Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Search our decision reports using Ctrl + F.

Help i ofalwyr

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i sefydliadau trydydd sector, i gefnogi cyflawni’r pedwar blaenoriaeth cenedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl am 2022 i 2023

Cartrefi mewn Parciau

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y dylid parhau i oedi’r gwaith o gasglu rhagor o dystiolaeth i gefnogi ystyried uchafswm y comisiwn sy’n daladwy ar werthu cartrefi mewn parciau yng Nghymru.

Y Grant Atal Digartrefedd

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddyraniadau dangosol ar gyfer y Grant Atal Digartrefedd am 2022 i 2023.

Gwerthu mawn

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i’ ymgynghoriad ar y cyd ar gyfer Cymru a Lloegr ar ‘Rhoi terfyn ar werthu mawn ar gyfer garddwriaeth yng Nghymru a Lloegr’ a lansiwyd ar 18 Rhagfyr.

Y Grant Diogelwch ar y Ffyrdd

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo’r broses ar gyfer gwneud cais am y Grant Diogelwch ar y Ffyrdd am y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Gymorth Tai

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cynnal ymarfer penodi ar gyfer Cadeirydd newydd i’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Gymorth Tai.

Cymeradwyo benthyciad

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i roi cymeradwyaeth i fenthyciad i Gyngor Cymuned y Mwmbwls am £1,205,000.

Byw’n annibynnol

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad o £10 miliwn ar gyfer CLlLC i’w ddosbarthu i’r 22 o awdurdodau lleol ar gyfer prynu cyfarpar gofal cymdeithasol i gefnogi annibyniaeth yn y flwyddyn ariannol hon.

Byrddau Iechyd

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y dyraniadau ar gyfer byrddau iechyd yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Gwarchod plant

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynnal adolygiad annibynnol o warchod plant yng Nghymru.

Grant Cymorth Tai

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi £155,008 ychwanegol o’r Grant Cymorth Tai i Gyngor Caerdydd.

Seilwaith digidol

30 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ariannu gwaith dylunio i gefnogi defnyddio ffeibr ychwanegol a’r seilwaith cysylltiedig ar Linellau Craidd y Cymoedd.

Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid

30 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddechrau ymarfer i recriwtio Cadeirydd ar gyfer Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd.

Ysgolion yr 21ain ganrif

30 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r achosion busnes ar gyfer: prosiect glannau’r harbwr (Casnewydd); Dyffryn Aeron (Ceredigion); Llyn y Forwyn (RCT); Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe (Abertawe); Ysgol Arbennig 3-19 y Fenni; Ysgol Bryngwyn (Caerfyrddin); canol tref Aberhonddu; Ysgol Hawthorn (RCT); Ysgol Gyfun Bryncelynnog (RCT); Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon (Caerffili); ac Ysgol Basaleg (Casnewydd).

Ysgolion yr 21ain ganrif

30 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar amrywiadau i’r prosiectau canlynol: Coleg Dewi Sant; Casnewydd; prosiect Dolgellau Pwllheli; prosiect cyfleusterau chwaraeon Llangefni; prosiect Canolfan Beirianneg y  Rhyl; Ysgol Cyfrwng Cymraeg Blaenau Gwent; ac ysgol wirfoddol a gynorthwyir St Albans.

Ysgolion yr 21ain ganrif

30 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cynyddu costau meincnod yn unig ar gyfer gwaith adeiladu ar ysgolion a cholegau, gan gynnwys is-strwythurau, uwchstrwythurau, gwaith allanol, ac ar gyfer gosodiadau a ffitiadau, offer a TG.

Grant Addasiadau Ffisegol

30 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i weithredu fformiwla dyrannu ar sail eiddo ar gyfer y cynllun Grant Addasiadau Ffisegol o fis Ebrill 2022 ac i gynnwys Valleys to Coast Housing Ltd yn y cynllun.

Adoption UK a Chymdeithas Plant Dewi Sant

30 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Adoption UK a Chymdeithas Plant Dewi Sant ar gyfer 2022 i 2023.

Datgofrestru tir comin

30 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cymeradwyo'r cais i ddatgofrestru rhan o Dir Comin Cas-fuwch a darparu tir yn ei le o dan adran 16 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.

Rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch

30 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu cymorth ardrethi annomestig ar gyfer 2022 i 2023 i drethdalwyr yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd

30 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cymeradwyo Asesiad Effaith Naratif, i'w gyhoeddi ochr yn ochr â'r ddogfen ymgynghori ddiweddaraf a'r drafft ymgynghori o’r Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd. 

Rhaglenni Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar

30 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniadau cyllideb dangosol ar gyfer gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar ar gyfer 2022 i 2025.

Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol

30 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymestyn y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol o un flwyddyn rhwng 2022 a 2023.

Llwyfan digidol Cynnig Gofal Plant Cymru

30 Rhagfyr 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ohirio cyflwyno platfform digidol y Cynnig Gofal Plant Cenedlaethol o un tymor ysgol, i ddechrau gweithredu ym mis Ionawr 2023.

Ffioedd cyfreithiol

30 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ffioedd cyfreithiol adennill EnviroWales / Rheiddiaduron Quinn.

Cynllun Cyflenwi Cyflwr Iechyd Mawr

30 Rhagfyr 2021 

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Cynllun Cyflawni Cyflyrau Iechyd dfrifol yn 2022 i 2023.

Rhaglen Arloesi ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

30 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cyfnod 2022 i 2023 i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen Arloesi ar gyfer Iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Y Warant i Bobl Ifanc – gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

20 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllideb y Warant i Bobl Ifanc ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

Darllen yn Dda ar gyfer llyfrau Plant

20 Rhagfyr 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid i greu fersiynau eSain o'r 21 llyfr Cymraeg ar restr llyfrau Darllen yn Dda i Blant ac i ddosbarthu 2 gopi am ddim o bob teitl i bob un o'r 22 awdurdod llyfrgelloedd yng Nghymru.

Canolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang

20 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer gwasanaethau cynghori economaidd a chyfreithiol mewn perthynas â phrosiect Canolfan Ragoriaeth Rheilffyrdd Byd-eang.

Cytundeb benthyciad

20 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ymestyn cytundeb benthyciad.

Prosiectau tybaco ac alcohol

20 Rhagfyr 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i gefnogi prosiectau tybaco ac alcohol ym mlwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Ffïoedd claddedigaethau

20 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo copiau cymen yr Eglwys yng Nghymru i ddiwygio, o 1 Ionawr 2022, y ffïoedd ar gyfer claddedigaethau, a'r ffioedd ar gyfer codi henebion a cherrig beddau.

Cynllun Mentrau Hyfforddi Athrawon

20 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog addysg a'r Gymraeg wedi cytuno i ddiwygio'r categorïau blaenoriaeth sy'n ymwneud â dyfarnu'r cynllun Cymhellion Hyfforddi Athrawon TAR AB ym mlwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Cyllid Grant y DU ar gyfer ASH Cymru ac Alcohol Change Cymru

20 Rhagfyr 2021

Cytunodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles i ariannu ASH Cymru ac Alcohol Change Cymru am dair blwyddyn ariannol yn dechrau yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Biomass Y Barri

20 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i adfer dwy apêl gynllunio gan Biomass UK No.2 Ltd yn ymwneud â Thir yn Barry Biomass,  Woodham Road, Y Barri, Bro Morgannwg ar gyfer ei phenderfyniad ei hun.

Cyllid grant yr Undeb Credyd

20 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid grant undebau credyd ar gyfer 2022 i 2023 i barhau â 14 o brosiectau undebau credyd.

Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy

20 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno i ryddhau taliadau Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy eleni a chytunodd fod swyddogion yn gweithio gyda CLlLC ac awdurdodau lleol ar yr opsiynau i ddiwygio'r grant o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

Rhaglen System yr Adran Achosion Brys 

20 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Rhaglen System Adran Achosion Brys Cymru Gyfan.

COVID profi

17 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyngor mewn perthynas â theithio rhyngwladol profi diwrnod 8 ar gyfer teithwyr sy’n cyrraedd sydd wedi cael eu brechu’n llawn.

Cronfa Gofal Integredig

17 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid cyfalaf gan y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiect yn ardal Gorllewin Morgannwg, ac wedi cymeradwyo newidiadau i’r dyraniadau cyllid cyfalaf rhanbarthol dangosol gan y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer 2021 i 2022.

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

17 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i beidio ag ymyrryd yn dilyn Mecanwaith Rheoli Costau Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn cael ei sbarduno ym mis Rhagfyr 2021.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

17 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Ms Catherine Poynton yn Aelod Annibynnol (Undeb Llafur) o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys o 11 Tachwedd 2021 tan 10 Tachwedd 2025.

Penodiad i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Velindre

17 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Mrs Vicky Morris yn Aelod Annibynnol (Ansawdd a Diogelwch) o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o 12 Tachwedd 2021 tan 11 Tachwedd 2024.

Ailbenodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

17 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Anna Lewis yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, am bedair blynedd rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2026.

Dyfeisiau Prawf Llif Unffordd

17 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i optio i mewn i’r broses ar gyfer caffael Dyfeisiau Prawf Llif Unffordd ar gyfer Ionawr i Mawrth 2022.

Cyllid ar gyfer rhaglenni ôl-16

17 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Y rhaglen diwygio contractau gofal sylfaenol

15 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer parhau â'r rhaglen diwygio contractau gofal sylfaenol, gan gynnwys yr adnoddau cyfreithiol.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

15 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Cyllid grant seilwaith ar gyfer cymorth oddi wrth y Trydydd Sector i wirfoddoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

15 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid grant seilwaith ar gyfer cymorth oddi wrth y Trydydd Sector i wirfoddoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Estyn contract y dyfarnwr annibynnol dros dro presennol

15 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i estyn contract y dyfarnwr annibynnol dros dro presennol.

Diwylliant a Chwaraeon Lleol

15 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wedi cytuno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wariant gwirioneddol a gwariant a ymrwymwyd hyd yma ar gyfer Cymorth i Ddiwylliant a Chwaraeon Lleol.

Cynnwys Ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ym 5ed Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored y DU 2022 i 2024

15 Rhagfyr 2021

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar yr  ymrwymiadau Llywodraeth Agored gan Lywodraeth Cymru sydd i’w cynnwys ym 5ed Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored y DU ac mae wedi cytuno i’w cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adolygiad mewnol o'r Grant Atal Digartrefedd gan gynnwys ei alinio â'r Grant Cymorth Tai

15 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno ar amrywiol benderfyniadau sy'n ymwneud â'r Grant Atal Digartrefedd, gan gynnwys trosglwyddo cyllid ar gyfer prosiectau 'prif raglen' i'r Grant Cymorth Tai o 2022-23, wedi'i neilltuo am gyfnod trosiannol o hyd at ddwy flynedd; ac i ohirio'r penderfyniad i drosglwyddo cyllid sy'n ymwneud â Chynlluniau Gwarantu Bondiau, prosiectau Arloesi Ieuenctid a Thai yn Gyntaf i'r Grant Cymorth Tai tan 2023-24, hyd nes y ceir rhagor o waith archwilio a gwerthuso.

Canolfan Ragoriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

15 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno ar gyllid i gefnogi Canolfan Ragoriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer Lles a Chymorth Staff.

Cronfa Datblygu Twristiaeth Mewnol Rhyngwladol

15 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i gadw ac adeiladu ar y cyswllt cadwyn gyflenwi hanfodol â marchnadoedd rhyngwladol a ddarperir gan is-sector penodol o'r diwydiant twristiaeth, sy'n cynhyrchu busnes ar draws yr economi ymwelwyr ehangach.

Pennu Cyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru 2022 i 2023

15 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i gynnal y lefel bresennol o gyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru ar gyfer 2022 i 2023 a lefel bresennol costau adennill Ardoll Cig Coch Cymru mewn lladd-dai/marchnadoedd arwerthiannau ar gyfer 2022 i 2023.

Dyraniad Ychwanegol ar gyfer yr Economi Ymwelwyr

15 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cynnig i roi hwb i'r Economi Ymwelwyr i ddefnyddio £4.920m yn 2021 i 2022.

Ymestyn rhaglen cynhwysiant digidol a iechyd a gaffaelwyd

15 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn y rhaglen cynhwysiant digidol a iechyd a gaffaelwyd, Cymunedau Digidol Cymru: hyder digidol, iechyd a lles tan 30 Mehefin 2025.

Rhwydwaith Cymru gyfan ar gyfer llawdriniaeth â chymorth robotig

13 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhwydwaith Cymru gyfan ar gyfer llawdriniaeth â chymorth robotig. 

Trefniadau profi i ganfod yr amrywiolyn Omicron

13 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar drefniadau profi ar gyfer canfod yr amrywiolyn Omicron.

Cyllid ar gyfer gwaith cwmpasu mewn perthynas â’r newid yn y terfyn cyflymder a ragosodir ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru

13 Rhagfyr 2021

Mae’r Prif Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi grant cychwynnol o £470,879 i awdurdodau lleol ddechrau ar  y gwaith cwmpasu ar gyfer y newid yn y terfyn cyflymder a ragosodir ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru. 

Hunanynysu domestig oherwydd Omicron

13 Rhagfyr 2021

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i gyflwyno gofyniad cyfreithiol sy’n golygu y bydd yn rhaid i bob unigolyn sydd wedi bod mewn cyswllt ag achos o Omicrom, a amheuir neu sydd wedi ei gadarnhau, hunanynysu am hyd at ddeg diwrnod (o ddyddiad y prawf neu’r symptomau’n ymddangos), waeth beth yw’r oed neu’r statws brechu.

Datganiad Ysgrifenedig ar ganlyniadau’r ymchwiliad manwl i ynni adnewyddadwy

13 Rhagfyr 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig ar ganlyniadau’r ymchwiliad manwl i ynni adnewyddadwy, ochr yn ochr â rhestr o argymhellion gan y grŵp hwnnw. 

Model ariannu newydd i’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

13 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar fodel ariannu newydd i’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fydd ar waith o fis Ebrill 2022.

Ailwampio Adeilad Diwydiannol

13 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar wariant ychwanegol ar gyfer ailwampio adeilad diwydiannol ar Ystad Ddiwydiannol Rassau, Blaenau Gwent.

Achos Busnes Amlinellol Cledrau Croesi Caerdydd

9 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog wedi cytuno i gyd-ariannu'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer cyswllt Cledrau Croesi Caerdydd rhwng Gorsaf Caerdydd Canolog a Heol Casnewydd.

Cynllun Comisiynu Addysg a Hyfforddiant GIG Cymru ar gyfer 2022 i 2023

9 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gynllun Comisiynu Addysg a Hyfforddiant GIG Cymru ar gyfer 2022 i 2023 ar gyfer y gweithlu iechyd proffesiynol anfeddygol a meddygol.

Prosiectau’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol - Datgelu Profiadau Bywyd

9 Rhagfyr 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo cymorth ariannol ar gyfer cam cyntaf y prosiect Datgelu Profiad Bywyd fel rhan o'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, ac wedi cytuno dros dro ar gyllid ar gyfer ail gam yn 2022 i 2023. 

Achosion o ffliw adar yng Nghymru

9 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi awdurdodi hyd at £1m o gyllid brys i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i reoli’r achosion o ffliw adar yng Nghymru. Cytunwyd ar ddyraniad cychwynnol o £500k.
 

Casgliadau Brenhinol ac Awdurdod Dirprwyedig

8 Rhagfyr 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wedi cytuno ar y cais i indemnio Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol am eitemau sydd ar fenthyg i Amgueddfa Cymru ac mae wedi cytuno i barhau â'r dirprwyaethau i staff Llywodraeth Cymru gyhoeddi indemniadau o dan Gynllun Indemniad Llywodraeth y DU.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 2 Tachwedd 2021

8 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mhowys.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 16 Tachwedd 2021 

8 Rhagfyr 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Clwb Criced Morgannwg - Cymorth Ariannol o Gronfa Covid

8 Rhagfyr 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, a Gweinidog yr Economi, wedi cytuno ar grant o £710,000 yn 2021 i 2022 i helpu Clwb Criced Morgannwg i ddelio ag effaith ariannol pandemig Covid-19 ar griced.

Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020 i 2021

8 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar gynnwys Datganiadau Ariannol Blynyddol Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain ar gyfer 2020 i 2021 ac iddo gael ei osod gerbron Senedd y DU. 

Urdd Gobaith Cymru

8 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Urdd Gobaith Cymru i ariannu'r gwaith o ddatblygu'r seilwaith angenrheidiol i ganiatáu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd 2022 yn Ninbych. 

Y Cwricwlwm 

7 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar £6.87 miliwn o gyllid yn 2021 i 2022 i gefnogi cyflawni’r cwricwlwm.

Trawsnewid Trefi

7 Rhagfyr 2021

Mae'r Prif Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid benthyciadau o £7.8m yn 2021/22 i'r awdurdodau lleol canlynol: Abertawe, Caerfyrddin, Wrecsam a Bro Morgannwg.

Y Sector Cyhoeddus – Fflyd Dim Allyriadau a Grant Seilwaith

7 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddyrannu hyd at £3m o'r gyllideb bresennol i ddarparu cyllid i sefydliadau'r sector cyhoeddus ar gyfer cerbydau trydan heb ollyngiadau a seilwaith gwefru trydan.

Dyraniadau Addysg Gychwynnol i Athrawon

7 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar y dyraniadau lefel genedlaethol ar gyfer recriwtio i raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Ymgynghoriadau Tranche Cyntaf Cynhyrchion a Reoleiddir

6 Rhagfyr 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i'r Asiantaeth Safonau Bwyd lansio dau ymgynghoriad wyth wythnos ar wahân ar ffactorau dilys eraill ceisiadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid GM a Bwyd Newydd.

Carbon Monocsid - adolygiad o'r gofynion

6 Rhagfyr 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymgynghoriad ar ddiwygiadau i'r Rheoliadau Adeiladu ar larymau carbon monocsid.

Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd: crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a fersiwn derfynol y Cynllun Gweithredu

6 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi Crynodeb o’r Ymatebion i’r Ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft y Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd; a fersiwn derfynol y Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd.

Ymateb i adroddiad y Pwyllgor 'Ar Gof a Chadw? Adroddiad ar bwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus'

6 Rhagfyr 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wedi cytuno ar ymateb i hen adroddiad y cyn Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Ar Gof a Chadw? Adroddiad ar bwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus'.

Cyllid cyfrannol Comisiwn Bevan 2022 i 2026

6 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cyfrannol Comisiwn Bevan (2021 i 2026).

Rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau

6 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar estyniad tair blynedd newydd i'r rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau.

Gwerthu tir

6 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir yn Llynnoedd Celtaidd, Casnewydd.

Trafodaethau Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 

6 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Drafodaethau Contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 2021 i 2022.

