Neidio i'r prif gynnwy

ae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Search our decision reports using Ctrl + F.

Partneriaeth Cyd-wasanaethau’r GIG – gosod haen arall newydd ar ben to Imperial Park 5

4 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i Bartneriaeth Cyd-wasanaethau’r GIG yn sgil yr achos busnes ar gyfer gwelliannau i’r to yn Imperial Park 5 yng Nghasnewydd.

Penodi Cadeirydd Dros Dro i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru

4 Rhagfyr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Sara Pedersen am y cyfnod o 01 Rhagfyr 2025 i 31 Mai 2027.

Dyrannu cyfalaf o’r Cronfeydd Wrth Gefn i gefnogi’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

4 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i drosglwyddo cyfalaf o £20 miliwn o’r cronfeydd Terfyn Gwariant Adrannol Cyfalaf Cyffredinol i  Linell Wariant Cyllideb Seilwaith Addysg y Prif Grŵp Gwariant Addysg yn 2025 i 2026, a fydd yn cael ei ffurfioli fel rhan o’r ail gyllideb atodol 2025 i 2026.

Cyfarfod o Fwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2025

4 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i roi Cyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect cynhyrchu creadigol yng Nghaerdydd.

Cyllid ar gyfer Prosiectau Cyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar

4 Rhagfyr 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cyllid ar gyfer Canolfan Plant Trelái a Chaerau, Cyngor Caerdydd, sef £1,975,452, a Champws Cymunedol Bontnewydd, Cyngor Gwynedd, sef £862,906.

Siarad gyda Fi Cam 2: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu 2026 i 2030

3 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyhoeddi'r ddogfen ymgynghori sy'n ymwneud â Siarad gyda Fi Cam 2: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu a'r Asesiadau Effaith Integredig cysylltiedig. Bydd yr ymarfer ymgynghori yn dechrau ym mis Ionawr 2026 ac yn para am gyfnod o 12 wythnos.

Gwobrau Ystadau Cymru 2025

3 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno mai prif enillydd Gwobrau Ystadau Cymru 2025 yw ‘Cymdogaethau Cynaliadwy’, sef prosiect ar y cyd yn ymwneud â theithio llesol a draenio trefol cynaliadwy gan Gyngor Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Urban Foundry ac Ysgol Gynradd San Helen. Mae’r ail wobr yn cael ei rhoi i ‘Cadw'r Gorffennol, Pweru'r Dyfodol’ gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Penseiri Darnton B3, LEB Construction, Gosodwyr PV Will Davey, Cadw ac adran Gynllunio Cyngor Ceredigion. Rhoddir cymeradwyaeth i ‘Ailddatblygu Theatr Clwyd’ gan Gyngor Sir y Fflint, Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Cyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol Cronfa Dyfodol yr Economi

3 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol drwy Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer cwmni yn Ne-ddwyrain Cymru.

Dynodi Labordy Prifysgol Aberystwyth

3 Rhagfyr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid i gefnogi prosiect a fydd yn dechrau'r broses ar gyfer dynodi Prifysgol Aberystwyth yn ganolfan brofi ddiagnostig ar gyfer clefydau anifeiliaid egsotig hysbysadwy yng Nghymru.

Cylch Cyflog Medr 2025 i 2026

3 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cytuno ar gylch cyflog Medr ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2025 ac 31 Mawrth 2026.

Ailddatblygu Gwefan

2 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo’r dyraniad o £50K o gyllideb gyfalaf ar gyfer ailddatblygu’r wefan.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

2 Rhagfyr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn yn rhannol apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Grantiau Bach Glastir 2017.

Strategaeth Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad

2 Rhagfyr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi’r Strategaeth Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 2025 i 2028, a lansiwyd ar y cyd â’r pedair ardal heddlu yng Nghymru yn y gynhadledd ar Droseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Cymru.

Cydgrynhoi cyfraith gynllunio – cyfreithiwr Comisiwn y Gyfraith

2 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gadw ac ariannu cyfreithiwr Comisiwn y Gyfraith i helpu gyda’r gwaith o gydgrynhoi cyfraith gynllunio drwy Filiau Cynllunio a’u gweithredu.

Penodi Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

2 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Rhys Goode am dymor o 4 blynedd o 5 Ionawr 2026 i 4 Ionawr 2030.

Penodi Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

2 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Rhiannon Beaumont-Wood am dymor o 4 blynedd o 9 Chwefror 2026 i 8 Chwefror 2030.

Cynyddu cyllid ar gyfer y Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Chynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

2 Rhagfyr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol o £2.5 miliwn ar gyfer Cronfa Heriau Cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2025 i 2026 yn unig ar gyfer ehangu cyflawni. Hefyd, cyllid ychwanegol o £300,000 o Refeniw ar gyfer Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn 2025 i 2026 yn unig i ariannu pwysau wrth weithredu’r Cynllun.

Caffael Partneriaethau Lleol

2 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gaffael Partneriaethau Lleol i gynnal adolygiad o’r dull gweithredu sy’n seiliedig ar y farchnad gymysg i reoli adeiladu a datblygu opsiynau ar gyfer datganoli cyfrifoldeb i'r rhanbarthau. Bydd yn arwain at adroddiad terfynol gydag argymhellion i’w hystyried yn y dyfodol.

E-ddysgu Gwaith Teg

2 Rhagfyr 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ddatblygu a gweithredu modiwl e-ddysgu Gwaith Teg, a diweddariad i’r modiwl e-ddysgu Model Cymdeithasol o Anabledd presennol.

Gwariant Cyfalaf Trydan Gwyrdd Cymru

2 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer Trydan Gwyrdd Cymru i brynu tri mast  meterolegol a dwy system LiDAR.

Buddsoddiad ychwanegol ar gyfer Cam 4 y cynllun adfer diagnostig

2 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu buddsoddiad ychwanegol o £17 miliwn i gefnogi cynlluniau'r GIG yn lleol i barhau i gyflawni yn erbyn blaenoriaeth y llywodraeth yn genedlaethol i leihau cyfnodau aros am ddiagnosis a lleihau nifer y llwybrau sy'n aros.

Buddsoddiad ychwanegol ar gyfer Cam 5 –104 wythnos o driniaeth ac adferiad diagnostig

2 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu'r balans sy'n weddill o'r buddsoddiad o £120 miliwn, sef £21.6 miliwn, i gefnogi cynlluniau'r GIG lleol i barhau i gyflawni yn erbyn blaenoriaeth y llywodraeth yn genedlaethol i leihau cyfnodau aros am ddiagnosis a lleihau nifer y llwybrau sy'n aros.

Menter Cenedl Marmot

1 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddiweddaru'r proffil ariannu y cytunwyd arno yn flaenorol ar gyfer mentrau Cenedl Marmot i adlewyrchu y bydd cyllid ar gyfer lleoedd lleol a ddewiswyd yn dechrau yn 2026 i 2027.

Gwaredu tir

1 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i waredu tir yng Ngogledd Cymru i gefnogi prosiect rhanbarthol allweddol.

Penodi Cadeirydd Bwrdd Cymru Greadigol

1 Rhagfyr 2025

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi penodi Joe Yates fel Cadeirydd Bwrdd Cymru Greadigol o 3 Tachwedd 2025 i 2 Tachwedd 2028.

Gwaith i uwchraddio rhagofalon tân yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais

1 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddechrau datblygu achos busnes ar gyfer cyfiawnhau gwaith i uwchraddio rhagofalon tân yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais.

Penodi Cadeirydd Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru

1 Rhagfyr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Fiona Jones OBE yn Gadeirydd Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru. Bydd y penodiad yn dechrau ar 28 Tachwedd 2025 ac yn dod i ben ar 27 Tachwedd 2030.

Cronfa Tai â Gofal

1 Rhagfyr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo £4,318,977 mewn cyllid cyfalaf i’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer saith cynllun ar draws tri rhanbarth o Gymru.  

Optimised Retrofit Programme 3.4 Additional Surplus Funding

27 November 2025

The Cabinet Secretary for Housing and Local Government has approved reprofiling £14.1million from existing capital budgets to the Optimised Retrofit Programme, supporting additional works in 2025 to 2026. Also, reprofiling further capital budgets of up to £30million, should underspends be identified towards the end of the financial year.

Appointment of two new Board Members to Natural Resources Wales

27 November 2025

The Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs has approved the actions required for the recruitment and appointment of two new Board Members to Natural Resources Wales.

Welsh statutory instruments

27 November 2025

The Counsel General and Minister for Delivery has agreed the format and typeface of Welsh statutory instruments when published in printed form by the King’s Printer for Wales. This is in line with the Welsh Government’s commitment to modernising the form and structure of Welsh legislation, as part of efforts to improve the accessibility of Welsh law.

Entonox cracking equipment capital funding

27 November 2025

The Cabinet Secretary for Health and Social Care has agreed to fund the provision of Entonox cracking equipment at 5 Health Boards at a total cost of £55,500 including VAT.

Funding to the Rural Housing Enabler programme

27 November 2025

The Cabinet Secretary for Housing and Local Government has agreed revenue funding for the Rural Housing Enabler programme 2026 to 2027.

Rhaglen Gyfalaf Cymru Gyfan GIG Cymru ar gyfer 2025 i 2026

27 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer ystod o gynlluniau offer a digidol ledled Cymru.

Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2026 i 2027

27 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y sail ar gyfer cyfrifo a dyrannu'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i gefnogi cyllid gwaelodol o 2.3%.

Dyraniadau Cyllid Dangosol ar gyfer cynlluniau Cymorth ac Atal Digartrefedd

27 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, y Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gyd wedi cytuno i'r dyraniadau cyllid dangosol ar gyfer Cymorth ac Atal Digartrefedd ar gyfer 2026 i 2027, gan gynnwys y Grant Cymorth Tai.

Parhad 13 o brosiectau drwy'r rhaglen grant undebau credyd

27 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid parhaus rhwng 2026 a 2029 ar gyfer rhaglen refeniw undebau credyd, i gyflawni prosiectau ledled Cymru sy'n gysylltiedig â thwf undebau credyd.

Cynyddu arian tanysgrifennu ar gyfer y cynllun ehangu benthyciadau

27 Tachwedd 2025

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar gyllid i naw undeb credyd i gynyddu'r cronfeydd tanysgrifennu sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Ehangu Benthyciadau.

Opsiynau ar gyfer gwella cynnig y Gronfa Cymorth Dewisol

27 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i newidiadau i'r Gronfa Cymorth Dewisol i gynyddu'r cymorth ariannol a ddarperir i ymgeiswyr i’r Gronfa.

Trawsnewid Trefi - Cyllid Man Bysiau a Datblygu, Caerffili

27 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Caerffili i gefnogi'r gwaith o gynllunio a gweithredu'r prosiect Man Bysiau yng nghanol y dref; a chyllid datblygu i helpu Cyngor Caerffili i ddatblygu Strategaeth Diwylliant ac Astudiaeth Dichonoldeb yn gysylltiedig â Chynllun Creu Lleoedd Caerffili 2035.

Penodi Cadeirydd Annibynnol y Grŵp Cynghori ar Reoleiddio ar gyfer Rheoleiddio Tai

27 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i benodi Kalwant Grewal fel Cadeirydd Annibynnol y Grŵp Cynghori ar Reoleiddio. 

Rheoliadau Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2026 ar gyfer croesfannau sebra ar ffyrdd ymyl

26 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo'r gwaith o ddrafftio deddfwriaeth i gyflwyno croesfannau sebra ar ffyrdd ymyl yng Nghymru ar ffyrdd 20mya.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Prynu Unedau modiwlaidd 2 a 3

25 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar y cyllid i brynu Unedau modiwlaidd 2 a 3 sy'n gysylltiedig ag Adnewyddu Llawr Gwaelod a Llawr Cyntaf Ysbyty'r Tywysog Charles.

Parc Iechyd Llantrisant - Cyllid Cam 1 a 2

25 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf o hyd at £1.888miliwn (gan gynnwys TAW) i gwblhau'r Achos Busnes Llawn ar gyfer Cam 1, Canolfan Ddiagnostig Gymunedol ac wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf o hyd at £1.934miliwn (gan gynnwys TAW) i gwblhau'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Cam 2, Canolfan Orthopedig Ranbarthol ar gyfer cynllun Parc Iechyd Llantrisant.

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

24 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar ddyfarnu contract tair blynedd ar gyfer Ymchwil ac Adroddiadau Risg Sector Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Cymru.

Pysgodfeydd

24 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, DAERA a Defra ar Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Cegddu Silff y Gogledd ar gyfer dyfroedd y DU fel rhan o ymgynghoriad ehangach ar 11 Cynllun Rheoli Pysgodfeydd dyfnforol sy'n cael eu harwain gan Lywodraeth yr Alban.

Fferm Wynt y Bryn

24 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi gwrthod caniatâd cynllunio ar gais gan Y Bryn Wind Farm Limited ar gyfer gosod hyd at 18 tyrbin gwynt a gwaith cysylltiedig ar dir yng nghoedwigoedd Bryn a Phenhydd.

Mapio cyfleusterau arosiadau i lorïau

24 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo cyllid o £100,000 i gontractio gwasanaethau i arolygu cyfleusterau arosiadau i lorïau fel camau blaenoriaeth i gefnogi cynllun integredig Porthladdoedd Morwrol, Cludo Nwyddau a Logisteg.

Adroddiadau Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru

24 Tachwedd 2025

Cymeradwyodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol gyhoeddi adroddiadau adborth i awdurdodau lleol ynglŷn â pherfformiad eu gwasanaethau llyfrgell yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn ystod 2024 i 2025.

Cyllid ar gyfer Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

24 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno cyllid o £150,000 ynghyd â TAW i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru fesul blwyddyn ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025 i 2026, 2026 i 2027 a 2027 i 2028.

Cyllid i Gymdeithas Amaethyddol Sir Benfro

24 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Rhaglen Allgymorth Addysg y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol

20 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid o £744,762 i gefnogi estyniad tair blynedd rhwng 2025 a 2026, i Raglen Allgymorth Addysg y Ganolfan Ecsbloeti Ddigidol Genedlaethol.

Cymorth busnes

20 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo’r adroddiad terfynol ar adolygiad mewnol y ddarpariaeth cymorth busnes a chyhoeddi’r adroddiad.

Diogelu mewn Addysg

20 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno y bydd yr Adolygiad Diogelu mewn Addysg yn cael ei ymgorffori i’r adolygiad ehangach o’r trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd cyfredol ar gyfer diogelu, a ffurfio rhan o’r adolygiad hwnnw.

Cymorth i ofalwyr

20 Tachwedd 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo gwariant o £72,000 ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â’r ffrwd waith wella ar Wybodaeth, Cyngor a Chymorth ac Asesiadau o Anghenion Gofalwyr; costau o’r Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer Gofalwyr Di-Dâl, a Gŵyl y Gofalwyr Ifanc.

Cymorth i ofalwyr

20 Tachwedd 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo estyniad o dair blynedd ar gyfer y Cynllun Seibiant Byr a’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr.

Gwerthu tir

19 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo talu ffioedd proffesiynol mewn perthynas â thir yn Oakdale.

Penodiad newydd i Gomisiwn Dylunio Cymru

19 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo penodi Jen Heal yn Brif Weithredwr newydd Comisiwn Dylunio Cymru. 

Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant

19 Tachwedd 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ariannu 15 o brosiectau er mwyn helpu i gyflawni’r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant drwy’r grant cymorth ychwanegol i’r sector lleol ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn ystod 2025 i 2026 a 2026 o 2027. 

Rhaglen Gwella Canol Caerdydd

19 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Rhaglen Gwella Canol Caerdydd a bydd hyd at £21 miliwn yn cael ei ddarparu tuag at y prosiect, yn amodol ar gymeradwyo’r gyllideb.

Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

17 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Helen Annandale yn Aelod Cyswllt ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am gyfnod o ddwy flynedd.

Cymunedau oed-gyfeillgar

17 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi cymunedau oed-gyfeillgar ar draws Cymru.

Plant, teuluoedd, a gofal plant

17 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo £130,000 ar gyfer gweithgarwch ymchwil sy’n gysylltiedig â phlant, teuluoedd a gofal plant, i ddechrau yn 2025 i 2026.

Penodiadau i’r Bwrdd Pysgod Môr

17 Tachwedd 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gynnal ymgyrch penodi cyhoeddus i recriwtio dau aelod annibynnol i’r Bwrdd Pysgod Môr yn 2026.

Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

17 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynnig cyllid cyfalaf gan Gyngor Sir Penfro hyd at werth £131,000 yn 2025 i 2026, a gan Gyngor Sir Caerdydd hyd at werth £170,000 yn 2025 i 2026 a £250,000 yn 2026 i 2027.

Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar

14 Tachwedd 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Cylch Meithrin Pen-y-Garth, Bro Morgannwg.

Fferm solar Bretton Hall

14 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Ynni Newydd Cyfyngedig i ddatblygu fferm solar ffotofoltaidd Bretton Hall drwy’r cynllun Grantiau Ynni Lleol.

Cyfamod Gofalwyr Ifanc

14 tachwedd 2025

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i lofnodi’r Cyfamod Gofalwyr Ifanc.

Covid-19

14 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gynnal cyflenwadau o ddyfeisiau prawf llif unffordd Covid-19 ar gyfer y gaeaf 2025 i 2026.

Diogelu coetiroedd

13 Tachwedd 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru “Gwarchod Coed a Choetiroedd yng Nghymru”.

Y Parc Cenedlaethol newydd

13 Tachwedd 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid i gwblhau rhaglen ddynodi’r Parc Cenedlaethol newydd.

Ffermio Bro

13 Tachwedd 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i barhau â’r model cyflenwi presennol ar gyfer y cynllun Ffermio Bro: Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig ac i ymrwymo i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer y cynllun yn 2026 i 2027 a 2027 i 2028.

Diogelu planhigion

13 Tachwedd 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wneud y penderfyniad ar gymeradwyo haearn elfennol fel sylwedd actif cynnyrch diogelu planhigion newydd, risg isel, yng Nghymru.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

13 Tachwedd 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gynnwys cyflwyno Cynlluniau Rheoli Safleoedd Dynodedig.

Datblygu tir

13 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cynigion er mwyn ei gwneud yn bosibl i ddatblygu tir ym Merthyr Tudful.

Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân

13 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno y dylai Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru weithio gyda Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân i adolygu’r sefyllfa bresennol o ran yr athrawiaeth a’r cymhwysedd gweithredol i fynd i’r afael â’r achosion sy’n peri pryder a nodwyd yn ei arolygiadau thematig.

Gwastadeddau Gwent

13 Tachwedd 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gefnogi dwy flaenoriaeth cyllido allweddol yng Ngwastadeddau Gwent yn dilyn argymhelliad gan Weithgor Gwastadeddau Gwent.

Rheoli Clefydau mewn Gwartheg

12 Tachwedd 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo profwyr gwaed awdurdodedig at ddibenion rheoli clefydau mewn gwartheg. 

Prosiectau gofal plant a’r blynyddoedd cynnar 

12 Tachwedd 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiectau yn Sir Benfro a Sir y Fflint.

Comisiynydd y Gymraeg

12 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i osod copi o adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2024 i 2025 gerbron y Senedd.

Gwasanaethau Tân ac Achub

12 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddyrannu £3,497,000 o refeniw a £1,938,000 o gyfalaf ar gyfer gwasanaethau tân ac achub yn ystod 2026 i 2027, a £35,641 o refeniw ar gyfer cyllid Gwariant a Reolir yn Flynyddol ar gyfer pensiynau diffoddwyr tân yn 2026 i 2027, wedi’i ariannu gan Drysorlys EF. 

Trawsnewid Trefi

10 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i greu gofod digwyddiadau newydd ar safle De Hillsboro ym Mhorthcawl, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gefnogi ailddatblygu'r safle ym Maes Parcio Aml-lawr Sant Marc yn Wrecsam, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer ailgynllunio’r man cyhoeddus y tu allan i fynedfa ddeheuol Canolfan Siopa Aberafan.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

10 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Neil Prior yn Aelod Annibynnol (Cymuned), am 4 blynedd o 01 Ionawr 2026 i 31 Rhagfyr 2029.

Y Gronfa Her Gwydnwch Morol a Chydlynydd Llythrennedd Morol

10 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid refeniw yn 2025 i 2026 i gefnogi Cronfa Her Gwydnwch Morol ac i ariannu'r Cydlynydd Llythrennedd Morol presennol ar gyfer gweddill 2025 a 2026.

Age Cymru

10 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid o £82,000 i Age Cymru i gefnogi'r prosiect yn 2025 i 2026.

Prosiect Cartrefi Gofal Cymru

10 Tachwedd 2025

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddiweddariad Prosiect Cartrefi Gofal Cymru ar gynnydd a chytundeb cyllid 2025 i 2026.

Arolygiaeth Gofal Cymru

10 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i Arolygiaeth Gofal Cymru i gefnogi'r gwaith o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ystod 2025 i 2026.

Cledrau Croesi Caerdydd

6 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer ar gyfer prosiect Cledrau Croesi Caerdydd Cam 1a a darparu hyd at £50 miliwn mewn cyllid cyfatebol tuag at y prosiect, yn amodol ar gymeradwyo’r cyllideb.

Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol y Pwyllgor Argyfyngau Brys

6 Tachwedd 2025

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i roi rhodd o £250,000 i Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn sgil y cadoediad diweddaraf ac ehangu’r cyflenwadau cymorth i Gaza.

Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol

6 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru.

Ymestyn deiliadaeth Cadeirydd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru

5 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn penodiad yr Athro Iolo Doull fel Cadeirydd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru am bedair blynedd arall.

Y tafod glas

5 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y cynnig ynghylch cadw gwyliadwriaeth weithredol am y Tafod Glas.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 14 Hydref 2025

4 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Nhorfaen.

Rhaglen Masnach a Gwasanaeth Bwyd a Rhaglen Parod am Fuddsoddiad

4 Tachwedd 2025

Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ynghylch cyllid a chaffael Rhaglen Masnach a Gwasanaeth Bwyd a Rhaglen Parod am Fuddsoddiad.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

4 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ag argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod Hawliad Glastir - Tir Comin 2019 y cwsmer oherwydd iddo gael ei gyflwyno’n hwyr.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

4 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod cosb o 100% yn erbyn hawliadau o dan y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

4 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod cosb o 20% i hawliad Glastir - Tir Comin 2018 y cwsmer yn dilyn archwiliad lle canfuwyd bod y cwsmer wedi mynd dros ei gyfradd stocio ar gyfer y gaeaf o fwy na 5%.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

4 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chaniatáu taliad Glastir ar barseli dau . Cofnodwyd cod anghymwys ar gyfer Opsiwn Rheoli 30 yn erbyn y parseli ar SAF 2023.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

4 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i dynnu Contract Grantiau Bach Glastir yn ôl, na chafodd ei dderbyn o fewn y dyddiad cau a osodwyd wrth gynnig contract.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

4 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod cosbau yn erbyn dwy eitem yr oedd y busnes wedi methu â chydymffurfio â gofynion tendro cystadleuol y Cynllun Rheoli Cynaliadwy ar eu cyfer.

Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

4 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn rhannol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod cosb o gyfanswm o 20% i'w taliadau Glastir Sylfaenol 2019 yn sgil torri'r Cod Fferm Gyfan ac Opsiwn Rheoli 15B a nodwyd ac a gadarnhawyd yn dilyn archwiliad a gynhaliwyd ar eu daliad.

Ymestyn swyddi presennol

4 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo ymestyn nifer o rolau presennol a ariennir gan raglenni o fewn y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio ar gyfer 2025 i 2026.

Ymchwil Systemau Cyfan ac Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio

4 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid atodol ar gyfer treialon arddangos cerbydau hydrogen fflyd awdurdodau lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Rhaglen ddatgarboneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

4 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gefnogi eu rhaglen ddatgarboneiddio ar draws eu hystad.

Rhaglen ddatgarboneiddio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

4 Tachwedd 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gefnogi eu rhaglen ddatgarboneiddio ar draws eu hystad.

Bro Morgannwg

4 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar argymhellion Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar yr Adolygiad o Drefniadau Cymunedol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a bod Gorchymyn yn cael ei ddrafftio i weithredu'r penderfyniad hwn i ddod i rym ar 6 Mai 2027.

Cynllun Lliniaru Llifogydd

3 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i ddatblygu achos busnes amlinellol i asesu’r ateb arfaethedig i fynd i’r afael â’r risgiau hirdymor sy’n gysylltiedig ag Afon Afan yn Port Talbot.

Penodi Cadeirydd i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

3 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi penodi Karen Jones am bedair blynedd o 1 Rhagfyr 2025 i 30 Tachwedd 2029.

Rheolaethau feirws y Tafod Glas yng Nghymru

3 Tachwedd 2025

Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo strategaeth ar gyfer dod â rheolaethau feirws y Tafod Glas i ben yng Nghymru

Cyhoeddi Cofrestr o Ysgolion Annibynnol

3 Tachwedd 2025

Mae Ysgrifenydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gofrestr ddwyieithog o ysgolion annibynnol, gyda chategori ar gyfer dysgu ychwanegol, gael ei chyhoeddi a’i diweddaru yn ôl yr angen.

Rhoi Safon Cydraddoldeb y Gweithlu ar waith ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

30 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar wedi cymeradwyo cychwyn Safon Cydraddoldeb y Gweithlu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn dilyn cyflwyno’n llwyddiannus Safon Cydraddoldeb Hiliol y Gweithlu.

Penodi Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol) ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

30 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Helen Cunningham am 4 blynedd o 3 Tachwedd 2025 tan 2 Tachwedd 2029.

Pont newydd dros Afon Ddyfrdwy ar yr A494

30 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gogledd a Thrafnidiaeth wedi cytuno y gall arddangosfa o Orchmynion drafft gael ei chynnal ar 22 i 29 Hydref 2025 i amlinellu cynllun pont newydd Afon Ddyfrdwy yr A494 i’r cyhoedd.

Cyllid Trawsnewid Trefi

30 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Sir Ceredigion i gefnogi cynnal parth Diwylliant a Chymuned o fewn prosiect yr Hen Goleg o dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth. Hefyd, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2025 i 2026, i barhau i gyflawni amcanion ehangach y Cynllun Creu Lle trwy Dîm Amlddisgyblaethol ac i gefnogi awdurdodau lleol ledled y De-orllewin i gynnal y rhaglen Grantiau Creu Lle yn 2025 i 2026.

Adolygu trefniadau cymunedol Dinas a Sir Abertawe

30 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar yr Adolygiad o Drefniadau Cymunedol Dinas a Sir Abertawe a bod Gorchymyn yn cael ei ddrafftio i roi’r penderfyniad hwn ar waith, i ddod i rym ar 6 Mai 2027.

Penodi Cyfarwyddwyr Anweithredol i Cymru Greadigol

29 Hydref 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi penodi Maris Latham a Sara Peacock fel Cyfarwyddwyr Anweithredol i Cymru Greadigol o 3 Tachwedd 2025 hyd at 2 Tachwedd 2028.

Ailbenodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

29 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Rhian Thomas fel Aelod Annibynnol Cyfalaf ac Ystadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am ddwy flynedd o 17 Rhagfyr 2025 hyd at 16 Rhagfyr 2027.

Ailbenodi Cadeirydd Llais am 2il Dymor 2026

29 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo ailbenodi Cadeirydd Llais, Medwin Hughes, am ail dymor, i ddechrau ar 1 Ebrill 2026 ac i ddod i ben ar 31 Mawrth 2030.

Cyllid Refeniw Ychwanegol - Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

29 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo i wneud y gorau o danwariant o fewn Cyllid cyfalaf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2025 hyd at 2026, a’i addasu at ddibenion gwahanol.

