Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 27 Chwefror 2023, penderfynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol alw ar Drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd y GIG (2014) sy'n pennu'r broses ar gyfer cymryd camau i fynd i'r afael â phryderon difrifol a chododd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i fesurau arbennig.

Gwnaed y penderfyniad hwn er mwyn adlewyrchu pryderon difrifol ynghylch effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd gwasanaethau ac ad-drefnu gwasanaethau, llywodraethiant, diogelwch cleifion, cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheoli ariannol.

Cytunodd y cadeirydd, yr is-gadeirydd ac aelodau annibynnol o'r Bwrdd i gamu i lawr, a gwnaed nifer o benodiadau uniongyrchol ar unwaith i sicrhau sefydlogrwydd y bwrdd.

Dyma'r adroddiad chwarterol cyntaf i gael ei lunio ers i'r bwrdd iechyd gael ei roi o dan fesurau arbennig. Mae'n nodi'r cynnydd a wnaed yn ystod y tri mis diwethaf ac yn pennu'r blaenoriaethau ar gyfer y 90 diwrnod nesaf.

Y cefndir

‘Mesurau arbennig yw'r lefel uwchgyfeirio uchaf yn nhrefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru.  Cytunwyd â'r bwrdd iechyd ar fframwaith mesurau arbennig sy'n pennu wyth maes ar gyfer gwella.

Mae'r meysydd hyn yn cynnwys pob un o'r meysydd sy'n peri pryder a arweiniodd at roi'r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig. Bydd pob un o'r rhain yn cael ymyrraeth wedi'i thargedu, cymorth a chynlluniau isgyfeirio.

Y meysydd yw:

  • llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio
  • y gweithlu a datblygu sefydliadol
  • llywodraethiant a rheoli ariannol
  • arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol
  • llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch
  • cyflawni gweithredol
  • cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau
  • gwasanaethau clinigol

O ganlyniad i gymhlethdod a chwmpas y gwaith yn y meysydd, bydd pedair lefel i'r ymyrraeth mesurau arbennig er mwyn cefnogi’r broses isgyfeirio sy'n:

  • darganfod
  • sefydlogi
  • safoni
  • cynaliadwyedd

Diben yr adroddiad hwn

Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o'r wyth maes yn ystod cyfnod darganfod y mesurau arbennig rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023.

Cyfnod darganfod

Mae'r tri mis cyntaf wedi canolbwyntio ar ddeall yn fanulach y materion sydd wrth wraidd y rhesymeg dros y mesurau arbennig ac ar feddwl am atebion.

Ansawdd a diogelwch 

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi enwi dau wasanaeth yn y bwrdd iechyd yn wasanaethau sydd angen eu gwella'n sylweddol:

  • yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd
  • Gwasanaethau Fasgwlaidd

Cynghorwyr Annibynnol

Yn dilyn y penderfyniad i uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd i fesurau arbennig, cymerodd y gweinidog gamau ar unwaith i benodi nifer o gynghorwyr annibynnol er mwyn cefnogi'r Bwrdd. Mae manylion y rhain i’w gweld yn Atodiad 1.

Penodwyd pobl i ddwy swydd cymorth gweithredol er mwyn gweithio gyda'r bwrdd iechyd yn uniongyrchol. Mae un o'r rhain yn cydgysylltu tîm bach er mwyn canolbwyntio ar orthopedeg, ac mae'r ail yn gweithio i gefnogi'r bwrdd iechyd gyda rheolaethau gweithredol gan ddechrau gyda dileu achosion o aros dros bedair awr cyn trosglwyddo cleifion o ambiwlansys.

Penodiadau uniongyrchol oedd pob un o'r rhain, naill ai drwy Weithrediaeth GIG Cymru neu drwy sefydliad y GIG lle roedd contract cyflogi eisoes gan yr unigolyn. Mae'r contractau ar gyfer chwe mis i ddechrau, ac yn amrywio rhwng pedwar ac wyth diwrnod y mis.

Mae'r aelodau annibynnol yn cyfarfod â swyddogion o Lywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd.

Cynnydd yn erbyn meysydd y mesurau arbennig

Llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio

Mae cadeirydd y bwrdd iechyd wedi cael ei benodi ac mae chwech aelod annibynnol mewn swyddi. Mae manylion y penodiadau hyn i'w gweld ar wefan BIPBC.

