Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng mis Medi 2023 ac Awst 2024 ac yn ystod y cyfnod hwnnw cyrchwyd y Cynnig gan 21,283 o blant.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Seiliwyd yr adroddiad cyfredol ar y ffynonellau data canlynol:
- gwybodaeth fonitro a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru oddi wrth rieni a darparwyr
- arolygon rhieni a darparwyr a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf ac Awst 2023 a 2024
Prif ganfyddiadau
- Defnyddiodd cyfanswm o 21,283 o blant oriau gofal plant a ariannwyd drwy'r Cynnig.
- Yn seiliedig ar y meini prawf cymhwysedd cyfredol, rydym yn amcangyfrif bod 58% o blant cymwys wedi manteisio ar y Cynnig yn 2023-24.
- Mae darparwyr gofal plant yn cyflwyno hawliadau am daliad i Lywodraeth Cymru. Roedd tua 28% o'r hawliadau naill ai gan wasanaethau sy'n defnyddio'r Gymraeg (17.6%) neu'r ddwy iaith (10.2%).
- Roedd enillion blynyddol gros canolrifol rhieni a fanteisiodd ar y Cynnig (£30,800) yn is nag enillion blynyddol gros canolrifol oedolion sy'n gweithio'n llawn amser yng Nghymru (£34,303).
- Dywedodd mwyafrif y rhieni a ymatebodd fod y cais yn cymryd llawer o amser, a nododd lleiafrif sylweddol bod darparu'r ddogfennaeth angenrheidiol yn anodd.
- Roedd mwyafrif helaeth y rhieni (89%) eisoes yn defnyddio gofal plant ffurfiol cyn manteisio ar y Cynnig. Roedd dros 40% yn defnyddio mwy na 21 awr yr wythnos.
- Mae ymatebion arolygon y rhieni yn awgrymu mai effaith fwyaf y Cynnig yw lleihau baich ariannol gofal plant, er bod mwyafrif mawr o'r rhieni a holwyd hefyd yn nodi effeithiau cadarnhaol ar eu gallu i weithio ac ar eu lefelau lles.
Adroddiadau
Adroddiad y Cynnig Gofal Plant dros Gymru: Medi 2023 ac Awst 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Dr Jack Watkins
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