Adolygiad o drefniadau cymunedol Sir Caerffili

28 Hydref 2025

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar argymhellion Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar yr Adolygiad o drefniadau cymunedol Bwrdeistref Sirol Caerffili, a bod Gorchymyn yn cael ei ddrafftio i weithredu'r penderfyniad hwn i ddod i rym ar 6 Mai 2027.

Adroddiad Estyn ar ddefnyddio AI cynhyrchiol mewn ysgolion

28 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi derbyn argymhellion Estyn ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn dilyn eu hadolygiad thematig sy'n canolbwyntio ar sut mae ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru yn defnyddio AI cynhyrchiol ar hyn o bryd.

Cyfoeth Naturiol Cymru - Trefniadau diswyddo gorfodol

28 Hydref 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo trefniadau diswyddo gorfodol Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl gweithredu ei gynigion Achos dros Newid.

Cyfoeth Naturiol Cymru - Adran 83 Gwaredu Tir

28 Hydref 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i Gyfoeth Naturiol Cymru waredu tir yn Kilvey Hill, Abertawe, sy'n rhan o Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru.

Cymorth cyfreithiol ac ymgynghori ar hedfan arbenigol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd

28 Hydref 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio gyllid o hyd at £2 filiwn gan gynnwys TAW ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026, i gomisiynu cyngor cyfreithiol a thechnegol ar hedfan arbenigol.

Gorchymyn Gwaddol Addysg – Ysgol Fabanod Llanfabon, Treharris, Caerffili

27 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i ddrafftio Gorchymyn Gwaddol Addysg ar gyfer y cyn ysgol Eglwys yng Nghymru, Ysgol Fabanod Llanfabon yn Esgobaeth Llandaf, a dechrau’r broses o hysbysu’n gyhoeddus am y bwriad i wneud gorchymyn.

Rhaglen Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso – Prosiectau a argymhellir

27 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer dau gynnig o dan y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.

Addysg Gychwynnol Athrawon

27 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar y Cymhelliannau Addysg Gychwynnol Athrawon sydd ar gael ym mlwyddyn academaidd 2026 i 2027.

Cynllun Trwyddedu ar gyfer Llety Ymwelwyr

27 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i roi hyd at £430,000 o gyllid i Awdurdod Cyllid Cymru yn 2025 i 2026 i gomisiynu gwaith cwmpasu TG ar gyfer y Cynllun Trwyddedu ar gyfer Llety Ymwelwyr.

Adolygiad o’r Trefniadau Cymunedol yn Sir Ceredigion

27 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ag argymhellion Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar yr Adolygiad o’r Trefniadau Cymunedol yn Sir Ceredigion, gydag addasiadau, ac y bydd Gorchymyn yn cael ei ddrafftio i roi’r penderfyniad hwn ar waith o 6 Mai 2027.

Cynllun Gweithredu Digidol Cymru ar gyfer Adeiladu

27 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gymeradwyo a chyhoeddi Cynllun Gweithredu Digidol Cymru ar gyfer Adeiladu.

Rheoli Tir yn Gynaliadwy

27 Hydref 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i roi cyllid ac i gaffael ar gyfer y rhaglen werthuso Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Y Gronfa Tai â Gofal – Cynigion Prosiect 2025 i 2026

23 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo £901,691 o gyllid cyfalaf Tai â Gofal ar gyfer tri chynllun ar draws tri rhanbarth yng Nghymru.

Penodi Is-lywydd, y telir ffi ar gyfer y rôl, i Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru

23 Hydref 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Mrs Kelly Byrne yn Is-lywydd, y telir ffi ar gyfer y rôl, i Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru ar gyfer cyfnod o 5 mlynedd o 15 Hydref 2025 i 14 Hydref 2030.

Cyllid grant Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

23 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddarparu £2.216 miliwn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi agendâu Gwella a Digidol llywodraeth leol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cynllun Busnes Gofal Cymdeithasol

23 Hydref 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i Gynllun Busnes Gofal Cymdeithasol 2025 i 2027.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Prosiect Drws Blaen Ysbyty Glangwili

23 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer ehangu gofal mewn argyfwng yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Defnyddio Cyllideb Tlodi Tanwydd ar gyfer Adnodd Paru Cyfeiriadau mewn Swmp

23 Hydref 2025

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo £65,000 o’r Gyllideb Tlodi Tanwydd i gynorthwyo cyllid ar gyfer datblygu gwasanaeth mewnol ar gyfer paru cyfeiriadau mewn swmp.

Dogfen thematig Estyn, sydd wedi’i diweddaru, ar wella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd

23 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo’r ymateb i argymhellion diwygiedig Estyn i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd.

Achosion Busnes Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i Ysgolion - Awst 2025

22 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi mewn Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i’r prosiectau a ganlyn fynd ymlaen i gam nesaf y broses fusnes: Ysgol Gynradd Millbrook, Casnewydd ac Ysgol Santes Fair Brymbo yr Eglwys yng Nghymru, Wrecsam.

Achosion Busnes Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i Golegau - Awst 2025

22 Hydref 2025

Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyfres o argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi mewn Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i’r prosiectau a ganlyn fynd ymlaen i gam nesaf y broses fusnes: Coleg Penybont; Coleg Gŵyr ar gyfer Cynllun Amlinellol Strategol Diwygiedig; Coleg Gŵyr ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Peirianneg ac Adeiladu; St David’s Catholic College ar gyfer ailwampio rhannau mewnol y prif adeilad.

Cronfa Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd

22 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i’r gwariant ar gyfer Cronfa Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd Cymru Greadigol 2025 i 2026.

Darpariaeth Contract Busnes Cymru ar gyfer 2025 i 2026 a 2026 i 2027

22 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllideb o £17.7 miliwn ar gyfer Is-adran Busnes Cymru.

Gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer cais

22 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer cais gan RWE Renewables UK i godi fferm solar, unedau storio batri, seilwaith cysylltiedig, tirweddu, mynedfa a chysylltiad â’r grid ar dir rhwng traffordd yr M4 a Rheilffordd De Cymru, ger Llanwern, Underwood a Threfesgob.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Hysbysiad Gorfodaeth Tân

21 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Gorfodaeth Tân a Gwaith Cysylltiedig yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelig ar gyfer Cam 2.

Y Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth – Cyswllt Ffermio 2026+

21 Hydref 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno i gaffael contract 3 blynedd gyda’r opsiwn o estyniad o 2 flynedd o’r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Cyswllt Ffermio. Hefyd £11 miliwn ar gyfer 2026 i 2027 ar gyfer gweithredu’r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Cyswllt Ffermio, ac £11 miliwn ar gyfer blynyddoedd ariannol 2027 i 2028, 2028 i 2029 ac yn amodol ar gyfer 2029 i 2030 a 2030 i 2031.

Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol (Prifysgol) i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

21 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Catherine Purcell am dymor o 4 blynedd o 27 Hydref 2025 i 26 Hydref 2029.

Prosiectau’r Gronfa Arloesi ar gyfer Pobl Ifanc Ddigartref a Tai yn Gyntaf

20 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i waith yn y dyfodol i adnewyddu'r fformiwla ariannu ar gyfer y Grant Cymorth Tai ac, mewn egwyddor, i alinio hyn â throsglwyddo cyllid ar gyfer prosiectau’r Gronfa Arloesi ar gyfer Pobl Ifanc Ddigartref a Tai yn Gyntaf i'r Grant Cymorth Tai. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i barhau i ariannu prosiectau’r Gronfa Arloesi ar gyfer Pobl Ifanc Ddigartref a Tai yn Gyntaf yn 2026 a 2027 yn unol â'r trefniadau cyllido presennol, mewn egwyddor, yn amodol ar ddyraniadau’r gyllideb derfynol.

Hybu Cig Cymru

20 Hydref 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo llythyr cylch gwaith Hybu Cig Cymru.

Fferm Cosmeston

20 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo contract gyda Barratt Developments Wales, ar dir ar Fferm Cosmeston

Adolygu trefniadau cymunedol Sir Benfro

20 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ynghylch argymhellion Adroddiad Argymhellion Terfynol y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau ar gyfer yr Adolygiad o Drefniadau Cymunedol Sir Benfro, ac eithrio un argymhelliad lle mae wedi dewis peidio â gweithredu mewn perthynas ac Ynys Bŷr ac Ynys Farged, a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad drwy gamgymeriad.

Cais i gymeradwyo cyllid y Cynllun Diogelwch Adeiladau

20 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno â chanlyniad Panel Diogelwch Adeiladau Medi 2025, a’r dyraniad cyllid cyfalaf o £899,795 ar gyfer 2025 i 2026.

Rhaglen Rheolaethau’r Ffin – Mesurau Interim Cychwynnol

20 Hydref 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ynghylch mesurau interim Rheolaethau’r Ffin ar gyfer 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Cyllido Bwrdd Rheoli Maethynnau i gael Cydlynydd Morol Rhanbarthol

20 Hydref 2025

Cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i gyllido rôl Cydlynydd Morol Rhanbarthol ar gyfer Bwrdd Rheoli Maethynnau Gorllewin Cymru am dair blynedd.

Cais Cyfoeth Naturiol Cymru i gau’r bysgodfa i rwydi yn Afon Dyfrdwy (Cymru)

20 Hydref 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gadarnhau is-ddeddfau eog a brithyll môr (gwahardd pysgota â rhwydi) (Afon Dyfrdwy) (Cymru) (2025) gydag addasiadau.

Cronfa Gymorth Beilot Dydd Gŵyl Dewi 2026

20 Hydref 2025

Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddyrannu £1miliwn ar gyfer cyd-drefnu dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ledled Cymru yn 2026, a gaiff eu cefnogi gan Gronfa Gymorth Beilot, a ddarperir drwy gynllun grant Llywodraeth Cymru.

Diwygio Rheolau Sefydlog y Cyd-bwyllgor Comisiynu

20 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ynghylch y diwygiadau i’r Rheolau Sefydlog ar gyfer Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

20 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ynghylch Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch Prynu Fferm Gilestone

Pantrïoedd Ceirw Cyfoeth Naturiol Cymru

20 Hydref 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ynghylch cyllid grant penodol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2025 i 2026 er mwyn helpu i brynu a sefydlu pantri ceirw newydd ym Mleddfa yn y Canolbarth.

Penodiadau i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru

20 Hydref 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ynghylch penodi Karen Balmer i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru rhwng 1 Gorffennaf 2025 a 31 Mawrth 2026 (yn dilyn ymgynghori â’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus), ac ynghylch ymestyn ail dymor penodiad yr Athro Steve Ormerod rhwng 1 Tachwedd 2025 a 31 Mawrth 2026.

Rhestrau Treftadaeth Fyw – Galwad am Geisiadau

16 Hydref 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno y bydd Cymru yn cymryd rhan yng nghynllun y DU i greu rhestrau treftadaeth fyw, gan nodi y bydd angen rhoi ystyriaeth bellach maes o law i’r gofynion posibl am gyllid yn y dyfodol.

Rheoli Clefyd Rhewfryn mewn Defaid yng Nghymru

16 Hydref 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ariannu’r prosiect ar gyfer “Rheoli Clefyd Rhewfryn mewn Defaid yng Nghymru”, a fydd yn cynnal ymchwil wedi’i thargedu i greu’r set ddata gynrychioladol gyntaf ar fynychder Clefyd Johne, Maedi Visna, a Lymffadenitis Cawsaidd mewn diadelloedd yng Nghymru.

Cronfa Gwrthsefyll Tywydd 2

16 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cynnig i estyn Cronfa Gwrthsefyll Tywydd Blwyddyn Croeso i fusnesau twristiaeth a lletygarwch bach yng Nghymru ac i gymeradwyo ailddyrannu cyllid hyd at £1.75 miliwn ar gyfer y Gronfa hon yn y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cynlluniau Gweithredol Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

16 Hydref 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredol blynyddol Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer 2025 i 2026.

Trawsnewid Trefi

16 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i ddarparu datblygiad parhaus Cynlluniau Creu Lleoedd ledled Cymru, cymorth ariannol i Gomisiwn Dylunio Cymru i ddarparu cynigion Cam 3 ac i ddarparu’r digwyddiad pum diwrnod ar gyfer adfywio trefi.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 23 Medi 2025

16 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Rhondda Cynon Taf.

Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod Monitro Annibynnol 2024

15 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i osod pedwerydd Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod Monitro Annibynnol.

Y Gronfa Tai â Gofal – Cynigion prosiect 2025 i 2026

15 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £15,750 o gyllid cyfalaf y Gronfa Tai â Gofal ar gyfer un cynllun ar draws un rhanbarth o Gymru.

Ymestyn penodiad Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

15 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn penodiad Ann Lloyd yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am gyfnod o hyd at chwe mis, gan ddod i ben erbyn 2 Ebrill 2026 fan bellaf.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

14 Hydref 2025

Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni wedi cymeradwyo gosod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ffiniau, Diogelwch, Lloches a Mewnfudo a'r ddadl gysylltiedig yn y Senedd.

Cymorth Technegol ar gyfer Asesiadau Parc Cenedlaethol Newydd

14 Hydref 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi dyrannu cyllid i Bartneriaethau Lleol i ddarparu cymorth ac arbenigedd technegol wrth baratoi cyngor ar y Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig yn y gogledd-ddwyrain.

Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu

13 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo adolygiad o aelodaeth Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu, sy’n cynnwys ailbenodi pum aelod presennol a chytuno i gychwyn proses recriwtio ar gyfer Cadeirydd newydd.

Cymeradwyo cynyddu’r gwariant ar waith addasu’r maes parcio ar gyfer Plot A9 a’r Tidal Basin yn SA1

13 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwy gwariant i gwblhau’r gwaith adeiladu yn SA1, Abertawe.

Cymeradwyo gwariant buan yn erbyn Cyllideb Masnach Allforio 2026 i 2027

13 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i neilltuo £650,000 fel cyllideb refeniw gychwynnol ar gyfer digwyddiadau masnachu tramor Llywodraeth Cymru yn ystod chwarteri un a dau blwyddyn ariannol 2026 i 2027 a chynllun grant allforio i barhau â’r gefnogaeth i allforwyr ar gyfer prosiectau sy’n cael eu cynnal yn 2026 i 2027.

Penodi aelodau Bwrdd Chwaraeon Cymru

13 Hydref 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi penodi Owain Schiavone, Alison Parken, Sanjiv Vedi, Martin Hurst a Róisín Connolly am 3 blynedd o 1 Hydref 2025 tan 30 Medi 2028.

Addysg Ar-lein Gwrthgaethwasiaeth Cymru

13 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i gyhoeddi addysg ar-lein am gaethwasiaeth fodern.

Cyfarfodydd Atebolrwydd Cyhoeddus GIG Cymru

13 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gynnal Cyfarfodydd Atebolrwydd Cyhoeddus gyda sefydliadau’r GIG i’w dwyn i gyfrif am gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Cymeradwyo ailddyrannu arian o fewn y Rhaglen Gwaith Diogelu ac Eirioli

13 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo ailddyrannu £25,000 o fewn Rhaglen Gwaith Diogelu ac Eirioli 2025 i gynnal adolygiad blwyddyn un o’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl.

Ailddyrannu'r gyllideb Cefnogi Cymunedau – 20025 i 2026

9 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddyrannu cyfanswm o £1.540 miliwn o gyllideb heb ei ddyrannu i Gymorth Bwyd Brys a Mannau Diogel a Chynnes cyn diwedd y flwyddyn.

Cymorth ariannol Digwyddiadau Cymru

9 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno bod cymorth ariannol Digwyddiadau Cymru, gwerth cyfanswm o £1,068,000, yn cael ei ddyfarnu i ddigwyddiadau a gynhelir rhwng 2026 a 2031.

Cyllido Tyfu Canolbarth Cymru

9 Hydref 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiectau datgarboneiddio ymchwil ac arloesi Systemau Cyfan Tyfu Canolbarth Cymru.

Penodi Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

9 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Judith Rhys am 4 blynedd rhwng 13 Hydref 2025 a 12 Hydref 2029.

Canlyniadau ymgynghori ar y Cod Ymarfer draft

9 Hydref 2025

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar ganlyniadau'r ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Pryderon Cynyddol, a Chau Gwasanaethau Gofal a Chymorth a Reoleiddir.

Gwaith Gwella yn SA1

9 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant i gwblhau gwaith adeiladu yn SA1, Abertawe.

Penodi Aelod Annibynnol (Cyllid) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

9 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Syr Paul Lambert am 4 blynedd rhwng 13 Hydref 2025 a 12 Hydref 2029.

Datblygu Prosiect

9 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu prosiect sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd yn Ne Cymru.

Ailbenodi Is-Gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

8 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Gareth Williams am 1 flwyddyn o 03 Tachwedd 2025 hyd at 02 Tachwedd 2026.

Ymgynghoriad yr Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg - Datganiad Blaenoriaethau Strategol

8 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ac Ynni ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Adran Wyddoniaeth Arloesi a Thechnoleg y DU ar ei datganiad arfaethedig ynghylch blaenoriaethau strategol ar gyfer telegyfathrebu, rheoli sbectrwm radio a’r gwasanaethau post.

Penodi Aelod Annibynnol (Generig) i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

8 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Ceri Doyle fel Aelod Annibynnol Generig i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o 27 Hydref 2025 hyd at 26 Hydref 2029.

Pryniant Tir ar gyfer Cryfhau SA1

7 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo prynu tir gan Gyngor Dinas Abertawe er mwyn hwyluso’r gwaith gwella drwy gryfhau glannau’r Afon Tawe yn SA1.

Cynyddu contract ymgynghori Mabwysiadu Ffordd SA1

7 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cynyddu costau contract ac ymgynghori o safbwynt gwaith seilwaith yn SA1.

Cynyddu Cyllideb Ymgynghori er mwyn cael Tystysgrifau Mabwysiadu Priffordd Rhan 2 yn SA1

7 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant ar gyflawni seilwaith yn Abertawe.

Cynlluniau Rhaglenni Cyfalaf Hanfodol GIG Cymru 2025 i 2026

7 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau Cyfalaf Hanfodol GIG Cymru 2025 i 2026.

Penodi cynghorydd prosiect yn SA1, Abertawe

7 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i benodi Larcrombe Consultancy Ltd fel Cynghorydd Prosiect am gyfnod o 16 mis yn SA1 Abertawe.

Seliad mewn perthynas ag ôl-ddyledion taliadau gwasanaeth oedd heb eu talu

7 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo setlo ôl-ddyledion taliadau gwasanaeth oedd heb eu talu mewn perthynas â thir yn Abertawe.

Adroddiad Thematig Estyn – Addysgu Cwricwlwm i Gymru

7 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad thematig Estyn – Addysgu Cwricwlwm i Gymru.

Penodi ymgynghorydd: SA1

7 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer penodi ymgynghorydd Mott MacDonald yn SA1.

Cronfa Tai â Gofal

6 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid gwerth £4,476,184 ar gyfer cynllun ar draws un rhanbarth yng Nghymru.

Addysg Bellach arbenigol

6 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Iechyd rhywiol

6 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid i Iechyd Cyhoeddus Cymru gynnal cam alpha er mwyn hyrwyddo a llywio’r posibilrwydd o ddatblygu system rheoli achosion iechyd rhywiol cenedlaethol i Gymru.

Systemau Busnes Cymru

6 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer 2026-2027 i gyflawni systemau rheoli gwybodaeth a systemau gwybodaeth ddigidol Busnes Cymru.

Ystad Ddiwydiannol Beechwood, Llandeilo

6 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer adeiladu unedau diwydiannol yn Sir Gaerfyrddin.

Polisi ar gyfer costau Waking Watch a ffioedd Cyfreithiol a Phroffesiynol

6 Hydref 2025.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo’r safbwynt polisi o ran costau waking watch a ffioedd cyfreithiol phroffesiynol a delir gan lesddeiliaid.

Penderfyniad i wrthod cais o dan adran 6 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006

6 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ag argymhelliad yr Arolygydd i wrthod y cais i ddatgofrestru a chyfnewid tir comin ar dir comin Clyne.

Parthau Buddsoddi – Cynllun Rheoli Cymorthdaliadau

6 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi nodi’r gwaith o ddatblygu Cynllun Rheoli Cymorthdaliadau Parthau Buddsoddi a wneir ar y cyd â Llywodraeth y DU, a’i fod wedi cael ei adolygu’n gadarnhaol gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

Penderfyniad ar Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol ar gyfer fferm wynt Alwen Forest

6 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio i fferm wynt Alwen Forest ddatblygu fferm wynt sydd â hyd at naw o dyrbinau gwynt.

Ymgynghoriad ar Ddiwygio Trefniadau Llywodraethu a Chyllid Awdurdodau Tân ac Achub

6 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno y dylai’r ymgynghoriad ar Ddiwygio Trefniadau Llywodraethu a Chyllid Awdurdodau Tân ac Achub fod ar agor am gyfnod o 8 wythnos.

Rhaglen Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso – Prosiectau sydd wedi’u hargymell Medi 2025

6 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid ar gyfer tri chynnig o dan y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.

Cynllun Grantiau Bach Perthyn

2 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi rhoi cymeradwyaeth i Cwmpas sefydlu cynllun grant Cymru gyfan ar gyfer Perthyn yn 2025 i 2026. Bydd y cyllid yn cefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned yn unol ag egwyddorion y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.

Grant Ychwanegol ar gyfer Datblygu Eiddo ar gyfer Iard Picton, Abertawe

2 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i roi cymorth grant ar gyfer datblygiad yn Abertawe.

Prynu Cartref - Cymru: Cap Uchafbris Prynu Cenedlaethol

2 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i bennu cap uchafbris prynu cenedlaethol ffurfiol ar gyfer cynllun cenedlaethol Prynu Cartref – Cymru, sef £300,000.

Canllawiau’r Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol

2 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar fanylion ar gyfer gweithredu’r Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol yn 2026 i 2027.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achos Busnes

2 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r argymhellion, a wnaed gan Banel Buddsoddi mewn Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a gyfarfu ym mis Mai, i ddyfarnu cyllid cyfalaf i Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer Prosiect Ysgolion Cynradd Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achos Busnes

2 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r argymhellion, a wnaed gan Banel Buddsoddi mewn Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a gyfarfu ym mis Mehefin, i ddyfarnu cyllid cyfalaf i Fro Morgannwg ar gyfer Prosiect Ysgol Uwchradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Richard Gwyn.

Opsiwn Prynu’n Ôl, Unedau 17-19 Ystad Ddiwydiannol Tŷ Bedwas, Caerffili

2 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo arwyddo cytundeb Opsiwn yng Nghaerffili.

Cytundebau sy’n ymwneud â phŵer ym Mharc Busnes Bro Tathan, Sain Tathan

2 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo parhau â’r gwaith i wella’r seilwaith ym Mro Morgannwg.

Setliad mewn perthynas â Chyfamod Cyfyngol a Thir Cyfnewid

2 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo arwyddo cytundeb â’r Weinyddiaeth Amddiffyn mewn perthynas â thir ym Mro Tathan.

Crynodeb o Ymgynghoriad – Cynllun Hawliau Pobl Anabl

2 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i gyhoeddi Crynodeb yr Ymgynghoriad ar Gynllun drafft Hawliau Pobl Anabl.

Cofrestru ysgol annibynnol Newydd

2 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi penderfynu, o dan adran 161 o Ddeddf Addysg 2002, ar 29 Medi 2025 bod cais Ysgol Somersault am statws ysgol annibynnol wedi ei gytuno.

Penodi Aelod Annibynnol (Cyllid) i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

1 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi John Union yn Aelod Annibynnol Cyllid o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre rhwng 1 Hydref 2025 a 30 Medi 2029.

Cymorth TGAU Ton 2

1 Hydref 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i’r cynnig gan Adnodd, mewn cydweithrediad â CBAC, o gymorth i ysgolion ar gyfer Ton 2 y TGAU gwnaed-yng-Nghymru am gyfanswm cost o hyd at £545,404 yn ystod blynyddoedd ariannol 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Ail-benodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

30 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ail-benodi Peter Bannister yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru am dymor o dair blynedd o fis Medi 2025.

Penodi Aelod Annibynnol (Generig) i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

30 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Mick Gianassi yn Aelod Annibynnol (Generig) ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys am bedair blynedd yn dechrau 1 Hydref 2025.

Dyrannu Cyllid i Llais

30 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddyrannu cyllid i Llais, Corff Llais y Dinesydd i Gymru, ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Problemau capasiti draenio budreddi ar Barc Busnes Clawdd Offa

30 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant ar astudiaethau draenio a seilwaith yn y Trallwng.

Tir yn Noc Penfro

30 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar yr ad-daliad sy’n ddyledus mewn perthynas â chytundebau grant sy’n ymwneud â thir yn Sir Benfro.

Gwerthu rhandiroedd C8 a C9 Parc Bryn Cegin, Bangor, Gwynedd

30 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwerthu tir ym Mharc Bryn Cegin, Bangor.

Datblygiad y Rhaglen Cronfa Tai â Gofal

29 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo hyd at £140,000 mewn cyllid Cronfa Tai â Gofal i gaffael gwasanaeth i werthuso’r Rhaglen Cronfa Tai â Gofal.

Cyhoeddi Protocol Cenedlaethol 2025 mewn perthynas â gweinyddu brechlynnau COVID-19

29 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi’r Protocol Cenedlaethol mewn perthynas â gweinyddu brechlynnau COVID-19 yn rhaglen frechu COVID-19 hydref 2025.

Cynlluniau cymelliadau ariannol i hyfforddeion ar raglenni hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu a hyfforddeion seiciatreg graidd

29 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i ariannu’r cynllun cymhelliad ariannol wedi’i dargedu i hyfforddeion ar raglenni hyfforddiant arbenigol i feddygon teulu sy’n dechrau yn 2026 i 2027 a gweithrediad y cynllun cymhelliad ar gyfer hyfforddeion seiciatreg graidd am flwyddyn arall.

Cyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru

29 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i adolygu cyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru.

Penodi Aelod i Gyngor Celfyddydau Cymru

29 Medi 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi penodi Christina Macaulay am 3 blynedd o 1 Hydref 2025 hyd 30 Medi 2028.

Trawsnewid Trefi

29 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid grant Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi gwelliannau i Venue Cymru, Llandudno, ac i alluogi gwaith i sicrhau bod lleoedd gwag yng nghanol trefi yn cael eu defnyddio eto fel unedau preswyl, ac i Gyngor Sir Ynys Môn i adnewyddu’r Derfynfa Forol yn Amlwch i ddarparu llety busnes.

Grant Cyfalaf Safloedd Sipsiwn a Theithwyr

25 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip yn cymeradwyo cynigion am gyllid cyfalaf gan Gyngor Bwrdeistref Sir Conwy hyd at werth o £15,282 yn 2025 i 2026; Cyngor Sir Casnewydd hyd at werth o £1,905 yn 2025 i 2026; a Chyngor Sir Penfro hyd at werth o £41,945 yn 2025 i 2026.

Cyllid ar gyfer Prosiectau Peilot Arloesol Ysgolion Bro

25 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gyllid o £70,000 i gefnogi 3 prosiect peilot arloesol mewn Ysgolion Bro.

Ymgynghoriad ar reol arfaethedig o fewn Safon Ansawdd Tai Cymru 2023

25 Medi 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ymgynghoriad ar reol arfaethedig o fewn Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 mewn perthynas â lleithder, llwydni a pheryglon eraill.

Cynllun Ffermio Bro: Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig

24 Medi 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyrannu cyllid ychwanegol i’r cynllun Ffermio Bro: Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig rhwng 2025 a 2026.

