Neidio i'r prif gynnwys

Cyd-destun

Mae Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (SLCC) yn darparu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer asesu perfformiad gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru. Maent yn nodi cyfres o Hawliau Craidd, sy'n disgrifio'r hyn y gall y cyhoedd ei ddisgwyl gan eu gwasanaeth llyfrgell, ochr yn ochr â Dangosyddion Ansawdd sy’n cael eu defnyddio i fonitro gwaith cyflwyno ac effaith.

Mae dadansoddiad o’r Chweched Fframwaith, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 2017 a 2025, yn tynnu ynghyd ddata blynyddol a thystiolaeth ansoddol a gyflwynwyd gan wasanaethau llyfrgell. Mae hyn yn cynnwys data perfformiad a thystiolaeth naratif sy'n disgrifio’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu cyflwyno a'r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i unigolion a chymunedau.

Mae'r canfyddiadau a gyflwynir yn y crynodeb hwn yn tynnu ar y dystiolaeth honno i nodi tueddiadau allweddol dros gyfnod y Fframwaith ac i roi mewnwelediad i’r ffordd y mae gwasanaethau llyfrgell wedi addasu i amgylchiadau newidiol, gan gynnwys effaith y pandemig COVID-19.

Nodau’r ymchwil hon oedd:

  • nodi'r tueddiadau sydd i’w gweld yn nata'r Chweched Fframwaith a ddarparwyd gan wasanaethau llyfrgell yng Nghymru
  • darparu mewnwelediad i'r newidiadau i wasanaethau llyfrgell yng Nghymru yn ystod cyfnod y Chweched Fframwaith

Hawliau Craidd

Mae 13 Hawl Graidd (HG) SLlCC yn galluogi'r cyhoedd i wybod beth y gallant ei ddisgwyl gan eu gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus. Bodlonwyd y rhan fwyaf o'r Hawliau Craidd hyn yn llawn neu'n rhannol gan y mwyafrif o wasanaethau llyfrgell yng Nghymru drwy gydol y Chweched Fframwaith. Fodd bynnag, roedd 3 Hawl Graidd yn fwy heriol i rai gwasanaethau. Er bod gwasanaethau wedi perfformio'n dda yn erbyn Hawl Graidd 5 (Mannau Diogel a Hygyrch) am ran helaeth o gyfnod y Chweched Fframwaith, roedd darparu "oriau agor addas dan ofal staff" yn dod yn fwyfwy heriol i rai gwasanaethau yn wyneb gostyngiadau staffio. Hawliau Craidd eraill a oedd yn heriol i rai gwasanaethau yn ystod cyfnod y Fframwaith hwn oedd HG 11 (Ymgynghori â Defnyddwyr) a HG 12 (Mynediad at y Strategaeth Llyfrgelloedd).

Effaith coronafirws (COVID-19)

Roedd y pandemig COVID-19 yn ffactor o bwys a effeithiodd ar wasanaethau llyfrgell Cymru yn ystod y Chweched Fframwaith. Yn ystod COVID-19, profodd llyfrgelloedd darfu sylweddol ar eu gwaith arferol o gyflwyno gwasanaethau ond bu iddynt addasu’n gyflym trwy ehangu gwasanaethau digidol, cyflwyno modelau gwasanaeth newydd a chynnal mynediad at adnoddau lle bynnag yr oedd yn bosibl. Ar yr un pryd, chwaraeodd llyfrgelloedd rôl bwysig wrth gefnogi eu cymunedau. Trwy weithgareddau ar-lein, gwasanaethau dosbarthu i’r cartref a mentrau cymorth cymunedol ehangach, helpodd llyfrgelloedd i leihau ynysigrwydd, cynnal mynediad at ddarllen a gwybodaeth a darparu cymorth ymarferol i drigolion. Wrth i wasanaethau symud i'r cyfnod ymadfer, symudodd y sylw tuag at ailadeiladu ymgysylltiad ac integreiddio'r gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig mewn camau i ddatblygu gwasanaethau at y dyfodol. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod rhai gwasanaethau wedi adlamu'n gyflymach nag eraill.

Deilliannau gwasanaethau llyfrgell

Mae tystiolaeth bod gwasanaethau llyfrgell Cymru wedi sicrhau deilliannau cadarnhaol ar unigolion a chymunedau ar draws cyfnod y Chweched Fframwaith. Ymhlith oedolion a ymatebodd i arolygon cwsmeriaid, disgrifiwyd y llyfrgell gan ganolrif o 97% fel lle pleserus, diogel a chynhwysol, tra bod rhwng 70% ac 82% wedi dweud bod defnyddio'r llyfrgell wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau newydd.