Cyfalaf Cynnal a Chadw ar gyfer Ysgolion 2021 i 2022

6 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar ddyrannu arian i awdurdodau lleol yn 2021 i 2022 i gefnogi gwaith cyfalaf cynnal a chadw ar gyfer ysgolion.

Cyfnod Ymchwil Defnyddwyr ar gyfer Platfform Data Ystadegau Newydd Cymru

6 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo gwariant o hyd at £80,000 a TAW i ariannu "cam Ymchwil Defnyddwyr" ar gyfer platfform data agored newydd Stats Cymru. 

Ailbenodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 

6 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Philip Maynard Davies yn Aelod Annibynnol TGCh i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, am 4 blynedd, o 01/12/2021 tan 30/11/ 2025.

Ymateb i adroddiad Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C

6 Rhagfyr 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C.

Datganiad Pysgodfeydd ar y Cyd – Ymgynghori a Chraffu

2 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cymeradwyo dogfen ymgynghori a drafft o Ddatganiad Pysgodfeydd ar y Cyd ar gyfer ymgynghoriad. Mae’r Gweinidog hefyd wedi cytuno i gyfnod craffu o chwe wythnos yn y Senedd.

Cychwyn y cam nesaf o Raglen Caffael Systemau Gwybodaeth Radioleg

2 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gychwyn y cam nesaf o’r Rhaglen Caffael Systemau Gwybodaeth Radioleg. 

Cynnig cyllid cyfalaf gan Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru 2021 i 2022

2 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid cyfatebol ar gyfer cyfarpar ymladd tân cwbl drydanol ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2021 i 2022, y cyfarpar cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. 

Penodi Is-gadeirydd Dros Dro i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

2 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Pippa Britton yn Is-gadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan tan 31 Mawrth 2022.

Opsiynau Cyllido Arolygon Cronfa Diogelwch Adeiladau Cam 1 (Pasbort) 

2 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i newid o raglen a Gyllidir gan Grant i Broses Gaffael Uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru drwy System Gaffael Ddeinamig er mwyn caffael syrfewyr achredig yn uniongyrchol i gynnal arolygon ar adeiladau sy’n cael eu heffeithio. 

Cytundeb i gyllido cymorth ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19 

2 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol  wedi cytuno ar gyllid o’r gronfa COVID wrth gefn ac mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022 er mwyn rhoi cymorth i baratoi a chynnal gweithgareddau mewn perthynas â’r Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID-19.

Cau’r Cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth a throsglwyddo’r benthyciadau sy’n weddill

2 Rhagfyr 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddefnyddio arian sydd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i dalu’r hyn sy’n weddill o’r Benthyciadau Arbed Tenantiaeth (TSL) ar gyfer pobl sydd wedi cael benthyciad nad oes modd cael gafael arnynt, ac i dalu’n ôl am daliadau sydd eisoes wedi eu gwneud, fel rhan o gau’r Cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth a throsglwyddo’r benthyciadau sy’n weddill yn grantiau.

Cyfarwyddyd Gweinidogol o dan Ddeddf y Coronafeirws 2020

2 Rhagfyr 2021

Mae’r Prif Weinidog wedi gwneud Cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog mangre Cinema and Co yn Abertawe gau.

Cyhoeddi Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod o 2021

30 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cymeradwyo'r ddogfen 'Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021' ac mae wedi cytuno i gyhoeddi'r ddogfen Gweledigaeth ar ddiwrnod agoriadol Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2021.

Cyllid ar gyfer Undeb Credyd Gateway

30 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cyllid i Undeb Credyd Gateway i gynorthwyo gyda chost yr addasiadau angenrheidiol i’w seilwaith TG.

Cyfarwyddyd Deddf Coronafeirws 2020

30 Tachwedd 2021

Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd sy'n ei gwneud yn ofynnol i berchennog Cinema and Co yn Abertawe gau’r safle.

Dyraniadau'r Gronfa Band Eang Lleol - Tranche 3 a Phowys Wedi Ail-fodelu Tranche 2 Bid

30 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid y Gronfa Band Eang Lleol ar gyfer 3 phrosiect.

Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

30 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid o £140,500 i alluogi Cyngor Bro Morgannwg i gynnal achos busnes dros osod mesurau gwrthsefyll llifogydd ar gyfer 244 o gartrefi yn Ninas Powys.

Gwerthu tir

30 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i werthu tir ym Mharc Phoenix Casnewydd i Gymdeithas Tai Pobl.

Gwaith Ychwanegol y Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach

30 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar £421,600 ar gyfer prosiectau ychwanegol yn dilyn llifogydd ym mis Hydref 2021.

Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol

30 Tachwedd 2021
  
Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymestyn ymhellach y dyddiad i saith awdurdod lleol gyflwyno fersiynau diwygiedig o'u Mapiau Rhwydwaith Integredig a Mapiau Llwybrau Presennol, y cyfeirir atynt bellach fel Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol.  

Cofrestr Mabwysiadu Cymru – Cyllid Ychwanegol ar gyfer 2021 i 2022

26 Tachwedd 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol o £23,473 i Gyngor Dinas Caerdydd (sy'n cynnal y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol) i alluogi'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i gynnal digwyddiad cyfnewid Diwrnod Gweithgarwch Mabwysiadu cenedlaethol ychwanegol a 3 digwyddiad proffilio mabwysiadu ar-lein arall.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

26 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Grant Sipsiwn a Theithwyr 2021 – Lôn Gefn Bangor

26 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer gwaith i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr CBS Conwy.

Dethol Cwnsler arweiniol y Frenhines ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 sydd ar y gweill

25 Tachwedd 2021

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo’r trefniadau i ymgysylltu â Chwnsler y Frenhines er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pharatoadau ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus COVID-19 sydd ar y gweill a chymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn. 

Cynllun tai cymunedau Cymraeg

25 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo trefniadau ymgynghori ar gyfer y cynllun tai cymunedau Cymraeg. 

Fframwaith ar gyfer Niwed i’r Ymennydd sy’n gysylltiedig ag Alcohol

25 Tachwedd 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo’r adroddiad crynodeb ar yr ymgynghoriad a’r fframwaith terfynol ar gyfer cymorth a thriniaeth ynghylch niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol. 

Ymarfer ymgysylltu wedi’i dargedu mewn perthynas ag ymchwil ar darfu o ran gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig a chynllun cymorth ar eu cyfer

25 Tachwedd 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y gall Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Cymru gyhoeddi’r adroddiad ymchwil ar darfu o ran  gwarcheidiaeth arbennig a chynnal ymarfer ymgysylltu wedi’i dargedu ar dempled y cynllun cymorth ar warcheidiaeth arbennig ar gyfer Cymru gyfan.

Ffïoedd cyngor proffesiynol

25 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer gwasanaethau cynghori proffesiynol er mwyn hwyluso gwaith arfarnu cais am grant mewn perthynas â phrosiect cysylltiedig â’r rheilffyrdd yn Ne Cymru. 

Cyllid Brys COVID-19 ar gyfer Hosbisau

25 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo gwerth £1.5 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru am 6 mis (Hydref 2021 hyd Mawrth 2022) ar gyfer hosbisau yng Nghymru.

Cyllid grant ar gyfer prosiectau gwella wedi’u targedu mewn ysgolion uwchradd sydd dan fesurau arbennig

25 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid grant ar gyfer prosiectau gwella wedi’u targedu mewn ysgolion uwchradd sydd dan fesurau arbennig.

Gwaredu tir yn y Bala

25 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo camau i waredu tir yn y Bala. 

Cŵyn yn erbyn rhoi hysbysiad rhybudd i gymuned ddysgu 3-16 Canolfan yr Afon

25 Tachwedd 2021
 
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r polisi a’r cyngor cyfreithiol ac wedi anfon llythyrau at lywodraethwyr cymuned ddysgu 3-16 Canolfan yr Afon ac at Gyfarwyddwr Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn nodi nad yw’n derbyn y gŵyn yn erbyn y camau a gymerwyd i roi hysbysiad rhybudd i Ganolfan yr Afon. 

Canolfan cydweithredol Cymru: cyllid grant ychwanegol ar gyfer 2021 hyd 2022

25 Tachwedd 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i Ganolfan Cydweithredol Cymru ar gyfer 2021 hyd 2022 mewn perthynas â phrosiect i gefnogi darparwyr gwasanaethau plant sy’n dymuno troi’n fusnesau di-elw preifat neu sefydlu modelau o’r fath.

Ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth gynllunio a pholisi ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr

25 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cynnwys y ddogfen ymgynghori a bydd yn cynnal ymgynghoriad dros 13 wythnos rhwng 23 Tachwedd 2021 a 22 Chwefror 2022.

Grant sipsiwn a theithwyr 2021

24 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cam 1 gwaith adnewyddu safle King’s Meadow.

Cymhelliadau ar gyfer meddygon teulu a seiciatryddion craidd dan hyfforddiant 2022 hyd 2023

24 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo cynlluniau cymelliadau ar gyfer meddygon teulu a seiciatryddion craidd dan hyfforddiant  yn 2022 hyd 2023.

Cymeradwyaeth fenthyca – Cyngor Cymuned Llanfairpwll

24 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi rhoi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Cymuned Llanfairpwll. 

Cyllid Grantiau Trafnidiaeth Lleol Hydref- 2021 hyd 2022

24 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo rhagor o gyllid ar gyfer Grantiau Trafnidiaeth Lleol a fydd ar gael yn y flwyddyn ariannol 2021 hyd 2022.

Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Delweddu Diagnostig

24 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo gwerth £51m o fuddsoddiad cyfalaf ar draws 2021 a 2022 hyd 2023 ar gyfer prynu cyfarpar delweddu diagnostig newydd ar draws GIG Cymru.

Llythyr cylch gwaith a chytundeb fframwaith ar gyfer Cwmni Egino

24 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r Llythyr Cylch Gwaith ar gyfer Cwmni Egino (Cwmni Datblygu Trawsfynydd).

Refeniw llifogydd ychwanegol i awdurdodau lleol – 2021 hyd 2022

23 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu £2,090,000 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y gyllideb llifogydd er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol cyn misoedd y gaeaf a darparu £20,000 yn ychwanegol i ganolfan monitro arfordir Cymru ar gyfer gweithgareddau monitro ychwanegol yn ystod eleni.

Rheoli proses ymadael â’r pecyn cyllid i gartrefi gofal ar gyfer gwaith profi

23 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo dull a reolir o leihau’n raddol a diddymu trefniadau cyllid ar gyfer cartrefi gofal sydd wedi cefnogi’r broses o brofi’n rheolaidd staff ac ymwelwyr.

Terfyn Gwariant Dewisol ar gyfer Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned

23 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r Terfyn Gwariant Dewisol ar gyfer Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned yn 2022-23 o dan Adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. 

Gwefan Undebau Credyd Cymru

23 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid er mwyn gwella gwefan Undebau Credyd Cymru. 

Rhaglen Brechu COVID-19 – Gwasanaeth Archebu Brechlynnau Ar-lein

23 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gefnogi parhad gwaith i ddatblygu Gwasanaeth Archebu Brechlynnau COVID-19 ar-lein.

Trosglwyddo i mewn ac allan o’r setliad cyllid sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol

22 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i drosglwyddo £11,000 allan o’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer cyfraniad Llywodraeth Cymru at y cynllun arfordirol yn Aberafan, a £296,000 i mewn i’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer cyfraniad Llywodraeth Cymru tuag at y cynllun Rhodfa Ddwyreiniol Morglawdd Gorllewinol, drwy’r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol. 

Y Rhaglen Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC Cymru)

22 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid am gyfnod o bum mlynedd ar gyfer y rhaglen Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC). 

Caffael Dyfeisiau Llif Unffordd ar gyfer mis Rhagfyr  - cyflenwadau mis Ionawr 2021 i 2022

22 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i optio allan o 9.4m o Ddyfeisiau Llif Unffordd ac i dderbyn cyllid canlyniadol cyfwerth. Mae 10m o ddyfeisiau llif unffordd ychwanegol wedi cael eu caffael a’u dyrannu i Gymru o weithgarwch chwarter 2 yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Targedau Ailgylchu Awdurdodau Lleol 2019 i 2020 – asesiad o berfformiad Cyngor Caerdydd

22 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penderfynu hepgor y gosb i Gyngor Caerdydd mewn perthynas ag isafswm targedau ailgylchu awdurdodau lleol ar gyfer 2019 i 2020. Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, mae’r Gweinidog wedi ystyried yr effaith y gallai rhoi cosb ariannol sylweddol ei chael ar allu Cyngor Caerdydd i ddarparu’r union wasanaethau y mae angen eu gwella ar frys, a hefyd ar yr angen i fuddsoddi yn y gwasanaethau hyn, a hynny ar adeg pan mae’r pandemig yn creu heriau mawr i awdurdodau lleol. 

Sefydlu Swyddfa 365 y Ganolfan Ragoriaeth

22 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i sefydlu Swyddfa 365 y Ganolfan Ragoriaeth yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Ymestyn Contract Busnes Cymru ar ôl mis Medi 2022

22 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Newid Hinsawdd, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn Contract Busnes Cymru ar ôl mis Medi 2022. 

Gwerthu dau eiddo

22 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i werthu dau eiddo yn Stryd y Farchnad, Caergybi, yn sgil y penderfynwyd nad oedd eu hangen bellach.  

Gorchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy (Diwygio) (Cymru) 2021

22 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog newid Hinsawdd wedi penderfynu ar gais gan Snowdonia Pumped Hydro Ltd am “newid ansylweddol” i Orchymyn Gorsaf Gynhyrchu Storfa Bwmpio Glyn Rhonwy 2017 (“Gorchymyn Cydsyniad Datblygu”) ar gyfer adeiladu a gweithredu cynllun storfa bwmpio 99.9MW yng Nglyn Rhonwy, Gwynedd.  Cymeradwyodd y Gweinidog fod y Gorchymyn yn cael ei wneud i ymestyn y dyddiad cychwyn gofynnol ar gyfer gweithfeydd o 29 Mawrth 2022 i 29 March 2024.

Ailbenodi Aelod Annibynnol (Cymunedol)  i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

22 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Pippa Britton yn Aelod Annibynnol (Cymunedol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, am 4 blynedd, o 6 Tachwedd 2021 hyd at 5 Tachwedd 2025.

Rhaglen Cymorth Enwau Bwyd Gwarchodedig Dynodiad Daearyddol y DU a’r Undeb Ewropeaidd 

22 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gaffael contract ar gyfer darparu cymorth parhaus i fusnesau presennol a newydd sydd wedi buddsoddi yng Nghynlluniau Dynodiad Daearyddol y DU a Chynlluniau Enwau Bwyd Gwarchodedig yr Undeb Ewropeaidd.

Penodi i Cwmni Egino

22 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i benodiad Mike Tynan yn Brif Swyddog Gweithredol dros dro Cwmni Egino.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

22 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyfraddau cydnabyddiaeth ariannol Cadeirydd, Is-gadeirydd ac Aelodau nad ydynt yn Swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Lleoliad uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig 2021

18 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo’r dewis ar gyfer lleoliad, a’r gyllideb ar gyfer y lleoliad i gynnal uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ystod 2021.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru – adroddiad blynyddol 2020 i 2021

18 Tachwedd 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cytuno’r adroddiad blynyddol 2020 i 2021 oddi wrth Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Penodi Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

18 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gychwyn proses penodi cyhoeddus i recriwtio Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Caerdydd. 

Penodiadau i Awdurdod Cyllid Cymru

18 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i benodi 3 chyfarwyddwr anweithredol i Awdurdod Cyllid Cymru, yn dilyn ymgyrch recriwtio ddiweddar. Bydd y tri aelod newydd yn dechrau ym mis Ionawr 2022, a bydd un arall yn cael ei ychwanegu at y rhestr wrth gefn am gyfnod o flwyddyn.   

Cam 2 astudiaeth dolphyn ERM 

18 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gynnal cam 2 astudiaeth dichonoldeb – prosiect dolphyn ERM.

Cyllid i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer Ffair Aeaf 2021 

18 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer Ffair Aeaf 2021, sef £20,000 a TAW. 

Cyllid i gefnogi ymgyrch am bŵer llysiau yng Nghymru yn 2022

18 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar y gost gyffredinol o £164,659 i gefnogi'r ymgyrch am bŵer llysiau, Bwytewch y Llysiau i’w Llethu, yng Nghymru yn 2022. 

Cynigion cyfalaf yn ystod y flwyddyn ar gyfer awdurdodau tân ac achub 2021 i 2022

18 Tachwedd 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer nifer o gynigion cyfalaf gan y tri awdurdod tân ac achub yn 2021 i 2022, o'r cyllid cyfalaf dros ben a ddaeth ar gael yn ystod y flwyddyn.

Gweithgarwch caffael ar urddas mislif 2021 i 2022

18 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu gweithgarwch caffael sy'n ymwneud â pholisi urddas mislif 2021 i 2022.
 

Dyrannu cyllid i brosiectau arloesi busnesau

16 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyfarnu cyllid o gymorth busnes COVID i brosiectau arloesi busnesau. 

Buddsoddi cyllid cyfalaf mewn sefydliadau addysg bellach

16 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Gweinidog yr Economi, a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid i’w fuddsoddi mewn sefydliadau addysg bellach.

Tir ar gyfer cynllun tai 2021 i 2022 – cymeradwyo ceisiadau am fenthyciadau

16 Tachwedd 2021

Mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y ceisiadau am fenthyciadau ar gyfer y cynllun tir ar gyfer tai 2021 i 2022, ac i gynnal ail gylch ceisiadau yn 2021 i 2022 i ddefnyddio cyllid benthyciadau ychwanegol sydd wedi ei ailgylchu.

Gwasanaethau cymorth ychwanegol Busnes Cymru 2021 i 2022

16 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno gwasanaethau cymorth ychwanegol Busnes Cymru 2021 i 2022.

Cyllid ar gyfer ymgyrch newid ymddygiad rheoli pwysau tymor hir

16 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid i gynnal ymgyrch i newid ymddygiad rheoli pwysau tymor hir, am gyfnod o dair blynedd fel rhan o Pwysau Iach: Cymru Iach.

Strategaeth gyfathrebu’r cod ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth – cyllid 2021 i 2022

16 Tachwedd 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno cyllid i gefnogi strategaeth gyfathrebu i hyrwyddo’r cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth, a ddaeth i rym ar 1 Medi 2021.

Cael gwared ar dir ar barc busnes Cwm Cynon

16 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cael gwared ar dir ar barc busnes Cwm Cynon.

Cronfa dyfodol yr economi – Cyfarfod y panel buddsoddi ar 19 Hydref 2021 

15 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid dyfodol yr economi ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Monitro ac adrodd ar effeithiolrwydd cynllun morol cenedlaethol Cymru a'r cynnydd gyda chynlluniau morol yng Nghymru

15 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi ail arolwg defnyddwyr cynllun morol cenedlaethol Cymru a'r adroddiad chwe blynedd statudol ar gynnydd gyda chynlluniau morol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2015 a 2021.

