Neidio i'r prif gynnwy

Wrth lansio'i adroddiad diweddaraf heddiw, "Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050", mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) wedi amlinellu argymhellion allweddol i helpu Llywodraeth Cymru i wireddu Cymru sero net erbyn 2050.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050

Yr adroddiad newydd yw'r darn mawr cyntaf o waith y mae'r Comisiwn wedi ymgymryd ag ef ers iddo gael ei adnewyddu y llynedd. Mae wedi bod yn ymchwilio i sut y gall Llywodraeth Cymru fanteisio ar werth ynni adnewyddadwy i Gymru, yn edrych ar y cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau, ac ar sut orau y gall Llywodraeth Cymru ennyn diddordeb y cyhoedd yn y mater hwn. 

Yn yr adroddiad diweddaraf hwn, mae CSCC yn cyflwyno un ar ddeg o argymhellion i Weinidogion Cymru ar sut y gellir cyflwyno newidiadau er mwyn gwella'r ffordd yr eir ati i ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n diwallu anghenion ein cymunedau orau. Mae'r argymhellion hynny'n ymdrin ag:

  • arweinyddiaeth a gweithredu mewn ffordd strategol,
  • grid ar gyfer y dyfodol,
  • yr amgylchedd adeiledig,
  • y system gynllunio,
  • y manteision i gymunedau a
  • pherchnogaeth gymunedol.

Mae Ystad y Goron a'r Comisiwn o'r farn y gallai'r camau a argymhellir, gyda'i gilydd, arwain at newid o bwys a fydd yn galluogi Cymru i gyrraedd ei thargedau carbon. 

Wrth siarad am bwysigrwydd yr argymhellion, dywedodd Dr Jennifer Baxter, Dirprwy Gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: 

"Erbyn hyn, rydyn ni'n wynebu cyfnod yn ein hanes lle bydd methu â gwneud ymdrech ar y cyd i newid sut rydyn ni'n mynd ati i ddarparu seilwaith newydd, yn peryglu'n huchelgais o ran sero net a llesiant cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Aleena Khan, Comisiynydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) a Chadeirydd Grŵp Cynghori Prosiectau Ynni Adnewyddadwy CSCC:

"A minnau'n berson ifanc, dw i'n deall pa mor bwysig yw hi bod Cymru yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Dw i'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pob un o'n cynigion yn ofalus, ac yn edrych hefyd ar yr effaith y byddan nhw'n ei chael o ran ein helpu i gyrraedd ein targedau ynni a charbon.

Mae gweithio gyda nifer o sefydliadau i baratoi'r adroddiad hwn wedi bod yn brofiad hynod bositif. Mae wedi dangos y gallwn ni, drwy weithio fel tîm gyda'n gilydd er lles Cymru, fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau."

Dywedodd Nick Tune, Comisiynydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) a Chomisiynydd Arweiniol CSCC ar Waith Ynni Adnewyddadwy:

"Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn mynd ati'n ddigon cyflym yma yng Nghymru i ddefnyddio ynni adnewyddadwy er mwyn inni fedru mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a diwallu anghenion pobl Cymru. 

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu camau hanfodol y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn bwrw'r targed, h.y., diwallu 100% o'i galw blynyddol am drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, gan sicrhau canlyniadau go iawn i bobl Cymru."

Disgwylir i Llywodraeth Cymru ymateb i argymhellion y Comisiwn maes o law.