Helpodd llyfrgelloedd i leihau rhwystrau i gyfranogiad a chefnogi'r rhai a oedd yn wynebu anfantais. Fel gwasanaethau rhad ac am ddim a hygyrch, fe wnaethant gefnogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth, cael mynediad at wybodaeth a chymryd rhan yn llawnach mewn cymdeithas. Roedd enghreifftiau'n cynnwys cynlluniau benthyca dyfeisiau digidol, mannau cynnes, cymorth i blant a phobl ifanc awtistig, a gwasanaethau dosbarthu i’r cartref i bobl â symudedd cyfyngedig.

Roedd llyfrgelloedd hefyd yn gweithredu fel mannau cymunedol dibynadwy a oedd yn cryfhau cysylltiad cymdeithasol a lles. Trwy weithgareddau fel grwpiau darllen, sesiynau creadigol a chyfarfodydd cymunedol anffurfiol, cefnogodd llyfrgelloedd bobl a oedd yn profi unigrwydd, gorbryder, iechyd meddwl gwael ac ynysigrwydd cymdeithasol. Hefyd, helpodd gwasanaethau ffoaduriaid ac eraill a oedd yn newydd i ardaloedd lleol i feithrin cyfeillgarwch, hyder ac ymdeimlad o berthyn.

Gwasanaethau llyfrgell a ddarparwyd

Mynediad at lyfrau ac adnoddau eraill

Benthycwyd 3.06 o adnoddau llyfrgell bob blwyddyn fesul unigolyn sy'n byw yng Nghymru ar gyfartaledd yn ystod y Chweched Fframwaith. Gan ystyried pob math o fenthyciadau, yn 2023 i 2024, roedd ffigurau benthyciadau 6% yn uwch nag yr oeddent ar ddechrau'r Chweched Fframwaith ac roedd y tueddiad yn symud am i fyny. Fodd bynnag, cafodd y cynnydd hwn ei yrru i raddau helaeth gan nifer fach o wasanaethau lle gwelwyd benthyciadau sylweddol uwch na'r canolrif. Roedd awdurdodau gyda gwariant uwch, mwy o staff ac oriau agor hirach yn tueddu i weld ffigurau benthyca uwch.

Er bod y benthyciadau wedi cynyddu at ei gilydd, gostyngodd benthyciadau llyfrau ar gyfer oedolion 31% dros y cyfnod casglu data ac adroddodd yr holl awdurdodau fod llai o fenthyciadau ar gyfer oedolion yn 2023 i 2024 nag yn 2017 i 2018. Benthycwyd 1.85 o lyfrau oedolion ar gyfartaledd bob blwyddyn fesul oedolyn sy'n byw yng Nghymru. Ymhlith oedolion a ymatebodd i arolygon cwsmeriaid, dywedodd canolrif o 91% fod y dewis o lyfrau yn y llyfrgell y maen nhw'n ei defnyddio yn dda neu’n dda iawn, a dywedodd canolrif o rhwng 63% a 70% eu bod wedi dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ym maes iechyd a lles yn y llyfrgell. Lle nad oedd gan wasanaethau llyfrgell ddeunyddiau ar gael ar unwaith, canran ganolrif y ceisiadau a oedd ar gael o fewn 15 diwrnod oedd 81% neu’n uwch.

Benthycwyd 4.50 o lyfrau fesul plentyn yng Nghymru bob blwyddyn ar gyfartaledd. Yn genedlaethol, roedd benthyciadau llyfrau ar gyfer plant 17% yn uwch yn 2023 i 2024 nag yr oeddent ar ddechrau cyfnod y Fframwaith. Fodd bynnag, cafodd llawer o'r cynnydd hwn ei yrru gan nifer fach o awdurdodau gyda ffigurau arbennig o uchel am fenthyciadau ar gyfer plant. Roedd awdurdodau gyda gwariant uwch ar adnoddau plant yn tueddu i adrodd bod benthyciadau uwch ar gyfer plant.

Patrwm gwahanol a welwyd ym maes e-fenthyciadau o gymharu â mathau eraill o fenthyciadau adnoddau yn ystod y Chweched Fframwaith. Yn genedlaethol, cynyddodd e-fenthyciadau fesul unigolyn fwy na chwe gwaith drosodd (542%) yn ystod y Fframwaith ac roeddent y tueddiad am i fyny ar ddiwedd y cyfnod. Benthycwyd 0.75 o e-adnoddau ar gyfartaledd fesul unigolyn sy'n byw yng Nghymru bob blwyddyn.