Dechrau'n Deg - gwasanaethau digidol - gwaith darganfod

15 Tachwedd 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar hyd at £45,000 o gyllid yn 2021-2022, ar gyfer gwaith darganfod gwasanaethau digidol Dechrau'n Deg ledled Cymru.

Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru

15 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gychwyn y broses penodiadau cyhoeddus i recriwtio Cyfarwyddwr Anweithredol y Trydydd Sector i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru

15 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gychwyn y broses penodiadau cyhoeddus i recriwtio Cyfarwyddwr Anweithredol Awdurdodau Lleol i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Model cyflawni cynaliadwy ar gyfer adferiad natur

15 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cyngor gan ymgynghorwyr i lywio'r gwaith o ddatblygu model cyflawni cynaliadwy ar gyfer adfer natur.

Cronfa datblygu ac adfer busnesau Awdurdodau Lleol

15 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cronfa datblygu ac adfer busnesau gwerth £35m i AwdurdodauLleol.

Benthyg Cymru

15 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i hyd at £77,885 o gyllid i Benthyg Gymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Penodi i Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru 

15 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi'r Athro Iolo Doull yn Gadeirydd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.

Cyngor cyfreithiol

15 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cyngor cyfreithiol allanol ynghylch oblygiadau cylch cyllido a godwyd gan gwmni y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddo.

Cais gan Gomisiynydd y Gymraeg am gyllid cyfalaf

15 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cais gan Gomisiynydd y Gymraeg i ddefnyddio cyfran o’i arian wrth gefn fel cyllid cyfalaf i’w wario ar isadeiledd Technoleg Gwybodaeth yn ystod y flwyddyn ariannol 2021 I 2022.

Estyn y rhaglen athrawon newydd gymhwyso i gefnogi adferiad dysgwyr yn 2021 i 2022

11 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i gefnogi athrawon newydd gymhwyso i barhau i ddatblygu yn eu rolau addysgu ac i gefnogi adferiad dysgwyr.

Estyniad i maes ymgysylltu â chyflogwyr prosiect peirianneg y Cymoedd

11 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i estyn maes ymgysylltu â chyflogwyr prosiect peirianneg y cymoedd.

Cais cynllunio

11 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i gais gan Wessex Solar Energy (WSE Pembrokeshire Limited) ar gyfer parc solar a seilwaith cysylltiedig ar draws safle 34.25HA a fyddai’n gallu allgludo hyd at 22MW AC o drydan i’r grid trydan rhanbarthol. Tir yn Blackberry Lane, Nash, Pembrokeshire, SA27 4SJ. 

Cais cynllunio

11 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i gais gan Môr Hafren Bio Power Limited ar gyfer adeiladu a gweithredu cyfleuster adfer ynni, gan gynnwys ffurfio mynediad i Newlands Road a seilwaith ategol. Tir yn Newlands Road, Caerdydd CF23 2EU.

Cais cynllunio

11 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod galw’r cais i mewn er mwyn i Weinidogion Cymru benderfynu drostynt eu hunain ar ddatblygiad arfaethedig ar gyfer adeiladu 102 o unedau tai fforddiadwy, ffyrdd cysylltiedig, man agored, tirlunio a seilwaith ar dir ger Alexandra Drive, Prestatyn. 

Diwygiad technegol i gyfran yr ardrethi annomestig a ddosberthir i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu

11 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddiwygio cyfran yr ardrethi annomestig a ddosberthir i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu o 5% i 0.1%.

Cyllid i gefnogi prosiectau gwella ansawdd ar gyfer y sector ôl-16

11 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi prosiectau gwella ansawdd ar gyfer y sector ôl-16.

Menter Wnïo Treorci 

11 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i’r cyllid ar gyfer sefydlu Menter Wnïo Treorci.

Penodi Aelod Annibynnol Trydydd Sector i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

11 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi John Gallanders fel Aelod Annibynnol Trydydd Sector i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, am 4 blynedd, rhwng 01/11/2021 a 31/10/2025.

Taliadau Entrepreneuriaeth a Chyflawni

11 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i Daliadau Entrepreneuriaeth a Chyflawni ar gyfer mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2021.

Dadansoddi presenoldeb yn yr ysgol

11 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddefnyddio trefniadau cydweithio Sefydliadau Addysg Uwch i gynnal adolygiad o batrymau presenoldeb yn yr ysgol yng Nghymru.

Ymgyrch Recriwtio Gweithlu Cynaliadwy

11 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cymeradwyo’r cynnig i lansio Ymgyrch Recriwtio Gweithlu Cynaliadwy ar gyfer busnesau bwyd a diod yng Nghymru.

Cronfa Eiddo Masnachol Cymru – Iard Picton

11 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi cymorth grant ar gyfer datblygiad yn Abertawe.

Llythyr Cylch Gwaith Tymor y Llywodraeth ar gyfer Banc Datblygu Cymru

11 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r Llythyr Cylch Gwaith Tymor y Llywodraeth ar gyfer Banc Datblygu Cymru ar gyfer 2021 i 2026.

Seilwaith i gefnogi’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol

11 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi edrych ar opsiynau ar gyfer seilwaith addas er mwyn sicrhau bod y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol yn cael ei gweithredu ar draws y sector addysg. Mae wedi cytuno i opsiwn 3, sef sefydlu bwrdd traws-sector i oruchwylio a gwireddu’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol, fel y ffordd fwyaf synhwyrol o symud ymlaen, ynghyd â pha bynnag drefniadau mewnol sydd eu hangen er mwyn cael y gynrychiolaeth orau o Lywodraeth Cymru ar y bwrdd.

Cyfraddau ardollau arfaethedig 2021 i 2022 ar gyfer y Sectorau Tatws a Garddwriaeth 

11 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cymeradwyo cyfraddau ardollau diwygiedig arfaethedig y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth ar gyfer y Sectorau Tatws a Garddwriaeth yn 2021 i 2022.

Strategaeth Rheoli Tybaco

9 Tachwedd 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo Strategaeth Rheoli Tybaco ar gyfer Cymru ynghyd â'r cynllun cyflawni cysylltiedig i'w cyhoeddi ar gyfer ymgynghori.

Gweithgareddau datblygu economaidd

9 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer ffioedd ymgynghori i helpu i baratoi tir at ddibenion gweithgareddau datblygu economaidd ar safle yn ne Cymru.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cais o dan Gynllun Grantiau Bach Glastir.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn rhannol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cosb Trawsgydymffurfio o 55%. Gostyngwyd y gosb Trawsgydymffurfio i 3%.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apêl Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad o dan Gyfnod 5 o’r Grant Busnes i Ffermydd.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apêl Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2019.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso gostyngiad a chosb i hawliadau am Waith Cyfalaf o dan Gynllun Glastir Uwch.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliadau o dan Gynllun Grantiau Bach Glastir.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn rhannol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cosb o 14% yn ôl-weithredol i hawliad cwsmer o dan Gynllun Glastir 2014.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2019. 

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad o dan Gyfnod 3 o’r Grant Busnes i Ffermydd.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2019.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad am Waith Cyfalaf o dan Gynllun Glastir Uwch.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad o dan Gyfnod 4 o’r Grant Busnes i Ffermydd.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniadau Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2017.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod hawliad o dan Gyfnod 4 o'r Grant Busnes i Ffermydd.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod hawliad o dan Gyfnod 4 o'r Grant Busnes i Ffermydd.

Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan y Panel Apelio Annibynnol i wrthod hawliad o dan Gyfnod 4 o'r Grant Busnes i Ffermydd.

Gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru – Cynlluniau pontio

9 Tachwedd 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynlluniau ar gyfer trosglwyddo i wasanaeth digidol cenedlaethol ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.

Cynllun cymorth hunanynysu – Adolygiad o gyfradd y taliad

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno y bydd y gyfradd uwch o £750 ar gyfer y cynllun Cymorth Hunanynysu yn parhau am weddill blwyddyn ariannol 2021 i 2022. 

Undeb credyd Cambrian

9 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid cymorth cyfalaf ar gyfer undeb credyd Cambrian.

Gwersi a ddysgwyd yn sgil gwaith rheoli gwastraff clinigol yn ystod pandemig COVID-19

8 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidogion wedi cytuno y gall swyddogion fwrw ymlaen i gydweithio â rhanddeiliaid er mwyn gweithredu gwersi a ddysgwyd mewn perthynas â rheoli gwastraff clinigol yn ystod ail don pandemig COVID-19. Y nod yw sicrhau bod trefniadau yn eu lle rhag ofn y bydd ton arall neu bandemig newydd. 

Cynigion ynghylch prosiectau cyfalaf cronfa gofal integredig

8 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf o’r Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau o fewn rhanbarthau Powys, Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Gorllewin Morgannwg, Gorllewin Cymru a Gwent. Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf o’r gronfa gofal integredig ar gyfer prosiect o fewn rhanbarth Gorllewin Morgannwg. 

Penodi Aelod Annibynnol ar gyfer Cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

8 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Richard Micklewright yn Aelod Annibynnol ar gyfer Cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am gyfnod o 4 blynedd o 25/10/2021 hyd 24/10/2025. 

Cyllid ar gyfer rhaglen/ni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol

4 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen/ni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Dyrannu cyllid i gaffael ymchwil ynghylch tai cymdeithasol

4 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i neilltuo hyd at £50,000 o’r gyllideb atal digartrefedd ar gyfer 2021 hyd 2022 i gomisiynu darn o waith ymchwil er mwyn deall yn well y cysylltiad rhwng cyflenwadau tai a’r newid i ailgartrefu cyflym. 

Ailbenodi Aelod Annibynnol o Awdurdod Lleol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

4 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Richard Clarke yn Aelod Annibynnol o Awdurdod Lleol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, am 4 blynedd, o 19/09/2021 hyd 19/09/2025. 

Cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen gwella gwyliau’r haf a llaeth ysgol

4 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo gwerth £4.85 o ôl-gyllid ar gyfer rhaglen gwella gwyliau’r Haf a hyd at £3.2 miliwn ar gyfer y rhaglen llaeth ysgol a fydd yn berthnasol i flwyddyn ariannol 2021 hyd 2022.  

Adolygiad Ffyrdd - ffordd fynediad Llanbedr

4 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi derbyn argymhellion y panel adolygu ffyrdd ar gynllun ffordd fFynediad Llanbedr ac wedi cytuno i gyhoeddi'r adroddiad.

Cyhoeddi penderfyniad cynhwysfawr ar ryng-gysylltydd Greenlink

4 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi'r penderfyniad cynhwysfawr ar y rhyng-gysylltydd Greenlink o dan Reoliad Rhwydweithiau Ynni Traws-Ewropeaidd (TEN-E) gweddilliol, ac i hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) o gwblhau'r broses hon.

Cais am swyddi a ariennir gan y rhaglen - Cymorth i Ddysgwyr

4 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gronfeydd ar gyfer rhaglen i recriwtio arbenigedd addysgol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu, i gynyddu'r cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru ac i sicrhau bod y Ddeddf ADY yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus.

Parhad Labordai Addysgu Byd-eang Sefydliad Technoleg Massachusetts

4 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i barhau i ariannu cyfranogiad Cymru yn rhaglen Labordai Addysgu Byd-eang Sefydliad Technoleg Massachusetts rhwng 2023 a 2026, ac i swyddogion sicrhau cymorth gweinyddol a logistaidd ar gyfer y gwaith hwn drwy broses gaffael briodol.

Canolfan addysg gofal iechyd Prifysgol Aberystwyth

4 Tachwedd 2021

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i ddarparu cyllid o £500,000 i Brifysgol Aberystwyth i gefnogi eu canolfan addysg gofal Iechyd arfaethedig. Bwriedir i'r ganolfan gynnwys uned sgiliau clinigol tra-chywir i ddarparu addysg ryngbroffesiynol sy'n seiliedig ar efelychu.

Cyllid ar gyfer wythfed chwiliad astudiaeth carfan y mileniwm

4 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i'r cyllid ar gyfer wythfed chwiliad astudiaeth carfan y mileniwm.

Dyraniad cyllideb y gyfarwyddiaeth nyrsio ar gyfer 2021 hyd 2022

2 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo dyraniad cyllideb y gyfarwyddiaeth nyrsio ar gyfer 2021 hyd 2022.

‘Gwyliau ardoll’ y sector moch

1 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno nad yw 'gwyliau ardoll' tebyg i’r un yn y sector moch yn Lloegr a’r Alban yn briodol yng Nghymru ar hyn o bryd ac y bydd y sefyllfa’n parhau i gael ei hadolygu.

Cyfrif blynyddol o’r rhai sy'n cysgu ar y stryd ar gyfer mis Tachwedd 2021

1 Tachwedd 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i atal y cyfrif blynyddol o’r rhai sy’n cysgu ar y stryd ar gyfer mis Tachwedd 2021.

Cronfa dyfodol yr economi – Cyfarfod y panel buddsoddi ar 19 Hydref 2021

1 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wedi cytuno i roi arian o gronfa dyfodol yr economi i brosiect yng Nghaerdydd.

Gwerthu tir ym Mharc Bryn Cegin, Bangor

1 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Bryn Cegin, Bangor.

Gwaredu tir yn Felinfach, Ceredigion

1 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i waredu tir yn Felinfach, Ceredigion.

Penodi ar gyfer pedair rôl glinigol genedlaethol arweiniol

1 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i greu pedair rôl glinigol genedlaethol arweiniol ar gyfer cyflyrau  cyhyrysgerbydol a phoen parhaus, ac i benodi ar gyfer y rolau hyn. 

Cymorth Busnes

1 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cymorth grant ar gyfer datblygiad masnachol yn Llangefni.

Ysgolion yr 21ain Ganrif

1 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r Achos Amlinellol Strategol ar gyfer Ysgol Bryngwyn.

Ysgolion yr 21ain Ganrif

1 Tachwedd 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo argymhellion a wnaed gan y Panel Buddsoddi mewn Addysg o ran amrywio amlenni rhaglenni a phrosiectau.

Llinell gymorth Byw Heb Ofn

1 Tachwedd 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu contract y llinell gymorth Byw Heb Ofn am hyd at 6 blynedd.

Grŵp gweithredu a chynghori morol Cymru

27 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i wahodd grŵp gweithredu a chynghori morol Cymru i ddatblygu cynllun gwaith morol ar gyfer tymor y Senedd hwn.

Datganiad ysgrifenedig ar y dull o gyflwyno rhaglen corff sgiliau creadigol 

27 Hydref 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wedi cytuno i gyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig ar y dull y cytunwyd arno o gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu o ran corff sgiliau creadigol.

Ystyried system gofrestru a monitro ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref

27 Hydref 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo parhad y cynigion a fydd yn defnyddio pwerau presennol Gweinidogion Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata o blant sy’n cael eu haddysg gartref ac i gyhoeddi canllawiau statudol sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer asesu addasrwydd addysg.

Dyfodol y gronfa buddsoddi i arbed

27 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno bod yr adnoddau gwaelodol a ddyrennir ar hyn o bryd i'r gronfa buddsoddi i arbed yn cael eu defnyddio i greu cronfa newid ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Prosiectau llety preswyl i blant ag anghenion cymhleth

27 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer tri phrosiect llety preswyl rhanbarthol yng Nghaerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Gorllewin Morgannwg ar gyfer plant â phrofiad o ofal sydd ag anghenion cymhleth. 

Rheoliadau Adeiladu - Adolygiad o Rannau L/F - ymgynghoriad cam 2B ar gyfer adeiladau annomestig

26 Hydref 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymgynghoriad ar newidiadau i Ran L (gwarchod tanwydd a phŵer) ac F (awyru) y Rheoliadau Adeiladu ar gyfer adeiladau annomestig newydd a phresennol, a lliniaru gorboethi ar gyfer adeiladau preswyl.

Ehangu cyfleusterau storio Wren

26 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru i gynorthwyo â’r lle storio data ychwanegol sydd ei angen ar gyfer labordy geneteg Cymru gyfan.

Sefydlu'r rhaglen e-Bresgripsiynu

26 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i sefydlu rhaglen e-bresgripsynu genedlaethol sy'n cyd-fynd â "Cymru Iachach", yr "adolygiad o bensaernïaeth ddigidol", a "fferylliaeth: cyflawni Cymru iachach".

Rhaglen Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru

26 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer y system labordai digidol newydd i Gymru gyfan, drwy raglen Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LINC).

Cyllid ychwanegol ar gyfer diffibrilwyr

26 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i brynu rhagor o o ddiffibrilwyr i wella mynediad at ddiffibrilwyr, a gwella’r cyfraddau goroesi yn sgil hynny, ac i alluogi parhau i weithredu'r cynllun ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty. 

Gŵyl y DU 2022

26 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip wedi cytuno i ŵyl y DU 2022.

Dull o gyflawni’r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu o ran corff sgiliau creadigol 

26 Hydref 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wedi cytuno ar ddull o gyflawni’r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu o ran corff sgiliau creadigol.

Newis i gytundeb gwerthu - parc technoleg Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr

26 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i'r newid i’r cytundeb gwerthu ar gyfer parc technoleg Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwerthu tir yng Nghaerdydd

26 Hydref 2021

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno y gellir gwerthu tir yng Nghaerdydd. 

Rhyddhau arwystl ar dir yng Nghaerdydd

26 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ryddhau arwystl ar dir yng Nghaerdydd.

Cyfryngu ynghylch hawliad gorswm

26 Hydref 2021

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i broses gyfryngu i geisio setlo hawliad gorswm.

Capasiti cyflenwad pŵer, Casnewydd

26 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i sicrhau gwaith uwchraddio dros dro i'r cyflenwad pŵer ac wedi ymrwymo i sicrhau cyflenwad parhaol i gwmni yn y De, i ddiogelu parhad busnes.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - theatrau hybrid a thrawma mawr

26 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar achos busnes amlinellol, sef ail ran proses achos busnes tri cham ar gyfer buddsoddiad sylweddol yn GIG Cymru, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gyfer datblygu theatrau hybrid a thrawma mawr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Dadansoddiad presenoldeb yn yr ysgol

26 Hydref 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer recriwtio secondai i gynnal adolygiad o batrymau presenoldeb.

Darpariaeth yn lle prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys

26 Hydref 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno y dylai Llywodraeth Cymru barhau i sicrhau bod cyllid ar gael i awdurdodau lleol i wneud darpariaeth yn lle prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys y mae'n ofynnol iddynt hunanynysu oherwydd COVID-19 a lle mae ysgolion wedi gorfod anfon disgyblion adref oherwydd prinder staff sy'n gysylltiedig â COVID-19, a hynny tan wyliau Nadolig yr ysgol, pryd y caiff ei adolygu.  

