Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rydym yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, a grëwyd er mwyn cydweithio i reoli trethi datganoledig Cymru. Mae'r trethi hyn wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ein cymunedau yng Nghymru.

Ein pwrpas yw dylunio a darparu gwasanaethau refeniw ac arwain ar wneud gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru.

Ein nod yw cyflawni hyn drwy: 

  • ei gwneud yn hawdd gwneud y peth iawn
  • bod yn deg ac yn gyson yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau
  • bod yn sefydliad cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y dyfodol

Mae'r adroddiad partneriaeth gymdeithasol hwn wedi'i baratoi gan ein Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu a'i gytuno gan ein hundebau llafur cydnabyddedig.  

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus

Effaith arfaethedig Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus 2023 (Deddf PGChC) yw gwella lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pobl yng Nghymru drwy gryfhau rôl partneriaeth gymdeithasol o fewn y broses o wneud penderfyniadau strategol. 

Mae cynnwys cyflogwyr a gweithwyr mewn trafodaethau allweddol ynglŷn â gwelliannau i les yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad a'r arbenigedd unigryw sydd gan y rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu gwasanaethau cyhoeddus wrth iddynt fynd i'r afael â heriau a rennir rhyngddynt a chwilio am ddatrysiadau arloesol.  

Mae Deddf PGChC yn nodi: er mwyn ceisio consensws neu gyfaddawd rhaid i gorff cyhoeddus gynnwys ei undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr eraill ei staff yn y broses o bennu amcanion neu wneud penderfyniadau, drwy (yn benodol): 

  1. ymgynghori â hwy yng nghyfnod ffurfiannol y broses, a  
  2. eu cynnwys fel arall drwy gydol y broses drwy: 
  • darparu gwybodaeth ddigonol i’w galluogi i ystyried yn briodol yr hyn sy’n cael ei gynnig, a 
  • darparu amser digonol i’w galluogi i ystyried yn ddigonol yr hyn sy’n cael ei gynnig ac ymateb.

Darllenwch y Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.

Partneriaeth gymdeithasol wrth osod amcanion

Oherwydd ein cysylltiadau â Llywodraeth Cymru, rydym yn cydnabod PCS, FDA a Prospect.

Amcanion strategol ein cynllun corfforaethol yw ein hamcanion llesiant hefyd. Bydd yr amcanion strategol hyn, o'u cyflawni trwy Ein Dull ac wedi'u hategu gan Ein Siarter, yn cyfrannu at y 7 nod llesiant. Mae integreiddio ein hamcanion strategol gyda'n hamcanion llesiant yn golygu bod llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhan annatod o'n gwaith.

Mae hyn yn golygu, er bod gan ein sefydliad agenda newid enfawr dros y blynyddoedd nesaf, ein bod yn credu bod ein sylfeini’n gadarn a’n bod am adeiladu ar y rheini yn hytrach na'u newid. Mae hefyd yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar gyflawni un set o amcanion sy'n diwallu'r anghenion deuol dros gyfnod y cynllun corfforaethol; gan sicrhau bod ein nodau llesiant yn rhan sylfaenol o bopeth a wneir gennym.

Wrth ddatblygu ein hamcanion, fe wnaethom ymgysylltu â'r tri undeb llafur cydnabyddedig trwy ddarparu drafft o'r amcanion i ddechrau. Fe wnaethom wahodd adborth a rhoi sylw i'r holl awgrymiadau a dderbyniwyd drwy'r dull partneriaeth hwn. Arweiniodd hyn at gryfhau ein hamcanion cydraddoldeb (sydd hefyd wedi'u cynnwys yn ein cynllun corfforaethol) a hefyd ein gwneud yn fwy amlwg yn ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth yn gyffredinol.

Ymgysylltu â gweithwyr wrth osod amcanion

Fe wnaethom ymgysylltu â'n pobl yn llawn yn y broses hefyd, gan annog adborth ar bob cam. Fe wnaethom ddatblygu sesiwn benodol yn un o'n diwrnodau cwrdd i ffwrdd staff er mwyn siarad â nhw am y cynllun corfforaethol ac i gael adborth cychwynnol ar ei arddull a’i gynnwys.

Fe wnaethom ddatblygu'r cynnwys yn ailadroddol, gan sicrhau bod ein pobl yn fodlon ei fod yn adlewyrchiad effeithiol o ACC a'u gwaith. Fe wnaethom ymgysylltu â thimau unigol a sicrhau adborth ar y mesurau a oedd yn effeithio arnynt. Ar ôl trafodaeth bellach gyda'n pobl, gwnaethom gwblhau'r adroddiad. 

Canlyniad

Arweiniodd yr ymgysylltiad hwn at lawer o addasiadau, a gwneud y geiriad yn fwy eglur, gan sicrhau dealltwriaeth gliriach o'n gweithredoedd. Fe wnaeth y trafodaethau hyn ein galluogi i gyrraedd consensws trwy broses gadarnhaol a chydweithredol. 

Mae pob partner undeb llafur wedi cymeradwyo a dod i gonsensws ar yr amcanion. Mae'r dull hwn hefyd yn dangos sut y gwnaethom gydweithio â chydweithwyr a cheisio consensws trwy gydol y broses. Mae'r adroddiad hwn hefyd wedi'i gymeradwyo gan yr undebau llafur.

Casgliad

Yn ACC rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae partneriaeth gymdeithasol yn ei chwarae wrth gyflawni effaith ystyrlon, hirdymor. Rydym yn credu y gellir cyflawni mwy trwy gydweithio â phartneriaid undebau llafur mewn ysbryd o gydweithredu a chydweithio.

I ACC, bydd hyn yn sail i'n gallu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'r cyhoedd yng Nghymru a chanlyniadau gwell. Rydym yn gweld partneriaeth gymdeithasol fel galluogwr pwerus newid cadarnhaol, cynaliadwy.