Er bod pwysigrwydd e-fenthyciadau wedi cynyddu, gostyngodd ffigurau benthyciadau clyweledol yn ystod y Chweched Fframwaith. Roedd gostyngiad o 59% yn nifer y benthyciadau clyweledol yn genedlaethol, wrth i lawer o gwsmeriaid llyfrgell roi'r gorau i fformatau clyweledol hŷn o blaid cyfryngau digidol. Roedd tystiolaeth bod cydberthynas rhwng e-fenthyciadau a gwariant ar e-adnoddau, er nad oedd hyn mor gryf ag yr oedd ar gyfer mathau eraill o adnoddau.

Rhoddwyd benthyg 0.73 o adnoddau Cymraeg bob blwyddyn fesul siaradwr Cymraeg yn y boblogaeth ar gyfartaledd. Cynyddodd cyfanswm nifer y benthyciadau Cymraeg 45% dros gyfnod y Fframwaith. Roedd tystiolaeth bod cydberthynas rhwng benthyciadau Cymraeg a gwariant ar ddeunyddiau yn y Gymraeg, ond roedd hyn yn llai cryf nag yr oedd ar gyfer mathau eraill o adnoddau.

Digwyddiadau a gweithgareddau

Yn ystod cyfnod y Chweched Fframwaith, roedd presenoldeb blynyddol mewn digwyddiadau a gweithgareddau llyfrgell yn cyfateb i gyfartaledd o 1 o bob 4 o'r boblogaeth. Ar ben hynny, mynychodd 1 o bob 20 o boblogaeth Cymru sesiynau hyfforddi ffurfiol a drefnwyd neu a gynhaliwyd gan wasanaeth llyfrgell bob blwyddyn.

Sylfeini darpariaeth llyfrgell

Wrth edrych ar allbynnau a deilliannau gwasanaethau llyfrgell, mae'r darlun yn un cadarnhaol i raddau helaeth wrth i lyfrgelloedd barhau i wasanaethu cwsmeriaid ac addasu i newid ac anghenion cymunedau. Er bod adferiad o'r pandemig Covid wedi amrywio ledled Cymru, mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn parhau i ddenu cefnogaeth dda ac yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o bobl. Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad hwn yn dangos bod disgwyl i lyfrgelloedd ddarparu gwasanaethau gyda llai o staff, canghennau ac oriau agor, a chyllidebau llai. Wrth i awdurdodau llyfrgell frwydro fwyfwy i fodloni Hawliau Craidd darpariaeth statudol, mae ansawdd y gwasanaethau llyfrgell sydd ar gael i'r cyhoedd yn debygol o ddioddef.

Staff

Mae awdurdodau â chyfanswm lefelau staffio uwch yn tueddu i weld ffigurau benthyciadau uwch a phresenoldeb uwch mewn digwyddiadau. Gostyngodd cyfansymiau staff llyfrgell flwyddyn ar ôl blwyddyn trwy gydol y Chweched Fframwaith. Yn genedlaethol, roedd 116.2 yn llai o swyddi ar ddiwedd y Fframwaith o gymharu â 2017 i 2018, sef gostyngiad o 12.9%. Mae tua 1 o bob 6 aelod o staff mewn llyfrgelloedd yng Nghymru yn llyfrgellwyr sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol. Gostyngodd niferoedd y staff cymwysedig ledled Cymru hefyd yn ystod y Chweched Fframwaith. Yn genedlaethol, roedd 35.7 yn llai o swyddi cymwysedig ar ddiwedd y Fframwaith nag yr oedd ar y dechrau, sef gostyngiad o 22.5%. Roedd oriau gwirfoddolwyr yn cyfrif am oddeutu 3% o'r oriau a weithiwyd yn genedlaethol cyn y pandemig. Erbyn diwedd y Chweched Fframwaith, roedd oriau gwirfoddolwyr yn cyfrif am 5.3% o'r oriau a weithiwyd mewn llyfrgelloedd yn genedlaethol.

Mannau gwasanaeth ac oriau agor

Roedd llyfrgelloedd Cymru ar agor am 394,974 awr y flwyddyn ar gyfartaledd yn ystod cyfnod y Fframwaith. Roedd awdurdodau ag oriau agor hirach yn tueddu i weld ffigurau benthyciadau uwch. Fodd bynnag, gwelwyd gostyngiad o oddeutu 10% mewn oriau agor yn ystod y Chweched Fframwaith. Ar ben hynny, roedd yr oriau agor fesul aelod o staff llyfrgell 7% yn uwch yn genedlaethol yn 2024 i 2025 nag yr oeddent yn 2017 i 2018, sy'n golygu bod llyfrgelloedd yn gweithredu gyda llai o aelodau o staff fesul awr agor erbyn diwedd y Fframwaith. Er bod oriau heb staff wedi cynyddu yn ystod cyfnod y Fframwaith, roeddent yn dal i gyfrif am gyfran gymharol fach o gyfanswm yr oriau agor.