Cyllid ychwanegol ar gyfer diogelwch tân

24 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddefnyddio'r cyllidebau presennol i ddyrannu hyd at £8,400,000 o gyllid cyfalaf ar gyfer diogelwch tân mewn adeiladau yn 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Diogelwch adeiladu - amrywiad i Ddyfarniad Grant Cei Meridian

24 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo £420,000 o gyllid grant cyfalaf o'r cyllidebau presennol ar gyfer cyflawni gwaith diogelwch tân.

Banc Datblygu Cymru – Trosglwyddo Cyfranddaliadau

23 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar y trosglwyddiad cyfranddaliadau rhwng DBW Plc a Gweinidogion Cymru i fodloni'r amod perchnogaeth o dan Ddeddf Caffael 2023.

Polisi Feirws y Tafod Glas 2025 i 2026

23 Medi 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i adolygu polisi Feirws y Tafod Glas yng Nghymru.

Cyllid yr Awdurdod Meinweoedd Dynol

23 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r gofynion cyllido gweithredol ar gyfer yr Awdurdod Meinweoedd Dynol ar gyfer 2025 i 2026.

Recriwtio Prif Swyddog Gweithredu Medr – ailraddio

22 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo ailraddio swydd Prif Swyddog Gweithredu Medr, sef Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 12 Awst 2025

22 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Economi’r Dyfodol ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r cyffiniau.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 19 Awst 2025

22 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Economi’r Dyfodol ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r cyffiniau.

Panel Goruchwylio Annibynnol – Asesiad Sicrwydd Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol

22 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Athro Sally Holland yn Gadeirydd a’r Dr Edile Murdoch, Ken Sutton, Sue Holden, Heidi Smoult, Dr Jo Mountfield a’r Athro Mary Renfrew yn aelodau o Banel Goruchwylio Annibynnol Asesiad Sicrwydd Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol.

Penodi Arsylwydd Annibynnol ar Banel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol Bae Abertawe

22 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Ann Gow yn Arsylwydd Annibynnol ar Banel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth ac Newyddenedigol Bae Abertawe.

Prosiectau Rhaglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso - Gorffennaf 2025

17 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynnig o dan y Gronfa Cyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso.

Gweinyddiaeth Dawnus – Costau Cyngor Cyfreithiol

16 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar wariant ychwanegol i alluogi Hugh James LLP i barhau i ddarparu cyngor cyfreithiol allanol mewn perthynas â monitro parhaus Gweinyddiaeth Dawnus.

Atodiad Diwygiedig Llythyr Cyllid Medr 2025 i 2026

16 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ffrydiau cyllido ychwanegol ar gyfer Medr yn dilyn cytundeb ar ddyfarniadau cyflog Athrawon.

Ynni Cymru

10 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ariannu cynllun grant cyfalaf Ynni Cymru ar gyfer 2025 i 2026.

Rolau cyllid natur

10 Medi 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid i ymestyn tair rôl cyllid natur hyd 2027 i 2028 ac i ymestyn yr adroddiad tystiolaeth cyllid natur yn rhannol hyd 2026 i 2027.

Cyllid Trawsnewid Trefi

10 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid: i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i drawsnewid y man agored cyhoeddus yn Sgwâr Gwent, Cwmbrân; i Gyngor Abertawe i gefnogi’r Cynllun Byw Bioffilig yn Abertawe, ac estyniad i delerau’r benthyciad Trawsnewid Trefi presennol; i Gyngor Caerffili i gefnogi darparu Cam 2 – y Strategaeth Strydoedd a Mannau Agored; ac i Gyngor Gwynedd i gefnogi prosiect Cynllun Eiddo Gwag Bangor.

Cenedl Marmot 

10 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ac wedi cytuno y gall gwaith ddechrau i gyflawni’r uchelgais i Gymru ddod yn ‘Genedl Marmot’.  

Gwasanaeth Cyngor Mewnfudo Cymru Wcrain 

10 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ariannu Settled i sefydlu Gwasanaeth Cyngor Mewnfudo Cymru Wcrain ar gyfer y 12 mis nesaf.

Gwaith Adfer Diogelwch Tân

10 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo dwy ddogfen ganllaw newydd i gefnogi datblygwyr, unigolion cyfrifol, lesddeiliaid a thrigolion pan fo gwaith adfer diogelwch tân yn cael ei wneud yn eu hadeilad.

Gwasanaeth Data Ymchwil Iechyd 

10 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno mewn egwyddor i ddatblygiad partneriaeth y Gwasanaeth Data Ymchwil Iechyd yn y DU.

Geoparc GeoMon 

10 Medi 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi dyrannu cyllid o £47,500 i Geoparc GeoMôn yn 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

8 Medi 2025

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip yn cymeradwyo cynigion cyllid cyfalaf gan Gyngor Sir Caerdydd hyd at £199,520; a chan Gyngor Sir Wrecsam hyd at £18,173; yn 2025-2026.

Diogelwch tomenni glo

8 Medi 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, wedi cytuno ar gynnig ar gyfer dyfarniad grant aml-flwyddyn ar gyfer cynllun grant diogelwch tomenni glo i sicrhau gwaith hanfodol i gynnal a chadw tomenni glo a gofalu eu bod yn ddiogel.

Grŵp Defnyddwyr Premiwm UKMOD

5 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer aelodaeth Grŵp Defnyddwyr Premiwm UKMOD (model microefelychu budd-daliadau a threthi).

Cronfa Balchder Llawr Gwlad Cymru

5 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer Cronfa Balchder Llawr Gwlad Cymru ar gyfer 2025 i 2026.

Lesoedd Fibrespeed

3 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i adnewyddu’r lesoedd hawddfraint yn Nhŵr Redwither; Parc Busnes Dewi Sant a Pharc Busnes Gogledd Cymru.

Diwrnod Cofio'r Holocost

3 Medi 2025

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu hyd at £60,000 o gyllid i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i gyflwyno gweithgareddau coffa yng Nghymru rhwng 2025 a 2028, gyda'r posibilrwydd o’i estyn am dair blynedd arall os yw’r Gweinidog perthnasol yn fodlon â pherfformiad yn ystod y cyfnod grant cychwynnol.

Adolygu targed symudedd rhaglen Taith

3 Medi 2025

Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cytuno i ddiwygio'r targed symudedd cyffredinol ar gyfer rhaglen Taith o 25,000 i 15,500.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 5 Awst 2025

2 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Rhaglen Cydlyniant Cymunedol

2 Medi 2025

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i ariannu’r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol am 3 blynedd rhwng 2026 a 2029, gyda’r posibilrwydd o estyniad am dair blynedd arall (hyd fis Mawrth 2032) pe bai’r Gweinidog perthnasol yn fodlon ar berfformiad yn ystod cyfnod cychwynnol y grant.

Penodi Aelodau Cyswllt Bwrdd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

2 Medi 2025

Mae Ysgrifenydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Dr Alex Brown yn Aelod Cyswllt Bwrdd yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Fforwm Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am 2 flynedd, ac i benodi Dr Jonathan Arthur fel Aelod Cyswllt Bwrdd yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Fforwm Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am 1 flwyddyn.

Y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

2 Medi 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch yn 2017.

Y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gweledig

2 Medi 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad BPS yn 2019.

Y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gweledig

2 Medi 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod Grant Busnes i Ffermydd Cyfnod 5.

Y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gweledig

2 Medi 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso gostyngiadau a chosbau i hawliad y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio.

Cynllun lliniaru llifogydd

1 Medi 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i neilltuo £150,000 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddechrau gwaith ar unwaith ar achos busnes amlinellol i ddatblygu cynllun lliniaru llifogydd ffurfiol yn Nant Pontysanau, Bracla, Pen-y-bont.

Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau

1 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG ar gyfer Hyb De-ddwyrain Cymru ar gyfer y rhaglen Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau ym Mharc Imperial 5 yng Nghasnewydd.

Cyfarwyddyd o ran Tystysgrifau Colli Babanod

1 Medi 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyfarwyddo Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG i gyflwyno proses ardystio wirfoddol ledled Cymru i gydnabod colli beichiogrwydd yn ffurfiol cyn 24 wythnos o feichiogrwydd, yn unol â'r camau gweithredu a gymerir yn Lloegr.

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a Fframwaith Gweithredol Cadw

28 Awst 2025

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cadw a Gweinidogion Cymru.

Ailbenodi aelod annibynnol (Cyllid) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

28 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ail-benodi Patricia Price am 4 blynedd rhwng 16 Hydref 2025 a 15 Hydref 2029.

Trawsnewid Trefi

28 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i amrywio uchafswm cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru a ganiateir ar gyfer prosiectau Ardal Gyhoeddus a Seilwaith Gwyrdd a gefnogir o dan y rhaglen Trawsnewid Trefi.

Diweddariad i'r Fanyleb Gwasanaeth Atodol ar gyfer Ffliw Plentyndod

28 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi manyleb gwasanaeth ddiwygiedig ar gyfer y brechiad ffliw plentyndod yn ystod 2025 i 2026.

Cronfa dileu clefyd Aujeszky mewn moch

27 Awst 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i £605,000 o Gronfa Clefyd Aujeszky gael ei ryddhau i’r Bwrdd Datblygu Garddwriaeth, Quality Meat Scotland a Hybu Cig Cymru, i alluogi i’r cyllid gael ei ddefnyddio’n haws ar gyfer iechyd moch a materion sy’n gysylltiedig â chlefydau.

Addysg bellach arbenigol

27 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Cydymaith Meddygol

27 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i drafod gohirio’r gwaith o gomisiynu lleoedd hyfforddi Cymdeithion Meddygol ar gyfer Rhaglen Cydymaith Meddygol yng Nghymru.

Fferm Solar Alaw Môn

27 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer Fferm Solar Alaw Môn.

Ailbroffilio’r Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol

27 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i ailddyrannu gwariant ar y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026, gan gynnwys cymorth ar gyfer y Rhaglen Cysylltu Gofal.

Cymeradwyo Achos Busnes Llawn Porthladd Rhydd Ynys Môn

21 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo Achos Busnes Llawn Porthladd Rhydd Ynys Môn.

Cyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi

21 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ffilmio yn y De-ddwyrain.

Penodi 3 Chyfarwyddwr i Fwrdd Dewis Gyrfa, sy’n masnachu o dan enw Gyrfa Cymru

21 Awst 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi penodi Nan Williams o 01 Medi 2025 hyd at 31 Awst 2028, Hayley Jacobs o 01 Tachwedd 2025 hyd at 31 Hydref 2028, a Sarah Last o 09 Ionawr 2026 hyd at 08 Ionawr 2029 am gyfnod o 3 blynedd.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn lansio ymgynghoriad Cyhoeddus

20 Awst 2025

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i’r Asiantaeth Safonau Bwyd lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd ar waharddiad arfaethedig yn ymwneud â defnyddio Bisphenol A a sylweddau cysylltiedig mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Ymestyn Band Eang Cyflym

20 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid i gynnal y gwaith o reoli a gweinyddu’r Prosiect Ymestyn Band Eang Cyflym.

Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

19 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynnig cyllid cyfalaf gwerth £723,349 yn 2025 i 2026 a £76,651 yn 2026 i 2027 oddi wrth Gyngor Sir Caerdydd.

Cynllun grant Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant

18 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ailbroffilio'r gyllideb gyfalaf Cymorth i Ddiwylliant a Chwaraeon Lleol, i adlewyrchu’r cyllid ar gyfer y cynllun grant Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant ar gyfer 2025 i 2026.

Cyfoeth Naturiol Cymru

18 Awst 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi cymeradwyo cyflog diwygiedig ar gyfer Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gysoni'r cyflog â rolau aelodau eraill y Tîm Gweithredol, lle bo'n briodol, o 1 Ebrill 2025 ymlaen.

Gorchymyn Gwaddol Addysg – Ysgol Capel Cynfab

18 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r argymhellion i ddrafftio Gorchymyn Gwaddol Addysg ar gyfer hen ysgol yr Eglwys yng Nghymru, Ysgol Capel Cynfab yn esgobaeth Tyddewi ac i ddechrau'r broses hysbysu cyhoeddus o'r bwriad i wneud Gorchymyn.

Ymestyn Cyllid Prosiect Gwella Cynhyrchiant Busnes y Cymoedd Technoleg

18 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gynnydd untro yn uchafswm y cyllid y gellid ei gynnig drwy'r cynllun grant Prosiect Gwella Cynhyrchiant Busnes ac y i'r Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau, gymeradwyo'r swm.

Belantamab mafodotin ar gyfer myeloma ymledol

18 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i sicrhau bod Belantamab Mafodotin (BVd) ar gael i gleifion cymwys â myeloma ymledol cyn canllawiau terfynol NICE.

Prosiectau Cyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar

14 Awst 2025

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cynnig Cylch Meithrin Morfa Rhianedd a'r cyllid ychwanegol ar gyfer cynnig Gofal Plant Glyncoed.

Cyllid ychwanegol Diogelwch Adeiladau ar gyfer arolygon diogelwch tân

14 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddefnyddio cyllidebau i ddyrannu hyd at £8,400,000 o gyllid cyfalaf dros 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Trawsnewid Trefi

14 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Sir Penfro i gyflawni prosiect Castell Hwlffordd a chysylltu’r Castell â chanol y dref.

Penodi aelod anweithredol i Gorff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llais Cymru)

14 Awst 2025
 
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi penodi Catherine Mair Gwynant (a elwir yn Mair) am 4 blynedd rhwng 01 Hydref 2025 a 30 Medi 2029.

Cyllid Iechyd a Gofal Digidol Cymru i helpu i symud meddygon teulu i system Newydd

14 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gyflymu’r broses o symud meddygon teulu i system newydd.

Rhaglen Gyflawni Awdurdodau Lleol (Tai)

14 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ymestyn Rhaglen Gyflawni Awdurdodau Lleol (Tai) tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Penodi i Dribiwnlys y Gymraeg

13 Awst 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Mr Owen Studley yn Aelod Lleyg Cyflogedig o Dribiwnlys y Gymraeg am gyfnod o 5 mlynedd rhwng 22 Gorffennaf 2025 a 21 Gorffennaf 2030.

Cynllun Cymunedol Interim y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

13 Awst 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i’r canlynol: bwrw ymlaen yn 2025 i 2026 gyda threfniadau interim Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a gyflwynwyd yn 2024 i 2025, ond gyda 2 ffenestr fyrrach a chanllawiau ychwanegol; a chynnal ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r Cynllun sy'n adlewyrchu'r gyllideb lai.

Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd

13 Awst 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid a lansiad Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd 2026 i 2027.

Medr

13 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i Medr ar gyfer addysg bellach ADY ac ar gyfer costau Yswiriant Gwladol cynyddol.

Atal a’r Blynyddoedd Cynnar

13 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynlluniau byrddau iechyd lleol o ran Atal a’r Blynyddoedd Cynnar, sy'n helpu pobl i ymatal rhag dechrau smygu tybaco neu roi’r gorau iddi, ac yn atal gordewdra a bod dros bwysau.

Cyfoeth Naturiol Cymru

13 Awst 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi cymeradwyo trefniadau diswyddo gwirfoddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl gweithredu ei gynigion Achos dros Newid.

Rheoliadau Adeiladu 2010

13 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar y papurau ymgynghori ar gyfer cynigion i Ran L (Cadwraeth Tanwydd a Phŵer), F (Awyru) a Rhan O (Gorboethi) y Rheoliadau Adeiladu ar gyfer anheddau ac adeiladau annomestig.

Undeb Credyd Cambrian

13 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu £20,000 o gyllid cyfalaf i Undeb Credyd Cambrian i dreialu'r defnydd o dechnoleg AI i leihau costau gweithredol.

Isafbris am alcohol

13 Awst 2025

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gynnwys yr ymgynghoriad ar barhau gydag Isafbris Uned ar gyfer Alcohol, a'r cynnydd arfaethedig yn yr Isafbris Uned o 50c i 65c.

Cynhwysiant digidol

13 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg a'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar Drosglwyddiad Cyllideb gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyllid i gefnogi gweithgarwch cynhwysiant digidol yng Nghymru yn ystod Blwyddyn Ariannol 2025 i 2026.

Lido Brynaman

13 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid i Chwaraeon Cymru i gefnogi'r gwaith paratoi cynnar i archwilio opsiynau ar gyfer ailddatblygu Lido Brynaman.

Ailbenodi i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

12 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Peter Bannister yn Gyfarwyddwr Anweithredol i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, am 3 blynedd rhwng 18 Medi 2025 a 17 Medi 2028.

Pysgota rhwydi ar y glannau

12 Awst 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion yn dilyn yr alwad am dystiolaeth ar weithgarwch rhwydo ar y glannau yng Nghymru ac i ddatblygu a gweithredu system cofnodi dalfeydd wirfoddol ar gyfer pysgota â rhwydi ar y glannau.

Pecynnu bwyd

12 Awst 2025

Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno a dynodi'n ffurfiol yr Awdurdod Safonau Bwyd fel yr Awdurdod Cymwys, mewn perthynas â Chymru at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EU) 2022/1616 sy'n rheoli deunyddiau plastig wedi'u hailgylchu sy'n dod i gysylltiad â bwyd.

Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2025

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno y bydd Cynhadledd Gwrthgaethwasiaeth Cymru 2025 yn cael ei chynnal ar 16 Hydref.

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cynlluniau buddsoddi 9-mlynedd ar gyfer y sefydliadau Addysg Bellach a ganlyn; Coleg Caerdydd a’r Fro; Coleg Catholig Dewi Sant; Coleg Gwent; Coleg Gŵyr; Coleg Merthyr; Coleg Pen-y-bont ar Ogwr; Coleg Sir Gar/Coleg Ceredigion; Coleg y Cymoedd; a Grŵp Colegau NPTC. 

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cynlluniau buddsoddi 9-mlynedd ar gyfer yr awdurdodau lleol a ganlyn: Abertawe; Blaenau Gwent; Bro Morgannwg; Caerdydd; Caerffili; Casnewydd; Castell-nedd Port Talbot; Ceredigion; Conwy; Gwynedd; Merthyr; Pen-y-bont ar Ogwr; Powys; Rhondda Cynon Taf; Sir Benfro; Sir Ddinbych; Sir Fynwy; Sir Gaerfyrddin; Wrecsam; ac  Ynys Môn.

Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar y ffordd i Orllewin Pen-y-bont ar Ogwr fynd yn ei flaen fel prosiect cyfalaf wedi’i ariannu.

Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar y gwariant ar gyfer Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol 3 2025–2026

Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar y gwariant ar gyfer Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol 2025–2026.

Addysg bellach arbenigol 

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Y Gronfa Tai â Gofal

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwy £2,129,737 ar gyfer pedwar cynllun ar draws tri rhanbarth yng Nghymru a £69,194 tuag at adnoddau ar gyfer un rhanbarth.

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

11 Awst 2025

Mae’r Ddirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar ymchwil i fwrw ymlaen â thrydydd argymhelliad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Asesiadau Gofalwyr

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi gwaith mewn perthynas ag asesiadau anghenion gofalwyr.

Canolfan Ganser De-orllewin Cymru

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo dyrannu cyllid ar gyfer datblygu Efelychydd Tomograffeg Cyfrifiadurol a Deallusrwydd Artiffisial yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo dyrannu cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i brynu Peiriant Pennu Dilyniant cenhedlaeth nesaf ar gyfer Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan.

Cerbydau Sgrinio Llygaid am Ddiabetes i Gymru

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddisodli nifer o gerbydau nwyddau ysgafn ar gyfer Sgrinio Llygaid am Ddiabetes, ynghyd â buddsoddiad pellach yn seilwaith gwefru cerbydau trydan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Plas Antaron 

11 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ailwampio Plas Antaron, sy’n cael ei ddatblygu yn Ganolfan Byw’n Dda.

Prif Arolygydd Dŵr Yfed

11 Awst 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ynghyd â Gweinidogion yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, wedi ailbenodi ac wedi ailddynodi Marcus Rink yn Brif Arolygydd Dŵr Yfed.

Penodiad i Chwaraeon Cymru

11 Awst 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi ailbenodi y Farwnes Tanni Grey-Thomson yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru am dair blynedd, o 1 Gorffennaf 2025 i 30 Mehefin 2028; ac wedi ailbenodi Rajma Begum, Hannah Bruce a Nicola Mead-Batten yn Aelodau o Fwrdd Chwaraeon Cymru am un flwyddyn o Hydref 2025 i 30 Medi 2026.

Ardaloedd Morol Gwarchodedig

7 Awst 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo £350,000 yn 2025 hyd 2026 a £70,000 yn 2026 hyd 2027 fel y gall CNC fynd i’r afael â chynllun gwaith mewn ymateb i asesiadau o gyflwr Ardaloedd Morol Gwarchodedig.

Crwbanod yn tirio

7 Awst 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyllido rhaglen ymchwilio, adfer a dychwelyd ynghylch crwbanod yn tirio, a fydd werth £8,000 ar gyfer y blynyddoedd ariannol rhwng 2025 a 2031.

Gofal cymdeithasol

6 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i neilltuo arian ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 i gefnogi Rhaglen Cysylltu Gofal ar gyfer Gofal Cymdeithasol CLlLC.

Lle ar gyfer lled-ddargludyddion yng Nghanolfan 7

6 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo £1.46 miliwn o arian ychwanegol i gwblhau adnewyddu Cam 2 o adeilad Canolfan 7.

Amddiffyn yr arfordir

6 Awst 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i neilltuo cyllid ar gyfer 2025 i 2026 i 2027 i 2028 i dreialu a phrofi rôl cydlynwyr arfordirol mewn cymunedau glan-môr yn ogystal ag ar gyfer Archwiliad Llywodraethiant a Chapasiti i lywio model ar gyfer rhwydwaith swyddogion partneriaethau arfordirol yn y dyfodol. 

Canolfan Troseddau a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru

6 Awst 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i neilltuo £5000 i Ganolfan Troseddau a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru i sefydlu grŵp cynghori academaidd i gefnogi’r paratoadau ar gyfer datganoli cyfiawnder. 

Datblygu busnesau

6 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant ychwanegol ar gyfer datblygu eiddo masnachol newydd ym Mangor. 

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

4 Awst 2025

Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r prosiectau canlynol, a gallant bellach symud ymlaen at y cam nesaf yn y broses fusnes: Ysgol Arbennig Newydd Clydach, Rhondda Cynon Taf;  Ysgol Iolo Morgannwg, Bro Morgannwg; Heronsbridge, Pen-y-bont ar Ogwr; Cam 1 Campws Coleg Meirion - Dwyfor Dolgellau, Grŵp Llandrillo Menai; ac amrywiadau ariannu ar gyfer Ysgol Bryncelynnog i Ysgol 3-16 Pontypridd, Rhondda Cynon Taf; prosiect ymestyn Ysgol Uwchradd Ebbw Fawr, Blaenau Gwent; Campws Gorseinon, Coleg Gŵyr; a gwneud newid yn rhaglen y prosiect o dan Grant Cyfalaf Ysgolion Bro, Sir y Fflint.

Rheolaeth Adeiladu

4 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno y gall swyddogion edrych ar yr opsiynau ar gyfer gwella goruchwyliaeth swyddogaethau Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Datgarboneiddio cerbydau masnachol

4 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno y gellir symud ymlaen â rhaglen waith i gefnogi datgarboneiddio cerbydau masnachol yng Nghymru drwy gytundeb ariannu â Phartneriaeth Zemo.

Gwaredu Eiddo

4 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo gwaredu adeilad yn Llangefni.

Cymorth Prynu Dwyfor

4 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar newidiadau i’r Cynllun Cymorth i Brynu – Cymru yng Nghyngor Gwynedd fel rhan o’r peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd yn Nwyfor.   

Fferm Wynt Glyn Cothi  

4 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i symud prosiect Glyn Cothi i’r Cam Cyn-cynllunio, gan gynnwys ymrwymiad cyllid.

Fferm Wynt Carreg Wen 

4 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i symud prosiect Carreg Wen i’r Cam Cyn-cynllunio, gan gynnwys ymrwymiad cyllid.

Fferm Wynt Clocaenog Dau 

4 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i symud prosiect Clocaenog Dau i’r Cam Cyn-cynllunio, gan gynnwys ymrwymiad cyllid. 

Gwaredu Eiddo

4 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwaredu adeilad ym Mhowys.

Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg

4 Awst 2025

Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i wneud newid i’r Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027, a gaiff ei ategu gan ymgyrch codi ymwybyddiaeth ar gyfer ceisiadau i’r Cynllun.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

4 Awst 2025

Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r Achos Amlinellol Strategol ar gyfer y Prosiect Canolfan Technoleg Gynaliadwy arfaethedig yng Ngholeg Merthyr, a gall nawr symud at y cam nesaf yn y broses datblygu cynllun.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

4 Awst 2025

Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo: yr Achos Amlinellol Strategol ar gyfer Cam 2 Adnewyddu Mewnol Prif Adeilad Coleg Dewi Sant; cyllid ar gyfer Coleg Sir Gâr ar gyfer ei Gyfleuster Peiriannau Amaethyddol; ac amrywiadau ariannu ar gyfer Colegau Grŵp NPTC mewn perthynas â’i brosiect canol y dref yn Aberhonddu a Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer ei brosiect Tŷ Menai.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

4 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r prosiectau canlynol, a gallant bellach symud ymlaen at y cam nesaf yn y broses achos busnes: Ysgol Gynradd Pontsenni, Powys; Ysgol Uwchradd Gatholig Esgob Vaughan; ac Ysgol Uwchradd Tregŵyr, Abertawe; yn ogystal â chyllid ar gyfer Rhondda Cynon Taf am ei ysgol arbennig newydd, Cwm Clydach, ac am ei brosiect yng Nghlyncoch fel rhan o’r Her Ysgolion Cynaliadwy; ac amrywiad ariannu ar gyfer Y Castell yn Sir Gaerfyrddin.

Cefnogi iechyd a lles anifeiliaid

1 Awst 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid i gefnogi polisi iechyd a lles anifeiliaid.

Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur

1 Awst 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y trefniadau adran 83 newydd rhwng Gweinidogion Cymru a’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur ar gyfer 2025 i 2030. Mae hyn yn cynnwys dyrannu £166,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cymorth busnes

1 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog  Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Sir Gaerfyrddin.

Cynllun y Taliad Sylfaenol

1 Awst 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddiwygio’r newidiadau i Gynllun y Taliad Sengl fel rhan o’r cynllun pontio a gweithredu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac i ddiwygio’r Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig o 1 Ionawr 2026.

Darparu cyfarpar newydd i’r GIG yn lle ei hen gyfarpar

1 Awst 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu cyfarpar diagnostig a thriniaeth newydd yn lle hen gyfarpar ar draws GIG Cymru.

Adolygiad o Lif Prosiectau’r Rhaglen Model Buddsoddi Cydfuddiannol Addysg

31 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cymeradwyo canlyniad Adolygiad o Lif Prosiectau’r Rhaglen Model Buddsoddi Cydfuddiannol Addysg.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

31 Gorffennaf 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yr ysgolion a ganlyn: Rhondda Cynon Taf – Ysgol Gyfun Cwm Rhondda; Powys – Ysgol Gynradd Pontsenni; Castell-nedd Port Talbot – Ysgol Gyfun Llangatwg ac Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan i symud ymlaen i gam nesaf y broses achos busnes, fel rhan o'r Her Ysgolion Cynaliadwy. Mae hefyd wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer prosiect Ysgol Gynradd Plasyfelin yng Nghaerffili ac ar gyfer Uned Cyfeirio Disgyblion Haulfan yn Wrecsam, yn ogystal ag amrywiad cyllido ar gyfer Ysgol Pen y Dre ym Merthyr.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

31 Gorffennaf 2025

Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol, gan olygu y gellir symud ymlaen i gam nesaf y broses ddylunio a datblygu ar gyfer y datblygiad arfaethedig ar gampws Pibwrlwyd Coleg Sir Gâr drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

Penodi Aelod i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

31 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Peter Lewis (Cadeirydd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid) yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am gyfnod o ddwy flynedd.