Disgwylir cadarnhad o enwebiadau ar gyfer aelod annibynnol yr undebau llafur yn y cylch 90 diwrnod nesaf. Mae'r prif fwrdd wedi cyfarfod ddwywaith. Mae nifer o weithdai wedi cael eu cynnal ynghylch cynllunio a mesurau arbennig. Cynhaliwyd cyfarfodydd y pwyllgorau yn ystod mis Mai 2023. 

Mae pum cynghorydd annibynnol wedi cael eu penodi er mwyn gweithio ar draws meysydd y mesurau arbennig, gan gynnwys effeithiolrwydd y bwrdd a datblygu ymateb sefydliadol i adolygiad Archwilio Cymru o Effeithiolrwydd y Bwrdd. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt ynghylch rhagor o benodiadau i gefnogi'r meysydd iechyd meddwl, cynllunio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae newidiadau wedi cael eu gwneud yn Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd.

Penodwyd Carol Shillabeer yn Brif Weithredwr Dros Dro ar 2 Mai ar secondiad o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a hi fydd yn arwain y sefydliad. Dechreuodd y broses ar gyfer recriwtio Prif Weithredwr parhaol ym mis Mawrth 2023 ac mae'n parhau ar waith.

Llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch

Mae asesiad interim wedi dechrau mewn perthynas â phryderon ynghylch diogelwch cleifion sy'n gysylltiedig â BIPBC a godwyd yn flaenorol ar ffurf datgeliadau gwarchodedig. Mae adolygiadau cyflym yn cael eu gwneud mewn ymateb i faterion a godwyd gan Grwner Ei Fawrhydi a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Cytunwyd ar raglen o brosesau adrodd a dysgu newydd ac mae'n cael ei rhoi ar waith yn y sefydliad.

Y gweithlu a datblygu sefydliadol

Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer adolygiad cyflym o bortffolios y Tîm Gweithredol wedi cael ei lunio, a bydd hyn yn yn dechrau yn ystod y cylch 90 diwrnod nesaf. Mae adolygiad o'r sefydliad yn mynd rhagddo, sy'n cael ei arwain gan y cyfarwyddwr cyllid dros dro. Mae rhaglen gwmpasu i asesu effeithiolrwydd a gweithrediad y model gweithredu newydd ar y gweill. Mae gweithdai gyda'r cyngor meddygol lleol a phartneriaethau lleol ar ochr staff yn cael eu trefnu. Cynhaliwyd cynhadledd arweinyddiaeth glinigol uwch-arweinwyr meddygol ym mis Ebrill 2023. Mae adolygiad o bolisïau llesiant, ymgysylltu a'r gweithlu ar y gweill a gaiff ei gwblhau ym mis Mehefin 2023.

Gwasanaethau clinigol

Cynhaliwyd asesiad annibynnol o ddiogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl ym mis Ebrill er mwyn rhoi sicrwydd a phennu camau gweithredu mewn perthynas â'r ystâd iechyd meddwl a chynllunio camau gweithredu.

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi dechrau adolygiad o adolygiadau iechyd meddwl blaenorol er mwyn gweld i ba raddau y mae'r argymhellion blaenorol wedi cael eu hymwreiddio a'u cwblhau.

Mae gwasanaethau fasgwlaidd wedi cael eu goruchwylio'n barhaus. Bydd rhwydwaith clinigol cenedlaethol Cymru yn cynnal asesiad annibynnol yn erbyn y cynllun fasgwlaidd.

Mae adolygiad niwed wrthi'n cael ei gwblhau ar gleifion sy'n aros yn hir ar y llwybr dermatoleg / llawdriniaethau plastig ac mae gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer y gwasanaeth mewngymorth hwn yn cael eu datblygu.

Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn arwain adolygiad rhagarweiniol o arweinyddiaeth ddiwylliannol ar y cyd â thîm y gweithlu a datblygu sefydliadol y bwrdd iechyd er mwyn asesu'r sefyllfa bresennol a chytuno ar y camau nesaf.

Llywodraethiant a rheoli ariannol

Cytunwyd ar feysydd a chynnwys yr adran Llywodraethiant a Rheoli Ariannol o'r Fframwaith mesurau arbennig, sydd hefyd yn rhan o gynllun gweithredu cyllid mesurau arbennig.