Ledled Cymru, roedd 8 yn llai o fannau gwasanaeth sefydlog ac 20 yn llai o unedau symudol yn 2024 i 2025 o gymharu â 2018 i 2019. Mae hyn yn cynrychioli colled o fwy na dwy ran o dair o unedau symudol a thua 3.7% o bwyntiau gwasanaeth sefydlog.

Adnoddau ariannol

Er bod cyfanswm y gwariant refeniw wedi cynyddu ychydig ar draws cyfnod y fframwaith, ni wnaeth y cynnydd hwn gadw i fyny â chwyddiant. O’i addasu ar gyfer chwyddiant, mae’r gwariant cyffredinol ar wasanaethau llyfrgell tua 13.5% yn is mewn termau real. Dim ond nifer fach o awdurdodau a brofodd gynnydd mewn gwariant refeniw mewn termau real. Y gwariant refeniw cyfartalog fesul unigolyn a oedd yn byw yng Nghymru yn ystod y Chweched Fframwaith oedd £13.08.

Mae awdurdodau â gwariant uwch yn tueddu i weld ffigurau benthyciadau uwch. Ledled y wlad, gostyngodd y gwariant ar adnoddau gwybodaeth o £1.61 fesul unigolyn a oedd yn byw yng Nghymru yn 2017 i 2018 i £1.28 fesul unigolyn yn 2024 i 2025. Ar ddiwedd y Fframwaith, roedd gwariant ar stoc yn genedlaethol oddeutu 80% o ffigur 2017 i 2018, a llai o ystyried chwyddiant. Ni wnaeth gwariant unrhyw wasanaethau ar stoc gadw i fyny â chwyddiant. Arhosodd y gwariant canrannol ar adnoddau ar gyfer plant yn weddol sefydlog rhwng 17% a 19% o gyfanswm y gyllideb deunyddiau. Fodd bynnag, gostyngodd y gwariant am bob pen o’r boblogaeth o oddeutu £1.69 fesul plentyn yn 2017 i 2018 i oddeutu £1.43 fesul plentyn yn 2023 i 2024. Mewn cyferbyniad â’r gwariant cyffredinol ar stoc, roedd y gwariant ar adnoddau Cymraeg ychydig yn uwch ar ddiwedd y Chweched Fframwaith o gymharu â 2017 i 2018. Cynyddodd 4%, a 12% o ystyried nifer y siaradwyr Cymraeg. Fodd bynnag, yn y mwyafrif o wasanaethau, nid wnaeth y gwariant ar ddeunyddiau yn y Gymraeg gadw i fyny â chwyddiant.

Casgliad

At ei gilydd, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru wedi parhau i fod yn wydn drwy gydol cyfnod y Chweched Fframwaith a’u bod wedi parhau i ddarparu ystod eang o wasanaethau i gefnogi dysgu, lles, cynhwysiant a chyfranogiad diwylliannol ar draws Cymru. Gwnaeth llyfrgelloedd addasu i heriau sylweddol, gan gynnwys effaith y pandemig Covid-19, tra'n parhau i gyfrannu at flaenoriaethau polisi ehangach Llywodraeth Cymru a lles cymunedol. Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad hefyd yn dangos bod gwasanaethau yn gweithredu o fewn adnoddau cynyddol gyfyngedig. Mae gostyngiadau mewn lefelau staffio, gostyngiadau mewn oriau agor a mannau gwasanaeth, a phwysau ariannol parhaus yn rhoi straen cynyddol ar ddarpariaeth llyfrgell ledled Cymru. Wrth i awdurdodau llyfrgell frwydro fwyfwy i fodloni Hawliau Craidd darpariaeth statudol, mae ansawdd y gwasanaethau llyfrgell sydd ar gael i'r cyhoedd yn debygol o ddioddef. Felly, mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod yna sector yma sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr ac yn cael effaith o hyd, ond sy'n wynebu heriau cynyddol o ran cynnal ehangder ac ansawdd y ddarpariaeth a ddisgwylir o fewn fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

Manylion cyswllt

Awduron: Pete Dalton a Sarah McNicol

Safbwyntiau'r ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Is-adran Diwylliant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: diwylliant@llyw.cymru 

Rhif ymchwil cymdeithasol: 89/2026
ISBN Digidol: 978-1-80853-099-9

GSR logo