Llygredd Aer

31 Gorffennaf 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymgynghori ar Gynllun Cyflawni drafft ar gyfer Codi Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer. Cytunwyd hefyd ar gyllideb i gefnogi'r camau gweithredu yn y Cynllun Cyflawni.

Llygredd Aer

31 Gorffennaf 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddrafftio rheoliadau amodol i ddarparu ystod gosb newydd am adael injan cerbydau i redeg yn segur.

Y Cynllun Tir ar gyfer Tai

31 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i barhau â'r Cynllun Tir ar gyfer Tai yn 2025 i 2026.

Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

31 Gorffennaf 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymestyn penodiad presennol Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol tan 31 Rhagfyr 2025. Bydd hyn yn caniatáu digon o amser i recriwtio Cadeirydd nesaf y Pwyllgor yn ffurfiol. Bydd y sawl a benodir yn dechrau yn ei swydd ar 1 Ionawr 2026 ac yn parhau ynddi tan 31 Rhagfyr 2028. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog hefyd yn fodlon cynyddu ymrwymiad amser blynyddol y Cadeirydd newydd i 84 diwrnod y flwyddyn fel yr amlinellir yn y cyngor.

Galw i mewn cais cynllunio, Lôn Gamford, Wrecsam

30 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu 10 o anheddau yn Nhŷ Gamford, Lôn Gamford, Wrecsam.

Maes Awyr Caerdydd

30 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid gan Lywodraeth Cymru hyd at £300,000.00 gan gynnwys TAW ar gyfer 2025 i 2026, i gomisiynu cyngor cyfreithiol a thechnegol arbenigol ar hedfanaeth.

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

30 Gorffennaf 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar yr ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer yr Adolygiad o’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

30 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo bwrw ymlaen â’r broses fuddsoddi ar gyfer prosiect arfaethedig Ysgol Tryfan Gwynedd ym Mangor; a chyllid ar gyfer Powys am eu prosiect Ysgol Arbennig Neuadd Brynllywarch; a hefyd cymeradwyo prosiectau Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg a ariennir o dan y Grant Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd; ac amrywiadau cyllido ar gyfer prosiect Ysgol Bro Allta Caerffili o dan y Grant  Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

29 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a’r cyllid blynyddol ar gyfer Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru 2025 i 2026.

Adnoddau digidol i gefnogi’r system ysgolion

29 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gaffael cyflenwr i gynnal ymarfer i darganfod mwy am offer digidol cenedlaethol i gefnogi defnydd data effeithiol a theg ar gyfer cydweithio, asesu, gwella a thryloywder ledled y system ysgolion.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy 

28 Gorffennaf 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: y broses fuddsoddi ar gyfer yr ysgol eginblanhigyn cyfrwng Cymraeg arfaethedig ym Merthyr a phrosiect ffan Ysgol Golwg Pen Y ym Mhowys; cyllid i Sir Ddinbych ar gyfer eu prosiect Ysgol Y Castell; ac amrywiadau cyllido ar gyfer prosiectau Rhondda Cynon Taf o dan y Grant Prydau Ysgol Gynradd Am Ddim Cyffredinol; ac ar gyfer prosiect Ysgol y Bendigaid Carlo Acutis ym Merthyr.

Rhaglen imiwneiddio goddefol ar gyfer y Feirws Syncytial Anadlol

28 Gorffennaf 2028

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi derbyn cyngor ar newid cynnyrch ac ehangu’r rhaglen imiwneiddio goddefol ar gyfer y feirws syncytiol anadlol i fabanod newydd-anedig risg uchel.

Rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru  

28 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddyfarnu 19 o grantiau o dan raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru a galwad bellach am gynigion o dan 3 blaenoriaeth benodol, llythrennedd, rhifedd, a chyfrifiadura a digidol, yn dod i gyfanswm o £44,314,816 dros 3 blynedd ariannol o 2025 i 2028 a hefyd estyn grantiau cwricwlwm EESW Ltd a Technocamps blaenorol hyd fis Awst 2025, am gost o £150,000 yn 2025 i 2026.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy  

28 Gorffennaf

Cymeradwyodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: y broses fuddsoddi ar gyfer y Ganolfan Safon Uwch arfaethedig yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Campws Dolgellau, Grŵp Llandrillo Menai (GLLM); amrywiad cyllido ar gyfer cyfleuster Tŷ Cyfle GLLM ym Mangor; a darparu cyllid i Goleg Gŵyr ar gyfer eu prosiect sy'n mynd i'r afael â choncrit awyredig awtoclafio wedi'i atgyfnerthu a chefnogi cyflawni amcanion Carbon Sero Net.

Castell Caerffili 

28 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifenydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar y costau cwblhau ar gyfer Cam 1 ac wedi diweddaru’r dull gweithredu ar gyfer Cam 2 datblygiad Castell Caerffili. 

Coleg Catholig Dewi Sant

28 Gorffennaf 2025

Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cam 2 adnewyddu prif adeilad Coleg Catholig Dewi Sant.

Trafnidiaeth Cymru

25 Gorffennaf 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth i gynnydd mewn ymrwymiad amser a chydnabyddiaeth ar gyfer Cadeirydd newydd Trafnidiaeth Cymru, gan nodi penodi Peter Strachan yn gyfarwyddwr anweithredol newydd i Fwrdd Trafnidiaeth Cymru.

Cymorth busnes

25 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Cronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Wrecsam

Adroddiad Blynyddol y Ddeddf Datblygu Diwydiannol

25 Gorffennaf 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i osod Adroddiad Blynyddol Deddf Datblygu Diwydiannol 1982 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024 i 2025, gerbron Senedd Cymru.

Cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer Diwygio Mesurau Cydbwyso Amgylcheddol Gwynt oddi ar y Môr

24 Gorffennaf 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gynigion Llywodraeth y DU ar fesurau ehangach, i gynigion Llywodraeth y DU mewn perthynas â rheolaeth safle arferol, ychwanegedd ac amseriad darpariaeth mesurau cydbwyso ac nad oes angen brys ar hyn o bryd i gyflwyno rheoliadau cymaradwy i Gymru.

Maes awyr Caerdydd a rhanbarth y De

24 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i becyn cymhorthdal o hyd at £205.2 miliwn, i’w ddarparu i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf, yn raddol dros hyd at ddeng mlynedd, i alluogi potensial twf economaidd Maes Awyr Caerdydd a rhanbarth y De.

Nodi iawndal strategol ar gyfer effeithiau gwynt ar y môr yng Nghymru

24 Gorffennaf 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i fesurau Iawndal Strategol penodol ar gyfer datblygiad gwynt ar y môr yng Nghymru, yn benodol newidiadau i ffiniau Ardaloedd Morol Gwarchodedig neu ddynodiad posibl a lleihau ysglyfaethwyr ar gyfer effeithiau adar. Ni chytunwyd y byddai strwythurau nythu artiffisial yn iawndal addas ar gyfer effeithiau adar yn nyfroedd Cymru.

Building Research Establishment Ltd – Creu dangosyddion ansawdd tai gwael

24 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid i ddiweddaru’r dangosydd ansawdd tai gwael ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

24 Gorffennaf 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gefnogi prosiectau â blaenoriaeth am gyllid o dan y grant atgyweiriadau brys i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ar gyfer 2025 i 2026.

Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achosion Busnes i Golegau – Mehefin 2025

24 Gorffennaf 2025

Cymeradwyodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ganiatáu i’r prosiectau a ganlyn fwrw ymlaen â’r broses fuddsoddi: Grŵp Colegau NPTC; Grŵp Llandrillo Menai – prosiect Canolfan Alwedigaethol Pwllheli, a phrosiect Canolfan Technoleg Gynaliadwy Coleg Merthyr.

Grant Datblygu Eiddo – Cronfa Eiddo Masnachol Cymru

23 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo dyfarniad grant ar gyfer cynllun datblygu ym Mharc Menter Tir Llwyd, Bae Cinmel.

Buddsoddiad Masnachol

23 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i fuddsoddiad masnachol mewn cwmni yn Ne Cymru.

Recriwtio Llywydd newydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru – Adolygiad Cyflog

23 Gorffennaf 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno y dylid diwygio cyflog Llywydd newydd Tribiwnlys Iechyd Meddwl Cymru i gyd-fynd â chyflog Dirprwy Lywydd Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol Tribiwnlys Haen Gyntaf y Deyrnas Unedig.

Dyfarniad Tal Barnwrol 2025 i 2026

23 Gorffennaf 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi awdurdodi dyfarniad cyflog o 4% ar gyfer 2025 i 2026 i bob aelod o'r Tribiwnlysoedd yng Nghymru.

Adolygiad o gerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol

23 Gorffennaf 2025

Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau i’r cerrig milltir a’r dangosyddion llesiant cenedlaethol yn dilyn diwygio nod Cymru Lewyrchus o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Presgripsiynau di-glwten

23 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i fwrw ymlaen i weithredu Cynllun Cerdyn Cymhorthdal Di-Glwten ledled Cymru yn dilyn gwerthusiad llwyddiannus.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

23 Gorffennaf 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo Cynlluniau Paratoi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i'w gweithredu yn 2026 i 2027.

Uwchsain Nad ydynt yn rhai Radioleg 

22 Goffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer amnewid sganiau uwchsain nad ydynt yn rhai radioleg ledled GIG Cymru ar gyfer 2025 i 2026.

Addysg ôl-16

22 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni ôl-16 o astudio mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Llwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol

22 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i roi £35,000 i elusen SANDS i gefnogi'r gwaith o ddarparu'r Llwybr Profedigaeth Gofal Cenedlaethol ar gyfer beichiogrwydd a cholli babanod ar gyfer 2025 i 2026.

Rheoliadau Rheolaeth Adeiladu

22 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad mewn perthynas â rheoleiddio'r proffesiwn rheolaeth adeiladu.

Ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus Helpwch Ni i'ch Helpu Chi

22 Gorffennaf 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyllideb o £300,000 ar gyfer cyflwyno'r ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus 'Helpwch Ni i’ch Helpu Chi' yn 2025 i 2026.

Ymchwil Addasu Hinsawdd Amaethyddol Cymru

22 Gorffennaf 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo'r cyllid ar gyfer cam 1 prosiect Ymchwil Addasu Hinsawdd Amaethyddol Cymru. 

Y penderfyniad i gael gwared ar y ddarpariaeth chweched dosbarth

17 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi penderfynu cymeradwyo cynnig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gael gwared ar ddarpariaeth chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Aberpennar o fis Medi 2026.

Penodi Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

17 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Kirsty Williams am 4 blynedd rhwng 01 Hydref 2025 a 30 Medi 2029.

Penodi Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

17 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Sara Moseley am 4 blynedd rhwng 01 Medi 2025 a 31 Awst 2029.

Ymgynghoriad i newid elfennau o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

17 Gorffennaf 2025

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar yr ymgynghoriad ar gynigion i newid elfennau o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig i blant hyd at 12 oed.

Porthladd Caergybi

16 Gorffennaf 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio £75,000 i gefnogi pecyn o fesurau i helpu i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol cau Porthladd Caergybi ar yr economi leol, yn dilyn storm Darragh.

Pridiant cyfreithiol

16 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg wedi cytuno i dynnu pridiant cyfreithiol oddi ar dir yn Wrecsam. 

Adolygiad o’r ddarpariaeth addysg i blant sy’n derbyn gofal

16 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gyllid o hyd at £70,000 i Estyn i gynnal adolygiad thematig 2 flynedd o effeithiolrwydd y ddarpariaeth addysg ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

Isafbris Unedau Alcohol – Adroddiad Terfynol ar Weithrediad ac Effaith y ddeddfwriaeth

16 Gorffennaf 2025

Cytunodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar gynnwys adroddiad Gweithrediad ac Effaith Isafbris Unedau Alcohol, ac y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol isafbris unedau, gan gynnwys parhad y polisi a’r lefel i’w phennu ar gyfer isafbris unedau os yw’r polisi yn parhau.

Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

16 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip yn cymeradwyo cyllid o £53,606 ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy yn 2025 i 2026.

Penodiad i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru

16 Gorffennaf 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Nilesh Sachdev yn Gadeirydd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru o 1 Tachwedd 2025 hyd 31 Hydref 2029.

Gwasanaeth Olrhain Gwastraff Digidol 

15 Gorffennaff 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar ddull gweithredu graddol ar gyfer darparu'r gwasanaeth digidol, gan ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar weithredwyr y diwydiant â thrwydded sy'n derbyn gwastraff a fydd yn cael eu rhoi dan fandad i fewnbynnu data ar systemau’r gwasanaeth o fis Hydref 2026 ymlaen, gydag ail gam a fydd yn cynefino cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff o fis Ebrill 2027 ymlaen.

Cymorth busnes

15 Gorffennaff 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Hyfforddiant Adoption UK Cymru

14 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gaffael Adoption UK Cymru i ddarparu hyfforddiant ar Ymddygiad, Emosiynau a Chysylltiadau i ysgolion a lleoliadau i gefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, yn y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Yllid ar gyfer rhaglenni ôl-16

10 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Dyrannu Cyllid i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

10 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cymeradwyo dyrannu cyllid i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Cyllideb Gyfalaf y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol

10 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar wariant o £186.8 miliwn (gan gynnwys TAW) ar gyfer cwblhau prosiectau mawr, gwella cyfalaf, a phrosiectau cynnal a chadw ar y rhwydwaith ffyrdd strategol yn y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cyllideb Refeniw y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol

10 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar wariant o £117.9 miliwn (gan gynnwys TAW) o gyllid refeniw ar gyfer cynnal a chadw a gweithredu’r rhwydwaith ffyrdd strategol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Diweddariad ar Ddiogelwch ar y Ffyrdd

10 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar y datblygiad o Gynllun Partneriaeth Diogelwch ar y Ffyrdd, Croesfannau Sebra Syml, ac i lansio  Ymgyrch Atal ar draws Cymru yn nes ymlaen yr haf hwn.

Adolygiad o bolisïau cynllunio perthnasol mewn perthynas â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru

9 Gorffennaf 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gomisiynu adolygiad o bolisïau cynllunio perthnasol mewn perthynas â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

Cyllid Cynhyrchu Creadigol Cronfa Dyfodol yr Economi

8 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i roi Cyllid Cynhyrchu Creadigol Cronfa Dyfodol yr Economi i gwmni cynhyrchu o Orllewin Cymru.

Cynlluniau Tymor Canolig Integredig GIG Cymru ar gyfer 2025 i 2028

8 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru; Ymddiriedolaeth GIG Felindre; ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Diwygio Ardollau’r Awdurdod Diwydiant Pysgod Môr

8 Gorffennaf 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i’r argymhelliad i wrthod y cynnig i gynyddu’r ardoll.

Rheoli Risg Llifogydd ac Arfordirol - Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweithlu

8 Gorffennaf 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno mewn egwyddor i ailddyrannu £50,000 i £100,000 yn 2025 i 2026, i ariannu cynllun peilot ar gyfer lleoliadau gwaith tymor byr yn ystod y flwyddyn.

Ymestyn cyfnod dirprwy gadeirydd Llais

8 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ymestyn cyfnod Dirprwy Gadeirydd corff llais y dinesydd, Llais, am gyfnod o 12 mis.

Trysor ar Fferm Cosmeston Isaf

7 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo hepgor derbynneb ariannol o gelc o'r Oes Efydd a ddarganfuwyd ar dir Llywodraeth Cymru er mwyn galluogi Amgueddfa Cymru i gaffael y trysor gydag ychydig iawn o wariant.

Rhaglen recriwtio rhyngwladol GIG Cymru

7 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi rhaglen recriwtio rhyngwladol GIG Cymru ar gyfer 2025 i 2026.

Taliadau busnes a rhanbarthau

7 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo taliadau ar gyfer Gorffennaf ac Awst 2025 ar gyfer yr Is-adran Busnes a Rhanbarthau.

Rhannu cyllideb y Cynllun Buddsoddi Gwledig ar gyfer Prosiect Gwaredu Sheep Scab

3 Gorffennaf 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ailddyrannu cyllid y Cynllun Buddsoddi Gwledig ar gyfer Prosiect Gwaredu Sheep Scab yn 2025 i 2026.

Penodi Cadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol

3 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi penodi Kirsty James yn Gadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol.

Ymestyn telerau ad-dalu benthyciadau ar gyfer prosiect Goodsheds yn y Barri

3 Gorffennaf 2025

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i ymestyn telerau ad-dalu'r benthyciad i Gyngor Bro Morgannwg ar gyfer prosiect Goodsheds, Y Barri.

Trawsnewid Trefi

3 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili tuag at Gamau 1 a 2 o brosiect Canolfan Ddiwylliannol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful tuag at adleoli'r Farchnad Dan Do ac estyniad 5 mlynedd i Gynllun Benthyciad Busnes presennol Merthyr tan Ebrill 2030.

Trawsnewid Trefi

3 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful tuag at ailddatblygu 134-135 Stryd Fawr, Merthyr Tudful.

Cynllun Tirwedd Coedwig Genedlaethol

3 Gorffennaf 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyflwyno Cynllun Tirwedd Coedwig Genedlaethol Cymru ar gyfer 2025 i 2027.

Balchder bro mewn ardaloedd lleoedd

2 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddyrannu £5 miliwn i awdurdodau lleol drwy fformiwla gyllido i gefnogi balchder bro mewn ardaloedd lleol.

Cyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint

2 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint yng Nghymru, wedi'i hanelu at y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddioddef y clefyd.

Dyraniadau o gyllid refeniw ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

2 Gorffennaf 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip y dyraniad manwl o £9.641 miliwn o gyllid refeniw ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cais am gyllid refeniw ychwanegol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

2 Gorffennaf 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd, a'r Prif Chwip y cais am £290,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer cyllideb refeniw Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2025 i 2026 i gefnogi'r rhaglenni Byw Heb Ofn a Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl.

Cynllun Gweithredol Cyngor Llyfrau Cymru

2 Gorffennaf 2025

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Partneriaeth Gymdeithasol a Sgiliau wedi cytuno ar Gynllun Gweithredol Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer 2025 i 2026.

Ailbenodi Aelod Annibynnol (TGCh) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

2 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Maynard Davies am ddwy flynedd rhwng 1 Rhagfyr 2025 a 30 Tachwedd 2027.

Costau chwarter 1 Cysylltu Gofal – Y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol

1 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i neilltuo cyllid presennol o’r Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026 i ddiwallu anghenion ariannu chwarter 1 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Gofal Cymru ar gyfer y rhaglen Cysylltu Gofal ac i gynnal gweithrediadau System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – TrAMS – Canolfan y De-ddwyrain

1 Gorffennaf 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyngor yn ymwneud â’r gwaith galluogi sy’n gysylltiedig â chyfleuster Canolfan y rhaglen Trawsnewid Mynediad at Feddyginiaethau yn Imperial Park 5, Casnewydd.

Estyn cyfnod Aelod-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

1 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i estyn cyfnod Ann Lloyd fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am gyfnod o 3 mis, o 3 Gorffennaf 2025 hyd 2 Hydref 2025.

Banc Datblygu Cymru - Cronfa Cymorth Achub ac Ailstrwythuro Cymru

1 Gorffennaf 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno y caiff Banc Datblygu Cymru gefnogi mentrau mawr drwy Gronfa Cymorth Achub ac Ailstrwythuro Cymru ar sail gyfyngedig gan ddefnyddio sicrwydd rheoli cymorthdaliadau priodol.

Rhaglenni astudio mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol

30 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Trefniant gyda’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur

30 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymrwymo i drefniant newydd gyda’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a dyrannu gwerth £70,000 o gyllid wrth gefn ar gyfer 2025 i 2026 er mwyn hwyluso gwaith mesur targedau bioamrywiaeth.

Cynllun gwrth-dwyll COVID-19

30 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno y gall Llywodraeth Cymru gymryd rhan yng nghynllun gwrth-dwyll COVID-19 ar gyfer y DU gyfan.

Cais cynllunio wedi'i alw i mewn

30 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi galw i mewn gais cynllunio gan Lidl GB Limited ar gyfer y bwriad i godi siop fwyd Dosbarth A1 gyda mynediad a'r holl ddatblygiadau cysylltiedig ar dir yn Bridge House Farm, Heol Llanmaes, Llanmaes, Llanilltud Fawr er mwyn i Weinidogion Cymru benderfynu eu hunain.

Fframwaith 30by30 ar gyfer Cymru

30 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cynnwys Fframwaith 30by30 i Gymru.

Tai Fforddiadwy

30 Mehefin 2025

Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Mae Llywodraeth Leol wedi cytuno ar aelodaeth, cylch gwaith ac amlder cyfarfodydd Argymhellion Tasglu Tai Fforddiadwy - Grŵp Gweithredu.

Ysgol Egin Cyfrwng Cymraeg

30 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo argymhelliad y Panel Buddsoddi mewn Addysg ar gyfer amrywiad o'r elfen Ysgol Egin Cyfrwng Cymraeg o raglen dreigl Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr.

Cynllun Amlinellol Strategol y Rhaglen Dreigl

30 Mehefin 2025

Mae'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo argymhelliad y Panel Buddsoddi mewn Addysg ar gyfer Cynllun Amlinellol Strategol Rhaglen Dreigl Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Penodi Cadeirydd Bwrdd Cynghori Datblygu Diwydiannol Cymru

30 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi penodi Owen Derbyshire am 3 blynedd rhwng 01 Gorffennaf 2025 a 30 Mehefin 2028.

Cynllun i Baratoi ar gyfer Pandemig – Baloxavir

26 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gaffael ychydig o Baloxavir Marboxil i’w ychwanegu at y gronfa o gyffuriau gwrthfirol i’n paratoi’n well ar gyfer pandemig.

Buddsoddiad ychwanegol yng Ngham 3 y cynllun adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd 2025 i 2026

26 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i neilltuo £33.9miliwn yn ychwanegol i’w fuddsoddi i gefnogi cynlluniau lleol y GIG i barhau i wireddu blaenoriaeth genedlaethol y llywodraeth i leihau amserau aros cleifion allanol a lleihau nifer y llwybrau sy’n aros.

Buddsoddiad ychwanegol yng Ngham 2 y cynllun adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd 2025 i 2026

26 Mehefin 2025

Mae ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i neilltuo £29miliwn yn ychwanegol i’w fuddsoddi i gefnogi cynlluniau lleol y GIG i barhau i wireddu blaenoriaeth genedlaethol y llywodraeth i leihau amserau aros hir yn y llwybrau cataractau .

Buddsoddiad ychwanegol yn y cynllun adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd 2025 i 2026

26 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i neilltuo a defnyddio £100miliwn yn ychwanegol i’w fuddsoddi i gefnogi’r GIG i barhau i wireddu blaenoriaeth genedlaethol y llywodraeth i leihau amserau aros hir.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

26 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Kathryn Mason yn Aelod Annibynnol (Digidol) am 4 blynedd o 14 Gorff 2025 tan 13 Gorff 2029.

Cronfa Tai â Gofal – Cynigion ar gyfer Prosiectau 2025 i 2026

26 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £492,033 o gyllid cyfalaf o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer chwe chynllun mewn tri rhanbarth yng Nghymru.

Penodi Dirprwy Gadeirydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl

26 Mehefin 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo penodi Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Carers Trust Cymru fel Dirprwy Gadeirydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl. 

Gwariant ar gyfer Prentisiaethau, Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer 2025 i 2026

25 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr Economi Ynni a Chynllunio'r Economi, a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo gwariant marchnata gwerth cyfanswm o £200,000 ar gyfer cyflawni gwariant Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer Prentisiaethau.

Cyflogadwyedd a Sgiliau Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer 2025 i 2026

25 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio'r Economi, a'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo'r cynllun gweithgareddau marchnata manwl ar gyfer y Rhaglen Cyflogadwyedd, y cynllun marchnata a chyfathrebu ar gyfer Sgiliau ar gyfer Sero Net, y dyraniad o £70,000 ar gyfer Cymru sy'n Gweithio a £65,000 ar gyfer Busnes Cymru.

Ymarfer recriwtio ar gyfer Panel Dyfarnu Cymru    

25 Mehefin 2025
    
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig wedi awdurdodi recriwtio dau Aelod Cyfreithiol sy'n cael eu talu gan ffioedd i'w penodi i Banel Dyfarnu Cymru.

Diweddariad ar Fibrespeed

25 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynghorwyr arbenigol i gynorthwyo gyda gwerthu'r ased Fibrespeed.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Uned Aseptig yn Ysbyty Llwynhelyg

24 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer uned aseptig newydd yn Ysbyty Llwynhelyg.

Cyllid i Gefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg

24 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i neilltuo £270,000 i Gefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg i ddarparu gweithgareddau i gefnogi plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru 2025 i 2026.

Grant Cyfalaf ar gyfer Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

24 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip yn cymeradwyo cynnig cyllid cyfalaf gwerth £29,000 gan Gyngor Sir Penfro yn 2025 i 2026. 

Atgyfnerthu’r trefniadau ar gyfer meddygaeth niwclear

23 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i atgyfnerthu’r trefniadau ar gyfer meddygaeth niwclear yn Ysbyty Glan Clwyd.

Ailbenodi i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

23 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi’r Athro Andrew Westwell, yn Aelod Annibynnol (Prifysgol), am bedair blynedd o 10 Awst 2025 hyd 9 Awst 2029.

Y Cymoedd Technoleg – Canolfan Hartree – Braenaru’r Hyb

23 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid gan y rhaglen Cymoedd Technoleg i alluogi Hyb Hartree i gynyddu ymgysylltiad am un flwyddyn ar draws gogledd Cymoedd y De.

Fframwaith 30x30 i Gymru

23 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyhoeddi’r fframwaith 30x30 i Gymru.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Cael gwared ag asbestos, Ysbyty’r Tywysog Siarl

23 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i roi cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith i gael gwared ag asbestos yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.

Y Cymoedd Technoleg – Prosiect Hwyluso STEM

23 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid gan y rhaglen Cymoedd Technoleg i alluogi cynnal y Prosiect Hwyluso STEM am dair blynedd academaidd arall rhwng 2025 a 2028.

Y Cymoedd Technoleg - Orbit 2 – Cydweithio ar Gronfa Sbarduno

23 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid gan y rhaglen Cymoedd Technoleg i sbarduno datblygu tir i greu unedau masnachol ar gyfer cwmnïau technoleg newydd ym Merthyr Tudful.

Tystiolaeth Profiad Bywyd ar gyfer Adroddiad Cynnydd

23 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i roi cyllid ar gyfer casglu tystiolaeth ar brofiadau o fyw mewn tlodi i lywio adroddiad cynnydd y Strategaeth Tlodi Plant.

Bwrw ymlaen â chamau nesaf gwaith mapio gofodol i lywio’r gwaith datblygu drwy gynllunio morol

19 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid i fwrw ymlaen â chamau nesaf asesiad gofodol o foroedd Cymru.

GIG Cymru – Cyfarpar Diagnosteg a Thriniaeth Newydd

19 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfarpar diagnosteg a thriniaeth newydd ledled GIG Cymru ar gyfer 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Recriwtio ar gyfer y Panel Sicrwydd Annibynnol ar gyfer Rheoleiddio Tai

19 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi penodi Jemma Bere, Paul Bevan a Stephen Jones fel Aelodau o’r Panel Sicrwydd Annibynnol ar gyfer Rheoleiddio Tai am dair blynedd, gan ddechrau ar 19 Mai 2025 tan 18 Mai 2028.