Bydd cynnwys y fframwaith yn canolbwyntio yn y dyfodol ar sefydlogi'r tîm cyllid a datblygu capasiti, rhoi'r cynllun gweithredu llywodraethiant / rheolaeth ariannol ar waith, dechrau cyflawni cynllun arbedion y cytunwyd arno a gwelliannau i'r cynllun ariannol sy'n lleihau'r diffyg ariannol yn ystod 2023 i 2024, asesu cyfleoedd ar gyfer blynyddoedd ariannol y dyfodol a datblygu gofal iechyd seiliedig ar werth, a gweithredu blaenoriaethau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd rheolaeth ariannol.

Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun gweithredu rheolaeth ariannol mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiadau Ernst a Young ac Archwilio Cymru. Bydd cyflawni'r cynllun hwn yn ffurfio rhan o'r fframwaith mesurau arbennig.

Mae meysydd ffocws ychwanegol y bydd angen eu hadolygu ymhellach wedi cael eu nodi. Caiff y meysydd hyn eu datblygu a'u rhoi ar waith, gan gynnwys adolygu arferion rheoli contractau.

Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau

Cyflwynwyd cynllun blynyddol drafft, amlygwyd meysydd cyfle a chynllun diwygiedig i'w gyflwyno cyn diwedd Mehefin. Cynhaliwyd gweithdy Bwrdd er mwyn deall yr heriau a'r opsiynau.

Caiff adolygiad o'r swyddogaeth cynllunio ei gwblhau. Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith hwn wrthi'n cael ei ddatblygu.

Cyflawni gweithredol

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cymorth uniongyrchol, sydd wedi ymwreiddio yn y bwrdd iechyd a Gweithrediaeth GIG Cymru, ar gyfer gofal brys ac mewn argyfwng a chyflawni gwasanaethau orthopedig. Cynhaliwyd nifer o weithdai ar achos busnes y gwasanaethau orthopedig ac achos busnes tymor hwy y ganolfan driniaeth ranbarthol.

Camau sydd wedi eu comisiynu ac ar y gweill

  • Cymorth ar gyfer Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd.
  • Adolygiad cyflym o Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd. 
  • Adolygiad o benodiadau dros dro.
  • Gwaith cwmpasu i ddeall materion pellach ynghylch diogelwch cleifion.
  • Adolygiad o adolygiadau iechyd meddwl.
  • Asesiad o ddiogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl.
  • Rhaglen o waith i ddatblygu gwasanaeth orthopedeg sy'n gynaliadwy. 
  • Rhaglen o waith i ddileu achosion o aros am bedair awr cyn trosglwyddo cleifion o ambiwlansys.
  • Asesiad o sicrwydd y gwasanaeth fasgwlaidd.

Cyfarfodydd goruchwylio yn ystod y cyfnod darganfod

  • 28 Chwefror 2023, cyfarfod ymyrraeth wedi'i thargedu, wedi ei drosi i gyfarfod ymyrraeth mesurau arbennig.
  • 15 Mawrth 2023, cyfarfod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chadeirydd y Bwrdd Iechyd.
  • 22 Mawrth 2023, cyfarfod ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig a chyfarfod cyswllt mesurau arbennig.
  • 29 Mawrth 2023, cyfarfod adolygiad iechyd meddwl, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl.
  • 3 Ebrill 2023, fforwm mesurau arbennig gweinidogol, cadeirydd a dirprwy brif swyddog gweithredol y bwrdd iechyd.
  • 3 Ebrill 2023, cyfarfod â'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd.
  • 21 Ebrill 2023, cyfarfod ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig a chyfarfod cyswllt mesurau arbennig.
  • 3 Mai 2023, fforwm mesurau arbennig gweinidogol, y cadeirydd a'r dirprwy brif swyddog gweithredol.
  • 4 Mai 2023, gweithdy, Llywodraeth Cymru / Cynghorwyr Annibynnol / Bwrdd BIPBC.
  • 5 Mai 2023, uwchgynhadledd sicrwydd, Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Glwyd.
  • 22 Mai 2023, cyfarfod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chadeirydd y Bwrdd Iechyd.
  • 26 Mai 2023, Bwrdd Sicrwydd Mesurau Arbennig.
  • Cyfarfodydd bob pythefnos, Gwasanaethau Fasgwlaidd.
  • Cyfarfodydd bob tair wythnos, Llawdriniaethau Plastig.
  • Cyfarfodydd misol, Canser.

Blaenoriaethau ar gyfer y 90 diwrnod nesaf

Mae’r Bwrdd a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar y blaenoriaethau a ganlyn ar gyfer y cyfnod 90 diwrnod nesaf.

Llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio

  1. Sicrhau bod llywodraethiant y Bwrdd yn effeithiol, rhoi argymhellion yr adolygiad o Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd ar waith, adnewyddu cylch gorchwyl y pwyllgor ac ymwreiddio mesurau arbennig ym mhob pwyllgor. 
  2. Cychwyn cynlluniau i recriwtio Bwrdd parhaol gan gynnwys prif weithredwr parhaol, cyfarwyddwr cyllid dros dro a phrif swyddog gweithredu. 
  3. Datblygu rhaglen datblygu bwrdd a dechrau ei rhoi ar waith. 
  4. Sicrhau bod cynllun dirprwyo ar waith a'i fod yn cyd-fynd yn glir â'r model gweithredu a’r strwythurau sefydliadol. 

Llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch

  1. Sicrhau bod gweithdrefn/proses effeithiol ar waith ar gyfer dysgu o ddigwyddiadau, a bod paratoadau ar gyfer cwestau a gwrandawiadau Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn glir ac yn effeithiol. 
  2. Cytuno ar yr Adolygiad o Ddiogelwch Gofal Cleifion, ei gefnogi a'i alluogi. 
  3. Gweithio gyda Gweithrediaeth GIG Cymru wrth iddi gwblhau adolygiad o lywodraethiant clinigol. 
  4. Adolygu gweithdrefnau ar gyfer ymgysylltu clinigol, gan lunio argymhellion ar gyfer gwella. 

Y gweithlu a datblygu sefydliadol

  1. Cefnogi a galluogi adolygiad o bortffolios y cyfarwyddwyr gweithredol. 
  2. Datrys achosion parch a datrys sydd heb eu datrys eto, gan gynnwys prosesau tebyg sy'n gysylltiedig â'r uwch-arweinwyr. 
  3. Cefnogi a galluogi adolygiad o benodiadau dros dro; rhoi'r argymhellion ar waith. 

Gwasanaethau clinigol

  1. Rhoi argymhellion yr Asesiad o Ddiogelwch Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl ar waith.
  2. Cytuno ar strategaeth iechyd meddwl, cytuno ar gynllun gweithredu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a gwasanaethau niwroddatblygiad, eu cychwyn a'u rhoi ar waith, er mwyn gwella perfformiad a gwella perfformiad CAMHS. 
  3. Adolygu a diwygio cynlluniau gwella clir a'u rhoi ar waith, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt o reidrwydd, wasanaethau Fasgwlaidd (gan gynnwys galluogi'r Adolygiad o Wasanaethau Fasgwlaidd), Wroleg, Offthalmoleg, Oncoleg, Dermatoleg a Llawdriniaethau Plastig. 

Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol

  1. Gan weithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ystyried opsiynau, cytuno ar raglen ar gyfer datblygu'r tîm gweithredol a'r uwch-arweinwyr a'i chychwyn. 
  2. Datblygu dulliau a ddefnyddir i feithrin ymddiriedaeth a hyder yn y sefydliad a chyda rhanddeiliaid gan gynnwys datblygu dull strwythuredig o adnewyddu cysylltiadau â grwpiau cymunedau â blaenoriaeth. 

Llywodraethiant a rheoli ariannol

  1. Sefydlogi'r tîm cyllid a mynd i'r afael â phryderon ynghylch capasiti. 
  2. Rhoi'r cynllun gweithredu llywodraethiant ariannol ar waith mewn ymateb i ganfyddiadau adolygiad Ernst a Young a phryderon eraill. 
  3. Dechrau cyflawni cynllun arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arno a gwelliannau i'r cynllun ariannol a fydd yn lleihau'r diffyg ariannol yn ystod 2023 i 2024. 
  4. Dechrau asesu'r cyfleoedd ariannol posibl ar gyfer 2024 i 2025 a 2025 i 2026 a datblygu cyfraniad gofal iechyd seiliedig ar werth. 
  5. Rhoi'r blaenoriaethau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd rheolaeth ariannol ar waith, er enghraifft rheoli contractau. 

Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau

  1. Llunio cynllun blynyddol clir a chyflawnadwy i'r sefydliad ar gyfer y flwyddyn bresennol sy'n sicrhau gwelliannau ym meysydd blaenoriaeth gweinidogion. 
  2. Cymorth ar gyfer trawsnewid a gwella i ganolbwyntio ar feysydd risg allweddol ac i gael ei ymwreiddio yn y timau rheng flaen er mwyn cefnogi rhaglenni newid. 

