Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad ar sut mae'r Gyfarwyddiaeth yn perfformio yn erbyn y cyfrifoldebau a'r ymrwymiadau sydd wedi’u nodi yn Natganiad Polisi Caffael Cymru.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Adroddiad Ymgysylltu â Rhanddeiliaid y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Mae’r Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol wedi comisiynu Jane Lynch o'r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus i gynnal proses annibynnol i ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn dod i ddeall sut mae'r Gyfarwyddiaeth yn perfformio yn erbyn y cyfrifoldebau a'r ymrwymiadau sydd wedi’u nodi yn Natganiad Polisi Caffael Cymru.

Mae’r adroddiad yn benllanw’r gwaith canlynol:

  • Arolwg meintiol, a ddenodd 61 o ymatebion gan randdeiliaid allanol y Gyfarwyddiaeth, ac a roddodd drosolwg o themâu adborth ar draws sylfaen rhanddeiliaid y Gyfarwyddiaeth.
  • Cyfweliadau ansoddol manwl a dienw gyda 27 o reolwyr canol ac uwch o Sector Cyhoeddus Cymru, a roddodd fanylion, eglurhad a gwell dealltwriaeth o'r adborth.
  • Dadansoddiad o'r arolwg a'r data cyfweliad, ynghyd ag argymhellion ar gyfer gwella.

Bydd y Gyfarwyddiaeth yn ymateb i'r adroddiad maes o law ac yn datblygu cynllun gweithredu pan fo hynny’n briodol er mwyn mynd i'r afael ag argymhellion. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei roi i randdeiliaid bryd hynny.