Ffres o Gymru: Lleihau Milltiroedd Bwyd - Cyllid ychwanegol

19 Mehefin 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid refeniw ar gyfer Rhaglen Cyfathrebu ac Ymgysylltu i gryfhau gwaith y tîm Bwyd yn yr Is-adran Dyfodol Cynaliadwy.

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - cyllid ychwanegol

19 Mehefin 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip gynigion ar gyfer cyllid ychwanegol ym maes Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer prosiectau gwerth £420,694.60 yn 2025 i 2026.

Estyn y Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol

19 Mehefin 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i estyniad 2 flynedd i’r Gronfa Adeiladu Capasiti Cymunedau Arfordirol a dyraniad o £260,000 y flwyddyn i gefnogi prosiectau.

Gwaredu tir, Caerdydd

19 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno y gellir gwerthu tir yng Nghaerdydd.

Penodi Aelod Annibynnol (Undeb Llafur) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

19 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Martin Lloyd am 4 blynedd o 29 Awst 2025 tan 28 Awst 2029.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Robot Fferylliaeth, Ysbyty Brenhinol Morgannwg

19 Mehefin 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyngor ynglŷn ag ariannu robot fferylliaeth newydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Cyllid i ysgolion ymgymryd â llwybr TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) Newydd

17 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar £0.100miliwn i gefnogi'r gwaith o weithredu a rhedeg y llwybr TAR newydd i Statws Athro Cymwysedig i weithwyr mewn ysgolion ar gyfer ymarferwyr sy’n siarad Cymraeg drwy’r Grant Meithrin Gallu.

Rheoli rhywogaethau estron goresgynnol ar raddfa tirwedd

17 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rheoli rhywogaethau estron goresgynnol ar raddfa tirwedd ac wedi cytuno ar broses gaffael i ddod o hyd i gyflenwr i gyflawni’r prosiect.

Prosiect i ddarparu safle ar gyfer lled-ddargludyddion

17 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gwaith i ddarparu safle ar gyfer y sector lled-ddargludyddion.

Safleoedd Coedwig Genedlaethol Cymru

17 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar 5 safle coetir arall nad ydynt yn eiddo i Lywodraeth Cymru i ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

Safleoedd Coedwig Genedlaethol Cymru

17 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar 10 safle coetir arall nad ydynt yn eiddo i Lywodraeth Cymru i ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae'r safleoedd ychwanegol hyn yn dod â chyfanswm rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru i 70 o safleoedd coetir y tu allan i Ystad Goed Llywodraeth Cymru, sy’n cwmpasu mwy na 4,056 hectar.

Polisi'r Tafod Glas yng Nghymru

16 Mehefin 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi ystyried a chytuno ar opsiynau ar gyfer polisi Feirws y Tafod Glas yng Nghymru o 1 Gorffennaf ymlaen, mewn ymateb i Barth Cyfyngedig ar draws Lloegr gyfan.

Cyllideb Effeithlonrwydd Adnoddau a’r Economi Gylchol ar gyfer 2025 i 2026

16 Mehefin 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyraniad arfaethedig y gyllideb refeniw a chyfalaf ar gyfer Effeithlonrwydd Adnoddau a’r Economi Gylchol, sy’n cynnwys Cronfa’r Economi Gylchol ar gyfer Busnes a phrosiectau Datgarboneiddio / Cerbydau Allyriadau Isel Iawn ar gyfer 2025 i 2026.  Dyrannwyd cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer dwy flynedd i gwmpasu blynyddoedd ariannol 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Penodi tri aelod newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – Cynllun Penodiadau

16 Mehefin 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y cynllun penodiadau i benodi tri Aelod newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

16 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar ymateb i adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ar ei waith craffu blynyddol ar Gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Band Eang Cyflym

16 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i fwrw ymlaen â phroses gaffael y prosiect Ymestyn Band Eang Cyflym ar GwerthwchiGymru.

Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG

16 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r gofynion cyllido gweithredol ar gyfer Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG ar gyfer 2025 i 2026.

Tagiau Electronig ar Wartheg

16 Mehefin 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymgynghori ar Weithredu Tagiau Electronig ar Wartheg yng Nghymru.

Grantiau Addysg

16 Mehefin 2025

Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cymeradwyo'r cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Ymgynghoriad ar Ganllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr

12 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo ymgynghoriad ar fersiwn ddiwygiedig y Canllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr.

Defnyddio’r gyllideb ar gyfer y rhai heb hawl i arian cyhoeddus at ddibenion gwahanol

12 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno ddefnyddio’r gyllideb ar gyfer y rhai heb hawl i arian cyhoeddus 2025 i 2026 at ddibenion gwahanol er mwyn addasu i newidiadau yn anghenion dioddefwyr a gweithwyr proffesiynol.

Cyllid cyfalaf i'r sector undebau credyd

12 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu £260,071 o gyllid grant cyfalaf i'r sector undebau credyd i gefnogi gyda seilwaith TG.

Terfynu prydles weithredu a gwerthu offer

12 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i derfynu Prydles Weithredu a gwerthu offer mewn perthynas â chwmni yn y de.

Cynllun Adsefydlu Yfed a Gyrru Cymru

12 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ailbenodi IAM RoadSmart (Institute of Advanced Motorists) a TTC 2000 Limited yn ddarparwyr cyrsiau cymeradwy ar gyfer cynnig Cynllun Adsefydlu Yfed a Gyrru Cymru.

Grant Cyfalaf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2025 i 2026 - Cam 2

11 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynigion i ariannu prosiectau Cronfa Gyfalaf llwyddiannus gwerth £1,449,512; ac i ariannu’n rhannol brosiectau pellach gwerth £409,548.

Cronfeydd dŵr Llanisien a Llysfaen: is-ddeddfau

11 Mehefin 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cadarnhau is-ddeddfau a wnaed gan Dŵr Cymru, yn unol ag adran 157 o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991, mewn perthynas â chronfeydd dŵr Llanishen a Llys-faen.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16  

11 Mehefin 2025

Mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Brocastle, Pen-y-bont ar Ogwr

11 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer gwaith ychwanegol fel rhan o gontract gwaith seilwaith yn Brocastle, Pen-y-bont ar Ogwr.

Ymateb i Ymgynghoriad Ofcom – Adolygiad o Fynediad at y Rhwydwaith Telathrebu

11 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Ofcom ar yr Adolygiad o Fynediad at y Rhwydwaith Telathrebu.

Rhoi camau gweithredu Cynllun Iechyd a Hybiau Iechyd Menywod ar waith

11 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno i ddyrannu £3.050 miliwn tuag at roi camau gweithredu’r Cynllun Iechyd Menywod ar waith, gan gynnwys Hybiau Iechyd Menywod.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 25 Mawrth 2025

11 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Sir Fynwy.

Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf Bwyd a Hwyl

11 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gyllido pob cynllun cymwys ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 6 Mai 2025

11 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer Cynhyrchiad Creadigol ar gyfer prosiect yn y Gogledd a’r De.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 6 Mai 2025

11 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer Cynhyrchiad Creadigol ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Cyfarfod Panel Buddsoddi 6 Mai 2025

11 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer Cynhyrchiad Creadigol ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cyfarfod Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol 13 Mai 2025

11 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mro Morgannwg.

Llwybr Coedwig Genedlaethol Cymru

9 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gomisiynu arolwg dadansoddi a mapio data ac astudiaeth ddichonolrwydd; i ymgysylltu penodol gyda rhanddeiliaid allanol allweddol i fwrw ymlaen â gwaith datblygu’r Llwybr; ac i alluogi swyddogion i gyflwyno trefniadau llywodraethu mwy priodol ar gyfer hwyluso datblygiad y Llwybr.

Penodi i Medr

9 Mehefin 2025

Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cymeradwyo penodi James Owen yn Brif Swyddog Gweithredol Medr, y Comisiwn 
Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Dewis Gyrfa

9 Mehefin 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredol blynyddol Dewis Gyrfa ar gyfer 2025 hyd 2026.

Prosiectau a argymhellir i’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso – Mai 2025

9 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cynnig o dan y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.

Cyfathrebu â ffermwyr 2025 hyd 2026

9 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer dogfen gyfathrebu i ffermwyr a fydd yn cynnwys cyngor ar newidiadau polisi sydd yn yr arfaeth a gwybodaeth hanfodol am ffermio a chymunedau gwledig. 

Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol – cyllid ar gyfer cynnal gwasanaethau cynghori

5 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 2025 hyd 2026 at ddiben darparu cyngor a gwybodaeth i bobl sy’n gadael gofal mewn perthynas â chynllun peilot Pobl sy’n Gadael Gofal yng Nghymru.

Cyllid ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru

5 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r dyraniad cyllideb ar gyfer 2025 hyd 2026 i Cyfoeth Naturiol Cymru, a hefyd gyllideb i’w cynorthwyo i reoli Ystad Coetiroedd Llywodraeth Cymru. 

Ailbenodi aelodau i Fwrdd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

4 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS, wedi ailbenodi Samina Ali, John-Mark Frost ac Andrea Gale i Fwrdd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Bydd John-Mark Frost yn gwasanaethu fel Cadeirydd dros dro am gyfnod ei benodiad.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Ffioedd Achosion Cyfiawnhad Busnes

4 Mehefin 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyngor ynghylch ariannu ffioedd i ddatblygu'r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer gwaith gorfodi tân Cam 2 yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Disodli system cyflenwi radioniwclid ym Mhrifysgol Caerdydd

4 Mehefin 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyngor ynglŷn ag uwchraddio'r system cyflenwi radioniwclid ym Mhrifysgol Caerdydd.

Caniatâd Cynllunio

4 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio, yn amodol ar amodau ar gyfer cais cynllunio hybrid ar gyfer hyd at 228 o anheddau gyda gwelliannau cysylltiedig i'r briffyrdd/pontydd a gyflwynwyd i Gyngor Bro Morgannwg a chais cynllunio llawn ar gyfer gwaith priffyrdd a phontydd sy'n angenrheidiol i weithredu'r cais hybrid a gyflwynwyd i Gyngor Caerdydd yng Nghei Lecwydd,  Heol Lecwydd, Caerdydd.

Cyllid Newid Hinsawdd

4 Mehefin 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd wedi cytuno ar y cynigion gwariant ar gyfer £8.166miliwn refeniw a £23.052miliwn cyfalaf fel rhan o'r dull o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, yn unol â'r setliad cyllideb y cytunwyd arno.

Cyllid ar gyfer Academi Heddwch

4 Mehefin 2025

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i barhau i ariannu'r Academi Heddwch tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Llythyr Cylch Gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru ar y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

4 Mehefin 2025

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar lythyr cylch gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru a gwaith i gefnogi'r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer 2025 i 2026.

Proses Apeliadau Annibynnol ar gyfer Taliadau a Grantiau Gwledig

3 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apeliadau Annibynnol i wrthod apȇl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu contract Creu Coetir Glastir.

Proses Apeliadau Annibynnol ar gyfer Taliadau a Grantiau Gwledig

3 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apeliadau Annibynnol i dderbyn apȇl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i geisio adennill taliad am hawliad Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch am “Adnewyddu adeiladau fferm traddodiadol” yn dilyn archwiliad ar y safle.

Proses Apeliadau Annibynnol ar gyfer Taliadau a Grantiau Gwledig

3 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apeliadau Annibynnol i dderbyn apȇl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad 2019 am Gynllun y Taliad Sylfaenol.  

Proses Apeliadau Annibynnol ar gyfer Taliadau a Grantiau Gwledig

3 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apeliadau Annibynnol i dderbyn apȇl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad am Grantiau Bach Glastir.

Cyllid ar gyfer Cynhyrchiad

3 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo Cyllid Economi’r Dyfodol ar gyfer Cynhyrchiad Creadigol sef prosiect sy’n ffilmio yn Ne-ddwyrain Cymru.

Awdurdodau Tân ac Achub – Cyllid ar gyfer Pecyn Cymorth

3 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu cymorth i Awdurdodau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru er mwyn hwyluso gweithredu eu cynlluniau gweithredu ar gyfer gwella’r diwylliant o fewn bob sefydliad. Bydd yr un cynnig o gymorth yn cael ei gyflwyno i Gomisiynwyr Awdurdod Tân ac Achub De Cymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo hyd at £350,000 o gyllid i gyflawni’r pecyn cymorth gan gynnwys caffael cwmni cyfreithiol i gyflwyno hyfforddiant ar ddisgyblaeth a chwynion. 

Penderfyniad ar gais cynllunio a alwyd i mewn

3 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu adeilad saernïo cerbydau cludo ceffylau yn Llanybydder, Ceredigion.

Pysgodfeydd cocos

3 Mehefin 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cymeradwyo’r mesurau arfaethedig ar gyfer rheoli cocos i’w cynnwys fel amodau ychwanegol mewn trwyddedau pysgodfeydd cocos.

Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig

2 Mehefin 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno y bydd yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn parhau â’r Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig ar lefel y DU yn y flwyddyn 2025 i 2026.

Cadw

2 Mehefin 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo Cynllun Busnes Cadw a’i gyllideb ar gyfer 2025 i 2026.

Penodi Cadeirydd i’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 

30 Mai 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno i benodi Emily Norton yn Gadeirydd y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth am gyfnod o 3 blynedd o 1 Mehefin 2025.

Ail-benodiad i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys

30 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Ronnie Alexander yn Aelod Annibynnol (Generig), am gyfnod o 4 blynedd o 21 Mehefin 2025 hyd at 20 Mehefin 2029.

Platfform Hwb

30 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo adnewyddu contract y we ar gyfer Hwb am hyd at 5 mlynedd ac ymestyn y contract presennol am gyfnod o hyd at 6 mis er mwyn sicrhau pontio esmwyth i gyflenwr newydd posibl.  

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

30 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Vivek Goel yn Aelod Annibynnol (Undebau Llafur), am gyfnod o 2 flynedd o 2 Mehefin 2025 hyd at 31 Mai 2027.

Ymestyn contractau Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

30 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ymestyn tymhorau Cynghorwyr Cenedlaethol presennol VAWDASV am gyfnod o 3 mis pellach, tra mae’r broses o recriwtio Cynghorwyr Cenedlaethol newydd yn mynd rhagddi. 

Hybont Hydrogen

30 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i lofnodi  Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r Sefydliad Ynni a Thechnoleg Ddiwydiannol newydd (NEDO) yn Japan i gefnogi’r cyfleuster cynhyrchu arfaethedig Hybont Hydrogen ym  Mhen-y-Bont ar Ogwr.

Gofalwyr Di-dâl

28 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo datblygu Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. 

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

28 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Akmal Hanuk i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel Aelod Annibynnol ar gyfer y Trydydd Sector am 4 blynedd o 02 Mehefin 2025 tan 01 Mehefin 2029.

Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog GIG Cymru

28 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar ddiwygiadau i Gyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog GIG Cymru i adlewyrchu newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer caffael cyhoeddus.

Gwasanaeth Cefnogi Cymheiriaid Gweithwyr Cymdeithasol 

28 Mai 2025

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ac Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i barhau i roi cyllid i Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yng Nghymru ar gyfer darparu eu Gwasanaeth Cymorth Proffesiynol Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru.

Ffioedd ymgynghori 

28 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant i gefnogi paratoi a chyflwyno cais cynllunio ar gyfer safle ym Mhowys.

Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol

28 Mai 2025

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol ar gyfer 2025 i 2026.

Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau)

22 Mai 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i osod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Senedd mewn perthynas â’r Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau).

Ceisiadau am gyllid o Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru

22 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddyfarnu cyfanswm o £4.1 miliwn mewn grantiau i bum ymgeisydd yn y sector cymdeithasol a’r sector preifat ar gyfer gwaith cyweirio diogelwch tân ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026.

PISA 2025

22 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg  wedi cymeradwyo defnyddio cynllun gwobrwyo credyd amser a Thystysgrif Cyfranogiad fel diolch i ddisgyblion Blwyddyn 11 sy'n cymryd rhan yn PISA 2026.

Datblygiadau mewn dalgylch afonydd a ddynodir fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig

22 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gyhoeddi datganiad polisi cynllunio interim, ynghyd â chanllawiau cynllunio a baratowyd gan DTA Ecology ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n nodi ffyrdd y gall datblygiadau, ac yn enwedig tai fforddiadwy, gael eu hystyried mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol yn unol â'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Rheoliadau.

Penodi Aelod Annibynnol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

20 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Clive Curtis am 4 blynedd rhwng 2 Mehefin 2025 ac 1 Mehefin 2029.

Gwella Canlyniadau i Blant

20 Mai 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar y cytundeb cyllid ar gyfer Gwella Canlyniadau i Blant yn 2025 i 2026.

Buddsoddiad i Gefnogi Maethu Cymru a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol

20 Mai 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo Buddsoddiad i Gefnogi Maethu Cymru a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn ystod 2025 i 2026.

Taliad ychwanegol i Wayleaves yn Celtic Lakes, Casnewydd

20 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo taliadau sy’n gysylltiedig â darparu seilwaith yng Nghasnewydd.

Ffioedd cyfreithiol i gwmni yng Nghasnewydd

20 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno y dylid talu ffioedd cyfreithiol i gwmni yng Nghasnewydd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Ffioedd Achos Cyfiawnhad Busnes

20 Mai 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ffioedd i ddatblygu Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer Rhan 2 o’r gwaith i orfodi cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Strategaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru

19 Mai 2025

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo Strategaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer 2025 i 2030.

Cyllid ar gyfer pum Bwrdd Rheoli Maetholion ledled Cymru

19 Mai 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu cyllid refeniw o hyd at £872K ar gyfer Byrddau Rheoli Maetholion Teifi, Tywi a Cleddau, Brynbuga a Gŵy ar gyfer 2025 i 2026.

Safle Rheoli Ffiniau Caergybi

19 Mai 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno i benodi cyflenwr allanol i reoli cynnal a chadw a diogelwch Safle Rheoli Ffiniau Caergybi.

Opsiynau cyllido ar gyfer gwaith y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol

15 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 (Ebrill-Rhagfyr 2025) i gefnogi'r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol i barhau â'u dadansoddiad o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod.

Cynllun ariannu’r Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i daclo’r Argyfwng Hinsawdd

15 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gynllun ariannu’r Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i daclo’r Argyfwng Hinsawdd ar gyfer dyraniad refeniw o £810,000 ar gyfer 2025 i 2026; a dyraniad cyllideb Presgripsiynu Cymdeithasol o £250,000 ar gyfer 2025 i 2027 a £40,000 yn 2027 i 2028.

Gwaredu tir

15 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Llywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i werthu tir yn SA1 Glannau Abertawe ar gyfer datblygiad preswyl.

Cynlluniau Gwariant ar gyfer yr Is-adran Safonau, Gwella a Gwybodaeth

15 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gynlluniau gwariant arfaethedig ar gyfer cyllidebau'r Is-adran Safonau, Gwella a Gwybodaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cymeradwyo Achos Busnes Llawn y Porthladd Rhydd Celtaidd

15 Mai 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, mewn egwyddor, Achos Busnes Llawn y Porthladd Rhydd Celtaidd. Mae'r gymeradwyaeth hon yn ddarostyngedig i allu’r Porthladd i fynd i'r afael yn foddhaol â’r camau gweithredu beirniadol sy'n weddill a phrosesau cymeradwyo cyfatebol sy'n cael eu cwblhau o fewn Llywodraeth y DU, ac yn amodol ar hynny.  

Adolygiad o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ac ymgynghoriad arni

14 Mai 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, yr Amgylchedd a Chynllunio wedi cytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach a Diogelwch Economaidd yn ymateb i adolygiad Llywodraeth y DU o'r Farchnad Fewnol a’r ymgynghoriad mewn perthynas â Rhannau 1, 2 a 3.

Cyllid Allgymorth Addysg y Ganolfan Ecsbloetio Digidol Genedlaethol

14 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid o £57,421 i gefnogi'r estyniad pum mis i Raglen Allgymorth Addysg y Ganolfan Ecsbloetio Digidol Genedlaethol.

Cyllideb Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

14 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo'r dyraniadau refeniw terfynol o £1,776,225 ar gyfer y gyllideb Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol yn 2025 i 2026 ac wedi cytuno ar ddyraniad o £400,000 yn 2026 i 2027 i alluogi darparu'r grantiau arloesi ac ymwybyddiaeth ac ymgysylltu am 18 mis.

Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

14 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Emma Adamson yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am gyfnod o ddwy flynedd.

Y Gyllideb Grant Tai Cymdeithasol

14 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar ddyraniad prif raglen y Grant Tai Cymdeithasol o £300miliwn ar gyfer 2025 i 2026.

Meysydd Chwarae

13 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i’r awdurdodau lleol yn 2025 i 2026 ar gyfer mannau chwarae a meysydd chwarae.

Llyfrgelloedd Cyhoeddus

13 Mai 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo cyhoeddi Fframwaith 7 o Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

Cymeradwyo cyllid dangosol ar gyfer arolwg tai

13 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid dangosol i gynnal Arolwg Tai ar gyfer Cymru yn 2027 i 2028, i alluogi datblygu manyleb dendro a dechrau ymarfer caffael erbyn diwedd 2025 i 2026.

Proses recriwtio i benodi dau aelod lleyg i Dribiwnlys y Gymraeg

13 Mai 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo dechrau’r broses i benodi dau aelod lleyg i Dribiwnlys y Gymraeg.

Uned 16 Parc Busnes Woodlands Ystradgynlais, Powys

13 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwerthu eiddo ym Mhowys.

Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu

13 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip wedi cytuno i ariannu Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ledled Cymru.

Penodi Cadeirydd i’r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl

13 Mai 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo penodi Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl.

Dyrannu cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi’r gwaith o ddileu elw a diwygio radical

12 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid refeniw Gwasanaethau Cymdeithasol rhwng 2025 i 2026 a 2027 i 2028 i gefnogi ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal a diwygio gwasanaethau gofal plant mewn modd radical.

Penodiad Uniongyrchol Aelod Annibynnol i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

12 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Stephen Harries yn Aelod Annibynnol Cyllid Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, o 12 Mai hyd at 31 Awst 2025.

Y Cynllun Buddsoddi Gwledig

12 Mai 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar raniadau cyllid cyfalaf a chyllid refeniw y Cynllun Buddsoddi Gwledig ar gyfer gwasanaethau cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.

Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio

12 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi gweithredu’r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio yn 2025 i 2026.  

Cymorth ariannol i gryfhau gwaith Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru

12 Mai 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid gwerth £40,000 i Mentera, yn benodol er mwyn cryfhau gwaith Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol 2025 i 2026 i helpu i ostwng nifer annerbyniol y damweiniau difrifol a’r marwolaethau sy’n digwydd bob blwyddyn ar ffermydd ledled Cymru.

Tywydd eithafol – cymorth i’r diwydiant ffermio

12 Mai 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid gwerth £83,000 ar gyfer tair elusen ffermio i helpu ffermwyr yn sgil y tywydd anghyson estynedig.

Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

8 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Huw David am 4 blynedd o 06 Mai 2025 i 05 Mai 2029.

Adroddiad Blynyddol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

8 Mai 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Adroddiad Blynyddol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar gyfer 2023 i 2024.

Cyllid ar gyfer dadansoddiad ac adroddiad Cymru o Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024 a gwariant ar wybodaeth am y farchnad lafur yn ehangach

8 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ddarparu £55,000 o gyllid ar gyfer dadansoddiad ac adroddiad Cymru o Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2024 a £5,000 ar gyfer gweithgareddau er mwyn gallu cynhyrchu gwybodaeth am y farchnad lafur a’i lledaenu.

Gwaredu Tir/Eiddo

7 Mai 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i waredu eiddo yn Sir Fynwy.

Ffioedd a Chontract Cymorth i Brynu – Cymru

7 Mai 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar y ffioedd rheoli cyllid i alluogi cyflawni cynllun Cymorth i Brynu - Cymru yn 2025 i 2026. Cytunodd hefyd i Weinidogion ymrwymo i estyniad contract 18 mis â Help To Buy (Wales) Limited.

Cais i Oedi Adolygiad o Fapiau Mynediad Agored

7 Mai 2025

Mae’r Dirprwy Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo estyniad ar gyfer cwblhau’r adolygiad degawdol nesaf o’r mapiau mynediad agored o 2029 i 2024 ac ar ôl hynny.

Adolygiad o’r Rhaglen Plant Iach Cymru

7 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid i gaffael adolygiad o’r Rhaglen Plant Iach Cymru.

Gwasanaethau bysiau

7 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddarparu dyraniadau cyllid gwerth £172,372,876 i gefnogi’r ddarpariaeth o wasanaethau bysiau yn 2025 i 2026.

Penodi Aelodau i'r Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth

6 Mai 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Leanne Wood, Julie Sangani, Mohammed Ahmed, Sally Holland, Diana Stirbu, Sarah Allan, Michael Corcoran, Jessica Blair, Daisy Thomson, Yvonne Murphy a Tomos Davies o 1 Ebrill 2025 tan adolygiad o'r grŵp yn haf 2026.

Cyfarfod Bwrdd Cynghori Datblygu Diwydiannol Cymru ar 1 Ebrill 2025

6 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cyllid diwedd blwyddyn Llywodraeth Leol

6 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i gefnogi’r pwysau sydd ar awdurdodau lleol ar gyfer 2024 i 2025; cyllid i Ferthyr Tudful i dalu costau cynyddol adferiad arfaethedig o lifogydd 2020 ac i gefnogi adfer llyncdwll Nant Morlais; a chyllid i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ariannu adroddiad gweithlu.

Bwrdd Anweithredol Cymru Greadigol

6 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i recriwtio Cadeirydd newydd ac aelod newydd ar Fwrdd Anweithredol Cymru Greadigol.

Academi Wales: Cynllun Cyflawni Busnes  2025 i 2026

6 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar ddyraniad cyllideb Academi Wales ar gyfer cyflawni ar sail y Strategaeth a gyhoeddwyd gan Academi Wales a’r ymrwymiadau o ran Ysgol Lywodraethu Genedlaethol.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

6 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno y bydd hyd at £1 miliwn ar gael i gefnogi’r ymyriadau lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Cynllun Cymrodorion Academaidd De Cymru

6 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gynyddu’r cyllid ar gyfer Cynllun Cymrodorion Academaidd
De Cymru.

Yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch contract Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

6 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ymestyn contract Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus tan fis Hydref 2028.

Cyllid i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo’r Cyflog Byw Gwirioneddol ac achredu

6 Mai 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar wariant i hyrwyddo’r Cyflog Byw Gwirioneddol a manteision achrediad.

Penodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

6 Mai 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Carolyn Donoghue am 4 blynedd o 04 Awst 2025 i 03 Awst 2029.

Penderfyniad i wrthod ailgofrestru’r plaladdwr ‘Mavrik’ a’r cynhyrchion sy’n ei efelychu yng Nghymru

6 Mai 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno y dylai’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch weithredu eu swyddogaeth i wneud penderfyniad ar ran Gweinidogion Cymru, i wrthod ailgofrestru’r plaladdwr ‘Mavrik’ a’r cynhyrchion sy’n ei efelychu yng Nghymru.

Prosiect Peilot Gweithwyr Busnes Proffesiynol mewn Ysgolion

30 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddechrau'r Prosiect Peilot Gweithwyr Busnes Proffesiynol mewn Ysgolion ar gyfer 2025.

Moderneiddio Grantiau Trafnidiaeth

30 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar egwyddorion ar gyfer un ffrwd ariannu i gefnogi cyflawni Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Prosiect Fibrespeed

28 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ymestyn y Cytundeb Prosiect Fibrespeed a'r Hawl i Ddefnyddio.

Cymunedau Cydlynus

28 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, wedi cytuno ar y dyraniadau ar gyfer cyllideb y Cymunedau Cydlynus o £9.869 miliwn ar gyfer 2025 i 2026.