Rhaglen NO2 Cyngor Caerffili – cais am estyniad

26 Hydref 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gais am estyniad o 12 mis gan Fwrdeistref Sirol Caerffili i gyflawni eu cynllun aer glân i fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid uchel yn Hafodyrynys. Mae'r cynllun yn gofyn am gaffael a dymchwel 23 eiddo yn Woodside Terrace, ac fe'i nodwyd fel y llwybr cyflymaf i gydymffurfio â therfynau cyfreithiol. Oherwydd oedi am sawl rheswm, gofynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am estyniad tan fis Rhagfyr 2022.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa band eang lleol 

25 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd wedi cytuno ar newidiadau i ddyfarniadau grant band eang lleol, ac wedi cytuno i adolygu'r broses ymgeisio.

Prynu data cymhareb incwm prynwyr tro cyntaf gan gyllid y DU

25 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i £1,200 yn 2021 i brynu data gan gyllid y DU ar gymarebau incwm prynwyr tro cyntaf i'w defnyddio yn offeryn asesu'r farchnad dai leol.

Ailbenodi aelod annibynnol o’r awdurdod lleol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

25 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Mark Child yn aelod annibynnol o’r awdurdod lleol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe tan 04 Mai 2022.

Ardal gwella busnes Aberystwyth 

25 Hydref 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd wedi cytuno y dylid cadarnhau canlyniad pleidlais ardal gwella busnes Aberystwyth Ar y Blaen, a ddatganwyd ar 1 Ebrill 2021.

Cymeradwyaeth i benodi prif swyddog gweithredol ar gyfer y ganolfan gwasanaethau cyhoeddus digidol

25 Hydref 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo penodi Myra Hunt a Harriet Green yn brif weithredwr y ganolfan gwasanaethau cyhoeddus digidol.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa band eang lleol 

21 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd wedi cytuno ar newidiadau i ddyfarniadau grant band eang lleol, ac wedi cytuno i adolygu'r broses ymgeisio.

Prynu data cymhareb incwm prynwyr tro cyntaf gan Gyllid y DU

21 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i £1,200 yn 2021 i brynu data gan Gyllid y DU ar gymarebau incwm prynwyr tro cyntaf i'w defnyddio yn offeryn asesu'r farchnad dai leol.

Ailbenodi aelod annibynnol o’r awdurdod lleol i fwrdd iechyd prifysgol Bae Abertawe 

21 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Mark Child yn aelod annibynnol o’r awdurdod lleol i fwrdd iechyd prifysgol Bae Abertawe tan 04 Mai 2022.

Ardal gwella busnes Aberystwyth 

21 Hydref 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd wedi cytuno y dylid cadarnhau canlyniad pleidlais ardal gwella busnes Aberystwyth Ar y Blaen, a ddatganwyd ar 1 Ebrill 2021.

Cymeradwyaeth i benodi Prif Swyddog Gweithredol ar gyfer y ganolfan gwasanaethau cyhoeddus digidol

21 Hydref 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo penodi Myra Hunt a Harriet Green yn Brif Weithredwr y Ganolfan gwasanaethau cyhoeddus digidol.

Dyraniadau cyllid adferiad y GIG 2021 i 2022

21 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno mewn egwyddor i ddyrannu cyllid ychwanegol i sefydliadau’r GIG er mwyn cefnogi’r cynigion adfer y cytunwyd arnynt.

Cronfa dyfodol yr economi – Cyfarfod o’r panel buddsoddi ar 21 Medi 2021 

21 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddyfarnu cyllid o gronfa dyfodol yr economi i brosiect yn Nhorfaen.

Estyniad i’r Gwasanaeth Cyngor ar Fewnfudo ar gyfer Dinasyddion yr UE – contract â Newfields Law

19 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar estyniad i’r Gwasanaeth Cyngor ar Fewnfudo ar gyfer Dinasyddion yr UE a bydd yn ariannu Newfields Law hyd nes 31 Mawrth 2022.

Trefniadau presenoldeb

19 Hydref 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo nodyn cyngor diwygiedig ar Bresenoldeb mewn ysgolion a lleoliadau i gefnogi’r Fframwaith penderfyniadau rheoli heintiau COVID-19 lleol ar gyfer ysgolion.

Estyniad i’r Cynllun Cynllun Cymell Prentisiaethau i Gyflogwyr

19 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar estyniad i’r Cynllun Cymell Prentisiaethau i Gyflogwyr hyd nes Chwefror 2022.

Cyflawni – Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021

19 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog a Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ariannu cyhoeddi’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, datblygu’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, adolygu’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, sefydlu Bwrdd Perfformiad Trafnidiaeth a Datganiad Ôl-fabwysiadu yr Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Penodi Aelod Annibynol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

19 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Patricia Price yn Aelod Annibynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Bydd ei phenodiad yn cychwyn ar 16/10/2021 ac yn para hyd at 15/10/2025.

Achos Cyfiawnhad Busnes Cyfnewid Cyfarfpar Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru

19 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar achos cyfiawnhad busnes – ar gyfer buddsoddiadai llai yn GIG Cymru – gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Cyllid gan Lywodraeth Cymru i brynu chwe dadansoddwr spectometreg cyfnod ehedeg màs ar sail dadsugno-ïoneiddio drwy laser â chymorth matricsau. 

Recriwtio Is-Gadeirydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

18 hydref 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gychwyn y broses ar gyfer hysbysebu am Is-Gadeirydd i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. 

Adran 2 yr A465

18 Hydref 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo rhaglen o waith cau ffyrdd rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2021.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Achos Amlinellol Strategol ar gyfer Gwasanaethau Asgwrn y Cefn ac Orthopodeg Dewisol 

18 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r Achos Amlinellol Strategol – y cyntaf o broses gymeradwyo achos busnes ag iddi dri cham ar gyfer buddsoddiad sylweddol o fewn GIG Cymru – o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer datblygu Uned Llawfeddygaeth Asgwrn y Cefn ac Orthopedeg Dewisol. Bydd y Bwrdd Iechyd bellach yn datblygu’r Achos Busnes Amlinellol a fydd yn pennu ac yn ystyried yr opsiynau posibl ar gyfer cyflenwi’r gwasanaeth. 

Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar gyfer Mawndir: Adroddiad Blwyddyn 1 – 2020 hyd 2021

18 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo Adroddiad Blwyddyn 1 drafft – 2020 i 2021 y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar gyfer Mawndir ac wedi cytuno y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ei gyhoeddi. Mae hefyd wedi cymeradwyo’r cynnig o ran cyllideb ar gyfer 2022 hyd 2023 a amlinellir yn Adran 3, sydd o fewn y cytundeb Gweinidogol presennol ar y rhaglen weithredu genedlaethol ar gyfer mawndir 2020 hyd 2025.

Cais am ollyngiad yn unol ag Adran 39 o Ddeddf Adeiladu 1984 – Rheoliad 37A o Reoliadau Adeiladu 2010 

18 Hydref 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i wrthod y cais am ollyngiad mewn perthynas â rheoliad 37A o Reoliadau Adeiladu 2010, yn unol ag Adran 39 o Ddeddf Adeiladu 1984.

Adran 2 o’r A465

18 Hydref 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i lunio gorchmynion ynghylch Terfyn Cyflymder a Chlirffordd rhwng Brynmawr a Glanbaiden.

Adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol Llywodraeth Leol

18 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyhoeddi Adroddiad yr adolygiad annibynnol o’r Fframwaith Safonau Moesegol Llywodraeth Leol. 

Adolygiad o Ardaloedd Gwarchodedig Dyfroedd Pysgod Cregyn

18 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi ymarfer ymgynghori dros chwe wythnos ynghylch yr adolygiad o Ardaloedd Gwarchodedig Dyfroedd Pysgod Cregyn yng Nghymru.

Y rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2

18 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo manylion y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2 a fydd yn parhau o fis Hydref 2021 hyd fis Mawrth 2022 a bydd Awdurdodau Lleol sy’n cadw stoc a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn derbyn gwahoddiad i gyflwyno cais am gyllid grant o’r cynllun. 

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

18 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno ar gyllid i ddatblygu cynigion manwl ar gyfer cynlluniau peilot ac ymyriadau sy'n paratoi ffermwyr ar gyfer trosglwyddo i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, i'w lansio o fis Ebrill 2022; a chyllid i gefnogi'r gwaith o ddatblygu achos busnes domestig dros gymorth ehangach i'r Gymru wledig.

Cytundeb tanysgrifennu ymgyfreitha Awdurdod Cyllid Cymru

18 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i danysgrifennu unrhyw gostau cyfreithiol a gwariant eithriadol ar ymgyfreitha sy'n ymwneud â chasglu a rheoli'r trethi datganoledig fel y cyfeirir atynt yn y Cytundeb Rhyngadrannol rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru.

Trosglwyddo asedau tir a choedwigaeth

18 Hydref 2021

Cytunodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd i gaffael gwaith ar werthfawrogi manteision cymdeithasol ac amgylcheddol CNC yn trosglwyddo asedau tir a choedwigaeth ac i Lywodraeth Cymru ddod yn gyfaill i Ganopi Gwyrdd y Frenhines.
 

Recriwtio dau Aelod Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru 

14 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gychwyn y broses i hysbysebu am ddau Aelod Annibynnol ar gyfer Addysg a Gwella Iechyd Cymru. 

Adolygiad o Ffyrdd

14 Hydref 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cadarnhau cylch gorchwyl yr Adolygiad o Ffyrdd a gyhoeddwyd yn flaenorol ac wedi cadarnhau manylion Cadeirydd ac Aelodau’r Panel Adolygu. 

Penodi Aelod Annibynnol Cyffredinol/Busnes Corfforaethol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

13 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Lynda Thomas yn Aelod Annibynnol Cyffredinol/Busnes Corfforaethol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae ei phenodiad yn dechrau ar 08/10/2021 ac yn para tan 07/10/2025.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 14 Medi 2021

13 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect yn Sir Ddinbych.

Polisi'r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru

13 Hydref 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer astudiaeth i archwilio effaith pandemig Covid-19 yng Nghymru i lywio polisïau'r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru.

Cyllideb Cronfa Galedi Llywodraeth Leol ar gyfer mis Hydref 2021 i fis Mawrth 2022

13 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniad o £8m o gronfeydd wrth gefn i'r Gronfa Galedi Llywodraeth Leol ar gyfer y Grant Caledi i Denantiaid a dyraniad pellach o £50m o gronfeydd wrth gefn i'r Gronfa Galedi Llywodraeth Leol i gefnogi costau ychwanegol a cholli incwm o ganlyniad i effaith Covid-19 tan ddiwedd mis Mawrth 2022.

Gorsaf Bŵer Aber-wysg

13 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penderfynu galw'r cais i amrywio trwyddedau amgylcheddol ar gyfer Gorsaf Bŵer Aber-wysg i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru.

Cymeradwyaeth ar gyfer Dadansoddiad Cyfansoddiadol o Wastraff Trefol Cymru 2022 i 2023

13 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo astudiaeth sy’n dadansoddi cyfansoddiad gwastraff Trefol Cymru a fydd yn costio cyfanswm o tua £600,000 gyda'r proffil canlynol: 2021 i 2022 £160,000-180,000 a 2022 i 2023 £420,000- 440,000.

Penodi Aelod Annibynnol Cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

13 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddechrau'r broses o hysbysebu am Aelod Annibynnol Cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Penodi Aelod Annibynnol Digidol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

13 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddechrau'r broses o hysbysebu am Aelod Annibynnol Digidol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Grantiau Cymorth i Fusnesau Gofal Plant

12 Hydref 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynnal gwerthusiad o ddau gynllun grant peilot ar gyfer rhoi cymorth i fusnesau gofal plant, er mwyn gweld a yw’r grantiau peilot wedi llwyddo i gynyddu capasiti’r gweithlu a nifer y lleoedd gofal plant ar draws y sector.

Profion COVID-19 mewn gofal cymdeithasol

12 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ganiatáu i’r profion COVID-19 asymptomatig presennol i staff ac ymwelwyr, a wneir ar y safle cyn iddynt ddod i mewn i leoliadau gofal cymdeithasol, gael eu cynnal gartref cyn iddynt gyrraedd y safle. Hefyd maent wedi cytuno i Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnal astudiaeth i edrych ar effeithiau’r newidiadau hyn.

Cydnabod cymwysterau gofal plant o’r tu allan i Gymru 

12 Hydref 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y caiff Gofal Cymdeithasol Cymru dreialu proses newydd ar gyfer cydnabod cymwysterau gofal plant o’r tu allan i Gymru. 

Cefnogi rhieni a phlant

12 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailddyrannu cyllid ar gyfer cefnogi rhieni; cynyddu cyllid ar gyfer yr ymgyrch i ddod â chosb gorfforol i ben; a datblygu a gweithredu cynllun i godi ymwybyddiaeth o Ddeddf Plant Cymru ymysg plant a phobl ifanc a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw.

Cyllid yn y dyfodol ar gyfer y grant cefnogi sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol

12 Hydref 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo agor rownd ariannu newydd i geisiadau ar gyfer y grant cefnogi sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol strategol (y grant cyrff ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol gynt), gyda mwy o ystyriaeth i sefydliadau gwaith ieuenctid sy’n arbenigo mewn meysydd yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cyllid adfer ar ôl Covid ar gyfer mentrau i gefnogi gwasanaethau a darpariaeth y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae

12 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid adfer ar ôl Covid ar gyfer mentrau i gefnogi mwy o gapasiti mewn lleoliadau gofal plant a chwarae ac i ddarparu gweithgareddau chwarae, chwaraeon a diwylliannol ar gyfer plant a phobl ifanc, gan adeiladu ar y rhaglen Haf o Hwyl.

Cynnig i estyn y cyllid grant ar gyfer Prosiect Hawliau Dinasyddion yr UE

12 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gynnig i estyn cyllid grant i Cyngor Ar Bopeth Cymru a Settled i barhau â Phrosiect Hawliau Dinasyddion yr UE tan fis Mawrth 2022, ac i ddatblygu pecyn hyfforddi i awdurdodau lleol ynglŷn â hawliau Dinasyddion yr UE.

Adolygiad o genhadaeth cadernid ac ailadeiladu economaidd Llywodraeth Cymru

8 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi contract i’r Athro Jonathan Portes ar gyfer cynnal adolygiad o genhadaeth cadernid ac ailadeiladu economaidd Llywodraeth Cymru.

Cynigion ar gyfer cyfalaf prosiectau i’r Gronfa Gofal Integredig 

8 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi cyllid cyfalaf o’r Gronfa Gofal Integredig i brosiectau yn rhanbarthau Cwm Taf Morgannwg, Gwent a Gogledd Cymru.

Gwaith archwilio tir

8 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y gwariant o ran gwneud gwaith archwilio tir mewn perthynas â phrosiect rheilffordd yn y De.

Cynigion cyllid cydraddoldeb – prif ffrydio peilot a Diwrnod Cofio’r Holocost

8 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gynigion cyllid cydraddoldeb er mwyn cael cymorth arbenigol a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i gynnal peilot byw o’r model prif ffrydio; ac i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost allu ariannu gweithiwr cymorth yng Nghymru ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost 2022.

Cyllid ar gyfer rhaglen ôl-16

8 Hydref 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol. 

Gwerthu Tir ym Mharc Pensarn, Caerfyrddin   

8 Hydref 2021
   
Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i werthu tir yng Nghaerfyrddin.

Gwaredu tir

8 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthu tir yn Ystâd Ddiwydiannol Pendre, Tywyn, Gwynedd.

Gwahardd rhoi ieir dodwy mewn cawell – ymgynghoriad ar y cyd

8 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i ymgynghori ar y cyd â Llywodraethau'r DU a'r Alban ar gynnig i wahardd defnyddio cewyll yn sector ieir dodwy Prydain. 

Dull integredig o wella deilliannau addysgol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal

8 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno ar ffordd ymlaen ar gyfer dull integredig o wella deilliannau addysgol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. 

Cysoni’r asesiad o incwm aelwydydd ar gyfer cynllun grant dysgu addysg bellach Llywodraeth Cymru

8 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi penderfynu cysoni’r polisïau ar gyfer myfyrwyr annibynnol a myfyrwyr dibynnol yng nghynllun grant dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022 i 2023 ac wedi ymrwymo'r cyllid i'r cwmni benthyciadau myfyrwyr i weithredu'r newid hwn.

Diweddariad ar atgyweirio llwybr cerdded Afon Tawe SA1

8 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i'r costau ymgynghori ychwanegol i reoli gwaith atgyweirio yn SA1.

Cyhoeddi adroddiad 'Rhwydwaith dal a storio carbon Cymru'

8 Hydref 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyhoeddi adroddiad 'Rhwydwaith defnyddio a storio carbon i Gymru'.

Cymorth refeniw i ganol trefi 

8 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar becyn ariannu refeniw trawsnewid trefi o hyd at £1.5 miliwn am flwyddyn i alluogi Awdurdodau Lleol i ddatblygu cynlluniau, prosiectau a darpariaethau ar gyfer canol trefi.

Adolygiad o gynllun Allwedd Band Eang Cymru

8 Hydref 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i adolygiad o gynllun Allwedd Band Eang Cymru a'r costau cysylltiedig.

Ffliw adar

4 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cymeradwyo datganiad ysgrifenedig yn nodi’r mesurau arbennig y mae eu hangen i reoli’r risg o’r ffiw adar pathogenig iawn yn cyrraedd Prydain Fawr yn sgil adrodd achosion o’r haint ym Motswana.

Cynllun adsefydlu gyrwyr sy’n yfed

4 Hydref 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i benodi aspire Driver development yn un o’r darparwyr cyrsiau sy’n cyflwyno’r cynllun adsefydlu gyrwyr sy’n yfed yng Nghymru. 

Gwasanaethau ymgysylltu ar gyfer teithio llesol

4 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo ymestyn contract â Commonplace i ddarparu adnoddau ymgynghori ar-lein at ddefnydd awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru wrth fynd ati i ennyn diddordeb y cyhoedd ynghylch cynlluniu teithio llesol. 
 

Amrywio telerau benthyciad

4 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i amrywio telerau benthyciad mewn perthynas â phrosiect yn ymwneud â rheilffyrdd yn y De.

Cyllid ychwanegol i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod

1 Hydref 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynlluniau i ddosbarthu £0.5miliwn ychwanegol i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Ehangu cylch gwaith a chylch gorchwyl pwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU

30 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ehangu cylch gwaith a chylch gorchwyl pwyllgor sgrinio cenedlaethol y DU.

Trawsnewid trefi – safle ysbyty Santes Tudful, Merthyr Tudful

30 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid grant trawsnewid trefi o hyd at £1,369,264 i ailddatblygu hen safle ysbyty Santes Tudful ym Merthyr Tudful.

Grant Eiddo WEFO

30 Medi 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i adeiladu cyfleuster diwydiannol a storio newydd yn Ystâd Ddiwydiannol Rassau, Glynebwy.

