i ddysgu, ac yn aml yn profi heriau yn eu bywydau sy'n fwy nag yn achos llawer o'u cyfoedion. Dylid cryfhau prosesau cynllunio, dylunio a gweithredu'r cwricwlwm addysg heblaw yn yr ysgol, felly, drwy gydweithio systematig rhwng dysgwyr, rhieni/gofalwyr, ysgolion a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, a dylai'r prosesau hyn gefnogi'r camau i ailintegreiddio dysgwr i ddarpariaeth brif ffrwd neu arbenigol, neu i bontio i'r darpariaethau hyn, a/neu eu galluogi i symud ymlaen tuag at addysg bellach, hyfforddiant neu fyd gwaith.

  1. Rwy’n argymell bod y canllaw yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r cwricwlwm newydd a sicrhau dilyniant ym myd addysg i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion iechyd, ym mha leoliad bynnag y caiff yr addysg ei darparu.

Derbyn: Bydd canllawiau Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu mewn perthynas â disgyblion sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol.

  1. Rwy’n argymell bod y fframwaith Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) yn cael ei ddiweddaru i sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc o dan 18 oed 
    fynediad i ddarpariaeth addysg pan fyddan nhw’n gleifion mewnol mewn lleoliad gofal iechyd.

Derbyn yn rhannol: Bydd canllawiau Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd yn cael eu diweddaru i nodi y dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gan bob plentyn o oedran ysgol gorfodol fynediad at addysg pan fyddant yn gleifion mewnol mewn lleoliad gofal iechyd. Yn ogystal, bydd canllawiau atgyfeirio a chomisiynu ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol yn ei gwneud yn glir bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i blant nad ydynt yn gallu mynychu'r ysgol, gan gynnwys plant sy'n gleifion mewnol mewn lleoliad gofal iechyd, gael addysg addas. 

Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad i awdurdodau lleol drefnu addysg heblaw yn yr ysgol ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol, ac ar hyn o bryd nid oes cynlluniau i newid hyn. Fodd bynnag, mae gan awdurdodau lleol bwerau i wneud hynny yn ôl eu disgresiwn, ac mae canllawiau Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd yn nodi ein disgwyliad bod addysg heblaw yn yr ysgol yn cael ei darparu i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol ac o dan 18 oed i sicrhau parhad mewn addysg.

Rhoddir ystyriaeth i'r dyletswyddau ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i bobl ifanc gael addysg heblaw yn yr ysgol pan fyddwn yn cynnal asesiad effaith integredig wrth ddatblygu canllawiau atgyfeirio a chomisiynu ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol.

  1. Rwy’n argymell bod asesiad effaith integredig (gan gynnwys asesiad effaith ar hawliau plant) yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r 
    canllawiau, gan gynnwys anghenion addysg plant anabl a phlant sydd eisiau derbyn addysg ôl-16.

Derbyn: bydd asesiad effaith integredig, gan gynnwys asesiad o'r effaith ar hawliau plant, yn cael ei gynnal cyn adolygu'r canllawiau hyn.   

  1. Rwy’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi lleoliadau i alluogi plant a phobl ifanc i dderbyn eu haddysg yn Gymraeg mewn lleoliad gofal iechyd. Dylid cynnwys hyn mewn fframweithiau comisiynu. 

Derbyn: bydd canllawiau atgyfeirio a chomisiynu ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol yn rhoi arweiniad ar ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.          

  1. Rwy’n argymell bod y canllawiau yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r hawliau newydd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg, i ddysgwyr gael cefnogaeth gyda'u haddysg, lle bynnag y caiff ei darparu.

Derbyn: Bydd canllawiau Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol, ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 mewn perthynas â disgyblion sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol.

Unwaith eto, diolch ichi am y gwaith rydych wedi'i wneud fel rhan o'r adolygiad sbotolau hwn. Bydd yn cael ei ystyried wrth inni ddatblygu polisïau i sicrhau bod pob plentyn na all fynychu'r ysgol yn cael mynediad at addysg lawn.

Yn gywir,

Jeremy Miles AS/MS

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg 

Minister for Education and Welsh Language