TrawsCymru

28 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi derbyn adolygiad o rwydwaith bysiau strategol TrawsCymru, a gynhaliwyd gan Trafnidiaeth Cymru, ac mae wedi ymateb iddo. Bydd crynodeb o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'r Adolygiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru erbyn diwedd Gorffennaf 2025

Pridd

28 Ebrill 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y Datganiad Polisi Pridd Amaethyddol.

Cymoedd Technoleg

28 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid i alluogi cyflawni Prosiect Gwella Cynhyrchiant Busnes y Cymoedd Technoleg.

Deunydd pacio ailddefnyddiadwy

25 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo £1,832,425 yn ystod blynyddoedd ariannol 2025 i 2026 a 2026 i 2027 ar gyfer treialu deunydd pacio eildro fel rhan o’r economi gylchol yng Nghasnewydd. 

SA1

25 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gynyddu costau’r contract ac ymgynghori ar gyfer gwaith ar seilwaith yn SA1. 

Ystâd Ddiwydiannol Cilyrychen

25 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg wedi cymeradwyo cyllid i osod deunydd cladio newydd ar unedau yn Ystâd Ddiwydiannol Cilyrychen, Llandybïe.

Aberdaugleddau

24 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddynodi corff dŵr mewnol Aberdaugleddau o dan Reoliadau Dŵr Gwastraff Trefol a bod swyddogion yn hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru’n ffurfiol am benderfyniadau ynghylch nodi dyfroedd yn ardaloedd sensitif trwy Hysbysiad ac Atodlen, map o’r Ardal Sensitif newydd a llythyr esboniadol atodedig. 

Penodiad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru 

24 Ebrill 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi penodi Josephine Goretti Williams fel Ymddiriedolwr, am 4 blynedd o 1 Mai 2025 i 30 Ebrill 2029. 

Cydsyniad y Goron

24 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar yr egwyddor o roi Cydsyniad y Goron yr un pryd â Chytundeb Ymgymeriad i gefnogi datblygiad sy’n effeithio ar ystâd goetir Llywodraeth Cymru. 

Anghenion Dysgu Ychwanegol 

24 Ebrill 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar gwmpas yr adolygiad o fframwaith deddfwriaethol Anghenion Dysgu Ychwanegol ac i ofyn am wybodaeth oddi wrth Dribiwnlys Addysg Cymru. 

Gwariant ar Bolisi Gyrfaoedd 

24 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar y gweithgareddau arfaethedig fydd yn arwain at wario £100,000 ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026. 

Cynllun Cyflawni Morol

23 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y Cynllun Cyflawni Morol amlinellol ar gyfer 2025 i 2026 a’i gyllideb ategol o £2.361 miliwn. Mae hynny’n cynnwys cyllid ar gyfer dau Swyddog Polisi Bioamrywiaeth Morol am gyfnod o ddwy flynedd.

Taliadau

23 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo taliadau ar gyfer misoedd Mai a Mehefin 2025 ar gyfer yr Is-adran Busnes a’r Rhanbarthau.

Taliadau gosod rhwydi ar gyfer Eogiaid a Brithyll

23 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cais gan Gyfoeth Naturiol Cymru i bennu taliadau ar gyfer gosod rhwydi ar gyfer eogiaid a brithyll yn nhymhorau 2025 a 2026 fel yr hysbysebwyd.

Llyfrgell Aberaeron

23 Ebrill 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ailosod y cynnig grant i Gyngor Sir Ceredigion er mwyn galluogi’r gwaith o symud Llyfrgell Aberaeron i safle Penmorfa, gan sicrhau gwasanaeth llyfrgell ar gyfer yr ardal a galluogi’r gwaith o greu cyfleusterau gwell. 

Gofalwyr

23 Ebrill 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo fersiwn ddiweddaraf Cynllun Cyflawni 2025 i 2026 y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl: 

Rhaglen Diogelwch Adeiladau

22 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid hyd at £900,000 i’r Rhaglen Diogelwch Adeiladau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Strydoedd Mwy Diogel

22 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid ar gyfer mentrau strydoedd mwy diogel ar gyfer 2025 i 2026.

Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid

22 Ebrill 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad o gyllid cyfalaf i gynnal gwaith mewn hyd at ddau Archif, chwe Llyfrgell a thair Amgueddfa.

Gwasanaethau Tân ac Achub

22 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid grant refeniw gwerth hyd at £2 miliwn a chyllid grant cyfalaf gwerth £1 miliwn ar gyfer cynnal a datblygu gallu Gwydnwch Cenedlaethol y tri Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer 2025 i 2026.

Profiad Gwaith wedi’i Deilwra

22 Ebrill 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gynnig parhad cyfyngedig Profiad Gwaith wedi'i Deilwra Gyrfa Cymru ar gyfer 2025 i 2026.

Uned Cyfeirio Disgyblion Pontllan-fraith

22 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo amrywiad i’r achos busnes gwreiddiol ynghylch prosiect Uned Cyfeirio Disgyblion Pontllan-fraith.

Maint Cymru

22 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid grant blynyddol gwerth £280,000 i Maint Cymru er mwyn cynnal ei raglen addysg a gwaith maes ar gyfer y blynyddol ariannol 2025 i 2027.

Ynni Cymunedol Cymru

22 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gyllido Ynni Cymunedol Cymru ac Ynni Teg ar gyfer 2025 i 2026.

Toiledau cyhoeddus

17 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid o £500,000 ar gyfer Cyfleusterau Cyhoeddus y Canolbarth 2025 i 2026 i helpu i wella ac adnewyddu toiledau ar y rhwydwaith ffyrdd strategol yn y Canolbarth.

Rhaglen Clwstwr Darbodus Toyota 

17 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Rhaglen Clwstwr Darbodus Toyota 2025 i 2029.

Platfform dysgu ar gyfer staff Gyrfa Cymru

17 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno y gall Gyrfa Cymru arwyddo contract sy’n gofyn am indemniad gwerth £250,000 i ddiogelu eiddo deallusol cynnyrch y cynigwyr llwyddiannus.

Datblygu cynaliadwy

17 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar wariant i gynhyrchu canllawiau datblygu cynaliadwy.

Pysgodfeydd cocos

16 Ebrill 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i swyddogion gynnal ymgynghoriad pythefnos o hyd gyda deiliaid trwyddedau a rhanddeiliaid y diwydiant ynghylch gosod ffi trwydded pysgodfeydd cocos Cymru a’r terfyn dalfa ddyddiol ar gyfer 2025 a 2026.

Y Rhaglen Cartrefi Clyd

16 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i newid boeleri sy’n 12 oed a hŷn mewn amgylchiadau pan nad yw pympiau gwres o’r aer yn addas. 

Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar

16 Ebrill 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar ar gyfer y cyfnod 2025 i 2028.

Prynu tir

16 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo prynu 7.4 hectar o dir o'r enw Millands Farm, Llanmaes, Bro Morgannwg.

Penodi ac ailbenodi i Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda a Bae Abertawe

16 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi'r Cynghorydd Paul Deenik yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Pat Dunmore yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac ailbenodi Michael Gray yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ymchwil plant, teuluoedd a gofal plant

16 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid gwerth £144,136 ar gyfer 2025 a 2026 i gynnal gweithgarwch ymchwil sy'n ymwneud â phlant, teuluoedd a gofal plant.

Band Eang

16 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gyflwyno ymgyrch gyfathrebu ar opsiynau yn ymwneud â band eang.

Economi gylchol

15 Ebrill 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid i Benthyg Cymru ar gyfer cefnogi'r newid ehangach i economi gylchol a rhaglen ar gyfer ymrwymiadau'r llywodraeth sy'n canolbwyntio ar weithgareddau ailddefnyddio ac atgyweirio yng nghanol trefi ar gyfer gweddill tymor y Senedd.

Canolfan Gwasanaethau Digidol

15 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar ffocws, cylch gwaith a blaenoriaethau y Ganolfan Gwasanaethau Digidol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Strategaeth a pholisi trafnidiaeth

15 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer Grantiau Trafnidiaeth Lleol, Trafnidiaeth Cymru ac i bartneriaid cyflenwi eraill. Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau o fewn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet.

Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

15 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddefnyddio’r tanwariant o fewn y portffolio yn 2024 i 2025 i gefnogi prosiectau sy'n mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Rhaglenni Diogelwch Cymunedol yr Awdurdodau Tân ac Achub

15 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i dalu cyllid grant o hyd at £371,000 o refeniw a £900,000 o gyfalaf i'r tri Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer eu Rhaglenni Diogelwch Cymunedol yn 2025 i 2026.

Penodiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

15 Ebrill 2025

The Cabinet Secretary for Health and Social Care has appointed Sara Harraway for 4 years from 6 May 2025 to 5 May 2029. 

Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol

15 Ebrill 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo creu Grŵp Gorchwyl a Gorffen tymor cyfyngedig i ystyried materion sy’n codi ar gyfer y gweithlu allanol Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol, ac wedi cymeradwyo £30,000 i gefnogi'r gwaith yn 2025 i 2026.

Cartref Plant Diogel Hillside

15 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid grant cyfalaf o hyd at £328,141 i gwblhau'r gwaith o adnewyddu'r neuadd chwaraeon yng Nghartref Plant Diogel Hillside yn 2025 i 2026.

Cyllid gwasanaethau cymdeithasol 

15 Ebrill 2025

Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar £1.6miliwn o gyllid refeniw ychwanegol er mwyn helpu i weithredu camau dileu elw yng ngweddill blwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Taclo Tipio Cymru

15 Ebrill 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu £400,000 o gyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer parhau i gynnal rhaglen Taclo Tipio Cymru yn ystod 2025 i 2026. Bydd y cyllid hwn yn rhan o setliad Cymorth Grant Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol.

Cymorth i Discover Economics

10 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno ar £5,000 o gyllid i gefnogi gwaith Discover Economics yng Nghymru ar gyfer 2025 i 2026.

Dyraniad arfaethedig Is-adran Gwasanaethau Digidol Ysgolion

10 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo dyraniad a gwariant arfaethedig cyllideb refeniw yr Is-adran Gwasanaethau Digidol Ysgolion ar gyfer 2025 i 2026.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 18 Chwefror 2025

10 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Cynhyrchiad Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Ngwynedd.

Cyllid Caffi Trwsio Cymru

10 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid i Gaffi Trwsio Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cyllid ar gyfer gwaith brys yn dilyn Storm Bert a Storm Darragh

10 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo £750,618 o gyllid drwy raglen Llifogydd 2025 i 2026 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar gyfer gwaith brys yn dilyn Storm Bert a Storm Darragh. 

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) addysg ôl-16

9 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol.

Cymeradwyo amrywiad i Grant Gwella Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

9 Ebrill 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol i gynyddu grant Gwella a Chymorth Digidol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi prosiectau arloesol sy'n ymwneud â ffedereiddio’r llywodraethu yng Nghynghorau Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Thorfaen a thrawsnewid gofal cymdeithasol ym Mhowys ar gyfer 2024 i 2025.

Cefnogaeth i’r sector cymuned a thref

9 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i barhau â’r gefnogaeth ar gyfer y sector cymuned a thref yn 2025 i 2026.

Trechu tlodi 2025 i 2026

9 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid i gefnogi gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â thlodi bwyd.

Penodiadau i Is-bwyllgor Ymaddasu y Pwyllgor Newid Hinsawdd

9 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ailbenodi 1 aelod a dechrau proses recriwtio ar gyfer 2 aelod newydd i Is-bwyllgor Ymaddasu y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Cylch Gwaith Iechyd a Gofal Digidol Cymru

9 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Llesiant a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar lythyr cylch gwaith Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar gyfer 2025.

Prydles Hawddfraint Fibrespeed  - Glannau Dyfrdwy

9 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno bod y brydles hawddfraint ar gyfer Tir ar Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint i gael ei hadnewyddu.

Cyfraniad ariannol at y Rhaglen Diwygio Diogelwch Cronfeydd Dŵr ar y Cyd

9 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dalu £116,810 i’r Rhaglen Diwygio Diogelwch Cronfeydd Dŵr ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2024 i 2025.

Cylch Gwaith Awdurdod Cyllid Cymru

9 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno ar lythyr cylch gwaith Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer 2025 i 2026.

Cyllid Trawsnewid Trefi

9 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddarparu cyllid grant Trawsnewid Trefi i Gyngor Abertawe i gefnogi’r gwaith o ailddatblygu hen adeilad siop adrannol JT Morgan, Ffordd Belle Vue, Abertawe.

Cyllideb Cysylltedd Cenedlaethol a Rhyngwladol

9 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo’r dyraniad o £1.794 miliwn ar gyfer Cysylltedd Cenedlaethol a Rhyngwladol. Roedd hyn yn cynnwys £1.509 miliwn ar gyfer uned ddadansoddol Trafnidiaeth Cymru, £0.25 miliwn ar gyfer swyddi dadansoddi newydd, a £0.035 miliwn o gyllid refeniw ar gyfer hyfforddi gyrwyr tacsis ar gyfer 2025 i 2026.

Llythyr Cyllido a Chynllun Busnes Trafnidiaeth Cymru

9 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid o £381.15 miliwn ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn 2025 i 2026 ac wedi cydsynio i’r trafodion tir hysbys ar ystad Trafnidiaeth Cymru. 

Penodi Aelodau Proffesiynol sy’n Derbyn Ffi i Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru

9 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Mr Thomas Wyn Jones, Dr Jack Rostron, a Mr Morgan Williams yn Aelodau Proffesiynol sy’n Derbyn Ffi i Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru am gyfnod o 5 mlynedd rhwng 2 Ebrill 2025 a 1 Ebrill 2030.

Cymdeithasau tai

7 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo ymgynghoriad ar Safonau Rheoleiddio drafft diwygiedig ar gyfer cymdeithasau tai sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru.

Ysbyty’r Eglwys Newydd

7 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid o £1.245miliwn yn 2024 i 2025 a 2025 i 2026 i ddod â safle Ysbyty'r Eglwys Newydd i gyflwr cydymffurfiol i'w werthu o ystyried ei statws rhestredig. Cytunwyd ar gyllid hefyd i ddarparu diogelwch parhaus ar y safle.

Penodiad i Ymddiriedolaeth GIG  Prifysgol Felindre

7 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Lindsay Foyster yn Is-gadeirydd, am 4 blynedd rhwng 01 Mai 2025 a 30 Ebrill 2029.

Penodiadau i Gyngor Celfyddydau Cymru

7 Ebrill 2025

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi penodi Nansi Williams, Wesley Bennett-Pearce, Ffion Haf Evans, Joshua Robertson ac Elid Morris am 3 blynedd rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2028.

Y cwricwlwm cenedlaethol

7 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gyllid gwerth cyfanswm o £2,005,900 ar draws 2024 i 2025 a 2025 i 2026 i adeiladu cefnogaeth genedlaethol a chyflymu cyfranogiad ysgolion yn y rhaglen dylunio y cwricwlwm cenedlaethol.

Banc Datblygu Cymru

7 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i wariant ychwanegol gan Fanc Datblygu Cymru a fydd yn mynd i'r afael â'r galw am gyllid ad-daladwy drwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru.

Cyd-banel Holl Gronfeydd Dŵr Cymru a Lloegr

7 Ebrill 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gael gwared ar beiriannydd o Gyd-banel Holl Gronfeydd Dŵr Cymru a Lloegr ar y cyd.  

Cronfa Tai â Gofal

7 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £60,500,000 i’w fuddsoddi yn y Gronfa Tai â Gofal dros flwyddyn ariannol 2025-2026. Caiff ei rannu rhwng saith rhanbarth Cymru.

Sefydlu Cyd-bwyllgor Rhanbarthol Byrddau Iechyd y De-ddwyrain

7 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi gorchymyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i sefydlu Cyd-bwyllgor Rhanbarthol Byrddau Iechyd y De-ddwyrain i hwyluso a goruchwylio cynllunio rhanbarthol er sbarduno gweithio rhanbarthol a chydweithio effeithiol.

Plot C5, Cyffordd 38, Margam, Port Talbot

7 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwerthu rhydd-ddaliad tir ym Mhort Talbot.

Cynllun busnes Digwyddiadau Cymru

7 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllideb Digwyddiadau Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-2026, sy’n cynnwys ariannu nawdd ar gyfer ystod o ddigwyddiadau yng Nghymru, ynghyd â gweithgareddau eraill i gefnogi’r sector digwyddiadau. 

Penodi Is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

3 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Phil Robinson yn Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am un flwyddyn, o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026.

Safon Iechyd Digidol GIG Cymru ar gyfer NHS Login

3 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar y safonau i’w defnyddio yng Ngwasanaeth Dilysu Hunaniaeth Cymru sy’n galluogi dinasyddion na allwn nhw gwblhau proses dilysu digidol ar-lein NHS Login i brofi eu hunaniaeth mewn meddygfa, i gael mynediad at Ap GIG Cymru.

Penodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

3 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Neil Mesher yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2029.

Benthyciad Caffaeliadau Strategol Blaenau Gwent

3 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo troi elfen bresennol o’r Benthyciad Caffaeliadau Strategol y mae’n rhaid ei ad-dalu yn gyllid grant a chyllid datblygu Trawsnewid Trefi nad oes rhaid ei ad-dalu i gefnogi arfarniad opsiynau ar gyfer datblygu’r safle wedi’i gaffael yn y dyfodol.  

Cynlluniau Gweithredol Cyrff Diwylliannol hyd braich

3 Ebrill 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo Cynllun Gweithredol Amgueddfa Cymru a Chynllun Gweithredol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer 2024 i 2025, yn ogystal â Chynllun Gweithredol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar gyfer 2024 i 2026.

Cronfa Lliniaru Effeithiau’r Tywydd Blwyddyn Croeso

3 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo Cronfa Lliniaru Effeithiau’r Tywydd gwerth £1 miliwn i Atyniadau Twristiaeth drwy Flwyddyn Croeso ar gyfer 2025 i 2026.

Setliad IR35 Cyfoeth Naturiol Cymru – Telerau Lleihau Cyllideb

3 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i darparu’r gyllideb sydd ei hangen ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i dalu ei atebolrwydd treth IR35, ac wedi cymeradwyo cyllideb lai am ddeng mlynedd i adennill yr arian a’r gyllideb wedi’u darparu.

Diffyg yn Incwm Cyfoeth Naturiol Cymru o Bren

3 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu cyllideb cyllid refeniw werth £1.4 miliwn i Gyfoeth Naturiol Cymru i dalu am y diffyg yn ei incwm o bren yn 2024 i 2025.

Cynigion Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Taliadau Rheoleiddio

3 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwy cynigion terfynol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer taliadau rheoleiddio o 2025 i 2026, ac wedi cytuno i’r taliadau hyn gael eu rhoi ar waith o 1 Ebrill 2025.

Cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer  Prosiectau LIFE

3 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf ychwanegol gwerth £1 miliwn i Gyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi ei brosiectau LIFE ar gyfer 2024 i 2025.

Glannau Porthcawl

3 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cynyddu buddiannau tir Llywodraeth Cymru yng Nglannau Porthcawl.

Proses Recriwtio i benodi Cadeirydd Newydd i Gyfoeth Naturiol Cymru

3 Ebrill 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwy cychwyn y broses o benodi cadeirydd newydd i Gyfoeth Naturiol Cymru. 

Cytundeb Trwydded Microsoft Cenedlaethol Hwb a chymorth cwmwl

2 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid i ymestyn cytundeb trwydded M365 cenedlaethol gyda Microsoft ac i ddarparu gwasanaethau cymorth cwmwl hanfodol am dair blynedd.

Arwyddion y Goedwig Genedlaethol a'r Grant Buddsoddi mewn Coetir

2 Ebrill 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno y bydd rownd arall o'r Grant Buddsoddi mewn Coetir yn 2025-2026 yn ogystal ag estyniad i'r contract gyda Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful i'w galluogi i barhau i ddarparu arwyddion i safleoedd newydd y Goedwig Genedlaethol.

Cynllunio Parodrwydd ar gyfer Pandemig

2 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar lefelau tymor canolig newydd ar gyfer y cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol (PPE).

Cymeradwyo Gwariant y Gyllideb ar gyfer y Gangen Polisi Coedwigaeth

2 Ebrill 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar yr ymrwymiadau ariannol arfaethedig ar gyfer y gangen Polisi Adnoddau Coedwigaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 a rhai sy'n ffurfio ymrwymiad parhaus yn 2026 i 2027.

Amcanion Cadeiryddion GIG Cymru

2 Ebrill 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Amcanion Cadeiryddion y GIG ar gyfer 2025 i 2026.

Y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol

2 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid ar gyfer y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol rhwng 2025 a 2026.

Groundwork yng Nghymru

2 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi'r gwaith o barhau i ddarparu gweithgareddau adfywio Groundwork yng Nghymru ar gyfer 2025 i 2026.

Indemniad contract ar gyfer platfform dysgu i staff Gyrfa Cymru

2 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i Gyrfa Cymru lofnodi contract sy'n gofyn am indemniad gwerth £250,000 i ddiogelu eiddo deallusol cynnyrch y cynigwyr llwyddiannus.

Cyllid i Career Choices Dewis Gyrfa Ltd

2 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i Career Choices Dewis Gyrfa Ltd ar gyfer Gyrfa Cymru a Cymru’n Gweithio ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2025 i 2026.

Cyllid ychwanegol i hosbisau yn ystod y flwyddyn

1 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ariannu hosbisau a gomisiynwyd gyda £5.5miliwn ychwanegol o gyllid yn ystod y flwyddyn 2024 i 2025.

Dyrannu refeniw ychwanegol diwedd blwyddyn i’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

1 Ebrill 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid  Hinsawdd a Materion Gwledig wedi dyrannu cyllid refeniw ychwanegol o £0.9miliwn i Awdurdodau'r Parc Cenedlaethol (£300k yr un) yn 2024 i 2025 i leihau effaith codiadau cyflog a phwysau eraill.

Cronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol

1 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog dros Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid ar gyfer y Gronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol yn 2025 i 2026.

Rhaglen Cysylltu Gofal, Gofal Cymdeithasol (Blaenoriaeth) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

1 Ebrill 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno ar gyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Gofal Cysylltu ar gyfer gofal cymdeithasol gan weithio gyda phob un o'r 22 awdurdod lleol.

Cymeradwyaeth i barhau â'r Grŵp Arbenigol Bioamrywiaeth Tirweddau Dynodedig a Rhaglen Lywodraethu yr Awdurdod Parc Cenedlaethol

1 Ebrill 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymestyn penodiad y Cynghorydd Arbenigol Bioamrywiaeth Tirweddau Dynodedig am flwyddyn ychwanegol i 2025 i 2026, a rhaglen cymorth llywodraethu i Awdurdodau'r Parc Cenedlaethol ar gyfer yr un cyfnod.

Y Cymoedd Technoleg – Bwrsarïau Coleg Gwent

28 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i roi cyllid gan Lywodraeth Cymru i alluogi  bwrsarïau Cymoedd Technoleg yng Ngholeg Gwent.

Costau Cynnal ar gyfer Celf – Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru

28 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cytuno i ddarparu costau pontio a chyfraniad tuag at gostau gweithredu Celf.

Rhaglen Safonau Buddsoddi Natur y Sefydliad Safonau Prydeinig

28 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gefnogi rhyddhau Safon Egwyddorion Cyffredinol y Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer mabwysiadu’r farchnad.

Achos busnes – Safleoedd Rheolaethau’r Ffin ar gyfer cynnal gwiriadau Iechydol a Ffytoiechydol

27 Mawrth 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cymeradwyo’r achos busnes ar gyfer Safleoedd Rheolaethau’r Ffin i gynnal gwiriadau Iechydol a Ffytoiechydol ym mhorthladdoedd Abergwaun a Doc Penfro, Sir Benfro.

Buddsoddiad ychwanegol i gefnogi adferiad gofal a gynlluniwyd

27 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu buddsoddiad o £20 miliwn ychwanegol i gefnogi cynlluniau lleol y GIG i barhau i gyflawni blaenoriaeth y llywodraeth genedlaethol i leihau amseroedd aros hir.

Adolygu’r cynllun codi tâl cyhoeddedig ar gyfer rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu

27 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar y ffioedd diwygiedig ar gyfer Cynllun Codi Tâl y Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu.

Cyllideb Datblygu Gofal Sylfaenol

27 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gynigion cyllid ar gyfer 2025 i 2026 o’r Gyllideb Datblygu Gofal Sylfaenol.

Cymeradwyaeth ar gyfer ariannu rhaglen waith ar Dablau Mewnbwn Allbwn Economaidd ac Arolwg Masnach i Gymru

27 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cymeradwyo’r gwariant o hyd at £520k wedi’i rannu dros 2025 i 2026 a 2026 i 2027 i sicrhau cyflwyno Arolwg Masnach i Gymru ac i barhau â'r rhaglen waith ar Dablau Mewnbwn Allbwn Economaidd.

Adnewyddu’r cydsyniad cynllunio amlinellol presennol ym Mrocastell, Pen-y-bont ar Ogwr

27 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant ar ffioedd ymgynghori ym Mrocastell, Pen-y-bont ar Ogwr.

Penodi Aelodau Anweithredol o Fwrdd Hybu Cig Cymru

27 Mawrth 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Dewi Hughes a Paul Savage am dair blynedd o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2028.

Ailbenodi Cadeirydd i Addysg a Gwella Iechyd Cymru

27 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Chris Jones am flwyddyn o 1 Hydref 2025 tan 30 Medi 2026.

Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Cam 2 gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022

27 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyrannu cyllideb o £94,356 i lunio Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Cam 2 gweithredu Deddf Diogelwch Adeiladau 2022.

Meithrin capasiti’r gweithlu cyfrwng Cymraeg

27 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gyfanswm o £0.600 miliwn o’r gyllideb Dysgu Proffesiynol Cyfrwng Gymraeg o fewn Datblygiad a Chymorth Athrawon yn 2025 i 2026 a £0.350 miliwn yn 2026 i 2027 i roi cynllun grant meithrin capasiti’r gweithlu cyfrwng Cymraeg ar waith.

Y Grant Plant a Chymunedau

27 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo Dyraniadau Grant Terfynol 2025 i 2026 ar gyfer y Grant Plant a Chymunedau.

Cytuno i ymestyn cyllid grant i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

27 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno bod cyllid grant o £88,000 ar gael i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2025 i 2026 ar gyfer cymorth parhaus i weithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynigion polisi ar gyfer y sector tacsis a cherbydau llogi preifat.

Apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi o dan Reoliadau Asesu'r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999

27 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi ystyried a gwrthod apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi, cyfeirnod COLINS 12678, o dan Reoliadau Asesu'r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999.

Cyllid ychwanegol i Ysgol Dyffryn Aman

27 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer cymorth llesiant pwrpasol i Ysgol Dyffryn Aman.

GIG Cymru - Cronfa Ystadau wedi'u Targedu

25 Mawrth 2025

Mae'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer gwelliannau cyfalaf ar draws GIG Cymru ar gyfer 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau

25 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd wedi cytuno i gynyddu'r dyfarniad 2025 i 2026 i'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau i ddatblygu gwefan ar gyfer Diogelwch Dŵr Cymru ar gost o hyd at £40,000, gan gynyddu cyfanswm gwerth y contract i £160,000 (gan gynnwys TAW).

Hawliau, Parch, Cydraddoldeb - Canllawiau gwrth-fwlio ar eu newydd wedd

25 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i'r ymrwymiad ariannu o hyd at £20,000 (gan gynnwys TAW) i gefnogi'r dadansoddiad o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau Gwrth-fwlio Hawliau, parch, cydraddoldeb ar eu newydd wedd d.

Penodi asiant gweinyddol ar gyfer Benthyciadau Tai

25 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i benodi Banc Datblygu Cymru yn asiant gweinyddol ar gyfer Benthyciadau Tai.