Estyniad i benodiadau'r Cadeirydd a dau aelod o'r Bwrdd Diogelu Annibynnol

30 Medi 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar estyniad blwyddyn i benodiadau'r Cadeirydd (Jane Randall) a dau Aelod (Tessa Hodgson a Tony Young) y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.

Gwerthusiad o'r gronfa cadernid economaidd

29 Medi 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gwerthuso'r gronfa cadernid economaidd.

Creu Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru - diweddariad mis Medi a threfniadau llywodraethu

29 Medi 2021

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar goncordat ar gyfer y berthynas rhwng Gweinidogion Cymru a Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru, a fydd yn sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau gan arolygwyr cynllunio yn wrthrychol ac yn ddiduedd.  

Ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu i roi diwedd ar ddigartrefedd

29 Medi 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y cynllun gweithredu i roi diwedd ar ddigartrefedd, a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus am chwe wythnos rhwng 4 Hydref a 12 Tachwedd.

Cyllid Cyfalaf Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2021 i 2022

29 Medi 2021

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf i alluogi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i gaffael gwefan newydd i'w lansio erbyn diwedd mis Mawrth 2022.
 

Ychwanegiadau i'r rhaglen archwiliadau clinigol

28 Medi 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ehangu'r meysydd y mae'r rhaglen archwiliadau clinigol ledled y DU yn eu cwmpasu yn GIG Cymru i gynnwys archwiliadau ar gyfer canserau'r ofari, y pancreas a'r arennau, yn ogystal â lymffoma nad yw'n Hodgkin a chanser metastatig y fron.

Cynnydd mewn cstau deunyddiau: methodoleg ar gyfer cyfrifo mwy o gymorth ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy

28 Medi 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno mewn egwyddor i fwy o gymorth drwy gyfraniad grant heb unrhyw gynnydd yng nghanran gyffredinol cyllid Llywodraeth Cymru i bob cynllun; y fethodoleg ar gyfer cyfrifo mwy o gymorth ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy sy'n cael eu heffeithio gan gynnydd mewn costau deunyddiau a thrafodaethau manwl pellach gyda'r sector ar yr ymateb tymor byr hwn i amgylchiadau penodol gyda'r ddealltwriaeth y byddai gwaith pellach yn dilyn ar ddulliau mwy hirdymor o ariannu a chaffael.

Thales UK Limited - adeilad newydd ar gyfer y ganolfan ecsbloetio ddigidol genedlaethol

28 Medi 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i Thales UK Limited– adeilad newydd ar gyfer y ganolfan ecsbloetio ddigidol genedlaethol.

Cyfarfod y panel buddsoddi ar 17 Awst 2021

28 Medi 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid grant datblygu eiddo ar gyfer prosiect ym mhowys.

Cais i gofrestru ysgol annibynnol 

28 Medi 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi derbyn cais Ysgol Eastward House am statws ysgol annibynnol.

Rhoi Profion Gwrthgyrff Llif Unffordd COVID-19 sydd dros ben i Namibia

28 Medi 2021

Mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi 300,000 o brofion gwrthgyrff llif unffordd COVID-19 i Namibia er mwyn helpu i ailagor ysgolion drwy raglen Cymru ac Affrica.

Proses apeliadau annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

27 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan banel apeliadau annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau a wnaed o dan gynllun y taliad sylfaenol (BPS) 2015 yn dilyn ailbrosesu contract preifat yn 2015. 

Prosiect datblygu’r gweithlu Ôl-16 

27 Medi 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer y gyllideb buddsoddi mewn ansawdd ym maes addysg bellach er mwyn cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud gan brosiect datblygu’r gweithlu Ôl-16. 

Parc gwyliau arfaethedig ar safle  hen glwb rygbi’r Rhyl 

27 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penderfynu galw i mewn gais cynllunio i ddatblygu parc gwyliau ar Ffordd Waen, y Rhyl, Sir Ddinbych.

Proses apeliadau annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig 

27 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan panel apeliadau annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau a wnaed o dan gynllun y taliad sylfaenol (BPS) 2015 yn dilyn ailbrosesu contract preifat yn 2015.
 

Blaenoriaethau’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia tan 2022  

23 Medi 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cymeradwyo'r Cynllun Adfer ar gyfer Dementia.

Parhau i Ddarparu Cymorth ar gyfer Prentisiaethau Pedoli

23 Medi 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i barhau i ddarparu cymorth i gyflogeion yng Nghymru mewn perthynas â Phrentisiaethau  Pedoli.  

Y Gronfa Cymorth Dewisol

23 Medi 2021

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i barhau i lacio rheolau'r Gronfa Cymorth Dewisol am gyfnod ychwanegol o 6 mis hyd at 31 Mawrth 2022 er mwyn lliniaru’r effaith y mae’r pandemig yn parhau i’w chael. Maent wedi cytuno hefyd i estyn yr hyblygrwydd i gynnwys pobl yr effeithir arnynt gan y newidiadau y bwriedir eu cyflwyno i Gredyd Cynhwysol o fis Hydref 2021 ymlaen ac i barhau i roi cymorth tanwydd gaeaf rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth 2022 i gartrefi nad ydynt ar y grid.

Y Gronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol  

23 Medi 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y nodau, y meini prawf a’r trefniadau cyllido ar gyfer y Gronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol.  

Cyllid ar gyfer trefniadau cymorth i rieni mewn perthynas â Deddf Plant Cymru

22 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer trefniadau cymorth i rieni mewn perthynas â Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).

Cyfathrebu a Marchnata Cyngor gan Weinidogion ar derfynau cyflymder 20 milltir yr awr

22 Medi 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo rhyddhau cyllid ar gyfer ymgyrch cenedlaethol i gyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr ar ffyrdd cyfyngedig ar draws Cymru. 

Adolygiad annibynnol o’r Dreth Trafodiadau Tir

22 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gychwyn y broses gaffael er mwyn adolygu’n annibynnol Ddeddf Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

Estyn Llinell Gymorth y Samariaid ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o 2021 hyd 2022

22 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu £50,000 o ddyraniad COVID-19 i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2021 hyd 2022 am gyfnod estynedig o 12 mis i wasanaeth llinell gymorth y Samariaid ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cais galw i mewn - Cais cynllunio llawn 

21 Medi 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penderfynu galw cais cynllunio i mewn ar gyfer datblygiad annedd arfaethedig ar dir yn Llwydlo Fach, Aber-arth, Ceredigion.

Y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth : Penodi aelodau o'r Bwrdd

21 Medi 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i benodi Lyndon Edwards, Catherine Mackenzie, Sarah Bell, Stephen Briggs a Colin Bateman yn aelodau o’r bwrdd ar gyfer y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

Blaenau’r Cymoedd

21 Medi 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo strategaeth economaidd ar gyfer Blaenau’r Cymoedd.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

17 Medi 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Ymgyrch frechu’r gaeaf, helpwch ni i’ch helpu chi (Help Us to Help You)

17 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar y pecyn gweithgarwch cyfathrebu i gefnogi Ymgyrch Frechu’r Gaeaf, helpwch ni i’ch helpu chi (Help us to Help you).

Recriwtio i ofal cymdeithasol

15 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi cynigion i gynyddu’r niferoedd sy’n cael eu recriwtio i’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cyllideb Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru 2021 i 2022

15 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu cyllid yn 2021-22 tuag at gost y swyddfa ar gyfer Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cadw Rhif y GIG ar gyfer Plant wedi’u mabwysiadu

15 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y gall swyddogion ddechrau gweithio gyda swyddogion Llywodraeth y DU a chydweithwyr yn GIG Cymru i ddatblygu a gweithredu newidiadau gweithredol i gadw rhifau GIG ar gyfer plant sy’n cael eu mabwysiadu yng Nghymru a dechrau ar ymarfer ymgysylltu gyda rhanddeiliaid a theuluoedd mabwysiedig yng Nghymru.

Adolygu’r Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol

15 Medi 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynnal adolygiad o’r cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol yng ngoleuni newidiadau i reoliadau COVID-19 y mis Medi hwn.
 

Penderfyniad Cynllunio ar Ddatblygiad o Bwysigrwydd Cenedlaethol – Fferm solar ar Lefelau Gwynllŵg

14 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer Datblygiad o Bwysigrwydd Cenedlaethol ar gyfer fferm solar ar Lefelau Gwynllŵg.

Gwneud is-ddeddfwriaeth - Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2021

14 Medi 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2021

Dileu’r gofyniad i hunanynysu wrth ddychwelyd o wledydd ar y Rhestr Oren: canllawiau ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

14 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ganllawiau ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl dileu’r gofyniad iddynt hunanynysu pan fyddant yn dychwelyd o wledydd ar y rhestr oren.

Nodyn Cyngor Technegol 15

13 Medi 2021

Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar fersiwn newydd o Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol, ac i'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ddisodli'r Map Cyngor Datblygu.

Ymgynghoriad ar y fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid

13 Medi 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyhoeddi adroddiad mewn perthynas â’r ymgynghoriad ar y fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid.

Canolfan ganser newydd Felindre

9 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno caniatáu i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre negodi cyfraniad sydd wedi’i gapio tuag at gostau’r rhai sy’n gwneud cynnig fel rhan o’r broses gaffael ar gyfer canolfan ganser newydd Felindre.

Eye Cymru 2021

9 Medi 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gymorth COVID ychwanegol ar gyfer Eye Cymru 2021.

Datganiad llafar - gwarant i bobl ifanc

9 Medi 2021

Mae’r Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid er mwyn cefnogi’r gwaith o hyrwyddo’r gwarant i bobl ifanc ar gyfer 2021 i 2022.

Memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y BBC a Cymru Greadigol

9 Medi 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y BBC a Cymru Greadigol. 

Recriwtio cynghorydd ysgolion cymunedol ar secondiad

9 Medi 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer recriwtio cynghorydd ysgolion cymunedol ar secondiad.

Cyllid ychwanegol i gefnogi’r strategaeth genedlaethol ar gyfer ymchwil ac ymholiad addysgol

8 Medi 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac addysg wedi cytuno ar gyllid ychwanegol o gronfa wrth gefn Covid i gefnogi nodau ac amcanion y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol yn nghyd-destun penodol ei chyfraniad at y Rhaglen Adnewyddu a Diwygio a’r Rhaglen Lywodraethu.

Caffael dyfeisiau prawf llif unffordd ar gyfer profi olrhain diogelu

8 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i optio allan o gaffael dyfeisiau Profion Llif Unffordd ar gyfer Profi Olrhain Diogelu.

Cronfa olyniaeth rheoli cymru – amrywiadau i’r gronfa

8 Medi 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo a nodi nifer o amrywiadau i Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru, a weithredir gan Fanc Datblygu Cymru.

Caffael dyfeisiau prawf llif unffordd ar gyfer profi olrhain diogelu

8 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gaffael dyfeisiau Profion Llif Unffordd ar gyfer Profi Olrhain Diogelu.

Lleisiau ar gyfer cymhorthion cyfathrebu uwch-dechnoleg

6 Medi 2021

Mae'r Gweinidog Dros Addysg a'r Gymraeg, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi creu model iaith Gymraeg gyda lleisiau plant Cymraeg a lleisiau acennog Cymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru, sy'n dibynnu ar Gymhorthion Cyfathrebu Uwch-dechnoleg/ systemau cyfathrebu amgen a chynyddol i gyfathrebu.

Cyllid grant adferiad diwylliannol

6 Medi 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gam 2 cyllid Grant Adferiad Diwylliannol ar gyfer busnes yng Nghymru.

Darparu gofal iechyd a chymdeithasol mewn carchardai

6 Medi 2021

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar yr ymatebion i'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon blaenorol ar ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn ystâd carchardai oedolion.

Gwerthu eiddo

6 Medi 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo gwerthu eiddo ym Mharc Busnes Clawdd Offa, Y Drenewydd, Powys.

Cymorth ychwanegol ar gyfer darparu cymwysterau

6 Medi 2021

Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid o £3.594 miliwn yn 2021 i 2022 i gefnogi adferiad dysgu, cyflwyno cymwysterau yn 2021 a pharatoadau ar gyfer 2022 er mwyn ymateb i’r tarfu oherwydd COVID.

Penodiad i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

6 Medi 2021

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi'r Athro Andrew Westwell yn Aelod Annibynnol o Brifysgol i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o 10 Awst 2021 tan 9 Awst 2025.

Cymorth ar gyfer Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio

6 Medi 2021

Mae'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd wedi cytuno y dylid darparu cyllideb ychwanegol i sicrhau parhad Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio hyd at ddyddiad diwedd y contract, sef 19 Awst 2022.

Gwasanaeth digidol y Cynnig Gofal Plant

6 Medi 2021

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddatblygu pecyn cymorth tymor byr ar gyfer Pecyn Cymorth Cynnig Gofal Plant Cymru.

Gwaith biomas y Barri

6 Medi 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penderfynu bod Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 wedi cael eu torri mewn perthynas â chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y safle cynhyrchu ynni drwy losgi coed, yn Heol David Davies, y Barri. Cytunodd y Gweinidog na fydd gweithrediadau ar y safle yn cael eu hatal tra bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei baratoi ac ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal.

Athrawon newydd gymhwyso ac adferiad dysgu

6 Medi 2021

Mae Gweibnidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i gefnogi athrawon newydd gymhwyso ac adferiad dysgu yn y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cyllid ar gyfer Grantiau Trafnidiaeth Leol

3 Medi 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer Cynlluniau Cyfalaf o dan y Grant Trafnidiaeth Leol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022. 

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

3 Medi 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno â’r argymhellion yn yr Adroddiad Gwerthuso a baratowyd gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru. 

Cyllid Trafnidiaeth Cymru

2 Medi 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo'r cynnig cyllido ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Swyddog Cyflawni’r Rhyngrwyd Pethau

2 Medi 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ddarparu gwariant, o hyd at £155,549, i ddarparu Swyddog Cyflawni ar gyer y Rhyngrwyd Pethau a grant gweithredol i gefnogi nodau rhaglen y Cymoedd Technoleg.

Cymorth ar gyfer prosiectau ynni

2 Medi 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i sefydlu cynllun grant ynni lleol i gefnogi prosiectau ynni lleol.

Grantiau Trawsnewid Trefi

27 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi cyllid grant ychwanegol Trawsnewid Trefi hyd at £156,302 yn 2021 i 2022 ar gyfer datblygu safle Glan yr Afon (Riverside Venue) yn y Drenewydd.

Y rhaglen alinio cyllid

27 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyfeiriad y Rhaglen Alinio Cyllid yn y dyfodol.

Yr amlosgfa arfaethedig yn Aberhafesb

27 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i  alw i mewn y cais cynllunio ar gyfer adeiladu amlosgfa ar dir yn Ael-Y-Bryn, Aberhafesb, y Drenewydd, Powys

Gosod adeilad ar rent

27 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gais Rhondda Cynon Taf i roi caniatâd ar gyfer gosod Plot 3 ym Mharc Coed Elai ar rent i Mallows Bottling Ltd.

Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

27 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar wariant sy’n gysylltiedig â chynllun cyfathrebu’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

27 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gwerthuso swyddi Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Gwaith atgyweirio yn SA1 Abertawe

26 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i'r gwaith atgyweirio yn SA1 Abertawe.

Newidiadau i Orchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 2008

26 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno ar ddrafft o Orchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth a Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2022 ar gyfer ymgynghori.

Cynnig ar gyfer cymorth apeliadau’r cynllun cymorth preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE  

24 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i estyn y gwasanaethau a ddarperir gan Newfields Law i ddinasyddion yr UE yng Nghymru, o fewn trefniadau’r contract presennol, i gynnwys cymorth ar gyfer apeliadau lle mae gan unigolyn sail i apelio yn erbyn canlyniad ei gais i’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. 

Cyhoeddi mapiau amgylcheddol rhyngweithiol ar gyfer cynllunio morol

24 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y gellir cyhoeddi pecynnau mapio a thystiolaeth ar-lein ar gyfer y sectorau ffrwd llanw, ynni tonnau a dyframaeth.

Gwaredu tir yn Llangefni, Ynys Môn

24 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i drefniant gwaredu tir yn Llangefni, Ynys Môn.

Darparu gwasanaethau ambiwlans brys modern sy'n perfformio'n dda

24 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar fesurau i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth ambiwlans brys modern sy'n perfformio'n dda.

Cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig – Cynigion Prosiect

24 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf y gronfa gofal integredig ar gyfer prosiectau yn rhanbarthau Cwm Taf Morgannwg, Gorllewin Morgannwg, Powys a Chaerdydd a'r Fro.

Datblygu unedau diwydiannol newydd, Parc Bryn Cegin, Bangor, Gwynedd

24 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno y gellir gwerthu buddiant Gweinidogion Cymru yn rhydd-ddaliad llain o dir diwydiannol ym Mangor, ynghyd ag opsiwn i brynu ac i ddyfarnu grant datblygu eiddo i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynllun datblygu diwydiannol. 

Arolwg incwm a gwariant myfyrwyr 2021 i 2022

24 Awst 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer arolwg incwm a gwariant myfyrwyr 2021 i 2022.

Aflonyddu rhywiol a cham-drin rhywiol gan gyfoedion – cynllun prosiect arolwg thematig Estyn

24 Awst 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad o ddiwylliant a phrosesau diogelu mewn ysgolion.

Fframweithiau penderfynu lleol ar reoli heintiadau COVID-19 ar gyfer addysg bellach ac uwch

24 Awst 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyhoeddi fframweithiau penderfynu lleol ar reoli heintiadau COVID-19 i’r sectorau addysg bellach ac uwch ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2021 i 2022.

Cyllid adfer diwylliannol Cymru

23 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid grant adfer diwylliannol cam 2 ar gyfer tri busnes yng Nghymru.

Bwrdd cynghori datblygu diwydiannol Cymru

23 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i osod adroddiad blynyddol Deddf Datblygu Diwydiannol 1982 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020 i 2021, gerbron Senedd Cymru.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru - Penodi Cadeirydd newydd

23 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Chris Martin yn Gadeirydd yr Hwb Gwyddorau Bywyd a'r Athro Syr Mansel Aylward fel Aelod Anweithredol o Fwrdd yr Hwb Gwyddorau Bywyd.

Gweithredu Uned Gwahaniaethau ar sail Hil, Uned Gwahaniaethau ar sail Anabledd ac Uned Data Cydraddoldeb

19 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i weithredu Uned Gwahaniaethau ar Sail Hil, Uned Gwahaniaethau ar sail Anabledd ac Uned Data Cydraddoldeb a fydd dan adolygiad drwy gydol y broses weithredu.

Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar – Prosiect Peilot ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

19 Awst 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i derfynu gwaith pellach mewn perthynas ag Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar - Prosiect Peilot gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwaredu tir

19 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cael gwared ar eiddo rhydd-ddaliadol yn y Drenewydd, Powys.