Cyflawni gweithredol

  1. Gwella mynediad a phrofiad fel y cânt eu mesur drwy gael gwared ar gyfnodau aros 52 wythnos ar y cam cleifion allanol cyntaf, dim cyfnodau aros 156 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth, dim achosion o aros dros bedair awr cyn trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a pherfformiad gwell o ran amseroedd aros 4 awr a 12 awr mewn adrannau achosion brys. 
  2. Ailddechrau'r rhaglen gofal a gynlluniwyd gyda goruchwyliaeth glir gan weithredwyr. 
  3. Llunio cynllun ar gyfer gwella mynediad at ofal orthopedig a lleihau amseroedd aros i gleifion. 
  4. Llunio cynllun ar gyfer data/digidol sy'n darparu data y gellir eu defnyddio'n hawdd i staff rheng flaen gan gynnwys dangosfyrddau ar gyfer diogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion.

Atodiad 1, Cynghorwyr Annibynnol

Mae Alan Brace OBE wedi bod yn gyfarwyddwr cyllid ac yn brif swyddog gweithredol mewn nifer o gyrff iechyd yng Nghymru. Yn 2016 fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr cyllid y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, sef y swydd a oedd ganddo nes iddo ymddeol yn 2021. Gwnaed ef yn athro anrhydeddus yn Ysgol Rheolaeth Prifysgol Abertawe ym mis Medi 2018.

Mae gan Susan Aitkenhead brofiad clinigol, gweithredol, llywodraethu a strategol eang o gyflawni gofal iechyd mewn amrywiaeth o leoliadau a sectorau. Mae wedi llenwi nifer o rolau bwrdd gweithredol ac anweithredol darparu a chomisiynu yn y DU a thramor. Mae Susan hefyd wedi gweithio mewn nifer o wahanol rolau polisi cenedlaethol megis yn yr Adran Iechyd yn Lloegr, gan ddarparu cyngor a chymorth i weinidogion a swyddogion yn adrannau'r llywodraeth ganolog, yn NHS England ac NHS Improvement, lle bu'n Ddirprwy Brif Swyddog Nyrsio, ac ym maes rheoleiddio proffesiynol yng Nghyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth y DU. Yn fwy diweddar, bu Susan yn cadeirio'n annibynnol Panel Adolygu Ansawdd Gwasanaethau Fasgwlaidd amlbroffesiynol a sefydlwyd mewn ymateb i ganfyddiadau Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig a gynhaliwyd yn flaenorol gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd Dr Graham Shortland OBE, Baglor mewn Meddygaeth (BM), Diploma Iechyd Plant (DCH), Cymrawd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (FRCPCH) yn gyfarwyddwr meddygol gweithredol ac yn aelod o'r bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro rhwng mis Mehefin 2010 a mis Ebrill 2019. Bu'n gyfrifol am ddatblygiadau strategol pwysig a gwelliannau i wasanaethau yn ystod y cyfnod hwnnw. Ar ôl iddo ymddeol o swydd y cyfarwyddwr meddygol, mae Graham wedi cynghori NHS Employers fel aelod o'r Uwch-dîm Negodi ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a lwyddodd i negodi contract yr arbennigwyr (SAS) â Chymdeithas Feddygol Prydain. Mae wedi cynnal adolygiad fel arbenigwr allanol, gyda chydweithiwr pediatrig uwch, i hosbis plant er mwyn cynghori ar strategaeth y dyfodol. Mae hefyd wedi cynnal a chadeirio adolygiad i un o fyrddau iechyd prifysgol mawr GIG Cymru o'i broses ar gyfer adolygiadau o farwolaethau yn ystod pandemig COVID-19.

Penodwyd David Jenkins yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) Cymru yn 1983 a bu yn y swydd honno am 21 o flynyddoedd. Bu hefyd yn gwasanaethu ar nifer o fyrddau cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwnnw gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, y Comisiwn Monopolïau a Chydsoddiadau, y Tribiwnlys Apelau Cyflogaeth, Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru a'r Cyngor Anabledd Cenedlaethol. Ymddeolodd David o'i swydd fel Ysgrifennydd Cyffredinol yn 2004 ac fe'i penodwyd gan Lywodraeth Cymru yn Bennaeth Proffesiynau Iechyd Cymru o 2004 i 2006, ac yn gadeirydd yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd yng Nghymru o 2006 i 2009. 

Mae Geraint Evans yn gyn-gyfarwyddwr gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae gan Geraint brofiad helaeth o arwain newidiadau strategol a thrawsnewid y gweithlu ar lefel bwrdd yn y GIG, llywodraeth leol a'r sector preifat.