Marchnata Busnes Cymru

25 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo £333,000 ar gyfer marchnata gwasanaeth Busnes Cymru yn 2025 i 2026.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 4 Chwefror 2025

25 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Buddsoddi Twristiaeth Cymru ar gyfer prosiect ar Ynys Môn.

Cyllid Trawsnewid Trefi

24 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid i Gyngor Sir Ceredigion i gefnogi cyflawni Unedau Busnes De Seddon; ac i Gyngor Gwynedd ar gyfer cyllido’r premiwm les a’r costau sy’n gysylltiedig ag adeilad Debenhams ym Mangor.

Y Gronfa Tai â Gofal

24 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid o £11,909,193 o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer tri chynllun ar hugain ar draws saith rhanbarth yng Nghymru.

Gwaredu eiddo

24 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i waredu eiddo yng Ngwynedd.

Campws Technoleg Uwch Coleg Caerdydd a’r Fro a Champws Glannau’r Barri

24 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Phrif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn a chyllid cysylltiedig ar gyfer prosiectau Campws Technoleg Uwch Coleg Caerdydd a’r Fro a Champws Glannau’r Barri, a gaiff eu gweithredu drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

Rhaglen Waith Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol – Sero Net

24 Mawrth 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar y rhaglen waith arfaethedig ar gyfer Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer blwyddyn gyllid 2025 i 2026.

Contract Cyfathrebu Mae Casineb yn Brifo Cymru

24 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru yn 2025 i 2026.

Cyllido’r Gronfa Rhwydweithiau Natur ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

20 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi dyrannu cyllid refeniw ychwanegol o £3.3 miliwn i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn 2024 i 2025 i'w helpu i gyflawni eu dibenion statudol, a thua £2.350 miliwn i'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn 2024 i 2025 i ariannu pum prosiect ychwanegol.

Gwasanaeth Cynghori Annibynnol ar y Cynllun Bathodyn Glas

20 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i gaffael Gwasanaeth Cynghori Annibynnol i barhau i ddarparu cymorth a chyngor i awdurdodau lleol yng Nghymru o ran asesu ceisiadau cymhwysedd am fathodyn glas. Hyd y contract fydd dwy flynedd i ddechrau, ac yna bydd adolygiad pellach yn cynnig estyniad posibl am 2 flynedd arall cyn terfynu.

Rhaglen Buddsoddi Llifogydd a Dŵr

20 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y rhaglen gyfalaf a refeniw ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Chyflenwi Polisi Dŵr ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso

20 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno ar gyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau a argymhellir gan y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.

Dyraniadau cyllid ar gyfer Cymorth ac Atal Digartrefedd

20 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol a'r Prif Weinidog wedi cytuno i'r dyraniadau terfynol ar gyfer Cefnogi ac Atal Digartrefedd 2025 i 2026, gan gynnwys ar gyfer y Grant Cymorth Tai.

Cais Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol

20 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi gwrthod cais gan Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol i gael ei gynnwys ar y Rhestr o Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol a gyhoeddir.

Penderfyniad ar Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol ym Melin Bapur Shotton

20 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygu cyfleuster gwres a phŵer cyfun sydd â’r capasiti i gynhyrchu 69 MW.

Datblygu Castell Caerffili

20 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth wedi cytuno i fwrw ymlaen â Cham II yn unol â’r bwriad presennol, ond i adolygu’r cynllun gyda’r amcan o leihau costau heb effeithio ar y sgôp na’r ansawdd.

Cyllid at ddibenion Addysg Drydyddol Ryngwladol rhwng mis Awst 2025 a mis Gorffennaf 2026

18 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cytuno i ddarparu £500k o gymorth ariannu trosiannol am flwyddyn er mwyn parhau i gynnal gweithgareddau addysg rhyngwladol a ariennir ar hyn o bryd drwy brosiect Cymru Fyd-eang III.

Gwaredu Uned 4, Dragon 24, Penlle’r-gaer

18 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo gwaredu eiddo ar brydles yn Abertawe.

Cyfnewid Fflyd Gwasanaeth Gwaed Cymru

18 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid cyfalaf o £2.953 miliwn dros 3 blynedd (2025 i 2026 hyd at 2027 i 2028) ar gyfer cyfnewid hen gerbydau Fflyd Trafnidiaeth a Logisteg Gwasanaeth Gwaed Cymru am rai newydd yn raddol.

Cymeradwyo ceisiadau am gyllid cynlluniau diogelwch adeiladu y cytunwyd arnynt

18 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddarparu hyd at £250,000 o gyllid ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 i bum ymgeisydd yn y sector preifat ar gyfer gwaith adfer diogelwch tân.

Darparu Gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru

18 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo parhau i gyllido Gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru a'r cyllid craidd i Cwmpas a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru yn 2025 i 2026.

Penodi Aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

18 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Wyn Thomas am 4 blynedd rhwng 1 Mawrth 2025 a 28 Chwefror 2029.

Penodi Aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

18 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Dr Salamatu Fada am 4 blynedd rhwng 1 Gorffennaf 2025 a 30 Mehefin 2029.

Penodi Aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

18 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Rhys Evans am 4 blynedd rhwng 1 Mawrth 2025 a 28 Chwefror 2029.

Cymorth busnes

17 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.

Cymorth busnes

17 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ar draws De-ddwyrain Cymru.

Cymorth busnes

17 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerffili.

Comisiynydd Plant Cymru

17 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo'r cyllid grant ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2025 i 2026.

Canolfan y Gymraeg Coleg Cambria

17 Mawrth 2025

Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer prosiect Canolfan y Gymraeg (CAMU) Coleg Cambria.

Perthynas Strategol Busnes yn y Gymuned

17 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo parhad perthynas strategol gyda Busnes yn y Gymuned gyda chyllid grant o £25,000 ar gyfer 2025 i 2026.

Penodiadau Cyhoeddus Seafish 2025

17 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar yr argymhelliad i beidio â llenwi'r swyddi gwag.

Trawsnewid Trefi

17 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid Benthyciad Trawsnewid Trefi i Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Abertawe.

Cronfa Tai gyda Gofal – Cynigion Prosiect

17 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £5,652,213 ar gyfer deg cynllun ar draws pum rhanbarth yng Nghymru.  Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar £582,450 ar gyfer un cynllun ar draws un rhanbarth o Gymru fel y cynllun.

Arian cyfalaf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

17 Mawrth 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip y cais am gyllid o £19,320 gan Llwybrau Newydd i ddarparu darpariaeth diogelwch hanfodol.

Rhaglen Amnewid Cerbydau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

13 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo £22.4 miliwn yn 2025 i 2026 fel rhan o raglen Amnewid Cerbydau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Cymorth Ariannol Hybu Cig Cymru

13 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cefnogaeth ariannol i Hybu Cig Cymru.

Cronfa Ddysgu Undeb Cymru a Chymeradwyo Cyllid TUC Cymru

13 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i gefnogi'r gwaith o ddarparu Cronfa Ddysgu Undeb Cymru a gweithgareddau TUC Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cyfarfod Panel Buddsoddi ar 4 Chwefror 2025

13 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Buddsoddi Twristiaeth Cymru ar gyfer prosiect yng Ngheredigion.

Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo

12 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi'r gwaith parhaus o gyflawni gweithgareddau adfywio'r Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2027.

Dyraniadau'r Gyllideb–- Adolygiad Diogelu Unedig Sengl

12 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu cyllid refeniw ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ddarparu hyfforddiant a chymorth ychwanegol i Fyrddau Diogelu Rhanbarthol a Storfa Ddiogelu Cymru yn ystod gweddill 2024 i 2025.

Y Rhaglen Addysg Ryngwladol

12 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ddyraniadau gwerth cyfanswm o £0.62 miliwn yn 2025 i 2026 i gefnogi'r Rhaglen Addysg Ryngwladol.
 

Taliadau Busnes a’r Rhanbarthau

11 Marwth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo taliadau ar gyfer Mawrth ac Ebrill 2025 ar gyfer Is-adran Entrepreneuriaeth a Busnes Cymru

Y Cymoedd Technoleg – Adolygiad Effaith

11 Marwth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid Llywodraeth Cymru i alluogi dadansoddiad gwireddu budd-daliadau o raglen y Cymoedd Technoleg.

Cyllid Trawsnewid  Trefi

11 Marwth 2025

Mae'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo Cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Dinas Casnewydd i gefnogi dymchwel hen Ganolfan Casnewydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi gwaith adnewyddu i Venue Cymru, Llandudno; Cyngor Abertawe i gefnogi'r Storfa, Hwb Cymunedol Canol y Ddinas ac i gefnogi dau brosiect yng Ngham 1 Bae Copr ac i gefnogi 71/72 Ffordd y Brenin; Cyngor Sir Penfro i gefnogi prosiectau yng Nglan-cei'r Gorllewin, Hwlffordd; Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer prosiect Theatr Frenhinol y Dywysoges a Chanol Tref Port Talbot ac ar gyfer adnewyddu, moderneiddio ac ehangu Canolfan Gelfyddydau Pontardawe; Cyngor Gwynedd i gefnogi costau cyn-ddatblygu prosiect arfaethedig yng Nghaernarfon; Castell-nedd Port Talbot i gefnogi costau cyn-ddatblygu prosiect arfaethedig ym Mhort Talbot.

Rhaglen Waith Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol – Sero Net

11 Marwth 2025

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar raglen waith arfaethedig Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026. Mae eu gwaith wedi cael ei ail-ffocysu ar flaenoriaeth y Llywodraeth "Swyddi a Thwf Gwyrdd."

Ymgynghori ar Egwyddorion Buddsoddi Cynaliadwy

11 Marwth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddatblygu fframwaith cyllid natur a chomisiynu adroddiad i bennu maint y buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer adfer natur.

Ymgynghoriad ar y cyd ar les dofednod

11 Marwth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymgynghoriad ar y cyd ar ddal a thrin dofednod.

Ymestyn contract ar gyfer casglu data Arolwg Busnes Fferm Cymru

11 Marwth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymestyn y gwasanaethau casglu data ar gyfer Arolwg Busnes Fferm Cymru o dan delerau'r contract presennol ddwy flynedd arall.

Dyraniadau Cyllideb  –– Cefnogi Cymunedau

10 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid refeniw i gefnogi gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â thlodi.

Benthyciadau Trawsnewid Trefi

10 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar y ceisiadau am fenthyciadau Trawsnewid Trefi, sef £500k ar gyfer Gwynedd, £500k ar gyfer Wrecsam, a £5 miliwn ar gyfer Abertawe yn 2024 i 2025.

Gwneud Gorchmynion Rheoleiddio Traffig dros dro ar ran Awdurdodau Lleol

10 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i Lywodraeth Cymru wneud Gorchmynion Rheoleiddio Traffig dros dro ar ran Awdurdodau Lleol ar gyfer digwyddiadau Beicio Cymru o fewn Cymru.

Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol a’r Is-adran Busnes Strategol - Dyfarniadau Grant Dangosol

10 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar ddyfarniadau grant ar gyfer Tai Pawb, TPAS Cymru, y Sefydliad Tai Siartredig, LEASE, a Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd yn 2025 i 2026. Hefyd mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno ar amrywiad i ddyfarniadau grant ar gyfer 2024 i 2025 mewn perthynas â Tai Pawb, y Sefydliad Tai Siartredig, a TPAS Cymru.

Cyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi

10 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ar draws y De-ddwyrain.

Ailbroffilio Cyllidebau Cyfalaf Tai ac Adfywio yn ystod y flwyddyn

6 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i ailbroffilio cyllidebau cyfalaf Tai ac Adfywio yn ystod y flwyddyn i’w gwneud yn gydnaws â blaenoriaethau allweddol, ac i sicrhau bod y gyllideb gyfalaf gyfan sydd ar gael yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Uwchraddio hanfodol i System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) Cafcass Cymru

6 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno y gellir trosglwyddo’r gwariant sy’n weddill i flwyddyn ariannol 2025 i 2026 ar gyfer uwchraddio system CRM Cafcass Cymru.

Sŵn Morol

6 Mawrth 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddatblygu safbwynt polisi ar reoli Sŵn Morol yn unol â safbwynt polisi tebyg yn Lloegr.  

Prynu gêm Her Cynllunio’r Gofod Morol

6 Mawrth 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i brynu gêm Her Cynllunio Gofod Morol i hwyluso gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid ynglŷn â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â chynllunio morol yng Nghymru.  

Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol

6 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar Adroddiad dros dro yr Adolygiad o Raglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol.

Rheoli Plâu    

6 Mawrth 2025
 
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dendro am brosiect ymchwil  i nodi opsiynau ymarferol ar gyfer dylunio cynllun integredig arloesol i reoli plâu. 

Gwaith Busnes Cymru a gyflawnir drwy gontract

6 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cymeradwyo dyraniadau cyllideb 2025 i 2026 ar gyfer gwasanaeth Busnes Cymru.

Cyllid i gefnogi mewnfuddsoddi

6 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid yn 2025 i 2026 ar gyfer ystod o weithgareddau sy'n cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru, ei segmentau marchnad craidd a'i hasedau hanfodol ar y llwyfan byd-eang i sicrhau buddsoddiad symudol.  

Consortiwm gofal plant Cwlwm a Chwarae Cymru

6 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r cyllid refeniw ychwanegol ar gyfer consortiwm gofal plant Cwlwm a Chwarae Cymru yn 2024 i 2025.

Cynllun Strategol Medr

6 Mawrth 2025

Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar Gynllun Strategol Medr 2025 i 2030.

Cynnig ystadau fferylliaeth gymunedol am gyllid

5 Mawrth 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyngor ynghylch cynllun grant cyfalaf Cymru gyfan ar gyfer fferyllfeydd cymunedol ar gyfer 2025 i 2026.

Cynhadledd Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr

5 Mawrth 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu nawdd ar gyfer cynhadledd Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr yn 2025.

Penodi Aelodau Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru

5 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Alun Lloyd yn Aelod Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru am 4 blynedd gan ddechrau ar 1 Ebrill 2025.

Penodi Aelodau Annibynnol i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru

5 Mawrth 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Adam Taylor, Hushneara Miah a Rebecca Colley-Jones i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn Aelodau Annibynnol rhwng 01 Ebrill 2025 a 31 Hydref 2029.

Cynigion yn y dyfodol ar gyfer y Grant Ymgysylltu â Democratiaeth

5 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno y bydd y Grant Ymgysylltu â Democratiaeth yn parhau am 3 blynedd arall rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2028. Bydd £400 000 ar gael y flwyddyn.

Rheoli priffyrdd

3 Mawrth 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar fenter fenthyca newydd i lywodraeth leol ar gyfer rheoli priffyrdd, i’w darparu dros gyfnodau cyllideb 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru

3 Mawrth 2025

Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r dull o gyflawni'r camau gweithredu yng Nghynllun Iechyd Menywod y GIG i Gymru.

Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

3 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso 3% o gosb Trawsgydymffurfio am ddifrodi Heneb Restredig yn esgeulus.

Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

3 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso 10% o gosb i hawliad y Cynllun Rheoli Cynaliadwy, am beidio â dewis y dyfynbris isaf.

Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig

3 Mawrth 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi derbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso 10% o gosb i hawliad y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig, am beidio â dewis y dyfynbris isaf.

Dosbarthu, Labelu a Phecynnu

28 Chwefror 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gydsynio i argymhellion Dosbarthu a Labelu Gorfodol Prydain ar gyfer 46 o sylweddau gweithredol a'r dyddiad arfaethedig ar gyfer gorfod cydymffurfio â gofynion dosbarthu a labelu gorfodol Prydain ('y dyddiad cydymffurfio').

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

28 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y trefniant gyda Skills Development Scotland ar gyfer 2025 i 2026 i barhau i reoli a chydlynu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, a chyllid cysylltiedig.

Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru

28 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Cyllid ychwanegol i Medr

28 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gyhoeddi llythyr cyllido diwygiedig i Medr sy'n cynnwys cyfalaf o £18.5 miliwn mewn ymateb i'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r sector addysg uwch; £3.967 miliwn i gefnogi addysg feddygol israddedig a £0.4 miliwn i gefnogi prentisiaethau iau fel dyraniadau ychwanegol yn 2024 i 2025.

Swyddogion Galluogi Tai Gwledig 

28 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i barhau i gefnogi'r rhaglen Swyddogion Galluogi Tai Gwledig yn 2025 i 2026.

Cynigion Cyfalaf Ychwanegol Cadw 2024 i 2025

28 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo gwariant o £333,205 i gefnogi grantiau a buddsoddiad mewn treftadaeth yn 2024 i 2025.

Diweddariad ar y Prosiect Rhwydwaith Ffeibr Llawn ar hyd Cefnffyrdd

28 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i’r prosiect i osod Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol ar hyd Cefnffyrdd. 

Gwariant arfaethedig ar ddysgu proffesiynol

28 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ddyraniadau gwerth cyfanswm o £9.965 miliwn yn 2025 i 2026 i gefnogi gweithgareddau dysgu proffesiynol i ymarferwyr.

Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands  – Estyn y Seilwaith Trydan a Thalu Iawndal

26 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg wedi cymeradwyo taliadau mewn cysylltiad â’r Cytundeb ar y Cyd gyda Chyngor Sir Gâr.

Dyrannu cyllideb yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026

26 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ddyraniadau cyllid i gyflwyno rhaglen waith yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd dros 2025 i 2026.

Trawsnewid Trefi

26 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu tir sy’n cael ei danddefnyddio ar gornel Kings Lane, Abertawe, a chreu unedau masnachol yn yr hen Castle Cinema, Abertawe, ac i osod ffitiadau mewnol a gwneud gwaith amgylcheddol allanol yn Queen’s Market, Rhyl.

Gwasanaeth Olrhain Gwastraff Digidol – oedi ac ailosod y gwaith adeiladu digidol

26 Chwefror 2025

Cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i oedi ac ailosod y gwasanaeth olrhain gwastraff digidol, a'r oedi dilynol i ddyddiad gweithredu'r prosiect ym mis Ebrill 2025 a chyhoeddi y bydd y gwasanaeth olrhain gwastraff digidol yn ei le ym mis Ebrill 2026.

Dyrannu cyllid ychwanegol ar gyfer Gofal Plant 2025 i 2026

26 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyfradd o £6.40 yr awr yn daladwy i ddarparwyr gofal plant sy'n darparu Cynnig Gofal Plant Cymru o 7 Ebrill 2025 ymlaen, gyda chodiadau canlyniadol ar gyfer Addysg Feithrin a Gofal Plant Dechrau'n Deg. Cytunwyd hefyd i godiad o 7% i gynorthwyo cyrff sy'n cynrychioli gofal plant (Cwlwm) i gyflawni eu hamcanion cyllid craidd a'u cyllid i barhau i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg ledled Cymru.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

26 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Adnewyddu Cytundeb Aelodau a Chyllid ar gyfer Endeavr

26 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio  wedi cynllunio i adnewyddu Cytundeb Menter ar y Cyd Aelodau Airbus Endeavr Wales Ltd am dymor pellach o 5 mlynedd a sicrhau cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025.
 

Partneriaeth Dalgylch yr Wysg

25 Chwefror 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i grant ychwanegol o £20,000 i Bartneriaeth Dalgylch yr Wysg ar gyfer 2024 i 2025 i wella systemau lleol a gwella ansawdd dŵr yn nalgylch afon Wysg.

Cyfraniad ariannol tuag at gost Adolygiad Ymarfer Plant Gogledd Cymru

25 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddarparu hyd at £95,000 (50%) tuag at gostau'r Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig sy’n mynd rhagddo ynghylch yr achos o gam-drin plant gan y cyn-Bennaeth Neil Foden.

Casnewydd - Amrywiadau Prosiect

25 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo amrywiadau prosiect gan Gyngor Dinas Casnewydd ynghylch prosiectau Ysgol Basaleg, Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli ac Ysgol Gyfun Gwent Is Coed. 

Gwasanaeth Noddfa Cymru

24 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ymestyn contract Gwasanaeth Noddfa Cymru am ddwy flynedd ychwanegol tan 31 Mawrth 2027. Bydd y cyllid ar gyfer y gwasanaeth yn cynyddu i sicrhau y gall weithredu yn gynaliadwy drwy Gymru gyfan.

Cyd-bwyllgorau Corfforaethol

24 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllid refeniw o £200 mil fesul Cyd-bwyllgor Corfforaethol, cyfanswm o £800 mil yn 2025 i 2026, i gefnogi cyflawni uchelgeisiau'r prosbectws.  Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i roi gwybod i awdurdodau lleol ein bod yn bwriadu blaenoriaethu cyllid dros dro o £200 mil ar gyfer pob Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn ystod y ddwy flynedd ganlynol, 2026 i 2027 a 2027i 2028.

Gwasanaethau Cymorth

24 Chwefror 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip i ddyrannu tanwariant i; Llwybrau Newydd, £146,000; Stepping Stones Gogledd Cymru, £60,000; a Cymru Ddiogelach, £50,000.

Prosiect Tyrbin Gwynt YnNi Teg Penrhiw

24 Chwefror 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar grant ar gyfer prosiect Tyrbin Gwynt YnNi Teg Penrhiw ger Aberaeron, Ceredigion.

Timau cynllunio ynni rhanbarthol

24 Chwefror 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar gyllid refeniw ar gyfer y pedwar tîm cynllunio ynni rhanbarthol yng Nghymru, ac ar gyfer Ynni Cymru, ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Tiwna Bluefin Iwerydd

24 Chwefror 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno, yn amodol ar gymeradwyo cynllun pysgota 2025 y DU, i agor cynllun dal a rhyddhau hamdden yng Nghymru ar gyfer Tiwna Bluefin Iwerydd i longau siarter eto yn 2025, a chynnal y gwaharddiad ar y pysgota masnachol wedi'i dargedu neu werthu Tiwna Bluefin Iwerydd o ddyfroedd Cymru.

Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru

24 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid o £1,360,000 ar gyfer rhaglen weithgareddau Ysbrydoli Sgiliau yng Nghymru 2025 i 2026.

Canllawiau ar gyfer Ymgysylltu Amlasiantaethol mewn Ysgolion Bro

24 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar y Canllawiau ar gyfer Ymgysylltu Amlasiantaethol mewn Ysgolion Bro.

Cyllid a Gwasanaethau TGCh y Tîm Datrysiadau Digidol

24 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid o £1.242 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026 i gefnogi'r costau blynyddol ar gyfer Gwasanaethau TGCh, gan gynnwys staff y rhaglen ar gyfer Addysg Drydyddol.

Euro Menywod UEFA 2025

20 Chwefror 2025

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, a'r Prif Weinidog wedi cytuno i gefnogi rhaglen o weithgareddau gwerth £1.4 miliwn i gefnogi ymddangosiad Tîm Pêl-droed Merched Cymru yng nghystadleuaeth Euro 2025 yn ddiweddarach eleni.

Cais i’r Cyfrin Gyngor

20 Chwefror 2025

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno bod cais i'r Cyfrin Gyngor gan Brifysgol Bangor i ddiwygio ei Siarter yn cael ei gymeradwyo.

Cyllid ar gyfer Swydd i gefnogi ymchwil ar effeithiau tymor hir COVID-19 ar ddysgwyr

20 Chwefror 2025

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid parhaus ar gyfer tîm o dri ymchwilydd.

Ailddatblygiad Aml-gam Campws Crosskeys Coleg Gwent

20 Chwefror 2025

Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo argymhelliad y Panel Buddsoddi Addysg ynghylch yr Achos Amlinellol Strategol / Achos Busnes Amlinellol ar gyfer ailddatblygu Campws Crosskeys Coleg Gwent fesul cam.

Recriwtio ar gyfer y Panel Sicrwydd Annibynnol Rheoleiddio Tai

19 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi penodi Ruth Glazzard yn Gadeirydd y Panel Sicrwydd Annibynnol Rheoleiddio Tai am dair blynedd yn dechrau ar 17 Chwefror 2025 tan 16 Chwefror 2028.

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol - ymestyn llinell gymorth Byw Heb Ofn a'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol

19 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ymestyn y contractau ar gyfer Llinell Gymorth Byw Heb Ofn a'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol a oedd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth 2025 am 12 mis arall a chytunodd hefyd ar godiad o 3% o gostau’r ddau gontract.

Y Gronfa Tai â Gofal – Cynigion Prosiect

19 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai a'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo £263,963 o'r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer tri chynllun ar draws dau ranbarth yng Nghymru a hyd at £2,200,000 yn ychwanegol o gyllid ar gyfer defnydd y Bwrdd Cynllunio Rhanbarthol ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.

Cynllun Tir ar gyfer Tai

18 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai a’r Prif Weinidog wedi cytuno ar y ceisiadau benthyciadau o dan Gynllun Tir ar gyfer Tai 2024 i 2025.

System CRM Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

18 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar yr uwchraddio hanfodol i Wariant Cyfalaf System CRM Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar gyfer 2024 i 2025 a 2025 i 2026.

Cyllideb Ymchwil Addysg

18 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cynigion gwario i gefnogi ymgorffori’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cyllid ar gyfer costau adfer i lywodraeth leol ar ôl stormydd 2020

18 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar gyfer cyllid adfer o £4.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn olaf i gefnogi costau ers stormydd 2020.

Rhaglen Iaith Gymraeg ar gyfer Gweithwyr Tramor yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

18 Chwefror 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyngor ynghylch cyflwyno rhaglen iaith Gymraeg yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer gweithwyr a myfyrwyr tramor. 

Rhaglen Cymoedd Technoleg

17 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i roi cyllid i gwblhau cyfleuster peirianneg gwerth uchel ym Mlaenau Gwent.

Canolfan Tennis Wrecsam

17 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo ailddyrannu cyllid cyfalaf o £125k i gefnogi buddsoddiad yng Nghanolfan Tennis Wrecsam i ddod â thwrnament menywod rhyngwladol i Gymru yn 2025.

Gwirfoddoli mewn iechyd a gofal Cymdeithasol

17 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid grant seilwaith ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddatblygu gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol

17 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid grant ar gyfer Rhaglen Arweinwyr y Dyfodol Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru.

Isafswm Lwfansau Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth

17 Chwefror 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r Isafswm Lwfans Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth 2025 i 2026.

Cam dau o’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle

17 Chwefror 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ariannu cynllun peilot i dreialu system o gasglu gwastraff trydanol ac electronig a thecstilau mân cyfunedig yn y gweithle, gyda chyllid hyd at £125,000, ac i dreialu system casglu plastig hyblyg yn y gweithlu hyd at £85,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cyllid ar gyfer Astudiaeth o Gohort Mabwysiadu

17 Chwefror 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer yr Astudiaeth o Gohort Mabwysiadu 2024 i 2026.

Cyllid i barhau ag Ymgyrch Ugain

13 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid gwerth £600,000 i barhau ag Ymgyrch Ugain. Bydd hyn yn sicrhau cyflawni’r terfyn cyflymder 20mya yn effeithiol drwy barhau i gynnal gweithgarwch ymgysylltu a darparu addysg diogelwch ar y ffyrdd o ran 20mya, yn ogystal â chynnal ymgyrchoedd diogelwch ar y ffyrdd eraill.

Cyllid Grant Cyfalaf Trais yn erbyn Menywod a Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

13 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynigion i ariannu prosiectau Cyllid Cyfalaf llwyddiannus gwerth £1,314,812 ac i ariannu’n rhannol brosiectau pellach gwerth £169,780. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip hefyd wedi cytuno y caiff swyddogion roi gwybod i'r sefydliadau hynny nad oeddent yn llwyddiannus a rhoi adborth iddynt, yn ogystal ag agor ail gylch o geisiadau ar gyfer y cyllid gwerth £1.9 miliwn sy'n weddill yn y dyraniad Grant Cyfalaf Trais yn erbyn Menywod a Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2025 i 2026.