Gwaredu tir ym Mhort Talbot

19 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gael gwared ar tua 9.8 erw o dir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Cymhwyster Cenedlaethol MA Addysg (Cymru)

19 Awst 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddatblygu'r Cymhwyster Cenedlaethol MA Addysg (Cymru) ymhellach, gan sicrhau ei fod yn cynnwys yr opsiynau ar gyfer dau lwybr arbenigol cychwynnol a bod yr opsiynau ar gyfer cyflwyno cwrs tair blynedd yn cael eu gwireddu.

Moderneiddio Iechyd Meddwl Oedolion - Achos Amlinellol Strategol

19 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r Achos Amlinellol Strategol, y cyntaf o broses cymeradwyo achosion busnes tri cham ar gyfer buddsoddiad sylweddol yn GIG Cymru gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i foderneiddio gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn yr ardal, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Argymhelliad Dyfarniad Cyllid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) 2021 i 2022

19 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau i gyflwyno prosiect cerbydau casglu ULEV gyda chymorth cyfalaf cychwynnol o £6m wedi'i ddyrannu ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cynllun Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2021 i 2022

19 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddull graddol o ymdrin ag ail flwyddyn y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2. Defnyddio £15m o'r gyllideb bresennol o £50m i ehangu blwyddyn gyntaf y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2, a datblygu ail gam y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio 2 gan ddefnyddio'r gyllideb sy'n weddill o £35m.

Ymestyn tymor Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru

19 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn penodiad Dr Peter Groves fel Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru tan fis Mawrth 2025.

Cronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden 2

19 Awst 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden 2, gwerth £4 miliwn, i gefnogi'r sector i ymateb i heriau parhaus pandemig Covid-19.

Hybu Cig Cymru - Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol y Flwyddyn a Ddaeth i Ben ar 31 Mawrth 2021

19 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i osod Datganiadau Ariannol Blynyddol Hybu Cig Cymru 2020 i 2021 gerbron y Senedd ac i Hybu Cig Cymru yn cyhoeddi'r Datganiadau Ariannol ar eu gwefan.

Unedau Profi Symudol Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

19 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru i barhau i gefnogi Unedau Profi Symudol Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Grant Cyfalaf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2021 i 2022

19 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Weinidog wedi cytuno ar £830,622 o gyllid i gefnogi 30 o brosiectau o dan y rhaglen grant cyfalaf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.  

Safonau dylunio newydd i adeiladu tai fforddiadwy yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus

17 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyflwyno’r safonau dylunio “Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021” ar gyfer cartrefi fforddiadwy a ariennir gan gyfalaf tai, i gyhoeddi’r safon ar unwaith ac iddi fod yn gymwys i bob cynllun a gyflwynir ar gyfer cam cysyniad craffu technegol Llywodraeth Cymru o 1 Hydref 2021 ymlaen. 

Cydweithio â chronfa treftadaeth y loteri genedlaethol i hyrwyddo treftadaeth leol

17 Awst 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, Gweinidog yr Economi, a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gydweithio â chronfa dreftadaeth y loteri genedlaethol i hyrwyddo treftadaeth leol.

Cyllid adfer yn sgil Covid i fentrau i gefnogi gwasanaethau a darpariaeth y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae

17 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid adfer yn sgil Covid i fentrau i gefnogi datblygiad plant ac ystod o raglenni cymorth cynnar i geisio mynd i’r afael ag effeithiau’r pandemig.

Taliadau entrepreneuriaeth a chyflawni

17 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i’r taliadau entrepreneuriaeth a chyflawni – Medi a Hydref 2021.

Dogfen fframwaith a llythyr cylch gorchwyl y ganolfan gwasanaethau cyhoeddus digidol

17 Awst 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo dogfen fframwaith a llythyr cylch gorchwyl newydd ar gyfer y ganolfan gwasanaethau cyhoeddus digidol.

Cynllun Adfer Economi Castell-nedd Port Talbot – Cais am Gymorth

16 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar y cais am gymorth a wnaed mewn perthynas â Chynllun Adfer Economi Castell-nedd Port Talbot.

Penderfyniad ar gais o dan y drefn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, fferm solar Tŷ-croes

16 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi penderfynu ar gais gan Spring DEV 02 Limited i osod fferm solar ffotofoltäig ar y ddaear, gan gynnwys llwybr ceblau, ar dir i’r dwyrain o’r A48 a thir i’r de-orllewin o Dŷ-croes, Sir Gaerfyrddin. Mae’r Gweinidog wedi rhoi caniatâd, gan roi amodau ar y caniatâd hwnnw. 

Olynydd i’r rhaglen cyflwyno band eang ffeibr – Estyn y Contract Ansawdd Technegol

16 Awst 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar wariant ychwanegol sy’n gysylltiedig â phrofi a gwirio’r seilwaith a ddefnyddir gan BT o dan y prosiect sy’n olynu rhaglen Cyflymu Cymru ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2021 i 2022 a 2022 i 2023.

Cyllid er mwyn Cymharu Tri Safle Posibl ar gyfer Parc Bwyd

16 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i alluogi gwaith diwydrwydd dyladwy er mwyn cymharu tri safle posibl ar gyfer Parc Gweithgynhyrchu ac Arloesedd Bwydydd o dan raglen y Cymoedd Technoleg.

Polisi a Deddfwriaeth ar Reoli Tybaco 

16 Awst 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo swm o £195,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022 er mwyn helpu i gefnogi’r rhaglen waith ar dybaco.

Cronfa Dyfodol yr Economi  – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 6 Gorffennaf 2021 

16 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect ym Mhowys. 

Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru

16 Awst 2021
 
Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Arian Grant i bum busnes yng Nghymru o dan Gam 2 y Gronfa Adferiad Diwylliannol. 

Eiddo hunanddarpar – gwiriadau ychwanegol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio

16 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i roi cyllid i Asiantaeth y Swyddfa Brisio er mwyn iddi fedru anfon Ffurflenni Datgan statudol i bob eiddo hunanddarpar yng Nghymru bob dwy flynedd, gan ddechrau yn 2021-22 er mwyn ailgadarnhau bod yr eiddo yn dal i fodloni’r meini prawf cymhwyster a nodir yn y rheoliadau.  

Cynllun gwirfoddol Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar draws y DU

16 Awst 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno, mewn egwyddor, y caiff Cymru gymryd rhan mewn cynllun gwirfoddol Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar draws y DU er mwyn mynd i’r afael â sbwriel a staeniau a achosir gan gwm cnoi.

Ariannu Rhaglen Ynni’r Môr

16 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Rhaglen Ynni’r Môr, gan gynnwys Her y Morlynnoedd Llanw, ar gyfer gweddill blwyddyn ariannol 2021-2022. 

Ffïoedd cynghori proffesiynol

16 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar wariant gwasanaeth ymgynghori arbenigol ar gyfer prosiect rheilffyrdd yn y De. 

Cyllid ar gyfer benthyciadau trawsnewid trefi

12 Awst 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i agor cais am geisiadau ar gyfer cynllun benthyciadau newydd trawsnewid trefi sydd werth £5 miliwn ar gyfer 2021 hyd 2022.

Rhaglen ARTHUR – achos busnes amlinellol strategol – prynu data economaidd

12 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo prynu rhifyn 2020 o adroddiad MEDraysintell ar feddyginiaeth niwclear am gost o EUR 15,750.

Ailbenodi aelod annibynnol o’r trydydd sector ar gyfer bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a’r Fro

12 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Sara Moseley yn aelod annibynnol o’r trydydd sector ar gyfer bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a’r Fro am 4 blynedd, o 1 Hydref 2021 hyd 30 Medi 2025. 

Datblygu achos busnes strategol ar gyfer rhaglen ARTHUR

12 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo’r cais am £30,000 (yn cynnwys TAW) ar gyfer datblygu achos busnes amlinellol i’r rhaglen ARTHUR. 

Cynnal Safonau Proffesiynol yng Nghymru

11 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo rhagor o gyllid ar gyfer cynnal gwaith adolygu’r weithdrefn Cynnal Safonau Proffesiynol yng Nghymru er mwyn ymchwilio i bryderon a mynd i’r afael â nhw ynghylch gallu, perfformiad ac ymddygiad ar gyfer yr holl feddygon a deintyddion a gyflogir gan sefydliadau’r GIG yng Nghymru. 

Cymeradwyo cynllun yswiriant Griffiths and Armour ar gyfer Arolygwyr Cymeradwy

11 Awst 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gymeradwyo cynllun yswiriant Griffiths and Armour ar gyfer Arolygwyr Cymeradwy. 

Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 2008 – ymgynghoriad a newidiadau i OS

11 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno y gall Llywodraeth y DU gynnal un ymgynghoriad ar ran Gweinidogion Cymru, a chyda’u cymeradwyaeth nhw, ar draws y DU ar gyfer cyfnod byrrach o chwe wythnos ac wedi cytuno y gall Ysgrifennydd Gwladol Defra wneud diwygiadau i Orchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth. 

Ehangu tîm cyflawni Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol

11 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid i ehangu tîm cyflawni Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol.

Ymestyn Contract - Darparu Cyngor Cyfreithiol Arbenigol mewn perthynas â gweinyddu Dawnus

11 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i Ymestyn Contract Hugh James LLP, sy’n darparu cyngor cyfreithiol arbenigol mewn perthynas â gweinyddu cwmni Dawnus.

Canllawiau newydd sydd â goblygiadau i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed

11 Awst 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi Cylchlythyr Llywodraeth Cymru WGC 005/2021 i ddarparwyr gofal plant a chwarae cofrestredig a phartïon eraill â diddordeb ar 20 Gorffennaf 2021.  

Ailbwrpasu Benthyciad Dulliau Adeiladu Modern Cartrefi Melin

11 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ailbwrpasu benthyciad cyfalaf trafodiad ariannol presennol er mwyn ei gwneud yn bosibl darparu cartrefi cymdeithasol newydd gan ddefnyddio Dulliau Adeiladu Modern.

Cynllun Peilot Profi Poer LAMP Optigene

11 Awst 2021
 
Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i beidio â datblygu cynllun peilot profi poer LAMP ym Mhrifysgol Abertawe.

Canllaw i Gymru’r Dyfodol

11 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi Canllaw i Gymru’r Dyfodol: Cwestiynau Cyffredin, 2il Argraffiad.

Mynediad at Naloxone

10 Awst 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i ymuno ag ymarfer ymgynghori a gynhelir ar draws y DU gyfan ynglŷn ag ehangu mynediad at Naloxone.

Gwasanaethau niwroddatblygu

10 Awst 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar fesurau i wella gwasanaethau niwroddatblygu, gan ganolbwyntio i ddechrau ar anabledd dysgu, awtistiaeth, ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd.

Adolygiad Barnwrol mewn perthynas â phenderfyniad apêl gynllunio

10 Awst 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i’r Arolygiaeth Gynllunio ymdrin â’r Adolygiad Barnwrol sydd wedi ei ddwyn ymlaen gan y Treatment Hub.

Cymorth i’r gweithlu addysg

9 Awst 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg,  y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo cyllid i sicrhau bod cymorth iechyd meddwl a llesiant yn parhau i’r gweithlu addysg yng Nghymru.

Penodiad i Chwaraeon Cymru

9 Awst 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo’r trefniadau ar gyfer penodi Cadeirydd newydd i Chwaraeon Cymru. 

Metro Gogledd Cymru

9 Awst 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo rhagor o gyllid ar gyfer rhaglen Metro Gogledd Cymru.

Cynllun Rhwydwaith Effeithlonrwydd Gwresogi

9 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i Gymru optio i mewn i arddangoswr y Cynllun Rhwydwaith Effeithlonrwydd Gwresogi, sy’n cael ei redeg gan BEIS, yn ystod y flwyddyn ariannol hon. 

Llacio amodau cynllunio

9 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ysgrifennu i awdurdodau cynllunio lleol i ofyn iddynt barhau i lacio ar yr orfodaeth o amodau sy’n cyfyngu ar gyflenwadau manwerthu, gan gynghori manwerthwyr bwyd mawr i ddychwelyd at yr oriau agor a nodir yn eu caniatâd cynllunio. 

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

9 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Carolyn Donoghue yn Aelod Annibynnol (Prifysgol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, am 4 blynedd, o 4 Awst 2021 hyd at 3 Awst 2025.

Y rhaglen brechu yn erbyn COVID-19

9 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar rôl gofal sylfaenol o ran darparu’r rhaglen brechu yn erbyn COVID-19, yn benodol y brechlyn Pfizer.

Cymorth i gynghorau cymuned a chynghorau tref

5 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid i sefydlu swydd Swyddog Digidol i gefnogi'r sector cynghorau cymuned a chynghorau tref yng Nghymru.

Swydd Cydgysylltydd Cenedlaethol Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

5 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn secondiadau’r swydd Cydgysylltydd Cenedlaethol Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol

5 Awst 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer proses caffael i gomisiynu'r gwaith o ddatblygu canllawiau y gall awdurdodau lleol gyfeirio atynt wrth lunio tystiolaeth i ysgrifennu Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol.

Gofal Cymdeithasol Cymru

5 Awst 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Gynllun Busnes Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2021 i 2022.

Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif

5 Awst 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo'r Achos Busnes ar gyfer Campws y Tyllgoed, Caerdydd o dan Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif.

Penodi i Dewis Gyrfa (Gyrfa Cymru)

5 Awst 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ymarfer penodi ar gyfer Cadeirydd newydd i Dewis Gyrfa (Gyrfa Cymru).

Casglu deunydd ailgylchadwy ar garreg y drws yn Sir Gaerfyrddin

5 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ‘mewn egwyddor’ ar gyllid i wneud newidiadau i gasgliadau deunydd ailgylchadwy ar garreg y drws yn Sir Gaerfyrddin.

Arolwg o Incwm a Gwariant Myfyrwyr

5 Awst 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer yr Arolwg o Incwm a Gwariant Myfyrwyr, 2021 i 2022.

Cyflenwadau meddyginiaethau

5 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar drefniadau ar gyfer rheoli cyflenwadau meddyginiaethau pe bai rhywbeth yn amharu ar y farchnad feddyginiaethau.   

Tracio gwastraff yn ddigidol

5 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo’r papur ymgynghori a’r Asesiad Effaith ar gyfer ei gwneud yn orfodol i dracio gwastraff yn ddigidol.

Pwysau Iach: Cymru Iach

5 Awst 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cynllun Cyflawni Pwysau Iach; Cymru Iach 2022 i 2024.

Integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol

5 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo rhaglen ariannu bum mlynedd newydd ar gyfer integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru o fis Ebrill 2022.

Cais cymeradwyaeth fenthyca

5 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo rhoi cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Tref Tywyn.

Dysgu proffesiynol Anghenion Dysgu Ychwanegol

2 Awst 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer dysgu proffesiynol Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd wedi’i achredu.

Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

2 Awst 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gweithgareddau’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yng Nghymru  yn 2021 i 2022

Ailbenodi i CCAUC

2 Awst 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo ailbenodi Dr John Graystone fel aelod o gyngor CCAUC.

Cais am fenthyciad

30 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi c gymeradwyo benthyciad i Gyngor Tref Castell-nedd.

Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo i Ddinasyddion yr UE

30 Goffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i barhau â’r contract gyda Newfields Law am Wasanaeth Cynghori ar Fewnfudo i Ddinasyddion yr UE am chwarter arall.

Rhaglenni astudio ôl-16 arbenigol

30 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.  

Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

30 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid i ymestyn sawl swydd yn Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru am 12 mis arall.

Strategaeth cyfarpar diogelu personol

29 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y strategaeth cyfarpar diogelu personol ar gyfer 2021 i 2022.

Cronfa Dyfodol yr Economi

29 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Ngwynedd.

Grant ENABLE

28 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Prif Weinidog wedi cytuno i gynyddu’r grant ENABLE i awdurdodau lleol.

Addasiadau tai

28 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi Dadansoddiad Lefel Uchel o’r Data ar Addasiadau Tai 2019 i 2020.

Cyllid ar gyfer y Fframwaith Proffesiynau Perthynol i Iechyd

28 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y dyraniad cyllid ar gyfer 2021 i 2022 mewn perthynas â’r Fframwaith Proffesiynau Perthynol i Iechyd.

Rhaglen diogelu ac eiriolaeth

28 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gwaith y rhaglen diogelu ac eiriolaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Coedwig Genedlaethol

28 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i lansio Grant Buddsoddi mewn Coetir y Goedwig Genedlaethol er mwyn cyllido’r gwaith o greu ac ehangu coetiroedd ledled Cymru yn 2021 i 2022. 

Cyllideb Arolygiaeth Gynllunio Cymru

27 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllideb flynyddol o £2,997,000 ar gyfer Arolygiaeth Gynllunio Cymru, ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU

26 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyfundrefn codi tâl arfaethedig Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU 2021 i 2022.

Llwyth gwaith gormodol mewn addysg bellach

26 Gorffennnaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi prosiect i adolygu llwythi gwaith mewn addysg bellach.

Cyllid adfer diwylliannol

26 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid grant adfer diwylliannol Cam 2 ar gyfer tri busnes yng Nghymru.

Cam darganfod ar gyfer moderneiddio TG i ddadansoddwyr

26 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo gwariant o hyd at £75,000 a TAW i ariannu “cam darganfod” ar gyfer moderneiddio TG i ddadansoddwyr yn Llywodraeth Cymru.

Cyllid ychwanegol ar gyfer hyfforddiant beicio

22 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i wneud £500,000 ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol i ddarparu hyfforddiant beicio ychwanegol ar gyfer oedolion a phlant yn 2021 i 2022.

Cefnogi Prentisiaethau Adeiladu Arbenigol

22 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gontract pedair blynedd gael ei roi i Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu i gefnogi prentisiaethau mewn adeiladu a sgaffaldio. 

Gwasanaethau Cymorth ar gyfer Iechyd Meddwl Gweithlu GIG a Gofal Cymdeithasol Cymru

22 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo cyngor i gomisiynu ymarfer tendro i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl ar gyfer gweithlu’r GIG a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. 

Sefydlu System newydd ar gyfer Monitro, Rheoli a Goruchwylio

22 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i barhau i gydweithio â Sefydliad Rheoli Morol er mwyn datblygu’r datrysiad TG newydd ar gyfer cofnodi, casglu ac adrodd ar ddata goruchwylio ac arolygu pysgodfeydd y DU, cyllido’r costau datblygu a gwella parhaus o brosiect Rheoli a Gorfodi Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a neilltuo cyllid er mwyn talu costau refeniw parhaus y system hon. 

Ymestyn y Rhyddhad Ardrethi o 100% i Fusnesau Bach ar gyfer darparwyr gofal plant cofrestredig

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i estyn y Rhyddhad Ardrethi o 100% i Fusnesau Bach ar gyfer meithrinfeydd gofal dydd cofrestredig am gyfnod pellach o dair blynedd (hyd at 31 Mawrth 2025).

Cyhoeddi adroddiad Karel Williams o Foundational Economy Research 

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi adroddiad Foundational Economy Research Ltd –  ‘Small Towns, Big Issues: aligning business models, organisation, imagination’ ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyllid Grant ar gyfer Ariannu Camerâu Diogelwch yng Nghymru 2021 i 2022

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid grant refeniw ar gyfer Gan Bwyll, Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, o hyd at £2,550,000 yn 2021 i 2022 i helpu i redeg dwy swyddfa docynnau a sicrhau bod camerâu diogelwch yn cael eu defnyddio ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

21 Gorffennaf 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gynllun recriwtio i benodi Llywydd ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Pasbort Diogelwch Tân ar gyfer Adeiladau

21 Gorffennaf 2021
 
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer adeiladau preswyl talach i arwain y gwaith o gyflwyno 'Pasbort Diogelwch Tân' ar gyfer adeiladau. 

Penodi cadeirydd newydd ar gyfer Bwrdd Dewis Gyrfa

21 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Benodiad Cyhoeddus yn 2021 i recriwtio Cadeirydd ar gyfer Bwrdd Dewis Gyrfa (Gyrfa Cymru).

Prosiect Sgiliau Bwyd Lantra Cymru

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi cytuno i wneud arian ar gael i barhau â Phrosiect Lantra – Sgiliau Bwyd Cymru.

Penodi Cadeirydd a Bwrdd dros dro ar gyfer y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo penodi Jessica Leigh Jones yn Gadeirydd dros dro a Darius Pocha, Ruth Glazzard, Neil Prior a Derek Walker yn aelodau dros dro o Fwrdd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Adroddiad arolwg Beaufort ar agweddau'r cyhoedd ac ymgynghoriad cyhoeddus ar y  Terfyn Cyflymder Diofyn Cenedlaethol o  20mya

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyhoeddi canlyniadau adroddiad arolwg Beaufort ar agweddau cyhoeddus, a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Terfyn Cyflymder Diofyn Cenedlaethol o 20mya.

Ymgyrch 'Siarad Gyda Fi'

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynnydd o £250,000 i gyllideb 'Siarad Gyda Fi' ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.

Ymestyn penodiadau Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar estyniad un flwyddyn ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Martin Buckle, y tri phenodai cyhoeddus a'r 11 aelod enwebedig.

Caffael contractwyr i Adeiladu Safle Rheoli Ffin Gogledd Cymru

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd a Gweinidog yr Economi wedi cytuno i gyhoeddi'r pecyn tendro ar gyfer contractwyr i ddylunio ac adeiladu Safle Rheoli Ffin Gogledd Cymru.

Cynlluniau recriwtio ar gyfer Penodi Aelod Annibynnol (Cyllid) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynllun recriwtio ar gyfer penodi Aelod Annibynnol (Cyllid) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Cynlluniau recriwtio ar gyfer Penodi Aelod Annibynnol (y Gymuned) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynllun recriwtio ar gyfer penodi Aelod Annibynnol (y Gymuned) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cynlluniau recriwtio i Benodi Aelod Annibynnol (y Trydydd Sector) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynllun recriwtio ar gyfer penodi Aelod Annibynnol (y Trydydd Sector) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Canolfan Seren 

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gweithgareddau i'w cefnogi drwy raglen Seren yn ystod 2020 i 2021.

Diwygio'r Cwricwlwm 

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno ar y camau nesaf arfaethedig ar gyfer gweithredu Cwricwlwm i Gymru. Bydd y rhain yn cael eu rhannu mewn Datganiad Llafar i'r Senedd.

Cynnig Lleoliad STEP

21 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gynnig Lleoliad STEP – cais ail gam am gymorth arian cyfatebol Cyngor Sir Penfro.

Cymhorthdal Cyflog a Chymorth Cydgysylltwyr ar gyfer y Cynllun Prentisiaethau Adeiladu

21 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyfraniad ariannol ar gyfer mentora gan gydgysylltwyr a chymorth llesiant ac, os oes angen, cymhorthdal cyflog  brentisiaid ar gyfer prosiectau adeiladu Prentisiaeth a Rennir Cyfle ac y Prentis ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022. 

Penodi Aelodau Enwebedig i Gyngor y Gweithlu Addysg 2021

21 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno ar y weithdrefn ar gyfer penodi dau aelod enwebedig i Gyngor y Gweithlu Addysg.

Parhau i ariannu setliadau peilot 20 mya 2021 i 2022

19 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau â’r cyllid grant ar gyfer gweithredu cam cyntaf / setliadau peilot 20mya.

Amrywio cytundeb cyfreithiol

19 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ddiwygio cytundeb cyfreithiol a chyllideb er mwyn hwyluso newid camau’r gwaith sy’n gysylltiedig â Gorsaf Bysys Caerdydd.

Ymestyn tymor cynghorwyr cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig, a thrais rhywiol

19 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Yasmin Khan a Nazir Afzal OBE yn gynghorwyr cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig, a thrais rhywiol.

Datblygu Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer Cynllunio Morol

19 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno’r rhaglen waith ar gyfer cynllunio morol i fapio a nodi ardaloedd adnoddau strategol posibl.

Cyllid ar gyfer rhaglen/rhaglenni ôl-16

19 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen/rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.  

Cyllid Adferiad Diwylliannol Cymru

15 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Gyllid Grant Adferiad Diwylliannol Cam 2 ar gyfer dau fusnes yng Nghymru.

Gosod adroddiad blynyddol Ofgem yn y Senedd

15 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i osod adroddiad blynyddol Ofgem gerbron y Senedd.

Papur Statws Brechu / Datrysiad dros y Ffôn

15 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno, yn dilyn y cyfnod interim llwyddiannus, y dylai Dinas a Chyngor Abertawe barhau i ddarparu gwasanaeth ffôn i bobl Cymru allu gofyn am dystysgrifau statws brechu ar bapur tan o leiaf 31 Mawrth 2022.

Y Cynllun Tir ar gyfer Tai 2021 i 2022

15 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i barhau â'r Cynllun Tir ar gyfer Tai, er mwyn defnyddio'r dyraniad o £10m yn 2021 i 2022 o arian Cyfalaf Trafodiadau Ariannol ac mae wedi nodi amseriad a thelerau arfaethedig y Cynllun Tir ar gyfer Tai o 2021 i 2022.

Strategaethau Ynni Rhanbarthol

14 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ardystio’r cyfeiriad strategol y mae’r strategaethau ynni rhanbarthol yn ei gynrychioli ac i gyhoeddi strategaethau ynni rhanbarthol. 

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol 

14 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol. 

Penodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

14 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynllun recriwtio ar gyfer penodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. 

Adolygu’r Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai a Gofrestrwyd yng Nghymru 

14 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i ymgynghori ar Statws a Safonau Rheoleiddiol drafft ar gyfer y Fframwaith Rheoleiddio Cymdeithasau Tai a Gofrestrwyd yng Nghymru ac i gyfnod ymgynghori byrrach o chwe wythnos gyda’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal drwy aelodau’r Grŵp Cynghori ar Reoleiddio.

Cymorth ar gyfer Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota 2021 i 2025

14 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Raglen Clystyrau Darbodus Toyota – 2021 i 2025.

Cyllideb datblygu Gofal Sylfaenol – 2021 i 2022

14 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid Llywodraeth Cymru 2021 i 2022 ar gyfer datblygiad parhaus gwasanaethau gofal sylfaenol. 

Ymgynghoriad cyhoeddus ac asesiadau effaith – terfyn cyflymder diofyn o 20mya 

14 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi canlyniadau adroddiad arolwg agweddau  cyhoeddus Beaufort a’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Terfyn Cyflymder Diofyn Cenedlaethol o 20mya.

Rhaglen Ysgolion a Cholegau 21ain Ganrif – Amrywiadau achosion busnes yn ystod Mehefin 2021

14 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar argymhellion a wnaed gan y Panel Buddsoddi  Addysg ar yr amrywiadau achosion busnes yn ystod Mehefin 2021.

Rhaglen Ysgolion a Cholegau 21ain Ganrif – Cyfradd ymyrraeth a chymeradwyo achos busnes Coleg Catholig Dewi Sant 

14 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar yr argymhellion a wnaed gan y Panel Buddsoddi Addysg ym mis Mehefin i gymeradwyo cyfradd ymyrraeth cyllid uwch gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Coleg Catholig Dewi Sant yng Nghaerdydd a’u cynllun cyfalaf cyntaf o dan y Rhaglen.

Ymestyn y gyfradd adrodd ar gyfer y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol 

14 Gorffennaf 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer adrodd yn erbyn y camau gweithredu ym Mlwyddyn 3 y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, hyd 30 Mehefin 2022.

Cefnogaeth ddigidol ôl-16 a’r defnydd effeithiol o dechnoleg 

14 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer cefnogaeth ddigidol ôl-16 a’r defnydd effeithiol o dechnoleg.

Ysgolion 21ain Ganrif 

14 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cytuno ar yr argymhellion a wnaed gan y Panel Buddsoddi Addysg ar yr achosion busnes Cynllun Amlinellol Strategol / Achos Busnes Amlinellol / Achos Busnes Llawn / Achos Cyfiawnhad Busnes yn ystod mis Mehefin 2021.

Cyllid cyfalaf Dechrau’n Deg 2021 i 2022

14 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo newidiadau i’r rhaglen gyfalaf Dechrau’n Deg ar gyfer 2021 i 2022.

Amrywiad grant cyfalaf o’r cyllid Cynnig Gofal Plant 

14 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo amrywiad grant cyfalaf mewn perthynas â throsglwyddo cyllid cyfalaf gofal plant. 

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol

12 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol.

Gwaredu tir ym Mae Caerdydd

12 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i werthu tir ym Mae Caerdydd. 

Cyfrifon blynyddol bwrdd marchnata gwlân Prydain

8 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cymeradwyo cynnwys adroddiad blynyddol a chyfrifon bwrdd marchnata gwlân Prydain ar gyfer 2018 hyd 2019 a 2019 hyd 2020 ac wedi cytuno iddynt gael eu gosod gerbron Senedd y DU.

Adroddiad blynyddol 2020 hyd 2021 y Pwyllgor ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol 

8 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi adroddiad blynyddol 2020 hyd 2021 y Pwyllgor ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol. 

Ymgynghoriad ar welliannau i les anifeiliaid ym maes trafnidiaeth

8 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cymeradwyo’r Crynodeb o Ymatebion ac Ymateb y Llywodraeth i’r Ymgynghoriad ar Welliannau i Les Anifeiliaid ym maes Trafnidiaeth ac wedi cytuno iddo gaelei gyhoeddi. 

Fframwaith datblygu’r sector bwyd 2022 hyd 2025/26

8 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gynnal ymarfer caffael agored drwy GwerthwchiGymru ac wedi cytuno y gall fframwaith newydd o gontractwyr a ffefrir gael ei ddatblygu. 

Cyllid ychwanegol ar gyfer ymateb brys i ddigartrefedd

8 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y gall yr ymateb brys i ddigartrefedd barhau hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol 2021-2022, gan ddefnyddio cyllid ychwanegol a ddyranwyd i gronfa caledi’r awdurdodau lleol. Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol hefyd wedi cytuno i ddyrannu £10m yn ychwanegol i’r gronfa caledi awdurdodau lleol ar gyfer yr ymateb brys i ddigartrefedd. 

Diweddariad ar recriwtio 100 yn fwy o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu

8 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo ar y cyd drefniadau ar gyfer cyllido costau recriwtio ac adleoli 100 yn fwy o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu er mwyn cyflawni ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. 

Cronfa Dyfodol yr Economi 

8 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Rhondda Cynon Taf.

Cronfa Dyfodol yr Economi 

8 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar gyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerffili.

Ymgynghoriad ar is-ddeddfwriaeth ar drefniadau asesu o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

8 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Ymgynghoriad ar yr Is-ddeddfwriaeth ar drefniadau asesu ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Un llwybr canser

8 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i ddarparu cyllid ar gyfer y llwybr lle’r amheuir canser a bwrdd rhwydwaith canser Cymru. 

Cynghorwyr Proffesiynol i helpu i weithredu’r cwricwlwm 

8 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi rhoi cymeradwyaeth ar gyfer recriwtio dau gynghorydd proffesiynol i helpu i weithredu’r Cwricwlwm i Gymru.

Penodi Aelod Annibynnol – Cyffredinol/Busnes Corfforaethol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

8 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynllun recriwtio ar gyfer penodi Aelod Annibynnol – Cyffredinol/Busnes Corfforaethol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Estyn Cytundeb Benthyca

8 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i estyn cytundeb benthyca ar delerau masnachol. 

Grwpiau Cyswllt mewn Lleoliadau Gofal Plant

8 Gorffennaf 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddileu’r angen i gadw plant mewn lleoliadau gofal plant yn yr un grwpiau cyswllt. 

Cyhoeddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19

5 Gorffennaf 2021

Mae Prif Weinidog Cymru a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar drefniadau ar gyfer cyhoeddi Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.

Statws Brechu Ar-lein

5 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar ddull digidol o alluogi dinasyddion Cymru i gael mynediad at eu statws brechu o ran Covid-19 ar-lein, ac wedi cytuno ar gyllid i dalu cost ei weithredu o ddyraniad ariannol Profi, Olrhain, Diogelu.

Fframwaith Gweithredu Olrhain Cysylltiadau ar gyfer y Drydedd Don

5 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar Fframwaith Gweithredu Olrhain Cysylltiadau.

Ymgynghori ar yr Adolygiad o Bolisi Datgomisiynu Niwclear a Sylweddau Ymbelydrol

5 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno y dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori â Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban ar Adolygiad o Bolisi Datgomisiynu Niwclear a Sylweddau Ymbelydrol.

Llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chomisiynydd Plant Cymru

5 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i lofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Chomisiynydd Plant Cymru sy’n amlinellu’r trefniadau gwaith rhwng Comisiynydd Plant Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dyraniad arfaethedig cyllideb refeniw yr Is-adran Dysgu Digidol ar gyfer 2021 i 2022

5 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer gwariant a dyraniadau cyllideb refeniw 2021 i 2022 mewn perthynas â’r Is-adran Dysgu Digidol.

Benthyciadau Effeithlonrwydd Ynni’r Sector Cyhoeddus

5 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i arian a adenillir gael ei ddefnyddio ar gyfer benthyciadau a grantiau ad-daladwy lle mae ymrwymiadau wedi’u gwneud, benthyciadau sy’n cael eu profi ar hyn o bryd, a buddsoddiadau pellach lle gwneir ceisiadau.

Galw cais cynllunio i mewn

5 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod cais i alw cais cynllunio i mewn ar gyfer 25 o anheddau preswyl fforddiadwy, mynediad, man parcio ceir, gwaith tirlunio a draenio a'r holl waith cysylltiedig ar dir i'r gogledd o Ffordd Brynna, Brynna, Rhondda Cynon Taf.  

Mapiau sŵn

5 Gorffennaf 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gaffael mapiau sŵn newydd i Gymru, ac i gaffael cyngor a chymorth arbenigol i helpu i gyflwyno Nodyn Cyngor Technegol newydd ar ansawdd aer, sŵn a seinwedd.

Taliadau entrepreneuriaeth a chyflenwi

5 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ryddhau taliadau ym mlynyddoedd ariannol 2021 i 2022, 2022 i 2023 a 2023 i 2024.

Cais cynllunio

1 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod cais cynllunio a alwyd i mewn ar gyfer annedd ar dir gyferbyn â Phenllwynbedw Fawr, Tynreithin, Tregaron, Ceredigion.

Cais cynllunio

1 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod cais cynllunio a alwyd i mewn ar gyfer adeiladu byngalo a gweithdy newydd ar safle ger Tŷ Alaw, Ponthirwaun, Aberteifi, Ceredigion, SA43 2RL. 

Cais cynllunio

1 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi gwrthod cais cynllunio a alwyd i mewn ar gyfer adeiladu annedd fforddiadwy ar dir ar Fferm Moch, Ffostrasol, Llandysul, Ceredigion.

Y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif

1 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i’r argymhellion a wnaed gan y Panel Buddsoddi Addysg ym mis Mehefin i gymeradwyo cynnydd yng nghyfradd ymyrraeth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Coleg Catholig Dewi Sant yng Nghaerdydd a’u cynllun cyfalaf cyntaf o dan y Rhaglen.

Ymestyn cynllun iechyd meddwl adran 64 a phrosiectau adfer iechyd meddwl

1 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cymeradwyo ymestyn cynllun grant iechyd meddwl adran 64 a phrosiectau adfer iechyd meddwl hyd at fis Mawrth 2022.

Strategaeth Bioddiogelwch Iechyd Planhigion diwygiedig ar gyfer Prydain Fawr

1 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cytuno i ddatblygu Strategaeth Bioddiogelwch Iechyd Planhigion diwygiedig ar gyfer Prydain Fawr.

Penodiadau i fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru

1 Gorffennaf 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i hysbysebu ar gyfer 3 cyfarwyddwr anweithredol i fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru ac ymestyn y cyfnod mewn swydd ar gyfer 2 gyfarwyddwr anweithredol interim am 3 mis arall o fis Hydref 2021.

Y Rhaglen Addysg Ryngwladol 2021 i 2022

1 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cyflawni’r Rhaglen Addysg Ryngwladol yn ystod 2021 i 2022.

Cyllid brys i fusnesau

1 Gorffennaf 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cymeradwyo cyllid brys pellach ar gyfer busnesau sy'n parhau i fod ar gau neu sy'n cael eu effeithio'n ddifrifol gan gyfyngiadau, ac wedi nodi ei bod yn bosibl mai dyma’r cymorth terfynol o'r fath i fusnesau sydd bellach yn gallu masnachu – yn amodol ar rai amodau.

Oriau gweithredu llinell gymorth y Gwasanaeth Allforio Pysgod

30 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i leihau oriau gweithredu llinell gymorth y Gwasanaeth Allforio Pysgod o 24 awr saith diwrnod yr wythnos i rhwng dydd Llun a dydd Gwener 07:00 – 20:00, a chyfuno llinell gymorth y Gwasanaeth Allforio Pysgod â’r llinell gymorth Cofnodi Dalfeydd.

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth - Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

30 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth - Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Innovate UK.

Meini prawf newydd ar gyfer cymeradwyo cynlluniau yswiriant i Arolygwyr Cymeradwy

30 Mehefin 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar feini prawf newydd ar gyfer cymeradwyo cynlluniau yswiriant i Arolygwyr Cymeradwy 2021 a chyhoeddi cylchlythyr yn esbonio'r newidiadau.

Cyhoeddi Asesiad Cynhwysfawr Cenedlaethol o wresogi ac oeri

30 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gyhoeddi'r Asesiad Cynhwysfawr Cenedlaethol o'r potensial ar gyfer gwresogi ac oeri effeithlon.