Canllawiau Arfer Da ar Gynllunio ar gyfer Awyr Dywyll

13 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyhoeddi a lansio Canllawiau Arfer Da ar Gynllunio ar gyfer Awyr Dywyll.

Ehangu rôl diffoddwyr tân

13 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddadflaenoriaethu ehangu rôl diffoddwyr tân hyd nes y bydd y materion presennol ynghylch diwygio llywodraethiant a diwylliant y Gwasanaeth Tân ac Achub ac arferion gwaith diffoddwyr tân wedi’u datrys gan y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru.

Buddsoddi i Arbed – Datgarboneiddio Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Llywodraeth Cymru

13 Chwefror 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid gwerth £2 miliwn i gynnal y gwaith o ddatgarboneiddio'r goleuadau LED ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol.

Cyflwyno cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg

12 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddarparu £8.038 miliwn yn 2025 i 2026 a £0.550 miliwn yn 2026 i  2027 i gefnogi’r gwaith o gyflwyno cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg.

Gwrthod ailgofrestru ‘Syllit 400 SC’ a’r cynnyrch unfath sy’n deillio ohono, ‘Radspor 400’

12 Chwefror 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch arfer y swyddogaeth gwneud penderfyniadau ar ran Gweinidogion Cymru er mwyn gwrthod ailgofrestru ‘Syllit 400 SC’ a’r cynnyrch unfath, ‘Radspor 400’, yng Nghymru.

Cyllid ar gyfer Gofal Llygaid Digidol

12 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglen gofal llygaid digidol Cymru.

Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

11 Chwefror 2025

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar ddyraniad cyllideb 2025 i 2026 ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Hyblyg.

Prynu Fflyd Bysiau

11 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno y caiff Trafnidiaeth Cymru brynu fflyd o 16 o fysiau diesel Euro 6 newydd i'w defnyddio ar wasanaethau TrawsCymru T4, a T5 ar gost cyfalaf o £4.183 miliwn yn y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol

11 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i recriwtio Cadeirydd newydd a phum Aelod newydd ar gyfer Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol.

Cymeradwyo’r newidiadau i’r cyllid ar gyfer creu coetir

11 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y newidiadau i’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir, y Grant Creu Coetir a Grantiau Bach y Cynllun Creu Coetir ar gyfer 2025.

Cytundeb y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

11 Chwefror 2025

Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar Gytundeb Perfformiad ac Adnoddau Blynyddol y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Addysg diogelwch ar y ffyrdd GanBwyll (Ymgyrch Ugain)

11 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno ar gyllid o £600,000 ar gyfer addysg diogelwch ar y ffyrdd GanBwyll (Ymgyrch Ugain) ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Diweddariad ar yr adolygiad o Ran L o’r Rheoliadau Adeiladu 2025

11 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i’r meysydd gael eu datblygu ymhellach ar gyfer yr ymgynghoriad arfaethedig ar elfen effeithlonrwydd ynni y Rheoliadau Adeiladu ac i gaffael fersiwn i fod yn destun ymgynghori o feddalwedd y fethodoleg cyfrifo cenedlaethol.

Digidol Busnes Cymru

11 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant yn 2025 i 2026 ar gyfer cyflenwi systemau rheoli a gwybodaeth ddigidol Busnes Cymru a Grŵp yr Economi, Ynni a Chynllunio.

Cymorth Datblygu Prosiect

10 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ryddhau arian i ddatblygu prosiectau a gwariant ar gyfer cymorth busnes mewn perthynas â phrosiect sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd yn y De.

Cymeradwyo ffioedd asiantau marchnata mewn perthynas â gwaredu tir

10 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant o hyd at £50,000 ar gyfer penodi asiant marchnata proffesiynol i waredu tir datblygu masnachol yn Rhyd y Blew, Glyn Ebwy.

Cyngor y Grŵp Cynghori Technegol ar TB Buchol ar newidiadau arfaethedig i’r Rhaglen Dileu TB

10 Chwefror 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’n llawn bolisi a chyngor ar gyflawni gan y Grŵp Cynghori Technolegol o ran y newidiadau arfaethedig i’r Rhaglen Dileu TB. Mae’r Grŵp Cynghori Technegol yn cynghori y dylid adolygu’r polisïau ar adweithyddion amhendant a hefyd adolygu’r iawndal a roddir o ran TB.

Ailbenodi i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

10 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor ynghylch ailbenodi 5 Cyfarwyddwr Anweithredol i Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Ail Gyllideb Atodol

10 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar Ail Gyllideb Atodol y Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer 2024 i 2025.

Grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr

6 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyfanswm o £50,000 o gyllid ac adnoddau angenrheidiol ar gyfer y grŵp gorchwyl a gorffen gwynt ar y môr, a strwythur ac aelodaeth bosibl y tasglu.

Cyllid cyfalaf yn ystod y flwyddyn i’r Gwasanaethau Tân ac Achub

6 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar gyfanswm o £277,000 o gyllid cyfalaf ar gyfer strwythur diheintio, uned tanau gwyllt, atalyddion mwg a gwelliannau i orsafoedd tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, cyfanswm o £491,661 o gyllid cyfalaf ar gyfer 3 cerbyd trydanol a radios tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a chyfanswm o £227,500 o gyllid cyfalaf ar gyfer cerbydau ac offer ychwanegol i wella gallu Gwydnwch Cenedlaethol y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yn 2024 i 2025.

Diwygiadau i'r Rheolau Sefydlog Enghreifftiol ar gyfer Cyrff y GIG

6 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyrff y GIG ddiweddaru eu rheolau sefydlog i adlewyrchu gwelliannau i'r Rheoliadau sy'n nodi'r gofynion cymhwystra a'r trefniadau penodi ar gyfer cyrff y GIG yng Nghymru.

Costau Dymchwel Safle

6 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer dymchwel safle Parc Iechyd Llantrisant.

Diweddariad pellach ynghylch y cais am drwydded forol Porthladd Mostyn

6 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru y gallent gytuno ar y cynllun mewn perthynas â'r cais am drwydded forol Porthladd Mostyn.

Ariannu Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn y dyfodol

6 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar yr un lefel o gyllid craidd ar gyfer Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer 2025 i 2026.  

Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau

6 Chwefror 2025

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i roi rhodd o £100,000 i Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, yn dilyn y cadoediad diweddar.

Tirlithriad Mynydd Elgon

6 Chwefror 2025

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i roi rhoi o £11,000 ar gyfer yr ymdrechion i roi cymorth yn dilyn tirlithriad Mynydd Elgon yn Uganda.

Ail-lansio'r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

6 Chwefror 2025

Rhoddodd y Prif Weinidog gymeradwyaeth i ail-lansio'r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol.

Cais i gymeradwyo ceisiadau am gyllid a gytunwyd o dan Gynllun Diogelwch Adeiladau

6 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddarparu hyd at £3.5 miliwn o gyllid ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 i naw ymgeisydd yn y sector preifat ar gyfer gwaith cyweirio i wella problemau diogelwch tân.

Penodi Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd i Gymru

4 Chwefror 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi derbyn ymddiswyddiad Dr Nerys Llewelyn Jones, Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru ac wedi cytuno i benodi Lynda Warren, Dirprwy Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru, yn Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd i Gymru o 1 Mawrth 2025 ymlaen. Bydd hefyd yn penodi Dirprwy Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd newydd.

Parc Busnes a Gorsaf Reilffordd Llynnoedd Hendre

4 Chwefror 2025

Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi penderfyniad ar gais cynllunio a gafodd ei alw i mewn ar gyfer adeiladu parc busnes a gorsaf reilffordd ar dir i'r de o Barc Busnes Llaneirwg, Caerdydd ac wedi rhoi caniatâd cynllunio, yn ddarostyngedig i amodau.

Y newyddion diweddaraf am EURO 2028 a chyllid i UK & Ireland 2028 Ltd

4 Chwefror 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ar gyllid i UK & Ireland 2028 Ltd fel cyfrwng arbennig a sefydlwyd i gyflawni EWRO 2028.

Cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn

4 Chwefror 2025
 
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf o hyd at £1.575 miliwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer caffael 9 cerbyd ailgylchu a chasglu gwastraff ag allyriadau isel iawn.

Trefniant ariannu grant Tystysgrif Addysg i Raddedigion Cyflogedig

4 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol i'r trefniadau ariannu grant Tystysgrif Addysg i Raddedigion Cyflogedig o flwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Newid yn aelodaeth Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru

4 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i newid strwythur aelodaeth presennol Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru i dynnu Aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub (FRA) ac yn lle hynny rhoi Swyddogion FRA fel cynrychiolwyr cyflogwyr ar y Bwrdd. Bydd yr awdurdod i benodi aelodau o'r fath yn cael ei ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Risg, Gwydnwch a Diogelwch Cymunedol. Yn ogystal, mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i newid trefniadau cadeirio’r Bwrdd, fel bod y Cadeirydd yn swyddog priodol yn Llywodraeth Cymru. Mae'r awdurdod i benodi cadeirydd o'r fath wedi'i ddirprwyo i'r Cyfarwyddwr Risg, Gwydnwch a Diogelwch Cymunedol.

Penodi Aelodau i Gyngor Celfyddydau Cymru

4 Chwefror 2025

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi penodi Emily Bamkole, Sarah Pace ac Amanda Morgan Thomas yn Aelodau o Gyngor Celfyddydau Cymru, o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2028.  

Cylch gwaith a Llythyrau Ariannu Cwmni Egino ar gyfer 2025 i 2026

4 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid pontio ac addasiadau i Fwrdd Cwmni Egino a'i dîm Gweithredol i sicrhau parhad prosiectau a gwybodaeth gorfforaethol.

Cymeradwyo Cynnig Porth Dau ar gyfer Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

3 Chwefror 2025

Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio gais porth 'Sector a Daearyddiaeth' Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar gyfer Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.

Recriwtio Cadeirydd Trafnidiaeth Cymru

3 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo'r broses ac i ddechrau gwaith recriwtio a phenodi Cadeirydd newydd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru.

Cymorth ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon Lleol

3 Chwefror 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ailbroffilio llinell wariant yn y gyllideb Cymorth ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon Lleol i adlewyrchu newidiadau mewn prosiectau â blaenoriaeth a chyllid ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn 2025 i 2026.

Cyllido Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

30 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i roi £6,923,683.00 o gyfalaf ymlaen llaw i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar gyfer 2024 hyd 2025 er mwyn datblygu rhaglen ddatgarboneiddio ar raddfa fawr.

Cyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

30 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo gwerth £3,624,397 o gyllid cyfalaf ar gyfer 2024 hyd 2025 a £643,414 ar gyfer 2025 hyd 2026.

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

30 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r dull o fodelu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Cyllideb ar gyfer Datblygu Polisi ar Fferylliaeth a Phresgripsiynu

30 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cynigion o ran rhaglen waith i’r gyllideb Datblygu Polisi ar Fferylliaeth a Phresgripsiynu ar gyfer 2025 hyd 2026.

Y Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg

30 Ionawr 2025

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo’r amrywiad prosiect oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ynghylch prosiect yr Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg newydd.

Pennawd – Tai a arweinir gan y gymuned – Cyllid Refeniw

30 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid refeniw er mwyn parhau i gynorthwyo Cwmpas i gyflwyno a hwyluso Tai a arweinir gan y gymuned yn 2025 hyd 2026.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Prif Waith Dŵr Wedi’i Oeri, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg

30 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechy a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor ynghylch cyllido prif waith dŵr wedi’i oeri ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg

Penodi Aelod i Fwrdd Awdurdod Twristiaeth Prydain

29 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi penodi Michael Bewick yn Aelod o’r Bwrdd sy’n cynrychioli Cymru ar Fwrdd Awdurdod Twristiaeth Prydain.

Penodi Aelod i Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru

29 Ionawr 2025

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Neil Ayling yn Aelod o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru am 4 blynedd o 01 Ebrill 2025 hyd 31 Mawrth 2029.

Grŵp Cyflawni Iechyd Anifeiliaid –Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Cymru

29 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i sefydlu Grŵp Cyflawni Iechyd Anifeiliaid newydd ar gyfer Ymwrthedd Gwrthficrobaidd i Gymru a wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr.

Cyllid i gynnal gwaith ym maes Ymwrthedd Gwrthficrobaidd

29 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i barhau i gyllido gwaith cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yng Nghymru, a hynny yn unol â Chynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar gyfer Ymwrthedd Gwrthficrobaidd o 2024 hyd 2029  Gall y broses gaffael ar gyfer cynnal gwaith ym maes Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yng Nghymru fynd rhagddi. 
 

Cyllid Iechyd Meddwl

28 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl wedi cytuno ar ddyraniad cyllid iechyd meddwl ar gyfer 2025 i 2026.

Cronfa Tai â Gofal – Cynigion y Prosiect

28 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £2,139,023 o’r Gronfa Tai â Gofal ar gyfer chwe chynllun ar draws tair rhanbarth yng Nghymru.

Ymestyn Cynllun Cymorth i Aros Cymru

28 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn cynllun Cymorth i Aros Cymru am flwyddyn ychwanegol i Fawrth 2026.

Digidol wrth gynllunio – cyllid i ddatblygu effeithlonrwydd digidol a sgiliau mewn Cynllunio Lleol

28 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddarparu £120,000 ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025 ac wedi cytuno mewn egwyddor i gyllid o £260,000 ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026, ar gyfer y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.  Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo Awdurdodau Cynllunio Lleol i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau digidol.  

Ymestyn Hyder Digidol, y rhaglen Iechyd a Lles

28 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno ar estyniad byr i raglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles

Opsiynau ar gyfer Ymateb i Reoliadau Llywodraeth y DU ar Organebau wedi’u Magu’n Fanwl

28 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno sut y bydd trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch rheoleiddio organebau wedi'u Magu'n Fanwl yn cael eu datblygu a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'u rheoleiddio yng Nghymru tra bod y trafodaethau hyn yn digwydd.

Cynlluniau diogelwch tomenni glo

28 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cynigion cyllid cyfalaf gwerth cyfanswm o £9.461 miliwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i wneud gwaith adfer ar domenni glo ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Adnoddau ar gyfer gwaith polisi iechyd planhigion a chemegion

28 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyrannu cyllid i ddarparu un aelod ychwanegol o staff i weithio ar oblygiadau polisi a gofynion gweithredu unrhyw gytundeb newydd rhwng y DU a'r UE yn y pen draw.

Gweithio ar y cyd i wella lles Cimychiaid a Dectroediaid

28 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gydweithio â Defra, y Llywodraethau Datganoledig eraill a rhanddeiliaid y diwydiant i ddatblygu canllawiau anstatudol ar ladd cimychiaid a chramenogion dectroed eraill.

Y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

27 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Gwaith Cyfalaf  Uwch Glastir, a ddaeth i law ar ôl y dyddiad cau ar 28 Ionawr 2019.

Y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

27 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adfachu 17 o hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol i’r Gronfa Genedlaethol, gan eu bod heb eu defnyddio am ddwy flynedd yn olynol yn 2018 a 2019.

Diweddariad ar y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol

27 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo cyngor ar ailddyrannu cyllid ym Mlwyddyn Ariannol 2024 i 2025 i ymateb i’r pwysau ar raglen y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol.

Y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

27 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn apêl yn erbyn  penderfyniad Llywodraeth Cymru i gapio hawliad Cynllunio Coedwigoedd Cyd-weithredol (Co-operative Forest Planning) ar gyfer ‘the habitat evaluation and deep peat survey’.

Opsiynau Ymgynghori ar gyfer Diwygio’r Contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol

23 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyngor ynghylch Diwygio’r Contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol ar gyfer 2026 i 2027  i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad cyhoeddus a phroffesiynol.

Cyllid ar gyfer Stena Line

23 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gynnig £102,272 i Stena Line Ports Limited tuag at gyfanswm costau’r prosiect.

Ymchwiliadau Safle ac Uwchgynllunio, Plot C2 Celtic Lakes, Casnewydd

23 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar wariant o hyd at £1.5 miliwn ar ffioedd ar gyfer ymchwilio i’r safle, uwchgynllunio, cynllunio ac asiantaethau eiddo ar gyfer Plot C2 Celtic Lakes, Casnewydd, a chynnwys tir Fferm Berryhill yn yr ymarfer uwchgynllunio ar gyfer Celtic Lakes a’r ardal ehangach.

Gweithlu a gweithdy Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol

23 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyfarfod â’r arbenigwyr perthnasol ar Reoli Risgiau Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a hynny wyneb yn wyneb mewn fforwm ar ffurf gweithdy a gynhelir ganol mis Chwefror 2025.

Cadwch Gymru’n Daclus – cyllid grant

23 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo £1.2 miliwn mewn cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 i helpu i gyflawni gwaith i wella ansawdd yr amgylchedd lleol ar draws cymunedau yng Nghymru.

Caniatâd Cynllunio

22 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio, yn ddarostyngedig i amodau Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol, ar gyfer fferm solar (Fferm Solar Parc Worlton) ar dir yn Llwyneliddon, Bro Morgannwg.

Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus - cymeradwyo cyllid aml-flwyddyn

22 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymrwymo cyllid cyfalaf gwerth hyd at £2 miliwn o gyllideb gyfalaf graidd Rhaglen Ariannu Cymru gwerth £11.25 miliwn ar gyfer 2025 i 2026, i'r ail rownd ym mis Ionawr 2025.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 5 Tachwedd 2024

21 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Nhorfaen.

Penodi Prif Swyddog Gweithredol i Hybu Cig Cymru

21 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i benodi José Peralta yn Brif Swyddog Gweithredol newydd Hybu Cig Cymru.

Rhwydo o’r lan yng Nghymru – Lansio Galwad am Dystiolaeth

21 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno i gynnal galwad am dystiolaeth am gyfnod o 6 wythnos o 20 Ionawr 2025 i gasglu gwybodaeth am weithgarwch rhwydo o’r lan yng Nghymru, a chyhoeddi’r adolygiad o rwydo o’r lan yng Nghymru.

Ailbenodi ac ymestyn penodiad Aelodau Anweithredol Awdurdod Cyllid Cymru

21 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi ailbenodi Mary Champion a Rheon Tomos yn Aelodau Anweithredol o Awdurdod Cyllid Cymru o 1 Ionawr 2025 i 31 Rhagfyr 2027, ac mae wedi cytuno i ymestyn penodiad Jim Scopes fel Aelod Anweithredol Awdurdod Cyllid Cymru, o 1 Ionawr 2025 i 31 Rhagfyr 2025.

Uwchraddio’r Seilwaith Ynni, Bro Tathan

21 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo parhau â’r gwaith i wella’r seilwaith ym Mro Morgannwg.

Y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg

20 Ionawr 2025

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i swyddogion ddechrau'r gwaith o sicrhau nad oes unrhyw darfu ar y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg pan ddaw'r trefniadau grant presennol ar gyfer y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ben ar 31 Gorffennaf 2027.

Cymorth tai gwledig

20 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid refeniw i barhau i gefnogi'r rhaglen Swyddogion Galluogi Tai Gwledig yn 2025 i 2026.

Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16

20 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach arbenigol.

Cyhoeddi'r safonau ar gyfer sŵau Prydain

20 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyhoeddi safonau ymarfer modern ar gyfer sŵau Prydain Fawr.

Cynllun Peilot Animateur Pysgodfeydd Cymru

16 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyflwyno Cynllun Peilot Animateur Pysgodfeydd Cymru.

Rownd ariannu 5 Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru

16 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i'r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer rownd 5 Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru a'r dyraniad o £1.4 miliwn i gefnogi'r rownd.

Rhaglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso

16 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid ar gyfer pedwar cynnig o dan y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.

Gweithgareddau Sicrhau Ansawdd drwy’r Porth

15 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno i ddarparu £100,000 ar gyfer gweithgareddau i sicrhau ansawdd drwy'r porth rhwng 2024 a 2025.

Cefnogaeth ariannol ar frys i awdurdodau lleol (Stormydd Bert a Darragh)

15 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i ddarparu hyd at £8.12 miliwn mewn cyllid grant cyfalaf ar gyfer 2024 i 2025. Bydd y cyllid hwn ar gael i ymgeiswyr er mwyn gwneud gwaith atgyweirio brys i asedau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn sgil Stormydd Bert a Darragh, gyda’r bwriad o leihau perygl i eiddo.

Parhad o Raglen Secondiad Trafnidiaeth Cymru

15 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i barhad rhaglen gyfnewid staff rhwng Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn 2025 i 2026 a 2026 i 2027.

Mabwysiadu Asedau Ffyrdd

15 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i dalu swm cymudedig mewn perthynas â mabwysiadu asedau ffyrdd yn y De.

Cymraeg 2050

15 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno ar gyllideb ddangosol o £57.2 miliwn ar gyfer Cymraeg 2050 am y flwyddyn 2025 i 2026.

Taliadau Busnes a Rhanbarthau – Ionawr a Chwefror 2025

15 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyfanswm gwariant o £73,204.54 (gan gynnwys TAW) ar gyfer trefniadau’r Rhaglen Busnes a Rhanbarthau.

Cefnogi datblygiad y Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol

15 Ionawr 2025

Cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ddyfarnu cyllid ar gyfer swydd cydlynydd prosiect llawn amser am 15 mis o fewn y Prosiect Morwellt i ddatblygu Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol gan gynnwys ei strwythur llywodraethu..

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Grant Cyfalaf Ysgolion Bro – Rhagfyr 2024

15 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cefnogi cais i amrywio prosiect ar gyfer Ysgol y Creuddyn, Conwy, a chais am gyllid gan Ysgol Glan y Môr, Sir Gaerfyrddin ar gyfer prosiect cae 3G.

Y targed ailgylchu statudol isaf

13 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddileu’r ddirwy o £663,000 am 2021 i 2022 ar gyfer Sir y Fflint.

Y targed ailgylchu statudol isaf

13 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddileu’r ddirwy o £121,000 am 2021 i 2022 ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.

Y targed ailgylchu statudol isaf

13 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddileu'r ddirwy o £119,000 am flwyddyn darged 2021 i 2022 ar gyfer Torfaen.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – Canllawiau i Awdurdodau Lleol

13 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cymeradwyo canllawiau Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025 i 2026.

Dyfodol y Rhaglen Heneiddio’n Iach

9 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar estyniad, o 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2026, i’r grant o £207,000 a roddir i Age Cymru o dan y Rhaglen Heneiddio'n Iach, ac mae wedi cytuno ar adolygiad cymesur, na fydd yn costio mwy na £30,000, o ganlyniadau'r rhaglen er mwyn llywio cyngor ar benderfyniadau yn y tymor hwy.

Cyllid y Cymoedd Technoleg er mwyn helpu busnesau i dyfu

9 Ionawr 2025

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar gyllid o dan raglen y Cymoedd Technoleg i helpu busnesau i dyfu ac i wella cynhyrchiant, arloesedd ac effeithlonrwydd o ran ynni ar draws rhanbarth y Cymoedd Technoleg.

Cydweithio er mwyn gwella lles defaid

9 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno, er lles ŵyn, i gydweithio â Defra, Llywodraeth yr Alban a rhanddeiliaid yn y diwydiant i ddatblygu cynigion er mwyn symleiddio a diweddaru'r ddeddfwriaeth ar ysbaddu a thocio cynffonau.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 26 Tachwedd 2024

9 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Rhondda Cynon Taf.

Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 19 Tachwedd 2024

9 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Cynyrchiadau Creadigol o dan Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Ngogledd-orllewin Cymru.

Cynllun Blaenoriaethu Cyfalaf y GIG, Cam 2 ‒ elfennau penodol o'r Cynllun Cyfalaf

9 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno y caiff sefydliadau GIG Cymru ddatblygu mwy ar gynigion cyfalaf penodol ar gyfer y cyfnodau rhwng 2025 a 2026 a rhwng 2026 i 2027.

Cyllid ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol

8 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid o £300,000 (Cyfalaf) i barhau i gefnogi tlodi bwyd drwy'r Partneriaethau Bwyd Lleol yng Nghymru rhwng 2024 a 2025.

Rhaglen Monitro a Modelu yr Amgylchedd a Materion Gwledig

8 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymestyn contract Rhaglen Monitro a Modelu yr Amgylchedd a Materion Gwledig o 1 Tachwedd 2024 i 31 Hydref 2026 i sicrhau monitro, modelu, tystiolaeth a dadansoddi i gefnogi'r portffolio Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Cyflwyno Ardaloedd Adnoddau Strategol

8 Ionawr 2025

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyflwyno Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer ynni llif llanw.

Prynu Trwyddedau Cronfa Ddata Beauhurst

8 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ariannu hyd at £104,878 ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025, i fuddsoddi mewn trwyddedau ar gyfer Offeryn Gwybodaeth Busnes, sef Beauhurst.

Ymweliadau y Grŵp Cynghori Gweinidogol â Byrddau Iechyd

8 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar ymweliadau â byrddau iechyd ym mis Ionawr 2025 gan Grŵp Cynghori Gweinidogol Perfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru.

Cyllid i raglen Gwasanaeth Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg Cymru ar gyfer 2025 i 2026

7 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyde Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo cyngor ynghylch cyllid ar gyfer rhaglen Gwasanaeth Histogydnawsedd ac Imiwnogeneteg Cymru Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

Cyllido a lansio’r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd

7 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar ddyraniad cyllid o £5 miliwn o gyllideb y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2025 hyd 2026 er mwyn lansio’r Cynllun Grantiau Cyfalaf Sbarduno Busnesau Bwyd. Bydd y cynllun yn cael ei lansio ym mis Chwefror 2025 a bydd cyllid ar gael o 1 Ebrill 2025 hyd 31 Mawrth 2026.

Cynigion i gefnogi’r Rheoliadau Bwyta’n Iach a sicrhau’r budd mwyaf posibl o’r cynnig prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd

7 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddyrannu cyllid er mwyn penodi/estyn contract dau secondai o fewn awdurdodau lleol er mwyn atgyfnerthu gwaith datblygu’r polisi ar brydau ysgol mewn ysgolion a chyflawni prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cytuno i ddyrannu cyllid er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a chefnogi gwaith gweithredu newidiadau deddfwriaethol sy’n deillio o’r adolygiad o Reoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013.

Cynllun gweithredu LHDTC+

6 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer tair blynedd o werthuso’r cynllun gweithredu LHDTC+.

Alcohol Change UK

6 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i barhau i roi cyllid i Alcohol Change UK.

Rheoliadau adeiladu

6 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar ddiwygio Rhan B (Diogelwch Tân) o’r Rheoliadau Adeiladu.

Grant Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr  

6 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynnig ariannu gan Gonwy hyd at werth £66,646 yn 2024 i 2025.

Fferm wynt

6 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio, yn amodol ar amodau, am hyd at 6 tyrbin gwynt a’r seilwaith cysylltiedig ar dir i’r Gogledd o Donmawr, Castell-nedd Port Talbort.

Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol

6 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i roi cyllid i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i helpu’r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol i gwblhau ei ddadansoddiad o Erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cael gwared ar bob math o wahaniaethu yn erbyn menywod.

Awdurdod Cyllid Cymru

3 Ionawr 2024

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i ailbenodi Mary Champion a Rheon Tomos, ac ymestyn penodiad Jim Scopes, fel Aelodau Anweithredol o Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru.

Gweithgareddau marchnata

3 Ionawr 2025

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, ynghyd â’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer darparu gweithgareddau marchnata a chyfathrebu i gefnogi ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu ar gyfer y sectorau sgiliau, cyflogadwyedd, ac addysg ôl-16.

FareShare Cymru

3 Ionawr 2025

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymestyn y cyllid a roddir i FareShare Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.