Cyllid ar gyfer Gweithgarwch Ymchwil Economaidd a Chyllidol yn 2021 i 2022

29 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £100,000 o gyllid ar gyfer gweithgarwch ymchwil economaidd a chyllidol yn y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Cytundeb Defnyddwyr Maes Awyr

29 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ganiatáu Cytundeb Defnyddwyr Maes Awyr newydd i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn (MOD) ym Mharc Busnes Bro Tathan.

Prydau ysgol am ddim

28 Mehefin 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim, ar gyfer disgyblion cymwys, yn ystod gwyliau ysgol 2021 i 2022.

Astudiaethau addysg bellach arbenigol

28 Mehefin 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau.

Ysgol Uwchradd Gatholig Cardinal Newman

28 Mehefin 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gais Cyngor Rhondda Cynon Taf i ohirio dyddiad gweithredu ei gynnig i ddileu’r chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Gatholig Cardinal Newman o 1 Medi 2022 i 1 Medi 2023.

Cyllid ychwanegol y Gronfa Adfer Diwylliannol

28 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniad o £8m o gronfeydd wrth gefn ar gyfer y Gronfa Adfer Diwylliannol o 2021 i 2022 yn unol â'r cyllid y cytunwyd arno'n flaenorol o hyd at £30m i helpu i gefnogi'r sectorau diwylliant, y celfyddydau, creadigol a threftadaeth o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.

Cynghorydd Proffesiynol y Cyfnod Sylfaen

28 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno i ariannu'r broses o recriwtio Cynghorydd Proffesiynol y Cyfnod Sylfaen i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu Cwricwlwm i Gymru a'r Rhaglen Adnewyddu a Diwygio am ddwy flynedd o fis Medi 2021.

Cymorth ar gyfer Wythnos Tech a gynhelir gan Technology Connected - 21 i 25 Mehefin 2021

28 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno ar ddarparu cyllid i Technology Connected i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Wythnos Tech Cymru 2021.

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg: 2020 i 2021

28 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg wedi cytuno ar Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020 i 2021.

Achos Busnes Llawn Machynlleth

28 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar yr Achos Busnes Llawn gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gyfer Canolfan Iechyd a Llesiant newydd ym Machynlleth gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Y Rhaglen Genedlaethol Delweddu Diagnostig 2021 i 2022

28 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gyllid cyfalaf 2021 i 2022 ar gyfer Rhaglen Genedlaethol Delweddu Diagnostig.

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg: 2020 i 2021

28 Mehefin 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg 2020 i 2021.

Adolygiad Perfformiad Amgylcheddol y DU y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)

28 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno bod swyddogion, ar ran Gweinidogion Cymru, yn cysylltu â'r OECD o ran Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr y DU.

Gwerthuso ymddygiad o ran profion COVID-19 asymptomatig torfol

24 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gomisiynu ymchwil i werthuso ymddygiad sy’n ymwneud â phrofion COVID rheolaidd gan ddefnyddio Dyfeisiau Llif Unffordd yng Nghymru.

Ffioedd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru

24 Mehefin 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo darparu cyllid pellach i CBAC i alluogi lleihau ffioedd mynediad ymhellach a chefnogi CBAC gyda chostau gweinyddu apeliadau fel na fydd dysgwyr yn wynebu unrhyw ffioedd ar gyfer apeliadau yn 2021.

Gorchymyn Prynu Gorfodol – Cyngor Cwnsler y Frenhines – Gorsaf Bŵer Baglan

24 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ddarpariaeth i geisio barn Cwnsler y Frenhines ynglŷn â rhoi gorchymyn prynu gorfodol ar gyfer gorsaf bŵer.

Cronfa gofal integredig - ariannu cyfalaf

24 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau yn rhanbarthau Cwm Taf, y Gogledd, Gwent a Chaerdydd a’r Fro.

I CAN Work IPS (Lleoliad a Chymorth Unigol)  Cam 2

24 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i roi cyfraniad arian cyfatebol tuag at gynnig 3 blynedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gyda 70% wedi’i ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau) ar gyfer 2021-22 i gyfrannu at waith cychwynnol a llwyddiannau cynllun peilot prosiect IPS I CAN Work yn ail gam y broses ddarparu.

PPPATI (cynllun profi gwrthgyrff ar ôl prawf positif) cynllun profi gwrthgyrff PCR (adwaith cadwynol polymerasau) ar ôl prawf positif

24 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i optio i mewn i’r cynllun profi gwrthgyrff ar ôl prawf positif (PPATI) gan yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a fydd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2021.

Addasu benthyciad cyfalaf trafodiadau ariannol presennol at ddiben arall i alluogi dulliau adeiladu modern gan Gartrefi Conwy

24 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i addasu benthyciad cyfalaf trafodiadau ariannol presennol at ddiben arall i alluogi Cartrefi Conwy i gynhyrchu a darparu 411 o gartrefi cymdeithasol dros gyfnod o 7 mlynedd gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

23 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan Banel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod Cynllun Taliad Sylfaenol 2018 ar gyfer gweithgareddau amaethyddol gan na chafwyd unrhyw dystiolaeth ategol erbyn 15 Mai, ac na chafwyd unrhyw hysbysiad y byddai gweithgaredd yn digwydd ar ôl 15 Mai a thystiolaeth yn cael ei chyflwyno o fewn 30 diwrnod i'r gweithgaredd ddigwydd.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

23 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan Banel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod un o hawliadau cyfnod 1 y Grant Busnes i Ffermydd yn dilyn archwiliad yn y fan a’r lle oherwydd bod rhywfaint o'r offer a brynwyd wedi'i ddefnyddio at ddibenion contractio a bod rhywfaint ohono yn arfer bod yn offer ar log a’i fod felly’n ail law.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

23 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan Banel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod un o geisiadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2017 gan na dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth ategol ar gyfer "gweithgareddau amaethyddol" erbyn dyddiad cau Ffurflen Cais Sengl 2017 ac na dderbyniwyd hysbysiad erbyn 15 Mai, y byddai gweithgaredd yn digwydd ar ôl 15 Mai a thystiolaeth yn cael ei chyflwyno o fewn 30 diwrnod i'r gweithgaredd ddigwydd.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

23 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan Banel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod un o hawliadau cyfnod 1 y Grant Busnes i Ffermydd yn dilyn archwiliad yn y fan a’r lle oherwydd bod rhywfaint o'r offer a brynwyd wedi'i ddefnyddio at ddibenion contractio a bod rhywfaint ohono yn arfer bod yn offer ar log a’i fod felly’n ail law.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

23 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan Banel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod un o hawliadau cyfnod 5 y Grant Busnes i Ffermydd gan fod y busnes wedi methu â chyflwyno tystiolaeth erbyn 19 Mawrth 2019.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

23 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan Banel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod un o geisiadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2019 gan na dderbyniwyd unrhyw dystiolaeth ategol ar gyfer "gweithgareddau amaethyddol" erbyn 15 Mai, ac na dderbyniwyd hysbysiad erbyn 15 Mai y byddai gweithgaredd yn digwydd ar ôl 15 Mai a thystiolaeth yn cael ei chyflwyno o fewn 30 diwrnod i'r gweithgaredd ddigwydd.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

23 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd wedi cytuno i dderbyn argymhelliad gan Banel Apelio Annibynnol i wrthod yr apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod taliad Glastir ar barseli caeau SJ1434 2636 ac SJ1433 2187. Cafodd codau anghymwys ar gyfer opsiynau rheoli 101 a 31 eu cofnodi ar gyfer y parseli ar Ffurflen y Cais Sengl 2016.

Cynllun Realeiddio Asedau – Eiddo sydd Dros Ben gan yr Adran Drafnidiaeth - 2021 i 2022

21 Mehefin 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i werthu asedau sydd dros ben gan yr Adran Drafnidiaeth, ac ar ddyraniad ar gyfer ffioedd a thaliadau (gan gynnwys gwariant marchnata) i gefnogi’r gweithgarwch hwn.

Cyngor Cymuned Bethesda

21 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo caniatáu benthyciad i Gyngor Cymuned Bethesda.

Adolygu Canllawiau Datblygu Cynaliadwy

21 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i’r Adolygiad o’r Canllawiau Datblygu Cynaliadwy.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol

21 Mehefin 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Ychwanegu at gyllid brys

17 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i ychwanegu at gyllid brys i’r busnesau hynny sydd wedi teimlo’r effaith fwyaf o ganlyniad i symud fesul cam i lefel rhybudd un.

Gwasanaethau sy’n rhoi cymorth i bobl wella o COVID 19

17 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid o £5m fel rhan o’r rhaglen Adferiad (Recovery), er mwyn rhoi cymorth i ddatblygu gwasanaethau cymunedol i gefnogi’r rheini sy’n gwella o effeithiau COVID-19, boed hynny’n uniongyrchol neu o ganlyniad i haint (COVID hir) neu’n anuniongyrchol fel rhan o effeithiau ehangach y pandemig.

Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru 2021 i 2022

17 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gynyddu’r taliad i optometryddion sy’n darparu Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru yn 2021 i 2022.

Effaith economaidd tebygol canolfannau data yng Nghymru

17 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i’r effaith economaidd tebygol a gaiff buddsoddi mewn canolfannau data yng Nghymru.

Covid-19: Cymorth i fusnesau yn y dyfodol

17 Mehefin 2021

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i’r pecyn cymorth i fusnesau dros y cyfnod nesaf wrth adfer yn sgil COVID-19.

Dyraniadau o’r Gronfa Band-eang Lleol – Haen 2

17 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar y cyllid ar gyfer Cynllun Cyfalaf a Chynllun Refeniw y Gronfa Band-eang Lleol ar gyfer Haen 2.

Cronfa Dyfodol yr Economi – Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 4 Mai 2021

17 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i roi cyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mlaenau Gwent.

Buddsoddiad mewn technoleg celloedd awtomatig LAMP Optigene

17 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i dynnu allan o gam un proses gaffael Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer technoleg celloedd awtomatig LAMP a derbyn y canlyniadau.

Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant – Ysgol Y Ffin

16 Mehefin 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer amrywio Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant i Ysgol Y Ffin, ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, Sir Fynwy.

Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2021 i 2022

16 Mehefin 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru i Wobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2021 i 2022.

Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes

16 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i’r Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes.

Menter Wnïo Treorci

16 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi wedi cytuno i’r cyllid ar gyfer sefydlu Menter Wnïo Treorci.

Diwrnod Aer Glân Cymru 2021

16 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar gontract sydd werth £15,000 gyda Global Action Plan i gyflenwi deunyddiau addysgiadol ar ansawdd yr aer i gefnogi Diwrnod Aer Glân Cymru 2021.

Profi am COVID-19

14 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynnig Pharmacy Collect yng Nghymru fel sianel ychwanegol ar gyfer derbyn pecynnau prawf llif unffordd.

Prosiectau Buddsoddi mewn Ansawdd

14 Mehefin 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiectau Buddsoddi mewn Ansawdd yn y sector ôl-16.

Rheoliadau cytundeb partneriaeth dreftadaeth

14 Mehefin 2021

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo newidiadau i’r rheoliadau cytundeb partneriaeth dreftadaeth yn dilyn ymgynghoriad a hefyd wedi cytuno i orchymyn cychwyn gael ei baratoi er mwyn dwyn i rym gytundebau partneriaeth dreftadaeth a’r gofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol.

Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol

14 Mehefin 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol.

Cyllid i Awdurdodau Lleol ar gyfer Ôl-daliadau Rhyddhad Ardrethi

14 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i awdurdodau lleol fel y gallant wneud ôl-daliadau ychwanegol o dan gynllun Rhyddhad Ardrethi 2020 hyd 2021 ar gyfer busnesau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch.

Digwyddiadau prawf peilot – Digwyddiad Busnes yng ngwesty hamdden y Celtic Manor

10 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Weinidog wedi awdurdodi'r Digwyddiad Busnes yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor ar 20 Mai er mwyn caniatáu iddo gael ei gynnal yn rhan o'r rhaglen digwyddiadau prawf.

Digwyddiad prawf peilot – ‘Mae angen gwenyn arnom’ yn Theatr Brycheiniog

10 Mehefin 2021
 
Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Weinidog wedi awdurdodi'r digwyddiad ‘Mae angen gwenyn arnom’ yn Theatr Brycheiniog ar 3 a 4 Mehefin er mwyn caniatáu iddo gael ei gynnal yn rhan o'r rhaglen digwyddiadau prawf.

Digwyddiad prawf peilot – Triathlon Cymru

10 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Weinidog wedi awdurdodi Triathlon Cymru ar 12 Mehefin er mwyn caniatáu iddo gael ei gynnal yn rhan o'r rhaglen digwyddiadau prawf.

Digwyddiadau prawf peilot – Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerhirfryn a Chymru yn erbyn Albania

10 Mehefin 2021

Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Weinidog wedi awdurdodi’r gêm rhwng Morgannwg a Swydd Gaerhirfryn (3 Mehefin) a’r gêm rhwng Cymru ac Albania (5 Mehefin) er mwyn caniatáu iddynt gael eu cynnal yn rhan o'r rhaglen digwyddiadau prawf.

Ymgynghori ar opsiynau ar gyfer darparu’r Gwasanaeth electronig gorfodol ar gyfer Olrhain Gwastraff

10 Mehefin 2021
 
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno ar ymgynghoriad ledled y DU ar yr opsiynau ar gyfer darparu’r gwasanaeth electronig gorfodol ar gyfer olrhain gwastraff.

Ailgymeradwyo sefydliadau i ddarparu cyrsiau yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Gyrwyr sy'n Yfed

10 Mehefin 2021
 
Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo ceisiadau a gyflwynwyd gan IAM Driver Retraining Academy Limited a TTC 2000 Limited i ddarparu cyrsiau yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Gyrwyr sy'n Yfed.

Cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig – Cynigion Prosiect

9 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf o dan y Gronfa Gofal Integredig ar gyfer prosiectau o fewn rhanbarthau Cwm Taf, Gogledd Cymru, Gwent, Gorllewin Morgannwg, Gorllewin Cymru a Chaerdydd a’r Fro.

Digwyddiadau prawf peilot – Dathliad Eid a Gŵyl Tafwyl

9 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Weinidog wedi awdurdodi Dathliad Eid a Gŵyl Tafwyl er mwyn sicrhau y gallant gael eu cynnal fel rhan o’r rhaglen digwyddiadau prawf.

Digwyddiad prawf peilot – Gêm ail gyfle rhwng Abertawe a Barnsley, ddydd Sadwrn 22 Mai

9 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Weinidog wedi awdurdodi’r gêm ail gyfle rhwng Abertawe a Barnsley ddydd Sadwrn 22 Mai er mwyn sicrhau y gall gael ei chynnal fel rhan o’r rhaglen digwyddiadau prawf.

Digwyddiad prawf peilot – Gêm ail gyfle rhwng Dinas Casnewydd a Forest Green ar 18 Mai

9 Mehefin 2021

Mae’r Prif Weinidog wedi awdurdodi’r gêm ail gyfle rhwng Dinas Casnewydd a Forest Green ar 18 Mai er mwyn sicrhau y gall gael ei chynnal fel rhan o’r rhaglen digwyddiadau prawf.

Penodi Comisiynydd Plant nesaf Cymru

8 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r broses benodi ar gyfer Comisiynydd Plant nesaf Cymru.

Cymorth i Gomisiynydd y Gymraeg

7 Mehefin 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno i ddyrannu £108,000 o gyllid cyfalaf ychwanegol i Gomisiynydd y Gymraeg ym mlwyddyn ariannol 2021 i 2022, i ariannu gwaith uwchraddio'r system TG.

Canolfan iechyd a lles dwyrain Casnewydd

7 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar yr achos busnes amlinellol dros ddatblygu canolfan iechyd a lles yn nwyrain Casnewydd.

Unedau profi symudol COVID

7 Mehefin 2021

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i ddefnyddio dwy uned symudol i brosesu profion COVID-19 i gefnogi unrhyw waith rheoli brigiad o achosion posibl a phrofion ymchwydd os oes angen.

Profion PCR ar gyfer teithio rhyngwladol

7 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno y dylai fod cap ar draws y DU ar nifer profion PCR y GIG sydd ar gael i deithwyr rhyngwladol sy’n dychwelyd eu prynu.

Penodiad i Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru

7 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gynllun recriwtio ar gyfer penodi Cadeirydd newydd i Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.

Diwrnod Windrush 2021

7 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i’w roi tuag at ddathlu Diwrnod Windrush 2021.

Gwariant Ymyriadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

2 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i Wariant Ymyriadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2021 i 2022.

Hysbysiad o’r Bwriad i Gaffael yn Orfodol Hawliau

2 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gyhoeddi Hysbysiad o Fwriad i roi tystysgrif o dan Baragraff 6 o Atodlen 3 i Ddeddf Caffael Tir 1981 at ddibenion darparu hawliau tir cyffredin newydd er mwyn i brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri allu mynd yn ei flaen.

Atgyweiriadau ar ôl stormydd

2 Mehefin 2021

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno, mewn ymateb i’r niwed i asedau llifogydd ledled Cymru gan stormydd a thywydd eithafol ym mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021, i ariannu’r gwerth £1,733,160 o atgyweiriadau cymwys.

Hysbysiad o’r Bwriad i Gaffael yn Orfodol Hawliau

27 Mai 2021

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi cytuno i gyhoeddi Hysbysiad o Fwriad i roi tystysgrif o dan Baragraff 6 o Atodlen 3 i Ddeddf Caffael Tir 1981 at ddibenion darparu hawliau tir cyffredin newydd er mwyn i brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri allu mynd yn ei flaen.

Cyngor Tref Penmaenmawr

26 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau cymeradwyaeth fenthyca i Gyngor Tref Penmaenmawr am £50,000.

Parhau i ymestyn contract y Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo i Ddinasyddion yr UE – contract Newfields Law

26 Mai 2021

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymeradwyo trefniadau i ymestyn contract Newfields Law i ddarparu Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo i Ddinasyddion yr UE hyd at 30 Medi 2021.

Cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol

26 Mai 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Rhaglen Ynni’r Môr gan gynnwys Her Morlyn Llanw

25 Mai 2021

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid interim ar gyfer datblygu Rhaglen Ynni’r Môr gan gynnwys Her Morlyn Llanw yn y flwyddyn ariannol bresennol, sef 2021 hyd 2022.

Ysgol Gynradd Bro Ogwr – corff llywodraethu

21 Mai 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cymeradwyo cais oddi wrth awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr i sefydlu Bwrdd Gweithredol Interim yn lle corff llywodraethu Ysgol Gynradd Bro Ogwr.

Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru – Diweddariad am Ardal Ymyrryd – Adolygiad o’r Farchnad Agored 2021

20 Mai 2021

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i gymeradwyo’r gwariant ar gyfer cynnal y Diweddariad am Ardal Ymyrryd – Adolygiad o’r Farchnad Agored 2021.

Caffael tir yn Abertawe

18 Mai 2021

Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo camau i gaffael tir yn Abertawe.